Adolygu

Os yw’th galon bron â thorri

Dweud a pheidio â dweud: darllen casgliad y Goron

Amrywiol awduron

Cyfansoddiadau Eisteddfod Ceredigion 2022

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 344tt, £10, Awst 2022

Marged Tudur

Mynd

Carreg Gwalch, 64tt, £7, 2020

T Robin Chapman

Amser darllen: 4 munud

07·09·2022

Dyma ‘Gwres’ Esyllt Maelor, casgliad buddugol Coron Eisteddfod Tregaron 2022, o’m blaen ar fwrdd y gegin, ynghyd â Mynd, ei merch Marged Tudur, Llyfr y Flwyddyn 2021. Ymhen amser, hoffwn feddwl y gwelir ‘Gwres’ yn Gwres: yn gyfrol yn ei hawl ei hun, wedi ymryddhau o achlysuroldeb Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Gellir cyfosod y ddau ar yr un silff wedyn, fel y dylid: dau gasgliad annatod gyfrodedd, gytbwys gilyddol. Mam a merch – mam a chwaer – un profiad.

Nid dyma’r lle i fanylu ar y profiad hwnnw. Fe’i heglurir ar glawr Mynd, ac mae Esyllt wedi sôn mewn cyfweliad am y ‘rhaid’ a deimlodd i ysgrifennu amdano. Ond pan fydd dau feirniad o ddynion yn ensynio mai’r ganmoliaeth eithaf y gellir ei hestyn i’r cerddi yw eu hanallu i fynegi eu hedmygedd – Gerwyn Wiliams ‘yn ddieiriau’ wrth ddarllen ‘Gwres’, Ceri Wyn Jones yn dweud bod cerddi Marged ‘yn mynd â gwynt dyn’ – teg gofyn pam.

Oherwydd nid cam â diffuantrwydd y profiad yw inni ein hatgoffa ein hunain mai barddoniaeth yw cyfrwng yr ymateb iddo: barddoniaeth ddwys a phoenus, bid siŵr, ond geiriau ar bapur yr un fath, ffrwyth mynegiant bwriadus. Cynigia Marged fap i’r cynnwys yn ei ‘Rhagair’ (‘cerddi cerdded drwy driog, / cerddi isio denig, / cerddi dal yn dynn’), cyfeiria at Ganu Heledd, a saif yn ddigon pell oddi wrth ei deunydd i rannu cynllun (‘Ia, ddechreua i yn fanna’). Mae Esyllt yn cyd-destunoli ei hing yn nisgwrs diwylliannol ‘gras’, ‘puro’, ‘iawn’, ‘cymun’ a ‘purdan’. Ond eto mae rhywun yn petruso rhag defnyddio’r label marwnad. Nid yw angau dan ddwylo’r naill na’r llall yn achlysur i dynnu gwersi am freuder bywyd na rhaffu ystrydebau am drawsffurfio angau’n anfarwoldeb drwy natur na Duw na’r cerddi eu hunain. Dim digio wrth anghyfiawnder. Dim bai. Dim awgrym bod amser i alaru ac amser i ddawnsio. Dim teyrngedu. Dim pwyso ar hanes. Dim moesoli. Dim ffarwél.

Ar un ystyr, pwnc Esyllt a Marged yw patholeg galar. Mae galar yn ddiamynedd, â’i obsesiwn ei hun. Mae’n gymysg o dynerwch a chwerwedd. Mae’n ddifäol. Try nodau’r gân ‘yn siwrwd’ gan dynnu egni ‘fel y ffis o’r botel lemonêd’ (Marged). Mae’n ennyn panig: ‘ceg pob lifft ar gau ... dim signal ffôn’ (Esyllt). Mae’n anarchaidd. Gall daro wrth hel briwsion o fwrdd y gegin a smwddio crys, llwytho ffeiliau i focs a pharcio car. Mae’n chwarae gemau metaffisegol: ‘Weithia rwyt ti yn fanna ... Bwlsai’ (Esyllt); ‘Dafydd, heddiw ti ’di llenwi’r tŷ’ (Marged). Mae’n ystumio amser, yn gweddnewid dillad a mygiau coffi’n greiriau, yn meddiannu ‘bwrdd dartiau ar wal llofft yn Craven Arms’ (Esyllt) a ‘jwg piwtar / yn crogi ar fachyn dresel / drwy ddrws cilagored / siop antics wag ym Machynlleth’ (Marged).

A dyma pam, efallai, y saif y beirniaid yn ddywedwst o flaen y cerddi hyn. Marwnadau menywod ydynt, heb berthyn, fel y dywed Celeste M Schenck, i’r ‘resolutely patriarchal genre’ sy’n dyrchafu grym y gair. Nodweddir y farwnad wrywaidd nid yn unig gan ei mater ond gan ei hadeiladwaith: y dwysáu graddol, o fyfyrdod i fyfyrdod, o osodiad i osodiad, nes cyrraedd datganiad diffiniol derfynol. Fe’i llunnir dan bwysau dyled ddwbl i’r sawl a gofir ac i’r marwnadau o’u blaen. Fel hyn y mae cofio gan mai fel hyn y cofiwyd gan eraill am eraill. Nid felly ‘Gwres’ a Mynd. Fe’u hysgrifennwyd, i’r gwrthwyneb, fel pe na bai galar yn bod cyn hyn, ac fe’i hydreiddir gan baradocs sy’n rhedeg drwy bob sill o bob tudalen. Dônt mor agos ag y gellir ei ddychmygu at leisio distawrwydd. ‘Ti’n dweud dim’, medd Esyllt wrth ei mab mewn llofft wag; ‘Dwi’n dweud dim’, medd Marged wrth ddisgrifio llond tŷ o ymwelwyr. Chwennych Esyllt ‘y mudandod sy’n dal geiriau’ er mwyn clustfeinio ‘am y murmuron a’r eiliad cymryd gwynt’. Myn Marged unigedd cyn y gall lefaru: ‘Dyna pryd, Daf ... dyna pryd dwi’n gallu dweud dy enw’.

Cerddi ydynt, hynny yw, a dyfynnu Christine James, sy’n cyhoeddi ‘[nad] yn nerth y dweud mae dawn, / ond yn y gwrando grymus / distaw’. Ni ellir darllen gwaith Esyllt Maelor a Marged Tudur heb ymglywed â ‘hiraeth dilafar’ Menna Elfyn, ‘mute loyalty’ Adrienne Rich, ‘paid meddwl am eiriau’ Casia Wiliam, ‘rwy’n fud, heb allu lleisio’r anfadwaith’ Mererid Hopwood, a distawrwydd Elin ap Hywel yn dychmygu dal llaw ei mam farw: ‘Plethais fy mysedd i i’w bysedd hithau. / Ddywedwyd yr un gair’. 

Priodol, efallai, yw gadael y fam a’r ferch yn llythrennol ar yr un tudalen. Yn ‘Mam’ Marged, tynnir llun o Esyllt ar ei gliniau’n chwynnu’r ardd, ‘yn goglais gwên, / er gwybod fod y pridd yn llithro / fel ei phlant o’i dwylo’. Rhagamod chwynnu yw sicrhau twf. Yng ngeiriau Caryl Bryn am fam amddifad arall, ac fe ychwanegwyd yr italeiddio,

Ond er ei cholled
tyf hi’n dawel fel coed afalau
yn fyrdd balch 
o flagur ei hadau –
bytholwyrdd ... 

Cyfrol ddiweddaraf T Robin Chapman yw Writing in Welsh, 1740-2010: A Troubled Heritage (OUP, 2020). 

A dyma pam, efallai, y saif y beirniaid yn ddywedwst o flaen y cerddi hyn. Marwn-adau menywod ydynt, heb berthyn i’r genre sy’n dyrchafu grym y gair

Pynciau:

#Eisteddfod
#Marged Tudur
#Barddoniaeth
#Elin ap Hywel
#Menna Elfyn
#Mererid Hopwood
#T Robin Chapman
#Galar