Cyfweld

Amser Mynd

Holi Dyfan Maredudd Lewis

O’r Pedwar Gwynt
09·06·2021

Pobl yr Akha yn ucheldiroedd gogledd Gwlad Thai – llun gan Dyfan Lewis
 

Mi wnes di ysgrifennu dy gyfrol Amser Mynd fel ymateb i daith estynedig yn nifer o wledydd De-ddwyrain Asia. Sut fuaset ti’n disgrifio’r gyfrol? Fel dyddiadur taith neu fel casgliad o ysgrifau? Oedd gen ti syniad penodol o’r ffurf yr oeddet am ei mabwysiadu cyn cychwyn? Ac a oedd y syniad o lunio cofnod gen ti eisoes pan ddechreuaist freuddwydio am y daith ac yna ei threfnu?

Taith o dri mis o Fedi 2017 hyd at Ragfyr 2017 oedd hi. Ro’n i newydd orffen cyfnod o ymarfer dysgu a sylweddoli nad oedd dysgu yn gweddu i mi o gwbl, ac ro’n i’n teimlo braidd ar goll. Fel nifer o bobl yn eu hugeiniau, penderfynais mai codi pac a mynd i ochr arall y byd oedd y cam nesaf priodol.

O ran fy nisgrifiad i o’r gyfrol, mewn gwirionedd y darllenydd sy’n penderfynu’r hyn maen nhw am ei weld. Ar un wedd llyfr taith ydyw, sydd yn ceisio rhoi ymdeimlad o le i ddarllenydd, a gwneud y pethau mae llyfr taith yn ei wneud yn ddigon solet. Ond, gellir hefyd ddweud mai sail ydy hynny i drafod a cheisio deall y weithred o deithio, ynghyd â’r goblygiadau moesol o wneud hynny yng nghyd-destun arian, hil, iaith, diwylliant a’r amgylchedd. 

Oeddet ti wedi d’ysbrydoli gan fodelau gan eraill sydd wedi teithio a chofnodi?

Roeddwn i’n ofalus i beidio â darllen gormod o lyfrau taith wrth ysgrifennu, rhag ofn y buasai hynny’n dylanwadu’n ormodol ar y dweud. Rwy’n meddwl fod rhan ohona i wedi ceisio ysgrifennu’r llyfr yr hoffwn i fod wedi ei ddarllen cyn mynd – rhyw fath o fyfyrdod ar gymhlethdodau teithio o safbwynt Cymro Cymraeg ifanc. Rwy’n sicr fod yna lyfrau teithio sy’n ceisio amgyffred goblygiadau braint ond dw i erioed wedi’u darllen. Rwy’n meddwl efallai y byddai hynny wedi lladd yr angen oedd gen i i archwilio’r themâu hyn a’u mynegi ar bapur. Ond gan fod y peth mas yn y byd erbyn hyn rwy’n croesawu argymhellion!

I ba raddau roedd y gwaith ysgrifennu’n daith gyfochrog i’r un ddaearyddol, hynny ydi, yn daith arbennig yn rhinwedd ei hun? Mae’r ysgrifol yn aml yn cael ei gweld fel modd i deithio tuag at yr anghyfarwydd, yr anhysbys, heb sicrwydd fod unrhyw beth o werth i’w ddarganfod yn y pen draw. Oedd tebygrwydd rhagweladwy rhwng y ddwy daith hon, neu ges di dy synnu? Pa un oedd fwyaf brawychus? Y daith dros dir neu ar bapur?

Ie, mae yna dipyn i ystyried fan hyn. Man cychwyn y llyfr oedd y teimlad rhyfedd yma o rwystredigaeth oedd yn fy nilyn i drwy gydol y daith, fod pethau ddim i weld yn iawn, rywsut. Mae’r anniddigrwydd yna i weld yn y dyddiadur ysgrifennais ar y pryd, ond dim ond nes ymlaen a thrwy fyfyrio y des i i ddeall mai grymoedd cyfalaf a hiliaeth oedd wrth wraidd yr anniddigrwydd hwn.

Dyma efallai pam mai ffurf yr ysgrif oedd yn gweddu orau i’r benbleth. Rwy’n ysgrifennu mewn amryw o gyfryngau am y rheswm syml fod rhai syniadau’n gweddu i un cyfrwng yn well na’r llall. Gyda’r ysgrif mae’r syniad yma o geisio dirnad, o ddod i ddeall a fforio bron â bod yn greiddiol iddi. Mae’n fwy amlwg o bosib yng ngwreiddiau’r gair Saesneg essay, o’r Ffrangeg essai – i geisio (efallai bod gwell cyfieithiad gennyt ti) – ac mae nifer o awduron Saesneg eu hiaith yn gwneud yn fawr o’r gwreiddiau hyn wrth drafod ffurf yr ysgrif. Ond yn y gair ysgrif, i mi, mae’r weithred lythrennol o ysgrifennu, o roi pethau i lawr ar bapur er mwyn ceisio deall. Roedd angen i mi ysgrifennu dyddiadur ar y pryd er mwyn dechrau deall, ac roedd angen i mi ysgrifennu llyfr er mwyn deall yn well.

Rwy’n meddwl mai’r unig beth wnaeth wirioneddol fy synnu oedd sylweddoli beth oedd hi i fod yn berson gwyn yn y gwledydd hyn, a gweld bod yr un peth yn wir nôl adref yng Nghymru. Sylweddoliad y mae nifer o bobl wyn eraill wedi ei rannu gyda mi yn y flwyddyn ers marwolaeth George Floyd – o ran eu braint nhw a sut y mae hynny’n cael ei fynegi o fewn cymdeithas.


Marchnad Battambang, Cambodia – llun gan Dyfan Lewis 
 

Beth felly am y berthynas rhwng yr ysgrifol a chwestiynau o gyfiawnder cymdeithasol, fel y gwelir yn benodol yn nwylo awduron o ‘newyddiadurwyr’, megis y diweddar Ryszard Kapuscinski (Gwlad Pwyl), Sfetlana Aliecsiefits (Belarws) neu Kapka Kassabova (o Fwlgaria’n wreiddiol ond bellach yn byw yn yr Alban)? Wyt ti’n gyfarwydd â’u gwaith hwy? Dwyrain Ewrop a thu hwnt ydi eu man cychwyn ond mae De America yn un o’r rhannau eraill o’r byd sy’n dod i’r meddwl hefyd, lle mae newyddiaduraeth a llenyddiaeth wedi eu dwyn ynghyd yn ffurf ysgrifol la crónica, genre sydd ag uchelgais esthetig a dyfnder newyddiadurol. I ba raddau mae hyn yn atyniadol i ti, y symbiosis hwn rhwng newyddiaduraeth a llenyddiaeth? Wyt ti’n meddwl bod yna le i ddatblygu hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, er lles ymestyn ein ‘newyddiadura’, sydd wedi mynd yn gynyddol bytiog? 

Mae'n ddiddorol i ti ofyn hyn am nad ydw i erioed wedi ystyried Amser Mynd mewn termau newyddiadurol, fel y cyfryw. Mae'r sgiliau sydd ynghlwm â'r yrfa honno'n rhai sy'n cymryd amser i'w datblygu. Dw i'n cofio difaru wrth ddechrau ysgrifennu'r ysgrifau fy mod i'n newyddiadurwr mor anobeithiol, am nad oeddwn i wedi ceisio sgwrs â digon o drigolion y gwledydd wnes i ymweld â nhw, nac ychwaith wedi darganfod beth oeddwn i eisiau gofyn iddynt.

Ond mae perthnasau grym yn rhan o'r peth hefyd: ai fi yw'r person cywir i adrodd stori'r trigolion lleol? Mae hanes hir o ddynion gwyn yn gwneud hyn gan achosi mwy o ddrwg nac o dda. Efallai mai dyna pam mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar fy nghanfyddiadau innau ynghylch ymwelwyr a'u heffeithiau nhw, yn fwy nag unrhywbeth arall. Roeddwn i'n teimlo bod modd i mi drafod hynny’n weddol hyderus, am fy mod i wedi bod yn un ohonynt.

Nawr, o ran ymgeisio â newyddiaduraeth o fath amgen yng Nghymru, mae'r angen am hynny'n amlwg. Nid darnau pytiog fel y cyfryw sy'n poeni rhywun ond y diffyg amrywiaeth. Ry'n ni'n taro'r un cywair gyda'n straeon yn gyson, a dw i ddim yn sicr os ydyn ni'n ystyried goblygiadau hynny ar ein naratifau yn iawn. Mae angen i ni fel Cymry, ac yn enwedig ni siaradwyr Cymraeg, feddwl yn nhermau amrywiaeth os ydym am feithrin meddwl annibynnol – amrywiaeth o ran cyweiriau, gofodau a naratifau. Mae'n ddiddorol i mi i weld bod y rhan fwyaf o'r ewyllys i wneud hyn wedi dod o'r mudiadau sy'n gweithredu ar lawr gwlad. 

Fyddet ti’n cytuno bod y disgrifiad o’r ysgrifwr fel rhywun sy’n ceisio dygymod â’i ragfarnau yn un addas? Tebyg y byddet wedi cychwyn ar dy daith yn ddigon sensitif i’r rhagfarnau arferol mae teithwyr yn euog ohonynt ac felly, i raddau, yn barod amdanynt. Wrth ddod wyneb yn wyneb â hynny, roeddet yn teithio i gyfeiriad disgwyladwy. Fallai mai cwestiwn mwy diddorol ydi a newidiodd rhywbeth llai amlwg o ganlyniad i dy daith ac ysgrifennu Amser Mynd? Wnes di ddod o hyd i ragfarnau personol newydd nad oeddet yn ymwybodol ohonynt, rhai mwy anodd i’w cyfaddef, sy’n mynd yn erbyn disgwyliadau’r gymuned yr wyt yn rhan ohoni? Hynny ydi, tu hwnt i ddyfnhau d’amheuon moesol ynghylch y drefn sydd ohoni, ges di gip ar agweddau annifyr ar dy hun hefyd?

Roeddwn i wedi rhoi disgwyliadau ar fy hun i ddychwelyd o’r daith gyda chasgliadau. Cyn ac yn ystod y daith, ac wedi mynd, roeddwn i’n creu disgwyliadau o fod yn rhywle estron, yn taflunio fy ego gorllewinol innau ar y lle – ego a oedd yn cael ei anffurfio’n rhyfedd oherwydd effaith pylu’r arwahanrwydd fel Cymro Cymraeg a deimlais tra yno. Doeddwn i ddim gwahanol i Eidalwr, Sais, Americanwr, Almaenwr neu rywun o Awstralia. Yr un oedd y perthnasau grym rhyngof i a’r trigolion lleol. 

Yn lle canfod casgliadau, felly, gwelais mai gosod realiti bywyd trigolion De-ddwyrain Asia fel rhyw fath o barc antur syniadaethol i fy nirfodaeth innau oeddwn i. Rwy’n cyfaddef yn y gyfrol fod y weithred o’i hysgrifennu hi, o bosib, yn barhad o hyn.

I ba raddau wnaeth y profiad o deithio ac ysgrifennu’r gyfrol d’atgoffa o bwysigrwydd cysyniad Keats o ‘negative capability’ a'r angen nid yn unig i wahaniaethu rhwng y ‘da’ a’r ‘drwg’, y ‘positif’ a’r ‘negatif’ ond hefyd i’w dal yn dy ben, eu hamgyffred yn gydamserol? Fallai mai dyna werth yr ysgrif (a theithio?): mae’n gyfle i feddwl yn erbyn yr hunan, fel yr oedd yr ysgrifwr o Rwmania, Emil Cioran yn hoffi dweud?

Rwy’n gwerthfawrogi amwyster moesegol mewn celfyddyd ac o fewn rhai cyd-destunau, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n oes lle mae dyletswydd arnom i ymhel â’r da, a’i ddatgan yn rheolaidd. 

Wedi’r cyfan, ry’n ni’n wynebu grymoedd sefydliadol sy’n pwrpasol ddrysu a phlygu’r ffiniau moesegol yn ddyddiol. Mae effaith hyn arnom ni gyd yn ddyrys, ond mae’r effaith yn ddyfnach ar leiafrifoedd a’r sawl sy’n cael eu gormesu. Ein man cychwyn felly yw cydnabod gwirionedd a realiti y gorthrymedig – fod yna strwythurau ac unigolion sy’n eu casáu – a chydsefyll â nhw yn wyneb y fath gasineb.

Mae’n siŵr mai dyna pam y mae sloganau fel ‘Mae Bywydau Du o Bwys’, ‘Mae Hawliau Traws yn Hawliau Dynol’ wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, a pham bod slogan fel ‘Rhyddid i Balesteina’ wedi bod, ac yn dal i fod, mor berthnasol. Y mae’n oes sydd yn gofyn amdanynt.

Mi sefydlaist Wasg Pelydr er mwyn cyhoeddi dy waith. Pam wnes di fynd i’r drafferth o wneud hynny? Pam nad oeddet am gyhoeddi gyda gwasg sefydledig? Beth oedd y manteision?

Sefydlais i Wasg Pelydr yn 2018 er mwyn cyhoeddi fy mhamffled i – Golau, casgliad o gerddi ekphrastic oedd yn ymateb i ffotograffau haniaethol. Roeddwn i eisiau torri cwys fy hun fel llenor, a dyna oedd y peth naturiol i mi wneud ar y pryd. Erbyn cyhoeddi Amser Mynd, roeddwn i wedi arfer gyda chyhoeddi ar fy liwt fy hun, ac yn wir profiad estron fuasai cyhoeddi rhywbeth drwy wasg arall erbyn hyn. Does gen i ddim o’r profiad o weithio gyda gwasg sy’n cael nawdd cyhoeddus er mwyn gallu cymharu’r manteision. Am wn i, mae cyhoeddi’n annibynnol yn rhoi mwy o ryddid o ran amserlen a gweledigaeth.

Os caf i wneud plyg sydyn, mae Gwasg Pelydr yn derbyn cyfraniadau ar gyfer prosiect creiriau.cymru ar hyn o bryd, sef labyrinth celfyddydol a fydd (gobeithio) yn parhau i dyfu’n organig wrth i fwy a mwy o artistiaid ymateb i’r cynnwys ar y wefan. Ewch draw, ewch ar goll, ac anfonwch rywbeth i mewn, os oes diddordeb gennych chi

A oes gen ti gyngor i eraill sydd am fentro i’r un cyfeiriad?

Dechreuwch yn fach ac adeiladwch. Gofynnwch am gymorth os nad ydych chi’n sicr o rywbeth. Ewch amdani. 

A wyt yn ysu i deithio eto yn y dyfodol agos am gyfnod estynedig? Pa fath o deithio fyddai hynny? Beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol y tro hwn?

Rwy’n gwyro o fod eisiau mynd ar antur arall i feddwl bod y syniad yn un twp yn aml. Pe bawn i’n mynd eto, rwy’n meddwl y baswn i’n ceisio rhoi egni i ganfod profiadau annisgwyl a bod yn fwy agored i’r cyfleoedd i wneud hynny. Ond mae’n ddigon posib nad yw hynny’n rhan o fy nghymeriad. 

Ar hyn o bryd mae’r syniad o archwilio profiadau mwy cyfarwydd, sy’n ymwneud â llefydd agosach yn ddaearyddol, yn apelio. Efallai mai dylanwad yr haint yw hyn, ond hoffwn i ganolbwyntio ar y lleol. Nid bod hynny’n golygu ymwrthod â theithio wrth reswm, dim ond ei fod yn wedd arall ar y profiad.

Dyfan Lewis yw cyhoeddwyr Gwasg Pelydr. Mae'n awdur y gyfrol o ysgrifau, Amser Mynd, a'r ddau bamffled o gerddi, Golau a Mawr.

Ewch i ymweld â Creiriau, y labyrinth celfyddydol a gyhoeddir gan Gwasg Pelydr yn y fan hon

Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands.

Dwi’n meddwl ei bod hi’n oes lle mae dyletswydd arnom i ymhel â’r da, a’i ddatgan yn rheolaidd

Pynciau:

#Cyfalafiaeth
#Hiliaeth
#Ysgrifau
#Teithio
#Dyfan Maredudd Lewis