Gwobrau Tir na n-Og 2017: ABC Byd Natur
Luned Aaron
ABC Byd Natur
Carreg Gwalch, 60tt, £5.95, Hydref 2016
Mi es i ati i greu ABC Byd Natur gan i mi sylwi, ers dod yn fam, bod cyfeirio at enghreifftiau yn y byd naturiol yn ffordd ddigon effeithiol o gyflwyno'r wyddor i blant bach. Roeddwn i hefyd yn gweld y byddai cyflwyno agweddau ar fyd natur yn gweddu i’m harddull, sy'n cynnwys tipyn o arbrofi â phaent a dulliau collage.
Fy ngobaith oedd y byddai i’r gyfrol deimlad naturiol llyfr braslunio, a strwythurau paentiedig unigryw i bob tudalen. Mae cysgodion neu rwygiadau i'w gweld o amgylch y rhan fwyaf o'r delweddau, fel pe baen nhw'n arnofio ar wyneb y ddalen. Doeddwn i ddim am i'r elfen organig ddiflannu yn y cysodi; roeddwn am i hynny fod yn elfen amlwg.
Roedd nodi syniadau wrth grwydro yn yr ardd a mynd am dro, edrych ar blanhigion a'u cyffwrdd, a sylwi ar siapiau a lliwiau, yn rhan bwysig o'r broses, cyn mynd yn ôl wedi hynny i greu'r delweddau a'r strwythurau yn y stiwdio. Roeddwn yn awyddus i’r llyfr fod yn synhwyrus, ac yn llyfr a fyddai'n llawn delweddau chwareus a lliwgar, o ystyried y gynulleidfa ifanc. Roeddwn i hefyd am iddo fod yn llyfr y byddai oedolion a phlant yn ei fwynhau gyda'i gilydd. Dyna oedd y bwriad o'r cychwyn.
Oherwydd testun y gyfrol, yn anorfod, does dim modd ei chyfieithu, ac mae hynny’n fy mhlesio. Ro'n i'n ymwybodol o'r her y mae'r wyddor Gymraeg yn gallu ei chynnig, felly dyna osod bannod neu ragenw o flaen ambell air. Roedd y cymhlethdod sy'n rhan o'r wyddor yn fy ngorfodi i fod yn greadigol ar brydiau. Er enghraifft, gyferbyn â 'Fy Ngellygen', mi osodais ellygen â brathiad yn ei chanol i gyfleu bod rhywun wedi ei pherchnogi.
Mae'r agweddau ar fyd natur sydd yn ABC Byd Natur yn rhai digon cyfarwydd i blant Cymru. Wrth gwrs, mae plant yn sylwi ac yn rhyfeddu ar bethau dipyn mwy nag y byddwn ni oedolion ym mhresenoldeb byd natur. Mewn ffordd, ymgais fach ar fy rhan i ydi'r llyfr i annog plant ac oedolion i werthfawrogi rhai o'r agweddau hyfryd sydd o'n hamgylch ni bob dydd. Gobeithio i mi gyflawni’r nod hwnnw.
Mae Luned Aaron yn artist ac yn awdur. Gallwch ddarllen mwy amdani fan hyn.
Y llyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017 yw: ABC Byd Natur, Luned Aaron (Carreg Gwalch, 2016), Yr Argae Haearn, Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch, 2016), Deg Chwedl o Gymru, Meinir Wyn Edwards (Y Lolfa, 2016), Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn (Gomer, 2016) a Pluen, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2016).