Tair olwyn
Gwynt y Dwyrain
Flwyddyn yn ôl soniodd ffrind i mi sy’n byw yn Llundain am ei benderfyniad i gael sgwter. Hynny yw, sgwter i oedolion sy'n cael ei wthio yn ei flaen gan y traed. Yn ôl y ffrind hwn, roedd gan bob un yn Llundain sgwter. Gwelai yntau sgwter fel modd o deithio'n rhwydd iawn ar hyd y ddinas, heb orfod bod yn agos at eraill yn y dyddiau heintus hyn ar y bws neu’r trên. Wedi iddo wneud peth ymchwil dewisodd sgwter gan gwmni Swifty. Syniad da, tybiwn innau, a finnau’n disgwyl am ffordd o fynd i’r pentre heb orfod dal y bws na mynd yn y car a gorfod chwilio am le i barcio, gan osgoi dal clefyd ac arbed hinsawdd y blaned yr un pryd. Gwyliais ffilm gan gwmni Swifty yn dangos dyn ar sgwter yn mynd o ben copa’r Wyddfa lawr i’r gwaelod o fewn mater o funudau. Gwnaeth yr arddangosiad argraff ffafriol arnaf ac felly archebais un o’r sgwteri costus i mi fy hun. Dysgais fod y ‘sgwter cicio’ wedi cael ei ddyfeisio yn 1817 gan y Barwn Karl Von Drais de Sauerbrun yn yr Almaen.
Cawsai nifer o bobl yr un syniad â finnau, mae’n amlwg wath roedd y cwmni wedi’i foddi gan archebion a gofynnwyd i mi aros dri mis, o leia, am y sgwter. Yn ystod y cyfnod hwn o erfyn y sgwter dyma fi’n dechrau cael traed oer ac yn ailasesu’r syniad. Wedi’r cyfan, nid oedd y ffilm wedi dangos y dyn ar y sgwter yn cyrraedd copa’r Wyddfa, naddo? Ac un peth yw oedolyn yn mynd ar hyd y lle ar sgwter yn Llundain, ymhlith digon o bobl eraill yn gwneud yr un fath, peth arall yw teithio fel’na yn Aberdâr. Dim ond plant sy’n eu defnyddio yma – ac yn wir, on’d oes gan bob crwtyn a chroten ei sgwter bach? Diddymais f’archeb.
Ond roeddwn i’n dal i fod o’r farn bod angen peidio â dibynnu ar y car am dripiau byrion, yn ogystal ag osgoi’r bysiau, gorau gellid. Ddysgais i erioed reidio beic. Yna, dyma fi’n meddwl am gael treisicl. Gallwn i reidio un o’r rheina wath roeddwn i wedi gwneud hynny yn fy mhlentyndod ar ein gwyliau gyda mam a dad yng Nghernyw. Ac yn wir bûm yn ffansïo treisicl ers blynydde. Gwelais un gan fenyw yn y Fenni yn ddiweddar. Gwnes i ychydig o ymchwil eto ac ym mis Medi y llynedd archebais un gan gwmni Jorvik. Bu’n rhaid ei erfyn hyd fis Ionawr eleni. Fe gyrhaeddodd mewn darnau. Wrth lwc, mae fy nghymydog Steve, sy’n byw gyferbyn, yn hen law gyda beiciau, ceir a cherbydau mecanyddol o bob math, ac roedd e’n fodlon dodi’r darnau ynghyd, eu ‘dadfysgu’, fel petai, os oes y fath air.
Yn 1655 lluniodd oriadurwr o’r enw Stephen Farffler gerbyd bach tair olwyn – cadair olwyn i bob pwrpas a symudid gyda’r dwylo, ac yntau’n anabl, fel modd o arddel ei annibyniaeth. Yna, yn Ffrainc yn 1789 dyfeisiwyd cerbyd a symudid gan bedalau wrth y traed, ac fe’i gelwid yn ‘tricycle’. Erbyn 1884 dywedir bod dros 120 o wahanol fathau o dreisiclau i’w cael.
Pan archebais y treisicl dewisais un porffor. Roedd lliwiau eraill ar gael; coch, fy hoff liw, a glas, lliw fy nghartref. Ond roedd golwg debyg i degan yn perthyn i’r rhai coch a glas. Roedd rhyw naws fwy soffistigedig yn perthyn i’r un porffor. Roedd e’n dod gyda basged sylweddol rhwng y ddwy olwyn ôl, a basged lai ar y blaen. Gallwn i ddodi un siwawa yn y fasged flaen a dau yn y fasged ôl. Y peth cyntaf a wnes i ar ôl i mi dderbyn fy nhreisicl oedd ei fedyddio, yn naturiol. Gan ei fod yn hanu o Jorvik ac yn borffor fe roddais yr enw Peredur fab Efrog arno (Peredur yn cytseinio â porffor). Deallai T H Parry-Williams ‘paham y rhoddir enwau personau ar longau – ac ar beiriannau trên hyd yn oed. Onid oes rhyw gymundeb agos a chyfeillgar rhwng y gyrwyr a’r “pethau” hyn?’ Ond rhoddais yr enw ar y treisicl cyn iddo lawn ryglyddu’r cyfryw anrhydedd.
Ni allwn honni gyda Parry-Williams wrth iddo ddisgrifio’i berthynas â’i foto beic, yr anfarwol KC16, fod fy mhrofiad personol wedi dod yn gymhleth â’r treisicl na bod fy mywyd,
yn rhan o’i fywyd yntau. Yn ei gwmni ef y profais [...] y teimladau mwyaf llednais, y cefais y meddyliau mwyaf aruchel, y breuddwydiais freuddwydion yn effro, ac yr ehedodd fy ffansi i’r broydd tecaf.
I’r gwrthwyneb. Cefais fy nadrithio gan y treisicl i ddechrau. Gwaith caled oedd ei farchogaeth ac yn sicr ni welwn ‘y rhiw yn oriwaered’. Ar y dechrau roedd y treic yn iawn ynddo’i hun, myfi oedd yn ddibrofiad, a pheth dieithr i mi oedd ei reidio. Ond tonciais yn ddyfal a bob yn dipyn magais hyder. Wedi dweud hynny, profai’r ychydig lleiaf o dwyn yn llafurus. Yn dilyn tro byr ar ei gefn cyrhaeddwn adre wedi blino’n gortyn. Nid fy mod wedi cynhyrchu cyflymdra aruthrol gyda’r ‘ffordd oddi tanodd a’r gwrychoedd o bobtu yn troi’n rhwyllwaith dyrys o linellau lliwiog cyfochr [...] a byd newydd yn dyfod rownd y gornel bob gafael’. Ar brydiau, prin y symudwn yn fy mlaen o gwbl, a finnau’n pedlo fel cath i gythraul. Wrth i mi basio dau grwtyn un tro dyma nhw’n gweiddi ar fy ôl, ‘Do a wheelie! Do a wheelie!’ Go brin. Cael yr olwynion i droi oedd y gamp.
Ond gyda dyfalbarhad ac ymarfer fe lwyddais i gyrraedd y pentre a dod yn ôl (dylwn nodi yma, wrth fynd heibio, taw ‘i’r pentre’ yr arferai fy mam ddweud, er bod Aberdâr yn ddigon o dref, ac ‘i’r pentre’ sy’n naturiol i mi o hyd, yn hytrach na ‘mynd i’r dre’) ac rwy’n rhannu peth o fwynhad Parry-Williams ar ei hen foto beic pan fo’r heol yn gogwyddo am i lawr.
Felly, mae’r syniad gwreiddiol wedi gweithio i raddfeydd amrywiol o lwyddiant. Bydda i’n osgoi’r briffordd brysur â’r ceir a’r lorïau a’r bysiau mawr drwy ddefnyddio’r llwybrau bach a’r strydoedd cefn a’r heolydd mwya tawel. A chan fod rhaid osgoi pob twyn rhaid cymryd ffyrdd anuniongyrchol astrus iawn weithiau er mwyn mynd o A i B.
Ac a gweud y gwir does dim cymhariaeth â Parry-Williams ar gefn KC16, wath roedd injan a phetrol yn sbarduno hwnnw; dim ond nerth fy nhraed a’m coesau ar y pedalau sydd gyda mi. Problem arall ynglŷn â Peredur yw ei faint. Gwaetha’r modd nid yw’r olwynion ôl yn ffitio trwy’r drws felly rhaid ei gadw yn yr ardd dan orchudd. Does dim digon o le yma i godi cwt i’w gadw’n ddiogel rhag y tywydd a rhag lladron. Felly, dwi ddim yn bwriadu cadw Peredur wedi’r cyfan. Yn ei le rwy’n gobeithio cael treisicl gydag atodiad trydanol fydd yn rhoi mwy o ‘wmff’ iddo, fel y gallaf drafod pob rhiw heb hanner lladd fy hun. Hefyd rwy’n mynd i gael un sy’n plygu’n dwt fel y gallaf ddod ag ef drwy’r drws a’i gadw dan glo. O’r Eidal y daw’r math hwn o dreisicl. Dwi ddim yn bwriadu’i fedyddio y tro hwn.
Ond mae rhywbeth arbennig am fod yn ‘dreicydd’. Rydyn ni’n anghyffredin. O ie, cawn fwy na’n siâr o jôcs gwael. Mae pob un sy’n dweud ‘Soon be able to ride one without the stabilisers’ diau yn meddwl taw efe yw creawdwr gwreiddiol y ddelwedd. Ac mae beicwyr dwy olwyn cyffredin yn tueddu edrych lawr eu trwynau arnom. Ond pan barciaf fy nhreisicl sgleiniog porffor wrth ochr y beiciau cul cyffredin, gwn taw fy ngherbyd ysblennydd i yw'r un y bydd pob un yn edrych arno. Nid yw’r hen daclau dwy olwyn hollol gyfarwydd yn denu sylw neb.
Y sawl sydd â diddordeb mewn prynu treisicl porffor newydd sbon (i bob pwrpas), cysyllter â Mihangel Morgan.
Mae Mihangel Morgan yn un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt.
Llun: Treisicl petrol gan Millet (1887), Conservatoire nationale des arts et métiers, Paris (Wikimedia).