R S Thomas


Neb

Gwasg Gwynedd, 132tt, £4.25, 1986

‘Roedd yno borthladd da ...’
Dadansoddi

‘Roedd yno borthladd da ...’

Crwydro Caergybi


Angharad Price

Amser darllen: 15 munud

22·07·2017

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd nid yn unig yn ddolen gyswllt holl bwysig rhwng Prydain ac Iwerddon ond hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Mae ’na rywbeth am yr arwydd mawr Cymraeg a Saesneg, Porthladd Caergybi / Port of Holyhead, sy’n cynhyrfu’r gwaed. Ar ôl croesi gwastadeddau Môn hyd lyfnder yr A55, a gweld yr enwau cyhyrog yn ymganghennu oddi arni – Llanfairpwllgwyngyll, Pentre Berw, Aberffraw, Gwalchmai, Rhosneigr – mae berw rhyngwladol y porthladd yn syndod, ac yn mynd â’ch gwynt. Pob lori o wlad wahanol. Babel o blatiau rhif. Sloganau amlieithog yn blith-draphlith (amrywiadau pan-Ewropeaidd ar ‘logistic’ a ‘transport’ fel arfer). Ciwiau cynyddol y ceir, a’r pick-ups wedi’u pacio. Ac ar wasgar ym mhob man, logo emrallt Irish Ferries ac un gwyn, syberach Stena. A’r eirfa neilltuol: customs, foot passengers, freight

Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma. Mae’n fwy nag antur y fordaith, ac yn fwy na’r awydd i gyrraedd Iwerddon (er mor gryf y gall hwnnw fod). Mae yma antur, addewid ac arswyd, fel ymhob porthladd. Ond gwefr dod i Gaergybi’n benodol ydi cael gweld o flaen eich llygaid Gymru’n ymgysylltu â’r byd. Er ei bod ar ein cyrion eithaf, mae’n ganolbwynt o fath inni hefyd. Dyma borth y Gymru Gymraeg i briffyrdd y byd. Ac o holl olygfeydd godidog Môn, does dim sy’n fwy cyffrous na sefyll ar forglawdd igam-ogam Caergybi a gwylio’r llongau’n ymadael neu’n agosáu. Mae’n hardd i ryfeddu, ac yn llawn posibiliadau.

‘Dros beth mae Caergybi’n sefyll?’ holodd R S Thomas yn ei hunangofiant, Neb, cyn rhoi ateb nodweddiadol grafog: ‘Dros y môr, debyg iawn, am mai ynys ydi hi.’ Ynys o fewn ynys o fewn ynys; yr ynys sy’n gwneud tir mawr o Fôn sy’n gwneud tir mawr o Gymru; ac nid oes unman yn yr hunangofiant hynod hwnnw a ddarlunnir gyda mwy o gynhesrwydd synhwyrus na Chaergybi, lle y magwyd y bachgen yn arogl yr heli, sŵn y tonnau a mynd-a-dod diddiwedd y llongau: ‘Chwaraeai, rasiai, âi i ymdrochi yn y môr, i rwyfo cwch, i bysgota …’ Fel y tystia RS, ac fel y gwelir ym morluniau grymus Iwan Gwyn Parry, artist arall sy’n frodor o Ynys Gybi, mae hon a’i harfordir yn gyforiog o ryfeddodau naturiol, o gilfachau hyfryd Porth Ruffydd a Phorth Dafarch, a hynodweddion daearegol fel Bwa Gwyn Rhoscolyn, i glogwyn aruthrol Ynys Lawd neu’r golygfeydd bendigedig o ben Mynydd Twr. Fel mwyafrif arfordir Môn, dynodwyd Ynys Gybi yn ei chyfanrwydd, bron, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae yma sawl cynefin i rywogaethau prin.

Ynys Lawd, Shutterstock

Ynys Lawd, Shutterstock

Ond yr hyn sy’n gwneud y rhan hon o Fôn yn wirioneddol gyfareddol yw ymwneud hir ac amrywiol dyn â’r adnoddau naturiol hynny. Er i William Morris, y trydydd o Forysiaid Môn a oedd yn swyddog tollau ym mhorthladd Caergybi, gwyno’n goeglyd ei fod yn byw ‘ar ymyl morgraig lom, lle nid oes fawr Ddiddanwch’, roedd yn byw yn y lle gorau un i lysieuydd a naturiaethwr brwd a ymddiddorai yr un mor angerddol mewn hynafiaethau. Hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl, medd yr arbenigwyr, denwyd yr anheddwyr cyntaf yma, fel i Fôn gyfan, ar sail rhinweddau’r ynys, a’i safle’n amddiffynfa naturiol. Roedd yma ogofâu’n noddfa, ac anifeiliaid, pysgod a chregyn môr yn ymborth. Prin y gadawodd y gwareiddiad cyntaf hwnnw ei ôl, ond mae olion yr oesau diweddarach yn frith hyd Ynys Gybi: naddion fflint o’r Oes Fesolithig yng nghytiau Tŷ Mawr, claddfeydd Neolithig Porth Dafarch, ac olion dylanwadau newydd a ddaeth ar draws y môr yn donnau o bobloedd a syniadau – a chnydau, hyd yn oed, i dir ffrwythlon Môn. Mae olion fferm soffistigedig o’r Oes Haearn yn dal yn Nhŷ Mawr heddiw, tra darganfu W O Stanley, cymwynaswr mawr y Gaergybi Fictoriaidd, olion gweithfeydd metel rhwng tai crynion yr un safle. Mewn rhan arall o Ynys Gybi, heb fod nepell o dŵr sigarét y gwaith alwminiwm, saif siambr gladdu Trefignath, un o feddrodau niferus Môn, yn dyst i barch dyn i’w dreftadaeth, yn ogystal â’i bryder erioed ynghylch parhad yr hil. Aeth yr haenau hyn o hanes yn rhan o wead Ynys Gybi ei hun, ac wrth ei chrwydro heddiw mae’r cyfoeth cyferbynnus o’ch cwmpas i gyd ac yn rhoi ansawdd arbennig iddi. I fryngaer gynhanesyddol Mynydd Twr, er enghraifft, fe ddaeth y Rhufeiniaid i godi gorsaf rybuddio (rhag môr-ladron o Fôr Iwerddon), ac mae seiliau’r waliau hynny’n dal i sgwario yno, gan gyferbynnu â thrywyddau ceimion y waliau sych. Ar lawr y dref codasant gaer filwrol i gadw llygad ar y porthladd, yn rhesi unionsyth o gerrig nadd ar letraws. Ond aeth honno, yn ei thro, i feddiant ‘Cybi felyn’, nawddsant yr ynys, yn gorlan i’w feudwyfa. Ac mae’r waliau Rhufeinig yn dal i sefyll heddiw, yng nghanol y dref fodern, yn rhagfur i eglwys hardd Sant Cybi lle mae’r yfwrs canol-dydd, a’u cefn ar y cerrig beddi, yn dal i syllu’n bell tua’r môr – yn union fel y vigiles gynt.

Dyna pam y mae’n rhaid i mi anghytuno â Bobi Jones yn Crwydro Môn pan ddaw i’r farn fod ‘pob tref yn ddiflas. Ond mae Caergybi’n ddiflas, ddiflas.’ I’r gwrthwyneb! Mae pob tref yn ddifyr. Ond mae Caergybi’n ddifyr, ddifyr. Mae’n wir nad hon yw’r fwyaf cynlluniedig a chymesur o drefi Cymru, ond beth sydd i’w ddisgwyl a hithau’n dref borthladd, ac yn dangos holl ad-hocrwydd y llefydd hynny sydd ddim ond yn lledaenu lle bo’r gofyn? Mae difyrrwch di-ben-draw i’w gael o grwydro’r strydoedd gogwyddol, a dylanwadau hen a newydd yn dal yn gybolfa braf: y bwyty Mecsicanaidd a’r caffi Cymreig, y Clwb Ceidwadol a’i baent pliciedig y drws nesaf i oriel arlunydd, y Boots a’r siop bysgota, capel mawr Hyfrydle MC, lle cynhaliwyd cyngerdd coffa fy ffrind Sian Owen, a B&B go bethma. Mae ’na sgyrsiau parod i’w cael yn y siopau, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn fynych yn facaronig, er bod yr iaith fain gryn dipyn yn fwy cyffredin: rhyw 12 y cant o blant yr ysgol uwchradd sy’n dod o gartrefi Cymraeg erbyn hyn, ffigwr sydd rywfaint yn is na phan oedd fy mam yma’n athrawes cyn i mi gael fy ngeni. Ond mae’r arwyddion ar flaen y George Hotel yn y ddwy iaith bob un, ac mae yna bobl yn codi bys bach yn y ddau gyfrwng yn nhafarndai’r dref, gan gynnwys y Gleesons Free House, sydd ag ysgrifen Wyddelig a siamrocs ar ei arwydd, ochr yn ochr â ‘Chroeso’ a chennin pedr.

Ac oes, mae ’na dinc o’r Wyddeleg yma o hyd: mae i’w gweld ar y cyd â’r Gymraeg a’r Saesneg yn ffenest menter ynni llanw Minesto, yn arysgrif y fainc ar ben Stryd Stanley ac yng nghyfenwau’r trigolion. Os oes yna ystyr ehangach i’r label ‘Porth Celtaidd’ o gwbl, yn yr hybridedd hwnnw sy’n elfen mor ganolog yng nghymeriad Caergybi y mae hynny, yn hytrach nag yn y bont loywlyfn ddur sy’n cysylltu’r porthladd â’r dref heddiw. Magwyd fy hen daid, Jac Price, yn y dref, yn fab i Gymro a Gwyddeles, ac yn Gymro Cymraeg ei hun. Mynnai Cledwyn Hughes fod y Cymry, y Saeson a’r Gwyddelod yn cyd-fyw’n gytûn yng Nghaergybi, yn ieithyddol a chymdeithasol; gwir ai peidio, mae’n arwyddocaol fod ieithegydd enwocaf Prydain wedi’i fagu yn y dref: David Crystal, y gŵr sydd wedi taro’r post yn y Seisnicaf o gyd-destunau wrth fynnu bod ‘dysgu ieithoedd ein gilydd yn gam cyntaf at ddod yn ffrindiau’.

Ychydig o dystiolaeth sydd, serch hynny, i’r Cymry a’r Gwyddelod ddysgu eu hieithoedd ei gilydd, ac yn y canrifoedd diweddar y Saesneg, iaith Coron Lloegr ac iaith byd busnes, fu’r lingua franca rhwng y ddwy wlad, yn enwedig yng nghyswllt y porthladd. Does dim dwywaith na fu hwnnw’n allweddol i economi Iwerddon a Chymru ill dwy, ac mae’n parhau i fod felly. Ond mynd trwy Gaergybi, nid aros ynddi, a wna’r cyfoeth gan mwyaf. Enghraifft drawiadol o hynny, fel y sonia Irene yn siop bysgod W G Edwards wrthyf, yw’r hyn sy’n digwydd pan ddocia’r llongau mordaith moethus yma (disgwylir hyd at ddeugain ohonynt eleni, y nifer mwyaf erioed): llwythir y teithwyr ar fysys a’u cludo’n ddisymwth ymhell oddi yno i weld cestyll Normanaidd Biwmares a Chaernarfon, ac i ryfeddu at ogoniannau Eryri os bydd y niwl yn caniatáu. Canran bitw o holl ddefnyddwyr y porthladd sy’n oedi yng Nghaergybi, er gwaethaf ei holl atyniadau, ac fel y pwysleisia Irene, byddai’r dref yn elwa’n fawr o dwristiaeth fwy dychmygus.

Cerdyn post o Gaergybi, parth cyhoeddus

Cerdyn post, Caergybi, tua 1850 (Creative Commons)

Mae’r dref hon wedi dioddef fel pob tref sy’n ddibynnol ar fasnach a thrafnidiaeth a’r hyn-sy’n-mynd-heibio, a chafodd ei siâr o helbulon. Dioddefodd yn enbyd yn ystod y rhyfel masnach rhwng Prydain a Gweriniaeth Rydd Iwerddon yn y 1930au, pan oedd dros hanner y boblogaeth yswiriedig yn ddi-waith. Ac er cryfhau’r economi wedyn – wedi ymdrechion dygn i ddenu diwydiannau newydd – cododd lefel y diweithdra’n boenus o uchel unwaith eto yn nyddiau tywyll y 1980au. Dagrau pethau erbyn hyn ydi bod pethau’n gwaethygu drachefn. Gwelodd y blynyddoedd diwethaf galedi enbyd yn yr ardal: collwyd chwe chant a hanner o swyddi mewn blwyddyn yn 2009, pan gaeodd Alwminiwm Môn ac Eaton Electric eu drysau, ac er dynodi Caergybi, fel gweddill Môn, yn ‘barth menter’ gan Lywodraeth Cymru, ‘Coming Soon’ sydd ar arwydd Parc Diwydiannol Cybi ers tro byd, a defaid yn pori wrth fôn yr hysbysfwrdd. Mae ’na barc adwerthu digon llewyrchus yn ardal Penrhos, ac unedau busnes bach ffyniannus wrth gefnau’r superstores hynny. Ond mae’r argyfwng economaidd yn effeithio ar y cewri cydwladol hyd yn oed: y tro diwethaf i mi bicio yno roedd siop esgidiau Brantano’n blastar o bosteri Last Few Days, ac yn mynd mor bell â gwerthu’u silffoedd (gwag). Er difyrred yr olion diwydiannol sy’n frith dros Ynys Gybi (megis yr hen felin wynt gerllaw cae’r Holyhead Hotspurs, olion chwarel gwartsid Rhoscolyn neu simdde’r gwaith brics ym Mharc y Morglawdd), dydi hi ddim mor hawdd rhamantu’r olion diwydiannol mwy diweddar, a’r erydu cymdeithasol a ddaw yn sgil dirwasgiad. Mae yna bryder dilys am ddiboblogi, a cholli’r ifanc hyfforddedig.

Eleni, a Brexit eisoes yn yr arfaeth a’r ofn y daw ffin galed rhwng Prydain ac Iwerddon, pryderir y bydd tariffau newydd yn mennu ar hyfywedd y porthladd hyd yn oed. Un o drasiedïau eironig y blynyddoedd diwethaf fu’r twf yn y gefnogaeth i UKIP, yn y dref a fu’n gadarnle cyhyd i Lafuryddiaeth. Bu blychau pleidleisio Caergybi’n gryf o blaid Brexit, er bod y porthladd wedi elwa’n anfesuradwy o fodolaeth yr Undeb Ewropeaidd, a bod y faner las a’i sêr melyn yn stamp ar bob math o ‘welliannau’ yn y dref (gan gynnwys mynedfa’r orsaf reilffordd, mynwent yr eglwys, tramwyfa Ynys Lawd, y parciau busnes ac, yn fwyaf diweddar, y miliynau a roddwyd i drwsio adeilad hardd Neuadd y Farchnad). Yn y cyfamser, unwaith eto fyth, gall Caergybi hawlio’r clod o fod â’r lefel diweithdra uchaf yng Nghymru, yn deirgwaith y cyfartaledd cenedlaethol: am bob un swydd sy’n mynd, mae ’na saith yn ymgeisio amdani. Fel ym Môn gyfan, mae cyflogau’n is yma, afiechyd hir-dymor yn fwy cyffredin a’r dynion ddwywaith yn fwy tebygol o gael triniaeth ysbyty am broblemau alcohol a chyffuriau nag yng ngweddill gogledd Cymru. Yn ôl yr elusen End Child Poverty mae dros 40 y cant o blant Caergybi’n cael eu magu mewn tlodi: dyna ddau blentyn o bob pump yn byw ar aelwyd lle nad oes digon o arian i dalu am anghenion sylfaenol byw. Mae Digartref Môn, sy’n gofalu am bobl fregus ac anghennus, rhai ifanc yn bennaf, yn cael trafferth ymdopi â’r holl alwadau sydd arnynt, tra bo Pantri Pobl, y corff sy’n gweinyddu banciau bwyd, yn gweld cynnydd parhaus yn y niferoedd sy’n troi atynt rhag llwgu – stori sobreiddiol sy’n gyfarwydd trwy Gymru gyfan.

Dydi hi ddim yn syndod, felly, ffyrniced y dadlau am godi Wylfa B bymtheng milltir i ffwrdd o Gaergybi (testun Hollti gan Manon Wyn Williams, drama gomisiwn Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Môn eleni). Pan gaewyd yr hen atomfa yn 2010, collwyd mil a hanner o swyddi. Sonia cwmni Horizon y bydd angen wyth mil o weithwyr i adeiladu’r Wylfa newydd, ar gost o £8 miliwn dros gyfnod o naw mlynedd, ac y cyflogir, maes o law, wyth gant a hanner o weithwyr hyfforddedig yn barhaol. (Mae Horizon eisoes wedi bod yn cydweithio â Choleg Menai yn Llangefni i noddi prentisiaid peirianyddol lleol.) A’r angen am swyddi’n daer, mae’r fath ffigyrau’n dra deniadol. Gwaetha’r modd, nid dyna’r darlun llawn, fel y tystia’r anghytuno. Mae dadleuon grwpiau megis PAWB yn erbyn ynni niwclear yn dal i argyhoeddi llawer, a fersiwn diweddaraf, rhatach cynllun Horizon (a gyhoeddwyd ddiwedd Mai 2017) yn peri pryder pellach ynghylch diogelwch. Ac os elwodd rhai deiliaid o werthu talpiau o’u tir i arfaethu’r atomfa newydd, fu eraill ddim mor frwd dros ildio’u cartrefi i compulsory purchase order cwmni grymus, globaleiddiedig sy’n rhan o ymerodraeth Hitachi.

Ond efallai mai Horizon ei hun a amlygodd yn fwyaf amlwg arwyddocâd tyngedfennol y cynllun i’r rhan hon o Fôn, a hynny yn eu cyfaddefiad agored mai chwarter yr adeiladwyr a fyddai’n debygol o ddod o ‘ogledd Cymru’ (ni sonnir am y filltir sgwâr), ac y byddai llai na hanner y staff parhaol yn debyg o hanu o Fôn, ffigyrau a ddisgrifiwyd gan Gyngor Môn ei hun yn siomedig o ‘anuchelgeisiol’. O wireddu’r cynllun, felly, byddai chwe mil o weithwyr (sef hanner poblogaeth gyfan Caergybi), ynghyd â’u teuluoedd, yn cyrraedd ardal yr Wylfa o’r tu allan i ogledd Cymru. Mae arbenigwyr eisoes wedi nodi y byddai’r straen ar isadeiledd yr ardal yn drwm, tra ofna eraill y mennid ar ansawdd twristiaeth (prif ddiwydiant Môn erbyn hyn). Nid yw ymgais Horizon y llynedd i ddileu cymal iaith polisïau cynllunio cynghorau Gwynedd a Môn yn gwneud dim i leddfu’r amheuon nad ydi gwarchod cymeriad arbennig yr ardal, a’r iaith Gymraeg hithau, yn un o flaenoriaethau’r cwmni. Yn halen ar y briw, rhoddwyd caniatâd cynllunio hynod ddadleuol yn gynharach eleni i gwmni Land and Lakes godi pum cant o ‘fythynnod’, ynghyd â chyfleusterau chwaraeon, siopau a bwytai ar dir gwyllt Parc Arfordirol Penrhos, yn ogystal â rhyw chwe chant o dai pellach yn ardal Kingsland a Chae Glas Caergybi (cynllun gwerth £120 miliwn). Hwn oedd y cais cynllunio mwyaf erioed i ddod gerbron Cyngor Môn, a bu caniatáu’r datblygiad yn destun loes i ymgyrchwyr iaith ac amddiffynwyr yr amgylchedd fel ei gilydd. Y nod, yn rhannol, oedd cartrefu adeiladwyr Wylfa B yn nhreflan fawr Land and Lakes, ond bwriad Horizon bellach, o gael eu go-ahead yn derfynol, yw cartrefu hanner y gweithlu eu hunain, ac mae’r dadlau’n dwysáu.

O wireddu’r naill gynllun neu’r llall, byddai’r Seisnigo a ddôi yn sgil graddfa’r newid poblogaeth yn ei gwneud yn amhosib sicrhau hyfywedd y Gymraeg yn y rhan hon o Fôn – os nad yn yr ynys drwyddi draw, ym marn rhai. Mae ’na ddarogan iasol, rywsut, yn enw gwastataol Horizon a gwegi dihanes enw Land and Lakes, a’r pryder gwirioneddol yw y byddai ildio’n ddiwrthwynebiad i’w hewyllys yn creu unffurfedd ieithyddol a diwylliannol sy’n anghydnaws â chymeriad amryfal yr ardal erioed. Dydi’r patrymau cyfanheddu a welwyd yn ddiweddar mewn rhannau o Ynys Gybi ddim yn galonogol: ganed bron i hanner poblogaeth ward Trearddur, er enghraifft, yn Lloegr, a hon ydi un o gymunedau mwyaf uniaith (Saesneg) Môn. Pan sonnir am wanychiad y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, felly, nid rhyw edwino naturiol mohono, ond yn hytrach benderfyniad ymwybodol miloedd o oedolion i beidio â dysgu Cymraeg ar ôl symud i Fôn i fyw – neu ‘the island’, ys dywedir ar lafar gwlad. Boed yn ymwybodol ai peidio, mae yna ideoleg unffurfiol ar led.

‘Nid ynys mo Ynys Môn,’ meddai Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd ‘Tryweryn’, ac yn yr ystyr honno nid ynys mo Ynys Gybi chwaith. Trychu Môn fyddai colli Ynys Gybi, fel y byddai colli Môn (Duw a’n gwaredo) yn trychu Cymru. Bu Ynys Gybi’n gostrel ein hamryfalwch erioed; daliodd yr holl ddylanwadau, yr holl fynd a dod ar fôr ac ar ffyrdd, a chynnwys y cyfan yn ei chymeriad cyferbynnus a dengar. Mae’n haeddu ei hymgeleddu. Ond mae fel petai ynom, Gymry Cymraeg, ryw ddifrawder – braw, hyd yn oed – wrth ymwneud â hon, ynghyd â’r gaer sy’n galon iddi. Neu efallai inni fod mor brysur yn boddi nes anghofio bod gennym hawl ar borthladdoedd. Beth bynnag fo’r rheswm, mynd trwy Gaergybi a wna’n trwch ninnau.

‘Roedd yno borthladd da,’ llawenhaodd R S Thomas wrth gofio’i blentyndod yng Nghaergybi ganrif yn ôl, ac am y tro fe ddeil hynny’n wir, a chynlluniau Horizon a Land and Lakes yn dal yn y fantol, a gwir effeithiau Brexit ar berthynas Cymru ac Iwerddon yn dal yn aneglur. Ar hyn o bryd mae berw rhyngwladol y porthladd yn dal i fynd â’ch gwynt, a sefyll ar y morglawdd igam-ogam yn gwylio’r llongau’n ymadael neu’n agosáu mor gynhyrfus ag erioed, yn olygfa hardd i ryfeddu ac yn llawn posibiliadau. Yn y dref gyfoethog-a-thlawd hithau, mae’r sgyrsiau’n dal, hyd yn hyn, yn facaronig, a’r ‘Porth Celtaidd’ yn dal yn hybridedd blêr a byw.

Ond pan fyddaf yn troi tuag adref ar ddiwedd dydd o grwydro, gan deithio’n ôl hyd lyfnder yr A55 a gweld o’r newydd yr enwau Cymraeg cyhyrog yn ymganghennu oddi arni – Rhosneigr, Gwalchmai, Aberffraw, Pentre Berw, Llanfairpwllgwyngyll – a phan fyddaf yn gadael tir mawr Môn i gyrraedd tir mawr Arfon, ni allaf ond teimlo fy mod wedi troi cefn ar le go arbennig. Ynys o fewn ynys o fewn ynys. A honno, er ei bod ar ein cyrion eithaf, yn ganolbwynt o fath inni hefyd.


Gyda diolch i Robat Trefor.

Mae Angharad Price yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdur cyfrolau academaidd a chreadigol. 

Llyfryddiaeth

Bobi Jones, Crwydro Môn (Llyfrau’r Dryw, 1957)
Frances Lynch, Môn: Tirluniau’r Arfordir Gynt, cyf. Glenda Carr (Windgather Press, 2009)
D Ben Rees, Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wŷr Mawr Môn a Chymru (Y Lolfa, 2017)
Emlyn Richards, Cymeriadau Ynys Môn (Gwasg Gwynedd, 2004)
R S Thomas, Neb (Gwasg Gwynedd, 1985)
J Richard Williams, Croesi i Fôn: Fferïau a Phontydd y Fenai (Gwasg Carreg Gwalch, 2017)


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 4, Angharad Price, Ysgrifau, Môn

 


Efallai inni fod mor brysur yn boddi nes anghofio bod gennym hawl ar borthladdoedd

Dyddiad cyhoeddi: 22·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…