Cyfweld

Geni a marw yn Nhŷ’r Llywodraeth

Holi Yuri Slezkine

Yuri Slezkine

The House of Government

Princeton, 1104tt, $39.95, 2017

Yuri Slezkine

Amser darllen: 25 munud

08·12·2021

Tŷ’r Llywodraeth (Llun: Wikimedia Commons/Ludvig14)

 

Mae Tŷ’r Llywodraeth (a elwid ‘Tŷ ar y Cob’ yn nes ymlaen) yn sefyll ar lannau’r afon sy’n llifo trwy ganol dinas Mosgo, gyferbyn â’r Cremlin. Dyma adeilad eiconig a gwblhawyd yn 1931 ac a fu’n gartref i nifer sylweddol o blith cenhedlaeth gyntaf chwyldroadwyr Rwsia. Roedd yma 505 o fflatiau, sinema, llyfrgell, cwrt tenis a lle i ymarfer saethu. Disgrifia cyfrol epig yr hanesydd Yuri Slezkine sut y bu i’r adeilad hwn ymgorffori einioes, gobeithion a ffawd y prosiect Sofietaidd a’i elît ar y pryd. Yn wahanol i lyfrau eraill am yr arbrawf Sofietaidd, mae hon yn gyfrol sydd wedi ei hysgrifennu yn ysbryd ‘Rhyfel a Heddwch’ Tolstoi neu ‘Bywyd a Ffawd’ Fasili Grossman. Uldis Tirons, golygydd y cylchgrawn Latfiaidd Rīgas Laiks fu’n holi Yuri Slezkine am ei ddiddordeb yn y tŷ a’i bobl. Diolch iddynt am y cyfle i gyhoeddi’r cyfweliad yn O'r Pedwar Gwynt.

*

Dywed [yr hanesydd Sofietaidd] Michail Geffter os ydym yn deall Lenin, byddwn yn deall yr hyn a ddigwyddodd i Rwsia a’r chwyldro. Cofiaf hefyd iddo alw’r Tŷ ar y Cob yn Dŷ’r Meirw, wrth gyfeirio at Dostoiefsci, yn yr ystyr fod y bobl a oedd yn byw yno fel petaent wedi ordeinio eu llofruddiaeth eu hunain. Ymwelais â’r lle bum mlynedd yn ôl ac wrth gwrs, wrth edrych ar yr adeilad, mae’n dod yn fyw: ffawd y trigolion yn cael eu harwain o gôl moethusrwydd i’w tranc. A fedrwch chi ddweud wrtha i pa agwedd o’r lle hanesyddol hwn, pa ddigwyddiadau wnaeth danio eich diddordeb a’ch argyhoeddi i roi eich sylw i’r hanes? Wedi’r cyfan, nid dim ond pwnc hanesyddol haniaethol mohono ond tir ffrwythlon sydd wedi esgor yn eich dwylo ar arddull benodol sy’n ymdebygu i nofel.

Dechreuodd y cyfan gydag erthygl — ‘The USSR as a communal apartment’ — a ysgrifennais ryw ugain mlynedd yn ôl. Roedd hon yn trafod strwythur y wladwriaeth amlgenhedlig Sofietaidd. Dywedodd Bolsiefic o’r enw Fareicis unwaith fod yr Undeb Sofietaidd yn fflat cyffredin. A defnyddiais y trosiad hwn yn fy erthygl.

Ond tebyg mai mewn cywair positif yr oedd yn defnyddio’r ddelwedd?

Yn wir, ond doeddwn innau ychwaith ddim wedi dechrau â’r bwriad o drafod y peth mewn termau negyddol. Roedd hon yn fy nharo fel delwedd gyfleus, dim mwy na hynny, ac felly fe’i defnyddiais. Wedi cwblhau fy erthygl mi wnaeth fy nharo y gallai fod yn ddifyr ysgrifennu am fflat cyffredin go iawn. Nid am y trosiad, ond yn hytrach fflat penodol lle roedd pobl yn byw gyda’i gilydd. Yr hyn oedd gen i mewn golwg oedd rhywle tebyg i’r fflat lle cefais fy magu.

A gawsoch chi eich magu, felly, mewn comwnalca, fel yr un yr oedd Fisotsci [canwr a bardd dylanwadol yn Undeb Sofietaidd yr 20g] yn canu amdano, gyda ‘thri deg ac un ystafell a dim ond un tŷ bach’?

Do, roeddwn i’n byw mewn comwnalca tan yn bedair ar ddeg oed, fel yr oedd fy ffrindiau i gyd a fy nwy nain. Roedd un o fy neiniau yn rhannu fflat anferth gyda chymdogion lliwgar. Felly penderfynais ysgrifennu hanes fflat cyffredin fel hyn o’r 1920au ymlaen, pan oedd y cysyniad hwn a’i ddarlunio mewn llenyddiaeth yn brin o hyd. Ond wedi misoedd lawer o ymchwil sylweddolais fallai na fyddwn fyth yn dod o hyd i ddigon o deuluoedd ac y byddai rhaid i mi ddibynnu’n ormodol ar lwc a chyd-ddigwyddiad. Penderfynais ddewis adeilad gyda digon o gymeriadau ynddo. Edrychais ar dŷ ar ôl tŷ cyn dod at yr un mwyaf a’r enwocaf. Mae’r Tŷ ar y Cob yn ymgorffori, i raddau, hanes y wladwriaeth Sofietaidd a Chwyldro Rwsia. A newidiodd hyn fy ffordd o fynd ati, y testun dan sylw, y trosiad? Do, oherwydd prif bwynt fflat cyffredin ydi’r ffaith bod dieithriaid llwyr yn cael eu taflu ynghyd ar hap. I’r gwrthwyneb, nid cyd-ddigwyddiad oedd wedi dwyn tenantiaid Tŷ’r Llywodraeth ynghyd: roeddent yn uwch-swyddogion yn y llywodraeth. Mae’n lle sydd â strwythur sefydliadol hollol wahanol, a phensaernïaeth wahanol hefyd. Dyma’r bloc o fflatiau mwyaf yn Ewrop. Treuliais ugain mlynedd yn cyfweld pobl yno, yn chwilota drwy’r archifau.

Pryd yn union y cafodd ei adeiladu?

Cymerodd y gwaith adeiladu o 1928 hyd oddeutu 1931. Dechreuodd pobl symud i mewn yn 1931 ond mi gymerodd rai blynyddoedd eto i gwblhau’r gwaith. Roedd yn gyfleus i mi fod cyfnod adeiladu’r tŷ yn cyd-daro â chyfnod adeiladu’r Undeb Sofietaidd, a’r Cynllun Pum Mlynedd cyntaf. Y bobl a symudodd i mewn i’r adeilad oedd y rhai hynny a adeiladodd y wladwriaeth Sofietaidd, yr economi gynlluniedig sosialaidd newydd, dinasoedd newydd Magnitogorsc a Cwsnetsc ac, yr un pryd, eu tŷ eu hunain. Felly roedd gen i hanes y chwyldroadwyr a ailadeiladodd y byd wrth adeiladu eu bywydau eu hunain, yn ogystal â’r stori ynghylch sut y bu i’w bywydau wthio yn erbyn y byd yr oeddent am ei sefydlu. 

Hyd y gwn i, roedd atgofion hapus gan nifer a dreuliodd eu plentyndod mewn llefydd fel hyn. Rydw i’n meddwl, er enghraifft, am Alecsandr Moisefits Piatigorsci, a oedd yn byw gerllaw, ar stryd Pretsistenca, y tu ôl i eglwys Crist yr Achubwr. Ysgrifennodd gyfrol, ‘Athroniaeth stryd gefn’ [Философия одного переулкa, 1989] am fechgyn a dyfodd i fyny yn y cowrtiau mewnol yno. Roedden nhw hefyd yn drigolion tai da, soled, tai â nifer o swyddogion uchel yn rhengoedd y fyddin ymhlith eu tenantiaid. Mae’n cofio sut y bu i swyddogion y fyddin gael eu tywys ymaith wrth iddo yntau a phlant eraill chwarae Natsïaid a Tsiecistiaid yn yr iard a thrafod hyn i gyd. Dwi’n siŵr na fedrwn ni heddiw werthfawrogi’n iawn y graddau roedd digwyddiadau ym mywydau’r oedolion yn rhan o fywydau’r bechgyn hyn, a fyddai rhwng naw a 14 oed ar y pryd. I ba raddau yr oedd y plant oedd yn cael eu magu yn y Tŷ ar y Cob yn cael eu heffeithio gan y gymuned hon, cymuned a oedd wedi ei diffinio gan strwythur hierarchaidd y llywodraeth a’r ymdrech i adeiladu’r Undeb Sofietaidd? Roedd iard i’r adeilad hwnnw hefyd. A ydi’r plant yn cofio’r agwedd hon o’u bywydau?

Ydyn wir. Rydw i wedi casglu ynghyd gryn dipyn o ddyddiaduron a llythyrau. Yn ddigon diddorol, doedd dim cymuned o oedolion yn Nhŷ’r Llywodraeth. Prin roedd yna berthynas gymdogol rhyngddynt, os o gwbl. 

Beth yw’r eglurhad am hynny?

Roedd y fflatiau wedi eu cofrestru yn enwau dynion nad oeddent bron byth gartref. Byddent yn dychwelyd am 3 y bore, ond yn gorfod codi eto gyda’r wawr a chael eu gyrru’n ôl i’r gwaith. Dim ond ar eu dyddiau i ffwrdd y byddent gyda’r teulu, sef un diwrnod yr wythnos. Dyna pryd y byddent yn treulio amser gyda’u plant. Byddai perthnasau’n dod i ymweld ar ddiwrnodau gwyliau a phenblwyddi. Doedd y fath beth â chyfeillgarwch i’w gael. Yr hyn oedd yn bodoli oedd cymrodoliaeth ac ymrwymiad i’r achos a arddelid gan bawb. Ond prin roedd hynny wedi ei adlewyrchu mewn arferion domestig. Fallai mai’r unig eithriad oedd Bolsieficiaid yr hen do fyddai’n dod at ei gilydd i ddathlu achlysuron arbennig, i ganu caneuon a hel atgofion am yr hen ddyddiau da yn alltud. Ymhlith y dynion, doedd dim ymwneud cymdogol o ran cyfnewid hanesion a phethach bob dydd yn bodoli. Byddent yn cyfarch ei gilydd yn y lifft, fallai, a dyna i gyd, neu’n taro ar ei gilydd yn yr iard. 

Ond roedd cwmnïaeth o ryw fath yn bodoli rhyngddynt. Beth oedd ei natur, os nad cymdogol?

Cwmnïaeth ideolegol ydoedd. A sefydliadol, oherwydd byddent yn siŵr o gyfarfod yn y gwaith. A chwmnïaeth ddirfodol, bersonol yn seiliedig ar y gorffennol a oedd ganddynt yn gyffredin. 

Mae hynny’n wir am y chwyldroadwyr. Ond roedd yna swyddogion newydd hefyd.

Yn y 1930au, nid oedd llawer o swyddogion newydd. Mae fy stori yn gorffen gyda diflaniad y genhedlaeth gyntaf, hynny ydi, yn 1937 ac 1938. Caiff llawer eu harestio, wedyn, ac yn ystod y rhyfel mae’r holl rai sy’n goroesi yn symud allan ac mae cymeriad y tŷ yn newid yn sylfaenol.

Hefyd, symudodd rhai o arwyr y Rhyfel Cartref i mewn ... Ar achlysur gwyliau gwladol ar 7 Tachwedd ac 1 Mai, byddent yn ailgynnau eu hysbryd cymunedol trwy gymryd rhan mewn defodau cyffredin: mynychu parêd yn y Sgwâr Coch gyda’i gilydd, er enghraifft. Ond byddai’r plant, yn wahanol i’r oedolion, yn byw drwy’i gilydd, yn gymunedol. Yr un math o fywyd a oedd gan bawb ohonynt, a fyddai’n ymffurfio yn y cowrtiau. Mae gan y tŷ arbennig hwn dri chowrt, ac maen nhw fwy neu lai’n ofodau caeedig. 

Roedd gan y gofodau hynny eu hierarchiaeth eu hunain. Byddai yna gowrt fyddai’n perthyn i chi a chowrt fyddai’n perthyn i rywun arall, fel y gellir dychmygu gyda phlant yn marcio eu tiriogaeth. Roeddent bron i gyd yn mynychu’r un ysgol, Ysgol Rhif 19 ar Gob Soffia. Mi fyddent yn cerdded yno ac yn ôl gyda’i gilydd ac yn cyd-fyw yn y cowrtiau ac yn seleri’r tŷ. Byddai gweithgareddau clwb yn cael eu trefnu hefyd: clybiau llynges filwrol, dawnsio, theatr. Byddent yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn gyda sêl. Roedden nhw’n byw bywydau llawn, wedi eu hydreiddio ag ymdeimlad o falchder.

Balchder ynghylch beth yn union?

Balchder eu bod yn byw yn y wlad orau yn y byd. Bod eu tadau’n chwyldroadwyr o fri, eu bod yn prifio mewn byd llawn cyfeillgarwch, cariad ac antur. A llyfrau cyffrous. Gellir gweld hynny yn eu dyddiaduron, sy’n llawn cofnodion am ddarllen. Roedd llawer ohonynt yn cadw dyddiaduron. Roedd llawer yn tynnu lluniau hefyd. Ceisiodd ambell un droi ei law at fod yn awdur. Dyma sut y dechreuodd [y nofelydd] Yuri Trifonof arni – byddai wedi bod tua naw mlwydd oed pan ysgrifennodd ei stori fer gyntaf. Ac mi wnaeth nifer o’i gwmpas yr un fath. Roeddent wrth eu boddau efo’r ysgol, wrth eu boddau efo’u hathrawon. Ac mi roedden nhw’n ymbaratoi am antur bob gafael. Roeddent wrth eu boddau’n darllen Jules Verne, Mayne Reid, Boussenard, ymhlith eraill – llyfrau trefedigaethol a llyfrau antur. Mae hyn yn egluro poblogrwydd y ffilm The Children of Captain Grant, gyda llaw, a ddaeth yn symbol o’r cyfnod. 

Ac roedd ganddynt arwyr yr Arctig a digonedd o awyrenwyr.

Yn sicr. Ond, yn ddiddorol, ar wahân i arwyr yr Arctig Sofietaidd ac awyrenwyr, a llongwyr yr SS Tsielwscin, roedden nhw hefyd yn gwirioni ar lenyddiaeth hanesyddol. Cafodd llawer ei ysgrifennu’n ddiweddar am hanes realaeth sosialaidd, ond rhaid cofio mai dim ond cyfran fechan o lyfrgelloedd ar yr aelwyd fyddai’n cynnwys llyfrau Sofietaidd. Byddai plant Tŷ’r Llywodraeth yn treulio bron eu holl amser yn darllen, ac ynghyd â chlasuron Rwsiaidd, byddent yn claddu eu hunain mewn cyfieithiadau: Dumas, Hugo, Syr Walter Scott, Dickens, Balzac, Faust Goethe, sy’n chwarae rôl arbennig o bwysig yn fy llyfr. I’r plant yr oedd y tŷ yn perthyn. Byddai’r tadau’n dod adref i gysgu a byddai’r mamau allan yn gweithio.

Onid oedd y merched i gyd yn troi’n wragedd tŷ?

Mi wnaeth rhai ohonynt, ond ddim llawer. Mae’r ffaith bod bron pob un o’r fflatiau wedi eu cofrestru yn enwau’r dynion, a’r merched wedi eu cofrestru fel aelodau o’r teulu, yn adlewyrchu strwythur y blaid yn y blynyddoedd cynnar hynny. Ond roedd y mwyafrif o’r merched yn ddoctoriaid, yn fferyllwyr, yn beirianwyr, yn ystadegwyr. Roeddent fwy na heb mewn swyddi proffesiynol. 

A wyddom beth oedd eu cefndir ethnig?

Gwyddom, fwy neu lai. Pe baem yn rhannu’r tŷ’n grwpiau ar y sail fod ganddynt orffennol yn gyffredin, a’r aelodau yn adnabod ei gilydd, Iddewon fyddai’r grŵp mwyaf o bell. 

Yn y tŷ hwn yn benodol, felly?

Ie. A hefyd yn ehangach, oddi mewn i’r elît Sofietaidd. Roedd mwy o Rwsiaid mewn termau absoliwt. Ond roeddent yn dod o bob cwr o’r wlad a heb deimlad o rannu gwreiddiau. Ac mewn perthynas â chanran poblogaeth, y Latfiaid, y Pwyliaid a’r Almaenwyr, ac yn fwy na neb, yr Iddewon, oedd yn dominyddu. O ran eu hymarweddiad a’u ffordd o fyw, roedd yna nodweddion penodol oedd yn diffinio’r Iddewon. Ond pwnc llyfr arall gen i yw hynny. Fy mhrif gymeriadau yw’r bobl y gallwn ddod o hyd i’w disgynyddion neu’r rhai yr oedd gen i ddogfennau amdanynt. Doedd dim dewis gen i – ysgrifennais am bobl y gallwn gael hyd i rywbeth personol amdanynt, nid dim ond gwybodaeth a oedd yn gysylltiedig â’r blaid. 

A oedd rhywbeth nodweddiadol eisoes ar y pryd am aelodau’r Tsieca? A oedd rhai ohonynt hefyd yn byw yno?

Oedd. Roedd rhai’n byw yno, hefyd. Mae’n anodd gwybod faint o’r hyn a wyddom amdanynt gafodd ei ailddehongli’n ddiweddarach. Mae pobl sy’n eu cofio yn aml yn eu gosod fel grŵp ar wahân. Fy nheimlad i – ond nid yw hyn wedi ei seilio ar gorff sylweddol o ddeunydd dogfennol – ydi eu bod yn osgoi cymysgu. Roeddent yn llai swil ynghylch datgelu eu cyfoeth. Roeddent yn gwisgo eu plant rywfaint yn wahanol. Ac mae’n bosib i’w plant deimlo eu bod dipyn yn wahanol hefyd.

Ym mha ffordd roedden nhw’n ‘gwisgo’n wahanol’? Oedd aelodau’r Tsieca yn gwisgo eu plant mewn siacedi lledr, felly?

Na, ond roedden nhw’n gwisgo dillad drutach. Er, ar y cyfan, steil asetig oedd yn teyrnasu ... Serch hynny, mi newidiodd hyn yn sylweddol yng nghanol y 1930au pan gyfnewidiodd y dynion eu siacedi lledr am siwtiau. Roedd pennaeth y GULAG, Matfei Berman, yn byw yno, fel ag yr oedd nifer o Tsiecistiaid eraill, ond wnes i ddim dod o hyd i unrhyw wybodaeth bersonol amdanynt y gallwn ei defnyddio yn fy llyfr. Yr unig un y ces afael ar lawer amdano oedd rhywun o’r enw Sergei Mironof, oedd yn rhedeg yr NKVD [rhagflaenydd y KGB] yng ngorllewin Siberia o dan Eihe. Roedd gorllewin Siberia yn cael ei reoli gan y ddau ddyn hyn – Robert Eihe fel cadeirydd y blaid a Sergei Mironof fel pennaeth yr NKVD. Y nhw, rhyngddynt, fyddai’n cael y gair olaf ynghylch pwy fyddai ar y rhestrau o bobl i’w saethu yn ystod cyfnod Teyrnasiad Braw Stalin.

A oedd pobl yn cadw anifeiliaid anwes yn y tŷ?

Roedd yna gŵn gwarchod, ond perthyn i’r tŷ, nid y teuluoedd, roedden nhw. Roedd yna rywun yn gyfrifol am y cŵn, hyd yn oed, am eu hyfforddi. Ond doedd nemor ddim anifeiliaid anwes.

Pam hynny?

Mi holais bobl am y fflatiau, y dodrefn, y darluniau ar y waliau, ac ati. Holais am anifeiliaid hefyd. Ond doedden nhw ddim yn rhan o’r diwylliant oherwydd eu bod yn cael eu cysylltu â moethau bwrgais. Yn arbennig cathod. Yn raddol, wrth i bobl setlo yn y tŷ, dechreuodd rhai boeni fod y chwyldro’n dod i ben. Doedd gan lawer ohonyn nhw ddim llenni. Roedd hynny’n cael ei ystyried yn rhywbeth bwrgais. 

Wel wrth gwrs! Bwrgais dros ben! 

Ac roedden nhw hefyd yn pendroni a oedd papur wal yn addas ai peidio. Roedd hyn yn cael ei weld fel mater a rannai ar sail rhyw. Roedd llawer yn cyhuddo eu gwragedd o dueddiadau bwrgais, o hyrwyddo cwlt gwrthrychau.

Golyga hynny fod y don gyntaf ffeministaidd o ferched yn ymryddhau, a oedd yn nodweddiadol o’r 1920au cynnar, drosodd ar y pwynt hwnnw?

Nac oedd, a dweud y gwir doedd dim sôn am ideoleg rhyddhau merched. Neu yn hytrach, roedd yn bodoli de facto – yn yr ystyr bod y rhan fwyaf o ferched yn gweithio ac yn cymryd eu gwaith o ddifrif, roeddent yn falch o’u haddysg a’u cyraeddiadau proffesiynol. Yr un pryd, po uchaf y byddent yn dringo ar yr ysgol broffesiynol, po fwyaf oedd y tebygolrwydd y byddent yn cael eu saethu (yn hytrach na chael eu gyrru’n alltud). Oddi mewn i deuluoedd wedyn roedd rhaniad llafur pendant rhwng tad a mam. Roedd gan y tad yn ddiwahân stydi. Stydi’r tad oedd y brif ystafell yn y cartref. Dyna sut y byddai’n cael ei galw: Stydi’r Tad. Weithiau byddai gan wragedd ystafelloedd gwely ar wahân, weithiau ddim; roedd hynny’n amrywio o deulu i deulu. Roedd gan bob teulu forwyn, fel arfer merch ifanc werinol yn dianc rhag cyfunoli (collectivisation). 

Os nad oedd y dynion fyth gartre, onid oedd hyn yn arwain at garwriaethau? Neu a ydi’r dogfennau a’r cofiannau’n awgrymu fel arall?

Maen nhw’n awgrymu hynny. Serch hynny, rydw i wedi darganfod llawer mwy o dystiolaeth o garwriaethau gan ddynion na chan y merched oedd gartref. Dylwn nodi nad oedd pob un yn ddiwahân â swydd. Beth bynnag, mi symudodd nifer o ddynion i’r tŷ yn 1931 ac 1932 gyda gwragedd newydd. Moment allweddol iddyn nhw oedd y 1920au pan oedden nhw’n byw mewn ‘tai Sofietiaid’, sef gwestai wedi eu troi’n neuaddau cysgu. Yn ystod y rhyfel byddai rhai ohonyn nhw mewn perthynas sefydlog, ond byddai eraill yn byw gyda mwy nag un ferch mewn mwy nag un lle. Erbyn iddyn nhw symud i Dŷ’r Sofietiaid yn y 1920au mi ddechreuon nhw setlo i lawr i fywyd teuluol a chael plant. Roedd y rhan helaeth o blant yr hen Folsieficiaid wedi eu geni ganol y 1920au, adeg y Cynllun Economaidd Newydd. Ganwyd Trifonof, er enghraifft, yn 1925. Mi lansiodd y 1920au yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘musical chairs’. 

Pam ‘musical chairs’?

Ar ôl y gêm honno lle mae un gadair yn llai nag sydd o bobl yn chwarae, ac mae’n rhaid i bawb sefyll ac eistedd i lawr pan mae’r gerddoriaeth yn stopio. Rydw i wedi ysgrifennu llawer am hyn oherwydd mae’n ymddangos i mi fod y chwyldro yn marw yn y cartref a bod unrhyw ymgais radical i newid bywyd dyn yn golygu rhyw fath o ymosodiad ar sefydliad y teulu. Dyma thema allweddol fy llyfr. Dynion ifanc oedd yn cysylltu breuddwyd am fywyd newydd â delwedd o ddynes hardd oedd y Bolsieficiaid, fel sy’n aml yn digwydd gydag aelodau sectau. Un o amcanion chwyldro ydi osgoi heneiddio. Roedd hyn yn thema bwysig yn y 1920au. Roedd y Bolsieficiaid yn credu bod y chwyldro yn ddiwedd yr hyn sydd yn cael ei alw weithiau’n eternal return: mae’r ddynoliaeth yn ymryddhau o’u hualau ac yn diweddu gyda’r cariadon ifanc wedi dod ynghyd eto, fel mewn comedi. A dyna ni. Fydd y rhai ifanc fyth eto’n troi’n hen ffyliaid. Ond maen nhw. A dyna pam rydw i wedi ceisio cysylltu’r gobeithion chwyldroadol gyda’r ffordd y byddai’r bobl hyn yn byw eu bywydau, eu gobaith am gariad gorchfygol, eu carwriaethau di-ben-draw ...

Gan ddwyn i gof [y nofel ddychanol gan Michail Bwlgacof] Heart of a Dog [1925; cyf. Saesneg, 1968], mae yna eironi melys i’r sefyllfa hon lle cywasgir pobl ynghyd â chynrychiolwyr dysgedig Rwsia Tsaristaidd: a allasai elfennau, unrhyw beth cyn-chwyldroadol, fod wedi goroesi yn y tŷ hwn?

Dyna gwestiwn diddorol dros ben. Ar ryw ystyr, dyna thema ganolog fy llyfr. Mi fyddwch yn cofio efallai fod y tŷ wedi ei godi ar gors. Fel dinas San Petersbwrg. Gyda llaw, rydw i bob amser yn cymryd cerflun Y Marchogwr Efydd [cerflun o Pedr Fawr a ddadlenwyd yn San Petersbwrg yn 1782, ac enw cerdd adnabyddus a ysgrifennwyd yn 1833 gan Pwscin] fel cyfeirbwynt. Mewn ffordd, mae pob nofel Sofietaidd o gyfnod y Cynllun Pum Mlynedd cyntaf yn delio â myth y creu, mewn rhyw ffordd. A hefyd, yr un pryd, â’r Marchogwr Efydd – dinas newydd, byd newydd sy’n cael ei godi ar gors ... Mae trosiad y gors yn bwysig iawn i mi, oherwydd roedd yn bwysig i’r Bolsieficiaid. Ysgrifennodd Lenin gryn dipyn am lithro i’r gors. A heddiw mae gennym Sgwâr Bolotnaya [Sgwâr y Gors], yng nghanol dinas Mosgo ...

Fallai mai dyna pam nad ydi’r mudiad democrataidd yn Rwsia wedi mynd ymhell?

Ydych chi’n gyfarwydd â cherdd Tsiwcofsci: ‘Nid yw’n dasg hawdd tynnu eliffant o gors!’? Mae’r bennod gyntaf yn fy llyfr yn dwyn yr enw ‘Y Gors’. Mae’n darlunio’r bywydau prysur, gorlawn, blêr, di-drefn, wedi gwisgo at yr edau, y byddai pobl yn arfer eu byw yno. Y siopau bychain a’r stondinau, yr eglwysi a’u heglwyswyr, y puteiniaid, y tinceriaid, gwragedd pysgotwyr, y gweithdai – dyma’r gors roedd y Bolsieficiaid wedi rhoi eu bryd ar ei sychu. Yn union fel Pedr Fawr a llawer un arall – roeddent am ddraenio’r gors a chodi yn ei lle y ‘tŷ tragwyddol’ y mae Andrei Platonof yn ysgrifennu amdano. Mae Macar, prif gymeriad un o’i storïau, yn gweithio ar dir adeiladu Tŷ’r Llywodraeth. Roedd angen dinistrio’r hen fywyd er mwyn adeiladu tŷ newydd ar seiliau newydd ar gyfer dyn newydd, bywyd newydd. Am y Bolsieficiaid wnaeth ddraenio’r gors a chodi tŷ y mae fy llyfr, ond mae’r gors yn dychwelyd ac yn dechrau treiddio trwy’r fflatiau. Mae’r trosiad hwn yn cael ei ddiriaethu ar unwaith oherwydd mae tenantiaid y Tŷ ar y Cob yn ei gael yn fan diffrwyth. Doedd neb mewn gwirionedd yn hoffi’r estheteg luniadaethol (constructivist) a cheisiwyd ei lliniaru orau medrent. Byddent yn dod â’u hoff wlâu a chadeiriau esmwyth i’r adeilad, desgiau a oedd wedi bod yn eiddo i’w neiniau a’u teidiau. Ac yn bwysicach na dim, byddent yn dod â’u perthnasau. Doedd bron yr un teulu niwclear o’r math mam-tad-mab-a-merch. Bron ym mhob fflat roedd nain yn byw, perthnasau tlawd, hangers-on, plant wedi hen dyfu i fyny a’u teuluoedd. Roedd llawer o gyn-wragedd yn byw yno, doedd neb yn ystyried hynny’n newyddion. Byddai gŵr yn dod â’i wraig newydd, a byddai’r gyn-wraig yn symud i’r ystafell drws nesaf. Yn ddiddorol, doedd carwriaethau tu allan i briodas ddim yn cael eu rhoi dan chwyddwydr y blaid. Byddai’r arolygwyr yn mynd yn syth am y seler i wirio’r bobl oedd yn byw yn y tŷ. Fel y gwyddoch, byddai’r broses o gofrestru, o wirio a disgyblu yn y blaid a’r Comsomol yn digwydd yn y gweithle a’r ysgol yn yr Undeb Sofietaidd. Ond ddim gartref. Roedd y tenantiaid yn atebol i’r blaid trwy eu comisariaethau, a dim ond pobl oedd yn gweithio yn y tŷ oedd yn atebol i’w hawdurdodau lleol. Roedd hyn yn cynnwys y morwynion. Dyna pam roedd y fflatiau’n ymddangos fel petaent tu hwnt i lygaid hollwybodus y wladwriaeth. Byddai pobl yn byw eu bywydau a byddai eu plant yn cael eu magu’n bennaf gan eu mamaethod Uniongred Rwsiaidd a’u dysgodresau Almaenig, ac ni fyddai neb yn gwirio pa mor ddibynadwy oedd eu daliadau gwleidyddol. A chan berthnasau pell a fyddai hefyd yn byw yno. Neiniau Iddewig, Hen Gredinwyr Rwsiaidd, ac ati. Roedd y Bolsieficiaid yn byw mewn cors. Pan fyddai’r awdurdodau’n dod i’w nôl, roedd y tenantiaid yn gwybod eu bod yn euog o rywbeth. 
 

Hotel Wcraina, yn y pellter, tu hwnt i'r orsaf bŵer sy'n cyflenwi trydan i ganol dinas Mosgo (Llun: Flickr/Istvan)


Mi holais Alecsandr Moisefits [Pyatigorsci] [disident Sofietaidd (1929–2009) oedd yn arbenigo yn athroniaeth India ac a ystyrir yn un o brif athronwyr Rwsia] beth oedd ei farn am Hotel Wcraina [gwesty mwyaf Rwsia ac Ewrop, a godwyd mewn arddull Stalinaidd]. Mae’n dweud ei fod yn cofio’r gwesty’n cael ei adeiladu, a sut y sylweddolodd yn sydyn y byddai pobl go iawn yn byw yno, ond nad oedd a wnelo hyn ddim â nhw, y byddent yn bobl oedd yn perthyn i gategori arbennig. Hynny ydi, roedd y rhaniad hwn eisoes yn weladwy yn yr adeilad ei hun, a oedd fel petai’n tywynnu grym wrth i geir duon dirgel dynnu allan o’r adeilad. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd y ffaith bod y bobl y tu mewn i’r adeilad yn byw bywyd hollol wahanol, gyda’u rheolau eu hunain, er o’r tu allan fod y cyfan yn ymddangos, fallai, fel math o stori dylwyth teg.

Ydi, mae hynny’n hollol wir. Dyma un o gryfderau nofela Trifonof, The House on the Embankment (1976; cyf. Saesneg, 1999). Er iddo dyfu i fyny yn y tŷ hwn, ac wedi bod â’i holl fryd ar bortreadu bywydau ei denantiaid – ei dad a’i ffrindiau’n arbennig – dewisodd fel prif gymeriad ddyn a oedd yn byw mewn tai slym ac a welai’r tŷ mawr o’r tu allan. Llwyddodd i gocsio ei hun i’r byd hwn trwy frad – trwy fradychu cyfeillgarwch, bradychu ei gariad a’i athro. Yr un pryd, roedd brad y chwyldro yn digwydd y tu allan i’r tŷ, heb i neb sylweddoli hynny. Roedd hon yn thema bwysig iawn i mi: wnaeth y bobl hyn ddim trosglwyddo eu ffydd i’w plant. Rydw i’n gweld tebygrwydd yma rhwng y Bolsieficiaid a’r amrywiol sectau apocalyptaidd. Ond beth yw’r prif wahaniaeth rhwng y Bolsieficiaid a’r holl sectau hyn? O’i roi yn ddi-flewyn-ar-dafod, roeddent yn llawer llai ofnus o gael eu heintio gan y byd tu allan. Cawsant eu magu yn bennaf ar glasuron llenyddol. Ac roeddent yn darllen Gogol, Dickens, Tolstoi a Pwscin yn uchel i’w plant heb sylweddoli fod eu plant yn tyfu i fyny gyda diwylliant a oedd yn sylfaenol groes i’r byd roeddent yn ei adeiladu.

Ydych chi’n awgrymu fod hyn yn lled gyffredin? I ffydd ddechrau dymchwel ym Mosgo – calon symbolaidd yr Undeb Sofietaidd – mor fuan ag yn ystod bywydau’r genhedlaeth gyntaf a bod ein cenhedlaeth ni yn ddim mwy nag etifedd hwyr i’r chwalu hwn?

Doedd y tenantiaid eu hunain ddim yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd. Ond ar y tu mewn, roedd ffydd yn marw. Nid yn unig yr hen gabinets, y soffas, y carpedi, yr holl gefndryd a’r hangers-on [oedd yn dihoeni], ond hefyd y llyfrau a’r byd dengar roeddent yn ei ddadlennu. Doedd plant yr hen Folsieficiaid uniongred, rhonc ddim yn darllen Marx a Lenin. Doedd neb yn dweud wrthyn nhw fod rhaid darllen Marx, roedd hynny’n cael ei ohirio: ‘Mi fydd amser ar gyfer hynny yn nes ymlaen.’

Os cofiaf yn iawn, fe wnaethoch ysgrifennu fod pobl, serch hynny, yn cael eu dadrithio yn raddol gyda’r byd breintiedig hwn. Ai cyfeirio at y plant neu at eu rheini yr oeddech? A beth oedd perthynas y plant â’u rhieni?

Roedd rhai o’r chwyldroadwyr yn sicr yn ymwybodol eu bod yn byw bywyd o dwyll ac y dylai pethau fod yn wahanol. Nad oedd yn iawn byw mewn tŷ braint. Eu cyfiawnhad oedd eu bod yn agosáu at eu hamcan – cyn hir iawn mi fyddai bywyd pawb fel hyn, os nad yn well. Ond, ar y cyfan, roeddent yn sylweddoli fod rhywbeth o’i le. Mae gen i ddyddiaduron yr awdur Arosef. Ef oedd tad yr actores Sofietaidd adnabyddus, Olga Arosefa, y byddwch efallai yn ei chofio. Dyma rywbeth mae’n dychwelyd ato o hyd. Ac mae hefyd yn dod drosodd yn gryf iawn yn llenyddiaeth y cyfnod. Teimlad anghysurus ynghylch caffael pethau o hyd a natur gynyddol fwrgais bywyd. Ond prin y byddai’r plant yn meddwl am hynny, ar wahân i’r adegau pan fyddent yn dod wyneb yn wyneb â phobl fel prif gymeriad The House on the Embankment Trifonof. Roeddent yn mynychu’r un ysgolion â’r bechgyn a’r merched a oedd yn byw mewn tai hofel ar ynysoedd yn yr hen gors. 

Onid oedd yna ysgolion elitaidd ar y pryd?

Ddim ar y pryd. Roedd yna un ysgol arbennig yr oedd llawer o’r plant hyn yn ei mynychu wnaeth yn nes ymlaen fagu statws ysgol freintiedig. Ond roedd y mwyafrif llethol ohonynt yn mynychu yr un gwbl gyffredin, sef Ysgol Rhif 19 ar Gob Soffia. Roedd plant [y Tŷ ar y Cob] yn niferus, ond roedd plant eraill hefyd yn mynychu’r ysgol hon. Wrth gwrs, byddent yn synhwyro gwahaniaethau mewn statws cymdeithasol. Mae hyn yn eglur yn llyfr Trifonof. Roedd y bechgyn a’r merched o deuluoedd y gweithwyr yn rhyfeddu at y fflatiau hyn. Yn nofela Trifonof, mae mam y briodferch yn cyhuddo’r prif gymeriad o fod wedi symud i mewn efo nhw oherwydd eu heiddo, er mwyn budd materol, ac felly nad oedd wedi deall y chwyldro. Mae o, yn ei dro, yn ei chyhuddo o ragrith. Ac mae’r ddau’n gywir, mewn ffordd. Felly roedd y plant hyn yn ymwybodol o’r anghyfartaledd cymdeithasol, roeddent yn dod ar draws bechgyn fyddai’n eu curo.

Pwy oedd yn curo pwy? 

Hwliganiaid o’r tai slym fyddai’n curo’r bechgyn o’r Tŷ ar y Cob.

Eitha gwaith â nhw ...

Ond ar y cyfan, hyd y deallaf, roedd llawer o’r plant yn anymwybodol o’u safle arbennig. Roedd rhai o’r merched yn dweud y byddai eu rhieni yn eu ceryddu: ‘Paid â gadael i’r gyrrwr dy hebrwng i’r ysgol.’ Ac mae rhai yn cofio: ‘Beth oeddwn i fod i’w wneud os oeddwn i’n eistedd mewn ystafell ddosbarth a phortread o fy nhad yn hongian ar y wal?’

Onid oedd canolfannau dosbarthu bwyd yn bodoli ar y pryd?

Oedd. Mi oedd gan y tŷ ffreutur oedd â’i ganolfan ddosbarthu ei hun. Byddai’r morwynion yn prynu bwyd yno. Neu byddai’r gyrwyr yn mynd i Stryd Granofsci lle roedd yna dŷ arall gan lywodraeth y wladwriaeth, o’r enw Tŷ’r Sofietiaid Rhif 5. Dechreuodd hyn yn fuan iawn, fel ag y gwnaeth system hierarchiaeth dacha, a mynediad i ganolfannau gwyliau a sanatoria. Roedd canolfannau gwyliau gaeaf, lle byddai modd mynd i sgio, a rhai haf lle byddai modd nofio ac ati. Roedd hyn yn adeg arbennig o bwysig yn eu bywydau ac ym mywydau eu plant, roedd yn oes aur, yn gyfnod o ddiniweidrwydd a hapusrwydd. Ac wrth gwrs, roedd mynediad i hyn i gyd yn cael ei gyfyngu’n llym i’r nomenclatwra.

Soniodd [y beirniad theatr a ffilm] Maia Twrofscaia [1924–2019] am fynychu’r un ysgol â merch Bwcarin [chwyldroadwr Bolsieficaidd, golygydd y papur newydd Pravda yn dilyn chwyldro Chwefror 1917 ac Ysgrifennydd Cyffredinol pwyllgor gweithredol y Comintern rhwng 1926 ac 1929, hyd nes iddo gael ei esgymuno o’r Politbiwro]. Un diwrnod daeth eu hathrawes i’r ystafell ddosbarth a dweud nad oedd Sfetlana yn dod i’r ysgol mwyach a gwyddent i gyd fod rhywbeth erchyll wedi digwydd. Roeddwn i’n mynd i ofyn yr un cwestiwn i chi. Pryd fyddai’r rhieni a’u plant wedi teimlo ofn am y tro cyntaf a dechrau deall fod rhywbeth erchyll ar waith? Nad delfrydau’r chwyldro’n unig oedd yn chwalu ond pobl yn cael eu dwyn ymaith. Wedi’r cyfan, rhaid bod y gyfran o bobl yn y tŷ hwn a gafodd eu cymryd yn reit uchel.

Roedd yn uchel iawn. Cafodd oddeutu 800 o bobl eu gwaredu o’r tŷ, rywsut neu’i gilydd.

Faint oedd yn byw yno i gyd?

Os ydym yn cyfri aelodau’r teuluoedd hefyd, oddeutu 2,500. Bu i gyfran fawr o’r pennau teuluoedd farw. Mae’r ffigwr 800 yn cynnwys y gwragedd a gafodd eu gyrru’n alltud a phlant a gafodd eu gyrru i gartrefi plant amddifad. Cafodd 344 ohonynt eu saethu, y mwyafrif yn ddynion. Daeth ofn i’r wyneb ar ddechrau’r hyn a elwid yn weithrediadau torfol (mass operations). O gwmpas haf 1937.

Mor ddiweddar â hynny? Ddim ar ôl dienyddiad Cirof [aelod o’r Politbiwro, pennaeth y blaid yn Leningrad a ffrind personol i Stalin], felly?

Rydych yn llygad eich lle, mi gafodd dienyddiad Cirof effaith ddofn ar bawb. Mae hynny’n eglur nid dim ond o’r cofiannau, ond hefyd o ffynonellau cyfoes. Roedd dienyddiad Cirof yn drobwynt yn eu dealltwriaeth o’r wlad a’r byd. Ond mi gymerodd hynny beth amser i fagu momentwm. Ar y dechrau, nid oedd neb yn meddwl fod dim anarferol wedi digwydd. Roedd cosbi gwrthwynebwyr yn cael ei weld fel rhywbeth normal. Yn gyffredinol, roedd pawb o’r farn mai dim ond un safbwynt cywir oedd – a’r gors i’r chwith ac i’r dde o hynny ... Daeth ofn i’r wyneb pan ddechreuwyd dod bob nos i fynd â phobl ymaith. 

Sut fyddai pobl yn cael eu cymryd i ffwrdd?

Mewn pob math o ffyrdd. Byddai rhai’n cael eu harestio yn y gwaith, byddai eraill yn cael eu harestio wrth fynd ar drip busnes. Ond gan amlaf byddent yn dod i’w casglu yn eu cartrefi liw nos. Weithiau byddai pobl yn cael eu harestio ganol dydd, yn arbennig yn y gwaith. Ond fel arfer, yn y nos y byddai’r pethau hyn yn digwydd.

Onid oeddent yn chwilota’r cartrefi hefyd?

Yn aml iawn byddai pobl yn cyflwyno eu hunain wedi iddynt gael gŵys. Dim ond yn nes ymlaen y byddai eu cartref yn cael ei archwilio, wedi iddynt gael eu harestio. Weithiau byddent yn dod yn y nos gyda thystion, cymdogion neu giardiau o’r fynedfa i lawr y grisiau.

Ac oedd yna achosion lle bydden nhw’n cymryd fflat oddi ar rywun?

Fel arfer y pen teulu fyddai’n cael ei gymryd. Byddent yn chwilota drwy’r tŷ’n drwyadl, yn troi popeth ben i waered. Byddai un ystafell yn cael ei selio. Ac yna byddai gweddill aelodau’r teulu yn cael eu symud i un o’r fflatiau fyddai wedi eu gwagio, gan ei droi’n fflat cyffredin. Er enghraifft, cafodd gweddill aelodau pum teulu eu rhoi mewn un fflat a oedd wedi bod yn perthyn i gomisâr y bobl. Yn yr un bloc o fflatiau. Ond dros dro oedd hyn, tan y daethpwyd o hyd i le arall iddynt. Doedden nhw ddim yn cael eu taflu allan i’r stryd. Ac yna byddent yn cael eu symud i rywle arall. 

Beth am y dodrefn a’r pethau eraill?

Roedd y rhan fwyaf o’r dodrefn wedi eu darparu gan y wladwriaeth. Doedd pobl ddim â’r hawl i fynd â’u heiddo efo nhw o’r tŷ. Fel mae’n digwydd, mae yna hanes cyfan o lythyru gan bobl, gwragedd yn bennaf, pan ddechreuon nhw ddychwelyd o fod yn alltud.

Cyfnod y 1950au fyddai hynny yntê?

Ie, ac mi wnaethon nhw ddechrau ymgyrch ar gyfer dychwelyd rhywfaint o’u heiddo. A bod yn fanwl gywir, i ddechrau, ymladd i glirio enw da eu gwŷr y byddent, a oedd yn arbennig o bwysig er mwyn adfer eu henw da hwythau, yn ogystal â’u breintiau, eu pensiynau ac ati. Yna, byddent yn ymladd dros glirio eu henw da eu hunain, ac yna’n olaf, i gael adfer eu hawl i fyw yn eu hen fflat neu o leiaf am i’w heiddo gael ei ddychwelyd iddynt. Byddent yn ysgrifennu datganiadau tebyg i: ‘Roedd gen i biano fy mam. Rhowch ef yn ôl i mi.’ Byddai’r dodrefn fel arfer wedi ei storio yn y seler, ond mae ffawd y pethau hyn ar y cyfan yn anhysbys. Cafodd llawer ei ddwyn yn ystod y rhyfel. Ond cafodd rhai pethau eu darganfod a’u dychwelyd i’w perchnogion.

Fe wnaethoch sôn am ofn, ond wrth gwrs yn drosiadol mae ofn hefyd yn fath o gors sydd yn nychu bywyd.

Mi wnaeth llawer o’r oedolion ddechrau gwared llyfrau o’u llyfrgelloedd, a gwared y llyfrau oedd yn perthyn i’r rhai gafodd eu harestio.

Sut fath o wasanaeth casglu sbwriel oedd yna?

Roedd gan bob cegin ei thwll neu beipen ysbwriel ei hun. Roedd yna lifftiau gwasanaeth penodol hefyd. Fel mae’n digwydd, mae un wraig yn disgrifio sut y cafodd ei gŵr ei arestio. Daethant yn ddistaw i’r fflat ganol nos yn y lifft gwasanaeth a mynd ag ef i ffwrdd.

A oedd y lifft gwasanaeth yn agor yn uniongyrchol i’r fflat, felly?

Roedd rhai ohonynt, ond nid pob un. Weithiau byddai’r arestio yn digwydd mewn ffyrdd digon creadigol. Yna byddai’r straeon yn cael eu hymestyn wrth gael eu cyfnewid ... Dwi ddim yn meddwl fod hyn yn digwydd mor aml ag y mae pobl yn haeru ond yn sicr mi oedd yna bobl fyddai’n pacio eu cês ac yn aros i gael eu harestio, gan aros ar eu traed drwy’r nos yn gwrando am y camau ar y grisiau. Ond gan nad oedd y plant yn deall yr hyn oedd ar droed, byddai eu bywydau’n parhau yn ôl yr arfer – nes y byddai eu rhieni’n cael eu harestio. Ac eto ni fyddai eu ffydd yn cael ei sigo hyd yn oed bryd hynny.

Ond siawns na fyddai gan y plant hynny a oedd wedi darllen clasuron llenyddiaeth, ac wedi’u magu gan neiniau o ffydd Uniongred Rwsiaidd neu Iddewig, ddim ffydd gwerth siarad amdani?  

Yr hyn sy’n bwysig yw nad oeddent yn sylweddoli bod eu diwylliant yn wahanol i un eu rhieni. Roeddent yn addoli eu tadau, yn wladgarwyr o’r iawn ryw, does dim dwywaith am hynny. Roedd
rhaid aros i dipyn o amser basio cyn iddynt ddod i gredu bod eu system gwerthoedd a’u hargyhoeddiadau yn sylweddol wahanol i’w rhieni. Roedd eu rhieni wedi trosglwyddo iddynt ran o’u diwylliant, ond heb y ffydd apocalyptaidd, filenaraidd y byddai oes gwbl newydd yn gwawrio. 

Onid yw hynny’n rhyfedd? Fe fyddwch yn cofio cerdd Mandelstam am do newydd o arbenigwyr ar Pwscin yn astudio a’u gynnau ar eu gliniau, mewn geiriau eraill y giardiau ifanc a fyddai yn nes ymlaen yn hebrwng eu confoi eu hunain [i’r gwersylloedd carcharorion].

Gyda llaw, roedd Geffter ei hun, yn ŵr ifanc, wedi gwasanaethu fel giard confoi. Yn y 1930au, yn fyfyriwr yn adran hanes Prifysgol Mosgo, roedd yn ysgrifennydd y gell Comsomol ac â’r enw o fod yn chwilyswr ciaidd. Wnaeth o ddim arteithio nac arestio neb, ond mi wnaeth gadeirio cyfarfodydd, gan alw pobl a’u plant yn elynion y bobl. Mi wnaeth newid, fodd bynnag, ac nid y fo oedd yr unig un. Dyna sy’n ddiddorol. Fel arfer rydym yn clywed straeon am blant wnaeth fradychu eu rhieni, neu a gafodd eu gorfodi i’w diarddel. Ond roedd hyn yn beth prin iawn. Wnaeth neb bron ddiarddel eu rhieni, ac ychydig iawn oedd dan bwysau i wneud. Os byddai’r ddau riant wedi eu harestio, byddai’r plant yn cael eu mabwysiadu gan eu neiniau, eu modrybedd ac ati. Dim ond pan na fyddai hyn yn digwydd y byddent yn cael eu gyrru i’r cartrefi plant amddifad, a’r peth syfrdanol yw er bod eu bywyd teuluol wedi ei chwalu, eu bod yn dal i deimlo eu bod yn byw’r bywyd gorau posib. A tydyn nhw ddim yn disgrifio eu bywyd yn y cartrefi plant fel hunllef ychwaith, ond fel parhad o blentyndod hapus.

Lle roedd y cartrefi plant hyn wedi eu lleoli?

Roeddent wedi eu gwasgaru dros y wlad. Byddai’r plant i ddechrau’n cael eu cymryd i ganolfan gadw troseddwyr ifanc Danilofsci ym Mosgo ac yna’n cael eu gyrru i gartrefi plant amrywiol. Wedi’r dyddiau cyntaf ofnadwy byddent fel arfer yn disgrifio athrawon caredig fyddai’n drugarog tuag atynt, gan eu cynorthwyo a chan rannu llyfrau â hwy, yn ogystal â’u cyfeillgarwch â phlant eraill. Rydw i wedi clywed straeon fel hyn gan bobl a oedd erbyn y 1960au wedi troi’n wrth-gomiwnyddol. Hynny ydi, nid pobl a oedd yn dymuno gwyngalchu hanes oedd y rhain trwy adrodd y straeon hyn. Mae hyn yn cael ei gyfleu yn eu llythyrau a’u hatgofion, ac mae’n syfrdanol: er i’r arswyd a’r holl arestiadau chwalu eu bywyd yn Nhŷ’r Llywodraeth, ni wnaeth chwalu teyrngarwch y plant i’w gwlad ac i sosialaeth ... Ar wahân i ambell eithriad prin, doedd y plant ddim eto – yn y 1930au – wedi dechrau ymbellhau oddi wrth yr achos a arddelid gan bawb. Yn nes ymlaen y daeth hynny.

Fel y chi, rydw i’n mwynhau gweithio gyda ffynonellau archifol a’r hyn sydd wedi fy nghyfareddu fwyaf am y gwaith hwn yw dod ar draws straeon syfrdanol o’r math na fyddai modd i rywun fyth eu dyfeisio, lle nad oes modd dweud: ‘Roeddwn i’n gwybod hyn, ac mae’r ffynonellau’n cadarnhau fy ngwybodaeth.’ Fedrwch chi gofio stori sy’n perthyn i’r Tŷ ar y Cob wnaeth lwyddo i’ch syfrdanu er eich bod wedi astudio’r lle ers cymaint o amser?

Mae yna un stori wnaeth adael argraff rymus arnaf, er na wnaeth fy syfrdanu’n llwyr. Stori un o ddienyddwyr mwyaf erchyll y blynyddoedd hynny, sef Sergei Mironof [a grybwyllwyd eisoes]. Ei enw go iawn oedd Corol.

Fyddai dim modd byw yn yr Undeb Sofietaidd ag enw fel yna [Mae Corol yn golygu ‘Brenin’ mewn Rwsieg].

Yn union, felly mi newidiodd ei enw.

Felly Iddew oedd e? 

Ie. Fo oedd comander yr NKVD ar gyfer gorllewin Siberia, sef ail ranbarth yr Undeb Sofietaidd ar y pryd o ran niferoedd y bobl fyddai’n cael eu dienyddio.

Pa ranbarth oedd y cyntaf?

Rhanbarth Mosgo. Mironof oedd yr un wnaeth gynnig i Iesiof [pennaeth yr NKVD 1936-38] y dylid ailgodi’r troica er mwyn y drefn o lysoedd brys a chyflymu’r broses o arestio, dienyddio a gyrru pobl yn alltud.

Pryd ddaeth y troica i’r amlwg gyntaf?

Yn gynnar iawn, wedyn ni wnaethpwyd llawer o ddefnydd ohonynt, ond adeg y cwotâu a’r arestiadau torfol y fo roddodd yr arweiniad y dylid eu hailsefydlu, ac felly mi wnaethant chwarae rhan bwysig yn yr hyn a elwir yn Deyrnasiad Braw [Stalin]. Oherwydd mi gynigiodd y syniad o ...

… feltiau symudol (conveyor belts).

Ie, gallwn eu galw felly. Ac mi chwaraeodd ran weithredol iawn yn hynny. Yn nes ymlaen cafodd ei drosglwyddo o Siberia i Mongolia lle y cychwynnodd y Terynasiad Braw eto. Yn y pen draw, daeth i Mosgo, gan symud i mewn i’r Tŷ ar y Cob. Roedd ganddo wraig gariadus a merch wedi ei mabwysiadu yr oedd yn ei haddoli, yn ôl pob sôn. Dwi’n meddwl iddo gael ei apwyntio’n bennaeth Adran Dwyrain Asia o Gomisaria’r Bobl ar gyfer Materion Tramor ac roedd yn arbennig o hapus. Roedd pawb o’i gwmpas wedi marw ond roedd o wedi goroesi. Ac yna’n sydyn, yn fuan wedi’r Flwyddyn Newydd, mae o a’i wraig yn ymweld â ffrindiau. Mae’r ffôn yn canu: galwad gan y weinyddiaeth, mae’n cael ei alw i mewn i lofnodi papurau, rhywbeth i’w wneud â dêl yn Japan. Mae’n mynnu fod popeth mewn trefn, ond yn cytuno i fynd i mewn. Mae hi’n fis Ionawr, yn rhewi’n gorn. Mae ei wraig yn dweud: ‘Cym fy sgarff!’ Beth amser wedyn, dywedodd ei wraig nad oedd ei gŵr y teip o berson i gymryd sgarff ei wraig. Ond y tro hwn, mi wnaeth. Ac mae hi’n mynd yn ei blaen: ‘Mae gen i’r teimlad ei fod yn gwybod lle roedd yn mynd.’ Mae’n cymryd ei sgarff ac yn gadael. Mae hi’n ei gofio’n cerdded i lawr y grisiau ac yn edrych i lawr. Nid yn y Tŷ ar y Cob, ond yn nhŷ eu ffrindiau lle roeddent y noson honno. Mae’r weinyddiaeth yn ffonio eto: ‘Lle mae e?’ Mae yna alwad arall. Yna daw dyn o’r weinyddiaeth a dweud: ‘Mae’n hwyr.’ Mae’r dyn yn edrych o’i gwmpas ac yn gadael. Ac mae eu gwesteiwr yn dweud, ‘Tydi’r dyn hwn ddim yn gweithio yng nghomisaria materion tramor, rydw i’n adnabod pawb sy’n gweithio yno.’ Mae gwraig Mironof yn rhuthro i’r Tŷ ar y Cob ac erbyn iddi gyrraedd yno maent wrthi’n chwilio drwy eu pethau ac mae’r dyn a oedd yn cymryd arno fod yn swyddog i’r weinyddiaeth yn gweiddi arni ac yn mynnu cael ei llyfr ffôn personol. Mae rhai oriau eto’n pasio, mae’r ffôn yn canu, ac mae’r dyn yn ateb y ffôn ac yn rhoi ochenaid o ryddhad: mae Mironof wedi ymddangos. Mae hyn i gyd yn para oddeutu naw awr. Mae hi’n fis Ionawr, mae hi’n nos, mae eira. Dyna oedd ei oriau olaf o ryddid. Mae ei wraig am weddill ei bywyd yn byw dan gysgod y cwestiwn beth wnaeth ei gŵr yn ystod y naw awr hynny. Yn y tywydd rhewllyd ofnadwy a Mosgo yn ddwfn at y pennau gliniau dan eira. Mae hi’n cymryd iddo ystyried cyflawni hunanladdiad. I’w yrrwr ei hebrwng i’r Tŷ ar y Cob ond wedi iddo weld y bobl wrth y fynedfa iddo droi ar ei sodlau a dechrau crwydro o gwmpas y ddinas, yn gwybod y byddent yn gwneud iddo fo yn union fel y gwnaeth o i filoedd o bobl eraill. Stori anhygoel, yn yr ystyr ei bod yn rhoi darlun o ddyn yn syllu i wyneb ei farwolaeth ei hun neu dragwyddoldeb, sut bynnag rydych yn gweld pethau. Dyn a dreuliodd ei oriau olaf yn crwydro’r ddinas cyn iddo ildio’i hun. Dienyddiwr ar noswyl ei ddienyddiad. Cafodd ei saethu wedi blwyddyn o gael ei gwestiynu. Oni bai fy mod yn drysu, cafodd ei saethu yr un diwrnod â Mandelstam.

Ym Mosgo?

Ger Mosgo. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu saethu mewn safle saethu ym mhentref Comwnarca neu yn Bwtofo.

Ac yna eu hamlosgi?

Eu claddu.

Fe wnaethoch sôn am gymunedau cenedlaethol – Latfiaid, Almaenwyr, Iddewon, ac ati. I ba raddau mae’r cysyniad yna o Hen Roeg o ffawd gyffredin yn berthnasol i drigolion y Tŷ ar y Cob?

Mae’n dibynnu ar eich diffiniad o ffawd. Yr hyn oedd gen i mewn golwg wrth sôn am ffawd gyffredin oedd y ffaith eu bod yn byw ochr yn ochr, wedi mynd trwy’r un cyfnodau yn ystod y ‘siwrnai fawr’, chwedl y blynyddoedd Sofietaidd. Roeddent wedi cysegru eu bywydau i’r un achos, yr un ddelfryd ac wedi dioddef yr un caledi – eu carcharu, eu gyrru’n alltud, dan ddaear, o’u gwlad, a chwyldro.

Dyna’r syniad arferol o ffawd gyffredin. Ond ceir hefyd y math o ffawd sy’n gadael ei hôl anweledig arnoch, un na ellir dianc rhagddi yn y pen draw, waeth faint y bydd rhywun yn ceisio gwneud. Yn yr achos hwn, y bedd yn aml iawn oedd hyn. Roedd y rhain fel petaent wedi martsio tuag at eu tranc eu hunain, ac roedd y Tŷ ar y Cob megis gorsaf olaf yn eu preswyliad yn y byd hwn. Roeddent wedi eu denu tuag ato fel gwyfynod at y golau. Beth oedd yn dal y bobl hyn ynghyd ac yn eu gyrru gyda’i gilydd at y dibyn?

Eu ffydd cyffredin. A math arbennig o ffawd ydoedd. Byddwn yn ei ddiffinio fel rhywbeth milenaraidd, gair na ddefnyddir yn aml iawn mewn Rwsieg [...] O siarad yn gyffredinol, roedd y bobl hyn yn rhan o hen, hen draddodiad o sectariaeth apocalyptaidd. A dweud yn blaen, roeddent yn disgwyl y byddai’r byd fel yr ydym yn ei adnabod yn dod i ben yn ystod eu bywydau, neu yn ystod bywydau eu plant fan hwyraf. Ac y byddai ei ddymchwel yn dod gyda thân, llifogydd, daeargrynfeydd, rhyfel a gwaed. Fel yn y broffwydoliaeth Gristnogol. Ac y byddai rhywbeth gwahanol iawn yn dechrau. Roeddent wedi mabwysiadu’r ffydd hon yn ifanc iawn. Mae’n debyg bod Mironof, gyda llaw, jyst yn rhywun a welai ei gyfle. Ond doedd dim llawer o bobl felly yn y tŷ hwn, er bod ambell un. Roedd fy mhrif gymeriadau bob un yn gredwyr gwirioneddol, defosiynol. Roeddent wedi treulio eu hieuenctid yn disgwyl am yr hyn roeddent yn ei alw’n chwyldro. Yn y gobaith y byddai’r hen fyd a’i holl annhegwch yn chwalu. Ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o sectariaid, mi wnaethant fyw i weld y dydd. Dechreuodd yr hen fyd ddatgymalu a gallwn weld o’r dogfennau fod hyn yn ddatguddiad anhygoel iddynt. Roeddent wedi disgwyl gydol eu bywydau ac yn sydyn, dyna lle roedd, wedi dechrau, a doedden nhw ddim yn medru amgyffred y ffaith ei fod yn digwydd o ddifri. Dechrau diwedd yr hen fyd. Dechrau adeiladu rhywbeth newydd. Ond yna daeth dadrithiad mawr y 1920au, y Cynllun Economaidd Newydd, pan ddechreuodd pethau edrych fel petai’r broffwydoliaeth heb ei gwireddu, wedi’r cyfan. Mi ddioddefodd pawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, roedd pobl yn wylo, yn mynd yn sâl, yn treulio cyfnodau hir mewn sanatoria, aeth pawb trwy ryw fath o chwalfa nerfol. Mae hyn i gyd wedi ei ddogfennu. Roeddent wedi eu trallodi gan afiechyd proffwydoliaeth na chafodd ei gwireddu, afiechyd y rhai sydd, fel y dywedodd Trotsci yn nes ymlaen, wedi eu ‘bradychu gan y chwyldro’. Ac yn sydyn, mae Stalin yn rhoi gobaith newydd iddyn nhw, ac maent yn glynu at hynny orau medrant. Y Cynllun Pum Mlynedd cyntaf. Prosiectau adeiladu anferthol. Mae’n digwydd o ddifri, o’r diwedd, ac mae hyd yn oed y rhai oedd â’u hamheuon yn gweld bod y blaid ar y llwybr iawn. Bydd yr hen fyd yn trengi, byddwn yn cwblhau’r gwaith o’i ddymchwel, byddwn yn sychu’r gors, byddwn yn newid bywyd. Mae’n bosib fod hyn yn swnio’n banal ond gellid dweud bod y ffawd hon yn rhodd Duw iddyn nhw. Fel yr ysgrifennodd un o fy mhrif gymeriadau: ‘Comiwnyddiaeth yw pan mae cariad yn dangos dyfnder llawn ei dynerwch heb unrhyw gywilydd.’ Dim ond un ffordd sydd yna i’r math hwn o ddisgwyliad ddod i ben. Nid gwers i ddelfrydwyr yw fy llyfr. Trasiedi yn yr ystyr Roegaidd ydyw. Gydag arwyr a anelodd eu hergyd at y byd i gyd – a marw.

Mae’r hanesydd Yuri Slezkine, athro mewn hanes Rwsia a chyfarwyddwr astudiaethau Ewrasiaidd a Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol Berkeley, Califfornia, yn un o’r émigrés Sofietaidd hynny a ddaeth i’r Unol Daleithiau nid yn gymaint oherwydd amgylchiadau ond oherwydd ei chwilfrydedd a hefyd diolch i gadwyn o gyd-ddigwyddiadau. Ddiwedd y 1970au, wedi iddo raddio o Brifysgol Wladol Mosgo, gweithiodd Slezkine ym Mozambique, gan symud oddi yno i Lisboa, ac yna, yn 1983, i Texas, lle bu’n dysgu Rwsieg ym Mhrifysgol Texas yn Austin ac yn astudio ar gyfer gradd doethur.

Fel yr eglura, er i’w grwydriadau gael eu hysgogi nid yn gymaint gan y bwriad i greu gyrfa iddo’i hun ond gan ddeisyfiad i ddarganfod mwy am y byd, bu’r profiad hwn, yn academaidd ac yn fwy cyffredinol felly, yn ddylanwadol iawn o ran pennu trywydd ei ymchwil. Yn y 1980au cynnar, ymwelodd Slezkine â nifer o diriogaethau Indiaidd brodorol yn yr Unol Daleithiau, gan astudio effaith polisi trefedigaethol Gorllewinol ar yr hyn y cyfeiriai’r Sofieitiaid atynt fel ‘pobloedd bychain’. Ond, ac yntau’n hanesydd Rwsiaidd oedd yn gweithio ac yn astudio dramor, roedd y system yn disgwyl iddo roi sylw i hanes Rwsia mewn ryw ffordd neu gilydd, ac felly dechreuodd astudio triniaeth yr Undeb Sofietaidd o’i phobloedd amlgenhedlig yng nghyd-destun ehangach polisïau trefedigaethol, gan dynnu cymariaethau rhwng ffawd dorfol lleiafrifoedd cenedlaethol oddi mewn i strwythurau imperialaidd amrywiol. Dyma’r thema sy’n cael ei harchwilio ymhellach yn ei ddwy gyfrol: Arctic Mirrors: Russia and the Small Peoples of the North (1994) a The Jewish Century (2004). Mae ei gyfrol ddiweddaraf, The House of Government: A Saga of the Russian Revolution (2017), a fu’n waith ugain mlynedd i Slezkine, yn adrodd hanes y bloc o fflatiau mwyaf mawreddog yn yr Undeb Sofietaidd, adeilad sy’n sefyll hyd heddiw ar lannau’r Afon Mosgfa, a hanes y genhedlaeth gyntaf o denantiaid – chwyldroadwyr a swyddogion a’u teuluoedd. Yma, fel ag yn ei waith blaenorol, mae Slezkine yn gweld hunaniaeth genedlaethol fel elfen hanfodol o fywydau’r tenantiaid, ond y tro hwn, mae’n canolbwyntio ar hanes personol: mae ei ddiddordeb yn yr hyn a fyddai’n digwydd yng ngheginau ac ystafelloedd gwely’r nomenclatwra, yn ffydd yr aelodau mewn bywyd newydd iwtopaidd, a’r dadrithiad a ddaeth yn ei sgil. [Sven Kuzmins]

*

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Rīgas Laiks yn Rwsieg ac yn Eurozine yn Saesneg (cyf. Julia Sherwood). Diolch iddynt am yr hawl i gyfieithu’r darn i’r Gymraeg. Cyfieithiad Cymraeg gan Sioned Puw Rowlands. Hawlfraint © Yuri Slezkine, Uldis Tirons / Rīgas Laiks / Eurozine

Syrffiwch ein gwefan i ddarllen cyfweliadau’r hydref: ‘Rydym un ac oll, ym mhob cenhedlaeth, yn blant ein hetifeddiaeth, ac i raddau yn gaeth iddi.’ Holi R Gareth Wyn Jones ar achlysur COP26 yn Glasgow.

Y poster cyntaf: Lenin yn ysgubo'r byd yn lân (1920au)

Y llun o'r wraig yn golchi llestri: Ferdinando Scianna/Magnum Photos (1992)

Y poster o'r gofotwr: 'Does dim Duw!' (1975)

I’r plant yr oedd y tŷ yn perthyn. Byddai’r tadau’n dod adref i gysgu a byddai’r mamau allan yn gweithio

Pynciau:

#Rhifyn 17
#Rwsia
#Comiwnyddiaeth
#Hanes