Ffair Elen
Cerdd
I Ffair Elen, dathliad a chyfres o brosiectau creadigol fu’n cofio Elen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owen Arglwyddes Is Coed uwch Hirwern a Gwynionydd Is Cerdin, a mam Owain Glyndŵr, yn Llandysul, ym mis Medi 2023.
Does dim ar ôl, heddiw, ohoni
ond ei henw, ei hachau:
ferch Tomos, Llywelyn, Hywel, Rhys;
ei bonedd: Arglwyddes Is Coed, Gwynionydd.
Ei hanes hi dreuliodd mor fain
trwy’r blynyddoedd
â fêl o sidan, rhyw fore gwyn:
wraig Gruffudd.
Does iddi ddim buchedd, dim beddrod:
dim corff ond croen o femrwn
mewn llyfrgell. Ysgerbwd o ysgrifen frau
yng nghroniclau rhywrai eraill:
fam Madog, ac Isabel. Tudur.
Morfudd ac Owain a Lowri.
Dim ond gwagle ar lun geneth
fel gwisg a ddiosgwyd ers talwm ’rôl gŵyl;
amlinell fel ffiol dryloyw’n yr haul;
voile sy’n fflio drwy ffenest agored
i ddangos siâp y gwynt,
ffurf awelon hen, hen hafau.
Fel rhywbeth sy’n gudd rhag ein golwg –
y lleuad sy’n llywio’r llanw liw dydd,
y donfedd sy’n tanio tafodau y radio,
y garreg yng nghesail yr esgair sy’n ateb.
Ond pan ddaeth hi’n fis Medi
a’r ffair yn reiat drwy’r dref –
yn ei chysgod daeth rhyw chwa ddiarth
i gyffroi cloriau’r hen lyfrau, i droi’r tudalennau.
Siffrwd geiriau. Cyffwrdd croen.
A rhywbeth disglair diaros fu’n dawnsio
fel pryfyn tân uwchlaw dyfroedd Teifi,
hudlewyn mewn eglwys dywyll.
Gwreichionen ar y gwynt.
Llandysul, 16 Medi 2023
Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Mae hi'n un o olygyddion cyfranogol O'r Pedwar Gwynt.
Gellir darllen mwy am ddathliadau Ffair Elen yn y fan hon.