Siaradwch â’r Rwsiaid
Llythyrau
Annwyl olygydd,
Ewch heibio i Pwtin a siaradwch â phobl Rwsia
Nid er mwyn pobl Rwsia ond er budd elît gwleidyddol yr ymleddir rhyfel Pwtin. Ond mae’r rhwystrau ar lif gwybodaeth yn llesteirio gallu’r cyhoedd yn Rwsia i godi llais. Dyna lle mae gan y rhai sydd ar yr ochr arall i’r ffin gyfraniad i’w wneud.
Mae byddin Rwsia dan orchymyn Fladimir Pwtin yn ymladd rhyfel ciaidd yn erbyn Wcráin annibynnol. Mae gwrthsafiad byddin Wcráin yn ddewr ac yn gryf. Mae’r gefnogaeth fyd-eang i achos Wcráin yn rhyfeddol. Ond mae angen gwneud un peth arall. Ewch heibio i Pwtin. Siaradwch â’r Rwsiaid.
Mae’r Rwsiaid yn dal yn betrus i brotestio yn erbyn y rhyfel maleisus hwn. Mae llawer yn ofni cael eu hatal. Ac mae llawer yn byw mewn swigen wybodaeth ac yn credu propaganda gwenwynig y wladwriaeth. Ond mae miliynau ar filiynau o bobl ar draws y byd â chysylltiadau eraill, personol â Rwsia. Cysylltiadau gwaith. Busnes. Cariad. Cydweithio ym maes gwyddoniaeth. Celfyddyd. Crefydd. Pob math o rai. Mae’r cysylltiadau hyn yn rym nerthol.
Defnyddiwch hwy. Ewch heibio i Pwtin. Siaradwch â’r Rwsiaid. Ebostiwch hwy. Anfonwch neges atyn nhw. Eglurwch eich gofid, eich consýrn, eich dicter. Byddwch mor bersonol â phosib. Byddwch yn emosiynol ond yn wylaidd. Dyfalbarhewch. Eglurwch y pethau mwyaf syml, os oes angen. Rwsia yw’r ymosodwr. Amddiffyn ei hun mae Wcráin. Eglurwch y sancsiynau. Graddfa’r ymosodiadau. Bod gweithredoedd Rwsia yn drosedd. Eglurwch pam fod y byd ar ochr Wcráin. Pam fod trafnidiaeth awyr wedi ei rhwystro. Pam fod cysylltiadau economaidd wedi eu torri.
Ond gwnewch hynny heb dorri eich cysylltiadau personol. Defnyddiwch hwy. Ysgrifennwch at y bobl yr ydych yn arfer gwneud busnes â hwy. Ysgrifennwch at swyddogion y wladwriaeth. At y dynion mewn grym. At y lluoedd arfog. At bob math o wleidyddion. Pob un Rwsiad rydych yn ei adnabod.
Nid propaganda mo hyn na diplomyddiaeth, ond yr angen taer a sylfaenol am y gwir. I’r Rwsiaid brotestio yn erbyn y rhyfel.
Yn enw heddwch, rhaid i ni wneud hyn ar unwaith. Lledaenwch y neges hon. Anogwch eraill i wneud. Rŵan hyn.
Lledaenwyd y neges hon yn wreiddiol ddechrau mis Mawrth gan y cylchgrawn Eurozine. Cysylltwch os hoffech ailgyhoeddi’r cyfieithiad Cymraeg hwn.
Anfonwch eich llythyrau at gol@pedwargwynt.cymru