Cyfansoddi

Roedd Seurat wedi dotio at y traeth

o gomisiwn Bardd Y Lle Celf, Ynys Môn, 2017

Llion Pryderi Roberts
11·04·2018



Hwnt

o weld ‘Tu Hwnt’, gan Elin Huws a ‘Traeth Gravelines’ (1890), gan Georges Seurat


Roedd Seurat wedi dotio at y traeth
dan lewych haf, yn ffroeni oglau gwymon;
at ruban aur o drai a dŵr y daeth
ac erfyn bad i lyfnu’r gorwel union.

Hwnnw’n ddisymud, er angori’r daith;
ffagl ei fast yn pontio nen ac eigion,
yn dwyn rhyw drefn ar swmp y melyn maith
a honni bod i’r cread ei ymylon.

Mae’n anos dirnad mesur hyd a lled
y tonnau aur diorwel; môr breuddwydion,
lle mae’r cusanau blêr sy’n staenio cred,
a chelloedd dibendrawdod tyllau duon,
yn mynnu’r hawl i enaid geisio gwell
na chelwydd terfynoldeb llinell bell.

 


Georges Seurat, Plage Gravelines (Traeth Gravelines, 1890)

Comisiwn Bardd Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017

Elin Huws, Tu hwnt, 2017 (Sidan, cotwm, gwlân a dalen aur)

Comisiwn Bardd Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017

 

 

Mae Llion Pryderi Roberts yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mi fydd cyfrol newydd ganddo, Tipiadau, yn cael ei chyhoeddi fis Mehefin 2018 gan Cyhoeddiadau Barddas.

Pynciau:

#Celfyddyd weledol
#Barddoniaeth
#Llion Pryderi Roberts
#Y Lle Celf