Dadansoddi

Llythyrau

Austerlitz W G Sebald

Amrywiol
22·07·2017

Grym cyd-ddigwyddiad

Roedd yn bleser darllen ysgrif Mererid Puw Davies am Austerlitz (2001), nofel fawr W G Sebald [O'r Pedwar Gwynt, Pasg 2017]. Mae'n sôn am rym cyd-ddigwyddiadau, sy'n thema gan yr awdur, ond dywed nad oedd stori 'Dafydd Elias', prif gymeriad y nofel, yn un wir. Stori'r nofel yw bod Jacques Austerlitz, a ddaeth i'r wlad ar y Kindertransport, wedi ei fagu gan weinidog a'i wraig yng Nghymru, a'r ddau wedi ceisio celu pob gwybodaeth am ei gefndir ac wedi rhoi iddo'i enw newydd.

Mae amlinell y stori, fodd bynnag, yn wir: dyma ddigwyddodd i Susi Bechhöfer, a gofnododd ei hanes hi ei hun, gyda chymorth Jeremy Josephs, yn Rosa's Child (1996). Er mawr ofid iddi hi, bu i Sebald fenthyca neu ddwyn ei stori, heb gydnabod hynny'n gyhoeddus, er iddo gydnabod hynny iddi hi'n bersonol ar y pryd a chydnabod hynny wedyn cyn ei farw. Mae Susi Bechhöfer yn nodi hyn mewn erthygl a ymddangosodd yn y Sunday Times, Mehefin 30, 2002, ac mae trafodaeth ar y cyswllt rhwng ei stori hi a nofel Sebald gan Martin Modlinger yn The Kindertransport to Britain 1938/39, Cyfrol 13, 2012 (tt.219-232). Dywed Modlinger bod nodiadau Sebald ar fywyd Susi Bechhöfer, wrth iddo baratoi ei nofel, yn y Deutsches Literaturarchiv yn Marbach, ond gwrthododd asiant Sebald i Modlinger ddefnyddio'r nodiadau.

Mae hanes Susi Bechhöfer yn un digon trychinebus. Ar ôl cyrraedd Llundain ar y Kindertransport, cafodd ei mabwysiadu gan y Parch. Edward Mann a'i wraig, o Gaerdydd, a newidiwyd ei henw i Grace er mwyn dileu ei hunaniaeth. Cafodd ei cham-drin yn seicolegol gan y ddau, ac yn rhywiol gan y gweinidog o Fedyddiwr. Yn ddiweddarach darganfu pwy ydoedd a dod i wybod i'w mam gael ei lladd yn Auschwitz.

Er bod Sebald wedi newid rhyw y cymeriad, a lleoliad y stori yng Nghymru, cadwodd at yr un elfennau storïol a seicolegol, sef bod gweinidog a'i wraig, yn ddi-blant, wedi mabwysiadu plentyn a gwneud eu gorau glas i wthio'u cred efengylaidd arno, gan newid ei enw a dileu ei hunaniaeth. Yna, yn ddiweddarach yn ei fywyd, mae'r plentyn, wedi cyfnod hir o wadu pwy ydoedd, yn mynd ati i geisio ail-greu ei orffennol. Daw i wynebu effaith secolegol erlid gwleidyddol hanner can mlynedd yn ddiweddarach, sy'n brofiad cyffredin i ddisgynyddion rhai a erlidiwyd.

Ar nodyn ysgafnach, mae ambell gyd-ddigwyddiad anfwriadol yn rhan o'r cefndir. Enw mam Sebald oedd Rosa. A dyddiad ei ben-blwydd ef a phen-blwydd Susi Bechhöfer oedd y 18fed o Fai.

                            Heini Gruffudd, Abertawe

 

Beth ydi stori wir?

Mae hunangofiant Susi Bechhöfer, Rosa's Child: The True Story of One Woman's Quest for a Lost Mother and a Vanished Past, a ysgrifennwyd ar y cyd efo Jeremy Josephs, yn llyfr syfrdanol. Mae'n tystio i ddewrder eithriadol Susi Bechhöfer wrth iddi ymdopi â phrofiadau eithafol trwy ei bywyd ac, er hynny, mentro'n ddyfal i archwilio ei hanes ei hun. Ac ar ben hynny, mae'n llyfr dewr oherwydd bod Susi Bechhöfer yn dadlennu'r hanes poenus yma yn gyhoeddus ynddo. Ni all rhywun ond rhyfeddu at ei gwrhydri. Mae Rosa's Child, felly, yn gamp ac yn drysor. Nid oes posib rhagori arno.

Yn Austerlitz, mae Sebald yn codi manylion trawiadol o'r hunangofiant, megis y profiad tyngedfennol o glywed rhaglen radio am y Kindertransport, neu o orfod torri enw diarth ar bapur arholiad, ac enwi dim ond dau ohonynt. Yn y cyswllt yma, oes, mae yma stori wir yn ddi-os. Ac eto, ar yr un pryd, mae Sebald yn trawsnewid y defnydd o stori Susi Bechhöfer, a hynny nid yn unig am ei fod yn defnyddio technegau'r nofel yn hytrach na'r hunangofiant. Er tristed hanes Jacques Austerlitz, fel y cydnabu Sebald ei hun, roedd profiadau a phrofedigaethau Susi Bechhöfer yn waeth fyth, a hynny nid yn unig am nad person ffuglennol mohoni hi. Yn ogystal, bachgen ydi Jacques Austerlitz, wrth gwrs, nid geneth, a München oedd cartref teulu Bechhöfer, tra bod Austerlitz yn hanu o Brâg. Morwyn dlawd, ddibriod a sengl oedd Rosa Bechhöfer, mam Susi; cantores opera lwyddiannus ydi mam Jacques Austerlitz, sy'n cyd-fyw mewn perthynas ddelfrydol â chymar yr un mor hudolus. I'r Bala, ac nid i Gaerdydd, mae Jacques Austerlitz yn mynd i fyw, ac mae llawer o newidiadau eraill i'w gweld hefyd yng ngwaith Sebald, a buasent yn destun addas i astudiaeth gyfan. Yn bennaf oll, yn fy marn i, mae un o brif gymeriadau Rosa's Child yn diflannu bron yn llwyr o'r nofel, sef Lotte Bechhöfer, gefeilles Susi, a fu farw'n oedolyn cymharol ifanc wedi gwaeledd hir a phoenus. Dim ond cysgod o'r ferch hon o gig a gwaed sydd i'w weld yn y nofel, yn ffantasi plentyndod Jacques bod ganddo efell anweledig. Bydd darllenydd sy'n anghyfarwydd â hanes Susi Bechhöfer yn debygol o ddehongli'r efell yma yn hollol ffigyrol, sydd eto fel rhith unheimlich yn ei ymyl, a cholli golwg ar y wraig real yn llwyr.

Yn ogystal, yn Austerlitz mae Sebald yn cyfuno myrdd o elfennau o ffynonellau amrywiol eraill efo agweddau o fywyd Susi Bechhöfer - o lyfr hanes arloesol yr hanesydd mawr H G Adler am ghetto Theresienstadt, lle y bu'r awdur ei hun yn garcharor, a lle llofruddiwyd ei wraig a'i fam yng nghyfraith, hyd at ddyfyniadau cudd o waith Franz Kafka. Yn wir, mae'r gyfeiriadaeth yn Austerlitz at yr efell anweledig yn ein hatgoffa nid yn unig o Lotte Bechhöfer, ond o lawer o ryngdestunau eraill hefyd a fu'n ddylanwadol i Sebald ac i Foderniaeth yn gyffredinol, o waith Kafka, eto, hyd at y Rhamantydd E T A Hoffmann a Sigmund Freud.

Fel y soniais i eisoes, nid oes pwrpas ceisio gwella na diwygio Rosa's Child. Yn hytrach, yn ymwneud Sebald efo'r hunangofiant yma mae yna, yn fy marn i, rywbeth amgen ar waith. Mae enwi'r rhywbeth hwnnw'n anodd; yn sicr, mae posib darllen defnydd Sebald o hanes Susi Bechhöfer, a'i holl newidiadau, â llygad beirniadol. Gan hynny, beth sydd gan yr awdur? Ymgais i ymateb, efallai, i gyfyng-gyngor moesol celfyddyd ar ôl yr Holocost, cyfyng-gyngor a deimlai Sebald ei hun, fel llenor o Almaenwr, yn ddwys, sef sut i dystio i'r gwirionedd heb ffoi i fyd hollol esthetig na dweud anwiredd llwyr ar y naill law, ond heb hawlio siarad dros y rhieny a ddioddefodd ar y llall. Ydi, mae hon yn stori wir, ond stori wir o fath gwahanol, o fath sy'n dystiolaeth o golled enbyd. Sut mae pwyso a mesur yr ymgais yma? Eto, dyna bwnc trafodaeth eang.

Ond yn sicr, mae'r ddau lyfr yma, Austerlitz fel Rosa's Child, yn ein herio ninnau i feddwl yn fanwl am ein hanes Ewropeaidd, fel y mae eich cyfrol, Yr Erlid (2013), wrth gwrs, yn ei ddangos. Mi groesawn yn fawr gyfleon pellach i drafod yr hanes hwn.

Mererid Puw Davies, Llundain

Pynciau:

#Rhifyn 4
#Heini Gruffudd
#Mererid Puw Davies
#Llythyr