Dadansoddi

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Dim Ond Traed Brain

Anni Llŷn

Dim Ond Traed Brain

Gomer, 32tt, £5.99, 2016

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Dim Ond Traed Brain
Anni Llŷn

Amser darllen: 2 funud

18·04·2017

Yn sgil fy mhenodiad yn Fardd Plant Cymru, roedd hi’n naturiol, am wn i, i Wasg Gomer gynnig fy mod yn creu cyfrol o gerddi newydd yn ystod fy nwy flynedd yn y swydd. Daeth yr alwad, ac ro'n i’n fwy na hapus i wneud. Cafodd pob un o’r cerddi eu hysgrifennu ar gyfer y gyfrol yn benodol … roedd y ddrôr waelod yn wag braidd, felly roedd yn rhaid mynd ati i sgwennu, sgwennu, sgwennu!

Roedd yn gyfnod go ddwys o gyfansoddi a dweud y gwir; cafodd y rhan fwyaf o'r cerddi eu hysgrifennu mewn cyfnod o ddeufis. Y peth cynta’ i’w wneud oedd meddwl am destunau i’r cerddi. Cefais blentyndod hynod ym Mhen Llŷn ac mae nifer o’r cerddi yn y gyfrol yn deillio’n uniongyrchol o atgofion plentyndod – cerddi fel, ‘Clirio’, ‘Esgidiau Newydd’, ‘Glaw ar y Garafán’ ac ‘Eiliad ar y Traeth’.

Fel Bardd Plant ac fel rhywun a fagwyd ar lwyfannau eisteddfodau’n llefaru, rwy’n dychmygu plant Cymru yn darllen neu’n adrodd y cerddi. Felly mae’r cerddi wedi eu hysgrifennu o safbwynt plentyn neu, yn hytrach, o’m safbwynt i fel plentyn … os ydi hynny’n gwneud synnwyr! Oni bai am un gerdd, sef ‘Machlud’; hwiangerdd i’w chanu gan oedolyn ydi honno. Ond roedd ei chynnwys yn y gyfrol yn gyfle perffaith i gyflwyno geiriau newydd fel ‘pendwmpian’, ‘hepian’ a ‘phendrymu’. Mae hi’n hollbwysig herio ac ehangu geirfa plant yr oedran yma, dwi’n teimlo.

Mae ’na gerddi yn y gyfrol sy’n gerddi ‘ychydig bach o hwyl’, fel ‘Pigo Trwyn’, ‘Brechdan Ych a Fi’ a ‘Bwrw Tatws’. Rhain yw’r cerddi syml sy’n dal dychymyg y plentyn ar y darlleniad cyntaf … ac maent yn ffordd dda o dorri’r ias ar ddechrau gweithdy fel arfer!

Rwy’n defnyddio’r gyfrol bob dydd mewn ysgolion. Dwi’n darllen ambell gerdd ac yn dadansoddi ambell un er mwyn dangos bod cerdd yn gallu sôn am un peth ond cyflwyno neges arall, wahanol hefyd. Ond y prif bwynt dwi’n trio’i gyfleu wrth gyflwyno’r gyfrol i’r plant yw bod barddoniaeth yn amrywiol, ac y gall bod yn greadigol gyda geiriau eich harwain chi ar hyd pob math o lwybrau.

Wrth gwrs, mae’r gyfrol yn agos iawn at fy nghalon ac rydw i wrth fy modd ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na-nOg! Ond gwaith tîm sy’n gyfrifol am ei champ. Rwy’n ddiolchgar iawn i Sioned a Gwasg Gomer am ddod â’r cyfan ynghyd. Ond mae’r diolch mwyaf i Valériane Leblond, am greu darluniau cwbl arbennig a thynnu’r gyfrol o gae cyffredin i gae hardd, hudolus a lliwgar … hyd yn oed os mai fi fy hun sy’n dweud hynny!  

Anni Llŷn yw Bardd Plant Cymru.

Y llyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017 yw: ABC Byd NaturLuned Aaron (Carreg Gwalch, 2016), Yr Argae Haearn, Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch, 2016), Deg Chwedl o Gymru, Meinir Wyn Edwards (Y Lolfa, 2016), Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn (Gomer, 2016) a Pluen, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2016). 

Y prif bwynt dwi’n trio’i gyfleu wrth gyflwyno’r gyfrol yw bod creu gyda geiriau yn eich harwain ar hyd pob math o lwybrau

Pynciau:

#Gwobrau Tir na n-Og
#Anni Llŷn
#Llyfrau plant