Fy llyfr mynydda
Ysgrif

Foel Grach (Llun: Marged Tudur)
Ar ddiwrnod olaf 2021, roeddwn i ar gopa Bwlch Mawr. Roedd hi’n wlyb a mwdlyd dan draed wedi glaw di-baid y ’Dolig ac ar ôl codi o Goed Cwm Gwared, welwn i ddim pellach na rhyw 20 medr o ’mlaen. Er gwaethaf hyrddiadau’r gwynt, roedd hi’n fwyn, yn annaturiol o fwyn a hithau’n fis Rhagfyr. Clywais ar raglen Tudur Owen wrth ddreifio am adra mai dyma oedd y 31ain o Ragfyr cynhesaf ers dechrau cofnodi’r tywydd.
Copa rhif 120 oedd copa olaf 2021. Wel, dyna’r ffigwr sydd yn fy llyfr mynydda, lle bydda i’n sgwennu am bob taith mynydd i mi fod arni, gan nodi’r copaon, y llwybrau, y tywydd, y cwmni a’r hanesion. Mi wnes i ddechrau cofnodi o ddifri yn 2017 ac fel y bydd rhywun ar ddiwedd blwyddyn, es ati i gasglu a dadansoddi’r stats, fel petai. 120 copa yn 2021 – ffigwr oedd yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ond yn dipyn llai na’r blynyddoedd cyn hynny. Y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau oedd yn cael y bai, wrth gwrs. Wrth ddarllen, cawn fy atgoffa o bethau nad oeddwn i prin yn cofio amdanynt. Dyna’r tro hwnnw pan aeth y cyfnod clo yn drech na mi a dyma gerdded o’r tŷ yng Nghaernarfon i gopa Moel Eilio oedd dan drwch o eira. Wrth ddadlau efo mi fy hun a ddylwn fynd ymlaen am Foel Gron a Foel Goch, neu fodloni a throi yn ôl am adra, mi landiodd gŵr oedd wedi rhedeg o Geunant i’r copa ar fy llwybr ac wedi mân siarad a thrafod y tywydd oedd yn cau amdanom yn gyflym, fe ebychodd, ‘Mi fydd y mynyddoedd yn dal yma, bydd?’ Wrth edrych arno yn troi ar ei sawdl a gwrando ar rythm ei draed yn mynd yn ôl i lawr y mynydd, llowcio fy mhaned a throi’n ôl wnes innau hefyd.
Mi gerddais sawl mynydd yn ystod y cyfnodau clo – mynyddoedd yr Eifl wrth ddringo piler y ffens yng ngwaelod yr ardd, Mynydd Mawr a Chraig Cwmbychan bob tro yr awn heibio Rhes Segontiwm ar ôl prynu llefrith, ac wrth sefyll ger y castell bach uwch Coed Helen mi dorrais record wrth fynd o Gyrn Wigau i Garnedd Dafydd mewn hanner munud. Ond dim ots faint y bodlonwn fy llygaid, roedd fy nhraed yn dal i gosi. Cerddais â blaen fy mys – ei dywys ar lwybrau, dros freichiau a chribau, drwy fylchau a chymoedd a hynny ar fapiau fyddai’n llyncu’r bwrdd bwyd. Creu teithiau at eto, cynllunio rhyddid ar gyfer dyddiau ‘haul ar fryn’. Doeddwn i ddim
yn troedio ar fy mhen fy hun chwaith. Mi gerddais efo Robert Macfarlane, Ioan Bowen Rees, Nan Shepherd, Eryl Owain, Eric Jones, Jon Krakauer, Eluned Morgan, Alun Llywelyn-Williams ac yn eu cwmni nhw mi es i gopaon Lagginhorn a Monte del Forno, i’r Cairngorms, i’r Rhinogydd, i’r Eiger, i Chomolungma, i’r Andes ac Arfon. A phan oedd y sgyrsiau’n pallu a’r tawelwch yn mynd yn ormod, es ati i roi crognentydd a llechweddau a llynnoedd a moelydd Eryri, oedd wedi malu’n fil o ddarnau jig-so, yn ôl yn eu lle fesul tipyn. Diddordeb yn troi’n obsesiwn? Bosib iawn.
Mae’r cyfnodau clo wedi gadael eu hôl yn fy llyfr wrth i fylchau ymagor ac ymestyn rhwng dyddiad y mynydd diwethaf a’r nesaf. Ac fel pe bawn am wneud iawn am y diffyg, mae erthyglau a dyfyniadau wedi eu glynu ar hyd y tudalennau, fel y dyfyniad hwn gan Ernesto Pujol: ‘I encourage all to write their personal history of walking.’ A geiriau Ieuan Wyn am y mynyddoedd: ‘Mae ’na unigedd yna, ond does ’na ddim unigrwydd.’
Ddiwedd mis Mawrth mae cofnodion mynydd 2021 yn dechrau gyda thaith i ben yr Wyddfa yn ystod y cyfnod clo lleol: ‘Pwy feddylia y gallan ni landio ym Mhen-y-Pàs am 11.15 a chael lle parcio – ond felly fu hi,’ meddwn a pharhau i ryfeddu wnes i y diwrnod hwnnw wrth i mi sefyll yn uwch na’r cymylau ym Mwlch Glas, yr haul yn taro’n cefnau a ‘bwgan y mynydd’ neu ‘bwgan y niwl’ yn ymrithio o’n blaenau. Ffenomenon gyfareddol ydi’r ‘Brocken spectre’ hwn. Roedd gen i resymau personol pam i mi gerdded y diwrnod hwnnw ac efallai fod hynny’n esbonio pam y bu i mi nodi wedyn fod ‘fy meddwl eisoes wedi cyrraedd adra cyn i mi ddod at Lyn Teyrn’.
Ac wedi’r tawelwch, fe ddaeth yr elwch yn ôl i’r Wyddfa a finnau yn fy nhro yn trio cadw draw. Troi fy ngolygon felly at fynyddoedd dafliad carreg o’r tŷ. Mae cofnodion yr haf yn llythyrau caru i Graig Cwm Silyn, ac ymhen dim, rwyf wedi ailgynnau’r tân gyda Chrib Nantlle a ‘Gwlad y Tylwyth Teg’, chwedl T H Parry-Williams. Cawn fy atgoffa wrth droedio llwybrau anghyfarwydd i gopaon cyf-arwydd fod yna sawl ffordd i gyrraedd copa – Mynydd Graig Goch o Gwm Ciprwth, Mynydd Talymignedd o Gwm Dwyfor, y Garn o Ddrws-y-coed a theimlo ias glannau Llyn Cwmyffynnon. Does ryfedd i Parry-Williams ddweud fod ‘cynyrfiadau’r ffin yn chwannog i ddigwydd’ yn ardal Drws-y-coed. Ac wrth syrthio mewn cariad eto dyma ddod i adnabod perthnasau’r copaon a’u henwau hudolus – Cors y Gwaed, Sulgwm, Cwm yr Haf, Cwm Braich y Ddinas, Clogwyn y Cysgod...
Ac eithrio taith i’r Trossachs i gerdded Ben More, Stob Binnein ac ardal Loch Lomond, es i ddim yn bell y llynedd. Penwythnos yn campio yn Harlech a chanfod harddwch a hud yn y moelydd bychan fel Moel Goedog a Foel Senigl. Crwydro Cwm Bychan, Craig Ddrwg, Moel Ysgyfarnogod, Bryn Cader Faner, a diolch am ddŵr oer Llyn y Fedw ar ddiwrnod tanbaid a’r haul yn crasu’r dillad isaf oedd yn hongian ar lein ddillad strapiau fy mag ar y ffordd yn ôl i’r car. Gwylio machlud ddiwedd Gorffennaf dros y Fenai o Fynydd Graig Goch, rhannu Dairy Milk dan leuad llawn a tortsh pen yn goleuo’r llwybr i lawr. Campio ar y Garn a gwrando ar chwiban y teciall wrth i’r haul godi tu ôl i’r Wyddfa a’r Aran a neb ond y defaid yn gwmni. Teimlo ‘rhin rhyfeddol’ yr Oerddwr a bod ‘rhywbeth yno yn rhithio trem a rhinio gwaed’. Ymgodymu ag eira’r Carneddau ym mis Tachwedd a chyrraedd yn ôl i Gerlan am bedwar a hithau’n dechrau tywyllu, fy mochau’n goch, bodiau fy nhraed yn oer, a gwylio esgyrn eira yn toddi ar gareiau fy esgidiau. Sgwrsio a rhannu, bwrw bol efo pobl o’r un anian a dweud pethau na fyddwn i’n gallu eu dweud yn y gwastadeddau.
Efallai bod y teithiau hyn yn swnio’n fêl i gyd ond mae cysgodion y pethau rwy’n eu tynnu efo fi i’r mynydd dros sawl un – poendod, tymer ddrwg, tristwch, hiraeth, cywilydd. Ac mae’r teimladau hynny sy’n cael eu geni ar y mynydd yn rhan o ambell gofnod – poendod, dryswch, ofn, adrenalin – cyn i ryddhad a phwl o chwerthin drwy ddannedd lifo drosta i. Weithiau, does gen i fawr o awydd cerdded, tydw i ddim yn fy hwyliau, ond yn ddi-feth, o fynd, byddaf yn teimlo’n ysgafnach wedyn.
Naddo, es i ddim yn bell o adra y llynedd ond iesgob mi deimlais yn ffodus fy mod i’n gallu crwydro a diolch am gael byw nid nepell o’r mynyddoedd.
*
O le daeth y cariad yma at fynydda? Efallai ei fod yn y gwaed. Magwyd tad fy nhad wrth droed Rhinog Fawr mewn ffermdy sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn, Greigddu Uchaf. Yn ddiweddarach, fe ymgartrefodd Nain a Taid ym Mhenrhosgarnedd, ac mae Nain yn cofio Taid yn treulio diwrnodau lawer ar ei ben ei hun bach yn crwydro’r Carneddau. Neu efallai i mi ddyrchafu fy llygaid tua’r mynyddoedd o’r dechrau’n deg oherwydd mi welwn Garn Fadrun a Garn Boduan o fy nghartref ym Morfa Nefyn. Ac wedi mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth a sefyll wrth ddrws canol yr Hen Goleg, lle cawn fy narlithoedd Cymraeg, roedd modd gweld, yng ngeiriau Cynan, ‘Garn Fadrun ddistaw bell’ a bron na allwn ei chlywed yn dweud wrtha i: ‘Dwi ddim ’di mynd ’sti, dwi’n dal yma.’ Tybed ai cael ei fagu a’i gymell mae unrhyw ddiddordeb? Byddai Dad yn arfer mynd â ni’r plant am dro bob dydd Sadwrn er mwyn i Mam gael rhywfaint o lonydd, pedwarawd yn cerdded ar ben elltydd glan môr, trampio drwy gorsydd a dilyn waliau cerrig sych y moelydd. A rhaid oedd cael moel neu fynydd ar daith pnawn Sadwrn. O fynd yn hŷn, byddwn i’r chwaer fach yn mynnu cael mynd efo fy mrodyr i le bynnag yr âi’r ddau i grwydro. Tipyn o gynffon niwsans yn y cefn oeddwn i, mae’n debyg, ond yna yn rhywle rhwng y niwsans a’r cerdded a’r gweld cynnar y gwnes i ddechrau syrthio mewn cariad â’r mynydd.
Efallai mai’r trobwynt oedd cerdded Pedol Marchlyn ar fy mhen fy hun yn Nhachwedd 2016. Heb yn wybod i mi roedd Ann, ffrind i’r teulu, wedi adnabod y car â sticeri pêl-droed Cymru a Thafod y Ddraig ar ei fonet yn y lay-by ac ymhen dim derbyniais neges i ddweud bod croeso i mi ymuno â’i gŵr a hithau i fynydda ‘yn lle bo chdi’n mynd dy hun’. Weithiau mae un frawddeg ffeind yn ddigon. Roeddwn i’n meddwl mod i’n gwybod llawer am fynydda y tro hwnnw ar Elidir Fawr ond y gwir amdani oedd bod gen i lawer i’w ddysgu. Doedd y synnwyr mynydd ddim gen i nes i mi ddechrau cerdded efo Ann ac Andy. Mae’n addysg bod yng nghwmni’r ddau – dysgu sut i ddarllen y tywydd, sut i gynllunio taith, pwysigrwydd paratoi, pa git a dillad sy’n angenrheidiol a pha bethau y dylid eu cario yn y bag. Ers hynny, rwyf wedi gwneud cwrs sgiliau mynydd a chwrs sgiliau gaeaf yn y Cairngorms efo Stephen ‘Anelu Aim Higher’ o Fethesda ac wedi cerdded yng nghwmni mynyddwyr gwybodus a phrofiadol Clwb Mynydda Cymru. Mae’r holl bobl hyn wedi dangos i mi beth ydi rhoi. A rhoi mae’r mynydd hefyd. Mae’n newid y ffordd rydw i’n edrych ar bethau, yn gwneud i mi weld pethau’n gliriach, yn herio fy haerllugrwydd, yn peri i mi sylwi ar fy ninodedd, yn hogi fy synhwyrau, yn fy helpu i ddod i adnabod fy hun, yn grymuso fy enaid, yn ailgynnau rhyfeddod plentyn ac yn dyfnhau’r cariad sydd gen i at fro fy mebyd a fy ngwlad.
Mae rhyw sancteiddrwydd yn perthyn i’r mynyddoedd i mi – dyna hen ystrydeb sydd yn cael ei defnyddio dro ar ôl tro yn fy llyfr – y cyfosod a thynnu cymhariaeth rhwng ‘Y mynydd a’r allor’, fel petai. Dewis ‘haul Gorffennaf gwych’ Crib Nantlle yn hytrach na ‘clych eglwysi’r llethrau’ wnaeth R Williams Parry. Yn ‘Llananno’ disgrifia R S Thomas ei ymweliad â’r eglwys ar lannau Afon Ieithon ym Mhowys ond, i mi, gellir perthnasu ei eiriau i’r profiad o fod ar fynydd:
... I keep my eyes
open and am not dazzled,
so delicately does the light enter
my soul from the serene presence
that waits for me till I come next.
Dyna’r ‘serene presence’, y ‘numinous’ yma. Gair da ydi ‘numinous’. ‘Niwminaidd’ ydi’r gair Cymraeg amdano, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru. Y teimlad hwnnw o fod ym mhresenoldeb rhyw rym anhygoel, dwyfol ond eto ddim yn rhan ohono chwaith. ‘Annaearoldeb’ o ryw fath, fel y dywedodd Parry-Williams, a dyna ydi’r teimlad o fod ar ben mynydd i mi – teimlo annaeroldeb rhwng yr haenau o fynyddoedd sy’n ymestyn tua’r gorwel. Ac fel y byddaf yn cael fy atgoffa o hyd ac o hyd, delfryd amhosib ydi goresgyn neu feddiannu’r mynydd. Mae’n rhaid ymostwng a phlygu yn ostyngedig iddo.
*
Er nad oes cystal gwefr â bod ar gopa mynydd mae cysur i’w gael wrth weld y mynyddoedd o’r gwaelodion, fel gweld y Cnicht, Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach o ffordd osgoi Porthmadog, neu weld yr Elen, Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd o’r A55. Gwefr hefyd ydi gweld copa o ongl anghyfarwydd. Mae’n union fel petai’r mynydd yn chwarae triciau ac wedi rhoi ei esgidiau amdano a dechrau cerdded a finnau’n cael fy ngorfodi i arafu, agor map yn y meddwl, ystyried lle ydw i’n ddaearyddol, adnabod nodweddion gwahanol yn y tirlun cyn rhesymu ei fod o’n gorfod bod yn fan a’r fan. Ond beth am brofiad y gweld annisgwyl, fel pe bai’r mynydd ei hun wedi dod yn unswydd i’m gweld? Dyna ddigwyddodd wrth sylwi ar Elidir Fawr o flaen reilings Capel y Rhos, Llanrug a finnau newydd fod mewn cynhebrwng. Weithiau mae gweld y mynyddoedd o’r gwaelodion fel y profiad a gaiff rhywun wrth daro ar hen gariadon a’r teimlad eu bod yn gwybod pethau amdana i. Ond eto, nid ‘hen gariad’ mo’r disgrifiad cywir chwaith oherwydd tydw i erioed wedi ffraeo na dadlau efo’r mynydd, tydi’r mynydd ddim wedi fy mradychu na ’mrifo, a tydi fy nghariad ddim wedi oeri na diflannu. A pheth arall, does dim cyfrinachau rhwng y mynyddoedd a minnau. Tydyn nhw wedi gweld y cwbl? Ac maen nhw’n gwybod y cwbl. Y digwyddiadau sydd wedi ysgwyd fel platiau tectonig oddi tana i gan greu llanast ar fap fy mywyd, yn ogystal â meddyliau dibwys yr eiliad, poenau oedd ar flaen fy meddwl am gyfnod, chwim feddyliau ddaw o rywle’n ddisymwth heb sôn am y pethau atgyfodedig hynny nad ydw i wedi meddwl amdanyn nhw ers blynyddoedd. Ac mae’r pethau y bydda i’n eu cadw’n ddyfn tu mewn yn mynnu dod i’r wyneb hefyd, fel taen nhw’n gwybod y cân’ nhw fynd allan i chwarae ymysg y gwynt a’r unigeddau anial.
Weithiau, pan fyddaf yn crwydro, byddaf yn meddwl am fy rhieni a daw rhyw dwtsh o euogrwydd i’m plagio. Gwybod ydw i y byddant yn poeni mod i wedi mynd i gerdded ar fy mhen fy hun. Ond tydw i ddim ar fy mhen fy hun. Mae yna bobl yn cerdded efo fi. Rhyw ddychmygu ffansïol gwirion wrth i mi gario pobl efo fi yn fy meddwl, meddwch. Ond na, y nhw sy’n fy nghario i, yn fy annog ymlaen.
Mae bri ar seiat y mynydd erbyn hyn. Mae fy llif Instagram yn llawn lluniau mynyddoedd – dringwyr rwyf wedi eu gwylio ar ddogfennau Netflix yn Yosemite, yr Alpau, Karakoram. Ffrindiau a chydnabod sydd wedi teimlo atynfa’r mynyddoedd ers y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, yn dogfennu teithiau i Foel Eilio, Glyder Fach, yr Wyddfa mewn ffilter o lesni a phinc candi fflos. Ac nid yr hafau hirfelyn tesog yn unig sy’n denu pobl i fynd am yr uchelderau. Dyma gofnod yn fy llyfr o fore Sadwrn oer ym mis Ionawr: ‘Stido bwrw wrth i ni fynd am Lyn Ogwen. 8.30 oedd hi a’r llefydd parcio wrth droed Tryfan yn llawn camperfans neithiwr a chodwyr cyn cŵn Caer. Ann ac Andy’n ebychu’n y car “doedd hi ddim yn arfar bod fel hyn” cyn i ninnau barcio, rhoi’r dillad glaw amdana ni a mentro allan.’
A phwy ydw i farnu? Tydi pawb yn deisyfu denig weithiau? Tydw i wedi landio yn Lukla, Imlil ac mewn refugios yn y Pirineos yn fy ngêr gorau? Tydw innau wedi canolbwyntio gymaint ar drio dal yr olygfa o fy mlaen efo lens camera ffôn nes mod i heb weld yn iawn a heb dalu sylw i’r pethau sydd wir yn cyfri?
O arafu a chraffu a gwrando, mae yna straeon ymhob craig a rhwng pob hafn, ac wrth gwrs mae yna gyfoeth o hanes ac ystyr ac arwyddocâd mewn enwau. Drwyddynt cawn gip ar hen ddoethineb y rhai fu yno o’n blaenau. Mae bywyd wedi ei fyw ar y mynydd-dir. Dyna’r waliau ar lethrau serth, ar ymylon creigiau a chlogwyni. Mae dwylo wedi cario, gafael a gosod y cerrig sylfaen, cerrig pwythi, cerrig gw’ebu a’r cerrig uwd hyn yn gelfydd. Mae eu gwaith yno o hyd, yn sefyll yn yr elfennau, yn rhan o bensaernïaeth gwlad yr ardaloedd hyn. Tybed pwy gododd rhain? Beth oedd y sgwrs wrth walio? Beth oedd eu teimladau nhw tuag at y mynydd?
‘Dod drosodd o Werddon ddaru nhw ar un amser i helpu i adeiladu waliau,’ dyna ddywedwyd wrtha i. A’r un person yn sôn am ‘deuluoedd oedd wedi dal tir yn nhopiau Cwm Silyn ers cyn co, am wn i’. Ymlaen â hi wedyn i sôn am y defaid, ‘pob un â’i nod ei hun yn croesi ffiniau ei gilydd yn gwbl naturiol sawl gwaith y dydd heb ffensys na waliau i’w hatal yn y topiau.’ Dyna ni. Hen ddealltwriaeth a chyd-ymwneud sy’n mynd yn ôl genedlaethau lawer.
Heddiw, mae hi’n fore wedi mynydda, y tŷ’n dawel, bag te yn mwydo mewn mẁg, ac rydw i’n estyn cadach, sprays a thuniau. Mae’r deng munud hyn o lanhau fy esgidiau wedi troi’n ddefod erbyn hyn – golchi’r mwd a’r baw o’r sawdl, chwistrellu hylif dal dŵr, a thaenu cŵyr i geisio dod â’r graen yn ôl eto. Tydw i ddim yn sentimental am ddillad nac offer ond alla i ddim taflu fy esgidiau cerdded. Yn y twll dan grisiau, mae gen i hen bâr yn greithiau grug ac eithin a rhwygiadau drostynt, y grip ar y sodlau’n llyfn, y lledr yn welw. Mi gafodd rhain eu trwsio ddwywaith yn siop y crydd cyn i mi benderfynu prynu pâr newydd oedd o’r un gwneuthuriad Eidalaidd gan alltudio’r hen bâr i fod yn ‘sgidiau gwmpas tŷ’. Na, alla i ddim eu taflu. Maen nhw wedi cerdded milltiroedd ar filltiroedd, wedi fy nghynnal drwy sawl emosiwn ac wedi cadw fy nhraed yn sownd ar y ddaear.
Wedi gwneud paned arall, byddaf yn estyn am fy llyfr ac yn dechrau cofnodi – paragraff yn unig weithiau, tudalen neu ddwy dro arall. Byddai’r cofnodion hyn yn gwbl ddiflas i unrhyw un arall, ond i mi mae’n gyfle i droi’r cloc yn ôl – ailgerdded y daith yn y meddwl, aildeimlo cadernid y graig yn oer yn fy nwylo wrth sgramblo, ailwlychu a difaru mod i heb ddod â throwsus glaw mwy trwchus, ailflasu’r sgyrsiau a’r tawelwch wrth ganolbwyntio ar y traed ar sgri serth. Ymgolli yn y mynyddoedd am ychydig bach eto.
Enillodd Marged Tudur y wobr farddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei chyfrol Mynd (Carreg Gwalch).