Cyfansoddi

Yr aflwydd

Stori o Tsieina

Qing Niao

Amser darllen: 12 munud

06·05·2020

Leon Liu / Unsplash

Yn gwely am wyth. Ac eto does awydd cysgu ar neb. Yn y gwyll mae golau glas y ffonau bach fel caets amdanom; dyma lle mae pawb, ers dyddiau, wedi cau eu hunain. Mae Tursun yn diffodd ei ffôn ac yn gweld delweddau rif y gwlith yn pasio trwy ei ben, ei lygaid ynghau: Ganol nos a hithau'n aeafol, dau ddyn yn aros amdano ar gornel stryd. Cyn gynted ag y daw yn nes, maent yn ei rwystro rhag mynd yn ei flaen. 'Dilyn ni,' medd un yn ddifrifol, gan afael yn ei fraich chwith. 'Be sy? Be ... ' 'Bydd ddistaw,' meddai'r llall wrth afael yn ei fraich dde, y ddau fel dwy dafell brechdan yn gwasgu amdano.

Ym mhen draw'r lôn gefn, gwelodd Tursun ei gartref a'r drws ffrynt ar gau yn diflannu dipyn wrth dipyn o'i ôl. Gwna un o'r llanciau iddo blygu pen. Cadw'n dawel wna Tursun. Roedd wedi cael achlust o hyn gan ddynion y pentre, a oedd wedi cael eu tywys a'u rhoi i mewn, ganol nos. Ond pam y fo? 'Pam fi? meddyliai, pam heddiw ond ddim yfory neu ddoe? Ydyn nhw'n mynd i fy mrifo i? Ydyn nhw'n mynd i fy sarhau? Beth arall fedran nhw wneud i mi – fy lladd? Dwi'm yn meddwl, chwaith, thâl hi ddim, lladd pobl ddiniwed. A Kemer ... rhaid ei bod yn aros amdanaf, neu fallai ddim. Ydi, mae hi'n fy nisgwyl. Am ba hyd maen nhw'n mynd i fy nghadw? Fydd hi'n dal ati i aros amdana i? Fydd hi'n credu fy mod yn ddiniwed? Dwi'n meddwl, bydd, dwi'n meddwl y bydd hi, y fi ... mi dwi wedi gwneud pethau hurt, ond ddim cymaint â chymaint; a 'chydig ... ' Synhwyrodd eu bod yn mynd dros ambell lwmp arafu ceir yn y ffordd. Daeth y car i stop.

Erbyn i Tursun gael ei draed yn rhydd, roedd wyth mis wedi mynd. Roedd hi'n haf yn barod. Ond tydi wyth mis ddim yn hir nac yn fyr, wrth reswm. Roedd wedi treulio wythnosau, misoedd mewn lori, yn teithio yn nhrefi'r de cyn hyn. Liw dydd, byddai'n gwerthu cynnyrch Xinjiang: melon dŵr, llawn sudd, neu gnau ffrengig fyddai'n duo croen ei ddwylo, fel salwch nad oedd modd ei wared. Ond mi roedd y cnau yn flasus tu hwnt. Ac yn lleithder y nos byddai'n gorwedd i lawr yn ei lori, ar ei ben ei hun, yn breuddwydio am ddim. Ar wahân i'r tymor cynaeafu, rhaid oedd gweithio i fyw. Roedd ei deulu wedi cydgymysgu â theulu Kemer ers tro byd, ers cyfnod eu plentyndod. Ac roedd ganddynt ddau o blant erbyn hyn. Mi heliodd hithau, a wyddai cystal sut i ofalu am bres, gelc bychan iddyn nhw yn y blynyddoedd wedyn. Gadawodd eu plant y nyth yn reit fuan, i ffurfio eu teuluoedd eu hunain. Roedd bron yn orfodaeth: priodi'n ifanc, cael plant cyn gynted. 'Cyn hir,' meddai Kemer wrthi ei hun, 'mi geiff Tursun ddychwelyd o'i daith faith. Yn ein hoedran ni, tydi o ddim yn gall teithio fel yna. Mi fedrwn ni agor siop? Siop yn gwerthu taclau trwsio a haearn.' Ond roedd Tursun wedi gwrando ar ei ffrindiau o'r pentre, ac wedi buddsoddi ei holl arian efo nhw. Gwnaeth y penderfyniad ar ei ben ei hun. A dyna'r union noson – pan y byddai rheidrwydd arno i egluro ei gynlluniau wrth ei wraig, bod ei lles hithau wedi bod ar ei feddwl hefyd – y cafodd ei stopio. Roedd yr holl gyd-ddigwyddiadau hyn, a oedd wedi ei ddarostwng, fel cellwair Duw. Cyn gynted ag y'i rhyddhawyd rhuthrodd am adref, i'r rhan honno o'r dref oedd yn gyfarwydd iddo, ond roedd ei gamau'n arafu wrth iddo feddwl am yr aduno. Penderfynodd oedi, mynd i le bwyd, a gosododd ei hun wrth fwrdd mewn congl, yn agos at ffenest. Dyma lle rhoddodd bopeth, o'i eiddo ef a Kemer, i'w ffrind. Ni archebodd yr un dim y tro hwn; ac mi arhosodd yno. Yn sydyn, synhwyrodd draed yn ei bwnio ac mi ddeffrodd. Gofynnwyd iddo adael oherwydd roedd y lle bwyd yn mynd i gau. Gosodwyd bag plastig ar y bwrdd lle gwelodd Tursun ddau ddarn o does wedi eu stwffio, yn gynnes o hyd â gwres y popty. Diolchodd i'r dyn ac mi aeth. Roedd hi wedi nosi. Ar ôl mynd ar hyd y rhodfa, aeth Tursun i'r stryd honno lle byddai'n aml yn clywed cyfarth ci. Wrth agosáu at gornel y stryd, gwelodd silwét tua'r un maint ag ef ei hun. Daeth yr olygfa eto i'w feddwl. Ac yntau ond newydd ei ryddhau. Beth os mai arolygwr oedd y dyn hwn, beth petai'n cael ei yrru drachefn i'r gwersyll? Ac os dyna pwy ydoedd, doedd dim modd iddo ei heglu hi, yn nag oedd, nac aros yn ei unfan. Gwyrodd ei ben, daliodd ati i gerdded, yn bwyllog, gan gadw rhywfaint o bellter rhyngddo â'r mur. Byrhau wnaethai ei anadl wrth iddo ddod yn nes. 'Tursun,' ebychodd llais dyn, ac eilwaith. Sythodd Tursun ar unwaith wrth ei glywed. Ei ben i fyny, gan syllu o'i flaen yn stond. Gosododd ei ddwy fraich yn stiff bob ochr i'w gorff. Fel soldiwr. 'Fi sy' ma. Edrych arna i'n iawn,' meddai'r dyn. 'Pryd ges di ddod allan? Mi welais i chdi yn cael hoe yn y lle bwyd.' Aeth gollyngdod drwy gorff Tursun, ac edrychodd yn fanwl ar y dyn. Ei ffrind oedd o, wedi'r cyfan. Yna, yn reit siarp, aeth ato. 'Pam wyt ti fan hyn? Lle mae fy mhres i?' meddai Tursun 'Aros. Paid â chynhyrfu. Mi awn adre ac mi gawn ni sgwrs wedyn.' 'Na, ateb fi.' 'Nid fan hyn ydi'r lle i wneud, mae Kemer yn dy ddisgwyl.' 'Kemer?' meddai Tursun, ond holodd eto am ei bres. 'Rydan ni wedi rhoi y pres i Kemer, mi wnaethon ni cyn gynted ag y clywsom be ddigwyddodd i ti.' 'A Kemer?' 'Mae hi'n gwybod popeth.'

Ymdawelodd Tursun a dilyn yn ôl traed y dyn, ei ffrind. Ar hyd y llwybr am adre, ymgollodd yn ei ddychmyg. 'Er gwell, er gwaeth,' meddyliodd. Ac o flaen y drws llenfetel, oedd yn dywyll a phwl gefn nos, oedodd: bu'n breuddwydio am wyth mis yn ddi-dor am gael marchogaeth ceffyl Przevalski; a dyna fo, cyn iddo ddeffro'n iawn, unwaith eto o flaen y drws hwn. Roedd mor bell i ffwrdd ac mor agos hefyd rŵan. Un, dwy, tair cnoc ar y drws, ac adleisiodd tair cnoc fud yn yr iard. Agorwyd y drws a gwelodd Kemer: roedd yn sefyll y tu ôl i'r drws, wedi ei goleuo'n wanllyd yn y gwyll. Y foment y cyfarfu eu llygaid, trodd hithau ac aeth am y gegin. Nid ffrâm bren na chysgod gwinwydden ond to o haenau PVC oedd yn cysgodi'r iard. Ychydig ddillad, wedi eu hongian ar linyn haearn, un pen wedi ei glymu i'r polyn wrth y fynedfa; y pen arall ar hoelen wedi ei gwthio i fantell lle tân y gegin. Roedd y golau fel pwll llewyrchus ar lawr a bob yn hyn a hyn gwelai gysgod Kemer yn symud ynddo. Eisteddodd, syllodd ar bâr o weill bwyta oedd wedi eu gosod ar y bwrdd. Teimlodd chwerdod yng nghefn ei lwnc. Fyddai'r un ddadl, meddyliodd, yn ddigon. Ni ddywedodd yr un gair. Roedd Kemer wedi gosod powlen o nwdls mewn cawl tenau o'i flaen ac aeth i eistedd am y bwrdd ag o. Edrychodd i lawr. 'Yna ...,' oedodd hithau, 'gan dy fod ti wedi dy roi i mewn. Wyddwn i ddim beth i'w wneud. Ro'n i'n mynd o fy ngho, bron iawn. Byddwn yn holi fy hun yn ddyddiol, pam y chdi? Beth fyddai'n digwydd i mi? Rhoddais y gorau i'r awydd oedd gen i i fynd at y plant. Y trueiniaid bach, maen nhw'n dal yn ifanc, ond mae ganddyn nhwythau hefyd eu poenau. Mi wnes benderfynu y byddwn yn cadw fy mhoenau i, o leiaf, i mi fy hun. Wedi iddyn nhw dy gymryd di, mi gafodd mab S ei gymryd hefyd a'i roi i mewn. Ond llanc gonest ydi o. A chdithau ... Drannoeth mi wnes losgi y Corân a'r matiau gweddi. Tydw i'm yn cofio pam fod y pethau difywyd hyn yn rheswm, yn achos, ond mi wnes fel y lleill, mi wnes ddilyn eu hesiampl. Mae Duw yn fy ngwylio i, ac mi welodd mai llosgi fy nyletswydd wnes i. Ro'n i'n cynhyrfu fwy fyth achos nad oeddet ti yma, mi oedd d'absenoldeb di mor haniaethol rywsut – ac o flaen y Farn Fawr hefyd, mi oedd hynny mor real. Ychydig wedi i ti ddiflannu, mi gafwyd cyfarfod lleol, gafodd ei drefnu gan arweinydd y pentre, ond er budd gwerthu'r tir oedd o, er mwyn medru ailgodi'r pentre. Prynu ein tir ni, felly, am bris is na'r farchnad, ar yr amod y byddai yna bris da'n cael ei gynnig am ei brynu'n ôl. Does a wnelo'r adbrynu ddim â fi, ond do mi gynigis i werthu'r darn tir, nid dim ond achos nad ydi o'n opsiwn gwrthod, fel ti'n gwybod, ond er mwyn medru cael rhyw fath o yswiriant. Achos roedd aros yn costio i mi. Mi wyddost nad ydw i erioed wedi breuddwydio am rywle arall, hyd yn oed os ... wel, tan gynnau, pan feddyliais wrth fy hun: gan dy fod ti wedi dod yn d'ôl gallwn wneud pethau'n wahanol rŵan. Tydan ni ddim yn ifanc erbyn hyn, dwi'n ddigon ymwybodol o hynny. Ond mae'n rhaid trio byw: i rywle arall â ni, mi feddyliais yn sydyn.' 

Doedd Tursun, ag yntau prin wedi gadael y gwersyll, yn deisyfu dim yn fwy nag aros yn ei unfan, yn ei gartref. Beth bynnag, rhith ydi 'mi fydd bywyd yn well rywle arall'. Ond fel y dwedodd Kemer, roedd 'trio byw, ac efo'i gilydd' yn rhith werth chweil hefyd. Heb ddweud yr un gair, cymrodd y bowlen o fwyd yn ei ddwylo. Roedd y bouillon wedi oeri rhywfaint, ac mi amsugnodd ei gorff y cyfan. Yna, ddechrau Hydref, mi ffoniodd rhywun. Cefnder Tursun oedd yno, yn ffonio o Sichuan i holi a fyddent yn ymuno ag o yno. Roedd un o'i gydnabod, oedd yn rhedeg gwesty, wedi marw, ac mi roedd y wraig yn chwilio am rywun i redeg y lle efo hi. Roedd Tursun a Kemer wedi bod yn chwilota ers deufis heb ddod o hyd i ddim, ac mi welodd y ddau hyn fel cyfle. Aeth Tursun i lawr am Sichuan. Wedi cyrraedd yn ôl i'r pentref yn Xinjiang, llofnododd y darn papur olaf ar gyfer gwerthu'r darn tir, ac yna y cytundeb arall er mwyn rhentu'r gwesty. Mi aeth yn ei ôl wedyn i Sichuan a dod o hyd i fflat i ddau, nepell o'r gwaith oedd yn disgwyl amdano. Drannoeth, roedd eisoes yn y gwesty, yn gweithio ochr yn ochr â'r perchennog gwreiddiol. Gwesty dau lawr oedd hwn efo deunaw ystafell, gerllaw'r orsaf. Doedd fawr ddim yno i ddod â lliw i'r lle, oherwydd bod pres yn brin. Roedd Tursun yn awyddus i beintio ei stafell ei hun, ond mi roddodd yr hen berchennog stop ar hynny: 'Gwranda, pobl dros dro – gweithwyr o bell – yw'r bobl sy'n aros fan hyn, gan mwya. Ychydig ry'n ni'n gael ganddyn nhw.' Mi holodd beth oedd o'n ei wneud cyn hyn. Mi atebodd ei fod newydd adael gwaith mewn ffatri. 'Ffatri beth?' 'Robotiaid.' 'Robotiaid? Lle'n union oedd hynny? Yn Xinjiang?' meddai'r perchennog, wedi synnu. 'Ia.' 'Ond pam na wnes di aros te, yn y ffatri?' Ni atebodd Tursun. 'Biti. Pethe da yw robotiaid. Maen nhw'n ddefnyddiol.' 

Aeth deufis arall heibio. Wrth i'r flwyddyn newydd agosáu, am y tro cyntaf roedd y gwesty'n llawn. Daeth Yalqun, mab Tursun a Kemer, oedd yn byw yn Shannxi, i'w gweld. Efo'i wraig a'u dau o blant. Ar 13 Ionawr. Ddeuddydd yn ddiweddarach, daeth Yaltuz hefyd atynt, yr hynaf o'r ddau blentyn, wedi iddi gael caniatâd ei theulu yng nghyfraith. Llwyddasant i ddod at ei gilydd eto, fel teulu: roedd yr ŵyl yn gyfle i ddathlu eu haduniad a hefyd y ffaith bod Tursun a Kemer yn ôl efo'i gilydd, wedi anawsterau mawr a bach bywyd. Roedd Yaltuz yn ei hugeiniau ac yn fam i dri o blant. Roedd yn ferch gre. Ei gwallt wedi ei liwio fel aur, a'i dorri hyd at ei hysgwyddau. Roedd ganddi wyneb crwn a'i bochau yn codi jyst digon. Pan fyddai'n chwerthin byddai panylau yn ymddangos ynddynt. Roedd ei llygaid yn disgleirio gan olau, fel ei henw, a olygai 'seren'. Roedd y mab, Yalqun, yn debycach o ran golwg i Kemer nag oedd Yaltuz i Tursun. Roedd yn hogyn digon tal. Roedd ei drwyn meindlos yn syth, ei lygaid yn fychain ac yn gwenu bob amser i ffurfio dau fwa, yr un peth yn union â llygaid ei fam. Roedd ei wefusau'n fain a doedd dim tyfiant ar ei ên hirgron. Cyn gynted ag y daethant at ei gilydd, dechreuodd y pedwar siarad am yr epidemig. Rhyw ddeugain o bobl wedi cael deiagnosis postitif a dau eisoes wedi marw. 'Ti'n poeni'n ddi-angen, be wyt ti am i mi wneud efo'r holl gleientiaid yma?' meddai Tursun yn bigog wrth Yaltuz, oedd yn sownd ddydd a nos yn ei ffôn symudol, yn darllen yr hyn oedd yn cael ei adrodd blith draphlith ar y we. Yna, yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, aeth ei brawd, Yalqun, i hebrwng ei wraig a'r plant i'r orsaf. Roedd tair blynedd ers i'w wraig ymweld â'i rhieni hithau, oedd yn byw yn yr un pentref â Tursun a Kemer. Roedd y daith o Sichuan i Xinjiang i bara tri diwrnod. Ym mhob caban yn y cerbyd trên, roedd chwe gwely wedi eu gosod mewn dwy golofn – un ohonynt ar gadw i'w wraig a'r plant. Roedd Yalqun wedi gwneud lle er mwyn rhoi'r cesys i fyny. Dringodd i ben y gwely wedyn, gan dynnu ei sanau, a gwirio os oedd popeth fel y dylai fod: tri chlustog, tri chwilt, tair cynfas, ac yn lân bob un. Wrth eu gwylio'n gosod eu pethau, siarsiodd ei wraig y dylai aros cyn hired ag y dymunai, ac y byddai yno i'w cyfarfod pan fyddent yn dychwelyd. Fe'i hatgoffodd hefyd i beidio ag anghofio rhoi'r pres i'w rhieni. 
 

Tsieina: edrych allan drwy ffenestr y trên wrth ddychwelyd am adref. Rich Soul/Unsplash


Roedd ei rieni yntau, Tursun a Kemer, yn dal i weithio. Ac roedd Yaltuz, ei chwaer, nad oedd bellach yn gadael y fflat o gwbl, yn eu rhybuddio'n ddyddiol ynghylch yr hyn a ddarllenai ar y we. Pen draw hynny oedd i'r pedwar benderfynu aros i mewn, yn y gwesty. Roedd Yalqun yn benwan ers tridiau, a bore heddiw, ag yntau ond newydd ddod i swnian ar Yaltuz, mi gafodd alwad gan ei wraig, oedd yn cadarnhau eu bod wedi cyrrraedd, dim ond eu bod ddwyawr yn hwyr. Cododd ei hwyliau'n clywed hynny, hyd yn oed os oedd oriau eto o deithio o'u blaenau er mwyn cyrraedd y pentref. Awr yn ddiweddarach, aeth i ymuno â'i rieni ar lawr y gwesty. Ond roedd y golau wedi diffodd. O flaen cyfrifiadur y dderbynfa yr oedd Tursun. 'Lle mae mam?' holodd Yalqun. 'Mae hi'n rhoi trefn ar y stafelloedd.' 'Pam?' 'Achos mae pawb yn gorfod mynd, mae'r gwesty'n cael ei wagio. Y feirws sy', mae gynnyn nhw ofn y feriws. Cym hwn.' Mae Tursun yn estyn darn o bapur i Yalqun. Roedd sgwennu mewn coch yn amlwg ar frig y tudalen: Cyhoeddiad. A stamp y llywodraeth ar ei waelod. 'Maent wedi ein rhybuddio rhag gweithio. Rhaid i bopeth ddod i stop.' 'Be yn syth? Tan pryd felly?' holodd Yalqun eto. 'Wyddon ni ddim.' 'Mae hynny'n hurt bost.' 'Mae'r trefi, y pentrefi wedi cau eu ffiniau, cofia. Mae'r busnesau i gyd ar stop. Y siopau wedi cau. Pobl wedi cloi eu hunain yn eu cartrefi. Yn enwedig os ydi o'n le fel hwn sy'n derbyn pobl o bob man.' 'Dwi'n dallt hynny, ond does gynnon ni ddim dyddiad ... ' 'Nag oes, dim dyddiad, rydan ni mewn twll.' Clywodd y ddau synau hefyd yn dod o'r tu allan i'r gwesty ac aethant i weld be oedd. Wrth agosáu at y ffenestri, gwelsant ddau dri o bobl yn gludo rhywbeth dros y drws. Gwthiodd Tursun y drws â'i holl egni, a gwelodd ddau fand coch, i rwystro mynediad, yn llusgo'r llawr, a geiriau ar boster gwyn mewn inc di yn nodi 'NID POBL LEOL'. 'Arhoswch, meddai Tursun, pobl ddŵad ydach chi'n feddwl? Does neb ar ôl yn y gwesty, rydan ni wedi eu gorfodi i adael, dim ond y ni sydd yma, fy mab, dyma fo, fy ngwraig fyny grisiau, a finnau. Mi ddaethom o dalaith arall, do, mae hynny'n wir, ond rydan ni'n byw fan hyn ers rhai misoedd bellach. Does neb yn sâl. Beth ydach chi'n anelu ato fo efo'r posteri hyn? Canodd ffôn symudol Yaltuz. Ei wraig oedd yno. Pasiodd Yaltuz y ffôn iddo: 'Yalqun, maen nhw wedi ein stopio ni yn Urumuqi. Maen nhw'n dweud nad oes gynnon ni hawl i fynd adref. Maen nhw wedi ein rhoi ni mewn stafell. Rydan ni wedi ein cau fan hyn ... ' 

Roedd y trydan fyny grisiau wedi ei dorri. Dim ond llewyrch eu ffonau bach oedd yn goleuo eu hwynebau bob un. Gorwedd pentwr o hen ganfasau ar lawr ger y grisiau. Mae'r drws ffrynt ynghau. Mae sŵn tincial y ffonau i'w glywed. 20h05 ydi'r amser.

'Deng mlynedd sydd ers fy mod yn byw fel dieithryn – yn ddieithryn yn Ffrainc ac yn fy ngwlad enedigol, Tsieina. Y mynd a dod rhwng y ddwy wlad hyn sydd wedi ffurfio fy hunaniaeth ddwbl. Euthum i'r arfer o ddadansoddi ac yna dethol fy nghysyniadau'n ofalus o'r ddau fyd hyn, ond yna, deuthum i ddeall mai delwedd – yn y ddwy wlad – yw bywyd 'pobl eraill'.' Qing Niao

Cyfieithiad gan Sioned Puw Rowlands.

Erbyn i Tursun gael ei draed yn rhydd, roedd wyth mis wedi mynd. Roedd hi’n haf yn barod

Pynciau:

#Tsieina
#Pandemig
#Straeon byrion
#Qing Niao