Cyfansoddi

Mae gan bawb eu cofebion, am wn i

o gomisiwn Bardd Y Lle Celf, Ynys Môn, 2017

Llion Pryderi Roberts
11·04·2018



Cofeb

o weld ‘Cofeb 1’, André Stitt 


Mae gan bawb eu cofebion,
am wn i;
rhai’n swagro’u coffa
yng nglendid marmor,
neu sglein yr efydd
wrthodwyd gan Horas, gynt.

Mae eraill yn llai lluniaidd,
gwyfynod
sy’n cnoi tyllau yng ngharthen amser,
neu blaciau tolciog
wedi eu hestyn drachefn o’r gist.

Caeau cysáct yw’r rhain;
doeau sgwâr o dan gnwd,
neu falle mai gwres yr haul sy’n pelydru’r gwynder, –
aceri’r cynhaeaf gwair
Sadyrnaidd eu diwrnodau,
ac eraill yn clywed clewt y biliau
ar garped y gegin gefn.

Ond mae sbienddrych adlewych
yn tremio trwch y glastir
trwy’r gwyngalch,
a’r ponciau llaethog
sy’n dreflu’u profiadau,
fel cwyr tawdd,
yn gomedd cymesuredd i’r cloddiau.

 

André Stitt, Monument (Cofeb, 2016), acrylic ar gotwm

Comisiwn Bardd Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017

 

Mae Llion Pryderi Roberts yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mi fydd cyfrol newydd ganddo, Tipiadau, yn cael ei chyhoeddi fis Mehefin 2018 gan Cyhoeddiadau Barddas.

Pynciau:

#Barddoniaeth
#Celfyddyd weledol
#Llion Pryderi Roberts
#Y Lle Celf