Ferodo
Llun gan Richard Outram
Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig: FERODO.
Roedd yma drefn. Roedd yma batrwm. Shifftiau’n nodi dydd a nos. Ofarôls. Rheolau. Cyflogau ben pob mis, a phartïon bob Nadolig.
Mae ’na batrwm o fath hyd heddiw. Picelli fleur-de-lis ar draws y lôn a thair carreg yn ei cheg hi. A dwy lantarn ar bob tu, a’u dau orchudd wedi torri.
Patrwm llafur wedi mynd yn llac: breichiau main mieri, eiddew’n twchu, locsyn clust o fwsog, a chen yn glais a chlais. Chwyn a rhedyn o faint plant. A fan’cw, yn y gornel, lle daw hogia’r dre i dreulio’r dydd, coeden Dolig a’i nodwyddau’n goch i gyd. A thinsel caniau diod.
Dannedd coll ffenestri. Asennau brau hen swyddfeydd. Ac yno, yn y perfedd: gwenwyn heintus heb ei drin ...
Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r drewdod?
Rhes o bicelli lle bu llinell biced. Tair carreg y tair blynedd. Dwy lantarn gwaith a pharch. A’r arwydd trionglog sy’n sefyll o hyd: Ildiwch.