Cyfansoddi

Gwobr Ysgrif 2024

O’r Pedwar Gwynt
30·05·2024

Cyhoeddwyd dwy ysgrif fuddugol Gwobr Ysgrif 2024 O’r Pedwar Gwynt yn rhifyn gwanwyn 2025. Gellir darllen y ddwy ysgrif, ‘Ymweliadau’ gan Steffan Gwynn a ‘Madfallio’ gan Heather Williams, yn y fan hon. Cyhoeddwyd ysgrif fuddugol Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt yn rhifyn gaeaf 2021. Gellir darllen yr ysgrif yn y fan hon, a mwy am yr enillydd yn adran y wasg.

*

Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn falch o gyhoeddi ein hail gystadleuaeth ysgrif, i hybu a dathlu’r ffurf.

Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog mwy o awduron i roi cynnig ar gyfansoddi ysgrif, ac yn unol ag ystyr waelodol y gair – essai – hybu arbrofi deallusol mewn cywair personol ac mewn modd sy’n caniatáu i syniadau ddisgleirio yn eu holl gymhlethdod.  

Ers cyhoeddi am y tro cyntaf yn Awst 2016, mae ffurf yr ysgrif wedi bod yn ganolog i O’r Pedwar Gwynt. Ysbrydolwyd gweledigaeth eangfrydig y cylchgrawn gan yr ysgrifwr Cymraeg digymar, T H Parry-Williams. Dyma ffurf sy’n briodas rhwng emosiwn a rheswm ac sy’n cynnig cyfle i archwilio’r tir llwyd a gaiff yn aml ei esgeuluso. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfnod lle mae pwyslais ar fod yn gryno, a safbwynt yn cael ei ddatblygu yn gynyddol trwy ffurfiau unplyg, megis trydar. 

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un o unrhyw oedran.

Sut i ymgeisio?

Bydd y gwaith a gyflwynir: 

  • yn ysgrif bersonol rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau; 
  • yn cynnwys atodiad gydag amlinelliad byr iawn (hyd at 100 gair bob un) o ddwy ysgrif bellach yr hoffai’r ymgeisydd eu datblygu ar gyfer O’r Pedwar Gwynt

Os yw’r ffurf yn anghyfarwydd, fel man cychwyn gellid troi am ysbrydoliaeth at ysgrifau T H Parry-Williams neu Ymbapuroli Angharad Price yn Gymraeg; y casgliad swmpus yn Saesneg a geir yn The Art of the Personal Essay gan Phillip Lopate, sy’n cynnwys amrywiaeth o ysgrifau, o Seneca i waith yr Americanwr Richard Rodriguez; neu at yr ystod o ysgrifau a gyhoeddir gennym yn O’r Pedwar Gwynt (darllenwch y cyfan ar pedwargwynt.cymru trwy danysgrifio am £10 y flwyddyn yn unig). 

Y wobr
Gwobr ariannol o £300 a chyhoeddi’r ysgrif yn O’r Pedwar Gwynt

Dyddiad cau
Dylid anfon eich ysgrif trwy ebost at gol@pedwargwynt.cymru erbyn 30 Medi 2024. 

Beirniaid
Mererid Puw Davies, Gwyneth Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands.

✒︎

Mwy o wybodaeth am O’r Pedwar Gwynt 
Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes. Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes. Trwy ddarllen, holi a herio rydym yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd. Cyhoeddir rhifynnau arbennig mewn print ac ar lein haf, gaeaf a gwanwyn. Cyhoeddir hefyd yn wythnosol – bob nos Fercher – ar pedwargwynt.cymru. Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine. 

Rheolau

  • Ni ddylai’r ysgrif fod wedi ei chyhoeddi o’r blaen.
  • Ni fydd O'r Pedwar Gwynt na'r beirniaid mewn sefyllfa i drafod eu hysgrifau gyda’r ymgeiswyr a bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. 
  • Cyn cyhoeddi, bydd yr ysgrif fuddugol yn cael ei golygu gan O’r Pedwar Gwynt. 
  • Gall O’r Pedwar Gwynt benderfynu atal y wobr. 

Pynciau:

#Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt
#Ysgrifau
#Rhifyn 24