Polyn, bachyn a baner
Gair eto am farddoniaeth Gymraeg oddi ar 2010
ADATI (Awdur, Darllenydd, Amgylchiadau, Testun, Ideoleg). Defnyddiaf y gair yn aide-mémoire am y gwahanol ddulliau y gofynnir i’m myfyrwyr ddewis o’u plith pan fyddant yn ysgrifennu’n feirniadol. Pob croeso ichi fynd ati i bwysleisio bwriad tybiedig bardd wrth lunio cerdd, er enghraifft, meddaf wrthynt. Neu soniwch am eich ymateb eich hun iddi neu am yr hyn a ddywedwyd amdani gan eraill. Os dymunwch, meddyliwch am y gerdd fel cynnyrch ei chyfnod. Neu beth am ei thrin fel codi bonet car: hyn a hyn o gydrannau yn cydweithio neu’n peidio â chydweithio? Neu os credwch fod rhywbeth gwerth ei ddweud amdani drwy ddehongliad penodol o’r byd – perthynas pobl â’u hamgylchedd, dyweder, rhywedd, rhywioldeb, dosbarth cymdeithasol, lliw, cenedligrwydd neu hanner dwsin o ogwyddiadau eraill – peidiwch â dal yn ôl. Dilys pob un. Cyfunwch, chwaraewch; ond gyda hyn o gafeat: peidiwch â cheisio gwneud popeth.
Ond wedi darllen yn rhifyn gwanwyn 2023 y cylchgrawn hwn ymateb heriol, hollgofleidiol, feddylgar a thaer Grug Muse a Morgan Owen (‘Troedle, nid chwiw’) i fy ysgrif flaenorol innau, 'Y gwir a geir mewn eira', teimlaf y tacsonomi rhy daclus hwn yn gwegian.
Dyma geisio crynhoi. Dau fardd sydd yma yn amddiffyn y pwyslais ar gofnodi a ‘nawr-rwydd’ yn eu gwaith eu hunain a’u cyfoeswyr rhag cyhuddiadau o ‘[dd]iffyg dychymyg [a] gweledigaeth’. Nid yw eu ffocws ar ‘nawr-rwydd’ yn addurn nac yn ‘chwiw arddulliol’, daliant, ac ymlyniad wrth hen fetanaratifau ansafadwy erbyn hyn am wirionedd a threfn a rhyddid yw disgwyl rhywbeth amgen. Ysgrifenna beirdd y genhedlaeth wedi 2010 fel y maent, yn hytrach, oherwydd eu byw mewn ‘[o]es oruwch-dechnolegol a dinistriol’ dan fygythiad newid hinsawdd a neoryddfrydiaeth remp ac mewn byd o ‘oruwchwrthrychau’, sef cysyniadau annirnadwy o gymhleth a mawr. Dan y fath amgylchiadau, ‘troedle’ yw canu am le penodol ac amser penodol.
Ac yn yr ysbryd hwnnw, cynigiant ddarlleniadau o ‘Syrffio’ a ‘Llanw’ Guto Dafydd. Cerddi tebyg ydynt o ran eu mater: y bardd yn wynebu grym natur ar lan y môr. Fodd bynnag, oherwydd ei ‘naws gyffredinol’ fel cerdd am storm ddienw ar ddiwrnod amhenodol, mae ‘Syrffio’ yn ‘ymdoddi i’r milieu barddol oesol’. Nid yw ond ‘haniaeth neu sŵn cefndirol’. Yn ‘Llanw’ ar y llaw arall nodir amser a lle sy’n troi’r profiad yr adroddir amdano’n rhywbeth amgen. ‘Trwy’r cofnod bach dyddiadurol ac ymddangosiadol ddibwys mae’r heriau a’r bygythiadau yn llefaru â holl rym y real.’
Os cywir yr hyn a ddywed y ddau awdur (ac os teg y crynhoad hwn), rhaid ymestyn peth ar yr hyn a ddywedais yn fy ysgrif am nodau amgen barddoniaeth ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Nodais bedwar peth bryd hynny: ‘Cymerwyd tro llythrenolaidd ... Profi’n uniongyrchol. Cofnodi’n eirwir. Rhannu’n ddiffuant’. Saif y pedwar, gobeithio, ond gellir mentro eu mireinio drwy ychwanegu atynt. Drwgdybio metanaratifau cynnydd a rheolaeth. Tystiolaethu. Darlunio tyndra heb amwysedd nac eironi. Nid traethu achlysuroldeb yn unig ond ei freintio. A dweud stori. Os bu tro llythrenolaidd, bu hefyd dro naratifol.
Ac fel petai wedi’i ragarfaethu, wele ‘Ar ôl yr angladd frenhinol’ Robert Lacey rhwng cloriau’r un rhifyn o O’r Pedwar Gwynt a chyfle i straen-brofi haeriadau Morgan Owen a Grug Muse. Ai cerdd nodweddiadol o’i chyfnod yw hi?
Sylwa’r bardd ar bolyn moel lle chwifiai baner adeg angladd Elizabeth II. Clyw yng nghlust ei ddychymyg ‘gân iwtopaidd, ddwl’ Datblygu am fyd heb ddeddfau nac eiddo, ac anoga’r darllenydd i ddychmygu delfryd tebyg: ‘eich carthen gysur eich hunan ... yn bochio o bosibiliadau’.
Echel y gerdd yw paradocs y 'gwacter ffrwythlon' yn sgil yr angladd: y rheolaeth ddychmygus a gynigir wedi tynnu'r faner frenhinol (Jac yr Undeb, fel y deallais wedyn wedi siarad â’r bardd ei hun) ac wynebu dyfodol ansicr. A phan wahodda'r darllenydd i arfer yr un rheolaeth, gofynna iddi neu iddo edrych heibio i’r amherffeithrwydd, '[anwybyddu] ôl tywydd mawr ar y paent llai gwyn nag y bu', a chofleidio’r foment.
Breintio achlysuroldeb? Ie: ‘Dydd Gŵyl Sant Mihangel 2022’ yw’r is-deitl. Gwrthod ‘ymdoddi i’r milieu barddol oesol’? Ie: os yw Haf Bach Mihangel ‘yn gelwydd i gyd’ gan T H Parry-Williams yn y dyfyniad a godir gan Robert Lacey, fe’i cynysgaeddir â gwirionedd yma. Ceisio troedle? Yn bendant, er y byddai bachyn ar bolyn i glymu baner wrtho yn nes ati yn yr achos hwn. Polyn grym, bachyn achlysur a baner stori.
Ac os deallais lith Grug Muse a Morgan Owen yn iawn, mai fel rhes o faneri naratifol newydd ar bolion a blannwyd gan eraill y dylid synio am gerddi'r degawd diwethaf, yn llawn potensial, ‘yn bochio o bosibiliadau’, priodol yw cloi gyda diolchiadau. Yn gyntaf, i'r ddau awdur am ddangos imi rywbeth nad oeddwn yn ddigon craff i'w weld cyn hyn, sef nad oes gwrthdaro rhwng y llythrennol a'r trosiadol; ac yn ail, i Robert Lacey am fy ngwahodd i ddychmygu rhywbeth yn chwifio bob tro y gwelaf bolyn gwag.
Mae T Robin Chapman yn uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.