Trallod yr iaith
Socrates ar y stryd
O ystyried y diffyg ymateb a fu i ganlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf (2021), prin y byddai rhywun yn credu fod canran siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru ar ei isaf erioed. Er gwaethaf cynnydd parhaus y system addysg Gymraeg, sy’n creu mwy o siaradwyr newydd bellach, mae’r niferoedd sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn is nag erioed. Ond myfyrgar a chymedrol iawn fu’r trafod cyhoeddus ar hyn: fu braidd dim crochlefain am atebion, neu fynnu ymateb o du’r Llywodraeth; fu neb lawer yn pwyntio bys nac yn cwestiynu dividend datganoli ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Wrth inni dreulio’r ystadegau hyn eleni, darlledwyd y gyfres Stori’r Iaith ar S4C, rhaglen a oedd yn ddi-ildio yn ei neges gadarnhaol ynghylch y Gymraeg. Crynhowyd yr hunan-dwyll i mi gan faster y dathlu ar-lein a gafwyd mewn ymateb i sylw’r academydd David Crystal, a amlygodd fod y Gymraeg yn gwneud yn ddigon da, diolch yn fawr, o gymharu â’r 6,000 neu fwy o ieithoedd eraill sydd mewn peryg. Efallai bod y diwedd o fewn golwg i’r Gymraeg fel iaith gymunedol ddiofyn (default), ond mi fydd ei gweddillion yma o hyd, am y tro o leiaf, tra bydd mwyafrif ieithoedd lleiafrifedig y byd wedi hen fynd. I mi, roedd yr ymateb hwn yn rhy agos o lawer i’r collfarnedig yn dawnsio ar feddau’r meirw, ar eu taith droëdig i’r crocbren.
Mewn byd eithafol-empirig lle mae tystiolaeth feintiol yn teyrnasu dros bob gwybodaeth o fath arall, rhaid gofyn sut yn y byd y daethom i sefyllfa lle nad yw ystadegau mor ddadlennol yn achosi dim byd mwy na rhyw grafu pen a rhwbio gên myfyriol. Yn wir, mae’r tawelwch haelfrydig yn ymylu ar ffars o gofio bod gennym darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Os trefnu polisi cyhoeddus ar sail meintiol anedifeiriol, rhaid mesur ei lwyddiant yn yr un modd, ac mae’r agendor rhwng rhethreg ‘Cymraeg 2050’ a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn ategu eto fyth ddadleuon rwyf wedi eu mynegi droeon: geiriau gwresog a diffyg gweithredu yw’r Welsh way erbyn hyn.
*
Beth y mae dau ddegawd o ddatganoli wedi ei gyflawni o ran y Gymraeg? Onid oedd y seiliau ar gyfer ymchwydd yn y niferoedd wedi eu gosod eisoes, a’r grymoedd newydd yn addo mesurau cadarn, rhagweithiol o blaid yr iaith? Onid oeddem wedi dod ymhell ers dyddiau tywyll y chwedegau cynnar gyda’r mudiad iaith yn sicrhau enillion sylweddol ar lefel statudol? Roedd y system addysg Gymraeg yn cryfhau, ac efallai’n bwysicach na dim, roedd y ddadl normadol fel petai wedi ei hennill – neu o leiaf roedd y mwyafrif llethol erbyn y mileniwm newydd fel petaent wedi ildio i’r egwyddor bod y Gymraeg yn rhywbeth i’w chefnogi a’i gwerthfawrogi, i ddeddfu o’i phlaid.
Buddugoliaeth hanfodol oedd y fuddugoliaeth seicolegol hon o ystyried brwydrau ideolegol canol y ganrif a’r gwrthwynebiad ffyrnig, a siofenistaidd yn aml, yn erbyn y Gymraeg. Ymddengys taw ‘Na’ oedd yr ateb i gwestiwn J R Jones yn ei ddarlith, A Raid i’r Iaith Ein Gwahanu? (1967), ac yn wir roedd fel petai nifer fawr wedi mabwysiadu’r safbwynt yr oedd yr athronydd yn dadlau drosto yn y testun hwnnw, sef bod angen i’r di-Gymraeg allu adnabod a derbyn lle annatod y Gymraeg wrth wraidd yr hunaniaeth Gymreig, a chefnogi adfywiad yr iaith o ddifri. Cofiaf yr Athro Colin Williams, mewn cyfarfod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn crynhoi’r sefyllfa trwy awgrymu bod Cymru wedi symud o gyfnod o frwydrau gwleidyddol, ideolegol a syniadol i gyfnod newydd o normaleiddio’r Gymraeg, lle mae’r pwyslais i fod ar brif-ffrydio’r iaith i’r gymdeithas a’i sefydliadau ar sail ei statws sefydledig. Roedd Mesur y Gymraeg 2011, a’r safonau sydd wedi deillio ohono, yn ymgorfforiad o hyn ac yn gam sylweddol ymlaen. Ond rhaid gofyn, erbyn hyn, sut mae normaleiddio iaith wrth i’r niferoedd grebachu’n gyson?
*
Y caswir yw nad mater o aros a bod yn amyneddgar mo hyn ond yn hytrach argyfwng parhaol. Yn wir, ffurf ar burdan ydyw lle na fydd enillion gwirioneddol i’w gweld, ond lle na fydd dirywiad sydyn chwaith oherwydd bu digon o newid i roi stop ar y prosesau mwyaf dinistriol. Efallai bod cymhwyso syniad Gramsciaidd o interregnum i’r sefyllfa hon yn gymorth i’w hesbonio: mae’r hen ‘synnwyr cyffredin’ ynghylch israddoldeb a diffyg gwerth yr iaith wedi ei danseilio, ond er agweddau newydd torfol o blaid y Gymraeg, nid yw hyn wedi ffurfio yn hegemoni newydd ymysg aelodau’r dosbarth llywodraethol. Un peth yw derbyn rhethreg y ddelfryd o filiwn o siaradwyr, peth cwbl wahanol yw ei gwireddu. Mae hynny’n golygu mwy nag ymrwymiad ambell wleidydd pwysig a chabál o weision sifil canolog – mae’n gofyn argyhoeddiad ar ran cynghorwyr sir, eu huwch-swyddogion, penaethiaid a staff ysgolion, rhieni di-Gymraeg, a siaradwyr yr iaith ei hun. Rydym ymhell o hynny.
Mae gen i brofiad personol o hyn fel rhan o griw a fuodd yn ymgyrchu dros sefydlu ysgol Gymraeg gynradd yn Nhre-biwt a Grangetown yn ne Caerdydd. Dyma gymunedau mwyaf amrywiol y wlad o ran ethnigrwydd a chymunedau amlwg i sefydlu addysg Gymraeg ynddynt os ydym am sicrhau mynediad tecach at yr iaith a sylwedd i’r honiad ei bod yn iaith i bawb. Roedd gweinidog addysg y llywodraeth ar y pryd wedi cydnabod yr angen hwn trwy sicrhau arian ar gyfer ysgol Gymraeg i Grangetown o’r rhaglen ganolog Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Fodd bynnag, agwedd y gwleidyddion lleol (yn Aelodau Seneddol ac aelodau’r cyngor fel ei gilydd), a gyda chydweithrediad digon parod eu swyddogion, oedd mai gwell fyddai atal y cynllun a ffrydio’r arian i ysgol mewn ward gyfagos.
Bu rhaid wrth frwydr ffyrnig – a thalp o lwc gyda phenodi arweinydd Llafur newydd a chefnogol, Phil Bale, i Gyngor Caerdydd – er mwyn agor ysgol, a hynny wedi tair blynedd o ymdrechu a fu’n hunllefus ar brydiau. Treuliais ddigon o amser yng nghwmni rhai o’r cynllwynwyr yn y gangen Lafur leol i sylweddoli mor drawiadol o wrthwynebus yr oeddynt i’r cynlluniau, yn rhannol oherwydd eu pryder y byddai sefydlu ysgol Gymraeg yn golygu meithrin ward o genedlaetholwyr ac felly colli pleidleisiau (dyma un enghraifft o wleidyddion a oedd yn fodlon chwarae’r ‘gêm hir’!). Prin oedd y gefnogaeth o fewn corneli eraill Llafur Caerdydd a chadw ei ben i lawr wnaeth yr aelod cabinet ifanc dros ddiwylliant, a oedd â’i lygad ar yr arweinyddiaeth. Does dim syndod mai dyma’r unig ysgol Gymraeg newydd sydd wedi ei hagor yn y brifddinas ers degawd a mwy.
Dyma’r sefyllfa mewn nifer o gynghorau, y cyrff sydd yn ymarferol gyfrifol dros ehangu addysg Gymraeg. Er bod y polau piniwn yn dangos lefelau uchel o gefnogaeth i’r iaith, pan ddaw at weithredu, nid yw’r uchelgais dros y Gymraeg yn bodoli yn y mannau perthnasol. Ymhellach, fel y daeth yn hysbys yn ystod yr ymgyrch, nid oes gan y llywodraeth ganolog yr ewyllys na’r asgwrn cefn i sicrhau’r newid. Er bod ein hymgyrch ni ar gyfer yr ysgol hon wedi bod mewn cymuned sydd ar stepen drws y Senedd, anwybyddu’r sefyllfa yn llwyr a wnaeth y gweinidog addysg a’r prif weinidog. Doedd dim ewyllys i ymyrryd, ac yn wir, roedd yn amlwg bod y gyf-undrefn ei hun wedi ei saernïo er mwyn iddynt osgoi cyfrifoldeb o’r fath.
Er tegwch, y mae’r papur gwyn ar addysg Gymraeg sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yn ceisio ymateb i rai o ddiffygion y drefn. Cynigir diddymu gofyniad i ddangos ‘y galw’ am ysgol Gymraeg, cam allweddol o ystyried yr ystrywiau niferus y mae egwyddor o’r fath yn agored iddo – heb sôn am y ffaith bod mynnu ‘galw’ yn gwbl ddireswm pan fo strategaeth iaith y llywodraeth yn cymryd yn ganiataol yr awydd a’r angen cyffredinol i ehangu addysg Gymraeg. Awgrymir hefyd y bydd ymyrraeth ar ran y llywodraeth ganolog yn rhan o’r gyfundrefn newydd, a nodir: ‘Lle bo awdurdod lleol yn methu, neu yn debygol o fethu, â chymryd camau rhesymol i weithredu ei gynllun, mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd.’
Ceir arwyddion, felly, o ymgais i osod fframwaith ystyrlon ar waith. Ar y llaw arall, o safbwynt un sy’n gweithio mewn addysg uwch, mae’r diffyg sylw a roddir i rôl prifysgolion yn drawiadol. Dyma’r sefydliadau a fydd yn creu’r genhedlaeth nesaf o athrawon Cymraeg, cam holl bwysig o ystyried y prinder presennol. Anodd sylwi ar yr agendor yma heb deimlo ei fod yn adlewyrchu diffyg diddordeb cyffredinol ein dosbarth llywodraethol yn ein prifysgolion. Adlewyrchir y gwendid hwn gan hynny o drafodaeth sydd ar y gweithredu diwydiannol presennol; i’r anwybodus byddai’n awgrymu nad yw’r cyfrifoldeb dros addysg uwch hyd yn oed wedi ei ddatganoli. Hyd y gwelaf, polisi amlycaf ein llywodraeth yn y maes hwn yw’r Rhwydwaith Seren, sef ymgais i ddihysbyddu Cymru o’u hieuenctid mwyaf disglair trwy eu hwrjio i’r prifysgolion blaenllaw yn Lloegr.
*
Mae’r patrwm cyfarwydd o weithredu gwamal y Llywodraeth Lafur y mae’r Ddeddf Addysg yn ceisio mynd i’r afael ag ef yn un sy’n gyfarwydd ar draws nifer o feysydd, fel yr amlinellwyd yn y gyfrol The Welsh Way (2021) (y buais ynghlwm â’i golygu). Yn achos y Gymraeg, fodd bynnag, nid yn unig methiant sefydliadol sydd yn y fantol. Y mae yna reswm mwy sylfaenol dros yr anghydfod, sef y diffyg yng nghalonnau ac ysbryd y sawl sydd â’r grym i weithredu. Lle mae trwch y boblogaeth yn lled gefnogol ond yn ddigon digynnwrf neu’n rhy brysur i ymwneud yn ymarferol, a lle mae difaterwch a gwrthwynebiad yn llechu yn yr uchelfannau holl bwysig, mae’n gofyn dycnwch ac ymgyrchu di-baid i gael y maen i’r wal. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae gwarchod y Gymraeg, ond erbyn hyn chwyldro o fath arall sydd ei angen – chwyldro parhaus (a benthyg geiriau Marx) sydd yn gofyn bod blaen y gad yn parhau i wthio’n ddidrugaredd yn wyneb yr holl anawsterau lleol a rhyngwladol sy’n sefyll yn y ffordd. Oherwydd tu hwnt i’r trafferthion â chynghorau neu Lywodraeth Cymru mae tueddiadau byd-eang hefyd yn milwrio yn ein herbyn wrth i gymunedau ieithyddol lleiafrifedig grebachu yn wyneb gormes ddiwylliannol, economaidd a gwleidyddol. Y gwir amdani yw y dylid datgan Argyfwng Ieithyddol ochr yn ochr â’r Argyfwng Hinsawdd, gan gydnabod mai’r un grymoedd yn aml sydd wrth wraidd y ddwy broblem.
Nes bydd y grymoedd rheiny wedi eu ffrwyno, anghenraid yw mudiad iaith sydd yn herio ym mhob ffordd, ac sydd yn ennyn cefnogaeth dorfol drwy amryfal feysydd. Nid normaleiddio’r iaith ddylai cenhadaeth gyntaf ein sefydliadau fod, ond parhau i danio’r dychymyg a’r ewyllys i gynnal y chwyldro hwn. Nod swyddogol yr Urdd, y mentrau iaith, a’n prifysgolion yw cynnig cyfleoedd i arfer y Gymraeg mewn parthau amrywiol. Er mwyn i hynny lwyddo, mae angen hefyd gynnal yr ysbrydoliaeth waelodol dros adfer iaith. Y Gymdeithas Bêl-droed yw’r un sefydliad sydd wedi llwyddo yn hynny o beth, gan hyrwyddo’r hyn rwyf wedi ei alw’n hanesion go iawn yn fy nghyfrol Ysbryd Morgan (2020). Dyma hanesion sy’n ‘syllu i’n gorffennol er mwyn adnabod ein gwirioneddau’ ac sydd yn eu gweu yn naratifau sy’n ‘cynnig gwerth a balchder a phwrpas [...] yr hyn sydd ei angen arnom bob un wrth geisio wynebu heriau ein bodolaeth a chynnig sadrwydd, bodlonrwydd a nerth i ni’n hunain’.
A dyma sydd ei angen i gynnal ein hymdeimlad o bwrpas yn y byd ôl-seciwlar, sydd wedi clafychu ein heneidiau trwy eu gwaredu o’r cyfrin a’r ysbrydol. Ar un wedd, digon di-nod yw’r chwyldro parhaus sy’n hanfodol er mwyn osgoi trychineb yr iaith, chwyldro nid yn unig yn ein sefydliadau ond hefyd ym mhethau pob dydd. Ond mae hefyd yn chwyldro mewnol, un sy’n llechu ym ‘mawredd yr ysbryd’.