Cwpan a soser (atgof plentyn)
Ysgrif

Llun: Angharad Price
Mae gennyf gwpan a soser ar fy nesg na fyddaf byth yn eu defnyddio. Mae’r peth yn ddirgelwch llwyr i’r plant. I beth maen nhw’n da yno, mewn stydi sydd mor brin o ornaments? Pam na chân’ nhw’u defnyddio gan fam sydd mor ffond o de?
Mae ’na ymyl aur ar y gwpan, twtsh o aur ar y glust hefyd a rhimyn aur o amgylch y soser. Fel arall, does ’na ddim yn torri ar y purdeb gwyn ond stamp glas golau sy’n cynnwys dwy sgrôl rubanog a motiff deiliog. Ac enw bob un ar y ddwy sgrôl, sef Bethel / Arfon.
Mi ŵyr y plant yn iawn mai dyna enw fy mhentref, ddwy filltir a hanner (a hanner oes) i lawr y lôn.
Souvenir ydyn nhw, ’ta?
Na, nid souvenir.
Ond cwpan wag? Pam na roi di feiros ynddi i gadw?
Am nad ydi hi ddim yn wag. Mae hi’n llawn – hyd at yr ymylon. Mae angen soser oddi tani er mwyn dal y gorlifiadau.
Mae’n anodd iawn esbonio. Anodd herio sens pum synnwyr, a’r hyn y maen nhw’n ei weld, sef cwpan wag a soser ofer.
Felly trof at hen dric yr ateb disynnwyr.
‘O’n i’n arfer byw yn hon ers talwm.’
A dyna daw ar hynna am y tro.
*
Ond rŵan bod y plant yn hŷn, efallai ei bod hi’n bryd esbonio pam mae’r gwpan ar fy nesg. A sôn sut beth oedd byw, am dipyn bach, yn Nhŷ Dduw, Arfon.
Nid ‘Bethel’ oedd enw’r lle erioed, y darn o dir anwastad, brwynog hwnnw sy’n llenwi’r bwlch rhwng glannau Menai a godreon Eryri, yr ochr hon i afon Saint. Go brin fod iddo enw am ganrifoedd maith. Poblogaeth wasgarog a drigai yma. Ond rywbryd, medd W J Gruffydd, dechreuwyd galw’r lle’n ‘Rhos Chwilog’: rhostir y gwylog; tir anial yr aderyn môr.
Roedd yn enw priodol, prydferth hyd yn oed. Ond erbyn heddiw, dim ond un fferm yng ngogleddau’r pentref sy’n dwyn yr enw hwn. Mi ddaeth ein capel ni i newid popeth.
Yn 1810 y daeth yr addoldy hwnnw i fod, y cyntaf yn yr ardal. Galwodd yr Annibynwyr o yn ‘Bethel’, Tŷ Dduw yn yr Hebraeg, y man, yn ôl llyfr Genesis, y rhoddodd Jacob ei ben i lawr ar garreg a breuddwydio am ysgol yn ymestyn o’r ddaear i’r nef, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr ar hyd-ddi. Wrth i’r tai o gwmpas y capel luosogi gyda thwf chwarel Dinorwig, daethpwyd i alw’r egin-bentref yn ‘Bethel’. Ac er bod y Methodistiaid a’r Wesleaid yn y cyfamser wedi codi eu capeli nhw, sef y Cysegr a Saron, Bethel oedd yma gyntaf. Ac felly ni oedd biau’r patant. O ganlyniad, magwyd ni oll, blant y pentref, yn blant Tŷ Dduw – a daeth Ysgol Bethel yn rhywbeth tra gwahanol i’r hyn a welodd Jacob yn ei gwsg (er nad o anghenraid yn brinnach o angylion).
Ychydig a wyddem ni, blant y 1970au, am yr hanes enwol hwn, er bod y rhan fwyaf ohonom bryd hynny’n dal i fod yn blant yr Ysgol Sul. (Beth arall, wedi’r cwbl, oedd i’w wneud ar ddydd y Saboth?) Doedd y bwlch rhwng enwad ac enwad yn golygu fawr mwy i ni na’r bwlch rhwng Jones a Roberts, a dipyn llai na’r affwys a fodolai rhwng Liverpool ac Everton. Aem ni, blant Capel Bethel, i’r Ysgol Sul cyn cinio, tra âi plant y Cysegr iddi yn y pnawn. I Rhyl yr aem ni, yr Annibynwyr, ar ein trip blynyddol yn yr haf; ond i Butlins Pwllheli yr âi’r MCs. Dyna’r gwahaniaethau crefyddol. A dim mwy.
Mater o hunan-barch oedd yr ymrafael rhyngom. Ac am nad oeddem yn hyddysg mewn diwinyddiaeth, y capel ei hun a roddai sylwedd i’n balchderau. Iawn, efallai fod Capel y Cysegr yn fwy clyd. Ac oedd, roedd ’na fwy yn mynd iddo (toedd ’na fwy o le parcio?). Ond nad anghofied neb mai ni oedd yma gyntaf. Ac yn bwysicach: roedd ein capel ni’n fwy, yn gapel deulawr, yn ddybl-decar o le. Roedd ’na hyd yn oed enw ar yr oruwchystafell, a hwnnw’n air ecsotig, sef ‘galeri’, ac roedd ’na risiau’n esgyn ati a drws ar draws y grisiau. Ac i goroni’r cyfan, roedd ’na siars ynghlwm â’r drws, sef hyn: nad oedd ’na NEB i ddringo’r grisiau, am fod y galeri’n beryg bywyd – yn enwedig i BLANT DRWG.
Blant unllawr y Cysegr, doedd gennych chi ddim gobaith! Os oedd eich capel chi’n gynhesach a mwy poblog, roedd ein capel ni’n fwy gwag. Ac felly’n llawnach o bethau cyfrin. Roedd yn fwy atmosfferig. Roedd i bob sain ryw atsain hir. Ac roedd ’na deimlad trwchus yn yr aer. Pan gamech i mewn i’r lle, teimlech eich bod yn tarfu ar ryw fywyd anweledig, a phan eisteddech yno, llenwai’r gwagle mawr eich pen, eich perfedd a’ch dychmygion oll. Tra pwysai’r galeri’n wastad ar eich meddwl syn.
Mewn gair, roedd Capel Bethel nid dim ond yn gapel mwy. Mi oedd yn fwy o gapel – yn lle a’ch swynai ac a’ch brawychai yr un pryd.
Ac roedd ’na fynwent.
*
Dim ond ar Suliau pwysig y disgwylid inni fynd i’r capel ei hun (perthynai’r gair ‘oedfa’ i ‘oedolion’ yn ein meddyliau ni). Mae’r Suliau hynny’n glynu yn fy nghof, nid am eu bod yn eithriad, fel y cyfryw, ond am eu bod i gyd yr un fath. Yr un oedd Trefn y Gwasanaeth drwy’r blynyddoedd oll.
Stranciem i ddechrau yng nghyffro’r diflastod. Roedd ein penolau eisoes yn sgwâr, y meinciau’n galed a diglustog, a chefn y fainc tu blaen a blaen y fainc tu cefn yn dipyn o garchar. Cyn hir, caem siars mewn clust i stopio cnoni / ffidlan / sibrwd dan ein gwynt. Dôi sgwd galed drysau’r capel yn cau y tu ôl i’n cefnau. A bron heb rybudd ildiai cwynfan mwyn yr organ i dawelwch llwyr.
Yna dôi saib. Gwyddem yn iawn beth oedd o’n blaenau.
Yn raddol, fel petaent yn ddoliau mewn rhaglen deledu (meddyliem am Bagpuss ar y pryd), dôi’r diaconiaid llonydd eto’n fyw yn y sêt fawr. Dechreuent ddeffro. Agor ceg. Ymestyn eu llewys llwyd yn araf wrth i’w cyrff ddatgyffio. Dôi mwngial bas o rywle dan goleri’u crys, rhyw synau annealladwy a wnaent ar ei gilydd. Eu hunangyfeirio tawel oedd y peth.
Gwyliem nhw heb ofni gormod. Roedd bariau trwm y balwstrâd yn ein gwahanu, a thrigen nhw ar lefel uwch na ni. Dynion oedden nhw i gyd. Ac eto, nid dynion chwaith yn llwyr, yn ein tyb ni, ond rhyw rywogaeth arall. Yn wir, credem mai yno yn y capel roedden nhw’n byw. A phan welem nhw’n ddamweiniol ar y stryd mewn gwisg bob-dydd, tybiem mai copi egwan oedd y person hwnnw, rhyw doppelgänger o was bach a yrrwyd ar neges allan i’r byd y tu hwnt i furiau’r capel, i brynu sigaréts neu faco i’r hen feistri llesg.
O blith y rhain cyfodai’r gweinidog. Fo oedd y cyfryngwr rhwng dau fyd, sef byd y sêt fawr a llawr y capel. Safai yno’n syllu ar y cloc am dipyn bach. Pesychai wedyn – er mwyn profi ansawdd ein gwrandawiad. Yna, o’r diwedd, croesawai ni, gyfeillion annwyl, unwaith eto y Sul hwn, i oedfa’r bore. Yr hen blantos yn enwedig. A gwenai arnom, er na wenem byth, o nerfusrwydd, yn ôl.
Prin fod angen iddo ragymadroddi (er y gwnâi), oherwydd gwyddem oll y drefn yn union. Galwai’r emyn cyntaf, a thorrai cordiau’r organ yn ei heiddgarwch ar ei draws cyn iddo orffen siarad. Gwnaem ninnau’n fawr o’r cyfle hwn i godi ar ein traed, rhoi stretsh i’n cyrff ac yngan rhywbeth, petai ond ar gân, cyn dyfod o’r Llonyddwch Mawr a oedd o’n blaen, sef y bererindod drwy anialdir maith y Weddi.
O, roedd honno’n dalp o dragwyddoldeb! Nid am ei bod yn hir, o raid, ond am fod cyfarch absenoldeb yn beth rhyfedd iawn i blant. Wele’r gweddïwr, y Parch ei hun fel arfer, yn sgwrsio fel petai drwy’i hun, yn galw Ti ar Dduw wrth eiriol drosom, yn annerch gwagle mawr y capel hen, yn ‘siarad efo’r wal’, a’i lais yn dod yn ôl o’i charreg ateb oer – bron heb ei drawsnewid.
Yn gyndyn yr ildiem i’w disgyblaeth lem. Yn wir, ceisiem bob math o ffyrdd i’w lliniaru, gan gynnwys peidio crymu gwar a hanner cau ein llygaid, fel roeddem i fod. Na, roedd dull mwy adeiladol o weddïo i blant, un a gynigiai fwy o libart i fyfyrdod hir. Ac roedd tri cham i hwnnw: sef ymgrymu tuag ymlaen; dod â’ch talcen i gyffyrddiad â’ch dwy law a bwysai ar y fainc o’ch blaen; ac yna tuchan.
Ymhen munud neu ddau caech agor llygaid ...
Sbecian ...
Ar eich traed i ddechrau, fan’cw isod, yn y dyfnder pell, yn siglo’n ôl a blaen yn annibynnol arnoch. Gwelech y sgratshys ar du blaen eich esgidiau’n wyn dan haen o bolish. Codech un droed a’i gosod ar y beipen. Ac yna’r llall. A thapio alaw ar yr haearn poeth nes iddo ddechrau’ch llosgi ...
Ac ar ôl dipyn gallech gynnil droi eich pen i weld pwy oedd drws nesaf. Wrth gwrs, roedd honno’n gêm beryglus. Pe daliech lygad plentyn arall, Duw a’ch helpo, gallech dorri i chwerthin. Caech ysgyrnygiad gan oedolyn, o bosib hwth yn eich asennau a’ch plygai’n ddau-ddeublyg. A gorfod dechrau’r cyfan eto.
Ond weithiau caech oedolyn ar eich pwys nad oedd yn rhiant; gweddïwr mwy sancteiddiol; rhywun mewn oed, efallai; rhywun gymerai’r weddi ar ei gair, rhywun a gadwai wyneb gyda’r Ti. A dyna pryd y caech chi syllu. Ac roedd pob rhych a phant a blewyn yn difyrru’r weddi.
Wynebau’r gwragedd hŷn a’n denai fwyaf. Yr haen o bowdwr oedd ’run lliw â sherbet Double Dip (blas oren) dros groen yr wyneb, a hwnnw’n lluwchio dipyn wrth y glust. Y minlliw Cherry Lips neu Opal Fruits ar y gwefusau. Y pâr o fwâu pensil lwyd lle gynt bu aeliau, a’r mân linellau, fel mân wlâu afonydd, a grisgroesai’r foch. Y cyrls wedi caledu’n sment dan haen o lacquer. Ac os oedd ganddynt het neu froitsh, hawliai peth felly ddau, dri munud o astudiaeth ddwys – oedd yn gaffaeliad.
Llai atyniadol oedd wynebau’r dynion hŷn, ond eto’n llawn apêl i lygaid plentyn. Blew bras, fel gwlydd tatws, yn egino yn y glust. Y trwynau gwridog a’u dwy ogof ddu. Asgwrn yr ên naill ai’n lliw llechen las am fod ’na farf yn ysu, neu’n disgleirio’n glitter arian. Roedd gan yr aeliau eu bywyd eu hun (cynefin anwar), ac weithiau, drostynt, roedd ’na sbectol i’w harchwilio, un blastig ddu, a phlaster ar ei cholyn yn amlach na heb.
Ond doedd y craffu yma byth yn para’n hir. Gall pobl deimlo syllu; mi ŵyr pob plentyn hynny. Mae’n teimlo’n drwm ac ysgafn yr un pryd, fel cysgod cwmwl. Yn sydyn a dirybudd, byddai’r pen yn troi. Y llygaid yn agor ...
Andros o beth yw pwysau trem oedolyn.
Claddem ein hwyneb yn ein dwylo bach drachefn, ac oglau chwys euogrwydd yn ein ffroen, hynny ac oglau farnish. Dyna oglau gweddi i mi.
Chofia i’r un gair o’r un ohonynt, y gweddïau hirfaith hynny. Dim ond eu hundonedd a arhosodd yn fy nghof. Heblaw am y tro hwnnw pan alwyd ar i un o’r diaconiaid gymryd lle’r gweinidog. Roedd honno’n fenter arall. (Oedd gan y gŵr di-goler-gron fandad o gwbl?) Synnais ei glywed yn siarad. A ffeindio fy hun, am y tro cyntaf, yn clustfeinio.
Roedd rhywbeth anarferedig yn ei ddull. Rhyw seibiau hir. Petruso. Gadawai frawddeg ar ei hanner, fel petai ar goll, neu wrthi’n ailfeddwl. Roedd ’na ddirdyniad yn y geiriau dwys.
Cofiaf godi fy mhen i sbio, fy llygaid syn ar agor. A dyna lle safai’r blaenor, yn adyn unig. Yn ddyn, wedi’r cwbl. Yn ddyn mewn oed. Ei wedd yn welw. Cyn-chwarelwr, a’i lygaid ynghau, a chryndod od ym mlew ei lygaid. Pwysai ei ddwylo glân a chreithiog ar ganllaw llydan y sêt fawr gan godi ar brydiau i’r awyr o’i flaen, fel petai o’n teimlo’i ffordd trwy’i weddi, cyn dod yn ôl i lawr at lan y pren er mwyn angori.
Câi drafferth anadlu. Roedd llwch llechi’n rheibio’i ysgyfaint. Câi drafferth dod o hyd i’r gair, y geiriau iawn, i gynnal sgwrs â’i Arglwydd. Dywedai rywbeth, wedyn tawai – er mwyn adfer ei wynt. Ond roedd hefyd fel petai o’n gwrando ar y gwagle, yn chwilio am ymateb gan ei Grëwr Mawr yn ôl.
Cofiaf yn glir nad oedd dim, dim yn llenwi’r bylchau hir rhwng gair a gair ond cri fain, gas ei frest yn crefu am awyr.
A chofiaf ni’n sobri. Meinciad o blant yn dal eu gwynt – am ein bod eisiau iddo yntau wneud yr un fath …
Cyfrol ddiweddaraf Angharad Price yw Ymbapuroli (Carreg Gwalch, 2020), casgliad o ysgrifau sy'n cynnwys yr ysgrif hon. Gellir prynu copi o'r gyfrol yn eich siop lyfrau leol neu ar wefan y cyhoeddwr.