Dadansoddi

Yr athronydd yn y Cremlin

Timothy Snyder

The Road to Unfreedom: Russia, Europe, America

Bodley Head, 368tt, £25, Ebrill 2018

Ivan Ilyin

Our Tasks, Vol. 1

Book on Demand Ltd, 412tt, £25.95, 1956; Ionawr 2018

Mikhail Zygar

All the Kremlin's Men: Inside the Court of Vladimir Putin

Public Affairs, 400tt, £14.99, 2016

Samuel Jones

Amser darllen: 12 munud

30·11·2018

Dathliadau’r Pasg ym Mosco: Medfedef, ei wraig, Pwtin a Sobyanin (Maer Mosco)
Kremlin.ru / Wikimedia Commons

 

Pan ymwelais â Rwsia am y tro cyntaf yn 2013, roedd newidiadau mawr ar droed. Y flwyddyn honno y dechreuodd y Cremlin hyrwyddo’n agored ideoleg geidwadol, Gristnogol ac wrth-Ewropeaidd a fyddai, cyn hir, yn lledu fel pla drwy’r Gorllewin. Tan hynny, credwn mai graddol droi at Ewrop oedd Rwsia. Wedi’r cyfan, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd yr Undeb Ewropeaidd wedi cynnig hafan i gyn-ymerodraethau eraill ffynnu; roedd yn arddel polisi tramor oedd yn ffafrio dwyn perswâd ar genhedloedd cyfagos i gofleidio democratiaeth, teyrnasiad y gyfraith, a pholisïau cymdeithasol rhyddfrydol, gan wneud mynediad i’r farchnad Ewropeaidd yn amodol ar hynny. Credwn y byddai Rwsia, maes o law, yn cofleidio’r egwyddorion hyn. Roedd Pwtin wedi awgrymu cyn gymaint. Siaradai’n gadarnhaol am y diwylliant Ewropeaidd, ac yn 2004 awgrymodd y byddai o fudd economaidd i Rwsia pe bai Wcráin yn ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, dair blynedd wedi f’ymweliad cyntaf â Rwsia, ym mis Tachwedd 2016, dychwelais yno ac roedd yn amlwg fod y wlad ar drywydd go wahanol. Ar ôl cael ei ail ethol yn 2012, cymeradwyodd Pwtin gyfres o gyfreithiau gormesol a gryfhaodd rym y llywodraeth. Roedd y cyfreithiau hyn yn geidwadol eu natur ac yn wrthryddfrydol. Newidiodd ei gân ar y llwyfan rhyngwladol hefyd. Dechreuodd bortreadu Ewrop fel gelyn i Rwsia, ac yn sgil y chwyldro yn Wcráin yn 2014, meddiannodd y Crimea. Y flwyddyn wedyn, lladdwyd Boris Nemtsof, y gwleidydd a fu’n feirniadol iawn o ymyrraeth Pwtin yn Wcráin.

Ond beth, tybed, a symbylodd Pwtin i gefnu ar y llwybr Ewropeaidd? A pham y dewisodd wthio ideoleg geidwadol yn ddidrugaredd wedi iddo gael ei ail ethol? Mae rhai yn dadlau fod un gŵr wedi bod yn symbyliad iddo gyflawni’r tro pedol hwn, sef yr athronydd Ifan Ilyin (1883-1954). Roedd Ifan Ilyin yn wrthwynebus i gyfundrefnau democrataidd y Gorllewin. Yn ei waith rhagwelir ganddo gyfundrefn amgen a wireddir yn Rwsia wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd – cyfundrefn ffasgaidd wedi’i gwreiddio mewn Cristnogaeth a Cheidwadaeth.

✒︎

Ym Mosgo ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac yntau’n fyfyriwr yn y brifysgol, y dechreuodd diddordeb Ifan Ilyin mewn athroniaeth. Wrth draed yr athronydd a’r twrnai Pafel Nofgorodtsef (1886-1924) turiodd i faes athroniaeth y gyfraith, yn arbennig gyfraniad Hegel i’r maes hwnnw. Yn 1918, wedi’r Chwyldro, fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Mosco, a chwblhaodd ei thesis ar waith Hegel. Ystyriai Chwyldro 1917 yn un o drasiedïau mwyaf ei genedl, ac fe’i harestiwyd sawl gwaith am iddo wrthod cydymffurfio ag ideoleg y Bolsieficiaid. Yn 1922, rai misoedd cyn i’r Undeb Sofietaidd gael ei sefydlu, fe’i dedfrydwyd i farwolaeth am fod yn rhan o fudiadau gwrthgomiwnyddol; ar y funud olaf, newidiwyd y ddedfryd, a chafodd ei alltudio o’r wlad, ynghyd â rhyw 160 o ddeallusion eraill.

Symudodd Ilyin i’r Almaen ac yn 1924 cafodd swydd fel darlithydd yn Berlin. Yn y cyfnod hwn, dechreuodd ysgrifennu gweithiau gwrthgomiwnyddol ar gyfer gwrthwynebwyr yr Undeb Sofietaidd, y Gwynion, sef y Rwsiaid a frwydrodd yn erbyn Byddin Goch y Bolsieficiaid yn ystod y Rhyfel Cartref ac a oedd bellach yn byw ar wasgar yn Ewrop. Mewn un traethawd, cyfarchodd ei ddarllenwyr gyda’r geiriau ‘Fy Mrodyr Gwynion, ffasgwyr’.

Pwysleisio pwysigrwydd adfywio ysbryd a diwylliant y Rwsiaid wna’r gweithiau hyn; ceir tebygrwydd diymwad â syniadau ffasgwyr eraill y 1930au. Roedd cyfnod cynnar alltudiaeth Ilyin yn yr Almaen, a chyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod hwnnw, yn ffurfiannol o safbwynt ei fydolwg. O’i chymharu â’r Bolsieficiaid, a oedd yn datgymalu diwylliant Rwsia yn ei farn ef, gwelai yn yr Almaen ymdrech i ddyrchafu a gwarchod y diwylliant cynhenid Almaenaidd. Edmygai ddau ffasgydd mwyaf blaenllaw Ewrop – Hitler yn yr Almaen, a Mussolini yn yr Eidal – am iddynt geisio amddiffyn a dyrchafu diwylliant traddodiadol eu cenhedloedd. Mae ei erthygl ar ‘Sosialaeth Genedlaethol’ yn yr Almaen, a ysgrifennodd yn 1933, yn honni fod Hitler wedi ‘atal y broses o folsieficio’r Almaen, ac roedd hon yn gymwynas ag Ewrop gyfan’. Yn marn Ilyin, roedd gwladgarwch, disgyblaeth, ac ymroddiad Hitler a Mussolini i adfywiad ysbrydol eu diwylliannau yn adwaith yn erbyn y Bolsieficiaid – ‘tyfodd ffasgiaeth fel ymateb i Folsieficiaeth,’ meddai mewn un erthygl – a chredai y dylai ffasgiaeth Ewropeaidd y 1920au a’r 1930au fod yn symbyliad ar gyfer adfywiad cenedlaethol Rwsiaidd.

Pwysig yw nodi na fu i gwymp Hitler a Mussolini sigo ei feddylfryd. Er iddo gydnabod eu camgymeriadau, ni welai ddiffygion eu hideoleg, ac wedi’r Ail Ryfel Byd, gobeithiai y byddai Francisco Franco yn Sbaen ac Antonio de Oliveira Salazar ym Mhortiwgal yn osgoi’r un camgymeriadau. Yn hytrach, dechreuodd Ilyin ddibynnu fwyfwy ar athroniaeth er mwyn cyfiawnhau ei safbwynt ffasgaidd. Ysgrifennodd ugeiniau o lyfrau ac erthyglau athronyddol yn trafod y modd y gellid adfywio diwylliant Rwsia oddi mewn i gyfundrefn ffasgaidd. Ystyriai’r athroniaeth hon yn ganllaw ar gyfer unrhyw arweinydd a fuasai’n dod i rym yn Rwsia wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd. Cyhoeddwyd antholeg o’r gwaith hwn yn 1956 yn dwyn y teitl ‘Ein Gorchwylion’. Ceisia Ilyin ddangos yn y cyfryw destunau ar ba seiliau ideolegol y dylid ailgodi diwylliant Rwsia.

Fel pob ffasgydd, mae Ilyin yn dyrchafu ei ddiwylliant ei hun uwchlaw pob diwylliant arall ac yn portreadu amlddiwylliannedd fel bygythiad iddo. Craidd ei athroniaeth yw’r gred mai dieflig yw amlddiwylliannedd. Yr unig dda a fodola yn y bydysawd yw cyfanrwydd hanesyddol Duw cyn y greadigaeth. Ond pan greodd Duw y byd, chwalodd ei gyfanrwydd. Mynnai Ilyin wahaniaethu rhwng y cyfanrwydd coll dwyfol hwnnw a ‘bodolaeth empirig’ Duw er dechrau’r ddynoliaeth. Ym marn Ilyin, roedd lluosogrwydd y ddynoliaeth yn brawf o fethiant Duw i gwblhau’r greadigaeth, a’r methiant hwn a greodd holl ddrygioni a ffaeleddau’r ddynol-ryw.

Sut felly mae adfer y cyfanrwydd dwyfol? Yn y bôn, â chenedlaetholdeb Rwsiaidd a ffasgiaeth Gristnogol, ym marn Ilyin. Honna fod diwylliant traddodiadol Rwsia yn ei hanfod yn adlewyrchu bwriad gwreiddiol Duw, ac felly’n ddwyfol. Mae’r diwylliant hwn yn ymgorffori holl egwyddorion a thraddodiadau’r Eglwys Uniongred yn Rwsia. Yng ngolwg Ilyin, roedd anffyddiaeth y wladwriaeth Sofietaidd wedi hollti cyfanrwydd dwyfol Rwsia ac wedi creu argyfwng crefyddol, ond nid y Rwsiaid oedd yn gyfrifol am yr argyfwng hwn; o’r Gorllewin y daeth anffyddiaeth. Dywed mai’r athronydd Friedrich Nietzsche a’i hyrwyddodd, a Karl Marx a gymhwysodd anffyddiaeth ar gyfer y cyd-destun gwleidyddol ac economaidd. Haint Ewropeaidd oedd gwladwriaeth ddigrefydd yr Undeb Sofietaidd felly, a phwysleisia Ilyin y byddai angen i arweinwyr y dyfodol amddiffyn cyfanrwydd dwyfol Rwsia yn barhaol rhag dylanwadau syniadaethol ac ideolegol Ewrop.

Defnyddiodd Ilyin y syniadau athronyddol hyn fel sylfaen i ddatblygu cyfansoddiad Cristnogol Rwsiaidd a fyddai’n adfer, yn ei farn ef, gyfanrwydd dwyfol Rwsia wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd. Yn y gyfundrefn hon, byddai’r arweinydd yn gyfrifol am holl swyddogaethau’r llywodraeth mewn gwladwriaeth a fyddai’n gwbl ganoledig. O safbwynt Ilyin, roedd democratiaeth yn hybu unigolyddiaeth a lluosogrwydd barn, ac felly’n fygythiad i’r cyfanrwydd dwyfol. Nid yw democratiaeth orllewinol yn ‘parchu natur organig y wladwriaeth’ meddai. At hynny, ar drothwy’r Rhyfel Oer, rhagwelai Ilyin y byddai democratiaeth yn agor y drws i wledydd eraill allu dylanwadu ar Rwsia, ac fe fyddai Ewrop yn ceisio defnyddio democratiaeth er mwyn tanseilio sofraniaeth Rwsia. Yr unig ateb, felly oedd democratiaeth ymddangosiadol neu ‘ddefodol’. Dylid cynnal etholiadau, ond ni ddylent fod yn ddim amgen na defodau i ddangos ffydd ddiysgog y genedl mewn arweinydd ‘cryf’, ‘gwrywaidd’ a fyddai’n parhau traddodiad awtocrataidd Rwsia ac yn adfywio’r ysbryd Cristnogol, cenedlaethol. Dyma weledigaeth dotalitaraidd sy’n ceisio goresgyn unigolyddiaeth ac amlddiwylliannedd er mwyn creu diwylliant ceidwadol unffurf a chenedl o bobl sy’n chwannog cefnogi’r arweinydd.

✒︎

Mae’n dra phosib y byddai syniadau Ilyin wedi mynd yn angof oni bai am ymyrraeth un gŵr: Fladimir Pwtin (gweler ar y dde lun ohono yn Sochi, fis Ebrill 2013, gan Thomas Dworzak/Magnum Photos). Bu farw Ilyin yn Rwsiad alltud yn y Swisdir yn 1954, ond yn 2005, trefnodd Pwtin iddo gael ei ailgladdu ym Mosco. Y flwyddyn wedyn, trosglwyddwyd ei holl bapurau o archif ym Michigan yn yr Unol Daleithiau. Daeth diddordeb Pwtin yng ngwaith Ilyin i’r amlwg yn 2006 pan ddechreuodd ddyfynnu Ilyin mewn areithiau cyhoeddus, gan gynnwys ei araith arlywyddol, flynyddol i’r Duma. Cyfeiriodd Pwtin at ‘y meddyliwr Rwsiaidd enwog, Ifan Ilyin’ a ‘fyfyriodd ar yr egwyddorion a ddylai fod yn sylfaen gadarn i wladwriaeth Rwsia’. Wedi hynny, dechreuodd swyddogion blaenllaw eraill y Cremlin ddyfynnu ei waith, gan gynnwys y Prif Weinidog, Dmitri Medfedef, yr Ysgrifennydd Tramor, Sergei Lafrof, ac un o brif bropagandwyr y Cremlin, Fladislaf Swrcof. Yn 2008, gosodwyd cofeb iddo ym Mhrifysgol Mosco, ac yn 2009, gosododd Pwtin flodau ar ei fedd.

Hawdd deall diddordeb Pwtin yn athroniaeth Ilyin: mae pwyslais Ilyin ar rym yr arweinydd ar draul rhyddid unigolion yn cyfiawnhau gafael awdurdodaidd Pwtin ar ei wlad. Ac mae athroniaeth y ‘cyfanrwydd dwyfol’ yn cyfiawnhau’r modd y mae Pwtin wedi ceisio impio ideoleg ganolog y Cremlin ar holl bobloedd Rwsia er mwyn creu unffurfiaeth ideolegol, ieithyddol a diwylliannol. Yn 2012, cyhoeddodd Pwtin erthygl ar genedlaetholdeb Rwsiaidd a dywedodd mai ‘Cenhadaeth Fawr y Rwsiaid yw uno a rhwymo’r ddynoliaeth’ mewn gwladwriaeth Rwsiaidd. Yn y wladwriaeth hon ‘nid oes lleiafrifoedd cenedlaethol’ meddai. Yma, gellir dwyn cymhariaeth amlwg rhwng ‘Cenhadaeth Fawr y Rwsiaid’ i ‘uno a rhwymo’r ddynoliaeth’ a’r ‘cyfanrwydd dwyfol’ y mae Ilyin yn cyfeirio ato. Ond nid cymhariaeth syniadaethol yn unig sydd yma; yn yr erthygl hon mae Pwtin yn dyfynnu Ilyin yn uniongyrchol ac yn defnyddio’i sylwadau ar ddiwylliant traddodiadol, Uniongred Rwsia fel sail i’r genhadaeth.

Yn rhan o ymdrech y Cremlin i hyrwyddo syniadau Ilyin, darlledwyd rhaglen amdano ar Rossia 1, y brif sianel deledu yn Rwsia. Wrth drafod syniadau Ilyin am ddiwylliant Rwsia, dangoswyd hen glipiau du a gwyn trawiadol o’r Bolsieficiaid yn dymchwel eglwysi uniongred y wlad. Roedd yr Eglwys Uniongred yn ganolog i ddull Ilyin o synied am werthoedd a thraddodiadau’r Rwsiaid. Yn ei farn ef, roedd diwylliant Rwsia a’r Eglwys Uniongred yn anwahanadwy, ac roedd ymosodiad y Bolsieficiaid arni yn ymosodiad ar holl ddiwylliant y Rwsiaid. Mae’r safbwynt hwn hefyd i’w ganfod yn nehongliad Pwtin o’r diwylliant Rwsiaidd. Yn ei gyfrol All the Kremlin’s Men (2016), noda’r newyddiadurwr Mikhail Zygar mai Ilyin a ddylanwadodd ar ddiffiniad Pwtin o werthoedd traddodiadol Rwsia. Mewn eglwys gadeiriol ym Mosco yn ystod dathliadau’r Pasg yn 2015, pwysleisiodd Pwtin fod hunaniaeth Rwsiaidd ynghlwm wrth y diwylliant Uniongred, a chyfeiriodd at orchwyl hanfodol yr Eglwys Uniongred i impio cenedlaetholdeb traddodiadol Rwsiaidd ar y to ifanc:

Mae gan draddodiad Uniongred Rwsia swyddogaeth ffurfiannol bwysig wrth ddiogelu ein treftadaeth hanesyddol a diwylliannol gyfoethog, ac wrth adfywio gwerthoedd moesol tragwyddol. Mae’n gweithio’n ddiflino i greu undod, i dynhau rhwymau teuluol, ac i addysgu’r genhedlaeth ifanc mewn ysbryd gwladgarol.

Nid yw Pwtin yn Gristion diffuant, nid oedd Ilyin ychwaith, ond mae’r ddau yn gweld yr Eglwys Uniongred fel offeryn defnyddiol i greu undod Rwsiaidd. Yn yr eglwys hon yn 2012 y protestiodd y grŵp Pussy Riot yn erbyn ymgais Pwtin i ailsefydlu gwerthoedd traddodiadol, ceidwadol drwy adfywio’r Eglwys Uniongred. Y flwyddyn wedyn, cymeradwyodd Pwtin gyfraith yn erbyn cabledd gan wahardd unrhyw weithgaredd cyhoeddus a allai sarhau Cristnogion. Fel rhan o’r adfywiad crefyddol, cymeradwyodd hefyd gyfraith i wahardd ‘propaganda hoyw’ ymysg plant.

✒︎

Yn y gyfundrefn dotalitaraidd a ddisgrifir gan Ilyin, byddai’r arweinydd yn disodli ffeithiau â mythau a phropaganda er mwyn adfer y cyfanrwydd dwyfol. Un o dasgau pwysicaf yr arweinydd yw creu gelynion, meddai. Agorodd ei erthygl ‘Ynghylch Cenedlaetholdeb Rwsiaidd’ â datganiad syml: ‘Mae gan Rwsia elynion cenedlaethol.’ Y prif elyn iddo ef oedd y Gorllewin, a ledaenai’i diffygion ar hyd a lled y Rwsia ddwyfol. Yn yr un modd, mae Pwtin wedi hyrwyddo’r naratif fod anffyddiaeth a chyfunrywiaeth yn rhan o ddirywiad moesol Ewrop, ac yn debyg i Ilyin, mae’n portreadu diwylliant rhyddfrydol Ewrop fel bygythiad yn erbyn gwerthoedd traddodiadol y diwylliant Rwsiaidd.

Bu’r dechneg hon o greu gelynion drwy gyfrwng myth a phropaganda yn hynod effeithiol yn nwylo Pwtin. Pan ddaeth Pwtin i rym yn 2000, gwelwyd cynnydd yn yr economi a gwella safonau byw. Priodolir twf a ffyniant economaidd y cyfnod hwn i’w ddylanwad ef. Fodd bynnag, erbyn 2011, roedd yr economi yn edwino ac ysgydwyd ei rym gan brotestiadau ledled y wlad. Er mwyn tynnu sylw oddi ar ddiffygion mewnol Rwsia cyn etholiad arlywyddol 2012 felly, penderfynodd greu gelyn newydd, gelyn parhaol a fyddai’n cryfhau gafael Pwtin ar y wlad. Honnid yn y wasg Rwsieg i’r protestwyr gael eu talu gan yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd; ceisiwyd darbwyllo’r Rwsiaid fod y Gorllewin yn ymyrryd yn nemocratiaeth Rwsia ac yn tanseilio’i sofraniaeth. Dyma drobwynt yn hanes diweddar y wlad: wrth bortreadu Ewrop fel gelyn, roedd Pwtin yn ymwrthod yn llwyr â’r llwybr democrataidd, rhyddfrydol ac Ewropeaidd. Gwyddai Pwtin ac Ilyin ill dau y byddai’n rhaid i Rwsia ymddangos fel pe bai dan warchae parhaol gan Ewrop os oedd am gynnal cyfundrefn awdurdodaidd, ffug-ddemocrataidd.

Mewn awyrgylch gelyniaethus o’r fath, mae’r bygythiad dirfodol honedig i’r diwylliant Rwsiaidd yn ffordd o gyfiawnhau ymyrraeth Pwtin yn Wcráin. Wrth droi yn ôl at ‘Ein Gorchwylion’, gwelir mai cibddall yw dealltwriaeth Ilyin o hanes Rwsia. Iddo ef, mae ei genedl a’i ddiwylliant yn gyfiawn ac yn ddiniwed. Dyma un o brif themâu ei waith. ‘Gall cenedl y Rwsiaid, ers ei thröedigaeth i Gristnogaeth, gyfri bron i fil o flynyddoedd o ddioddefaint hanesyddol,’ meddai. Daeth popeth drwg o’r tu allan, felly, ac roedd pob rhyfel y bu Rwsia’n rhan ohoni yn fodd i amddiffyn y cyfanrwydd dwyfol. Nid oedd lledaeniad Ymerodraeth Rwsia drwy Asia a dwyrain Ewrop yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ymosodol, ond i’r gwrthwyneb, yn amddiffynnol.

Dyma fyth cenedlaethol y mae Pwtin hefyd wedi ceisio’i hyrwyddo. Mae’r ddau yn synied am Rwsia, nid fel gwlad ar fap, ond fel cyflwr ysbrydol diniwed; maent ymhellach wedi pwysleisio pwysigrwydd gwarchod yr ysbryd hwnnw y tu allan i ffiniau daearyddol Rwsia. Yn 2013, ar ôl gwrthod y llwybr Ewropeaidd, dechreuodd Pwtin lesteirio pob ymgais i ddod ag Wcráin yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Y flwyddyn ganlynol, penderfynodd Pwtin feddiannu’r Crimea, a phan esboniodd pam y bu raid iddo wneud hynny, at waith Ilyin y cyfeiriodd drachefn. Diddorol yw nodi fod Timothy Snyder, yn ei lyfr diweddar ar Rwsia, The Road to Unfreedom: Russia, Europe, America (2018), yn honni i gopïau o ‘Ein Gorchwylion’ gael eu hanfon at holl swyddogion blaenllaw a llywodraethwyr rhanbarthol Rwsia tua’r un cyfnod.

Yn ôl dull Ilyin o ymagweddu at hanes Rwsia, nid oedd Wcráin yn endid ar wahân i Rwsia. Roedd ystyried Wcráin fel gwladwriaeth annibynnol yn bradychu’r cyfanrwydd dwyfol. Mewn cyfrol arall o’i waith a gyhoeddwyd yn 2001, sy’n cynnwys erthyglau, darlithoedd, a llythyrau o’i eiddo, ceir darn byr lle crynhoir ei agwedd: ‘Mae ymneilltuaeth Wcranaidd yn ffenomen artiffisial heb sylfaen wirioneddol,’ meddai. Cyfeiria at Wcráin fel ‘Rwsia-Fach’ sydd wedi’i chysylltu â ‘Rwsia-Fawr’ gan ‘ffydd, hil, tynged hanesyddol, lleoliad daearyddol, economi, diwylliant, a gwleidyddiaeth’. Â ymlaen i ddarogan na ddaw ‘heddwch a ffyniant economaidd’ i ddwyrain Ewrop tra bo Wcráin wedi’i datgysylltu o Rwsia. Y grymoedd sy’n cadw Wcráin ar wahân i Rwsia fydd gelyn pennaf y Rwsiaid, meddai, a bydd Rwsia’n defnyddio’i holl adnoddau i frwydro yn eu herbyn. Derfydd ei lith gyda’r bygythiad: ‘Mae’n fwy buddiol i wladwriaeth fod yn gyfaill i Rwsia nag yn elyn iddi.’

✒︎

Mabwysiadodd Pwtin gyngor Ilyin na ddylai Rwsia ac Wcráin ddilyn y llwybr Ewropeaidd; ei waith ef fyddai dwyn Ewrop yn nes at Rwsia. Yn ystod etholiad 2012, un o brif addewidion Pwtin oedd y byddai’n ymroi i greu Undeb Ewrasiaidd. Byddai’r Undeb hwn, maes o law, yn disodli cyfundrefn bresennol Ewrop ac yn creu ideoleg newydd a fyddai’n pontio’r Gorllewin a’r Dwyrain. A barnu wrth wleidyddiaeth bresennol Ewrop, gellir tybio fod Pwtin yn llwyddo yn y gorchwyl hwn.

Yn y cyfamser, mae cysgod ffasgaidd y Cremlin yn lledu dros y Gorllewin, a’r ideoleg geidwadol, dotalitaraidd, dan ddylanwad athroniaeth Ilyin, wedi dechrau troi’n realiti yn Ewrop. Mae’r ideoleg hon wedi ysbrydoli pleidiau adain dde Ewrop, pleidiau sy’n dyheu am ryw orffennol coll, delfrydol, ac am adfywiad gwerthoedd traddodiadol, Cristnogol Ewrop.

Mynegodd aelodau blaenllaw y pleidiau hyn eu hedmygedd o ddull awdurdodaidd Pwtin o lywodraethu, ac yn ôl rhai, maent wedi derbyn nawdd y Cremlin. Yn etholiad arlywyddol Ffrainc yn 2017 enillodd y gwrth-Ewropead, Marine Le Pen, dros ddeng miliwn o bleidleisiau; yn Hwngari yn etholiadau 2018 enillodd Viktor Orbán fwyafrif wedi iddo ymgyrchu am adfywiad gwerthoedd traddodiadol; mae’r dde eithafol yn rhan o glymblaid yn Awstria; a phrin fod angen crybwyll Brexit.

Fel a ddigwyddodd yn Rwsia, mae rhethreg genedlaetholgar, wrth-Ewropeaidd eisoes wedi dechrau disodli ffeithiau ac wedi rhoi hwb sylweddol i bleidiau adain dde. Mae rhai o nodweddion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd – rhyddfrydiaeth ac amlddiwylliannedd, sef nodweddion a oedd yn wrthun i Ilyin – dan warchae.

Trwy gyfrwng gweithredoedd Pwtin, profodd ideoleg yr athronydd anhysbys adfywiad yn Rwsia, gan ddechrau’r gwaith o ddatgymalu’r rhwymau sy’n clymu Ewrop ynghyd.

Mae Samuel Jones yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Gwyddai Pwtin ac Ilyin y byddai’n rhaid i Rwsia ymddangos fel pe bai dan warchae parhaol gan Ewrop os oedd am gynnal cyfundrefn awdurdodaidd

Pynciau:

#Rhifyn 8
#Athroniaeth
#Ffasgaeth
#Rwsia
#Wcráin