Cyfweld

‘Mae’r gymdeithas sydd ohoni mewn cachfa’

Gŵyl Arall 2017

Marged Tudur & Elis Dafydd (goln)

RHYWBETH I'W DDWEUD: DEG O GANEUON GWLEIDYDDOL 1979-2016

Barddas, 104tt, £8.95, Gorffennaf 2017

‘Mae’r gymdeithas sydd ohoni mewn cachfa’
Dyl Mei a Marged Tudur

Amser darllen: 15 munud

25·11·2017

Marged Tudur (MT): Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at y sesiwn hon oherwydd dwi’n cael hanner awr i holi Dyl Mei neu Dylan Meirion Roberts fel y mae ei enw fo’n ymddangos yn y gyfrol hon o wasg Barddas, Rhywbeth i’w Ddweud, sy’n cynnwys 10 o ysgrifau am ganeuon gwleidyddol rhwng 1979 a 2016. Un o’r cyfranwyr ydi Dyl Mei, sydd yn adnabyddus wrth gwrs fel un o’r tri sy’n ein diddanu ar brynhawn Gwener a bore Sadwrn ar raglen Tudur Owen. Mae o’n gyn-gynhyrchydd recordiau ac yn gasglwr recordiau brwd. Bu’n rheolwr stiwdio recordio Blaen y Cae ac yn gyfrifol am label Slacyr. Dro yn ôl, mi ddes i o hyd i erthygl gan Rhys Llwyd yn Barn dan y teitl ‘Meirion a Mwy’ – dwi am ddyfynnu o’r erthygl oherwydd ro’n i’n licio’r hyn oedd gan Rhys i’w ddweud am Dyl Mei. Roedd yr erthygl yn daith ffigurol, o Fangor i Gaerdydd, i geisio dod o hyd i gadarnleoedd daearyddol y sin roc Gymraeg: ‘Yng Ngarndolbenmaen ei hun mae castell un o farwniaid mwyaf y sin Gymraeg ar hyn o bryd, sef stiwidio’r cynhyrchydd Dyl Mei. Beth bynnag a ddywed rhywun am antics Dyl Mei a’i griw dan ddylanwad y ddiod gadarn does dim gwadu ei fod yn prysur droi’n enw arloesol ym myd cynhyrchu. Does dim ond rhaid edrych ar ei bentwr o wobrau Cynhyrchydd y Flwyddyn am brawf o hyn.’ Mae hynny’n dipyn o ganmoliaeth ond doeddwn i’n dal ddim yn teimlo bod y disgrifiad yn gwneud cyfiawnder â Dyl Mei rywsut. Felly mi ges i afael ar rifyn o Lol o 2015 sy’n disgrifio Dyl fel hyn: ‘Cynhyrchydd, arbenigwr cerddoriaeth, trydarwr mwyaf dylanwadol Cymru, llysgennad dros Borthmadog, y boi mwya doniol ar raglen Tudur Owen, working class hero. Boi cŵl, hollol lorweddol sy’n cynhyrfu dim ac yn poeni dim am neb. Yn casáu pob sefydliad ond eto’n llwyddo i fod yn sefydliad ynddo’i hun. Mae pawb isio bod fel Dyl Mei.’

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn cynnwys ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’, ‘Tân yn Llŷn’ a ‘Gwlad ar fy Nghefn’, ond dw i’n meddwl mai un o’r dewisiadau mwyaf diddorol yn y gyfrol ydi ‘Talu Bils’ gan Rodney Evans. I ddechrau, Dyl, wnei di egluro pwy ydi Rodney Evans a be ydi ‘Talu Bils’?

Dyl Mei (DM): Yn syml, mae Rodney Evans yn ŵr o Flaenau Ffestiniog. Mae o’n ddi-waith, mae o yn ei dri degau hwyr. Dw i’n eitha’ sicr ei fod o wedi bod yn y carchar a dw i’n weddol sicr nad ydi o wedi gweithio ers sbel. Dw i ddim yn siŵr ai o ddewis mae hynny. Yn y gân mae Rodney yn esbonio’i daith o geisio ffeindio gwaith yn ei gynefin. Mae o’n mynd i Bortmeirion, mae o’n mynd i Greenacres, parc carafannau ochrau Porthmadog, ac mae o’n mynd i Llechwedd efo be mae o’n ei ddisgrifio fel ei CV, sydd byth yn ddigon da, fel mae’r bobl yn y lle’n dweud. Y llinell sy’n sefyll allan i mi ydi, ‘Dydi o’m digon da Rodney.’ A be wnaeth o felly, un noson feddw yn ei dŷ o yn Blaenau, oedd chwarae’r gân yma mae o wedi’i hysgrifennu ar keyboard eitha’ rhad ’swn i’n ddweud, o wrando ar y synau sy’n dod allan ohoni hi, ac mae un o’i ffrindiau o wedi’i ffilmio fo ar ffôn ac wedi’i lwytho fo i Facebook, am laff, dw i’n dychmygu. Rhywsut wedyn, mi gafodd hi’i rhannu ac erbyn hyn mae’r fersiwn wreiddiol wedi cael ei gweld dros 150,000 o weithiau; mae yna fersiwn fyw yn ei gig gyntaf fo yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog sydd wedi cael ei gwylio 50,000 o weithiau ac mae’r clip o fersiwn Yws Gwynedd o’r gân, yng Ngŵyl Rhif 6, wedi cael ei gwylio dros 50,000 o weithiau hefyd. Felly mae bron i chwarter miliwn o bobl wedi gwylio’r gân ’ma gan foi yn ei stafell o ym Mlaenau Ffestiniog yn lyshd off ei ben.

MT: Be oedd dy ymateb cyntaf di pan welaist ti’r fideo?

DM: Chwerthin, dw i’n meddwl, fel pawb. Fy mrawd bach anfonodd hi ata i ar Facebook a dweud, ‘Ti ’di gweld yr idiot yma yn Blaenau?’ Nes i wylio fo a meddwl, ‘Ah, ’li ffyni, briliant. Haha’. Chwerthin a’i rannu fo, a’r gân yn cael ei rhannu, fel o’n i’n dweud, filoedd o weithiau. O’n i’n digwydd siarad yn y dafarn ryw wythnos wedyn efo rhywun fel Osian Jones Cymdeithas ac oeddan ni’n sôn pa mor ddigri o’dd hi ac am yr ymateb. Ac mi drodd y peth yn drafodaeth – hynny yw, mae’r gân yn ddogfen o fywyd yng Nghymru nad yw’n cael unrhyw sylw ar brif ffrwd y cyfryngau. Ac o’n i’n meddwl ‘Blydi hel ia, ’dan ni wedi bod yn reit wael yn chwerthin am ei ben o, yn ei drin o fel jôc’, ac er nad oedd Rodney’n ymwybodol o hynny, o’dd o’n bendant yn trio dweud rwbath am ei fywyd o wrth y gymdeithas a dyna pam dw i wedi dewis ysgrifennu amdani a dweud y gwir, oherwydd mae’n rhyfeddol sut y gall cymaint o wirionedd ei gyfleu mewn jôc. Dyna pam ei fod o’n bwysig i fi, a dw i ddim yn meddwl y basa neb arall wedi ysgrifennu amdano fo; dw i ddim yn meddwl y basa ’na neb arall wedi rhoi sylw iddo fo, basan nhw wedi’i drin o fel ’chydig o jôc a ballu.

MT: Pan gysylltais i efo Dyl i ofyn iddo fo gyfrannu at Rhywbeth i’w Ddweud, wnes i ddweud, ‘Gei di ddewis unrhyw gân wleidyddol wyt ti isio.’ Ac mi nes di ddewis ‘Talu Bils’. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn siŵr os oeddach chdi o ddifri ond mwya’n y byd o’n i’n meddwl amdano fo, mwya’ o’n i’n gweld y gallai hyn droi’n rhywbeth andros o ddiddorol. Rwyt ti’n dweud yn yr erthygl bod yr ymateb i’r gân wedi bod yn wych – bod y fideo wedi mynd yn feiral, bod Yws Gwynedd wedi canu’r gân yn rhan o’i set yng Ngŵyl Rhif 6 a hyn i gyd o gofio bod y gân heb gael ei recordio mewn stiwdio hyd yn oed. O gymharu efo’r derbyniad mae cân Gymraeg yn ei chael fel arfer, fedri di rhoi llwyddiant y gân mewn ryw fath o gyd-destun inni?

DM: Wel, ddudwn ni felma: mae ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd yn gân sydd wedi’i chwarae’n ddidrugaredd gan y cyfryngau yng Nghymru. Mae hi ar y radio neu’r teledu bob dwy eiliad. Mae hi’n gân dda, paid â nghamddeall i, ond mae hi’n cael ei gorchwarae. Mae’r fideo ar YouTube wedi ei wylio rhyw gan mil o weithiau, sydd yn ffigwr rhyfeddol. Ond mae hynna ar ôl i’r gân gael ei gwthio gan gyfryngau gwerth miliynau i dai pobl. Yn achos Rodney – un boi, heb unrhyw gefnogaeth – mae mwy o bobl wedi ei gwylio ei gân. A dyna fesur y gân; does dim angen i Rodney gael cefnogaeth y cyfryngau Cymraeg i gael at ei gynulleidfa y dyddiau yma. Dw i ddim isio dweud bod y cyfryngau Cymraeg wedi marw oherwydd mi faswn i allan o waith a dw i’n licio pres. Ond mae o yn dangos ichdi bod pobl erbyn hyn yn gallu curadu eu bywyd diwylliannol eu hunain. Dydan ni ddim angan cylchgronau mwyach, dydan ni ddim angen gorsaf radio, Barddas, Golwg. Rydan ni’n byw mewn cymdeithas rŵan lle ’dan ni’n ddigon lwcus i gael pethau’n syth bin, a gawn ni benderfynu be ’dan ni isio’i wylio. Os rhwbath, mae llwyddiant ‘Talu Bils’ yn dangos inni ba mor anghywir o bosib ydi sefyllfa’r cyfryngau. Dw i’n meddwl i ni weld hynny yn y lecsiwn [Etholiad Cyffredinol 2017 – goln.] a’r hyn ddigwyddodd efo Corbyn. Roedd y Sun a’r Mail wedi camddeall y gymdeithas sydd ohoni, ac yn amlwg dw i’n meddwl bod y cyfrynga’n gwneud hynna yng Nghymru hefyd – ers blynyddoedd a dweud y gwir. Ond, digwydd bod, efo Facebook a Twitter mae yna ryw oleuni’n cael ei ddisgleirio sy’n gneud i chi feddwl, ‘Dach chi’n gwybod be, ella bo chi wedi methu’r garfan yma o bobl, ella’ch bod chi wedi methu be mae pobl wir isio’.

MT: Yn yr erthygl, rwyt ti’n dweud bod dros 16% o bobl Cymru yn derbyn budd-daliadau a bod y pwnc yma’n haeddu’r un sylw, os nad mwy, na diffyg arwyddion Cymraeg yn Costa Coffee neu doriadau i gyllideb S4C a’r Cyngor Llyfrau. Dwi’n dyfynnu: ‘Pynciau oedd y rhain oedd yn ymddangos fel pe baent yn cael mwy o oriau darlledu ar y newyddion Cymraeg a mwy o sylw mewn darnau barn yng nghylchgrawn Golwg na thlodi yn ein cymunedau.’ Fel rwyt ti wedi ei ddweud eisoes, mae ymdriniaeth y cyfryngau yn rhywbeth sy’n mynd dan dy groen di go iawn, dydi?

DM: Yndi, i radda’. I fynd at Golwg ac yn enwedig y darnau barn, iawn, personol ydyn nhw i fod. Ond eto, faint o weithia ’dan ni isio darllan am bobl yn lladd ar y cyfryngau neu Blaid Cymru yn Sir Fôn? I feddwl bod pobl fel ’na yn galw’u hunain yn ohebwyr ac yn bobl sydd i fod i siarad am newyddion, maen nhw’n methu’r blydi point. Does ’na neb yn poeni am y cyfryngau a blydi Llafur yn Sir Fôn a dweud y gwir. Mae’r gymdeithas sydd ohoni mewn cachfa.

MT: Dw i’n licio bo chdi’n deud hynna am dy gyflogwyr dy hun.

DM: Na, na, na, y gwir ydi, ’dan ni’n methu’r hyn sy’n digwydd yn ein cymdeithas a dw i’n lwcus, dw i’n gweithio mewn swydd gyfryngol Gymraeg, dw i’n cael cyflog da, mae’r rhan fwyaf ohonan ni yn fama, dw i’n meddwl, yn dod o gefndiroedd da ond ’dan ni’n garfan fechan iawn o’r byd Cymraeg. Dan ni’n methu cymaint o’r petha sy’n digwydd ym Mhenygroes, ym Mhorthmadog, yn Blaenau, yn Amlwch, yng Nghaerfyrddin a ’dan ni fatha bod o ddim yn bodoli, dio ddim yn broblem i ni, bron â bod, oherwydd ’dan ni’n iawn, mae pob dim yn iawn i ni. O, be, ’di Costa Coffee ddim efo arwydd Cymraeg? Wel bŵ hŵ. Mae ’na betha pwysicach yn y byd ’ma na hynna. Lot pwysicach, dw i’n meddwl.

MT: Un ddadl arwyddocaol sydd gen ti yn yr ysgrif ydi bod yna fwy i wleidyddiaeth yng Nghymru na phrotestiadau iaith. Ro’n i wrth fy modd efo’r llinell yma: ‘Mae’n deg dweud bod y byd diwylliannol Cymraeg yn ddosbarth canol iawn ac wedi’i deilwra ar gyfer pobl sy’n deall be ydi ciw i’r pafiliwn yn fwy na chiw dôl ac yn deall be ydi bod ar bwyllgor fwy na bod ar y clwt.’ Ella bod hynny’n ddrych o’r gynulleidfa sydd yma heddiw hefyd. Pa mor bwysig ydi o i gael caneuon gwleidyddol sydd ddim jyst yn ganeuon am achub yr iaith, colli iaith ac yn y blaen?

DM: Pwysig iawn. Yn amlwg, mae’r brotest iaith yn un bwysig, ac mae hi wedi bod yn un bwysig. Dw i ddim yn meddwl y basan ni yma heddiw yn trafod hyn heblaw am y brotest iaith. Dw i ddim yn lladd ar hynna. Mae angen hynna, mae o wedi bod yn bwysig a rhaid diolch am hynna. Ond dros y blynyddoedd, drwy edrych ar ganu protest yn gyffredinol yng Nghymru mi fasach chi’n meddwl mai dyna’r unig brotest sydd wedi bod yn digwydd. Iawn, mae gynnoch chi ambell gân, ambell albym, ond y caneuon protest enwocaf ydi’r rhai am yr iaith.

MT: Oes yna bobl eraill wedi gwneud caneuon am bres dôl ac am fudd-daliadau?

DM: Mae gan Hogia Llandegai gân o 1968, ‘Pres y dôl’, ac mae gan Tara Bethan gân o’r enw ‘Byw ar y dôl’. Dw i’m yn siŵr ai cân brotest ydi honno, a dweud y gwir.

MT: Ti’n sôn am gân gan Datblygu yn yr erthygl hefyd.

DM: Wel, ia, yn amlwg mae LP newydd gan Datblygu. Mae Datblygu yn fand sydd yn trafod mwy na’r brotest iaith ond dw i’n meddwl gawn ni eu rhoi nhw mewn categori ar eu pennau’u hunain, ar wahân. Dw i’m yn meddwl y basa fo’n deg rhoi Datblygu yn yr un garfan â phawb arall oherwydd mae Dave yn amlwg yn trafod ei fywyd o. Ond fel arall, ’sgen ti’m llawer o grwpiau sy’n trafod y peth. O’n i mewn grŵp – Pep le Pew – oedd yn trafod bod yn wasters Port, oherwydd dyna oeddan ni. A tua’r adeg yna roedd gen ti Ceri C a chriw Blaenau Ffestiniog ac Anweledig yn trafod eu bywydau nhw. Ond eto, roedd pob dim, rhwng y ddau ohonan ni, yn dod yn ôl i’r iaith rhywsut. Dw i’m yn gwybod pam.

MT: Efallai bod canu Cymraeg ynddo fo’i hun yn rhywbeth gwleidyddol am dy fod di’n canu mewn iaith leiafrifol?

DM: Mae honna’n ddadl dw i’n ei chlywed drwy’r adeg. Mae Dafydd Iwan yn dweud bod canu Cymraeg ynddo fo’i hun yn wleidyddol. Mae ’na fath o bobl yng Nghymru – dw i’n un ohonyn nhw – sydd wedi cael swyddi am eu bod nhw’n siarad Cymraeg. Dw i’m yn meddwl ’sŵn i’n cael llnau yn Radio 1. Meddylia am Penrhyn rŵan. Does yna neb ym Mhenrhyndeudraeth ar eu hennill o fod yn siarad Cymraeg. Does yna neb ym Mhorthmadog ar eu hennill yn ariannol o siarad Cymraeg ond dyna maen nhw’n ei wneud oherwydd dyna ydi eu natur nhw, dyna ydi eu hanes nhw, dyna ydi eu teuluoedd nhw. Does yna ddim byd gwleidyddol am siarad Cymraeg yn yr ardaloedd yna. Dw i’n meddwl bod dweud bod canu Cymraeg yn wleidyddol yn adlewyrchiad o gefndir y person sy’n ei ddweud o.

MT: Wyt ti’n meddwl bod yna ddyletswydd ar artistiaid a cherddorion i fod yn wleidyddol?

DM: Oes, wel, dyletswydd unrhyw artist ydi adlewyrchu ei gymdeithas a’i fywyd ond dydi hynna ddim o reidrwydd yn gorfod bod yn wleidyddol. Mae hynna i fyny i’r unigolyn.

MT: Iawn, oes yna ddigon o artistiaid sy’n mynegi eu hunain yn wleidyddol heddiw felly?

DM: Nac oes, ond mae hynna’n adlewyrchu’r artistiaid eu hunain, dw i’n meddwl. Erbyn hyn mae gennym ni sin roc, sin gerddoriaeth Gymraeg a, digwydd bod, ar y foment, mae’r bandiau i gyd yn dod o gefndiroedd gweddol ddosbarth canol. Does dim byd yn bod ar hynna ond dydyn nhw ddim angen trafod eu bywydau nhw, mae eu bywydau nhw’n weddol saff, yn weddol hawdd.

MT: Dyna sy’n anhygoel yn yr hyn ma’ Rodney wedi ei gyflawni, ’de. Fasa fo byth wedi cael cynnig mynd i stiwdio heblaw bod hon wedi mynd yn feiral. Ac o ystyried hynna, oes yna rywbeth o’i le yn y ffaith bod pobl fel Rodney yn methu torri drwadd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg?

DM: Oes, mae o’n broblem. Cofia, un gân sydd gan Rodney. Wel, mae ganddo fo ddwy, mae ganddo fo gân hefyd o’r enw ‘Fodca’ sy’n sôn amdano fo’n cysgu mewn wheelie bin. Odd honna’n dda hefyd, ond ddim mor wleidyddol ella. Ond mae safon yn bwysig. Mae’n iawn ichdi gael cân fel un Rodney ond, a dweud y gwir, mi odd safon y recordiad yn wael, ac odd hi’n amhosib chwara fo ar y radio. Mae neges yn bwysig, ond os ma’n crap, ma’n crap dydi. Digwydd bod efo ‘Talu Bils’, odd o’n catchy ac odd pawb yn gallu adrodd o leia’ un llinell ohoni. Dyna oedd yn weird. Mae ‘Ond mae’n iaaaawn’ wedi rhyw fath o gyrraedd ein geirfa, do?

MT: O’n i’n meddwl am y llinell yna, pa mor wahanol ydi’r ‘iawn’ yn ‘Talu Bils’ i’r ‘Mae pawb yn iawn’ sydd gan Jarman yn ‘Gwesty Cymru’ pan mae o’n sôn am y bobl ’ma sydd jyst yn bodloni ac yn dewis setlo ar be sy’n digwydd yn wleidyddol yn y wlad heb feddwl y gallai petha fod yn well i ni na’r hyn sy gynnon ni ar hyn o bryd.

DM: Hit mawr arall cyfnod ‘Talu Bils’ oedd ‘Sebona Fi’ Yws Gwynedd. Cytgan honna ydi ‘O ma bywyd mor braf’ ac ro’dd y cyferbyniad yn wych – o’dd gen ti’r gŵr yma yr oedd hi’n amlwg nad oedd bywyd ddim yn braf iddo fo. Er, oedd o’n edrych yn hapus yn y fideo, ’doedd. Ac, a dweud y gwir, mae o’n hapus. Dw i wedi cwrdd â Rodney ambell waith a dw i’n meddwl ei fod o’n eitha hapus efo’i sefyllfa – mewn ffordd. Mae o’n lyfio lyshio, ti’n gwbod?

MT: ’Na i jyst enwi’n sydyn y 10 ¸an sy’n cael sylw yn Rhywbeth i’w Ddweud: ‘Gwesty Cymru’, ‘Tân yn Llŷn’, ‘Yma o Hyd’, ‘Cocaine’ gan Steve Eaves, ‘Gwlad ar fy Nghefn’, ‘Cymru Lloegr a Llanrwst’, ‘Gwyddbwyll’, ‘Gwreiddiau Dwfn’, ‘Talu Bils’ a ‘Cyn i’r Lle ’ma Gau’. Tasa chdi wedi llunio dy restr dy hun o ddeg cân wleidyddol be fasat ti wedi’i ddewis? Yn amlwg mi fasa ‘Talu Bils’ yn un ...

DM: Basa, ac mae hi hefyd yn anodd gweld y tu hwnt i stwff Datblygu a dweud y gwir oherwydd, fel o’n i’n dweud, mae geiriau Dave yn adlewyrchiad o gymdeithas. A dyma’r pwynt na wnes i dynnu digon o sylw ato yn yr erthygl – sydd yn wir am Rodney hefyd – mae Dave yn canu am brotest bersonol ac o bosib mai dyna’r brotest fwya pwysig. Y lleiafrif mwyaf yn y byd ydi’r unigolyn. Dyna sy’n dda am Dave – mae o’n trafod y byd ond ei brotest o ydi o yn erbyn bob dim. Ma’n hawdd anghofio am y person, dydi? Felly mi fasa Dave yno, a stwff Elfyn Presli a’r Massey Fergusons, a oedd yn grŵp o Borthmadog yn yr 80au. Roedd ganddyn nhw gân o’r enw ‘Jackboots Magi Thatcher’.

MT: Roeddet ti wedi bwriadu dewis Anweledig on’d oeddet?

DM: O’n. Mae gan Anweledig gân, dw i’m yn cofio’r dyddiad, y dyddiad agorodd y Cynulliad ac fe chwaraeon ni fo ar raglen Tudur ar y dydd Gwenar, digwydd bod, a gorfod golygu y llinell fwyaf difyr yn y gan o bosib – sef ‘All this Welsh shit is a waste of time’. Ma’r gân yna’n trafod y Cynulliad yn agor a’i effaith a sut eto mae’r Cynulliad wedi meddwl bod pobl i gyd yn credu, ‘O mae bob dim yn mynd i fod yn iawn.’ Neu, ‘O-cê, ’dan ni wedi ennill y frwydr’, neu ‘’dan ni yn ennill’ neu ‘mae o’n neud gwahaniaeth’ – ond mae Ceri Anweledig yn mynd nôl i drafod yn fwy cymdeithasol, fel Jecsyn Ffaif yn canu am ŵr o’r enw Hassan o ddociau Caerdydd. Ydi o’n Gymro? Yn llygaid lot o bobl, nac ydi.

MT: Oes yna ganeuon gan ferched y basat ti’n eu dewis? Oes yna ferched wedi canu’n wleidyddol?

DM: Oes, yn bendant. Y pechod ydi bod gen ti bobl fel Y Chwyldro a’r Nhw yn y 60au a’r 70au cynnar odd yn cyfansoddi caneuon protest ond Hefin Elis dw i’n meddwl oedd yn sgwennu lot o’r rheina. Ac ma cyfraniad Pat o Datblygu yn fwy o lawer na’r clod y mae hi’n ei dderbyn amdano, a dweud y gwir.

MT: Mae gan Casi Wyn bwynt tebyg yn ei herthygl hi, am y prinder o ferched sydd yn canu’n wleidyddol.

DM: Ia, ma’ gen ti Pryd Ma’ Te, sef grŵp Mair Tomos Ifans a ballu – roedd ganddyn nhw gân o’r enw ‘Rheolau Dynion’ (1986). Ma’r geiriau’n wych ond dw i ddim cweit yn siŵr o’r gân ei hun. Ac mae ganddyn nhw gân, ‘Geraint’, sydd ychydig yn creepy, am athrawes yn ffansio hogyn ysgol.

MT: Oes yna gân wleidyddol ddiweddar y basat ti wedi’i dewis?

DM: Diweddar? Na, mae canu protest heddiw’n boring dydi? Mae o. Mae miwsig Cymraeg heddiw yn beiriant oherwydd mae gynnon ni grwpiau pop gwych a chaneuon catchy a sgleiniog ac ma’r grwpia’n troi i fyny’n sobor ac maen nhw’n soundcheckio ac mae bob dim yn swnio’n wych a’r bobl ifanc wrth eu bodda efo nhw ond, Jesus Christ, maen nhw’n boring dydyn? Andros o boring.

MT: Tisio mwy o roc-a-rôl?

DM: Dw i’m yn dweud roc-a-rôl oherwydd mae roc-a-rôl weithia yn rhyw synonym am fod yn arsehole, dydi. Oeddan ni’n arfer dweud yn Pep Le Pew, ‘Dan ni’n roc-a-rôl’. Twats oeddan ni. Hogia Port odd efo chip ar ein hysgwydd – un enfawr oherwydd oeddan ni’n hogia dosbarth gweithiol o Port oedd yn meddwl bod pob dim arall yn crap.

MT: Ti ’di bod mewn bandiau dy hun. Oedd gynnoch chi faniffesto?

DM: Oedd, bendant. ’Naethon ni gychwyn Pep le Pew oherwydd oeddan ni’n gweld diffyg llais i bobl fel ni. Fel o’n i’n dweud odd gen ti Anweledig ac ambell grŵp o amgylch y lle ond yn ein cyfnod ni odd Y Cyrff a bandiau eraill dosbarth gweithiol wedi rhyw fath o ddiflannu. Syniad ni oedd bod ni’n chavs – dw i ddim yn licio’r gair yna i ddisgrifio pobl ond dyna oddan ni, oddan ni’n hongian rownd bus shelter Port yn yfad ac yn malu awyr, smocio bach o dôp, er nes i stopio yn un deg chwech achos o’n i’n paranoid. 21 years clean rŵan! Ond i fynd yn ôl at Pep Le Pew, dw i’m isio siarad gormod amdanaf fy hun. Y pwynt oedd bod ni’n hogia blin oherwydd oeddan ni’n teimlo fatha oddan ni’m yn cael unrhyw sylw. Ddim fel pobl ond fel ardal, ein bywyd ni, ’de.

MT: Gneud o i gael rhyw fath o lais oeddach chi?

DM: Ia, a dio dal ddim yn bodoli, nadi. Dyna di’r gwir. Ydio’n bodoli? Ydan ni’n gwybod be mae’r bobl yma’n neud yn yr ardaloedd yma? Dwi’n ymddiheuro am fynd nôl i Port ond dyna ’di’r bywyd dw i’n nabod. Os ei di i pyb yn Port am bedwar o’r gloch ar bnawn Gwenar gen ti lond tafarn o bobl Cymraeg ’di gorffan gwaith, y rhan fwya’ ohonyn nhw’n adeiladwyr a ballu, yn yfad ac yn cymdeithasu’n Gymraeg. Dy’n nhw’m yn trafod unrhyw ddiwylliant Cymraeg, ’di o ddim yn rhan o’u bywyda nhw, ond ma’ na reswm am hynna, ma na fai ar rywun am hynna. Ddylsa fo fod yn rhan o’u bywyda nhw. Pam ddim de? Be sy’n mynd yn anghywir?

MT: Dyna pam mod i’n meddwl bod dy ddewis di o gân, Dyl, yn ddewis mor bwysig. Y cwestiwn sŵn i’n licio ofyn nesa – ac ella mod i am fy saethu fy hun yn fama – fel arbenigwr ar gerddoriaeth, oes yna unrhyw werth i’r gyfrol yma, ti’n meddwl? Gei di fod yn onast. Mae Elis Dafydd (cyd-olygydd Rhywbeth i’w Ddweud) ac Elena Gruffudd (Golygydd Cyhoeddiadau Barddas) yn y gynulleidfa hefyd ond dw i’n siŵr y basan nhw’n fodlon i chdi siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod!

DM: Na, na, mae angen pob math o ddiwylliant siŵr, ddim Chairman Mao ydw i! Na, na, mae ’na werth iddo fo yn bendant. Mae o’n gofnod o be ma’ pobl yn feddwl, dydi. Dw i’n sôn lot am y dosbarth gweithiol, ond dw i ddim yn working class ddim mwy. Dw i’n ista yng nghefn siop llyfra Cymraeg yn yfad gwin coch yn siarad am erthygl dw i wedi’i sgwennu i Barddas. Cym on. Felly mae’n ddogfen andros o bwysig. Oes yna ddigon o ddogfennu? Dyna sy ar goll yn y sîn roc Gymraeg – does ’na ddim digon o ddogfennu a thrafod a sgwennu amdano fo. O’n i’n edrych ar O’r Pedwar Gwynt a ma hwnna’n gylchgrawn rhyfeddol; mae o’n glossy ac ma’ na erthygla – ma’ na gyfweliad efo Gruff Rhys [yn Rhifyn 3, Pasg 2017 - goln.], sy’n wych. Pam nad oes na’m byd fela am y Sîn Roc Gymraeg? Mae’r Selar yn ymddangos yn achlysurol, bob ’chydig o fisoedd, ond ma hwnna’n gylchgrawn gweddol arwynebol.

MT: Un o’r petha’ y basa Elis a finnau yn licio ei ysgogi efo’r gyfrol hon ydi trafodaeth; bod pobl yn dweud, ‘Na, dw i’n anghytuno efo’r dewis o ganeuon – hon fyswn i wedi’i dewis’. Dan ni isio i bobl ddweud ac isio i bobl sgwennu erthyglau neu hyd yn oed jyst Trydar neu gyhoeddi ar Facebook neu beth bynnag a dweud, ‘Na, dw i’n dadlau dros hon’ oherwydd does neb, yn amlwg, yn mynd i gytuno â’r 10 cân a ddewiswyd. Oedd yna unrhyw un nad oeddach chdi’n ei licio?

DM: Na, yn wreiddiol pan welish i’r rhestr do’n i’m yn siŵr am ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ [a ddewiswyd gan Hefin Jones – goln.] oherwydd roeddwn i wedi dallt erioed mai cân am squaddies a locals yn Llanrwst yn ffraeo oedd hi. Ond mae Hef yn rhoi’r gân yn ei chyd-destun a dyna sy’n bwysig. Dydi Rodney ei hun byth yn mynd i ddweud bod ‘Talu Bils’ yn gân brotest. Fi sy wedi penderfynu drosto fo oherwydd dw i’n middle class a dw i’n gallu gwneud hynna efo pobl tlawd. ‘This is what you think. I’ve written an article about it Rodney’.

MT: Dyl, diolch o galon. Mae jyst gwrando arna chdi’n siarad yn chwa o awyr iach.

DM: Taswn i wedi cael un gwin arall swn i wedi bod lot gwell.

MT: Oes na gynnig i bobl ddod ata chdi felly yn y Black Boy nes ’mlaen i barhau efo’r sgwrs?

DM: Working class hero yn pyb drutaf Caernarfon. Ies!

Mae Dyl Mei yn gynhyrchydd a chyflwynydd. Mae i'w glywed ar raglen Tudur Owen ar BBC Radio Cymru ar brynhawniau Gwener a boreau Sadwrn.

Mae Marged Tudur yn olygodd y gyfrol Rhywbeth i'w ddweud: deg o ganeuon gwleidyddol 1979-2016 (Barddas, 2017) ar y cyd ag Elis Dafydd.

Mae canu protest heddiw’n boring dydi? Mae bob dim yn swnio’n wych a’r bobl ifanc wrth eu bodda ond, Jesus Christ, mae’n boring dydy?

Pynciau:

#Cerddoriaeth
#Marged Tudur
#Gwleidyddiaeth
#Canu gwleidyddol
#Elis Dafydd