Y Wasg

Hanes natur dinistr

Cyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2022

Datganiad i’r wasg
13·04·2022

I’w ryddhau 16 Ebrill 2022

Hanes natur dinistr, crefft ymgyrchu, ac oes aur y sgwrs radio...

‘Mae’n gwbl hanfodol ffilmio rhyfel,’ meddai Sergei Loznitsa, gwneuthurwr ffilm amlycaf Wcráin heddiw. ‘Rhaid ffilmio, ffilmio, ffilmio er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd ar gael ... rhaid dogfennu’r ffeithiau yn ddiflino: hanesyddiaeth uniongyrchol yw hyn.’ 

Mae rhifyn Gwanwyn 2022 O’r Pedwar Gwynt yn rhoi sylw i waith diflino Loznitsa yn mynd trwy’r archifau ac yn cofnodi dinistr – o Donbass i’r ffilm ddiweddaraf sydd ganddo ar y gweill, The Natural History of Destruction. Ystyrir yn ogystal ymdrechion un dyn ym Mharis i gysegru ei fywyd i lunio gwyddoniadur rhyfel. Ai yn y foment y gwyddom beth sy’n iawn neu ai wrth edrych yn ôl a myfyrio dros y dystiolaeth? 

Mentrwn oedi yn rhai o ddinasoedd Wcráin hefyd – yn Charcif, Odesa a Tserniftsi – enwau sydd yn ‘wers ddaearyddiaeth drychinebus’ heddiw, meddai Mererid Puw Davies yn ei hysgrif ‘Tserniftsi’, ond eto ‘yn byw yn y dychymyg, fel Odesa fawr rhwng tir a môr, fel llong fawreddog o’r oesau aur’. Tserniftsi amlieithog oedd cartref un o feirdd mwyaf moderniaeth, Paul Celan. Gwthia ei gerddi iaith i’r eithaf wrth geisio cyfleu canlyniadau’r Holocost a rhyfel, meddai Mererid Puw Davies. Trafodir yn yr ysgrif hon ei ‘olwg ddwysfyfyriol, heb fod yn sinigaidd, ar iaith a’i gallu i oroesi trais’ gan fyfyrio ar sgwrs a gafwyd gyda rhai o feirdd Wcráin yn dilyn ymosodiad Fladimir Pwtin ar eu gwlad.

Golwg wahanol a gawn ar Odesa gan yr awdur Wcreineg blaenllaw Iwri Andrwchofits. Wrth adrodd hanes ymweliad torllwyth o awduron o’r gorllewin ag Odesa, mae’n mynd dan groen y ddinas ond hefyd yn dychanu ymlyniad yr awduron hyn at y chwith: ‘Rydw i’n dychmygu bod yr anghydffurfiaeth ochr chwith hon yn fynegiant o gydymffurfiaeth sy’n nodweddiadol o’r milieu, sydd o’r farn bod peidio â bod ar y chwith i awdur yn warth. Mae peidio â bod ar y chwith yn golygu bod yn fochyn bwrgais. Beth allai fod yn waeth?’

Os ydi iaith – barddoniaeth – â’i grym arbennig ei hun, sy’n medru ‘golchi ar lannau’r galon’ ymhen blynyddoedd, megis neges mewn potel, chwedl Celan, beth am weithredu uniongyrchol? 

Tydi Loznitsa, meddai o, ddim am wisgo lifrai milwr ac ymuno yn yr ymladd yn ei famwlad. Yn yr un modd, yn ei hysgrif ar y berthynas rhwng ymgyrchu a gwaith crefft, meddai Sara Huws, ‘Rydw i’n edmygu’r rhai sy’n medru ac sy’n fodlon gweithredu’n uniongyrchol ond nid dyna’r darlun cyflawn o beth yw ymgyrchydd [...] Wrth fynnu mai’r rhai sy’n lluchio eu hunain yn erbyn mecanweithiau gorthrwm tan eu bod wedi eu dryllio’n llwyr – y rhai sy’n aberthu popeth, yn stopio traffig, yn mynd i’r llys, yn abseilio neu ddringo ffensys – yw’r Arch-Ymgyrchwyr, rydym yn cuddio gwaith, a chrefft, cymaint o’n cyd-deithwyr, ac yn cau ein dychymyg i ffyrdd newydd, mwy annisgwyl o greu newid cymdeithasol.’ 

Crefft y double-artifice – ‘Siarada fel petait ti’n siarad â chyfaill, un cyfaill, ar yr aelwyd gartref’ – sydd yn cael sylw Marged Haycock yn ei herthygl ar gyfraniad Ifor Williams (1881-1965) i oes aur y sgwrs radio. Dywedodd fod sgwrs radio fel ffenestr i’r galon, ond ‘fel rheol’, meddai Syr Ifor, ‘gofalwn am roi cyrten arni’. Roedd yn grediniol hefyd mai yn y llafar gwlad y mae’r bywyd a’r creadigrwydd, nid yn ‘iaith farw, annifyr, poenus’ Cymraeg llyfr.

Ond wrth drafod cymeriad yr iaith Gymraeg mewn gwahanaol rannau o Gymru heddiw, mae Iwan Wyn Rees yn ein rhybuddio rhag dileu cymunedau Cymraeg o’r cydwybod yn yr ymdrech i drawsnewid yr iaith yn sgìl dechnegol. Mae’n dychwelyd at fodel Tair-Cymru Denis Balsom, sy’n rhannu Cymru’n dair tiriogaeth hunaniaethol wahanol: y Fro Gymraeg, y Welsh Wales a’r British Wales. Dadleua fod ofnau T J Morgan yn ei ysgrif ‘Grwyne Fechan’ (1945) ynghylch tynged cymunedau Cymraeg a’u diwylliannau yn parhau’n berthnasol yn yr 21g.

A hithau’n Basg, ceir tair ysgrif greadigol arbennig y tro hwn hefyd, sy’n bleser i’w darllen. Cofnodi ei pherthynas â mynyddoedd – ac mae andros o lot ohonyn nhw – a wna Marged Tudur yn ‘Fy llyfr mynydda’. Yn hemisffer y de – yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng dau fyd – y mae Esyllt Nest Roberts yn ‘Pantri myfyrdod’; a gallu ei thaid fel consuriwr sy’n ysbrydoli Angharad Elen yn ei hysgrif ‘Bron, bron’.

Ymhlith y colofnau, mae ‘Darllen llun’ yn trafod portreadau’r ffotograffwraig o Latfia, Inta Ruka, mae Dylan Foster Evans yn rhoi amser i ystyried paned yn ei golofn ‘Geiriau’, Siân Melangell Dafydd yn disgrifio dod ar draws rhew blew a chwpan robin goch yn ‘Natur heddiw’, Huw L Williams yn dadansoddi safbwynt yr athronwyr ar ryfel yn ‘Socrates ar y stryd’, Mihangel Morgan yn sôn am gywreinrwydd a dim arall yn ‘Gwynt y Dwyrain’, Emyr Ll Gruffudd yn gwerthfawrogi ei declyn darllen yn ‘Cyffesion llyfrbryf’ – a Ned Thomas yn trafod hunangyfieithu yn y golofn ‘Y cyfieithydd yn ei elfen’.

Ac ymysg yr erthyglau adolygu â’r adolygiadau byrion arferol, mae T Robin Chapman yn olrhain hanes cylchgrawn Y Llenor a sefydlwyd ganrif yn ôl; Carwyn Graves yn myfyrio ar y cwestiwn ystrydebol pam na fu bwyd Cymru; a Carol Bell yn adolygu cyfrol hirddisgwyliedig sy’n mentro ailddiffinio seiliau anthropoleg. Pwysleisir bwysigrwydd archifo gwybodaeth gan Aled Gruffydd Jones, caiff Simon Brooks bleser yn darllen casgliad newydd o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, Welsh (Plural), ac mae Ffion Eluned Owen yn mwynhau cael ei thywys o Gwm Manafon yn y gogledd i Gwm Maethlon yn y de, o Enlli i Landderfel, yng nghwmni Real Gwynedd Rhys Mwyn. Heb anghofio Derfel Clarke sy’n rhoi sesiwn ar grefft y nofel – a’r golofn sêr arferol sydd, y tro hwn, yn dadansoddi arwyddocâd y blaned Mawrth.

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris un copi print: £4.95; pris tanysgrifiad blwyddyn: £15, neu £10 ar gyfer tanysgrifiad digidol yn unig. Gellir gweld rhestr gynnwys o rifyn Gwanwyn 2022 yn y fan hon.

Ceir casgliad o luniau yn y fan hon.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â cyfathrebu@pedwargwynt.cymru

Nodiadau i’r Golygydd

• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;

• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;

• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;

• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;

• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;

• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;

• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.

Pynciau:

#Rhifyn 18