Cyfansoddi

Gweithdai ar yr ysgrif

dan arweiniad Angharad Price

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac O’r Pedwar Gwynt
25·05·2021

Fel rhan o gystadleuaeth cyfansoddi ysgrif gyntaf O'r Pedwar Gwynt, a drefnir dan nawdd ac mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, trefnir dau weithdy arbennig ar yr ysgrif fis Mehefin a mis Awst dan arweiniad yr Athro Angharad Price o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor. Cynhelir y gweithdai am ddim ac yn ddigidol dros Zoom, gyda lle i 30 yn unig ar sail cyntaf i’r felin. Er nad yw’r ddau weithdy yn hollol ddibynnol ar ei gilydd, bydd yr ail weithdy yn datblygu cynnwys y gweithdy cyntaf, ac felly rydym yn awgrymu y dylid cofrestru ar gyfer y ddau. Mae’r gweithdai yn agored i unrhyw un dros 16 mlwydd oed.

Felly beth ydi ysgrif?
Nos Fercher, 9 Mehefin 2021, 7-8.30pm

Dyma gyfle i ddod i adnabod yr ysgrif yn well, o'i dechreuadau bum canrif yn ôl i'w ffurfiau mwyaf diweddar. Byddwn yn edrych ar wahanol esiamplau o ysgrifau, gan drafod eu prif nodweddion a gweld y rhyddid arbennig sy'n perthyn i'r ffurf. Yna, yn ail ran y gweithdy, trwy gyfrwng cyfres o ymarferiadau byrion, byddwn yn chwilio am ysbrydoliaeth, yn casglu syniadau ac yn rhoi cynnig ar ysgrifennu ein hysgrifau ein hunain.

Mentro gyda'r ysgrif 
Dechrau Awst: yr union ddyddiad ac amser i’w gadarnhau

Bydd yr ail weithdy'n datblygu cynnwys y gweithdy cyntaf. Edrychir y tro hwn ar enghreifftiau o ysgrifau sy'n mynd â'r ffurf i gyfeiriadau newydd ac anturus - boed o ran pwnc neu o ran arddull. Bydd ail hanner y gweithdy'n cynnwys ymarferion a fydd yn eich annog i fanteisio ar ryddid y ffurf i ddatblygu eich ysgrifau mewn ffyrdd annisgwyl, gan wneud y broses ysgrifennu ei hun yn un o fentro, ac o ddysgu, ac o ddarganfod.

Cofrestru:

Bydd modd cofrestru o 12pm, dydd Mercher 26 Mai 2021 drwy ddilyn y ddolen ganlynol: bit.ly/GweithdaiYsgrif Cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg i drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ddigidol, ar Zoom ac yn agored i unrhyw un dros 16 oed, gyda lle i 30 ym mhob gweithdy.

Yn ôl at fanylion y gystadleuaeth ysgrif

#DarllenHoliHerio

Pynciau:

#Ysgrifau
#Angharad Price