Dadysbrydu
Myfyrdod ar Eisteddfod Pontypridd 2024
Cefais olwg stereosgopig ar y fro gyfarwydd: cymerwyd dau amser a dwy weledigaeth a’u cyfuno’n ddiriaeth fyw o’m blaen. Roedd y profiad o fynd i’r Eisteddfod ym Mhontypridd eleni yn debyg i freuddwyd effro wrth i ddaearyddiaeth fy ymwneud â’r Gymraeg droi’n hylifol a chwareus. Neu, a mentro ar gyffelybiaeth arall, roedd hi fel camu oddi ar fws yn ddiofal a chael fy hunan yn wynebu stryd gynefin o gyfeiriad annisgwyl, a honno o’r herwydd yn bensyfrdanol o ddieithr am ennyd, er fy mod yn gwybod yn fras ble’r oeddwn i.
Dewisaf y geiriau hyn â chryn ofal, gan taw fy ngreddf fel arfer wrth drin pwnc y Gymraeg yn y Cymoedd yw estyn am ddelwedd yr ysbryd, nid am fy mod yn trafod yr hyn sy’n farw, ond am fy mod yn trafod rhywbeth sy’n bresennol ac yn absennol i’r un graddau. Roedd fy mhrofiad eleni yn fodd i fwrw’r ysbrydion, a chymodi â golwg ehangach; roedd yn ben draw blynyddoedd o fyfyrio.
*
i.
Pan fydd iaith yn diflannu, i ble’r aiff? Pan fydd cymdeithas yn newid iaith, beth yn union sy’n digwydd? Dyma gwestiwn sydd wedi fy mhrocio ers peth amser mewn perthynas â’r Cymoedd, a minnau wedi fy ngeni a’m magu ym Merthyr. Fel y gwyddys, roedd mwyafrif trigolion y rhan hon o Gymru yn siarad Cymraeg tan chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif – rhwng 1900 a 1920 yn fras. Adeg Cyfrifiad 1911, cyrhaeddodd nifer y siaradwyr Cymraeg ei uchafbwynt hanesyddol o fymryn o dan un filiwn, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi’u crynhoi ym Morgannwg, yn enwedig yn y Cymoedd poblog. Ni fu farw’r iaith byth, wrth gwrs, ond crebachodd yn sylweddol a pheidiodd â bod yn iaith y gymdeithas honno. Nid ailadrodd y ffeithiau hyn yw fy mryd, fodd bynnag, ond gafael yn y golled na roddwyd iddi lafar. Hynny yw, er gwaethaf parhad darniog y Gymraeg yn y Cymoedd a’i hadfywiad rhannol yn y pen draw, erys olion rhywbeth dirgel ac anodd ei ddal sy’n hawntio’r cof diwylliannol, sef cymdeithas Gymraeg sydd wedi pasio heb sylw na chydnabyddiaeth, ar y cyfan. Ble mae’r cof am y gymdeithas hon ar lawr gwlad, lle siaredid y Gymraeg mor naturiol ag y siaredir Saesneg heddiw? Nid yr iaith fel haniaeth, ond fel diriaeth ddiymwad y crynswth o’i siaradwyr? Sut nad oes cof gwerin am y Cymoedd Cymraeg? Mae’n ddiau bod hepgoriad mor amlwg yn dadlennu rhywbeth arwyddocaol. Ble’r aeth adleisiau’r digwyddiadau yr oedd yr iaith yn gyfrwng iddynt, ac adleisiau pob sgwrs, cyfaddefiad, cyhuddiad, gorfoledd, mawl, ebychiad? Sut gall y llu o arferion, hanesion a chwedlau sy’n annatod gysylltiedig ag iaith ddiflannu, i bob golwg? Wel, dydyn nhw ddim yn diflannu. Maent yn dawnsio ar ddibyn rhwng presenoldeb ac absenoldeb; maent yn treiglo yn llif a thrai rhyw ymwybyddiaeth nad yw byth yn gwbl echblyg.
Ar ôl penllanw Cyfrifiad 1911, ni fu ond dwy genhedlaeth cyn i’r iaith gilio i’r gogysgod – i’r hyn nad yw cweit yn gysgod nac yn olau chwaith. Mae hyn yn wahanol i anghofio, oherwydd pe byddech yn holi, byddai llwyth o bobl yn y Cymoedd yn dweud wrthych fod eu mam, eu mam-gu, neu efallai eu hen fam-gu yn siarad Cymraeg. Efallai y bydd yna silffaid o lyfrau Cymraeg ganddynt yn yr atig, neu arteffactau eraill a berthynai i’r gymdeithas Gymraeg honno. Beth sy’n synnu, yn hytrach, yw bod y shifft sydyn o’r Gymraeg i’r Saesneg, sef digwyddiad diwylliannol-drawmatig, wedi methu â ffurfio atgof penodol ar lefel y gymdeithas. Er gwaethaf ambell ffrwd yn hanesyddiaeth Cymru sy’n awgrymu bod yr iaith Gymraeg wedi ei hepgor yn y Cymoedd fel rhyw benderfyniad di-emosiwn o iwtilitaraidd yn wyneb Cynnydd, nid oedd y shifft iaith erioed yn wirioneddol anochel. Am ddegawdau, gan gynnwys yn anterth diwydiant, byddai newydd-ddyfodiaid i’r ardal yn caffael yr iaith yn naturiol oherwydd ei chryfder, gan esgor ar gymdeithas amlddiwylliannol, amlethnig a siaradai Gymraeg o leiaf i’r un graddau ag y siaradai Saesneg. Roedd angen ymdrech fwriadol o wrth-anogaeth ar ran y sefydliad Prydeinig i gyflawni’r shifft iaith derfynol. Mae hi’n fwy o syndod, felly, fod y shifft hon wedi digwydd mor gyflym, gan adael cyn lleied o fyfyrdod yn ei sgil. Rwy’n credu bod cymdeithas Gymraeg gorffennol diweddar y Cymoedd wedi ei sgubo’n swta dan y carped: mae’n gudd, ond mae amlinell ei phresenoldeb yn aros – ac erbyn sylwi, mae’n eithaf amlwg. Mae pawb yn anwybyddu ei hamlinelliad. Efallai ei fod yn rhy gyfarwydd, nes bod yn anweledig.
ii.
Mae Merthyr a Phontypridd fel ei gilydd yn gyfrannog o ryw Gymoeddeidd-dra arbennig. Diffiniaf hyn fel yr ymdeimlad hwnnw sy’n rhoi i’r ardal gymeriad nad oes modd ei wadu na’i efelychu: yr adeiladau hynny sy’n pendilio’n bensaernïol rhwng crandrwydd a symledd; yr acen a’r dafodiaith, sydd wedi eu llunio mor amlwg ar eingion y Gymraeg; natur agored y bobl, sy’n gallu taro sgwrs gartrefol â dieithryn llwyr; y diffyg pwys ar safle cymdeithasol, a’r ysbryd pawb-ynghyd hwnnw; ochrau’r cwm, nad ydynt byth yn bell, ac effaith ofodol eu presenoldeb, sy'n crynhoi ar un llaw ond yn cynnig ffordd i’r ddinas ar y llall, a’r afon yn ganllaw i’r daith. Rhestr hir yw hon.
Teg dweud bod fy mhrofiad o’r Eisteddfod a’m profiad o’r Cymoedd heb orgyffwrdd yn hanesyddol. Rwy’n mwynhau mynd i’r Eisteddfod, am fod y profiad o dreulio wythnos lle mae’r Gymraeg yn normal ac yn sofran yn amhrisiadwy. Mae hefyd yn aduniad o ryw fath, wrth i fy nghyfeillion ar wasgar ddod ynghyd. Fel un â diddordeb mewn llên, mae hefyd yn gyfle i fynd i berfeddion y pwnc heb fod yn fwrn ar gwmni. Ond nid oeddem yn mynd i eisteddfodau yn ystod fy magwraeth ddwyieithog ym Merthyr (er bod gennym eisteddfod yn yr ysgol, wrth gwrs), ac roedd llawer o’r pethau a elwir yn eisteddfodol yn ddieithr i fy mhrofiad: nid oeddwn yn nabod beirdd, chwaethach perthyn iddynt; nid oeddwn yn gyfarwydd â diwylliannau Cymraeg Gwynedd na Cheredigion na Sir Gâr na’r unlle arall, mewn gwirionedd. Cylch bychan fy mhrofiad yn blentyn ac yn llencyn oedd yn gyfrifol am hyn, i raddau, ond ffaith arall oedd bod diwylliant y Cymoedd yn wahanol, ac nid oedd yr Eisteddfod wedi gwreiddio yn y gymdeithas yr oeddwn yn rhan ohoni. Mae gan y Cymoedd eu diwylliant cryf ei hunan, gyda’i linach a’i gyfeiriadaeth neilltuol, a hwnnw a brofais cyn ymadael â’m bro. Hynny yw, pan oeddwn yn siarad Cymraeg neu Saesneg, diwylliant y Cymoedd a fynegwn; nid oeddwn, wrth lefaru Cymraeg, yn ymdrawsylweddu’n offeryn i brofiadau pobl eraill o’r bröydd mwy Cymraeg eu hiaith. Prin y byddwn wedi gweld diwylliant fy ardal a’m pobl yn cael ei adlewyrchu yn yr Eisteddfod, waeth pa mor loyw oedd fy iaith. Nid oedd (ac nid oes, ysywaeth) lawer o Gymraeg rhwng y Cymoedd a’r Fro Gymraeg.
Ond ni welaf sail dros raniad o’r fath, mewn gwirionedd. Fe wnaeth gweld a chlywed y Gymraeg yn naturiol ar raddfa mor eang ym Mhontypridd argraff ddofn arnaf, gan ddangos yr hyn a allai fod wedi bod yn y Cymoedd, a’r hyn nad oedd ei dranc yn anochel, sef bywyd Cymraeg cyffredin a normal, heb hunanymwybyddiaeth. Roedd elfen o dristwch hiraethus yn hyn o beth, ond digon o obaith hefyd, oherwydd profiad go iawn oedd hwn wedi’r cyfan, hyd yn oed os am wythnos yn unig. Pwysleisiodd i mi sut y gall pethau newid, gydag ewyllys; ond dangosodd hefyd fod y seilwaith yno’n barod yn y Cymoedd. Mae’r hanes Cymraeg diweddar yn ddiymwad, ac mae’n aros am gyfle i lamu o’r gogysgod. Mae’r gymdeithas yn dwyn nodau’r iaith, ac onid hen drawiad erbyn hyn yw dweud taw’r Gymraeg trwy gyfrwng y Saesneg yw Wenglish y Cymoedd? Ni allai neb omedd i’r Cymoedd eu Cymraeg. Gwrandewais ar lawer sgwrs gan siaradwyr Cymraeg brodorol yr ardal, gan gynnwys rhai yn y Wenhwyseg; gwrandewais ar ragor byth o sgyrsiau Cymraeg rhwng pobl a fynychodd ysgol Gymraeg ond sydd wedi dod yn ôl at yr iaith yn ddiweddarach. Rhaid i mi nodi yn y fan hon duedd hynod ddiddorol. Yn yr ysgol, siaradem Saesneg â’n gilydd, ysywaeth, am taw dyna oedd yr iaith a’n hamgylchynai yn ein bywydau beunyddiol. Nid bai arnom oedd hyn, ond mae’n eglurhad; roedd gennym agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg a balchder ynddi (ac yn fy achos i ac ambell un arall, roedd hi yn y teulu hefyd, er ei bod yn llechu o’r golwg weithiau). Ond ers gadael yr ysgol, pan fyddaf yn taro ar hen gydnabod byddwn yn siarad Cymraeg â’n gilydd. Nid penderfyniad echblyg na ffrwyth trafod yw hyn. Digwyddodd ohono’i hun, fel petaem yn rhannu tonfedd. Rwy’n credu i arwyddocâd ein hiaith ddod i’r amlwg am y tro cyntaf ar ôl gadael yr ysgol a gadael y fro, ac ers hynny mae cyfran eithaf sylweddol o fy hen gydnabod yn arddel y Gymraeg yn brif iaith eu bywydau. Weithiau bydd addysg Gymraeg yn dwyn ffrwyth yn y man, ac nid oes wybod pryd yn union, felly dyna ddannod i’r daroganwyr gwae. Yn yr un modd, mae’r gymysgfa o siaradwyr Cymraeg o bob man a chefndir yn yr Eisteddfod yn fodd i ddadlennu agweddau ar yr iaith a fyddai fel arall yn gudd i ni.
Ym Mhontypridd eleni, gwelais fy neufyd ynghyd: y Gymraeg a’r Cymoedd. Nid oedd deuoliaethu. Mae gormod o duedd inni ymgarfanu yng Nghymru, ac yn y Gymraeg yn enwedig. O’r ddwy ochr, rhaid ymroi i’r cyfnewid sy’n rhan o ddarganfod, rhaid tynnu i lawr wrthgloddiau’r hunan a mentro ar gyfarfod, er gwaethaf y risg neu’r ofn y cawn ein dadrithio neu ein gwrthod. Ceir anhawster canfod y tir cyffredin weithiau am ei fod o dan ein traed.
iii.
Mewn rhai ffyrdd, gellir dweud bod shifft iaith y Cymoedd wedi cael ei mynegi ar letraws, a gellir olrhain ei heffaith yn yr amrywiol gynyrfiadau a welwyd yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw wedi dechrau’r ugeinfed ganrif. Daeth y cysylltiad hwn rhwng shifft iaith a chynnwrf cymdeithasol i’m sylw yn sgil dau sylwad yn In the Shadow of the Pulpit: Literature and Nonconformist Wales (2010) gan M Wynn Thomas. Yn gyntaf, sylwad wrth-fynd-heibio yn cyfeirio at Ddiwygiad tanboeth 1904-5 fel ‘the Ghost Dance of Welsh Nonconformity’ a gyflwynodd imi’r syniad bod y tanad rhyfeddol hwnnw o deimladrwydd yn fflach olaf cymdeithas a bydolwg penodol. Nid oedd pob siaradwr Cymraeg yn Anghydffurfiwr, ac nid oedd pob Anghydffurfiwr yn siaradwr Cymraeg, ond roedd heb os gysylltiad rhwng y ddau, er i’r cysylltiad hwnnw gael ei orliwio yn ddiweddarach a mynd yn fwrn ar ein canfyddiad o’r cyfnod, gan guddio delwedd lawer mwy amrywiol. Ond bid a fo am hynny, mae diwygiadau crefyddol yn cynnau mewn amseroedd o dyndra a phwysau cymdeithasol, ac mae’n ymddangos yn arwyddocaol bod yr un hwn, yr un mawr olaf, wedi digwydd ar yr union adeg y cyrhaeddodd y shifft iaith ei throbwynt. Yr awgrym yw bod y Diwygiad a’i orlifiant o wewyr a gollyngdod yn fath o ymateb trosgyfeiriedig neu arallgyfeiriedig i sioc ddiwylliannol y shifft sydyn i’r iaith Saesneg. Efallai fod y newid iaith hwnnw mor anodd a lletchwith i’w wynebu fel ei fod wedi cael mynegiant ar letraws yn yr un maes torfol lle cafodd yr iaith fodoli’n weddol ddigymhlethdod, sef crefydd, neu yn hytrach gerrynt penodol o Gristnogaeth a oedd eisoes wedi dechrau pylu.
Fe wnaeth ail sylwad yn yr un gyfrol roi rhagor o gnawd ar esgyrn yr ensyniad hwn, er ei fod yn parhau i hofran fel awgrym yn fwy na datganiad. Mewn cymhariaeth ddiddorol o Evan Roberts, wyneb carismatig y Diwygiad, ac Ernest Jones, seicdreiddiwr blaenllaw a disgybl i Freud (a’r ddau’n gyfoedion o’r un rhan o Gymru, yn fras), mae Thomas yn dweud y canlynol: ‘Evan Robert’s Revival, however spiritually restorative and dynamically transformative it may have seemed at the time, appears in retrospect to have been the last dramatic gesture of a once hegemonic Nonconformist culture on the threshold of dwindling to a residual state. By contrast, the secular rationalism underpinning Jones’s analysis of the human psyche now seems the hallmark of an emergent culture… the shift from Roberts to Jones, from one culture to another, entailed a change of language necessary for effecting a change of ideology.’ Dyma syniad diddorol, yn wir, ac un sy’n haeddu ei archwilio’n bellach; hynny yw, bod y cynnwrf hwn, yn y Cymoedd yn benodol, yn ystum angerddol olaf cymdeithas Gymraeg a waharddwyd rhag modernrwydd gan ragfarn y dydd.
Ond nid aeth y shifft iaith heibio heb ddim sylw o gwbl, ac ni wnaeth y cof am gymdeithas Gymraeg yn y Cymoedd lwyr ddiflannu. Ni raid ond bwrw golwg ar weithiau’r genhedlaeth gyntaf honno o nofelwyr Eingl-Gymreig, fel y’u gelwir am ryw reswm, megis Glyn Jones, Jack Jones, a Lewis Jones, y mae eu deialog yn aml yn cynnwys ebychiadau a sylwadau ffwrdd-â-hi yn y Gymraeg: brawddegau cwta, caneuon a hanner gofiwyd a darnau o weddïau. Nid yw’r rhain yn ymddangos yn ddigon rheolaidd i ennill unrhyw amlygrwydd neilltuol, fodd bynnag. Mae hi fel pe bai’r awduron hyn yn ffurfio haenen ganol: y rheiny sydd ag adnabyddiaeth o’r iaith a hefyd fesur o ddwyieithrwydd goddefol ac unochrog. Eu rhieni yn aml oedd y genhedlaeth olaf o siaradwyr Cymraeg i fod wedi cael profiad uniongyrchol o’r gymdeithas Gymraeg a oedd erbyn hynny wedi peidio â bod; roedd yr awduron hyn yn adnabod yr iaith, ond heb ryw lawer o ymwneud â hi. Gallent ei deall, ond heb ei siarad ers dyddiau anghysbell eu mebyd cynnar. Ar ôl eu cenhedlaeth hwythau, roedd y bwlch wedyn yn absoliwt, am fod yr elfen honno o ddwyieithrwydd goddefol wedi ei cholli, a’r llinyn brau olaf wedi torri, o leiaf ar lefel y gymdeithas yn gyffredinol. Roedd yna ymwybyddiaeth o’r iaith, felly, ond roedd hi’n pylu. Nid ydym yn gweld cwestiynu na thafoli ganddynt – mae hi fel pe bai colli’r iaith yn cael ei gymryd yn ganiataol. Mae hi bron yn fwy absennol yn rhinwedd ei phresenoldeb ymhlyg.
iv.
Ym Mhontypridd eleni sylwais ar fathemateg iaith. Hwnt ac yma yn y dref, roedd pobl yn cyfarch ei gilydd yn Gymraeg: gardiaid yn yr orsaf, gweinyddion, ymwelwyr, gwirfoddolwyr, pobl leol, yr heddlu, yn wir pawb, bron. Yn wahanol i’r arfer, roedd y Gymraeg wedi meddiannu’r awyr. Rwy’n gwybod nad yw cyfnewid ymadroddion neu ambell air o Gymraeg yn gyfystyr â siarad yr iaith, ond eto, mae’n arwyddo bod rhyw dafol anweledig wedi troi o’i phlaid, ac unwaith y bydd honno wedi troi, caiff yr iaith anadlu, hyd yn oed os taw am wythnos yn unig y bydd hynny. Ar lefel ehangach, dyma’r un peth yn union â’r ffigur hwnnw y sonnir amdano mor aml yng nghyswllt cymunedau Cymraeg: os bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r ganran hon (rhwng 55% a 70% – nid oes consensws), defnyddir y Gymraeg yn ddiofyn wrth gyfarch dieithryn; os bydd y ganran yn is, y Saesneg a defnyddir. Nid mater o niferoedd yn unig yw hyn, fodd bynnag, ond ewyllys yn ogystal; nid yw’n anochel y naill ffordd neu’r llall, ac mae tipyn o ryddid yn y sylweddoliad hwnnw – y gallu i weithredu.
Gellir cymhwyso’r rhesymeg hon fesul sefyllfa. Mae a wnelo â rhyw hyder, ac yn hyn o beth mae’n debyg i resymeg dawnsio. Weithiau, yn lleoliad y gyfeddach a chyn i’r noson ganfod ei rhythm, bydd yno ryw betruster wrth i’r darpar-ddawnswyr ryw gamu nôl ac ymlaen heb lawer o arddeliad; bydd lletchwithdod cynnil yn hydreiddio’r lle. Bydd ambell un wrthi’n dawnsio er gwaethaf hynny, y rheiny nad ydynt yn becso a yw’r gweddill yn gwylio ai peidio, ond nid yw eu dawnsio nhw yn lleihau’r lletchwithdod. Sefyllian fydd y gweddill o hyd, a bydd ambell un yn teimlo’n fwy lletchwith byth o weld y rhai hyderus wrthi. O dan yr amgylchiadau iawn, fodd bynnag, bydd newid. Nid oes cyhoeddi ar y newid hwn; fe’i teimlir, ac mae’n symud drwy’r dorf. Mae’n perthyn i’r ymysgaroedd, ac nid i’r meddwl. Bydd ambell un arall yn dechrau dawnsio, a’r lletchwithdod wedi codi’n ddirybudd. Bydd rhagor byth o bobl yn dechrau dawnsio hefyd, a’r atalfa wedi ei chodi yn llwyr. Y pryd hynny, bydd yr hunanymwybyddiaeth wedi diflannu, a phrofiad cyfunol yw’r dawnsio sy’n dilyn: mae’n brofiad sy’n bod ar ei delerau ei hun, a dyna sydd. Fel hyn y mae hi gydag iaith, hefyd, yn enwedig mewn sefyllfa fel honno rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, lle mae elfen o ddewis bwriadol, neu lle y gorfodir y siaradwr Cymraeg yn aml i wneud dewis bwriadol wrth fynnu mynd yn groes i rym diofyn y Saesneg. Ym Mhontypridd eleni, roedd y dawnsio wedi dechrau erbyn i mi gyrraedd. Dyma olwg, felly, ar yr hyn sy’n bosib.
v.
Nid yw siaradwyr Cymraeg y Cymoedd yn llai oherwydd colli’r gymdeithas Gymraeg hanesyddol. Dim ond yn y presennol y mae iaith yn byw: nid yw iaith ond crynswth ei siaradwyr, a hebddynt nid yw’n ddim ond tomen o eiriau. Mae’r Gymraeg yn amlwg yn fyw yn y Cymoedd, ac ni fu adeg pan nad oedd yno siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed ar ôl i’r Saesneg fynd yn brif iaith y gymdeithas. Ond perthnasedd y cwestiynau hyn ynghylch olion ac arwyddocâd y gymdeithas Gymraeg honno yw bod yna fwlch o hyd yn naearyddiaeth ddiwylliannol y Cymoedd. Er bod y gorffennol Cymraeg diweddar yn aml heb ei gydnabod, neu hyd yn oed yn anhysbys, erys yn absenoldeb nad aethpwyd i’r afael ag ef. Mae yna hawntio, tawelwch heb ei ddatrys. Mae gwaddol yr iaith yn eglur o hyd, ac mae’r hanes yno i’r sawl sy’n ei geisio. Ymhellach, bydd y rheiny sy’n siarad Cymraeg yn y Cymoedd heddiw yn synhwyro, o bosib yn yr isymwybod, fod yna fwlch rhwng y pryd hynny a nawr lle bo’r iaith dan sylw. Yn sicr, ni tharddodd yr iaith o ddim byd, ac ni chafodd ei chyflwyno na’i phlannu yn ddiweddar o rywle arall chwaith. Efallai fod y shifft iaith wedi ei chladdu a’i throsgyfeirio am ei bod yn brofiad rhy boenus i’w godi yng ngolau clir y dydd; caiff ei chadw hyd fraich mewn gorffennol mythig gyda’r bwystfilod o ddiwydiannau nad oes modd gwir ymdeimlo â nhw bellach, dim ond eu holion. Efallai hefyd fod elfen annaearol i’r Gymraeg yn y Cymoedd heddiw: mae hi’n fynwesol gyfarwydd, ond mae hi eto’n teimlo’n newydd. Mae’r olaf yn arwydd o adnewyddiad, mae’n rhaid. Yn y pen draw, credaf y bydd adnewyddu a normaleiddio’r Gymraeg yn y Cymoedd yn bwrw’r ysbrydion hyn ymaith, a bydd y presennol byw yn gwau ei chwedlau ei hunan. Ond yn ogystal â hynny, mae yna hanes cyfoethog yn aros i gael ei ailddarganfod, ac ni fydd presennol y Cymoedd byth yn ddealladwy heb gydnabod yr hanes Cymraeg hwnnw.
vi.
Pan welwn sêr, nid sêr a welwn ond y golau y maen nhw’n ei allyrru, a chaiff hwnnw ei fesur mewn blynyddoedd golau. Hynny yw, os yw seren yn 10,000 blwyddyn golau i ffwrdd, rydym yn gweld y seren fel yr oedd 10,000 o flynyddoedd yn ôl, am taw dyna pa mor hir y cymerodd i’w golau ein cyrraedd. Er bod y pellteroedd hyn yn anfeidrol fwy na graddfeydd daearyddiaeth Cymru, mae fy mhrofiad i o’r Cymoedd yn debyg i olau’r sêr: daw ataf o bell, ac mae’r Cymoedd a welaf i trwy gyfrwng fy mhrofiad uniongyrchol yn perthyn i’r gorffennol. Mae hi’n ddeuddeg o flynyddoedd ers i mi adael Merthyr i fynd i’r brifysgol, ac nid yw’r dref a adewais yn bod bellach, nid cweit yn yr un ffordd. Fel hyn y dylai fod: nid yw trefi yn aros yn eu hunfan, na phobl chwaith, ac rydw i wedi newid hefyd. Pan oedd fy mhrofiad o’r Cymoedd yn gyfredol ac yn gyfoes, gellid bod yn siŵr fod miloedd y pryd hynny yn syllu yn ôl at eu Cymoedd diflanedig hwythau, er taw fy heddiw i oedd hynny. Nid wyf yn tafoli; bid pethau fel y bônt. Croesawaf y newydd-deb, hyd yn oed os taw amod hwnnw yw fy mod innau’n gadael y llwyfan – dyna ffordd pethau meidrol. Os af i ymhell, bydd y gwreiddiau’n aros. O ran fy mherthynas â Merthyr a’r Cymoedd, gallaf ddweud hyn: rydym yn tyfu ar wahân, ond o’r un cyff.