# Barddoniaeth
Gwyneth Lewis
Eich copi o Orgraff yr Iaith Gymraeg
Un naw dau wyth, clawr papur brown.
Llyfr sych ond, hyd yn oed yma
Rwy’n darllen fy ngholled. Chi,
Er enghraifft, yw’r anadliad caled
(Fy nhelyn, neu rhyfedd)
Neu ‘Fy nhad,’ o,
Ochenaid.