Adolygu

Blodau Aberkariad

Cyfrol ddiweddaraf Thomas Morris

Thomas Morris

Open up

Faber, 208tt, £14.99, 2023

Blodau Aberkariad
Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 5 munud

04·10·2023

Yng nghyfrol gyntaf Thomas Morris, We Don’t Know What We’re Doing (2015), dydy’r cymeriadau, fel yr awgrymir gan y teitl, ddim yn siŵr o’u lle yn y byd, er eu bod i gyd yn byw yng Nghaerffili. Maent yn unig ac ar gyfeiliorn; maent fel petaent yn cael eu hunain ar hap a damwain mewn gwahanol sefyllfaoedd ac wedi eu drysu gan fywyd. Mae’r cymeriadau yng nghyfrol ddiweddaraf Morris, Open Up, hefyd yn chwilio am rywbeth amgenach, ond maen nhw’n agosach at gyrraedd, efallai – at agor allan, at flodeuo. Mae’r ddelwedd drawiadol o flodau sydd ar glawr y llyfr, sydd yn tyfu o ysgwyddau dyn mewn crys, yn adlewyrchu’r blodeuo hwn, yn ogystal â’r naws swrealaidd sydd i’r casgliad. Dyma gyfrol am ddadleoli – yn y byd ac mewn perthynas â ni ein hunain – ac am yr ymgais i berthyn. Mae’n ymdrin â’n hymwneud â’r gorffennol, ac yn awgrymu bod agor ein hunain i ddyfodol gwell, yn hytrach na chadw at yr un hen rigolau a glynu at ‘the shadows of [our] pain’, yn gallu gofyn am ddewrder.

Roeddwn wedi gwirioni efo We Don’t Know What We’re Doing – yr hiwmor tywyll, yr arsylwadau treiddgar a’r disgrifiadau byw o Gaerffili; a’r ffaith fod y cymeriadau yn ymdebygu i bob un ohonom yn eu hymdrechion i dorri cwys drwy’r dramâu bychain ac absẃrd mewn tref fechan yn ne Cymru. Ond yn ôl Morris, roedd ei fam yn argyhoeddedig fod ganddo fwy i’w gynnig, fel awdur, na’r offrwm hwn; ac efallai mai’r geiriau hyn, yn rhannol, a’i sbardunodd i deithio’n ddyfnach i fywydau seicolegol ei gymeriadau, i ddeall mwy am y mapiau mewnol sydd y tu ôl i’n gweithredoedd. Erbyn hyn mae Morris wedi ymgartrefu yn Nulyn, lle mae’n rhan o sîn lenyddol gyffrous; mewn cyfweliad ar Radio Wales Arts Show (1/9/23), esboniodd ei fod wedi teithio yn ôl i dde Cymru i ysgrifennu Open Up, gan fyw ar fferm ddiarffordd gyda’i fam. ‘I kind of went a little bit mad,’ meddai, ond wrth brosesu ei deimladau anodd, esboniodd, daeth i deimlo rhywfaint o obaith. Mae’r gobaith hwn yn edefyn sy’n rhedeg trwy’r casgliad.

Dim ond pum stori sydd yma. Mae’r gyntaf, ‘Wales’, am bwysigrwydd tîm pêl-droed Cymru i fachgen deng mlwydd oed sydd yn byw mewn tlodi, ei rieni wedi ysgaru. Dyma stori sy’n cyffwrdd, ond mae ychydig yn dila o’i chymharu â’r straeon eraill. Er hynny, mae’n gosod seiliau thematig y gyfrol: mae’r profiad o gael eich gadael, o rieni yn diflannu, o blentyn ifanc yn wynebu newid byd, o dlodi a chywilydd, ac o bwysigrwydd gobaith, yn greiddiol i Open Up. Felly hefyd y berthynas gymhleth rhwng bechgyn a dynion â’i gilydd, rhwng tadau a meibion, a’r potensial, bob amser, am drais. Mae’r modd y mae Morris yn symud rhwng gwahanol safbwyntiau tua diwedd y stori hon, rhwng y trydydd a’r ail berson, hefyd yn ein paratoi ar gyfer ysgrifennu sy’n arbrofol o ran ffurf. Mae’n symud rhwng gwahanol amserau’r ferf ac yn chwarae â realaeth hud, ac arswyd; gwna hyn nid er ei fwyn ei hun, ond am ei fod yn chwilio am y dull gorau o fynegi realiti mewnol y cymeriadau. Fel y dywedodd yn y cyfweliad radio, ‘When you go into the interior, it doesn’t necessarily abide by the laws of realism.’ (Fallai nad yw’n gyd-ddigwyddiad fod un o’r cymeriadau yn Open Up yn darllen cyfrol gan Shirley Jackson, awdur sydd yn tynnu ar elfennau o arswyd a’r gothig wrth ddisgrifio bywydau cymeriadau mewn pentrefi ‘cyffredin’.) Mae’r modd y mae Morris yn chwarae â’r ‘rheolau’, gan adael i’r naratif ‘agor allan’, yn wirioneddol gyffrous. Dyma awdur sy’n feistr ar ei grefft. 

Mi fydd nifer o ddarllenwyr wrth eu boddau â’r ail stori yn Open Up, ‘Aberkariad’, stori ffantastïol am feirch môr a’u dramâu teuluol. Yn y byd tanfor, llesmeiriol hwn, y gwryw sy’n esgor ar blentyn, a’r fam sy’n diflannu. Dyma stori llawn bathos a delweddaeth drawiadol. Profiad diddorol oedd cael fy hudo gan nifer o’r tropes a geir mewn straeon tylwyth teg wrth ystyried cwestiynau cymhleth, a chyfoes, am rywedd, rhyw, gwrywdod, a chyfrifoldebau rhieni. Mae yma elfen ysbrydol, hefyd: mae’r prif gymeriad yn ystyried ei ran nid yn unig yn ei lwyth ei hun, ond yn yr alaeth yn ei chyfanrwydd; mor fychan ydyw wrth nofio trwy’r môr yn chwilio am ei fam. (‘I realised how small and inconsequential I was, that all my life I had just been this tiny light moving through a limitless expanse of dark.’) Mae’r march môr fel petai’n llestr ar gyfer trawma ei hynafion, yn cludo poen cenedlaethau o’i flaen:

I howled and I howled and my skin rippled, and everything was still; it was as if a deep ache was leaving my body. It was leaving me through the howl. The howl was coming from long ago, from long before me, but lived within me still, in the empty chambers whose walls echoed with the sound of the howl.

Mae’r syniad o wacter sy’n amhosib ei lenwi, yr ‘empty chambers’ yn yr enaid, yn codi dro ar ôl tro yn y gyfrol; awgrymir mai cariad a chysylltiad ag eraill sy’n cynnig rhyw fath o amddiffynfa yn erbyn y gwacter, yn ogystal â chysylltu â’n cyrff:

[M]y body and mind were as one, and I moved through the water, not with ease as such, but with a firmness of intention. I was finally sure of what I wanted and it was glorious and easy, this wholeness of being.

Mae ‘Little Wizard’ yn ymdrin â gweithiwr swyddfa anhapus, sy’n llawn hunangasineb am ei fod yn fyr ac yn credu mai dyma pam nad yw’n medru bachu merch. Mae’n dyheu am ei ffrind benywaidd sydd yn herio ei sylwadau rhywiaethol. Stori led-ddychanol a swreal am fampiraeth yng Nghaerffili yw ‘Birthday Teeth’, am fywydau ar-lein a chelwydd a’r diwydiant ‘wellness’. Ond fy hoff stori yn y gyfrol ydi ‘Passenger’. Mi allai’r stori hon fod yn nofela; fel pob stori fer lwyddiannus mae hi’n creu byd a bywydau cyfan mewn ychydig dudalennau, gan adael ei hôl arnom. Darllenais y stori ddwywaith ac roeddwn yn fy nagrau y ddau dro wrth ddarllen y paragraff olaf. 

Ar un wedd mae hi’n stori syml am gwpl sydd wedi dod at ei gilydd yn gymharol ddiweddar ac sy’n mynd ar wyliau gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac yn teimlo ychydig yn lletchwith wrth grwydro o gwmpas gwlad estron. Ond o dan yr wyneb, mae yna brosesau ysgytwol yn digwydd (‘beneath all the pretending, deep down in the soil, something is asking, pleading, pushing through’). Dim ond trwy ‘agor allan’ y gall y cwpl hwn barhau ar eu taith gyda’i gilydd, a blodeuo. Yn y stori ceir sgwrs ddychmygus â gyrrwr bws, sy’n ymdebygu i seicotherapydd ymosodol, a cheir deialog rhwng y cwpl sydd yn f’atgoffa o sgwrs rhwng cymeriadau Wrth Aros Godot Beckett. Ac eto mae hi’n un o’r straeon mwyaf ‘gwir’ i mi ei darllen erioed, am y pellter rhwng cyplau sy’n ofni bod yn fregus gyda’i gilydd, a pha mor frawychus ydi’r broses o wynebu ein cysgodion er mwyn lleihau eu grym drosom. Mae Geraint mor bell o fod wedi wynebu ei hun, a’r hyn sydd wedi digwydd iddo yn ei fywyd, fel ei fod yn teimlo fel petai wedi ei ddatgysylltu oddi wrth realiti. (‘I have felt the absence, the loss of a vital organ that connected me with the world.’) Fel sawl cymeriad yn y gyfrol, gan gynnwys y march môr yn ‘Aberkariad’, does ganddo ddim syniad pwy ydi o, go iawn, ei gorff ei hun fel petai’n estron iddo. Yr hyn sy’n ei orfodi i geisio newid, a wynebu ei gywilydd am ei orffennol, ydi posibiliadau cariad.

Mae Open Up yn cynnig straeon gwreiddiol, tyner a phruddglwyfus sydd, â hiwmor nodweddiadol Morris, yn codi cwestiynau dirfodol. Mae yma gyfeiriadau at Gaerffili a lleoliadau ei gyfrol gyntaf – y siop fideo sydd wedi cau, er enghraifft – ond rydym ar diriogaeth ehangach a llawer mwy uchelgeisiol yn y gyfrol hon. Gobeithio wir fod mam yr awdur wedi ei phlesio.

Mae Angharad Penrhyn Jones yn awdur llawrydd ac yn gwerthu llyfrau yn Siop Lyfrau'r Senedd-dy, Machynlleth ac yn Llyfrau Ystwyth, Aberystwyth.

Mae’r march môr fel petai’n llestr ar gyfer trawma ei hynafion, yn cludo poen cenedlaethau o’i flaen

Pynciau:

#Straeon byrion
#Angharad Penrhyn
#Rhywioldeb
#Thomas Morris