Cyfweld

Chwyldroadau ddoe a heddiw

Wiliam Owen Roberts

Y Pla

Barddas, 364tt, £9.95, (Annwn 1987) 2012

Wiliam Owen Roberts

Paradwys

Barddas, 467tt, £14.95, 2001

Wiliam Owen Roberts

Petrograd

Barddas, 544tt, 2008

Wiliam Owen Roberts

Paris

Barddas, 514tt, £12.95, 2012

Wiliam Owen Roberts

Amser darllen: 30 munud

16·04·2017

Mae'n gwbl amlwg i mi mai ti yw awdur mwyaf cyfoes Cymru. Mae'r holl gwestiynau mawr sydd yn ein poeni ar hyn o bryd yn codi yn dy waith, wrth i ti fynd yn ôl mewn hanes. Mae Y Pla yn delio ag effaith argyfyngau ym mhen arall y byd ar gymuned fechan yn Eifionydd; Paradwys yn ymdrin â chaethwasiaeth a chyfalafiaeth, a Petrograd a Paris wedyn yn archwilio profiadau ffoaduriaid wrth iddynt geisio ail-greu bywyd mewn alltudiaeth.

Y bwriad ar un adeg oedd sgwennu trioleg o nofelau am y cyfnod ffiwdal, y Dadeni a’r Oleuedigaeth. Yn anffodus, chafodd un y Dadeni, sef hanes y Catholigion alltud o Gymru yn Rhufain a Milan, mo’i sgwennu. Y syniad oedd mapio’r gwrthdaro rhwng Catholigiaeth a Phrotestaniaeth a hynny, yn bennaf, trwy gyfrwng rhywun fel Gruffydd Robert Milan, a oedd yn gyffeswr i’r Archesgob Carlo Borromeo.

Canolbwyntio ar Gristnogaeth felly?

I bob pwrpas, yn ogystal ag ymdrin ag alltudiaeth criw o Gymry a’r gwrthdaro rhyngddyn nhw a’r Saeson. Mae yna dystiolaeth fod y ddwy garfan wedi bod yn cwffio ar strydoedd Rhufain. Yn gefnlen i’r twrw a’r tensiwn roedd cymathiad gwleidyddol Cymru gan Loegr, yn sgil Deddf Uno 1536.

Doedd dim bwriad i roi dimensiwn Islamaidd i’r nofel?

Nac oedd.

Yn Y Pla, rwyt ti’n cyferbynnu pobl lwgr ac ofergoelus Ewrop efo'r Arab Dysgedig. Ond yn ogystal â hynny, mae'r cymeriad Ibn al Khatib yn cael ei yrru i ladd brenin Ffrainc. Mae hynny'n ddifyr oherwydd rhoddwyd llawer o sylw yn ddiweddar i'r syniad bod y byd Islamaidd yn codi yn erbyn Paris fel Dinas yr Oleuedigaeth.

Wel, ydi, mae hynny'n ddigon gwir. Yn eironig iawn, fe gafodd Y Pla ei chyhoeddi yn haf 1987 ac un o brif elfennau’r plot yw hynt a helynt Mwslim ifanc sy’n cael ei anfon o Cairo i ladd brenin Ffrainc. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddwyd The Satanic Verses Salman Rushdie, ac yn sgil y ffaith iddo gableddu yn erbyn y Proffwyd, anfonwyd llofruddion i’w ladd o. Ac wrth gwrs, gyrrodd Isis hefyd bobl i saethu a bomio ym Mharis y llynedd oherwydd ymyrraeth y Gorllewin yng ngwledydd Islam. Roedd Paris yn sicr yn allweddol yn nhwf yr Oleuedigaeth dan ddylanwad Voltaire, Rousseau, Diderot, Barwn D’Holbach a llu o ddeallusion eraill. Roedd Ffrainc hefyd yn rym imperialaidd brwd yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae ei pherthynas â’r byd Islamaidd – Algeria, Moroco a Syria yn enwedig – yn hanes o drais a gorthrwm. Er bod y gwledydd yma wedi hen ennill eu hannibyniaeth, mae ymwneud Ffrainc â’i phoblogaeth Islamaidd yn dal yn un weddol haerllug yn fy marn i. Yn aml iawn, dw i’n meddwl bod hunangyfiawnder a thraha y Ffrancwyr yn waeth na’r Saeson – ac mae’r rheiny, fel y gwyddom o brofiad, yn ddigon drwg.

Mae Paris hefyd wedi bod yn dynfa i wahanol alltudion yn tydi?

Bu’r ddinas yn ganolfan i alltudion o bob lliw a llun erioed. Yn achos y Rwsiaid, gadawodd rhyw ddwy i dair miliwn eu gwlad yn sgil y Chwyldro yn 1917 a’r Rhyfel Cartref yn sgil hwnnw wedyn. Am Ferlin yr aeth y rhan fwyaf ar y dechrau, tan i chwyddiant 1923 fynd yn rhemp. Wedyn, cododd llaweroedd eu pac ac anelu am Baris, a hynny oherwydd y berthynas hanesyddol rhwng Rwsia a Ffrainc. Aeth rhai hefyd i Shanghai a Buenos Aires; rhai eto i Gymru, ac un neu ddau i Sir Benfro. Mi fuodd Ho Chi Minh yn gweithio'n y ddinas, fel cogydd mewn gwesty, ac yn ymwneud cryn dipyn â’r Blaid Gomiwnyddol Ffrengig yn y 1920au.
 

Llun: Maria Fach ar fraich Neky, darlun gan Niels Peter Holbech, 1838 (Wikimedia Commons)


Beth oedd agwedd y Ffrancwyr at y newydd-ddyfodiaid yma? Oedden nhw’n cael croeso?

Oedden a nac oedden. Yn sgil colledion Ffrainc yn ffosydd y Rhyfel Mawr, roedd yna brinder llafur dychrynllyd ar y tir ac mewn ffatrïoedd. Rhyw fath o bolisi o dderbyn-am-fod-yn-rhaid oedd o yn y bôn. Ond roedd senoffobia y Ffrancwyr tuag at bobl wahanol iddyn nhw eu hunain yn bur elyniaethus. A does dim llawer wedi newid mewn cwta ganrif, nag oes? Yr un ydi agwedd llawer iawn o Ewropeaid heddiw tuag at ffoaduriaid sy’n croesi Môr y Canoldir o Libya neu Syria neu Dwrci. Mae cenedlaetholdeb wedi bod yn ffactor cryf iawn yn Ffrainc yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi hanes y tyndra yna yn Ffrainc rhwng syniad Ffrancwyr adain dde o’r wlad sanctaidd Gatholig, draddodiadol, wledig a gwrth-Semitig a’r Ffrainc arall a gafodd ei geni yn sgil 1789, sef Ffrainc ryddfrydol, sosialaidd, fohemaidd, fodernaidd a aeth ati i ryddfreinio’r Iddewon.  

Mae un o'r cymeriadau yn Paris, Inspector Genot, sef y plismon ar y brig fel petai, yn cadw golwg ofalus ar bethau yn tydi?

Ydi, mae o. Mae hynny oherwydd nad ydi Genot am i Baris gael ei defnyddio fel dinas lle gall grwpiau o ba dras bynnag godi twrw. Mae o'n cynrychioli'r rhai hynny nad oedden nhw am weld 'riff-raff' gwledydd y byd yn defnyddio'u dinas fel llwyfan i roi cyhoeddusrwydd iddyn nhw eu hunain. Dwi’n siŵr y byddai Inspector Genot wedi gwaradwyddo’r llofruddio yn swyddfeydd Charlie Hebdo a’r ymosodiadau a fu tua diwedd 2015. Ond y gwir amdani ydi fod Paris wedi bod yn llwyfan i bob math o ddigwyddiadau a syniadau erioed, o’r Oleuedigaeth hyd heddiw. Rhoddodd loches i’r Marx ifanc, yn ogystal ag i anarchwyr diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hi’n llwyfan i dwf moderniaeth mewn celfyddyd a llenyddiaeth. Roedd hi hefyd wedi rhoi cartref i nofelwyr realaeth hudol De America. Oni bai am Baris, mae hi’n amheus gen i a fyddai'r genre hwnnw wedi datblygu a dylanwadu yn y modd y gwnaeth. Felly fe chwaraeodd Paris ran allweddol fel canolfan syniadaethol ddylanwadol – yn wleidyddol a chelfyddydol – ar raddfa fyd-eang hyd at yr Ail Ryfel Byd.

Mae yna newid anferthol yn ganolbwynt i bob un o'th bedair nofel ddiweddaraf, ynghyd ag ymdeimlad cryf o apocalyps, os dyna'r gair.

Mae hynny wedi datblygu'n batrwm – yn anffodus.

Ydi o'n anffodus?

I raddau. Mae o fel tic, lle dw i'n ymrafael efo cymdeithas sy'n wynebu newid cataclysmig bob tro. Digwyddodd hynny’n naturiol efo’r Pla, ond mi ddigwyddodd hefyd efo’r nofelau sydd wedi dilyn. Doedd o ddim yn fwriad, ond dyna, rywsut, ddigwyddodd yn reddfol.

Mae'n rhaid bod hynny oherwydd dy ddiddordeb byw yn y ffordd y mae pobl yn ymateb i newid mawr?

Mae hynny'n wir. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy ngeni yn ystod cyfnod hir o heddwch yn Ewrop. Ar wahân i ryfeloedd yng ngwledydd y Balcanau yn 90au’r ganrif ddiwethaf, does dim digwyddiad cataclysmig fel y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r Ail Ryfel Byd wedi digwydd yng ngorllewin Ewrop. Mi allet ddweud fod hwn yn fyw gwastad iawn. Mae Cymru wedi bod trwy sawl newid cyfansoddiadol digon dof, ond does dim byd syfrdanol wedi digwydd. Rhyw fywyd o gicio sodlau yn ara’ deg yn y cysgodion ydi’r bywyd hwn, yn hytrach na sefyll allan yng ngwres tanbaid yr haul. Mae Cymru mor dlawd ag erioed. Mae hi’n allfudo ei phobl ifainc fel erioed. Mae ei diwydiannau wedi diflannu. Mae hen bobl o Saeson yn ymddeol i’w hardd-ardaloedd hi. Mae’r pleidiau gwleidyddol yn chwarae gwleidyddiaeth o fewn rheolau’r gêm, lle ceir rhyw fath o gonsensws diflas, a’r Frenhines yn galw draw am baned bob pum mlynedd. Rywsut, does yna ddim digon o ‘weledigaethu’ – y neidio syfrdanol hwnnw y tu hwnt i fanion bywyd bob dydd o fewn rhigolau’r presennol, bwrw syniadau sydd yn ymddangosiadol wallgo’ ac annerbyniol rŵan ond a fydd yn hollol dderbyniol mewn hanner canrif. Yn aml iawn, dw i’n edrych ar wledydd eraill fel Catalwnia, Slofenia neu wledydd y Baltig ac yn gofyn i mi fy hun: pam nad oes yna fwy o’r ysbryd herfeiddiol yna yng Nghymru heddiw? Mae hyd yn oed yr Alban yn bell ar y blaen.

Mae'r ymgyrchoedd yn arwain at y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi amlygu tensiynau byw iawn, sy'n arwydd efallai nad byw gwastad mohono mwyach.

Digon gwir. Ond yr oll a wnaeth yr ymgyrchu yma oedd amlygu yr hyn ro’n i’n ei wybod eisoes am jingoistiaeth a chenedlaetholdeb cul y Saeson. Heb sôn am yr anoddefgarwch a’r traha tuag at ddiwylliannau ac ieithoedd pobl eraill. Trefedigaeth i America ydi Lloegr wedi bod ers diwedd 50au’r ganrif ddiwethaf. Mae ymerodraeth y Saeson wedi chwalu’n lludw ers hydoedd. Ond dyhead pennaf rhai ohonyn nhw yw ei hatgyfodi hi. Mae’r peth yn hollol druenus. Trychineb Cymru ydi diffyg gwasg o unrhyw werth i arbed pobol rhag llyncu propaganda papurau newydd Llundain yn ddi-feddwl. Yn wahanol i’r Alban, rydan ni’n amddifad iawn. O’m rhan i fy hun, carwn weld Cymru yn wlad sofran, annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Slofenia, er enghraifft. Byddai byw mewn gwlad o’r fath o’i hanfod yn fwy cyffrous. A dweud y gwir, byddai’n bleser cael byw a gweithio ynddi. Ac yn bendant sicr, byddai ein llenyddiaeth a’n diwylliant yn gyffredinol yn magu gwytnwch gwirioneddol ddiddorol. Byddai’n rhaid inni wynebu cyfrifoldeb grym go iawn. Mae hi’n ddifyrrach o lawer treulio amser yng nghwmni pobl rymus na phobl ddi-rym oherwydd mae eu dewisiadau a’u penderfyniadau yn fwy tyngedfennol.

Beth am y teulu o Rwsia yn Petrograd a Paris sydd wedi arfer bod yn aelodau pwerus o gymdeithas ac sydd yn gweld yn sydyn reit bod y pŵer hwnnw wedi diflannu?

Yn wreiddiol, y bwriad efo’r nofelau yma oedd trafod y Bolsheficiaid a llwyddiant chwyldro Lenin yn 1917. Ond wrth imi ddarllen mwy a mwy, dechreuais sylweddoli bod mwy o botensial i hanes y Gwynion – sef y bobl hynny a oedd yn gwrthwynebu y drefn gomiwnyddol – a’i fod o, rywsut, yn llai adnabyddus ond yr un mor ddiddorol. Rhyw fath o archwiliad ydi Petrograd o sut mae grym yn symud o un dosbarth i’r llall. Mae Paris wedyn yn archwiliad o sut mae pobl yn ymgodymu â cholli grym a’r dewisiadau anodd maen nhw'n gorfod eu gwneud wedi hynny. Mewn ffordd, dyna ydi tynged llawer o'r cymeriadau yn Petrograd ac yn Paris. Maen nhw'n cael eu gorfodi i’w hailarchwilio eu hunain; maen nhw ar drugaredd grymoedd nad ydyn nhw’n gallu eu rheoli; mae pob dewis, felly, yn adwaith ac mae gallu'r cymeriadau i weithredu eu hewyllys rydd wedi ei gyfyngu.

Oherwydd cataclysm 1917, maen nhw hefyd yn cael eu bwrw i alltudiaeth.

Yn bersonol, alla i ddim meddwl am ddim byd gwaeth – meddwl am gael dy orfodi i fyw yng nghanol cymdeithas arall, heb unrhyw adnabyddiaeth ohoni. Beth wyt ti'n ei wneud? Sut wyt ti’n dygymod? Wyt ti’n cymhathu? Neu wyt ti ddim? Yn achos y tri chymeriad yn y ddwy nofel, maen nhw'n dewis llwybrau gwahanol: mae Alyosha'n llythrennol ar goll; mae ei gyfnither, Margarita, yn ceisio ail-greu ystyr newydd iddi hi ei hun trwy ymrwymo'n wleidyddol, a hynny, yn eironig iawn, trwy ymrwymo â'r union beth sydd wedi ei gyrru o'i gwlad. Mae ei chwaer, Larissa, yn dewis magu teulu'n ifanc, efo dyn anaddas, er mwyn bwrw gwreiddiau a chreu patrwm teuluol sy'n mynd â hi'n ôl i'r cyfnod cyn iddi gael ei bwrw'n alltud.

Ai pobl sydd wedi byw mewn adwaith yn rhy hir ydi'r Cymry hefyd yn dy farn di?

Pobl sy’n byw mewn adwaith ydi unrhyw genedl sydd wedi ei choncro a’i gormesu. Dydach chi byth yn llywio’r agenda sydd gerbron. Mae honno’n cael ei llunio ar eich cyfer a’r oll a ddisgwylir gennych yw ymateb iddi. Ond mae’r agenda, wrth gwrs, yn awgrymu’r cyd-destun y caniateir i chi weithredu oddi mewn iddo, sydd yn brofiad israddol, diflas a digon rhwystredig. Roedd yna ddyfyniad anhygoel gan rywun o’r Pentagon yn y wasg dro'n ôl pan oedd o’n sôn am America fel yr unig ymerodraeth o bwys yn y byd heddiw. Roedd o’n mynnu mai gweithredu a chreu ei realiti ei hun ar ei phen ei hun y mae’r ymerodraeth Americanaidd. Roedd y dyfyniad allweddol rywbeth yn debyg i hyn: ‘We’re history’s actors and you, all of you, will be left to just study what we do.’

Ac eto rydym wedi synied am hanes, dros y ddwy ganrif ddiwethaf o leiaf, yn nhermau naratif ‘cynnydd’ – dyna'r thema – ac onid dyna oedd hanfod Marcsiaeth, sy'n ganolog i Y Pla?

Roedd cymdeithas ffiwdalaidd yn weddol statig ac yn hierarchaidd, a does dim dwywaith bod digwyddiad cataclysmig fel y Pla Du wedi chwalu ei seiliau economaidd a phrysuro prosesau a arweiniodd, maes o law, at greu'r byd modern. Cafodd pobl eu gorfodi i symud o'u cymdogaethau i chwilio am waith a chafodd rhai tueddiadau ac elfennau o wrthdaro mewn cymdeithas eu hatgyfnerthu. Mae rhai haneswyr yn dadlau bod y Pla Du wedi cyfrannu’n uniongyrchol at wrthryfel Owain Glyndŵr. Ond yr hyn sy’n creu newid gwirioneddol mewn cymdeithas ydi datblygiadau technolegol fel yr injan stêm ac ati, a ddaeth i fod yn sgil y chwyldro gwyddonol o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Roedd mantais dechnolegol a gwyddonol Ewrop yn rhoi mantais iddi dros weddill gwledydd y byd. Ac yn y ddeunawfed ganrif mae’r byd yn dechrau mynd yn llai o lawer a’r cwlwm rhwng y cyfandiroedd yn cael ei glymu’n dynnach nag erioed yn sgil masnachu ac ysbeilio adnoddau gwahanol wledydd gan genedl-wladwriaethau Ewrop.

I fynd yn ôl at y syniad o apocalyps, a oes tueddiad ynom ni fel pobl ar y ddaear i feddwl mewn termau apocalyptaidd, ac onid ydi'r tueddiad hwnnw yn un atyniadol, oherwydd ei bod yn haws dygymod efo'r syniad o newid mawr nag ydi hi i feddwl amdanom ni'n hunain fel rhan o rywbeth di-nod?

Yn sicr, mae’n hen, hen syniad chwedlonol yn tydi? Mae’n amlwg iawn yn yr Hen Destament ac mae’n cloi’r Testament Newydd. Fel syniad Iddewig, mae’n ymwneud â chosb ac edifeirwch. Mae hefyd yn ymwneud â’r posibilrwydd o adnewyddu unigolion a chenhedloedd ar ryw newydd wedd; rhyw fath o ddod â nhw at eu coed neu ddod â nhw i lwyrach adnabyddiaeth o'r hyn sy’n bwysig. Mae'n rhan anorfod o fyw ar y blaned yma hefyd, dw i’n meddwl. Mae gen ti ddigwyddiadau apocalyptaidd mewn natur, fel tswnami, llosgfynyddoedd, chwalfa Pompeii a’r pla, a digwyddiadau apocalyptaidd hefyd sy'n rhan o'n profiad ni o fyw mewn cymdeithas, fel y Chwyldro Ffrengig, y chwyldro yn Rwsia, sydd yn arwain at newid radical. Ond efallai mai cysyniadau crefyddol wedi eu seciwlareiddio ydi’r hyn a ddigwyddodd yn 1789 ac 1917. Mae rhai haneswyr wedi dadlau hynny. I ateb dy gwestiwn, ydi, mae digwyddiad apocalyptaidd fel chwyldro yn ddramatig ac yn gosod pobl ar ganol y llwyfan fel actorion mewn drama fawr. Mae’r digwyddiad ynddo’i hun yn eu gwneud nhw’n fwy nag ydyn nhw; yn dilysu bodolaeth ac yn rhoi rhyw werth ac ystyr i fywyd a fyddai fel arall yn ddigon diddrwg didda mae’n siŵr.

Beth am gyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Rhyw Flodau Rhyfel? Onid ydi honno’n archwilio rhai o'r un cwestiynau hyn?

Ydi, mae hi. Dyma’n union sydd gan Llŷr dan sylw, ymysg nifer o themâu eraill. Mae hi’n gyfrol aeddfed a diddorol iawn ac yn un o’r llyfrau gorau imi eu darllen ers hydoedd. Llyfr sydd wedi ei sgwennu yn null W G Sebald ydi o. Mae Llŷr yn ymchwilio i hanes aelod o’i deulu a gafodd ei ladd yn y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae hyn yn ei arwain at fyfyrdod ynglŷn â’i fywyd o’i hun. Y teimlad mae o’n ei gael ydi ei fod o’n cicio’i sodlau yng nghysgod digwyddiadau arwyddocaol a fu, fel Tryweryn neu Wrthryfel y Pasg neu’r Ail Ryfel Byd, ac yn teimlo rhyw chwith-dod bod ei brofiad ei hun o fywyd yn dlotach o’r herwydd. Ond mae o hefyd yn ddigon ymwybodol i wybod bod profiadau o’r fath yn gallu hawlio pris uchel iawn gan unigolion – ac yn amlach na heb, y pris uchaf un, sef eich bywyd eich hun – ac felly, mae o’n ymwybodol o’r paradocs. Beth sydd orau? Byw oes fer o brofiadau dirdynnol, a hynny i’r eithaf? Neu fyw oes faith yn llawn profiadau gwastad? Y gwir amdani ydi mai dim ond pobl sy’n mentro sy’n cael eu cofio gan hanes. Mae a wnelo hyn oll, mae’n siŵr, â’r ego a gormes amser a marwoldeb ynghyd â’r ysfa i adael eich marc ac i beidio â chael eich anghofio’n llwyr. Ond llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl ydi tynged y mwyafrif llethol ohonom ni.   

Dwi'n teimlo bod Petrograd a Paris yn werth eu cadw wrth erchwyn y gwely wrth fyfyrio ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn Ewrop. Mae ymateb gwledydd Ewrop i'r argyfwng ffoaduriaid sy'n llifo o Syria yn ein gorfodi i gwestiynu o'r newydd ein dealltwriaeth o’r hyn ydi Ewrop.

Yr agwedd waethaf un ar hynny ydi ymateb Lloegr. Lloegr ydi'r wlad a ddylai ysgwyddo'r cyfrifoldeb oherwydd mai Lloegr sy'n bennaf cyfrifol, o blith gwledydd Ewrop, am y gyflafan yn Irác yn 2003. Mae yna gysylltiad clir rhwng effeithiau'r gyflafan honno a'r argyfwng presennol. Dyna sydd wedi cyfrannu at gryfder Isis heddiw. Ac eto, Lloegr ydi'r wlad fwyaf cyndyn i dderbyn ffoaduriaid. Dydi America chwaith heb gynnig codi bys bach i helpu, a hynny wedi iddyn nhw fod wrthi mor ddidrugaredd yn bomio cymaint o gyrff i’r tywod.

Dyna beth arall – mae dy nofelau yn gyfraniad hollbwysig wrth ddod â gwahanol agweddau ar hanes yn fyw i ni. Tila iawn yw'r ymdrechion i atgyfodi hanes fel cyd-destun hanfodol i drafodaethau cyfoes; mae fel petai hanes wedi ei fwrw o'r neilltu, ac eto mae’n hanfodol o ran ein gallu i ddadansoddi ein sefyllfa, wrth i ni geisio dehongli newidiadau byd-eang. Onid yw hanes yn hanfodol wrth i ni geisio deall a dehongli ein greddfau fel unigolion cymdeithasol?

Heb hanes, sut gallwch chi ddeall dim? A dw i’n cytuno, mae’n rhaid i bawb ddeall hanes er mwyn ei ddeall ei hun. Y duedd yn yr oes bresennol ydi gwneud inni gyd deimlo ein bod yn byw mewn rhyw fath o bresennol parhaus heb unrhyw orffennol. Neu os ydi o’n orffennol, dydi o ddim yn hanes – mae o’n cael ei ddiffinio bellach fel ‘ein hetifeddiaeth’. Fel petai’r gorffennol yn ddim byd mwy na rhyw barsel sebon-sent bach melys wedi ei lapio’n dwt mewn rhubanau pinc. Ond mae hanes yn llawn gwrthdaro poenus, yn broses fudur a pheryglus. Proses ingol ydi’r broses hanesyddol, a phroses mwy poenus fyth erbyn hyn ydi astudio hanes.

Am fod hanesyddiaeth ei hun wedi mynd yn faes anodd felly?

Ie, ac yn fwyfwy ers dechrau 80au’r ganrif ddiwethaf, pan ddechreuodd syniadau ôl-fodernaidd dreiddio trwy adrannau hanes prifysgolion y Gorllewin. Mae hanesyddiaeth wedi mynd yn bwnc i’w astudio ynddo’i hun, heb sôn am hanes fel pwnc. I raddau, rydan ni wedi cyrraedd rhyw fan paradocsaidd iawn lle mae yna fwy o ddiddordeb nag erioed mewn hanes, ond mae ceisio ei sgwennu wedi mynd yn fater gwirioneddol ddyrys. Yn achos hanes Cymru, y drwg ydi mai prin y caiff ei ddysgu hyd yn oed heddiw. Ac mae'n wir nad oes modd i ni ddeall beth sy'n digwydd yn fyd-eang, mewn modd ystyrlon, heb ddealltwriaeth o hanes y Dwyrain Canol, a'r hyn wnaeth Ffrainc a Lloegr i'r hen Ymerodraeth Otoman yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, y modd yr aethant ati i hollti'r Dwyrain Canol yn wledydd cwbl artiffisial, gosod y grwpiau Swnni a Shia yn erbyn ei gilydd – yr hen, hen dacteg ymerodrol o greu hollt a gwrthdaro.

Fel pe na bai’r offer deallusol gennym i ddelio efo'n presennol?

Os nad ydach chi’n gyfarwydd â'r gorffennol, mae ceisio dirnad y presennol mewn modd ystyrlon yn amhosib bron iawn. Dw i’n cofio bod yn America – yn Iowa, Chicago ac Efrog Newydd – ym mis Awst 2014. Ges i dipyn o sioc o weld bod y wasg brintiedig mor druenus. Heblaw am y New York Times mae’r wasg yn sobor o wael. A dydi’r teledu fawr gwell. Mae Fox News yn wirioneddol alaethus. Felly, does ryfedd fod y boblogaeth mor blwyfol a diddeall ynglŷn â'r hyn sy’n digwydd yn y byd. Sut mae posib i Americanwyr ddeall yr hyn y mae eu gwlad yn ei wneud yn y Dwyrain Canol? Hawdd iawn ydi troi pobl sy’n wahanol i chi yn fwganod brain.

Sef yr hyn y mae imperialwyr wedi ei wneud erioed.

Yn union. Nid dim ond terfysgwyr ydi Isis, mae ganddyn nhw ideoleg yn gefn i’w gweithredoedd, un sy’n gallu cael ei holrhain yn ôl i'r seithfed ganrif. Peth arall sy'n fy nigio ydi'r holl sôn yn y cyfryngau am Fwslemiaid eithafol a Mwslemiaid cymedrol; anaml y ceir yr un drafodaeth am Gristnogion eithafol a Christnogion cymedrol. Ac mae'r dyn a gyhoeddodd y rhyfel yn 2003, Arlywydd America ar y pryd, yn Gristion eithafol y mae ganddo ‘adnabyddiaeth bersonol o Iesu’. Dw i wastad wedi meddwl bod hynny’n beth od iawn i’w ddweud. Mewn difri calon, beth yw ystyr hynny go iawn? Does neb yn gwybod dim oll am hanes Iesu fel person o gig a gwaed, er bod lluoedd o bobl wedi ymdrechu – yn ofer – i durio amdano. Yr oll a wyddom am Iesu ydi’r hyn sydd wedi ei gofnodi yn yr efengylau, a chreadigaeth ffuglennol ydi o yn y fan honno, i raddau. Felly, pan mae pobl yn honni bod ganddynt 'adnabyddiaeth bersonol', nid ymateb i 'berson' maen nhw ond i symbol.

Beth yw cyfrifoldeb yr awdur at ei gymdeithas, felly, yn dy farn di? A oes ganddo gyfrifoldeb?

Dywedodd Sartre rywdro mai dim ond tri math o awdur sydd yna: yr awdur sy’n sgwennu amdano fo’i hun, yr awdur sy’n sgwennu am Dduw a’r awdur sy’n sgwennu am gymdeithas. Mae hanes, am wn i, yn cael ei gwmpasu o fewn y diffiniad olaf o’r tri, sef cymdeithas. Yn y cyd-destun Cymraeg, yr ymateb traddodiadol fyddai mawl neu ddychan – a phopeth arall yn tueddu i ddisgyn rywle rhwng y ddau begwn. 

Ar ôl persbectif Marcsaidd Y Pla, cyfalafiaeth sydd dan y chwyddwydr gen ti yn dy drydedd nofel, Paradwys, ac yn benodol, chwarter olaf y ddeunawfed ganrif pan oedd dechrau'r chwyldro diwydiannol eisoes yn fyw yn nychymyg y cyfalafwyr aristocrataidd.

Mae rhai’n dadlau bod cyfalafiaeth erbyn hyn yn dechrau troi'n gysgod o'r hyn a fwriadwyd, o leiaf yn yr ystyr bod yna densiwn sylfaenol wedi ei amlygu bellach rhwng economi gyfalafol a gwladwriaeth ddemocrataidd, a bod cyfalafiaeth fel trefn gymdeithasol sydd yn addo cynnydd economaidd torfol di-ben-draw wedi chwythu ei phlwc. I ba raddau wyt ti'n meddwl ein bod ni'n byw yn nechrau dyddiau olaf cyfalafiaeth, ac os hynny, beth yn dy farn di fydd y trawsffurfiad a ddaw o hynny?

‘Mawredd’ cyfalafiaeth, os mai dyna’r gair, ydi gallu’r system i’w hail-greu ei hun dro ar ôl tro. Dw i ddim yn meddwl ein bod ni yn nyddiau olaf cyfalafiaeth o gwbl. I’r gwrthwyneb, dw i’n meddwl y bydd y system yn dilyn yn fras yr un patrwm ag a fu. Os rhywbeth, rydym yn nes at oes aur cyfalafiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r byd wedi’i rannu’n diriogaethau ymerodrol: America, yr Undeb Ewropeaidd, Rwsia, India, Tsieina, Brasil. Mae’r un patrwm i’w weld heddiw, i raddau helaeth, â phryd hynny, sef blociau mawr economaidd, a phob un ohonynt, erbyn hyn, yn gyfalafol i bob pwrpas. Ond wrth gwrs, rhaid wrth adnoddau crai, marchnadoedd, ac felly mae tensiynau'n siŵr o godi. 

Beth am y marchnadoedd y mae cyfalafiaeth yn dibynnu arnynt – y diffeithio eithafol ar fyd natur er budd ariannol pur, er enghraifft? Faint mwy o fyd natur sydd ar ôl i'w ddefnyddio heb i hynny arwain at oblygiadau byd-eang difrifol?

Dipyn go lew, a dweud y gwir.

Ti'n meddwl?

Yn y ganrif ddiwethaf, y sôn oedd bod yr olew yn dod i ben, ond mae yna ddigonedd o olew ar ôl heddiw. Ond ti’n llygad dy le hefyd. Mae adnoddau naturiol y byd yn prinhau tra bod y blys amdanyn nhw’n gryfach nag erioed. Felly, mae hi’n amlwg fod yma broblem.

Onid y duedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd oedd i gyfalafiaeth a democratiaeth dynnu at ei gilydd – tuedd sydd wedi ei throi ar ei phen erbyn hyn, a’r ddwy’n tynnu oddi wrth ei gilydd, fel petai democratiaeth yn broblem i gyfalafiaeth, a hyblygrwydd y farchnad rydd yn gorfod cael ei warchod i'r fath raddau nes bod unrhyw ymgais i warchod hawliau, a rhannu buddion a chyfoeth, yn cael ei gadw hyd braich?

Yn Paris, neu yn y llall, dw i ddim yn cofio'n iawn, mae yna ddiffiniad o ddemocratiaeth fel trefn sydd yn bodoli pan fydd yr economi’n rheoli gwleidyddiaeth. Mae’r diffiniad o sosialaeth yn hollol fel arall, â gwleidyddiaeth yn rheoli'r economi. Fel y dywedodd rhyw aelod seneddol Llafur o Gymru yn 90au’r ganrif ddiwethaf: ‘Dyw arian ddim yn deall democratiaeth.’ Ond tydi hon ddim yn broblem sy’n newydd i ni. Roedd hi’n hen broblem hyd yn oed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fedri di ymhelaethu?

Wel, edrych ar waith rhywun fel Zola. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd oes aur y dosbarth bwrgais Ewropeaidd. Roedd y dosbarth hwn o ddiwydianwyr, bancwyr, gwleidyddion a pherchnogion papurau newydd ac ati yn egnïol a hyderus tu hwnt. Rhwng 1820 ac 1914, fe gynyddodd cyfoeth bancwyr Paris o 630 y cant. Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd cyfoeth siopwyr o ddim ond 65 y cant. Yn 1830, roedd 30 y cant o gyfoeth Paris yn cael ei reoli gan 1 y cant o’r boblogaeth. Erbyn 1914 roedd y ganran honno o’r boblogaeth yn 0.4 y cant. Yn amlwg, dydi bancwyr ddim wedi newid dim rhwng y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’n canrif ni. Ond grym ac awdurdod y dosbarth yma ydi obsesiwn Zola a’r hyn roedd o’n ei wneud oedd dadlennu’r chwant am arian a grym, egoistiaeth a rhagrith ac awydd y dosbarth yma am barchusrwydd a bri. Mae o’n dangos yn hollol glir fod cyfalaf yn drech na democratiaeth a bod arian yn gallu prynu unrhyw un ac unrhyw beth. Ac yn waeth fyth, mae o’n dangos bod sancteiddrwydd eiddo, yn y pen draw, yn bwysicach i’r wladwriaeth gyfalafol na gwarchod lles y tlawd a’r difreintiedig.  Byddwn i’n dadlau bod y sefyllfa’n union yr un fath heddiw.

Mae Zola hefyd yn ymrafael â newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol mawr.

Ydi mae o. Dyna dwi’n ei hoffi amdano yn fwy na dim. Roedd o wedi gosod nod aruchel iawn iddo fo’i hun fel awdur. Roedd Zola o’r farn y dylai llenyddiaeth amcanu at gofleidio ‘realiti’ ei gyfnod yn ei gyfanrwydd. Dyna pam mae ei nofelau o yn cynnig arolwg panoramig o Baris yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae o hefyd yn gallu cyfleu – yn well na bron neb arall – pa mor ansafadwy ydi bywyd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r newid a ddigwyddodd i Baris yn sgil prosiect adeiladu anferth Haussmann. Cafodd ardaloedd a oedd yn bodoli ers yr oesoedd canol eu chwalu er mwyn codi tai newydd a strydoedd unionsyth, a hynny ar raddfa sydyn iawn. Zola hefyd ydi pennaf nofelydd diwydiannaeth a byd gwaith ac, yn ei nofelau, gwelir gwrthdaro rhwng seciwlariaeth a chrefydd. Ond fel y dywedais, mae’r gwaith yn deillio'n uniongyrchol o’r portread cyfoethog o groestyniadau’r gymdeithas fwrgais. A dyma’r byd a aeth â’i ben iddo yn 1914. Fe ddaeth hi'n newid byd arnyn nhw ac yn newid byd i lenyddiaeth hefyd. Lle roedd yna ymdrech gynt gan Zola i weld cymdeithas yn ei chyfanrwydd, roedd y byd bellach wedi ei ddryllio’n ddarnau bychain. Dw i'n meddwl ein bod yn byw dan gysgod y chwalu yna o hyd; dyna pam mae cyfryngu realiti a’i gwmpasu mewn ffurf sydd yn cynnig portread cyflawn ac uchelgeisiol wedi mynd yn dasg mor anodd.

Roedd honno'n elfen gref mewn moderniaeth, y gynneddf i edrych ar bethau mewn ffordd ddarniog.

Y teimlad yn nechrau’r ugeinfed ganrif oedd nad oedd realaeth yn ddigonol i fynegi’r profiadau newydd a ddaeth i fod yn sgil y Rhyfel Mawr. Roedd yna arbrofi â mathau eraill o realaeth, sef swrealaeth, symbolaeth a mynegiadaeth, a phob math o ‘aethau’ gwahanol. Ond rywsut neu’i gilydd, mae'r gallu i weld y byd yn ei gyfanrwydd – yr elfennau anghymharus – a gweld sut maen nhw'n effeithio ar ei gilydd, wedi darfod, yn sgil degawdau o foderniaeth ac o ôl-foderniaeth. Neu efallai nad ydw i wedi darllen y stwff iawn.

Mewn unrhyw iaith?

Dw i'n trio meddwl am enghreifftiau mewn ieithoedd eraill a dw i ddim yn credu ei fod o'n digwydd. Efallai ei fod o'n ormod i'w ddisgwyl. Efallai mai’r hyn ydi moderniaeth yn y pen draw ydi mudiad gwylaidd, tra bod pobl wedi tueddu i feddwl amdano fel mudiad haerllug ac ychydig yn hunandybus. Mae moderniaeth, mewn ffordd, yn cydnabod anallu celfyddyd i ddelio yn y pen draw â'r zeitgeist cyfan. Neu efallai mai arwydd o golli hyder ydi hyn. Neu efallai’r ddau beth ynghyd.

Ai'r hyn sy'n ddiddorol am ein byd ni erbyn hyn ydi'r ymwybyddiaeth o grebachiad? Cawsom Galileo yn edrych allan ar y byd, yn gweld posibiliadau, yn gweld cysylltiadau rhwng ein daear ni a'r hyn sydd y tu hwnt iddi, ac o ganlyniad i hynny yn ehangu ein 'byd-olwg'. Ond heddiw mae yna ymwybyddiaeth gynyddol ein bod ni – yr anthropos – wedi treiddio i fyd natur mewn modd anesgor: mae plastig lond y môr a phlastig yn ein dŵr tap, o ganlyniad i'n ffordd o fyw fel pobl ar y ddaear. Onid profiad clawstroffobig ydi profiad ein cyfnod ni? Onid darganfod drych o'n hunain a wnawn wrth weld y brwshys dannedd yn nofio yn y môr mawr, ac wrth glywed am dreiddiad plastig i haenau dyfnion byd natur – a thrwy hynny golli gafael ar y profiad dyrchafedig yna, y tu hwnt i'r dynol, yr oeddem yn arfer troi at fyd natur i'w brofi?

Mae’n gwestiwn oesol: sut mae byw'n rhinweddol? Yn amlwg, dydi system sy’n llowcio adnoddau'r byd neu’n llenwi'r moroedd â phlastig ddim yn system dda. Efallai ei bod hi’n digoni angen rhyw ennyd awr ond dydi hi ddim yn mynd i weithio er budd y ddynoliaeth na chreaduriaid eraill y blaned yma yn y pen draw. Ond i ddod yn ôl at Galileo am eiliad, yr hyn sy’n ddiddorol ydi iddo fo, drwy ei ddarganfyddiadau am y cosmos, beri newid meddwl mawr a bod i hynny oblygiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol. Am ganrifoedd, roedd pawb bron – gan gynnwys Aristotl a’r babaeth – yn credu bod y ddaear yn llonydd ac mai’r haul oedd yn troi o’i chwmpas hi. Mae hyd yn oed y Beibl yn datgan hynny – yn gwbl anghywir. Pechod mawr Galileo oedd datgan y gwrthwyneb i hynny, sef mai'r ddaear oedd yn amgylchynu'r haul, a llwyddo i brofi hynny â chymorth datblygiad technolegol y telesgop. Ac os gallai gwirionedd mor sylfaenol â hwnnw gael ei fwrw o’r neilltu, pa bethau eraill oedd yn gelwydd? Pam dylid credu unrhyw beth yr oedd y babaeth yn ei ddatgan? Fe oedodd y Fatican tan 1992 cyn ymddiheuro a chydnabod mai Galileo oedd yn gywir ac mai nhw oedd yn anghywir. Glaniodd dyn ar y lleuad yn 1969! Mae stori Galileo yn wers mewn gwyleidd-dra. Dw i’n pendroni weithiau ac yn holi: ydi credoau cyffredinol heddiw yn lol-mi-lol pur? Efallai y bydd pobl yn edrych ’nôl arnom ni mewn sawl canrif ac yn tristáu wrth feddwl mor amrwd a chyfeiliornus oedd ein credoau bach esoterig ni a’n ffordd od ni o fyw.

Cyn hir mi fyddi'n troi at sgwennu'r olaf yn y gyfres a ddechreuodd efo Petrograd, unwaith y bydd y cyfieithiad Saesneg o Paris wedi ei gwblhau. Beth fydd trywydd honno?

Rhyfel Sbaen fydd y canolbwynt. Mae hwnnw'n bwnc dyrys iawn. Bydd y nofel yn diweddu yn 1940. Felly y cyfnod o 1934 i 1940 fydd ei hyd a’i lled hi.

Wyt ti wedi ystyried beth fydd y teitl eto? Paris Arall?

Madrid o bosib? Dw i ddim wedi meddwl yn iawn. Ond fiw i mi gael nofel arall yn dechrau hefo P!

Fel darllenydd roeddwn i'n synnu bod gen i ffydd cyfan gwbl yn y manylion a gyflwynir gen ti yn Paris. Mae yna lawer ohonyn nhw a hynny mewn llefydd annisgwyl. Sut wyt ti'n llwyddo i gael cystal gafael ar olygfeydd hanesyddol mewn llefydd tramor a thithau ddim wedi byw yno?

Mater o ddarllen y stwff ydi o. Nofel o'r enw Le Paysan de Paris gan Louis Aragon, er enghraifft. Nofel swrrealaidd iawn. Roedd yna ryw helynt yn ei chylch pan gafodd ei chyhoeddi a rhai beirniaid yn barnu ei bod hi’n anfoesol. Roedd honno'n llawn gwybodaeth, beth bynnag, ac yn ffynhonnell bwysig iawn.
 

Yr arcêds ym Mharis yng nghyfnod Louis Aragon


Ydi o hefyd i'w wneud â'th ddiddordeb mewn mapiau? Os cofiaf yn iawn, mae gen ti hen fap o Baris yn y tŷ?

Oes, a map mawr o Shanghai o 1935. Mae mapiau'n ddifyr iawn. Mae rhywun yn dysgu dipyn go lew dim ond wrth syllu arnyn nhw. Yn enwedig yr un o Shanghai. Y sefydliadau a enwir arno, yn naturiol, ydi’r prif fanciau, y clybiau a’r gwestai rhyngwladol ar y Bund. Ac mae'r ffiniau rhwng ardaloedd y Saeson, y Ffrancwyr, yr Americanwyr a’r Japaneaid i gyd yn cael eu dynodi’n glir gan fod i hyn arwyddocâd cyfreithiol llym iawn. Mae sylwi ar faint a lleoliad pob ardal yn ddiddorol hefyd. Mae manylion fel hyn yn adrodd cyfrolau am drefniant cymdeithasol, gwleidyddol ac ariannol y ddinas heb i rywun hyd yn oed orfod trafferthu agor llyfr. 

Wnei di sôn dipyn bach am Bingo!, dy nofel gyntaf?  Mae honno’n ôl-fodernaidd yn tydi?

Rhyw fath o arbrawf mewn metaffuglen oedd Bingo! Ro'n i'n awyddus i ofyn cwestiynau fel ‘beth sy'n creu plot?’, ‘beth sy'n creu cymeriad?’, ‘beth ydi'r berthynas rhwng y ddau?’ ac ati.

Yn Y Pla, mae Boccaccio’n dweud rhywbeth fel hyn wrth yr Arab: 'Dw i'n awdur fy hun, ond hen waith digon diddiolch ydi o, Duw a ŵyr – rhaid i rywun sgwennu, petai hynny ond er mwyn ein disgynyddion, er mwyn iddyn nhw gael gweld mai cymdeithas o ffyliaid ydan ni.'

Mae yna elfen ysgafn a direidus yn Boccaccio. Yn hyn o beth mae o'n debyg iawn i Dafydd ap Gwilym. Roedd y ddau’n gyfoeswyr. Buodd Dafydd ap Gwilym farw oddeutu 1350 a Boccaccio yn 1375. Ond maen nhw’n rhannu'r un asbri chwareus. Dianc rhag y pla o ddinas Firenze i’r bryniau wnaeth Boccaccio ac, er mwyn ei ddifyrru’i hun, byddai ef a chriw o ffrindiau yn adrodd straeon wrth ei gilydd. Felly, rhyw fath o ffuglen mewn alltudiaeth ydi’r Decameron. Ond mae o’n llyfr priddlyd iawn, yn llawn troeon trwstan – yr un math o beth ag a welir yng nghywydd ‘Trafferth mewn Tafarn’ Dafydd ap Gwilym. Mae Boccaccio hefyd yn ddoniol ac yn wrth-glerigol a dydi’i fryd o ddim ar y byd a ddaw ond ar hwyl a miri y byd yma. Does dim sniff o’r goruwchnaturiol ar ei gyfyl o. Dyma ddechreuad rhyddiaith Ewropeaidd, sy’n ddechrau traddodiad seciwlar o edrych ar y byd. Mae eraill yn hawlio mai Cervantes ydi tad y nofel ond dw i’n meddwl bod Boccaccio yn haeddu ei le hefyd.

Ydw i'n iawn i feddwl mai perthynas amwys fu yna erioed rhwng y nofel a'r ddrama a chrefydd sefydliadol?

Mae hynny’n gywir yng nghyd-destun y ddrama am resymau amlwg. Mae o’n fforwm cyhoeddus. Y peth cyntaf wnaeth Oliver Cromwell oedd cau’r theatrau. Ond mae'r nofel hefyd wedi bod yn her beryglus i wahanol sefydliadau a systemau. Mae crefydd hefyd wastad wedi cael trafferth efo hiwmor oherwydd ei fod o'n arf sy’n gallu tanseilio. Mae hi’n arwyddocaol mai awduron doniol ydi Boccaccio, Cervantes a Rabelais. Yn y bôn, dyna oedd pechod mawr Rushdie. Roedd ei nofel o yn wawdiol a dychanol ac fe greodd ymateb ffyrnig byd-eang. Mawredd y nofel, dw i’n meddwl, ydi'r hyblygrwydd a’r llwyfan y mae hi’n ei gynnig i lu o wahanol leisiau yn hytrach nag i ryw un llais absoliwtaidd. Mae rhywbeth agored ac eangfrydig am y ffurf ac mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw.

Elli di feddwl am enghraifft dda gyfoes?

Mae yna nofel aml-leisiol a dyfeisgar tu hwnt gan David Mitchell – Ghostwritten. Mae’r nofel yn dechrau yn Japan, yn croesi cyfandir Asia nes cyrraedd Ewrop. Mae hi wedyn yn croesi’r Iwerydd ac yn gorffen yn Efrog Newydd. Roedd Goethe yn sôn am lenyddiaeth Ewropeaidd ddwy ganrif yn ôl. Ond mae hwnnw'n gysyniad sydd wedi chwythu ei blwc. Mae llenyddiaeth Cymru erbyn hyn yn gorfod edrych ar ein gwlad a’n diwylliant ni mewn cyswllt byd-eang. Ro’n i’n meddwl bod Norte gan Jon Gower yn enghraifft ragorol o’r math yma o sgwennu. Yn yr un modd, Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter, sy’n pontio Piwritaniaeth Cymru a’r busnes gwaedlyd ac ofergoelus o ‘sefydlu’ America. Mae’r nofel yn dadlau mai canlyniad uniongyrchol y broses honno ydi hanfod yr ideoleg Americanaidd heddiw, sef cenedlaetholdeb gweddol hunangyfiawn wedi’i gyplysu efo cyfalafiaeth ac efengyliaeth Brotestannaidd.

Edrych allan i wahanol gyfeiriadau i geisio deall ein hunain yn well?

Yr unig ffordd o archwilio ti dy hun a dy hanes dy hun ydi trwy eu gosod yn erbyn hanes gwledydd eraill, a gweld pa fath o brofiadau maen nhw wedi eu cael a lle maen nhw arni. Pan es i Slofenia, i un o'r gwyliau llenyddol a gynhaliwyd yn Ljubljana sawl blwyddyn yn ôl, mi ges i agoriad llygad. A dweud y gwir, roedd o'n brofiad anhygoel. Hyd yn oed rŵan, dw i'n dal i feddwl am Slofenia – gwlad o ddwy filiwn o bobl, gwlad sofran annibynnol efo’i phapurau newydd dyddiol. Mae hi'n wlad lewyrchus iawn. Pam na fedrwn ni ddim bod yn fwy fel nhw?

Mae lleoliad daearyddol Slofenia yn bendant yn ffactor.

Mae o i'w wneud i raddau helaeth â'r ffaith iddyn nhw fod yn rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari, er iddyn nhw golli eu hannibyniaeth yn 1282, wyth canrif yn ôl, yn union fel ni. Ond yn wahanol i’n hanes ni, wnaeth eu bonedd nhw ddim cefnu ar eu gwlad. Roedden nhw'n dal yn driw i Slofenia, er eu bod nhw’n gorfod cymowta yn ôl a blaen i’r llys yn Fiena. Maes o law, datblygodd dosbarth bwrgais brodorol hefyd. Ac er gwaetha’r ffaith bod y Gwrth-ddiwygiad wedi llwyddo i ailorseddu’r Eglwys Gatholig, cafodd dychymyg y deallusion ei danio gan Chwyldroadau 1848, a daeth yr Oleuedigaeth yn ei holl ogoniant i Slofenia, â datblygiadau cymdeithasau gwyddonol a llenyddol o bwys. Trafodwyd y rheiny drwy gyfrwng yr iaith frodorol. Erbyn 1918 wedyn, pan gafwyd annibyniaeth, daeth yr iaith Slofeneg yn ôl, ar dalcenni'r tai a'r strydoedd, dros nos. Ond, fel yn achos Cymru, yn hwyr iawn y cawson nhw eu prifysgol gyntaf – yn 1871, dwi’n meddwl. Ac yn hwyr iawn hefyd y dechreuon nhw nofela – yn union fel ni yma yng Nghymru. Melltith hanesyddol waethaf Cymru oedd colli’r uchelwyr i Lundain yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Y felltith arall oedd diffyg dosbarth bwrgais brodorol a fyddai wedi gallu ein tywys ni drwy’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rydan ni’n bobl sydd wedi cael ein sbaddu ac mae hi’n amhosib dad-wneud diffygion mor sylfaenol â hynny.

Mae hi’n ddiddorol nad America ydi'r unig ganolbwynt mwyach yn ein cyfnod ni, wrth i ganolfannau dylanwadol eraill ddatblygu.

Hoffwn i gael byw i weld diwedd y ganrif hon, ond go brin y bydd hynny’n digwydd. Bydd Tsieina ac India yn wledydd o bwys erbyn hynny. Bydd dylanwad Tsieina yn anferthol. A dweud y gwir, mae gen i flys sgwennu nofel am Tsieina. Fel mae'n digwydd, dw i'n darllen dipyn go lew o’i hanes a’i hathroniaeth hi ar hyn o bryd.

Beth fyddet ti'n ei sgwennu am Tsieina? Rhyw newid mawr arall?

Siŵr o fod!

I fynd yn ôl at y cwestiwn sylfaenol: o ble yn dy fagwraeth, dy brofiad a'th bersonoliaeth y daw’r diddordeb ysol mewn newid mawr? Wyt ti'n medru ei olrhain?

Mae’n dod yn sgil y ffaith fy mod i'n byw yng Nghymru. Ac am fod pob dim mor ddiantur a di-rym. Dyna ydi’r cymhelliad, dw i’n meddwl. I geisio gwneud iawn am y diffyg, dw i’n tueddu i weld yr angen i greu dipyn o ddrama mewn lle arall. Pan oeddwn i’n iau, byddai athrawon yn dweud byth a hefyd fod yn rhaid i rywun sgwennu am yr hyn y mae’n ei adnabod. Wel, nag oes, does dim rhaid gwneud hynny o gwbl. Mae hi’n llawer mwy diddorol sgwennu am yr hyn nad wyt ti'n ei adnabod. Mae’n bosib y dysgi di fwy amdanat ti dy hun nag wrth sgwennu am bethau sy’n rhan o dy gynefin. Dw i’n meddwl eto am Boccacio a Cervantes. Be wnaeth y ddau yna mewn gwirionedd oedd camu allan o’u tai. Ar ryw wedd, rhyw daith anturus ydi pob nofel; mae pob nofel yn anturio ond hefyd yn turio. Mae anturio a thurio yn bresennol yn yr un ffurf ac mae'r nofel wedi bod yn hyblyg iawn o'r cychwyn cyntaf. Mae hi hefyd wedi mynnu heicio allan trwy’r drws ffrynt erioed, a hynny er mwyn llyncu darn mawr iawn o’r byd.

Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands.

Lluniau: 'Tripoli, Libya, Medi 2013' gan Owen Martell; 'Marksizm: protestio yn Istanbwl' gan Owen Martell; 'Cryoconite a Swigod, Yr Ynys Las, 2014' gan Sara Penrhyn Jones.

Ai pobl sydd wedi byw mewn adwaith yn rhy hir ydi’r Cymry hefyd?

Pynciau:

#Wiliam Owen Roberts
#Rhifyn 1
#Sioned Puw Rowlands
#Rwsia
#Chwyldro