Colofnau

A’r gath wedi sgrapo Joni Bach

Gwynt y Dwyrain

Mihangel Morgan
14·09·2021

Bûm yn meddwl am gathod yn ddiweddar. Cathod mewn llenyddiaeth yn bennaf, ac nid cathod go iawn, eithr cathod fel symbolau. Cathod arwyddocaol, fel petai. A’r hyn a sbardunodd y myfyrdod hwn oedd cathod ar y cyfryngau. Mae’n werth ailadrodd stori ddoniol T H Parry-Williams am y bachgen hwnnw, ‘wedi dod o hyd i gath wedi rhewi, a’i chario i’r tŷ’, a ddywedodd wrth ei dad fod, ‘rhywun wedi taflu ymaith gath reit dda’. Ac yn hen dribannau Morgannwg ceir sawl cerdd am wrcath arswydus (ci yn ôl rhai, ond dewisach gen i feddwl taw gwrcath oedd hwn) nad oedd modd ei ladd, o’r enw y Dolffin,

Y Dolffin a droseddodd,
Fe gadd ei ladd mewn gwirfodd.
Bore trannoeth yn ’r un lle
Yn gasach fe ddangosodd. 

Pan gyhoeddais fy nghyfrol o storïau byrion Saith Pechod Marwol flynydde nôl, sylw un o’m ffrindiau oedd bod cathod i’w cael ar bob yn ail dudalen, bron. Roeddwn i’n synnu braidd wath doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r holl gathod honedig ac yn sicr doedd dim bwriad gen i i ddodi cynifer ohonyn nhw rhwng y tudalennau. Wrth gwrs, roedd yr hen gyfaill yn ei gorddweud hi, braidd. Serch hynny, dyna’r argraff a gawsai ef wrth ddarllen y gyfrol. Ac roedd ei sylw yn amlygu i mi ddau wirionedd; sef, yn gyntaf, nad yw’r awdur bob amser yn gwybod pa ymateb y bydd ei waith yn ei ennyn mewn darllenydd; yn ail, nid yw bwriad awdur yn golygu’r nesa peth i ddim. Pan luniais Saith Pechod Marwol doedd dim cath gyda fi a fûm i erioed yn berchennog ar un (mae cath gyda fi ers hynny, gwrcath, ac mae ef yn ddwy ar bymtheg oed nawr). Serch hynny, drwy ddirgel ddulliau’r isymwybod neu’r anymwybod (dwi byth yn siŵr p’un sy’n iawn) llithrasai nifer o gathod, rhai yn fwriadol, a mwy yn anfwriadol, fe ymddengys, i mewn i’r naratifau. O ble y daethai’r holl gathod hyn a beth oedd eu hystyr? Dwn i ddim. O blith y cathod bwriadol cofiaf i mi ‘adleisio’ neu ‘gyfeirio’ at gathod Saunders Lewis yn Monica (1930), 

Edrychodd Bob o’i amgylch ar yr ystafell. Nid oedd yno ddim nas halogwyd.
‘Monica, mae yma ’oglau ffiaidd. Yr oedd yn rheol gennyt unwaith na chai’r cathod fyth ddyfod yn agos i’r stafell hon. O leiaf, gelli rwystro iddynt faeddu yma?’
‘Rhaid i mi gael rhyw gwmni, ond odid ? Os na fynni di iddynt faeddu, dyro focs yn y gornel a phridd a lludw ynddo. Ni allaf i wneud heb y cathod yn awr.’

Nid cathod mo’r cathod hyn ond modd i gyfleu ‘slebogrwydd’ y sefyllfa a dirywiad safonau Monica. Ffieiddbethau digon effeithiol ydyn nhw, oherwydd maen nhw’n cyfrannu at holl naws wrthun a chyfoglyd y darlun. Wedi dweud hynny, mae’n eitha posib taw cathod go iawn oedden nhw – wedi’r cyfan, fe ddywedodd Saunders Lewis iddo seilio Monica a’i hanes ar fenyw y darllenasai amdani hi yn ei bapur lleol. Dwn i ddim os oedd cathod gan y fenyw wreiddiol honno neu beidio. Digon posib taw dyfeisiau a ychwanegwyd gan y llenor er mwyn cynysgaeddu’r nofel ag awyrgylch afiach a sinistr oedd y cathod.
 

Llun: Nikita/Flickr

 

Ystyriaethau gwirion anfeirniadol yw’r rhain, mi wn. Ar y llaw arall, fel y dangosodd John Sutherland yn Is Heathcliff a Murderer? (1996) fe allai cwestiynau ymddangosiadol ffôl ac ofer fel ‘sawl plentyn oedd gan Ledi Macbeth?’ fod yn ffordd werthfawr o fynd dan groen ambell i destun. 

Yn 1961 lluniodd y nofelydd Philip Roth erthygl yn gresynu na allai ffuglen gystadlu â ‘realiti’ am elfennau anhygoel. Aeth yntau drwy nifer o storïau yn y papurau ar y pryd a dod i’r casgliad eu bod yn rhy anhygoel i’w defnyddio mewn nofelau. Hynny yw, er eu bod yn storïau ffeithiol roeddent yn anghredadwy.

Sydd yn dod â mi yn ôl at y cathod ac at un o’m ‘pleserau euog’, peth sydd yn dod â boddhâd anrhaethol i mi er bod gen i gywilydd cyfaddef. Des i ar ei draws ar ddamwain ar YouTube, fel sy’n digwydd ambell waith, ac o fewn byr o dro roeddwn i’n gaeth iddo. My Cat From Hell yw’r teitl ac fe’i cyflwynir gan ddyn o’r enw Jackson Galaxy. Er ei fod yn benfoel mae ganddo locsyn wedi ei dorri i’r siâp mwya cymhleth, yn gywrain rhyfeddol, heb sôn am ei glustdlysau, ei fodrwyau, ei freichledi a’i gar mawr pinc. Nac ydyw, nid yw’n hoyw. Mae Jackson yn mynd at bobl sydd yn cael problemau gyda’u cathod. Yn aml iawn mae’r cathod hyn yn rhai ffyrnig ac yn frwnt, maen nhw’n ymosodol, yn crafu ac yn cnoi, ac nid oes yno ddim nas halogir ganddyn nhw. Fel rheol, mae Jackson yn llwyddo i ddatrys y broblem, yn amlach na pheidio, yn syml iawn, drwy annog perchnogion y cathod uffernol i chwarae gyda nhw ac i ddodi digon o silffoedd ar hyd y lle fel y gallai’r creaduriaid ddringo a symud o gwmpas. Nid ar y cathod mae’r bai, er mor wyllt ac anhydrin ydyn nhw, eithr ar y perchnogion.

Trefn Jackson yw ei fod yn asesu’r cathod dieflig i gychwyn, yna bydd e’n rhoi cyngor priodol i’r perchnogion di-glem a ‘gwaith cartre’ (er enghraifft, chwarae gyda’r cathod, addasu’r cartre, rhoi bwyd gwahanol iddyn nhw yn ôl yr angen) a bydd e’n gofyn iddyn nhw ffilmio’r gwaith cartre hyn. Yna, ar ôl rhyw hyn a hyn o amser penodedig, bydd e’n dod yn ôl i weld y gath eto. Fel arfer, os yw’r cyngor yn cael ei ddilyn fe ddatrysir y broblem. Yn achos menyw o’r enw Vena mae ei gwrcath, Bombadil, yn gadael ‘anrhegion’ ym mhob man, mae’n rhedeg i ffwrdd ac yn cweryla gyda’i chathod eraill, ac afraid dweud, mae’n cnoi ac yn crafu. Ond mae Vena yn dwlu ar wisgo Bombadil mewn dillad amrywiol bob dydd. Er enghraifft, rydyn ni’n cael gweld Bombadil wedi’i wisgo fel mefusen. Mae’n amlwg i bob un ond Vena nad yw Bombadil yn hapus. Ar ôl yr ymweliad cyntaf mae Jackson yn pledio â Vena i roi’r gorau i wisgo Bombadil fel mefusen neu unrhyw fath o ffrwyth arall, yn wir, i beidio â dodi unrhyw ddillad amdano o gwbl. Ond pan ddaw Jackson yn ôl am yr ail ymweliad ac edrych ar y ffilm o’r gwaith cartre fe wêl fod Vena wedi gwisgo Bombadil fel priodfab er mwyn iddo gael cymryd rhan mewn priodas â chath arall, a hithau wedi’i gwisgo fel priodasferch, wrth gwrs, heb sôn am y gwesteion o gathod eraill a’u perchnogion hwythau wedi’u gwisgo ar gyfer y seremoni. Mae hyn yn gwylltio Jackson. Ond esgus Vena, heb smic o wên, yw, ‘Wel, allen ni byth canslo, wath roedd y cardiau gwahodd wedi mynd ma’s’.

Pe bai rhywun yn cyflwyno peth fel hyn mewn ffuglen, yn enwedig mewn ffuglen Gymraeg, diau fe ddywedai’r beirniaid ei fod yn ‘rhy anhygoel’. Wedi’r cyfan, rhaid i nofelau a storïau Cymraeg fod yn gredadwy ac yn realistig.

Mae Mihangel Morgan yn un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt.

O ble y daethai’r holl gathod hyn a beth oedd eu hystyr?

Pynciau:

#Gwynt y Dwyrain
#Mihangel Morgan
#Saunders Lewis