Y Wasg

Dysgu gorau, dysgu byw

Cyhoeddi rhifyn gwanwyn 2023

07·04·2023

I'w ryddhau 8 Ebrill 2023

Myth y dirwedd, yr hawl i ryw, ac egwyddorion dysg

Mae rhifyn gwanwyn 2023 O’r Pedwar Gwynt yn mentro i ganol trafodaethau llosg ynghylch ailwylltio ucheldiroedd Cymru. Yn ôl Carwyn Graves, mae gweledigaeth George Monbiot yn ei gyfrol ddiweddaraf, Regenesis – sy'n amlinellu dyfodol lle caiff y gyfran helaeth o'n bwyd ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd – i bob pwrpas wedi ei gwreiddio 'yn nhir ffrwythlon myth' ac nid 'mewn dealltwriaeth haenog o hanes ecolegol'.

Mae atyniad myth hefyd dan sylw Huw Pryce yn ei ystyriaeth o hanes fel pwnc yn y cwricwlwm newydd i Gymru, a drafodir ganddo yng nghyd-destun gwerslyfrau gwledydd eraill. Yn gefnlen i'w drafodaeth y mae ffilm gan Almodóvar, ffilm sydd ag iddi ddimensiwn hanesyddol cryf, lle mae'r berthynas rhwng y presennol a'r gorffennol yn un arbennig o heriol.

Un sydd wedi mynegi safbwyntiau plaen a chroyw am bwysigrwydd traddodiad a throsglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i'r llall yw Katherine Birbalsingh – 'prifathrawes fwyaf llym' Prydain a than yn ddiweddar 'tsar' symudedd cymdeithasol y llywodraeth. Penderfynodd O'r Pedwar Gwynt fynd i'w chyfweld gan holi ei barn am y Cwricwlwm i Gymru. Cyhoeddir hefyd yn y rhifyn hwn gyfweliad â'n Gweinidog Addysg, Jeremy Miles

Croesawu'r datblygiadau mewn addysg cyd-berthynas a rhywioldeb a wna Sara Penrhyn Jones wrth ystyried tair cyfrol ddiweddar sy'n dadlennu cymhlethdodau hawliau rhyw heddiw. I ddechrau, mae hi'n darllen cyfrol hunangofiannol y Ffrances Vanessa Springora, am ei chamdriniaeth rywiol yn ei harddegau gan awdur adnabyddus. Fe'i hystyrir ochr yn ochr â chyfrol yr athronwraig Amia Srinivasan, The Right to Sex, a thrafodaeth Katherine Angel ar wendidau'r cysyniad o 'roi caniatâd', o gydsynio i gyfathrach rywiol. Rhybuddir nad oes amheuaeth bod pornograffi yn rhan o seice pobl ifanc heddiw.

Dyma flas ar bum cyfraniad o blith 35 sydd yn rhifyn gwanwyn 2023 (rhifyn 21). Ewch i'r dudalen gynnwys i gael cip ar y rhifyn yn llawn! 

Cewch ddarllen am broblemau ysgrifennu am yr hunan yng ngwaith enillydd Gwobr Nobel 2022, Annie Ernaux (Eluned Gramich), y dychymyg ysbrydol mewn cerddi diweddar (M Wynn Thomas), am Rousseau a'r Hafod (Heather Williams), am ffilmiau digynnwrf Yasujiro Ozu (Ruth Richards), am wersi ein beirdd iau wrth ddeiliaid y traddodiad (Grug Muse, Morgan Owen), am ddylanwad gwobrau cyhoeddi (Casi Dylan), ac am y genhinen drichornel (Siân Melangell Dafydd). Ac mae yna 24 cyfraniad pellach – gan ein colofnwyr, ein hadolygwyr, a Derfel Clarke. Mae'r Rhawnbais yn ei hôl hefyd!

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris un copi print: £4.95; pris tanysgrifiad blwyddyn: £15, neu £10 ar gyfer tanysgrifiad digidol yn unig. Ewch i weld rhestr gynnwys y rhifyn gwanwyn 2023.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch!

Nodiadau i’r Golygydd

  • Sefydlwyd cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir gan gwmni annibynnol O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
  • Yn Nhachwedd 2022, cyhoeddodd Llyfrau O’r Pedwar Gwynt ei chyfrol gyntaf, sef Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts, a bwriedir cyhoeddi oddeutu un gyfrol y flwyddyn o hyn allan;
  • Cartrefir O’r Pedwar Gwynt yn Siop Lyfrau’r Senedd-dy, Machynlleth;
  • Mae cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
  • Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
  • Rydym yn gweld y byd trwy lyfrau gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
  • Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
  • Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
  • Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.

Pynciau:

#Rhifyn 21