Hirokazu Kore-Eda


Shoplifters

, , , 2018

Jean-Luc Godard


Numéro Deux

, , , 1975

Yasujirō Ozu


An Autumn Afternoon

, , , 1962

Lewis H Morgan


Ancient Society

, , , 1877

Frederick Engels


The Origin of the Family, Private Property and the State

, , , 1884

Adolygu

Y teulu cyfalafol a ffilmiau Kore-Eda ac Ozu


Emyr Glyn Williams

Amser darllen: 15 munud

30·04·2019

Golygfa o'r ffilm Shoplifters gan Hirokazu Kore-Eda

 

‘Tybed... Tybed...’ Dros yr wythnosau diwethaf, bu’r geiriau hyn ar fy meddwl. Y ‘fam’ benderfynol, Nobuyo Shibata, sydd yn eu llefaru, yn ei dagrau yn y ddalfa mewn golygfa ar ddiwedd y ffilm Shoplifters. Hon ydi ffilm ‘deuluol’ newydd Hirokazu Kore-Eda o Siapan, ffilm a gipiodd wobr y Palme d’Or yn Cannes y llynedd, enwebiad Oscar a chlod byd-eang i’r cyfarwyddwr o Tokyo, sydd yn feistr ar lunio storïau naturiol eu harddull am rieni a phlant.

Ai cyfleu y mae’r geiriau hyn ymwybyddiaeth Nobuyo mai camargraffiadau sydd wedi llywio ei gweithredoedd trwy gydol ei hoes? Neu ai ymateb cadarnhaol a heriol ydynt gan ddynes fodern, gref a diedifar sy’n synhwyro fod tonnau o newid mawr ar y gorwel? Mae’r ffilm yn annog yr amwyster ystyr hwn. Tybed ai siarad â’r byd ehangach y mae yn gymaint â’r blismones ifanc sy’n eistedd o’i blaen? Cynrychioli awdurdod a threfn y mae’r blismones a gwna ei gorau i chwalu hunanbarch Nobuyo trwy ddatgelu natur dwyllodrus ei ‘theulu’ a’i diffyg statws fel ‘mam’ i’r plant – y lleidr ifanc Shota a’i chwaer iau Juri (neu Lin ar ôl iddi newid ei henw) – gan ei hatgoffa nad oes rhyngddynt berthynas waed. 

Yn sicr, nid ffilm sydd yn mynnu esbonio ac egluro popeth mo hon. Mae Kore-Eda fel petai’n benderfynol ein bod yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ddiffinio gwirionedd; ein cyfrifoldeb ninnau hefyd ydi penderfynu sut y dehonglwn berthynas y ffilm â realiti – consýrn naturiol celf sinematig, wrth gwrs. Symud yn ei blaen mewn modd agored, eangfrydig y mae Shoplifters; nid yw’n waith sy’n cyfyngu. I’r gwrthwyneb, mae’n ffilm agored ei hystyriaethau, o bobl a chymdeithas. Ac o ganlyniad i fanylion bychain, megis presenoldeb drych diogelwch yn y siopau yn hytrach na chamerâu cylch cyfyng, yn esgidiau’r gynulleidfa medrwn osgoi poeni am yr heddlu yn ymchwilio, yn adnabod, agosáu a chau eu crafangau am y teulu ac felly fwynhau’r rhyddid o ddilyn eu symudiadau. O ganlyniad, y teulu, nid y broses o’u dal a’u cosbi, ydi’n consýrn ni fel gwylwyr.

Ystyr teitl gwreiddiol y ffilm mewn Siapaneeg ydi ‘Shoplifting Family’ a’r cysyniad o’r teulu ydi’r ‘gwirionedd’ mwyaf y mae’r ffilm yn ymroi i’w ddadelfennu a’i ailgyflunio. Mi fedrith rhywun ddadlau fod sinema wedi bod yn ymwneud â’r union bethau hyn ers y dyddiau cynnar – dim ond meddwl yn benodol am waith a gyrfa’r gwneuthurwr ffilm dylanwadol o Siapan Yasujirō Ozu (1903-1963) sydd raid er mwyn gweld fod Kore-Eda yn amlwg yn dilyn yn ôl ei draed. Ystyrir ffilmiau Ozu bellach yn glasuron, wrth gwrs, ac wrth wylio ei ffilmiau, cawn syniad go dda o’i ddylanwad yn siapio ein diffiniad o’r hyn ydi sinema heddiw. Mae ei greadigaethau’n llawn rhieni sengl, y tlawd, y digartref, plant sydd wedi cael eu gwrthod, siomedigaethau ei genhedlaeth, hapusrwydd tymor byr yr ifanc a phlant sy’n pi-pi yn y gwely, hyd yn oed, yn union fel ffilmiau Kore-Eda mewn cyfnod diweddarach. I’r ddau mae’n deg dweud fod bodolaeth yn ei hanfod wastad wedi ei leoli rhwng un lle a’r llall – yn llanw a thrai – a bod byw gyda’n gilydd fel ‘teulu’ yn broses fregus. Hoffwn feddwl bod Kore-Eda, fel Ozu, yn gwrthod weldio un genhedlaeth yn sownd yn y llall, oherwydd ei barch tuag at ei destun.

✒︎

Ar un wedd mae stori Shoplifters i’w gweld yn un ddigon syml. Ar ôl sbri llwyddiannus yn dwyn o siopau, mae Osamu Shibata a’i fab Shota yn cwrdd â merch fach sydd yn rhynnu yn yr oerni ac yn ei gwahodd i ddod adref efo nhw. Cytuna gwraig Osamu, Nobuyo, i roi lloches i’r plentyn oherwydd mae hi’n amau iddi gael ei cham-drin a’i hesgeuluso gan ei rhieni. Hefyd yn cyd-fyw â’r teulu y mae’r nain (Hatsue) a chwaer y wraig (Aki), sy’n gweithio fel croesawferch mewn bar rhyw. Er eu tlodi a’u dibyniaeth ar fân droseddu yn ogystal â gwaith rhan-amser, a phensiwn, maent i’w gweld yn ddigon bodlon eu byd.
 

Hirokazu Kore-Eda (Hawlfraint: Magnolia Pictures)


Mae’n debyg mai’r cwestiwn ‘Beth yw teulu?’ oedd wrth wraidd ysbrydoliaeth Kore-Eda. Eir i’r afael â’r cwestiwn hwn ar ffurf sgript uchelgeisiol sydd yn cyffwrdd â bron pob agwedd ar fodolaeth unigolion yn y gyfundrefn gyfalafol, a hynny â ffresni sydd i’w groesawu. Byddai modd llunio rhestr faith o’r agweddau ar ein hoes y mae’r ffilm yn ymboeni yn eu cylch a darganfod golygfa sy’n ymdrin â phob un. Yn yr un modd, mae penderfyniad Kore-Eda i ddadlennu crombil y byd modern trwy gyfrwng un grŵp penodol o unigolion – y teulu Shibata yn ninas Tokyo gyfoes – yn llwyddo i greu un o ddarluniau mwyaf geirwir sinema o arwyddocâd ‘y teulu’ mewn cymdeithas. Yn wir, cymaint yw camp Kore-Eda nes iddo fy narbwyllo, a minnau’n ŵr priod ac yn dad i blant bach, y dylwn o leiaf ystyried posibilrwydd go sylfaenol: mai’r ymdrech i gynnal y teulu biolegol ydi’r gwir rwystr rhag torri’n rhydd oddi wrth ymosodiad niweidiol cyfalafiaeth fodern ar ein planed a’n pobl. Prysuraf i ddweud nad anarchydd eithafol ar y rheng flaen mohonof. Er hynny, rydw i’n argyhoeddedig bod angen ailystyried ac ailgloriannu ar fyrder rôl y teulu biolegol fel amddiffynfa yn erbyn grym-oedd anarchaidd chwyldroadol – tu hwnt i’r sinema yn gymaint ag ar y sgrin fawr. Cynyddodd y teimlad hwn ynof wrth wylio Shoplifters

✒︎

Fel uned neilltuol, mae i’r teulu statws fel rhyw fath o freuddwyd (anghyraeddadwy yn ei berffeithrwydd, wrth gwrs) a hefyd fel realiti concrid (cyflwr naturiol y ddynoliaeth). Mae’r ddelfryd hon wedi bod dan bwysau mewn amrywiol gyfnodau ac rydym bellach yn gweld posibiliadau a threfniadau teuluol amgen ar waith yn ein cymdeithas. Ond mae’r syniadau sydd ynghlwm â sut mae’r wladwriaeth yn dal i reoli ein cyrff a’n hetifeddiaeth trwy gyfrwng yr hyn a elwir gan Michel Foucault yn ‘bio-bŵer’ – ‘the set of mechanisms through which the basic biological features of the human species became the object of a political strategy, of a general strategy of power’ – yn dal i atgyfnerthu pwysigrwydd y berthynas waed, a hynny er mwyn sicrhau fod y ddelfryd hon yn dal yn gryf yn ein cyfreithiau, yn ein harferion ac yn ein cymdeithas. 

Mae’r syniad mai’r teulu biolegol yw’r ffurf ddynol hanfodol, a’r ymwybyddiaeth dawel mai dyma drefniant cymdeithasol sy’n cynnal cyfalafiaeth hefyd, yn cael ei adlewyrchu yn y teuluoedd a ddylunnir ar y sgrin sinematig, o George Bailey i Don Corleone a Homer Simpson, Maria, Disney a’r teuluoedd brenhinol, rhai digon rhyfedd hefyd fel y Tenenbaums a’r Incredibles, heb sôn am olygfeydd di-ri o deuluoedd Hollywood yn bwyta gyda’i gilydd. Ymddengys y teuluoedd hynny fwy na heb fel paragonau disglair, cyflwr y dylsem ninnau fel teuluoedd ar lawr daear eu dilyn, eu hefelychu a dysgu ganddynt. Y neges ddiddiwedd ydi fod angen inni fod yn ddefnyddiol yn anad dim – ac yn y pen draw, ystyr hynny ydi byhafio, cydymffurfio, gwneud arian, gweithio er lles y budd cyffredin ac, wrth gwrs, epilio a magu plant. Mae atgynhyrchu’n hanfodol, wedi’r cyfan, i’r egwyddor o gynnydd cyfalafol, oherwydd mae angen pobl ifanc a chymdeithas ifanc ar y drefn gyfalafol – i weithio ac i ddal ati i brynu er mwyn bwydo’r system. 

Mewn cymdeithas ac mewn cyfnod lle ‘mae unrhyw ddewis heblaw Cyfalafiaeth wedi ei ddileu bron iawn’, ys dywed Mark Fisher yn ei gyfrol bwysig Capitalist Realism (2009) – un o’r cyfrolau, ynghyd â Bullshit Jobs David Graeber (2018), sy’n mynegi safbwynt llawer ar y chwith heddiw – mae’r teulu Shibata yn cynnig gobaith i mi nad oes, o angenrheidrwydd, gyfyngiadau di-droi’n-ôl ar ein dychymyg a’n dewisiadau. Gwelaf y teulu hwn yn ffilm Kore-Eda yn gweithio ar dasg bwysicaf dyfodol y ddynoliaeth, sef y dasg o geisio cyd-greu dyfodol newydd. Mewn ffilm nad oes ynddi sôn o gwbl am ddogma o unrhyw fath, mae’r teulu hwn yn cyflwyno syniadau newydd – dadleuol hefyd, wrth gwrs – fel ‘cymerwch, a chwi a gewch’ a ‘dim ond y rhai sydd yn dysgu dim gartef sydd angen mynd i’r ysgol’; mae’n fynegiant o’r ewyllys i ysgogi ffyrdd newydd o drefnu byw, heb fod yn ddifeddwl ddarostyngedig i awdurdod a threfn, i neb arall.

✒︎

Nid yw hyn yn digwydd yn aml i mi, prysuraf i ddweud eto: ond ar ôl dim ond un dangosiad, roeddwn yn gyffro i gyd oherwydd imi ddarganfod ffilm sydd, ymhob golygfa, yn cynnig cipolwg gobeithiol ar sut i ddarganfod llwybr newydd trwy erchylltra cyfalafiaeth neo-ryddfrydol ôl-fodernaidd. Dywed Kore-Eda: ‘Doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus â phobl yn dweud droeon bod rhwymau teulu’n bwysig. Yr emosiwn craidd pan oeddwn i’n gwneud y ffilm oedd dicter.’ Mae ei ffilm fel petai’n mynd ati’n fwriadol i beidio â phortreadu trais, dicter, anghyfiawnder, ac i osgoi pregethu gwleidyddiaeth a syniadau ond, yn ddiddorol iawn, dyna’n union sy’n gafael ym meddyliau a chalonnau’r gwylwyr – y teimlad enbyd bod rhywbeth o’i le ar y byd, bod angen inni roi sylw i’r ffigurau tawel sydd yn byw yn y ffilm hon. Camp Kore-Eda yw medru gwneud hyn trwy ddefnyddio arddull ffilm sy’n gamarweiniol o syml. Llwydda i greu’r argraff bod elfennau’r ffilm yn cael eu datgelu’n naturiol, megis o fywyd ei hun. Cynigir tystiolaeth o rianta biolegol fel rhywbeth ac iddo ddiffygion a phroblemau, megis camdriniaeth a chreulondeb (‘Doeddwn i ddim o’i heisiau hi.’ / ‘Duw a ŵyr pwy yw’r tad.’). Clywn iaith busnes ac economeg fodern yn cael ei herwgipio a’i newid i gyfleu ystyron newydd i ddisgrifio’r teulu, rhai geiriau’n creu ystyr newydd amwys, eraill yn ddychrynllyd o agos ati (‘iawndal’, ‘cynllun yswiriant’, ‘rhannu gwaith’, ‘elw’, ‘methdalwr’). Cawn fraslun o rywioldeb dynol hefyd, yn ei holl agweddau, mewn golygfeydd dethol rhwng gwahanol genedlaethau. Mae llawenydd y cwpl hŷn o ailgydio yn eu chwantau rhywiol wedi ei gyferbynnu â’r cwpl iau’n gwegian mewn cylchoedd erchyll o unigrwydd a hunan-niweidio (‘Mi fydda’ i’n fy nharo fy hun hefyd. Mae’n brifo, tydi?’).   

Ymhlyg yn natur cyfalafiaeth, gellid dadlau, mae’r gynneddf i ddinistrio pob ymgais i gydweithio. I’r gwrthwyneb, mae’r Shibatiaid (nad ydynt yn deulu yn yr ystyr confensiynol, cofier) yn cydymdrechu i gynhyrchu, gofalu am ei gilydd a mwynhau bywyd. Nid yw cyfalafiaeth erioed wedi dymuno (ac ni fyddai fyth yn caniatáu) i Shibatiaid y byd hwn greu cyfoeth. Maent yn cynrychioli’r hen syniad o hipis neu gomiwnau a ddiflannodd oddi ar wyneb y ddaear, fwy neu lai, rywdro yn nechrau’r wythdegau.
 

Golygfa o'r ffilm Good Morning gan Yasujirō Ozu, 1959
 

Mae’r syniadau a gyflwynir yn y ffilm hon hefyd yn cyd-daro â f’argyhoeddiad personol bod rhaid ymneilltuo er mwyn dod o hyd i ffordd well o ymgysylltu ag eraill – rhyw fath o ailgyflunio personol er mwyn cofio o’r newydd rinweddau’r cysylltiad wyneb yn wyneb, sy’n hanfodol i bob ymgais i gyfathrebu; bod rhaid wrth gyfnodau yn y cysgodion yn yfed amser, heb oriawr, yn ymroi gyda’n holl sylw er mwyn ceisio rhyw fath o broses o aeddfedu yn emosiynol ac yn greadigol (#anwybyddwchni). Hoffwn gredu fod y teulu hwn o greadigaeth Kore-Eda yn llwyddo, rywsut neu’i gilydd, i ffynnu y tu allan i’r carchar neoryddfrydol er, mewn gwirionedd, pwy all honni fod rhyddid o’r fath yn bosib – dim ond mewn ffilm,  hwyrach? Ond wir i chi, teimlaf fod y ffilm yn gofyn i mi’n uniongyrchol i ystyried o ddifri beth allwn ni ei wneud, rŵan hyn, i newid trywydd, i fyw yn well? 

Un o’r pethau sy’n amlwg i mi yw bod rhaid meddwl yn driw, drosom ein hunain, sydd yn haws dweud na gwneud. Dylid parchu dewisiadau radical megis dewis yr hen nain, y ‘Guardian Angel’ ymarferol ei natur (perfformiad anhygoel gan yr actores Kirin Kiki), i ymwrthod yn llawen â normau cymdeithas (‘weithiau mae’n well dewis eich teulu eich hun’), fel y gwna’r plant hefyd pan fyddant yn gwrthod geiriau fel ‘mam’ a ‘dad’. Ond efallai mai’r mater moesol mwyaf a gwestiynir yn y ffilm hon, a hwnnw’n un heb ateb iddo, yw cyfraith a threfn. Sut mae dod o hyd i gydbwysedd moesol wrth ddatblygu system gyfreithiol? Cwestiynau oesol, debyg iawn. Er mai’r fam yw’r unig aelod o’r teulu a gaiff ei chosbi am waredu Hatsue, mae’n llwyddo i’n hargyhoeddi y byddai’n cael ei hystyried yn ddieuog mewn unrhyw lys barn wedi ei drefnu ar sail foesol gall, a hynny gydag amddiffyniad angerddol sy’n ysgytwol ac yn wir: ‘Wnes i ddim ei thaflu hi i ffwrdd. Dod o hyd iddi wnes i. Rhywun arall a’i taflodd hi i ffwrdd ...’

Wrth gynnig ffyrdd newydd o feddwl am ein dyfodol, llwydda Kore-Eda i fynd â ni yn ôl i’r gorffennol. Deuthum i’r casgliad bod y teulu hwn o greaduriaid od yn gweithredu i ryw raddau mewn ffordd gyn-gyfalafol. Mae Shoplifters yn gyfle i ni ailymweld â’r ‘teulu’ yn wleidyddol, yn anthropolegol ac yn hanesyddol yn ogystal ag o ran y delweddau ar y sgrin; mae hefyd yn ein hannog i ymlawenhau yn y modd y gall sinema ryddhau ein crebwyll beirniadol. Profiad llawen a thorcalonnus ar yr un pryd yw treulio dwy awr gyda’r Shibatiaid mewn sinema brysur. 

✒︎

Nid gor-ddweud yw nodi ein bod, heb amheuaeth, yn nesáu at ryw fath o uffern fel rhywogaeth. Gan wynebu argyfyngau amlwg fel rhyfel, tlodi a newyn, rydym hefyd eisoes wedi camu i oes geolegol yr anthroposen; mae perygl gwirioneddol i’r meddwl rhydd bylu mewn dychryn. Er yr hyrwyddir y cysyniad o amrywiaeth yn fwy nag erioed yn ein cymdeithas o ddydd i ddydd, nid ydym eto wedi magu’r gallu i lwyr barchu gwahaniaeth; ac yn y cyfamser, ymdebygwn fwyfwy i’n gilydd a hynny heb fagu mwy o oddefgarwch nac ysbryd cydweithredol; hyn wrth i amser ddechrau mynd yn brin ar gyfer y ddynoliaeth, pan mae’n hanfodol, gellid dadlau, ein bod yn ailfeddwl, yn ailystyried popeth.
 

Golygfa o'r ffilm An Autumn Afternoon gan Yasujirō Ozu, 1962


Mewn ymdrech i geisio gweld ymhellach, darllenais yn ddiweddar The Origin of the Family, Private Property and the State (1884) gan Frederick Engels, a seiliwyd ar ddarlleniad Karl Marx o Ancient Society (1877) gan Lewis H Morgan (Americanwr o dras Cymreig). Mae gweledigaeth Ancient Society yn ddisglair, yn ddiddorol ac yn dreiddgar – yn ddigon weithiau i chwalu’r pen! Mae Lewis yn cyflwyno’r syniad cwbl resymol bod y cymunedau dynol cyntaf, yng nghyfnod ‘Anniwylliedig’ datblygiad y ddynoliaeth, yn seiliedig ar y fenyw – tylwythau mamlinachol yn hytrach na theuluoedd patriarchaidd. Byddai’r cymunedau hynny wedi dod i fod oherwydd mai dim ond o adnabod y fam y caed sicrwydd biolegol pwy oedd y rhiant – mewn cymdeithas amlgymar roedd yn amhosib profi i sicrwydd pwy oedd y tad. Ychwanegodd Engels a Marx eu cysyniadau hanesyddol ac economaidd eu hunain i’r pair hwn. I grynhoi, yng nghyfnodau barbaraidd a gwaraidd datblygiad y ddynoliaeth, daw’r ffordd batriarchaidd o fyw i rym a rhoi cychwyn ar ddarostyngiad y fenyw. Wrth i gyfalafiaeth gydio mewn cymdeithas, caiff cynhyrchiant bwyd ei drefnu a dechreuir rheoli cynhyrchiant y gweithwyr hefyd (hynny ydi, geni plant). Gwneir hynny o dan systemau monogami a bywyd domestig cwbl wahanol i’r hen ffyrdd o fyw mewn llwythau neu dylwythau, a oedd yn ffafrio’r egwyddor o rannu a lle’r oedd y fenyw’n ganolog. Yna, yn yr oes ddiwydiannol, daw’r dosbarth proletaraidd i fodolaeth.

Gweld adlais o’r syniadau hanesyddol a’r cyfnodau hyn a wnes i yn Shoplifters, yn enwedig rheolaeth fenywaidd dros y teulu ac economeg (sydd yn tarddu, wrth gwrs, o’r gair Groeg am drefniadaeth yr aelwyd: oikonomia), fel y gwelwn yn aml mewn cymdeithas ddosbarth gweithiol, boed yn y sinema neu ar ben y stryd. Ond wrth gwrs mae hynodrwydd y ‘proletariat’ bob amser yn llai pwysig i gyfalafiaeth na goroesiad y dosbarth sydd piau’r eiddo. Mae gan y prôl lai o obsesiwn ynghylch trosglwyddo ei ffortiwn i epil a adnabyddir yn gywir yn fiolegol am y rheswm syml nad oes ffortiwn ganddo i’w throsglwyddo. Gall mai canlyniad hynny yw’r ffyrdd gwahanol hyn o drefnu’r aelwyd.

✒︎

Mewn cyferbyniad llwyr, wrth gnoi cil ar y cwestiynau hyn, cofiaf am bortread sinematig arall o’r teulu (biolegol) y mae ynddo lai o syniadau Lewis a mwy o rai Marx ac Engels: Numéro deux (1975) gan Jean-Luc Godard. Mae deugain mlynedd rhwng y ffilm hon a Shoplifters a’r hyn a gawn gan Godard yw ffilm deuluol sy’n gwbl wleidyddol – o ran cynnwys, gwedd a phroses gynhyrchu’r ffilm ei hun (fel yna yr oedd pethau yng nghanol y 1970au – damcaniaethu, dadansoddi a byw yn cyd-gerdded). I Godard, ffatri fechan yw’r teulu a’i phwrpas (negyddol, o’i safbwynt o) yw cynnal hunaniaethau sefydlog a sicrhau ‘cynnydd’ i’r gymdeithas ddiwydiannol.

O ran arddull mae Numéro deux yn hollol wahanol i bortread realistig a naturiol Kore-Eda o’r teulu Shibata. Portreadir teulu dosbarth canol o Ffrancwyr gan Godard – mam, tad, a hwythau’n gweithio, dau o blant a nain a thaid – mewn cyfres o luniau a golygfeydd toredig sy’n aildrefnu eu bywyd beunyddiol yn collage o sgriniau o fewn sgriniau ac arosodiadau, gan ddefnyddio technoleg fideo sylfaenol y 1970au. Eto i gyd, er mor ddyrys yw Godard ac er y trais semantig sydd yn y ffilm hon, mae’n llwyddo i wneud yr hyn a wnaeth Kore-Eda yn ei dro, sef dangos i ni wirioneddau’r bywyd teuluol beunyddiol, gan osod bywyd go iawn yn uwch na drama neu stori neu blot. 

Tra mae Kore-Eda yn defnyddio cyffyrddiadau ysgafn mae Godard yn mynd yn syth (fel morthwyl), â ffocws clòs, at broblemau rhywiol y pâr priod a achosir gan y gymdeithas ddiwydiannol. Mae’n rhoi sylw i’r ffaith mai’r corff benywaidd sy’n cael ei ecsbloetio a’i reoli fwyaf gan y grymoedd hyn. 

Eto i gyd, yn ôl ei arfer, mae Godard, yn yr un modd â Kore-Eda, yn dal i gipio gwirionedd a gwir farddoniaeth o’r boen a’r niwed a wneir i unigolion, i gyplau ac i deuluoedd gan rymoedd cyfalafiaeth. Mae’r ddwy ffilm yn dangos i ni’r pethau teuluol a wnawn gyda’n gilydd yn ogystal â dangos sut mae popeth yn datgymalu ac yn dadelfennu oherwydd pwysau gwleidyddol ac economaidd. Ysgrifenna Godard y geiriau hyn ar gyfer cymeriad y wraig yn y ffilm: ‘Tybed? Tybed ai ffatri lectrig ydw i, yn gwefru a dadwefru, yn cynhyrchu plant a phrydau, yn sbectacl i edrych arni, yn rhan o gymdeithas?’ Tybed?

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Y neges ddiddiwedd ydi fod angen inni fod yn ddefnyddiol

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…