Cyfweld

Hunaniaeth a’r tirwedd

Sgwrs yn Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Rebecca Thomas a Cyril Jones
09·03·2022

 

Sut mae’r tirwedd wedi cael ei ddefnyddio i greu hunaniaeth dros y canrifoedd? A beth yw’r goblygiadau ieithyddol? Bydd Rebecca Thomas, enillydd Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021, yn ein tywys i’r Mynyddoedd Duon ac yn gofyn beth allwn ni ei ddysgu heddiw gan awduron y canol oesoedd. Bydd y bardd Cyril Jones yn cadeirio.

Mae Rebecca Thomas yn Gymrawd Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Canolbwyntia ei hymchwil ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Cyhoeddir ei chyfrol History and Identity in Early Medieval Wales yng ngwanwyn 2022. Bydd ei nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc yn cael ei chyhoeddi yn yr haf, gan wasg Carreg Gwalch. 

Cyfrol ddiweddaraf y bardd Cyril Jones yw Troeon/Turnings, a luniwyd ar y cyd â Philip Gross a Valerie Coffin Price (Seren, 2021).

Digwyddiadau O’r Pedwar Gwynt yng ngŵyl lenyddol Machynlleth, 1-3 Ebrill 2022

Mewn partneriaeth â: Galeri a Siop Lyfrau Penrallt, Machynlleth

Lleoliad: Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Dyddiad: 4.30-5.30, pnawn Sadwrn, 2 Ebrill 2022

Tocynnau: £5, i gynnwys paned, ar gael o Galeri a Siop Lyfrau Penrallt, Machynlleth neu Siop Lyfrau'r Senedd-dy, Machynlleth (penralltbooks@gmail.com / 01654 700559)

Sut mae’r tirwedd wedi cael ei ddefnyddio i greu hunan-iaeth dros y canrifoedd?

Pynciau:

#Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt
#Rhifyn 17
#Tirwedd
#Siop lyfrau
#Machynlleth