Ynysoedd anial
Ar lannau’r afon Clud
Cal Flyn
Islands of Abandonment
HarperCollins, 384tt, £16.99, Ionawr 2021
Susan Owens
Spirit of Place
Thames & Hudson, 352tt, £25, 2020

Bryniau gweddillion siâl olew y Five Sisters yn West Lothian (Llun: Cal Flyn)
Ar yr ochr ddeheuol i’r afon Clud, gyferbyn â’r adeiladau mawreddog, llachar lle cynhaliwyd uwchgynhadledd COP26 ym mis Tachwedd eleni, mae cornel fechan o Glasgow sy’n teimlo fel rhywle anghofiedig. Er mwyn cyrraedd y llecyn hwn rhaid camu drwy giât fawr uchel sy’n gilagored. Dyw hi ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf a oes hawl gan rywun i fod yma. Ond mae’n debyg fod pa gwmni bynnag sydd bellach yn berchen ar y cilcyn hwn yn fodlon cau llygad ar yr arfer o ddod yma i gerdded, i dynnu lluniau, neu i reidio beic.
Cael eu gadael ar ôl gan don o dwtio a datblygu fu hanes Dociau Govan. Pan ail-luniwyd y tirlun ôl-ddiwydiannol cyfagos ar gyfer Gŵyl Gerddi Glasgow 1988, roeddent yn dal i fod yn weithredol fel safle lle y deuai llongau i gael eu trwsio, ond fe ddaeth hynny i ben yn fuan wedyn. Erbyn hyn, mae’r graffiti ar y waliau yn datgan fod y man hwn yn lle tra gwahanol i’r adeiladau mawr cyfoes â’u cladin titaniwm a godwyd draw yn Pacific Quay gerllaw, enw nad oes ganddo unrhyw arwyddocâd hanesyddol ond a ddewiswyd i frandio hen ardal y Princes’ Dock a’r Plantation Quay. Daw nifer o bobl leol yma’n gyson. Heddiw, mae yna ddynes yn mynd â’i chi am dro ac mae pobl wedi dod i sbecian ar y prosiect amaethu gwlypdirol sydd newydd gychwyn mewn un cornel o’r safle. Mae yna lwyni coed mêl (buddleia) a choed bedw a sycamor yn gwthio’u ffordd drwy holltau rhwng slabiau concrit, ac ambell iâr fach yr haf ar ddiwedd tymor yn symud drwy’r awyr lonydd. O dro i dro, daw pysgotwyr i eistedd yn amyneddgar i geisio dal brithyll, llyswennod, neu ledod.
Mi fyddai rhai yn dadlau nad oes gwerth arbennig i lecyn dadfeiliedig fel hwn yn ein byd ni heddiw, ond mae eraill yn gweld ei bwysigrwydd a’i botensial. Mae’r prosiect ffermio gwlypdirol, er enghraifft, yn gweithio gyda’r hyn sydd yma eisoes i greu storfa garbon ac i gyfrannu at rwydwaith o dyfu bwyd yn lleol. Mae’n ein herio hefyd i ystyried a oes yna ffyrdd eraill o ddatgan pwysigrwydd lleoedd, heblaw codi creadigaethau anferth fel yr amgueddfa wyddoniaeth a’i thŵr uchel neu adeilad hyderus Zaha Hadid ym mhen arall yr afon.
‘Glasgow made the Clyde and the Clyde made Glasgow’ yw’r dywediad cyfarwydd am y ddinas hon yng ngorllewin yr Alban. Siapiwyd yr afon yn ofalus gan ddynion a oedd â’u bryd ar greu sianel ddofn y gallai llongau mawr ei mordwyo er mwyn hwyluso masnach rhwng Glasgow a gweddill y byd – yn cynnwys y byd o blanigfeydd a chaethwasiaeth a oedd mor erchyll o broffidiol yn ystod y 18g a’r 19g. Ond prin y mae rhywun yn synhwyro presenoldeb yr afon yn y ddinas heddiw. Heblaw, wrth gwrs, am leoedd fel dociau sych Govan lle mae hisian y llanw wrth iddo dorri drwy ddrysau’r dociau yn ein hatgoffa o brosesau cymhleth a dylanwad yr afon ar hanes y lle a’i bobl.

Dociau Govan (Llun: Steffan Gwynn)
Mae’r dociau hyn yn drothwy mewn mwy nag un ystyr. Mae’r grisiau serth sy’n arwain i lawr at y dŵr mewn tri o’r dociau cul, hirsgwar fel pe baen nhw’n ein tywys yn gorfforol ac yn feddyliol drwy haenau o orwelion hanesyddol. Ac mae’r tegeirian prin a’r coed ifanc sydd wedi gwreiddio yn y pridd tenau rhwng y coblau o gylch y basnau yn dystiolaeth o’r hyn yw’r safle heddiw, o bosibiliadau’r lle i’r dyfodol. Dyma lecyn bychan ei faint ond mawr ei arwyddocâd hanesyddol; ac mae curiad bywyd tawel y man fel ag y mae heddiw yn cyferbynnu â’r bwrlwm a welwyd ar lwyfan byd-eang yr uwchgynhadledd ar yr ochr arall i’r afon.
*
Dyma’r math o le a allai fod wedi cydio yn nychymyg yr awdur a’r newyddiadurwr o’r Alban, Cal Flyn, wrth iddi ysgrifennu Islands of Abandonment (2021). Yn y gyfrol hon mae hi’n teithio i wyth o wledydd er mwyn chwilio am leoedd a adawyd gan bobl – lleoedd sydd bellach wedi eu cytrefu gan rywogaethau chwimdyfol (ruderal), planhigion sy’n gallu manteisio’n sydyn ar gynefinoedd wedi’u haflonyddu. Mae hi’n mynd i’r mannau adnabyddus, megis Chernobyl yn yr Wcráin neu Zone Rouge Verdun yn Ffrainc, ond hefyd i leoedd nad ydynt wedi eu gwreiddio i’r fath raddau yn ein hymwybyddiaeth: megis Harju yn Estonia, Plymouth ar ynys Montserrat yn y Caribî, a thir mynyddig Amani yn Tanzania. Yn yr Alban, mae hi’n ymweld ag Ynys Swona yng nghulfor Pentland (rhwng Caithness ar y tir mawr ac Ynysoedd Erch) ac â’r bryniau o weddillion siâl olew – y Five Sisters – yn West Lothian.
Mae hi’n rhybuddio’r darllenydd yn gynnar yn y llyfr: ‘If this is a nature book, it is not one that rhapsodises upon the allure of the untouched.’ Nid oes gan Flyn ddiddordeb yn y math o estheteg sy’n rhamanteiddio dadfeiliad a dinistr. Yn hytrach, mae hi’n rhoi’r pwyslais ar brosesau ecolegol ac yn bwrw golwg feirniadol ar berthynas pobl â’r lleoedd ‘diffaith’ hyn. Cawn ein herio ganddi i ailystyried ein canfyddiad o safleoedd fel dociau sych Govan. I ba raddau mae tueddiad ynom i edrych ar fannau y mae pobl wedi cefnu arnynt drwy lens rhamantaidd neu bictwrésg; neu, fel arall, eu gweld fel lleoedd sydd angen eu datblygu neu eu gwella?
Mae hi’n dechrau procio drwy ddyfynnu’r cadwraethwr a’r coedwigwr Americanaidd Aldo Leopold gan ddweud bod ein gallu i ganfod yr hyn sy’n werthfawr mewn natur yn dueddol o ddechrau ‘as in art, with the pretty’. Aiff yn ei blaen i drafod y term ‘diffeithdir’ a sut y mae wedi newid dros y canrifoedd; mae’n tynnu sylw, er enghraifft, at y ffaith bod gwlypdiroedd a ddraeniwyd yn ystod yr 17g, oherwydd iddynt gael eu hystyried yn dir amaethyddol sâl, bellach yn cael eu gwerthfawrogi fel ardaloedd o werth cadwraethol ac yn dir sy’n allweddol bwysig o safbwynt y frwydr i daclo’r argyfwng hinsawdd, a dyma ei phrif ddiddordeb yn y gyfrol hon.
Yn hynny o beth, mae hi mewn deialog â llyfr arall a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef Spirit of Place (2020) gan Susan Owens. Mae’r llyfr hwn yn olrhain y newid a fu yn agweddau pobl tuag at gefn gwlad ym Mhrydain dros y canrifoedd, a’r ffordd y mae artistiaid a llenorion wedi cyfrannu at siapio’r newid hwnnw. O bennod i bennod, disgrifia Owens y newid yn ein perthynas â’r dirwedd o’n hamgylch a hynny ymhell cyn dyfodiad y term poblogaidd landscape a gysylltwyd gyda thraddodiad peintio tirluniol yn yr Iseldiroedd yn yr 17g. Esbonia sut y bu i ddylanwad artistiaid a llenorion y 18g newid canfyddiadau pobl o fynydd-dir fel llefydd dychrynllyd ac anghynnes – gan annog math newydd o estheteg. Dyma’r estheteg a ddenodd dyrfaoedd i ardaloedd fel Ardal y Llynnoedd, i werthfawrogi gerwinder ac anghymesuredd, a’r cyfosodiadau amrywiol o ran gwead, goleuni, a lliwiau.
Un o bleserau darllen llyfr Owens ochr yn ochr â llyfr Flyn yw dod i ddeall yn well yr amrywiol ffyrdd mae pobl wedi canfod a dehongli’r byd o’u cwmpas, a gwerthfawrogi fod hyn yn rhywbeth sydd yn amrywio dros amser. Mae trafodaeth fanwl Owens hefyd yn gymorth i roi cyd-destun i ddadl Flyn, sef nad oes y fath beth â ‘thirlun’ gwrthrychol, mewn gwirionedd; yr hyn sy’n real yw’r ffyrdd yr ydym wedi arfer gweld ac ymwneud â’r byd o’n cwmpas. Mae Owens yn rhoi’r un driniaeth i goedwigoedd, tirluniau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol ag i dirluniau mynyddig a’r gwlypdiroedd sydd o ddiddordeb i Flyn yn ei chyfrol hithau.
Un enghraifft drawiadol o driniaeth Owens o’r newid hwn yn y ffordd rydym wedi arfer deall – a dewis deall – y tirlun o’n cwmpas yw’r hyn a ysgrifenna am Orford Ness ar arfordir Suffolk yn ne-ddwyrain Lloegr. Tafod o gerrig mân yw Orford Ness: mae’n dechrau ger tref Aldeburgh ac yn ymestyn tua’r de heibio pentref Orford ac yn diweddu yn ymyl rhes o dai a adwaenir fel Shingle Street. Mae Orford Ness yn lle arall y gellid dychmygu Flyn yn oedi ynddo – tirlun iasol sydd â’i siâr o hanesion rhyfedd, a hynny hyd yn oed cyn i’r lle gael ei brynu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a wnaeth ddefnydd o’r llecyn yn ystod y ddau ryfel byd a’r Rhyfel Oer fel safle i arbrofi gyda radar, balisteg, awyrennau, a’r bom atomig.
Ym 1993, fe werthwyd y tir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fod planhigion prin yn tyfu yn y gro. Y flwyddyn flaenorol, roedd yr awdur a’r academydd Almaeneg o Awstria, W G Sebald, wedi bod yno yn ystod taith gerdded ar hyd arfordir Suffolk, a chafodd ei daro gan naws anghyfannedd y lle. Doedd pobl ddim wedi tarfu ar y darn hwn o dir ers y 1970au, pan gafodd nifer o arfau eu dinistrio wrth i bresenoldeb y fyddin ar y safle ddod i ben. Wrth i Sebald gerdded ar hyd llwybr tarmac, a llystyfiant yn hawlio’u gofod yn yr holltau, cafodd ei daro gan wacter y tirlun; disgrifia sut y bu iddo golli pob ymdeimlad ag amser, fel petai wedi goroesi mewn dyfodol ôl-apocalyptaidd:
Yn gynyddol, wrth i mi agosáu at yr adfeilion hyn, byddai unrhyw syniad o ynys ddirgel y meirwon yn cilio a byddwn yn dychmygu fy hun fwyfwy ymysg gweddillion ein gwareiddiad wedi ei ddifodiant mewn rhyw drychineb a berthyn i’r dyfodol ... ymhle ac ym mha amser yr oeddwn mewn difrif y diwrnod hwnnw yn Orfordness, ni wn, hyd yn oed yn awr wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn. (Die Ringe des Saturn: Eine englische Wallfahrt, 1995; cyfieithiad Saesneg: The Rings of Saturn, 1998.)
Gellir dychmygu Flyn yn defnyddio’r pwt hwn o ddisgrifiad gan Sebald er mwyn dangos i’r darllenydd sut y bu i bobl ddewis ymdrin â’r safleoedd ‘anial’ hyn yn y gorffennol. Ond ymwrthod â theimladau o’r fath a wna yn ei chyfrol a chanolbwyntio, yn hytrach, ar brosesau byd natur. Mae hyn yn adlewyrchu’r duedd gynyddol mewn ysgrifennu sy’n ymdrin â’n perthynas â’r amgylchedd – poblogaidd ac academaidd fel ei gilydd – i roi mwy o bwyslais ar brosesau ecolegol ehangach y tu hwnt i’r profiad hunan-ganolog.
Yn ei llyfr hithau, mae Owens yn nodi’r haenau o ddeongliadau sydd wedi eu hychwanegu at dirlun Orfod Ness oddi ar ymweliad Sebald. O waith sain safle-benodol Louise K Wilson, ‘A Record of Fear’, yn 2005 hyd at gyfrol arbrofol Robert Macfarlane a Stanley Donwood, Ness, a gyhoeddwyd yn 2019, mae’r ymatebion artistig yn niferus ac maen nhw oll fel petaent yn tyrchu am ryw wedd newydd ar y tirlun ysgogol hwn. Bob yn dipyn, maen nhw’n creu haenau o ddeongliadau gwahanol sydd fel ‘gorwelion’ pridd yn y ddaear, pe byddem yn mynd ati i balu ychydig o dan yr wyneb.
Ond nid gwaddodion y gorffennol yn unig sy’n cael sylw gan ymarferwyr creadigol a dehonglwyr mewn safleoedd fel hyn. Yn fwy diweddar, mewn arddangosfa a lwyfannwyd rhwng Gorffennaf a Hydref 2021, llanwyd adeiladau adfeiliedig Orford Ness â gosodiadau celf newydd sy’n archwilio dyfodol y safle. Mewn darn o’r enw ‘Lethality and Vulnerability’ gan Alice Channer, er enghraifft, mae grym byd natur yn gwthio’i ffordd i’r wyneb mewn cwlwm metalaidd o dyfiannau sy’n edrych fel coesynnau mieri anferth, blêr, a phigog. Mae’r darn yn dwyn sylw, yn ôl yr artist, at wytnwch byd natur yn wyneb yr arbrofion militaraidd a gynhaliwyd yn Orford Ness a’r effeithiau hir dymor ar gyrff planhigion ac anifeiliaid. Unwaith eto, caiff y profiad hunan-ganolog ei osod o’r neilltu er mwyn canolbwyntio ar brofiadau rhywogaethau eraill, a deall ‘pobl’ fel un math arall o greadur mewn gwead cymhleth.

Orford Ness (Llun: Scott Wylie/Flickr)
Mae’n ddiddorol fod gennym, yn y Gymraeg, y gair ‘tirlun’ i ddisgrifio’r hyn a welwn o’n cwmpas (fel golygfa mewn darlun) ond hefyd y gair ‘tirwedd’, sy’n cyfleu yn fwy effeithiol yr aml-haenau a’r dyfnder sy’n perthyn i le. Byrdwn Flyn yw dangos bod gwerth a dwyster ecolegol i’r lleoedd hyn, gan ein hannog i altro ein canfyddiad o ddiffeithdiroedd. Ac fel mae Owens yn pwysleisio, mae gan ymarferwyr creadigol rôl bwysig yn natblygiad ein dealltwriaeth o dirluniau a thirweddau dros amser.
*
Pan ddaeth y gwaith i ben yn Nociau Govan ar ddiwedd y 1980au roedd y diwydiant adeiladu llongau wedi bod yn nodwedd bwysig o ddinas Glasgow ers degawdau lawer. Er iddynt aros yn wag oddi ar hynny, mae presenoldeb y diwydiant hwn yn dal i fod yn fyw ym meddyliau a dychymyg pobl leol, sy’n gweld rhyw ôl ac adlais o’u gorffennol a’u treftadaeth yn y dociau â’u hadeiladau adfeiliedig.
Yn debyg i Orford Ness, mae Dociau Govan wedi bod yn gyrchfan i artistiaid hefyd. Yn fuan wedi i’r dociau gau, cafodd yr artist safle-benodol Stuart Brisley wahoddiad i lwyfannu gwaith yno. Tynnodd ar syniadau Marcsaidd am yr economi wleidyddol ddinesig er mwyn cyfleu rhywfaint o hanes diwydiannol y lle. Gan ddefnyddio mannequins o faint taldra dyn ac wedi eu castio ar ffurf ffigwr eiconaidd Action Man, curadodd Brisley sawl gosodiad ar draws y dociau o fewn un diwrnod. Ond digwyddodd pennod ddiddorol yn eu hanes pan ddaeth trigolion lleol, liw nos, i ymyrryd yn y gwaith.
Aildrefnwyd y gosodiadau ganddynt i gychwyn, yna chwalwyd y mannequins yn ddarnau a’u gwasgaru. Gwyliodd Brisley hyn yn digwydd, cyn penderfynu ymuno yn y ffrae. Gallai werthfawrogi fod y trigolion yn mynegi ymateb dwfn ac emosiynol i’r safle. Y bore wedyn, casglodd ynghyd y darnau chwâl a’u trefnu yn y doc canol, a oedd wedi cael ei bwmpio’n sych ar gyfer ei osodiad. Trodd Brisley y pwmp i ffwrdd, a gadael i ddŵr yr afon lifo i mewn yn araf. Fesul modfedd, fesul diwrnod, gorchuddiwyd y pentwr o gymalau plastig nes nad oedd dim yn y golwg. Trodd gweledigaeth un dyn, yn ymateb i’r safle a’i hanes diwydiannol, yn weledigaeth gymunedol.
Mae gwaith Brisley, a’r ymateb lleol iddo, yn ein hatgoffa o gyd-destun diwylliannol a chymdeithasol safleoedd ‘anial’. Ac mae un o’r penodau cryfaf i mi yng nghyfrol Flyn yn delio ag effaith safleoedd fel hyn ar y cymunedau sy’n byw o’u hamgylch yn ninas Detroit. Cwyna’r trigolion fod rhai’n cael eu denu yno i edmygu gwedd ffotogenig yr adeiladau sy’n prysur ddisgyn yn ddarnau, heb boeni am y cyd-destun ehangach a’r oblygiadau i’r rhai sy’n byw’n lleol. Wrth drafod malltod (blight) yn Detroit, mae Flyn yn dychwelyd i’r Alban i ystyried sut mae’r term wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ffenomen yn ninas Glasgow: mae cyfradd marwolaethau annhymig yno 30% yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol. Disgrifia ei phrofiad, fel newyddiadurwr, yn cyfweld â gwyddonydd ac yn teimlo ei hun yn cael ei chyfareddu gan y ffenomen ddyrys hon, cyn i’r gwyddonydd ei hatgoffa nad yw rhyfeddu yn gwneud unrhyw les i fywydau pobl Glasgow. Y cerydd hwnnw sy’n tynnu Flyn yn ôl at straeon personol y bobl y mae hi’n cwrdd â nhw yn ystod ei theithiau.
Un o’r ffactorau sy’n gyfrifol am gyfradd uchel marwolaethau annhymig Glasgow, yn ôl tystiolaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yw agosrwydd rhai cymunedau at safleoedd anial. Mae diffeithdiroedd yn medru cael effaith andwyol ar iechyd a lles pobl o ganlyniad i’r effeithiau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â nhw – ffactorau fel llygredd, troseddu, ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Daw Flyn i weld, ar ei stepen drws ei hun, felly, un o agweddau mwyaf negyddol ‘ynysoedd anial’ ei llyfr, sef y term a fathwyd ganddi er mwyn disgrifio’r diffeithdiroedd hyn.
Daeth nifer o lecynnau anial Glasgow i fod o ganlyniad i benderfyniadau i gau ffatrïoedd a gweithleoedd, neu i ail-leoli cymunedau mewn rhannau eraill o’r ddinas fel rhan o gynlluniau adfywio dinesig. Dyma’n union a ddigwyddodd yn Govan. Fe allai Flyn fod wedi canolbwyntio ymhellach ar yr agwedd gymdeithasol hon – mae straeon pobl mor ganolog i’w chyfrol ac maen nhw’n amlwg o ddiddordeb iddi hithau. Ac eto, ychydig o ofod y mae hi’n ei neilltuo i roi ystyriaeth ofalus i brofiadau pobl sy’n byw’n agos neu oddi mewn i’r diffeithdiroedd amrywiol a ddisgrifir ganddi. Dadlau y mae Flyn y dylid camu’n ôl a pheidio ymyrryd â’r prosesau naturiol sy’n digwydd mewn llecynnau anial – drwy weithredu prosiectau cadwraeth fwriadol neu gynnal gweithgaredd sydd er budd adfer y safleoedd hyn. Mae hynny’n ddadl ddigon teg, ond ddim bob amser yn egwyddor y gellir ei dilyn yn haearnaidd yng nghyd-destun y diffeithdiroedd a ddisgrifir ganddi. Yn aml, ceir prosesau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar waith hefyd, a dylem roi ystyriaeth i’r agweddau hynny wrth ystyried pam, pa bryd, ac ym mha fodd y dylid ymyrryd – os o gwbl.
*
Mewn byd lle mae lleoedd cyhoeddus yn cael eu preifateiddio ac yn diflannu dan adeiladau, a phris yn cael ei roi yn gynyddol ar weithgareddau hamdden a digwyddiadau diwylliannol, does dim dwywaith nad yw gofod fel Dociau Govan yn teimlo fel man radical. Gwaddol yr Ŵyl Erddi, a ddaeth i Glasgow yn 1988, yw adeiladau mawreddog yr amgueddfa wyddoniaeth (lle cynhaliwyd uwchgynhadledd COP26), y meysydd parcio eang sydd ynghlwm â hi ac adeilad y BBC, sydd oll gyferbyn â’r dociau sychion. Wrth sefyll yn hen Ddociau Govan, teimlaf fod y llecyn hwn wedi bod ar ei ennill o gael ei anghofio gan y don hon o ddatblygiadau. Yma, bellach, caiff byd natur rwydd hynt i gytrefu fel y mynno. Mae sŵn amrywiaeth o adar bychain – fel y robin goch, y ji-binc, y fronfraith, neu lwyd y gwrych – i’w glywed ymysg y coed, a gwelir planhigion fel rhedynen tafod yr hydd yn manteisio ar yr holltau a’r cilfachau sydd heddiw’n rhan o hen waliau’r dociau. Mae hyd yn oed poblogaeth o gorynnod prin wedi llwyddo i ddod o hyd i droedle addas ar y safle. Mae’n gynefin diddorol a deinamig i’r holl rywogaethau amrywiol sy’n perthyn i’r lle, ond mae’r safle hefyd wedi datblygu’n rhyw fath o dir comin answyddogol i bobl leol, sy’n teimlo’n warchodol ohono ac yn mynnu gwrthwynebu’r cynlluniau sy’n codi’u pen nawr ac yn y man i godi fflatiau moethus ar y safle.
Fel rhan o’r prosiect amaethu gwlypdirol a sefydlwyd yma’n ddiweddar gwahoddwyd y gymuned leol i blannu llyrlys a sêr y morfa. Bwriad y fenter yw hybu rhwydweithiau bwyd lleol a chreu swyddi wrth hefyd ddiogelu’r dociau fel darn o dir glas cymunedol. Mae’r syniadaeth y tu ôl i’r cynllun yn taro deuddeg gyda meddylfryd Flyn, sy’n gadarn ac yn glir ei phryder ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’n planed, ac eto’n gweld gwerth a gobaith mewn gweithredu ar raddfa fechan. Tynnu ein golygon at yr hyn sydd i’w weld o fewn ein milltir sgwâr a wna, gan ddadlau nad drwy brosiectau cadwraeth eang neu gytundebau rhyngwladol yn unig y crëir newid cadarnhaol. Mae’r rheini’n hanfodol, wrth gwrs. Ond mae ei golygon hi, ar ryw olwg, yn nes atom, yn edrych yn ofalus ar yr ‘ynysoedd anial’ sydd ar waelod pob stryd – tiroedd sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ynysforoedd o safleoedd diffaith all estyn ar draws y byd, gan ehangu ysgyfaint bregus y Ddaear. Does dim bydoedd newydd, awgryma wrth ei darllenwyr, ond mae yna ffyrdd newydd o weld ein byd.
Yn hynny o beth, mae Islands of Abandonment yn cydgordio â thrafodaeth Susan Owens am y newidiadau mewn canfyddiad o dirlun a ddadlennir mewn celf a llenyddiaeth Brydeinig. Gellir darllen cyfraniad Flyn fel un haen arall yn ein dealltwriaeth o’n hamgylchedd a’n tirweddau – dealltwriaeth sy’n newid o hyd. ‘What is striking,’ meddai Owens, ‘is how many of today’s writers focus on landscapes of a scale we can readily grasp, those that correspond to a human span.’ Yn wyneb argyfwng amgylcheddol llethol, dywed Owens, mae’n ymddangos ein bod ni wedi troi’n fân-ddarlunwyr: mewn manylion yr ydym yn darganfod ystyr a symbolaeth.
Ond mae pobl hefyd yn rhan o greadigaeth fywiog Dociau Govan heddiw. Braf yw gweld y gymuned leol yn perchnogi ac yn darganfod ffyrdd newydd o fyw ochr yn ochr â rhywogaethau chwimdyfol a’r creaduriaid sydd wedi ymgartrefu yma ers dirywiad y diwydiant llongau. Er bod gwedd anghysurus i’r lle mewn ambell fan, mae gweithgaredd fel y prosiect amaethu gwlypdirol yn gymorth i atal y math o ymddygiad gwrth-gymdeithasol all andwyo cymunedau cyfagos. Dyma safle prin yn ninas Glasgow, rhywle y gellir dianc iddo’n hawdd a theimlo rhyw gysylltiad â’r afon Clud a’i hanes. Mae’n llecyn hefyd sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i sgwrsio, i drefnu, ac i greu digwyddiadau anffurfiol. Yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, mae’n werth cofio mor allweddol yw ein hiechyd a’n lles ni ein hunain ac mor bwysig yw rhwydweithiau cymunedol cryf yn yr ymdrech i addasu. Mae unrhywbeth sy’n gallu cyfrannu at wytnwch cymdeithas yn werthfawr dros ben – gan gynnwys yr ynysoedd anial hyn.
Er ein bod yn cael cip ar y cymeriadau y cyfarfu Flyn â hwy yn ystod ei theithiau, byd natur, nid pobl, sy’n cael ei sylw yn Islands of Abandonment. Fel y soniwyd, mae’r pwyslais hwn yn nodweddiadol o’r duedd sydd i’w gweld mewn ysgrifennu natur diweddar. Ond wrth ddarllen ei chyfrol, roedd yn amlwg i mi fod gan Flyn ddiddordeb didwyll yn y bobl a’r cymunedau hynny sy’n byw yn agos at ‘ynysoedd anial’ ei chyfrol. Ac er mai gadael llonydd i’r lleoedd hyn er lles yr amgylchedd yw ei siars hi a’r llenyddiaeth ddiweddaraf, rydw i’n rhyw feddwl fod yna egin o syniad arall yn dechrau ffurfio yn ei thrafodaeth: sef yr angen nid yn unig i wybod yn well pryd y dylid camu’n ôl, ond hefyd i wybod pa bryd i dorchi llewys.
Mae Steffan Gwynn yn gweithio fel pensaer tirwedd yn yr Alban.