Dadansoddi

Van Hamel yn Eryri

Disgybl a’i athro

Angharad Price

Gororion: Llên Cymru yng nghyfandir Ewrop

Carreg Gwalch, 2024

Van Hamel yn Eryri
Angharad Price

Amser darllen: 15 munud

11·10·2023

Eleni mae adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Utrecht – lleoliad y Gyngres Geltaidd Ryngwladol yn 2023 – yn dathlu ei chanmlwyddiant. Yma ceir hanes A G van Hamel, tad Astudiaethau Celtaidd yr Iseldiroedd, a’i berthynas arbennig â’i athro Cymraeg yn un o bentrefi Eryri ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

*

O Westy Gwydyr ym Metws-y-coed yr anfonodd Anton Gerard van Hamel ei lythyr cyntaf at ysgolfeistr Rhyd-ddu. Mis Awst 1907 oedd hi, ac roedd y myfyriwr un-ar-hugain oed wedi dod i Gymru i geisio dysgu ychydig o Gymraeg. ‘I have heard your name mentioned as an experienced teacher of the Welsh language,’ ysgrifennodd at Henry Parry-Williams, gan fynd yn ei flaen i ofyn a gâi ddod ato i Ryd-ddu am wythnos neu ddeng niwrnod i gael ei roi ar ben y ffordd. ‘I would be most pleased by a favourable answer,’ pwysleisiodd. ‘My knowledge of Welsh is only very poor and I would be very glad indeed if you were so kind [sic] to promise your help.’[1]

Ganed A G van Hamel (1886-1945) yn ninas Hilversum yng ngogledd yr Iseldiroedd, yn fab i deulu dosbarth canol ac yn nai i A G van Hamel yr hynaf, diwinydd, awdur ac ysgolhaig Ffrangeg adnabyddus.[2] Roedd Anton yr ieuengaf ar ganol dilyn cwrs gradd mewn iaith a llên Iseldireg ym Mhrifysgol Amsterdam ac wedi dechrau ymddiddori yn hanes yr ieithoedd Celtaidd. Roedd ganddo beth Gwyddeleg modern eisoes, ac felly penderfynodd neilltuo haf 1907 i ddysgu’r Gymraeg gyfoes – a hynny trwy anturio i gefn gwlad Eryri lle’r oedd athro tan gamp yn byw. ‘I [should] be pleased to know where I could live during those days,’ holodd yn ei gerdyn post, ‘whether it could be with you, or in the inn or in another place’ (A28).

Er mawr foddhad iddo, cafodd ateb cadarnhaol gan Henry Parry-Williams (tad y llenor, T H Parry-Williams), ac o fewn dyddiau roedd Van Hamel wedi cyrraedd Rhyd-ddu ac wedi ymgartrefu yng nghwmni teulu Tŷ’r Ysgol yn y pentref bychan wrth droed yr Wyddfa. Gwnaeth y profiad hwn argraff fythgofiadwy arno, a thros y blynyddoedd dilynol dychwelodd sawl gwaith i Ryd-ddu, nid yn unig er mwyn ymarfer ei Gymraeg, ond am ei fod hefyd wedi ymserchu yn y dirwedd ddramatig, yn y gymuned leol, ac yn bennaf oll, yn ei athro galluog a’i deulu. Cedwir dros ugain o lythyrau a chardiau post difyr a dadlennol gan Van Hamel yn archif Syr T H Parry-Williams a’r Fonesig Amy Parry-Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd heddiw, ac mae’n dra arwyddocaol, o safbwynt enw da Henry fel athro, mai dim ond un ohonynt, sef y llythyr cyntaf hwnnw o Fetws-y-coed, a luniwyd yn y Saesneg. Mae’r gweddill, gan gynnwys un a anfonwyd rai dyddiau’n unig wedi ei ymweliad cyntaf â Rhyd-ddu, wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg ardderchog, yn dyst i feistrolaeth chwim Van Hamel ar yr iaith ac i hyfforddiant ysbrydoledig ei athro. Er mai unochrog yw’r ohebiaeth (gwaetha’r modd, aeth llythyrau Henry Parry-Williams at Van Hamel ar ddifancoll), mae darllen y corff hwn o lythyrau’n brofiad eithaf rhyfeddol. Yn un peth, mae’n brawf o gyfeillgarwch cryf a hirhoedlog a bontiodd Gymru a’r Iseldiroedd am ddegawdau, gan oroesi holl gythrwfl y Rhyfel Byd Cyntaf a’r chwalfa a ddaeth yn ei sgil. Mae’r ohebiaeth hefyd yn ddiddorol am fod Van Hamel ei hun yn llythyrwr cynnes, ac am fod ei ddefnydd o’r Gymraeg yn rhugl a gogleisiol, a’i sylwadau ar y broses o ddysgu’r iaith yn werthfawr. 

Nid ef oedd yr ysgolhaig cyfandirol cyntaf i ddod i fyw at deulu Tŷ’r Ysgol er mwyn dysgu’r Gymraeg. Yn wir, bu llu o ieithyddion medrus yn aros yno, yn eu plith rai o enwau mwyaf nodedig Astudiaethau Celtaidd cyfandir Ewrop, megis Josef Baudiš o Slofacia, Erik Björkman o Sweden, Theodor Chotzen o’r Iseldiroedd (ynghyd â Van Hamel ei hun, wrth gwrs), Rudolf Thurneysen o’r Swistir, a Joseph Vendryes o Ffrainc, yn ogystal â Rudolf Imelmann, Wilhelm Meyer a Hermann Osthoff o’r Almaen, pob un ohonynt, mae’n debyg, yn byw gyda’r teulu ac yn cael eu trochi ym mywyd Cymraeg cyfoethog y fro. Nid yw’n syndod i Van Hamel, wrth iddo ysgrifennu i ddiolch i’r teulu ar ôl bod yn aros â nhw am y tro cyntaf yn 1907, alw Tŷ’r Ysgol yn ogleisiol yn ‘Athrofa Geltaidd, Rhyd-ddu’, enw y parhaodd i’w ddefnyddio trwy gydol ei ohebiaeth. Yn wir, mewn llythyr diweddarach at Henry, aeth mor bell â’i alw ef yn ‘ffynnon yr holl Gymraeg sydd ar y Cyfandir’ (A44). 

Ym mis Rhagfyr 1907, ryw bedwar mis wedi’r ymweliad cyntaf, ysgrifennodd yr Iseldirwr ifanc at ei athro a’i deulu i ddymuno Nadolig llawen iddynt, gan roi crynodeb o’i gynnydd yn y Gymraeg yn y cyfamser: ‘Nid ydyw fy syched am ychwanegu at fy ngwyboddiaeth y iaith Gymraeg wedi ei thorri ac yr wyf wedi darllen rhyw lyfrau Cymraeg gyda llawer o ddyddordeb,’ sicrhaodd ei athro (A31). Roedd bellach, meddai, yn ymgodymu â chywyddau Goronwy Owen, tra bo ‘Elis Wynne yn aros eto am hamdden i gael ei ddarllen a Theophilus Evans hefyd ar ei ôl’ (A31). Roedd hyn oll yr un pryd â cheisio dysgu ‘y Sanskrit a’r hen Ellmeineg a’r Icelandic’ a hen Wyddeleg, ar gyfer ei radd. 

Trawiadol yw arddull rwydd a rhugl y llythyrau hyn o’r dechrau, ac wrth iddo ddynesu at ddiwedd ei lythyr Nadoligaidd, daw cyffyrddiad telynegol, hiraethus i’w gyfarchion at ei gyfeillion yn Eryri: 

Yr wyf yn cofio yn aml am hen wlad eich tadau, am Gymru brydferth, ac y mae yma hiraeth calon amdani: yr wyf yn gweled yn fy meddwl y lle bu’r eryrod yn byw wedi cael ei orchuddio gan y niwl; a’r gwynt a’r gwlaw yn chwareu ar Llyn y Gadar ac yn oeri traed y Wyddfa. (A31)

Mae’n rhyfeddod y gallai ysgrifennu fel hyn wedi llai na hanner blwyddyn o ddysgu Cymraeg, ac ynghanol prysurdeb ei fywyd yn fyfyriwr prifysgol yn Amsterdam.         

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yng ngwanwyn 1908, ysgrifennodd Van Hamel eto yn ddigon hiraethus i ddweud bod ei ‘[f]eddyliau yn ehedeg drossodd i Arfon brydferth’, ac i fynegi ei awydd ‘i weled y creigiau a’r cymau gwylltion lle bu’r eryrod yn byw, i glywed cân tlws awen Cymru, ac i anadlu awel wyrf y mynyddoedd’ (A32). Sonia yn obeithiol wrth Henry y gallasai alw yn Rhyd-ddu pan fyddai ar ei ffordd i dderbyn hyfforddiant mewn Hen Wyddeleg gan Osborn Bergin yn y ‘School of Irish Learning’ yn Nulyn ym mis Gorffennaf, ond mae dau gerdyn post pellach – y rhain wedi eu hanfon o ‘wlad y diawlaid o hen Wyddelod’ ei hun, chwedl ef – yn gresynu na fyddai hynny, wedi’r cyfan, yn bosibl (A34/35). Yn hytrach, roedd am dreulio gweddill yr haf yng ngorllewin Iwerddon yn gwella’i Wyddeleg, a rhoddodd gyfeiriad yn Ballyferriter i Henry lle y gallai ysgrifennu ato. 

Y mis Rhagfyr canlynol daeth y llythyr blynyddol yn cynnwys ei gyfarchion Nadolig i deulu Tŷ’r Ysgol, ac yn hwn ceir sylwadau hynod ddiddorol gan Van Hamel am y gwahaniaethau a welai ef rhwng Cymru ac Iwerddon:

Gwlad hyfryd iawn ydyw y Werddon; a nid ydyw y ‘diawlaid o hen Wyddelod’ mor ddrwg ac y mae eich cydwladwyr yn eu tybied. Eto, nid ydwyf cyn hoff ohoni ac ydwyf o Gymru. Y mae ammodau y gwerin yn sal iawn, yn waeth o lawer nag yng Nghymru ac am y rheswm yma nid ydyw cymmaint o foesoliad ganddynt. Fel hyn y mae eich iaith a’ch llenoriaeth chwi yn fwy llwyddianus o lawer. Namyn hyn y mae y iaith Wyddeleg yn anhawdd iawn a nis gallwn ei siarad yn gystal a’r Gymraeg. Pa fodd bynag, y mae’n sicr, nad ydyw fy Nghymraeg yn wych iawn hefyd a bydd yn rhaid i mi dreulio rhyw amser gyda chwi. Yr un beth a fedraf ei wneyd yn y fan yma ydyw darllen; ond y mae arnaf eisieu siarad Cymraeg unwaith eto! (A36)

O’r ohebiaeth sydd ar gael (cyfres o gardiau post yn darlunio amrywiol olygfeydd o’r Iseldiroedd), ymddengys na allodd Van Hamel ddychwelyd i Ryd-ddu am dair blynedd arall, er gwaethaf ei ddymuniad i wneud hynny. Yn 1911 enillodd ei ddoethuriaeth gydag anrhydedd am waith yn dwyn y teitl, ‘De oudste Keltische en Angelsachsische Geschiedbronnen’ (‘Y ffynonellau hanesyddol Celtaidd ac Eingl-Sacsonaidd hynaf’), ac erbyn hynny roedd wedi dechrau gweithio fel athro Iseldireg mewn ysgol ramadeg yn nhref Middelburg. Cyn gynted ag y daeth gwyliau’r haf, felly, ysgrifennodd gerdyn post at Henry yn gorfoleddu y byddai ar ei ffordd i Eryri cyn hir: ‘Y mae yn llawen genyf fyned i Gymru,’ meddai ganol mis Gorffennaf 1911. ‘Deuaf i Ryd-ddu ddydd Mercher nesaf. [...] A ganiatewch i mi eich clywed chwi yn yr ysgol?’ (A39). 

Ymddengys iddo gael budd a boddhad unwaith eto o ymweld â Rhyd-ddu. Gan sicrhau Henry ei fod ‘yn Gymro gwell o lawer yn awr na chyn yr arosiad fer ddiweddaf yn eich gwlad’, cwyna serch hynny bod rhai elfennau o’r Gymraeg yn anodd eu meistroli, ac nad ‘iaith y Nefoedd’ ydoedd yn ei farn ef, ‘ond llafar uffernol y diawl!’ (A27). Cyfeiriad chwareus sydd yma at waith Ellis Wynne, sef Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, gwaith yr oedd Van Hamel yn ei ailddarllen y pryd hwn. Ond rhaid cymryd ei brotestiadau â phinsiad o halen. Fel y gwelir yn eglur o’i lythyr, mae ei ddefnydd o’r Gymraeg, nid yn unig yn gywir ac idiomatig (oni bai am fân lithriadau bychain), ond hefyd yn osgeiddig ac yn llawn hiwmor. Dengys barodrwydd i ddefnyddio ffurfiau llafar cyffredin, gan gynnwys benthyciadau o’r Saesneg megis ‘likio’ am y flodeugerdd Cywyddau Cymru, ac mae ei agwedd ryddfrydig at yr iaith Gymraeg yn deillio, mae’n bur debyg, o’r modd yr oedd Henry’n ei annog i wrando ar dafodiaith leol Rhyd-ddu a’i defnyddio hefyd (ceir ‘drwg-iwsio’ gan Van Hamel mewn llythyrau eraill). Yn sicr, profa’r ohebiaeth yn glir nad ymarferiad academaidd marwaidd oedd dysgu’r Gymraeg i’r Iseldirwr. Cofleidiodd yr iaith gyfoes, fyw, yn ogystal â’r gymuned a’i defnyddiai yn eu bywyd dyddiol, ac aeth ati yr un pryd i ymddiddori yn llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg y dydd. Yn wir, roedd yn feirniad llenyddol synhwyrus a deallus wrth ymdrin â llên Gymraeg gyfoes, ac mae ei sylwadau ar weithiau cynnar beirdd a ddaeth yn ddiweddarach yn ffigyrau llenyddol o bwys yn graff a phroffwydol.

Yn hynny o beth, mae’n debyg mai yng nghyswllt gweithiau cynnar mab Henry, Tom, y gwelir yn fwyaf eglur mor dreiddgar y gallai Van Hamel fod wrth ymdrin â llenyddiaeth Gymraeg dechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd T H Parry-Williams, nad oedd ond flwyddyn yn iau na Van Hamel, wedi dod i sylw cenedlaethol yn sgil ennill y Goron a’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1912. Ym mis Mai 1914, ar ôl treulio ‘wythnosau a misoedd’ yn astudio’r gweithiau arobryn, ysgrifennodd Van Hamel at Henry yn llongyfarch ei fab ar ei gamp ddwbl, gan drafod crefft yr awdl, yn enwedig, yn ofalus. Mae hwn yn llythyr rhyfeddol, ac mae’n werth dyfynnu talp go helaeth ohono gan mor dreiddgar – a geirwir – ydyw:

Y mae gwaith Tom, er ei galedi, yn gwario gwobrau euraid i’r darllenwr. Nid ydwyf yn siarad yn awr am Erallt Gymro [y bryddest], sydd yn farddoniaeth dlos ac eglur, ond am yr awdl gyda’i amlder o feddyliau dwfn ac ymadroddion dyrys. Nid yr hen eiriau sydd yn peri anhawsderau i mi. Os caf ryddid i ddweyd fy marn am yr awdl dyddorol hwn, dyma hi. Y mae athrylith Tom yn ‘philosophical’ iawn, ac y mae ei ddyfeisiau yn fwy o resymol nag o synwyrol (‘more reasonable than sensitive’). Ond i ddyn sydd yn rhesymu, y peth arbennig y mae eglurder ac amlygrwydd, ac yn y berthynas yma y mae Tom yn pallu weithiau, yn enwedig yn yr ail ran. Y mae yn yr awdl olion ymryson cynghannedd âg ystyr. Rhyw waith y mae y bardd yn aberthu ystyr yr eiriau i reolau yr iaith a’i miwsig. Dyma’r caledi mwyaf: gwneuthur cynghannedd naturiol a darlunio ei ddelfryd yn ddealladwy gyda’r un eiriau. Yn y berthynas hon nid ydyw Tom wedi perffeithio yn hollol eto. Dywedwch wrtho: yn ymlaen! Nid oes mewn bywyd dyn ddim mor arddunog âg ymryson yspryd a defnydd. Rhaid i’r yspryd sydd ynym ni orchfygu y sylweddau trymion a rhwystrau yr enaid. (A46)

Ond er gwaethaf ei bryderon am rai agweddau ar juvenilia T H Parry-Williams, daw ymdriniaeth Van Hamel ag awdl ‘Y Mynydd’ i ben gyda’r broffwydoliaeth: ‘Bydd Tom yn un o’r arweinyddion yn yr ymryson yma, dyma wirionedd!’ (A46)

Wrth i gymylau’r Rhyfel Mawr grynhoi dros Ewrop, bwriodd Van Hamel ei hun i’r gwaith o geisio ennill troedle iddo’i hun – ac i Astudiaethau Celtaidd – ym mhrifysgolion yr Iseldiroedd. Ond ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen, yn hytrach nag yn ei famwlad, y llwyddodd i sicrhau hynny yn gyntaf, a hynny yn 1913, wedi penodi Rudolf Thurneysen (un arall o efrydwyr Tŷ’r Ysgol), yn Athro yno. Serch hynny, pan dorrodd y rhyfel yn 1914 aeth Van Hamel i helynt gyda’r awdurdodau Almaenig, a dychwelodd yn llechwraidd i Rotterdam, gan dreulio’r blynyddoedd nesaf yn y ddinas borthladd honno a ddaeth yn noddfa i filoedd o ffoaduriaid o Wlad Belg ac o’r Almaen yn sgil y gyflafan. 

Da dweud, serch hynny, i’r gohebu rhwng yr Iseldiroedd a Rhyd-ddu ailgychwyn wedi’r rhyfel – a hynny ym mis Ebrill 1920. Gan ymddiheuro i Henry am ei faith dawelwch, beiodd Van Hamel hynny ar ei ofn o ‘wneyd beiau grammadegol a fyddai yn troi eich gwallt yn llwyd’, a diolchodd i’w athro am anfon llyfrau Cymraeg ato a oedd mor ddifyr ‘fel yr wyf yn teimlo fel na fuasom hebddynt erioed’ (A47). Gan nodi bod ei waith fel llyfrgellydd yn yr Hâg yn ‘dawel iawn’, dywedodd, serch hynny, fod yr ychydig oriau o ddysgu Gwyddeleg a Chymraeg a wnâi ym Mhrifysgol Leyden yn rhoi boddhad iddo. ‘Y mae genyf ormod o wybodaeth am y pethau yma,’ esboniodd, ‘fel na fyddai yn esgusadwy os byddwn yn ei chymeryd gyda mi i’r bedd’. Ac wrth ddwyn ei lythyr i ben, fel petai’n edrych dros ysgwydd y blynyddoedd ar ei ymweliadau â Rhyd-ddu cyn y rhyfel, holodd Henry’n daer a oedd yr un hen gymeriadau gynt yn dal yno ac ar dir y byw:

A ydyw Bendigeit Vran yn fyw eto? A Phaul? A Robert Williams? Y mae ‘Bylcha’ dwr’ wedi marw ers blynyddoedd, fel y credaf. [...] Dyma y gwelwch nad ydwyf wedi anghofio yr un beth y sydd rhyw gysylltiad a Chymru ganddo, ac er fy mod yn dramorwr, nid ydwyf yn estron i draddodiadau y wlad, a myfi mor hoff ohoni ac y bum erioed. (A47)

Dagrau pethau oedd na welodd Van Hamel a Henry Parry-Williams mo’i gilydd byth wedyn. Yn haf 1923 derbyniodd yr Iseldirwr gais gan Mr Griffith Evans o Ddrws-y-coed yn gofyn a fyddai’n fodlon llunio tysteb i’w darllen mewn cyfarfod cyhoeddus i anrhydeddu Henry Parry-Williams ar achlysur ei ymddeoliad. Cytunodd yntau’n frwd, ac yn y dysteb honno dywedodd yn ddiflewyn-ar-dafod bod ei waith ef ei hun yn diwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Leyden yn uniongyrchol ddyledus i ysbrydoliaeth ysgolfeistr Rhyd-ddu: ‘Os oes dim o dda mewn addysg Gymraeg a roddaf i ym Mhrifysgol Leyden i’m efrydwyr, ffrwyth yr hâd a heuodd ef ydyw,’ meddai (A51). 

Yr haf hwnnw, penodwyd Van Hamel o’r diwedd i swydd academaidd a oedd wrth fodd ei galon, yn Athro Astudiaethau Germanaidd a Cheltaidd ym Mhrifysgol Utrecht. Ac nid anghofiodd pwy fu’r dylanwad pwysicaf arno yn y maes hwn. Mae hynny’n amlwg o’r llythyr a anfonodd at deulu Tŷ’r Ysgol yn Nadolig 1923. ‘Dysgu ereill a fu fy mhleser fwyaf erioed, ac yr wyf yn hapus am fod y ieithoedd Celtaidd ym mhlith y pynciau y byddaf yn traethu arnynt,’ meddai, gan ychwanegu’n werthfawrogol: ‘Ffrwythloni y bydd y pren a blanasoch gyda’ch dwylaw eich hunan’ (A52). Clodd ei lythyr trwy ddymuno ymddeoliad hapus i’w hen athro, ond gan ei siarsio hefyd i barhau’n weithgar: ‘Aroswch fel yr ydych heddyw: yn weithgar, bywiog, a pharhewch i neillduo eich holl egni i’ch gwlad, i’ch cyfeilliaid, i’ch hen ddysgyblion!’, meddai wrtho (A52).

Mae rhyw eironi chwerw yn y ffaith mai fel hyn y daeth llythyr cynnes a theimladwy Van Hamel at ei derfyn – y llythyr olaf iddo ei anfon at Henry. Ar ddydd Nadolig 1925, wedi gwaeledd byr, bu farw Henry Parry-Williams yn 67 mlwydd oed. Pan glywodd y newyddion, torrodd Van Hamel ei galon. Aeth ati ar ei union i lunio llythyr hir at T H Parry-Williams yn mynegi ei dristwch a’i alar, ac yn cydymdeimlo â’r teulu. Ac mae rhyw eironi pellach yn y ffaith ei fod wedi dewis ysgrifennu’r llythyr hwn – fel y llythyr cyntaf un a ysgrifennodd o Fetws-y-Coed ym mis Awst 1907 – yn Saesneg, a hynny, esboniodd, er mwyn gallu mynegi dyfnder ei deimladau yn llwyr. 

Mae’n amlwg ei fod dan deimlad mawr ar y pryd, a’i alar am ei athro, ynghyd â’r sioc o fod wedi ei golli mor ddirybudd, yn eglur a phoenus: ‘I feel his loss very deeply, I am thinking of him the whole day long, for I loved him and reverenced him with all my heart’, ysgrifennodd (CH653). A daw’n amlwg o’r llythyr hwn fod Van Hamel wedi dod i edmygu, ac yn wir i garu, y dyn arbennig y bu mor ffodus â’i gael yn fentor am ddeunaw mlynedd:

He was proud to call himself ‘Tad holl Gymraeg y Cyfandir’, and he was aware of his gift for ‘siarad gyda thramorwyr’, –  but what he could was a good deal more than that. By means of his keen intelligence he imparted to them many more treasures besides a knowledge of the language. His image will be with us every day, and seeing it, we shall repeat these words representing our inmost thought: ‘He was one of the best men that ever lived. God have his soul.’ (CH653)

Am weddill ei yrfa, adeiladodd Van Hamel ar sylfaen y ddysg a roddodd Henry Parry-Williams iddo yn ddyn ifanc. Os Henry ei hun oedd ‘Tad holl Gymraeg y Cyfandir’, daeth Van Hamel yntau yn ei dro yn dad holl Gymraeg yr Iseldiroedd. Er i gymhlethdodau gwleidyddol a phersonol daflu cysgodion dros ei yrfa academaidd, ac er iddo farw yn drasig rai misoedd yn unig wedi rhyddhau’r Iseldiroedd o afael y Natsïaid yn 1945, mae ei waddol fel athro ac ysgolhaig Celtaidd yn ei famwlad yn parhau hyd heddiw. 

I ninnau yng Nghymru yn yr un modd, mae’r corff o lythyrau Cymraeg egnïol, deallus a sylwgar a adawodd y Iseldirwr hwn ar ei ôl yn brawf o’i gymeriad arbennig ac athrylithgar, yn ogystal â bod yn dysteb i’w athro rhagorol, ynghyd â’r teulu a’r gymuned yn Eryri a’i croesawodd ac a’i hysbrydolodd – gan ei alluogi i greu darn bach o Gymru ar gyfandir Ewrop sy’n dal yn fyw hyd heddiw.

*

[1] ‘Llythyrau oddi wrth A. G. van Hamel, Middelburg, Rotterdam ac Utrecht’, Papurau Syr T. H. Parry-Williams a’r Fonesig Amy Parry-Williams, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, A25-A52. Ceir chwe llythyr pellach gan Van Hamel at T. H. Parry-Williams yn yr un archif (CH650-55). Daw’r dyfyniadau o’r llythyr cyntaf hwn o eitem A28.

[2] Cyhoeddwyd y cofiant cyntaf i Van Hamel yn y Gyngres Geltaidd yn haf 2023. Gweler Bart Jaski, Lars Nooij, Sanne Nooij-Jongeleen, Nike Stam, goln., A Man of Two Worlds: A. G. van Hamel, Celticist and Germanist (Stichting A.G. van Hamel, 2023). 

Ceir yr erthygl yn llawn yng nghyfrol arfaethedig Angharad PriceGororion: Llên Cymru yng nghyfandir Ewrop, sydd i'w chyhoeddi yn 2023/24 gan Wasg Carreg Gwalch.

Er mai unochrog yw’r ohebiaeth (gwaetha’r modd, aeth llythyrau Henry Parry-Williams at Van Hamel ar ddifancoll), mae darllen y corff hwn o lythyrau’n brofiad eithaf rhyfeddol

Pynciau:

#T H Parry-Williams
#Angharad Price
#Yr Iseldiroedd
#Iaith
#Llythyrau
#Eryri