Cyfweld

O Kafka i Milan Kundera

Dylanwadau Wiliam Owen Roberts

Angharad Price

Amser darllen: 10 munud

15·02·2023

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22, traddododd Angharad Price ddarlith ar y nofel Paradwys (2001) gan Wiliam Owen Roberts fel rhan o gyfres o ddarlithoedd Shankland Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor. Gan fod y nofel sy’n ymdrin â chaethwasiaeth yn y ddeunawfed ganrif yn cyfeirio hefyd at y teulu a ddatblygodd chwarel y Penrhyn ac ymgartrefu yng Nghastell Penrhyn ar gyffiniau Bangor, roedd yn arbennig o berthnasol. Er ei bod wedi ei chyhoeddi dros ugain mlynedd yn ôl, mae hi hefyd yn amserol yn sgil y twf diweddar yn y mudiad Black Lives Matter, a’r ffaith fod gwaddol caethwasiaeth o’r diwedd yn bwnc llosg sy’n cael sylw gan y cyfryngau torfol. Dyma flas o’r sgwrs a gafodd Angharad Price â’r awdur ei hun wrth baratoi’r ddarlith.

*

Diolch am dy barodrwydd i drafod Paradwys efo fi, nofel gyfoethog sy’n trafod sut yr elwodd bonedd masnachol Ewrop ar gaethwasiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Mi hoffwn ddechrau trwy ofyn cwestiwn gweddol benagored. Gan fod agweddau ar hanes Ewrop yn rhan bwysig o fwyafrif dy nofelau, o Y Pla (1987) sy’n trafod pandemig y Pla Du, i Petrograd (2009) a Paris (2013) sy’n trafod Chwyldro Rwsia a’i adladd, a ninnau bellach yn byw gyda chanlyniadau Brexit, fedri di sôn ym mha ffyrdd y mae’r syniad o Ewrop yn bwysig iti fel nofelydd hanesyddol?

Gan fod hwn yn glamp o gwestiwn, y ffordd hawsaf o’i daclo fo, dwi’n meddwl, ydi trwy fod ychydig yn hunangofiannol. Yn niwedd saithdegau’r ganrif ddiwethaf ro’n i’n fyfyriwr yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Y dylanwad deallusol trymaf ar nifer fawr o’r cyrsiau – os nad ar ethos cyffredinol yr adran – oedd meddylfryd Saunders Lewis. Mae ei athroniaeth gyffredinol o’n weddol hysbys inni i gyd, ac mae hi’n weledigaeth a oedd yn anelu ers o leiaf 1923 tuag at greu yr hyn roedd o’n ei ddiffinio fel ‘estheteg Gymraeg’. Roedd hyn oll yn gyfuniad o raglen wleidyddol ymarferol, er mwyn ceisio rhyddhau Cymru yn wleidyddol oddi wrth Loegr, a chreu diwylliant o fath gwahanol a oedd yn mynd i droi meddyliau’r Cymry yn ôl tuag at Ewrop trwy feithrin bydolwg gwahanol a oedd yn ymwrthod â dehongli’r byd a’r betws yn daeogaidd, ufudd trwy lygaid y wladwriaeth Brydeinig. Neu, mewn geiriau eraill, roedd hon yn ymdrech ymwybodol i greu yr hyn a fuasai’n cael ei alw heddiw yn ‘ddisgwrs diwylliannol ôl-drefedigaethol’.

Roedd ymdrech Saunders Lewis yn ymdrech wrol ac angenrheidiol os oedd Cymru i ddatblygu a thyfu er mwyn dod i oed fel gwlad aeddfed ac annibynnol. A thrwy Ewrop, roedd Cymru i ailddarganfod ei hun a chodi o’r newydd yn greadigaeth a fyddai’n gallu dal ei phen yn gydradd â gwledydd y byd. Un o’i ddyfyniadau enwocaf o oedd mai Ewrop oedd ‘crud gwareiddiad’. Eto, cysyniad dethol iawn o wareiddiad Ewropeaidd oedd o. Yr hyn a aeth â bryd Saunders Lewis oedd y wedd Gatholig, a’r gwerthoedd hierarchaidd, aristocrataidd a oedd wedi eu gwreiddio yn Ewrop yn y cyfnod cyn yr Oleuedigaeth. Doedd ganddo fawr o ddiddordeb yn niwylliant gwledydd bach dwyrain Ewrop na gogledd Ewrop, na hyd yn oed yn lleiafrifoedd gorllewin Ewrop. Yn wahanol i Ambrose Bebb, ychydig o ddiddordeb a ddangosodd o yn niwylliant Llydaw, o’i gymharu â diwylliant y Ffrainc Ladinaidd. Efallai fod Saunders Lewis yn sylweddoli na ellid cysoni mawrygu y ddwy wlad yn yr un gwynt, ac felly ei fod o wedi penderfynu anwybyddu un ar draul dyrchafu’r llall at ei ddibenion a’i agenda ei hun. Hyd y gwela’ i, roedd hynny’n rhywbeth hollol ddealladwy.

Dyma’r felin ddeallusol roedd is-raddedigion Cymraeg y cyfnod yn ei hamsugno i raddau, p’un ai yn ymwybodol neu’n anymwybodol. Wedyn, yn 1978-79 fe ddigwyddodd tri pheth a wnaeth fy ngyrru i i gyfeiriadau eraill, ac yn y pen draw i gofleidio dylanwadau Ewropeaidd o fath gwahanol. Un dylanwad oedd Dafydd Elis-Thomas a draddododd hanner dwsin o ddarlithoedd ar theatr ail hanner yr ugeinfed ganrif yn Aberystwyth yn 1978. Fo gyflwynodd fi am y tro cyntaf erioed i waith dramodwyr fel Edward Bond, Athol Fugard, Ionesco, Beckett a Bertolt Brecht. Roedd y rhain i gyd yn eu gwahanol ffyrdd yn Fodernwyr, a’u technegau theatrig a’u delweddau a’u ffordd o drin amrywiol themâu yn heriol a diddorol. Ro’n i wrth fy modd efo’u dramâu nhw ac roedd Dafydd yn ddadansoddwr difyr ac, ar y pryd, yn gwyro yn wleidyddol tua’r chwith. Yr awdur mwyaf ymwybodol theoretig ohonyn nhw i gyd oedd Brecht, ac y fo, yn anad neb, a agorodd fy meddwl i i fath arall o estheteg Ewropeaidd, ac i fath arall o fydolwg – a oedd, i bob pwrpas, yn sylfaenol wahanol i fydolwg Saunders Lewis.

A beth oedd y ddau beth arall a ddylanwadodd arnat ti yn y blynyddoedd hynny?

Refferendwm mis Mawrth 1979. Ergyd arw iawn. Dwi’n cofio pa mor anghredadwy o ddigalon a fflat roedd pawb yn teimlo drannoeth y cyfri. Ond wrth fwrw golwg yn ôl tros ysgwydd y blynyddoedd, efallai ein bod ni oll yn or-ddelfrydgar a naïf i ddisgwyl canlyniad gwahanol. Mesur Llafur oedd o, un a gafodd ei gyflwyno a’i bedlera mewn ffordd ddigon llipa a di-hid. Ychydig iawn ohonyn nhw oedd wir yn credu yn y fenter ddatganoli go iawn. Canlyniad y methiant alaethus oedd peri i nifer fawr o bobol fynd ati i gwestiynu ac i ailarchwilio rhagdybiaethau gwleidyddol o’r newydd, fel petai. Ond roedd rhyw deimlad o anfodlonrwydd ynglŷn â phethau: teimlad ei bod hi’n angenrheidiol symud i gyfeiriadau newydd. Pen draw y cwbwl oedd ymdrech i gyfuno elfennau mwyaf blaengar y mudiad cenedlaethol a grwpiau sosialaidd – a dyna sut daeth y Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol i fodolaeth. Hwn oedd y trydydd peth. Dyna hefyd sut y gwnes i gyfarfod â Gareth Miles am y tro cyntaf erioed, yn nhafarn y Crystal Palace [yn Aberystwyth], wedi iddo fo a Robert Griffiths fod yn siarad efo criw o fyfyrwyr. Dwi’n meddwl mai Gareth hefyd soniodd wrtha i am lyfr enwog György Lukács sef ‘Y Nofel Hanesyddol’ (1914-15).

Hwnnw oedd y llyfr a oedd yn rhannol gyfrifol am greu dy nofel, Y Pla?

Fe wnaeth y llyfr gryn dipyn o argraff arna i oherwydd ei fod o’n ddarlleniad mor rymus o hanes y nofel yn Ewrop ers y Dadeni Dysg. Yn fuan wedi imi ei ddarllen o, mae gen i gof bod mewn seminar yn yr Hen Goleg yn trin a thrafod nofel Marion Eames, sef Y Gaeaf sydd Unig. A dyna pryd ddaeth pethau i fwcwl. Mae llyfr Lukács yn olrhain camau’r nofel hanesyddol Ewropeaidd o Ramantiaeth i Naturiolaeth ac i Realaeth… ac ro’n i’n teimlo bod nofel Marion yn perthyn i’r cyfnod cyntaf, lle ro’n i bellach mewn lle arall ac yn milwrio yn erbyn sentimentaleiddiwch y rhamantiaeth hanesyddol. Hynny ydi, doedd hi ddim yn nofel wael, dim ond ei bod hi wedi ei sgwennu mewn confensiwn arbennig. Roedd llu o nofelau tebyg wedi eu cyhoeddi, nofelau a oedd fwy neu lai yn dilyn yr un patrwm, ond yn sgil Lukács, ro’n i’n teimlo anesmwythdra ynglŷn â’r genre. Dyna pam ro’n i’n teimlo mor feirniadol o ffurf a chynnwys Y Gaeaf sydd Unig, yn teimlo bod y dadansoddiad yn annigonol. Ond y teimlad gwaetha oedd bod dioddefaint pobol yn cael ei drin yn ffwr-bwt, os nad yn cael ei ddiystyru fel rhywbeth ymylol i fywyd carwriaethol tywysogion a llysoedd brenhinol ac ati, a bod ymdrech pobol i oroesi, ac i ddygymod â chroeswyntoedd dyrys hanes, yn haeddu ymdriniaeth amgenach. Dyna pam y dois i o’r seminar yn teimlo’n bur ddig. Ond ar y pryd, aeth y gwylltineb hwnnw ddim i unman – dim ond rhyw fudferwi dan yr wyneb, fel petai. Ond maes o law, penllanw’r cwbwl oedd cyhoeddi Y Pla yn 1987.  

Rwyt ti eisoes wedi crybwyll nifer o ddramodwyr Ewropeaidd, yn ogystal â gwaith y beirniad Hwngaraidd, Lukács, ond oes yna awduron Ewropeaidd eraill sydd wedi dylanwadu ar dy waith fel nofelydd, o ran gweledigaeth neu dechneg?

Mae’n wir mai dramodwyr Ewrop ro’n i’n eu darllen gan fwyaf, fel rydw i wedi’i grybwyll eisoes: rhai fel Ibsen, Tsiecoff, Peter Handke, Brecht, Beckett. Dramâu a’r theatr oedd fy obsesiwn mawr i yn y coleg – ac yn dal i fod o hyd. Prin iawn oedd y nofelau ro’n i’n eu darllen, ar wahân i rai Cymraeg.

Beth am Franz Kafka?

Ar hap y dois i ar ei draws o. Ar un adeg, roedd siop lyfrau ddeulawr o’r enw Galloways, hanner ffordd i lawr Heol y Wig yn Aberystwyth. Mae hi bellach wedi hen ddiflannu, ond o bryd i bryd, ro’n i’n arfer mynd yno i stwna o gwmpas y silffoedd. Dyna sut y gwnes i agor copi o ‘Yr Achos’ (1925) gan Kafka, ac roedd y darllen yn dipyn o sioc. Yn un peth, mae’r nofel yn annisgwyl o ddoniol – ond mewn ffordd od. Ac mae hi’n brwydro’n gyson yn erbyn disgwyliadau confensiynol naratif o ran dechrau, canol a diwedd. Mae’r diwedd mor fwriadol swta ag y gellid bod, ond dyna hefyd sy’n gwneud ergyd y nofel yn fwy ysgytwol. Ac wedyn – dydw i ddim yn cofio sut yn union – ond mi ges i afael ar gopi o ddyddiaduron Kafka. Doedd y rhain ddim i fod i weld golau dydd oherwydd ei fod o wedi gofyn i’w ffrind, Max Brod, eu llosgi nhw. Trwy drugaredd, wnaeth o ddim, ac mae nhw’n gaffaeliad mawr i geisio deall ei brosesau creadigol o – a oedd yn ddyrys iawn.

Ond mi gest ti dy ysbrydoli gan Kafka?

Do. Tan hynny do’n i erioed wedi ystyried sgwennu rhyddiaith – dim ond dramâu. Dwi’n cofio dechrau cnoi cil tros rai o’r problemau roedd o wedi ymrafael â nhw, a dechrau sgwennu… A bod yn onest, rhyw fath o dwdlo o’n i fel rhyw fath o ymarferiad â fi fy hun. Ond dyna – maes o law – sut y daeth y nofel Bingo! (1985) i fodolaeth.

Pa fath o broblemau oedd y rhai roedd o’n ymdrin â nhw felly?

Mae Kafka yn gofyn pethau pur greiddiol fel y cwestiwn oesol sut mae creu llenyddiaeth – yn y bôn, sut mae cyfryngu deunydd yn ffurf? Be yn union ydi cymeriad ffuglennol? Be ydi’r berthynas rhwng cymeriad a gweithred? Be ydi digwyddiad? Be sy’n ysgogi digwyddiad a sut a pham mae hynny yn troi’n gyfres o ddigwyddiadau? Be yn union ydi plot? A be ydi natur ‘realiti’ o fewn naratif a phwysigrwydd breuddwydion a’r symudiadau yn yr is-ymwybod yn y broses o greu ac ati.
 

Milan Kundera, oddeutu 1980 (Llun: Elisa Cabot/Flickr)
 

Heblaw am Lukács, oedd yna feirniaid llenyddol eraill a wnaeth dy ysbrydoli?

Mae darllen gwaith Milan Kundera wastad yn bleser. Dwi’n cofio bod ar ryw gwrs yn Nhŷ Newydd yn Llanystumdwy yn nechrau nawdegau’r ganrif ddiwethaf a rhoi copi o’i lyfr o, ‘Celfyddyd y Nofel’ (1986) yn anrheg i Robin Llywelyn gan fod yr ysgrifau wedi creu cymaint o argraff arna i.

Beth sy’n ei wneud o’n llyfr mor arbennig?

Yr hyn sy’n nodedig ydi fod Kundera yn cymryd y nofel o ddifri. Mae’n siŵr gen i fod hyn yn ymwneud â’r ffaith ei fod o wedi cael ei eni a’i fagu yn Tsiecoslofacia o dan y drefn gomiwnyddol. Mae ei nofelau cynnar o i gyd yn ddychanol iawn o’r system. Fe gafodd o helbulon di-ri, a maes o law, fel yr aeth pethau i’r pen, bu’n rhaid iddo fo droi’n alltud a mynd i fyw i Ffrainc yn 1975, dwi’n meddwl. Dwi’m yn amau iddo fo fynd ati i sgwennu mewn Ffrangeg.

Ym mha ffordd mae o’n cymryd y nofel o ddifri, felly?  

Mae o’n gweld y nofel fel creadigaeth wreiddiol Ewropeaidd ac yn mynnu bod iddi swyddogaeth arbennig – os nad unigryw. Oherwydd hyn, mae o’n trin y ffurf fel celfyddyd sy’n haeddu parch. Mae o’n priodoli dechreuad y nofel i Cervantes, er ei fod o hefyd wedi rhyw led awgrymu fod y Decameron (1353) gan Boccaccio yn gallu hawlio yr un clod – ond dydi o ddim yn hollol frwd o blaid ei ddyrchafu o i’r un tir â’r Sbaenwr. Mi faswn i fy hun yn dadlau fod Boccaccio yn llwyr deilyngu ei le. Ond yn Don Quixote gan Cervantes mae Kundera yn dynodi dechreuad yr ymwybod Ewropeaidd newydd – a hynny yn cael ei ddarlunio fel taith lythrennol dau ddyn a thaith fwy symbolaidd o fynd allan i archwilio’r byd o’r newydd, lle mae posibiliadau byw a bod yn teimlo fel rhywbeth sy’n ddi-ben-draw. Mae Kundera hefyd yn gweld y nofel fel creadigaeth sy’n barod i gofleidio croestyniadau – yn wir, i ymhyfrydu mewn croestyniadau – ac yn ymwrthod ag absoliwtiaeth grefyddol neu wleidyddol gan archwilio realiti trwy ymateb nifer o gymeriadau. Mawredd y nofel fel ffurf ydi ei bod yn alluog i gofleidio profiadau newydd ac i fwrw golwg wahanol ar bethau. Mae o wedi bathu ymadrodd hyfryd i ddisgrifio hyn i gyd sef ‘doethineb ansicrwydd’. Mae Kundera hefyd yn hallt iawn ei feirniadaeth ar unrhyw nofel sydd ond yn mynd ati i adrodd stori heb fod honno wedi ei mwydo â themau. Mae o’n bendant o’r farn mai swyddogaeth pob nofel gwerth ei halen ydi ymdrechu hyd eithaf ei gallu i ddweud rhywbeth newydd a gwreiddiol am y cyflwr dynol.

Fyddet ti’n cytuno bod Paradwys yn ymdriniaeth ôl-drefedigaethol â’r syniad o Ewrop? Beth ydi perthynas Cymru â hynny?

Wn i ddim os ydi hi’n nofel ôl-drefedigaethol. Darlunio’r broses drefedigaethol mae hi, dwi’n meddwl, a’r system o gaethwasiaeth a ddaeth i fodolaeth yn sgil hynny. Ond, am wn i, fe ellid yn saff ei darllen hi fel beirniadaeth ar y system honno. Yn ddi-os, mae hi’n ymwneud ag archwilio perthynas y metropolis a’r drefedigaeth – neu, yn yr achos penodol yma, y ddwy drefedigaeth, sef Paradwys (ynys ym môr y Caribî) a Chymru. Dim ond wedi rhyw ddechrau brigo mae yr Oleuedigaeth yn y nofel trwy syniadau Tom Paine ag ati. Mae hyn oherwydd fod swmp naratif Paradwys wedi ei leoli yn y cyfnod cyn Chwyldro Ffrengig 1789.

Darlun o Ewrop imperialaidd sydd yma felly?

Yn bendant. Lloegr a Ffrainc yn enwedig, sef Ewrop yng nghyfnod ei ffyniant a’i llewyrch mawr a ddaeth i’w benllanw yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O bob cenedl Ewropeaidd, y Saeson gafodd y blaen yn y ras am drefedigaethau – ac roedd hyn yn bennaf oherwydd iddyn nhw ddatrys rhai cwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol o bwys rhwng 1640 a 1688.

Ym mha ffordd?

Y dosbarth a gododd yn fuddugoliaethus o’r Rhyfel Cartref oedd y dosbarth bwrgeisiol – ar waethaf yr adferiad yn 1660. Y nhw hefyd a setlodd y broblem grefyddol. Ar ôl canrif a hanner o benboethni anghredadwy ynglŷn â rhinweddau sectyddol a diwinyddol Protestaniaeth, a llanast erchyll y Rhyfel Cartref, fe benderfynwyd fod pawb i gael addoli fel fyd fynno fo neu hi – cyn belled â bod hynny ddim yn tarfu ar heddwch y drefn gyhoeddus. Wrth sicrhau diwedd ar y tywallt gwaed ynghylch crefydd, roedd hyn yn galluogi’r dosbarth bwrgeisiol Seisnig yn y ddeunawfed ganrif i droi allan i’r byd heb orfod gorboeni bod yr ideoleg Gristnogol yn mynd i fod yn niwsans. Eu hunig ddiléit nhw fel dosbarth oedd sicrhau cymod yn y deyrnas er mwyn hwylio’r moroedd a chreu elw. Arian oedd Duw y Saeson. Hwnnw oedd y blys a esgorodd ar oes fawr imperialaeth a dechreuad yr Ymerodraeth Brydeinig, oes y concro a’r ecsbloetio a’r rheibio a’r treisio a’r poenydio ar raddfa na welwyd erioed mo’i thebyg ar hyd a lled y blaned. Dyna pam fod Paradwys yn rhyw fath o ddychan ar y Saeson. A dyna pam mai enw carchar sydd ar bob un o gymeriadau’r nofel oherwydd fy mod i’n teimlo fod pawb yn gaeth i’r un system.

Ond onid oes rhyw fath o baradocs ar waith yma? Heb yr ecsbloetio yn y trefedigaethau, sut arall fyddai gogledd Cymru wedi datblygu’n economaidd trwy dwf y diwydiant llechi?

Heb yr ecsbloetio didrugaredd ar y planhigfeydd yn ynysoedd India’r Gorllewin, a fyddai twf mewn diwydiannaeth wedi bod ym mhentrefi a threfi ardaloedd chwareli gogledd Cymru? Go brin. Oni bai am y cyfalaf a ddaeth o gam-drin caethion, y tebygolrwydd ydi mai hanes o allfudo diddiwedd fyddai hanes cyson poblogaeth siroedd y gogledd wedi bod, er mwyn chwilio am waith. Gwaed caethion a roddodd gychwyn i’r chwareli llechi. Ond y gwir amdani oedd fod y byd o ddechrau’r ddeunawfed ganrif yn cynyddol grynhoi o dan yr un system economaidd yn fyd-eang. Dyma dynged chwarelwyr y gogledd a chaethion y planhigfeydd – er bod y rheiny’n cael eu gweithio yn llythrennol i farwolaeth.

Yn fy marn i, mae cryn dipyn o ddylanwad Brecht ar y nofel. Fyddet ti’n cytuno?

O bosib. Mae drama enwog gen Brecht o’r enw ‘Person Da Szechwan’ (1943), a phrif bwnc honno ydi archwilio sut mae person yn gallu byw’n ddaionus mewn byd sydd wedi ei drefnu i fod yn economaidd anghyfiawn. A’r un math o gwestiwn y mae Paradwys yn ei ofyn, yn ogystal â holi, be ydi natur yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘wareiddiad’? Be ydi’r ‘gwirionedd’ am berson? A be ydi swyddogaeth yr awdur, neu yn achos Paradwys, y cofiannydd?

I raddau, mae Brecht yn sgwennu ar sail y patrwm Marcsaidd clasurol trwy gydnabod y strwythur gwaelodol a’r uwch strwythur. Er bod cymdeithas yn deddfu ei ‘moesoldeb’ o fewn terfynau’r uwch stwythur, mae’r gwir ‘foesoldeb’ ar drugaredd grymoedd yn y strwythur gwaelodol, sef yng nghrombil economaidd cymdeithas. Darlun tebyg sydd gen innau yn y nofel – dyna pam fod holl ‘foesoli’ Esgob Parva yn grotésg o amherthnasol, wrth iddo ddweud pethau fel, ‘Boed f’ewyllys yn felys a gwna fi’n deilwng i gyflawni ewyllys Duw. Ewch pawb mewn hedd.’ Dim ond pan mae o’n amddiffyn buddiannau gwladwriaethol y mae ei foesoldeb goddrychol o wir yn asio’n un â ‘moesoldeb’ go-iawn ei gymdeithas. Ond wedyn, efallai mai’r gwir amdani ydi bod pob un gwareiddiad yn hanes y byd erioed wedi gweithredu ar gost ddynol enfawr. Babilon. Assyria. Yr Aifft. Athen. Rhufain. Mae uchelgampau pensaernïol bendigedig a champau celfyddydol, diwydiant a thechnoleg pob gwareiddiad wedi eu codi ar fynwentydd o esgyrn, cnawd a gwaed. Pam disgwyl i ymerodraethau gwledydd Ewrop yn oes fawr imperialaeth fyd-eang fod yn wahanol i’r rhai a fu cynt? Ac mae’r un cwestiynau mor fyw heddiw ag erioed. Be ydi’r berthynas rhwng cyfalafiaeth flysig y dwthwn hwn a’n celfyddyd a’n llenydda ni? Sut all rhywun dderbyn nawdd sydd wedi ei odro o dlodi neu elw wedi ei hawlio o ecsbloetio?

Yn Paradwys, mae’r prif gymeriad, Polmont, yn cael ei gyflogi i fod yn gofiannydd i’r Iarll Foston. Ceisiais ddadlau unwaith bod modd dehongli gwaith Polmont fel math o ffenomenoleg, neu’r ‘hermenewteg’ a gafodd ei datblygu gan yr Almaenwr, Hans-Georg Gadamer. Sut fyddet ti’n ymateb i hynny?

Rhyw fath o ddirgelwch ydi hanfod prif naratif y nofel, sef ceisio datgelu’r gwir am lofruddiaeth merch ifanc o’r enw Virginie Le Blanc. Yn cydredeg â hynny, mae naratif arall lle mae Polmont ar berwyl i geisio mapio hanes bywyd ei noddwr, ond mae hwnnw hefyd yn llawn cymaint o ddirgelwch. Yn amlwg, mae’r llofruddiaeth yn ddigwyddiad go-iawn, ond yr oll a ellir ei honni am fywyd Iarll Foston – fel bywyd unrhyw un – ydi ei fod yn gyfres o ddigwyddiadau na ellir bellach ond eu hail-greu trwy dystiolaeth ysgrifenedig neu trwy atgofion amrywiol dystion sy’n chwannog i gamgofio, camliwio, neu sydd hyd yn oed yn cynnig dehongliad bwriadol gamarweiniol. Y patrwm ar gyfer Iarll Foston oedd dyn o’r enw Robert Maxwell, dyn a fu farw (neu a gafodd ei lofruddio? Mae’r peth yn ddirgelwch hyd heddiw) ddechrau nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Roedd o’n berson a oedd yn fwriadol wedi ei ail-greu ei hun sawl gwaith drosodd ac yn ŵr busnes digon cefnog i allu comisiynu gwahanol gyhoeddiadau amdano’i hun er mwyn cyflwyno ei gymeriad yn y goleuni gorau posib. Mae ysgrifennu cofiant yn cynnig her arbennig, yn enwedig os ydi’r gwrthrych yn dal yn fyw fel y mae Iarll Foston. Ond dydi o’n ddim mwy o her nag ydi ysgrifennu hunangofiant. Y cyngor a roddir i Rhys Lewis, gweinidog Bethel wrth fynd ati i sgwennu ei hunangofiant yw iddo gofio dweud ‘y gwir’ am ei fywyd. Y drwg ydi fod y ‘gwir’ yn air gwirioneddol broblematig.

Ond os ydw i wedi deall Gadamer yn iawn, mae o’n amheus o wneud honiadau gwrthrychol absoliwtaidd, ond yn hytrach yn ystyried yr ymchwil i ‘hanfod’ personoliaeth fel proses-ar-waith, ond bod i’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol swyddogaeth bwysig yn y broses o greu yr hyn ydi pobol. Neu mewn geiriau eraill, mae pob un ohonom ni’n perthyn yn benodol i gyfnod o fewn ffrydlif hanesyddol – ac rydym ni i gyd, i raddau, ar drugaredd grymoedd hanesyddol o ran ymagweddiad neu ymwybod. Dwi’n meddwl fod hyn yn wir, i raddau, am holl gymeriadau Paradwys – gan eu bod nhw’n eu ‘deall’ eu hunain ac yn ymateb i’w gilydd o fewn terfynau iaith, meddylfryd a gwerthoedd eu cymdeithas, heblaw am yr un eithriad sef Miss McFluart, sy’n dod i adnabyddiaeth arall ohoni hi ei hun trwy gofleidio syniadau gwahanol o’r Oleuedigaeth, ac felly yn llwyddo i drosgynnu norm ei chyfnod. Tra mae Foston a’i debyg â’u bryd ar gyfiawnhau a gwarchod eu buddiannau eu hunain, mae Miss McFluart eisoes yn blaendroedio’r dyfodol a math newydd o ddealltwriaeth hanesyddol.

Yr oll a ellid eu ddweud am Polmont ydi fod ei daith o i ddarganfod y ‘gwir’ am yr Iarll, yn eironig, yn troi yn broses-ar-waith lle mae o’n llwyddo i ddod i lwyrach adnabyddiaeth ohono fo’i hun, ac mae hyn yn ei ‘ryddhau’ i fod yn rhywun sy’n gallu dechrau dirnad y byd trwy lygaid gwahanol. Dyma un o’r pethau mwyaf cadarnhaol sy’n digwydd yn y nofel.   

Yn sicr, mae yna lawer iawn sy’n amserol a pherthnasol yn y nofel, yn enwedig wrth i Ewrop ei hun fynd drwy gyfnod anwadal. Oes yna werth i’r cysyniad o Ewrop yn y byd sydd ohoni, wyt ti’n meddwl?

Wn i ddim. I garfan sylweddol o wleidyddion a deallusion yn Tsieina heddiw, dydi Ewrop yn ddim byd mwy na gewin bys bach o benrhyn ar gyfangorff anferthol Asia. Trwy weld Ewrop fel hyn, mae’r ddelwedd imperialaidd, draddodiadol, uwchraddol yn cael ei throi du-ucha’n-isa. Neu mewn geiriau eraill, mae Ewrop gyfan yn cael ei sodro’n dwt ac yn daclus yn ei lle gan wlad sy’n prysur ysgwyd ei hesgyll tros barthau mawr o’r blaned. Ond yn gelfyddydol ac yn syniadaethol, lle mae Ewrop arni? Oes unrhyw waith celfyddydol o werth wedi ei gynhyrchu yn y ganrif yma yn Ewrop? Hynny ydi, mae yna nifer o awduron diddorol ar waith, yn nofelwyr a dramodwyr, ond oes rhywun wedi mynd ar drywydd gwirioneddol wreiddiol a chyffrous (fel byddai Milan Kundera yn dymuno ei weld)? Ynteu ai rhyw ddal ati i rygnu mewn rhigolau cynefin y mae pawb?

Dwyt ti ddim yn swnio’n obeithiol iawn.

Efallai mai’r ugeinfed ganrif oedd min nos machlud Ewrop a’i bod hi eisoes yn tywyllu. Mae hi’n anodd dweud. Mae rhai pobol yn dadlau mai canrif America oedd yr ugeinfed ganrif, ond dwi’n meddwl mai canrif yr Almaen oedd hi. Y rheswm tros hawlio hyn ydi fod yr Almaen wedi bod fel labordy i bob syniad gwleidyddol a chelfyddydol a welodd yr ugeinfed ganrif. Fe ddechreuodd hi fel monarchiaeth, cyn troi’n weriniaeth, yna yn system ffasgaidd, cyn hollti yn drefn gomiwnyddol a oedd yn bodoli ochr yn ochr â chyfalafiaeth ryddfrydol, a oedd hefyd yn cynnwys mudiad gwyrdd cryf cyn bod hynny yn ffasiynol.  

Roedd Goethe yn trafod y cysyniad o Ewropeaeth ddwy ganrif cyn yr aeth Saunders Lewis ati i ddatgan yr un peth rhwng dau ryfel byd, pan oedd trefedigaethau Ewrop eisoes yn anniddigo ac yn chwantu i dorri eu cadwynau – ac Iwerddon wedi ennill ei rhyddid trwy drais a gwaed erbyn 1922. Er mai Paris hyd at 1939 oedd canolbwynt deallusol cyfandir Ewrop, roedd arwyddion eisoes fod yr awelon artistig yn dechrau chwythu draw dros yr Iwerydd. Erbyn 1945, roedd llu o artistiaid a deallusion fel André Breton ac ati wedi symud i Efrog Newydd. Gwywo fel canolfan o ddegawd i ddegawd a wnaeth Paris ar ôl hynny. O bosib mai Shanghai fydd y ddinas gelfyddydol a llenyddol bwysicaf erbyn diwedd y ganrif hon. Pwy a ŵyr?

Hefyd, wn i ddim faint o fantais wleidyddol, nag o werth diwylliannol, sydd bellach mewn edrych tuag at Ewrop y gwledydd mawr, oni bai ein bod ni’n troi ein golygon tuag at wledydd llai fel Catalwnia, Corsica neu Wlad y Basg. Efallai y dylid bod wedi gwneud hynny o ddechrau’r ugeinfed ganrif pan ddaeth mater o ennill rhyddid i Gymru yn fater politicaidd o bwys. Yn amlwg, roedd gan Gymru lawer mwy yn gyffredin â gwlad fel Llydaw yn hytrach na Ffrainc. Erbyn heddiw, dwi’n meddwl fod rhaid edrych allan ymhellach i wahanol wledydd y byd. Efallai y dylid bod wedi edrych ymhellach nag Ewrop o’r cychwyn, tuag at wledydd yn Asia, Affrica a De America er mwyn dysgu a chael ein hysbrydoli.

Mi fydd gen ti nofel newydd o’r enw Cymru Fydd yn dod allan yn ddiweddarach yn 2022. Dwi wedi bod mor ffodus â chael darllen fersiwn ohoni mewn llawysgrif yn barod ac roedd hynny’n brofiad eithriadol o gyffrous. Gobeithio y daw yna gyfle i drafod honno ryw dro’n fuan, ond yn y cyfamser, diolch i ti am y sgwrs ddifyr am Paradwys, a gobeithio y bydd hyn yn ysgogiad i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr droi at y nofel honno a darganfod ei holl drysorau.

Diolch i Angharad Price ac i Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor am yr hawl i gyhoeddi'r cyfweliad hwn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol fis Medi 2022 ar flog yr adran. Darllenwch fwy ar y blog yn y fan hon: Mardi Gras ym Mangor Uchaf.

Mi fydd Angharad Price yn holi Wiliam Owen Roberts am ei nofel ddiweddaraf, Cymru Fydd (2022) yn Palas Print, Caernarfon am 7 yr hwyr ar 2 Mawrth 2023. Croeso cynnes i bawb.

Yr ail lun: Kafka yn 5 oed (Llun: Moritz Klempfner)

[Mae’r cymeriadau yn] ‘deall’ eu hunain ac yn ymateb i’w gilydd o fewn terfynau iaith, meddylfryd a gwerthoedd eu cymdeithas

Pynciau:

#Angharad Price
#Wiliam Owen Roberts
#Nofelau
#Hanes
#Caethwasiaeth
#Kafka
#Milan Kundera