Colofnau

‘Os nad y fi, pwy? Ac os nad yn awr, pryd?’

Darllen dwy ffilm am Gorbatsiof

Vitaly Mansky

Gorbachev.Heaven

100 munud, 2020

Werner Herzog

Meeting Gorbachev

90 munud, 2018

Gideon Koppel

Amser darllen: 5 munud

08·12·2021

Golygfa o'r ffilm Gorbachev.Heaven gan Vitaly Mansky


Dri deg mlynedd yn ôl, ar ddiwrnod Nadolig 1991, cyhoeddodd Michail Gorbatsiof ei fod yn ymddiswyddo o’i rôl fel arlywydd yr Undeb Sofietaidd, a oedd eisoes yn datgymalu. Isod, trafodir dwy ffilm amdano.

*

Yn ystod fy hyfforddiant fel gwneuthurwr ffilmiau, roedd Werner Herzog (1942–) yn ffigwr allweddol i mi. Dyrchafwyd The Enigma of Kaspar Hauser (1974), The Great Ecstasy of Woodcarver Steiner (1974) a Stroszek (1977) yn fy ffurfafen sinematig, mae’n debyg oherwydd eu portreadau cwbl arbennig o gymeriadau ar y ‘tu fas’. Nid rebeliaid na chwyldroadwyr mohonynt mewn ystyr Hollywoodaidd ychwaith, ond mavericks gonest, yn chwilio am eu lleisiau eu hunain; roedd y cymeriadau hyn yn poeni mwy am ymladd eu hellyllon mewnol nag am grwsâd moesol dramatig.

A dyna i chi Fitzcarraldo (1982), ffilm a wyliais gannoedd o weithiau wrth iddi chwarae yn sinema Camden Plaza yn Llundain. Roeddwn yn gweithio’n rhan-amser yno ar y pryd, yn gyfrifol am wirio tocynnau a hebrwng pobl i’w seddi. Roedd yna wallgofrwydd yn perthyn i’r ffilm hon, rhyw egni ynfyd a oedd yn orfoleddus ond hefyd yn farwol. Rhaid ei bod wedi cyffwrdd â rhyw nerf sy’n cyfleu rhywbeth am zeitgeist cyfnod Thatcher. Tybed a oedd rhywbeth yn gyfarwydd am wep lloerig yr actor Klaus Kinski, diolch i’r hyn a oedd i’w weld ar y sgrin fach bob nos adeg newyddion y dydd? O ganlyniad i lwyddiant rhyfeddol Fitzcarraldo ar y sgrin fawr, nid yn unig fe’m cadwyd yn brysur am fisoedd, yn rhwygo tocynnau, ond cadwyd drysau llaweroedd o sinemâu annibynnol yn agored.

Yn fwy na dim, roedd Herzog yn un o’r ychydig artistiaid y bu i’w gwaith fy nghynorthwyo i adnabod ffurf ar ryddid mewnol yr oeddwn yn ceisio ymgyrraedd ato; rhyddid y gallwn ei weld ond heb allu ei gyffwrdd. Ond ni pharodd hynny: ar ôl Fitzcarraldo, fy siomi a gefais gan ei ffilmiau. Roedd fel petai ei bersonoliaeth ei hun, ei bersona, yn boddi’r gelfyddyd bob tro. Fallai mai ei enwogrwydd sydd i gyfri. Yn ei ysgrif ‘Creu’n beryglus’ (1957) mae’r nofelydd a’r athronydd o Ffrainc, Albert Camus, yn ysgrifennu: ‘Rhaid i bob artist sydd â’i fryd ar fod yn enwog
yn ein cymdeithas wybod nad ef a ddaw yn enwog, ond rhywun arall yn ei enw, rhywun a fydd yn dianc o’i ddwylo yn y pen draw ac a fydd, un dydd, efallai, yn lladd y gwir artist ynddo.’ Mae Camus yn graff ynghylch effeithiau bri ac enwogrwydd, a rhaid cyfaddef fy mod i’n mwynhau’r dehongliad sy’n dadlau i wawdlun o Werner Herzog lofruddio’r gwir artist yn y cyfnod ar ôl y ffilm Fitzcarraldo. Ac oddi ar hynny, i Herzog ei hun ddod yn gyfystyr â’r gwawdlun: ffasâd gwag sy’n chwythu tân ac yn byw oddi ar ei enw fel un a syllodd unwaith i lygaid angau.

Gellir gweld hyn yn cael ei wireddu yng ngolygfeydd agoriadol Meeting Gorbachev, ffilm a ryddhawyd yn 2018. Cyflwynir y ffilm trwy gyfrwng troslais gan Herzog: ‘Meeting Gorbachev for a German is burdened by history. The Nazi invasion left Russia a devastated country with some twenty-five million dead ...’ O’r dechrau, mae Herzog fel petai’n goddiweddyd Gorbatsiof er mwyn canolbwyntio ar ei hun, boed hynny’n ymwybodol ai peidio. Yna, wedi ei fframio gan y camera, yn wynebu Gorbatsiof – dyn a enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 1990 am ei waith yn dod â’r Rhyfel Oer i ben ac unigolyn y byddai llawer yn dweud iddo fod yn gyfrifol am rwystro trydydd rhyfel byd – aiff Herzog yn ei flaen: ‘Mikhail Sergeyevich, please allow me to explain myself. I am a German, and the first German you probably met wanted to kill you.’

Gyda’r hyn sy’n ymddangos fel greddf i warchod urddas ac ymwrthod â grym sarhad, mae Gorbatsiof yn ymateb trwy gyfrwng hanesyn. Mae’n adrodd ei hanes yn blentyn a sut yr oedd gan gymdogion ei daid siop a werthai fisgedi sinsir ar ffurf anifeiliaid. Almaenwyr oedd y cymdogion ac yng ngolwg Gorbatsiof y plentyn, roedd hi’n anorfod bod unrhyw un a fedrai wneud rhywbeth mor flasus ac mor hardd â’r bisgedi hyn yn ddaionus. Hyd yn oed yn blentyn, roedd Gorbatsiof fel petai’n gweu pethau ynghyd ag optimistiaeth, ac ag ymdeimlad am farddoniaeth pethau.

*

Er ei osodiad mewn cyfweliad i’r Guardian nad newyddiadurwr mohono (‘I’m not a journalist, I have no paper in my hands. You’re talking to a poet ...’) mae creadigaeth Werner Herzog yn datblygu megis ffilm ddogfen newyddiadurol gonfensiynol. Mae’n sych, wedi ei gyrru gan esboniadau a does dim ymdeimlad bod gan y camera bwrpas na chwilfrydedd. Trwy gyfrwng clytwaith o arddulliau cawn ein cyflwyno i olygfa agoriadol arall, golygfa wedi ei recordio, lle mae Herzog yn rhoi anrheg pen-blwydd hwyr i Gorbatsiof. Mae yna rywbeth yn annifyr am weld Herzog yn gwenieithu fel hyn, ond yn fwy arwyddocaol, does dim ymgais i gyfieithu profiad yn ffilm yn yr olygfa hon. Mae’r clytwaith arddulliau yn parhau, megis dyddiadur taith â throslais Herzog yn darllen testun, a allasai’n rhwydd fod wedi ei godi o Wikipedia: ‘He was born in the north Caucasus village of Privolnoye on March second 1931 ...’ ac ar y sgrin gwelwn arwyddbost ag enw’r pentref. Yn gyfeiliant i hyn ceir cerddoriaeth i greu awyrgylch – tonau a fwriadwyd i gyfleu emosiwn. Ac eto, nid oes dim yn emosiynol nac yn agos atoch ar unrhyw lefel am y ffilm hon. Ond fallai mai’r siom fwyaf ydi’r ffaith nad ydi Herzog yn gwrando ar Gorbatsiof. 

Mae’n teimlo’n anghyfforddus diystyru fel hyn waith un sydd wedi cyfrannu cymaint i fyd sinema ac sydd wedi galluogi ffyrdd newydd o edrych ar y byd. Ond nid oeddwn yn gwingo mwyach wrth wneud hynny wedi gwylio portread ffilmig arall o Michail Sergeiefits Gorbatsiof. Cafodd y ffilm Gorbachev.Heaven gan y Rwsiad Vitaly Mansky ei rhyddhau ar ôl Meeting Gorbachev ac mae’n gampwaith. Mae gwneuthurwyr y ffilm hon – a rhaid cydnabod y sinematograffydd Alexandra Ivanova, y golygydd Yevgeny Rybalko a’r cyfarwyddwr sain Anrijs Krenbergs – yn gwrando. Maent yn gwrando ac mae eu chwilfrydedd yn ddwfn. Yn eu dwylo, mae’r camera a’r meicroffon fel meicrosgop, yn dadlennu rhinweddau rhythm ac osgo a fyddai, mewn dwylo gwahanol, yn anweledig. Mae yna ddyfnder mewn mwy nag un ffordd i’r ffilm hon: dyma ddarn o waith sy’n edrych yn ôl ar gyfnod pan fu tro ar fyd mewn gwleidyddiaeth, ac sy’n ymwybodol ei bod yn cael ei chreu mewn presennol lle mae gwleidyddiaeth fel pe bai wedi nogio.

Yn Gorbachev.Heaven rydym yn dod wyneb yn wyneb â chorff ffaeledig Gorbatsiof, ond mae ei feddwl, ei ddysg a’i allu i fynegi ei hun yn fywiol. Yn yr ystyr hon, mae’r ffilm yn bortread o henaint hefyd – yn gyfuniad o nerth a breguster. Myfyria Gorbatsiof ar natur cariad a phriodas â thynerwch sydd efallai allan o ffasiwn. Atseinia ei syniadau yn y ffilm mewn awyrgylch sydd ag iddo brudd-der dwfn hunanbortread gan Rembrandt. Ac mae ei athroniaeth yn mynd yn ddyfnach na’r ddau air – perestroica a glasnost – sy’n gysylltiedig ag ef ac a ddaeth yn eiriau allweddol yr 20g. Wrth wylio’r ffilm hon roeddwn i’n teimlo i mi gwrdd â dyn a osododd ryddid o flaen grym ac a oedd yn glir ei feddwl trwy gydol ei yrfa wleidyddol mai ‘bywyd sydd bwysicaf’.

Dywed am ei ryddid ei hun: ‘Rydw i’n gallu dweud fy meddwl. Rydw i’n gallu mynegi fy marn. Rydw i’n ysgrifennu llawer. Ac mi rydw i’n ysgrifennu mor agored â phosib am bethau.’ Ond pan holir ef am Pwtin, mae’n nodedig o dawel. Does dim dwywaith nad ydym yn byw eto mewn cyfnod lle mae hi’n her mynegi barn yn agored. Meddai Gorbatsiof: ‘Os nad y fi, pwy? Ac os nad yn awr, pryd?’

Yr ail lun a fewnosodwyd: golygfa o ffilm Vitaly Mansky, Gorbachev.Heaven (2020)

Roedd hi’n anorfod bod unrhyw un a fedrai wneud rhywbeth mor flasus ac mor hardd â’r bisgedi hyn yn ddaionus

Pynciau:

#Rhifyn 17
#Rwsia
#Darllen ffilm
#Ffilm
#Gideon Koppel