Dadansoddi

Nofio i fyd arall

Amy Liptrott

THE OUTRUN

Canongate, 304tt, £9.99, 2016; 2018

Andrew Fuzek Peters

DIP: WILD SwIMS FROM THE BORDERLANDS

Rider, 256tt, £8.99, 2015

Siân Melangell Dafydd

Y TRYDYDD PETH

Gomer, 168tt, £6.99, 2009

Roger Deakin

WATERLOG: A SWIMMER's journey through britain

Vintage, 340tt, £9.99, 2000

Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 12 munud

27·04·2019

Nofio yn y glaw

Dwi wedi mwynhau nofio mewn dŵr rhewllyd erioed. Roedd fy Mormor, Hanna Helena (mam fy mam, yng ngogledd Sweden) yn nofio yn llynnoedd yr Arctig bob cyfle a gâi, cyn belled â bod y dŵr heb rewi’n gorn, ac mae’n debyg fy mod i a fy chwaer wedi tynnu ar ei hôl. Neu fallai mai fy nain ar ochr arall y teulu sydd ar fai. Fel merched ifanc, byddai hi, Mair, yn mynd â fy chwaer a minnau i Ddinas Dinlle, ger Caernarfon, ac yn gadael i ni neidio yn y tonnau blêr – yn y glaw, ym mis Tachwedd. Byddai’n aros yn y car, ei chot aeaf amdani, tyweli yn ei chôl. Yn debyg i Hanna Helena, deallai yr ysfa i ildio i’r elfennau. Fe’i magwyd yn Chwilog, ar gyrion Pen Llŷn, ac roedd hi’n gyfarwydd â thynfa’r môr, y pleser masocistaidd o lamu yn yr ewyn gwyn, fferllyd, y tywod yn gwasgu rhwng bodiau’r traed. Gwyddai mor gyffrous oedd cael y môr i chi eich hun wedi i’r twristiaid fynd adre: dim un enaid byw o gwmpas, dim ond gwylanod yn griddfan yn y gwynt. Mae’n siŵr ei bod yn cofio’r teimlad braf hwnnw a ddeuai wrth dynnu’ch dillad amdanoch wedyn, y gwaed yn dechrau cynhesu, bodiau’r traed yn deffro drachefn. Amyneddgar iawn oedd Nain wrth aros amdanom. Efallai fod atgofion ei phlentyndod wedi llifo drosti fel dŵr. 

Dwi’n cofio fy ffrindiau a minnau yn ymdrochi mewn afon ger yr Wyddgrug pan nad oedd y barrug ar y lan na’r rhew ar y dŵr ond prin wedi dadmer, a sioc yr oerfel yn gwneud i ni chwerthin yn afreolus. Neidio i mewn i’r afon ym Metws-y-coed ar ôl dringo’r Wyddfa efo’r Clwb Mynydda, yn wlyb gan chwys, y dŵr yn cynnig rhyddhad nefolaidd o wres yr haul, yn falm i’r cyhyrau. Mynd efo ffrindiau i nofio yn y llyn glas-wyrdd arallfydol nid nepell o Abermaw, eco ein bonllefau ecstatig yn drybowndian trwy’r hen chwarel. Gweiddi ar Dad i stopio’r car pan oedden ni’n teithio trwy Sweden, cyn llamu i’r llyn efo fy chwaer, a dychwelyd i’r car yn teimlo’n fyw, fyw, y salwch teithio a’r syrthni wedi mynd.

Weithiau roedd pethau’n mynd o’i le. Teimlad annifyr oedd canfod fy hun yng nghanol llyn yn Sweden yn ystod storm fellt a tharannau. Nofiais fel fflamiau i’r lan a rhedeg i ddiogelwch y garafán, yr awyr yn fflachio’n fygythiol, y mellt fel petaent yn fy nilyn. (Profiad gwefreiddiol ydi nofio mewn cawod drom o law, y ffin rhwng yr aer a’r dŵr a’r corff fel petai’n diflannu’n gyfan gwbl – ond mae’n debyg y gall rhywun gael gormod o wefr wrth beidio â bod yn ofalus.) Dro arall arhosais yn yr afon Dulas yn rhy hir, wedi fy swyno gan harddwch y lleoliad, ac fe grynais yn y bàth am oriau wedyn, yr oerfel wedi gafael yn fy esgyrn. Dysgais wers bwysig. Rhaid gwrando ar y corff.

Unwaith codais ofn ar gariad newydd wrth ddiosg fy nillad ar lan y môr yn fyrbwyll. Un o’r ddinas oedd o. Roeddem ar draeth anghysbell ym Mae Ceredigion. Aeth i banic wrth imi ddadwisgo a rhedeg yn noethlymun i’r dŵr. Doedd neb ar gyfyl y lle ond nid ymlaciodd nes i mi ddychwelyd a chuddio fy nghorff o dan swimper fawr wlanog. Roedd o’n poeni fy mod am gael fy arestio. Ddaru’r berthynas ddim para’n hir. Doedd y ddau ohonon ni fyth yn mynd i ddeall ein gilydd.

✒︎

Erbyn hyn mae llawer o sôn am wild swimming. Ceir lluniau di-ri ar Instagram gyda hashnodau fel #WildSwimming, #OutdoorLiving, #LivingTheDream, ynghyd â hashnodau megis #CleanEating a #HealthyLifestyle. Mae wedi dod yn ffad. Ac eto, dyma fi’n sgwennu am nofio gwyllt. Beth am ei alw’n rhywbeth arall, efallai? Rhywbeth llai ffasiynol, fel ‘nofio awyr agored’? ‘Nofio tu allan’? ‘Nofio naturiol’? Wedi’r cwbl, prin iawn yw’r llefydd gwyllt erbyn hyn. Mi fues i’n nofio yn y Tafwys tra oeddwn yn byw yn Rhydychen, a chofiaf ryfeddu at las y dorlan wrth nofio, y glas metalig, trydanol yn fflachio heibio – ond nid gwyllt oedd y lle hwn. Roedd yn ddychrynllyd o ddof, a hymian y draffordd yn drac sain parhaol. Hyfryd oedd cael ymdrochi a dianc rhag prysurdeb y ddinas, ond man chwarae i ni, yr Homo sapiens, oedd hwn, nid gwylltir, ac roedd cael cip ar greadur arall bob amser yn syndod.

Tra gwahanol ydi’r profiad o nofio yn nyffryn Dyfi, fy nghartref ers dros ddegawd bellach. Pan af i ymdrochi yn y Ddyfi, y Llyfnant, y Ddulas, y Cletwr, y môr, y llynnoedd bach cudd nad ydwyf am eu henwi, teimlaf fel ymwelydd, y dŵr yn ferw o fywyd. Mae bywyd gwyllt o dan fygythiad dwys fan hyn fel pobman arall, wrth gwrs, a digalon yw gwrando ar fy nghymydog – pysgotwr brwd – yn trafod cyn lleied o bysgod sydd yn yr afon bellach. Er hynny, ar ôl symud i’r ardal o Rydychen, rhyfeddais at y creaduriaid oedd yn fy amgylchynu wrth nofio. Crëyr glas, bwncath, barcud, glas y dorlan, sigl-di-gwt, mulfran yn chwilio am ei swper, gwyddau yn clegar uwch fy mhen. A’r creaduriaid llai amlwg, hefyd: pryfed o bob math (y rhai nad ydynt wedi mynd ar ddifancoll), penbyliaid, pysgod pitw bach yn cosi bysedd fy nhraed.

Unwaith, wrth ymdrochi yn y môr ger Ynys Las, gwibiodd haid o ddrudwyod dros fy mhen, o fewn hyd braich, a symud eu hadenydd torfol yn sibrwd hudolus. Am eiliad, meddyliwn fy mod wedi dychmygu’r peth. Wrth nofio, mae modd cael cipolwg agosach ar greaduriad sydd fel arfer yn swil. Dro arall, roeddwn i’n eistedd ar lan yr afon Ddyfi, yn lluchio cerrig yn ddifeddwl, pan sleifiodd creadur mawr tywyll tuag ataf o dan y dŵr. Roedd rhywbeth bygythiol am ei symudiad, ac am eiliad o afreswm credais mai crocodeil oedd yn dod ar fy ôl. Neidiais ar fy nhraed. Daeth y creadur i’r wyneb, yn chwythu bygythion, â golwg flin tu hwnt arno: morlo oedd hwn – tarw. Roedd wedi cynhyrfu am fod y cerrig ro’n i’n eu taflu yn dychryn y pysgod. Pan dawodd fy nghalon drachefn, cofiais fod fy nghymydog wedi sôn wrthyf am y morloi yn nofio i fyny’r Ddyfi yn ystod y llanw uchel, yn dod mor bell â Machynlleth i chwilio am fwyd. Nid yw hyn yn plesio’r pysgotwyr, wrth gwrs, gan eu bod yn cystadlu am yr eog a’r brithyll. Ond roeddwn i ar ben fy nigon: dyma’r tro cyntaf imi ddod yn agos at forlo. Efallai y byddwn i’n cwrdd â dyfrgi rhyw ddiwrnod. Yn blentyn, poster mawr o ddyfrgi oedd gen i ar wal fy stafell wely, nid seren bop. 

✒︎

Ceir disgrifiadau cofiadwy o ddyfrgwn, Afon Dyfrdwy a nofio naturiol yn Y Trydydd Peth (2009), nofel hynod Siân Melangell Dafydd. Cyfeiria’r teitl at y drydedd elfen sydd mewn H20, ar ben yr hydrogen a’r ocsigen, na ellir ei henwi, syniad ddaeth yn wreiddiol gan D H Lawrence. Mae’r gwaith hwn yn dod mor agos ag y cyrhaeddodd unrhyw un yn y Gymraeg, mae’n debyg, at ddisgrifio natur dŵr a’r briodwedd ddirgel sydd iddo, priodwedd sydd mor anghaffaeladwy â’r dyfrgi. 

Cydnabyddir gan yr awdur, er enghraifft, bod gwahanol fathau o ddŵr gwyllt, sydd yn teimlo’n gwbl wahanol i’w gilydd. Fel y dywed yr adroddwr, George, sydd ag obsesiwn gyda’r Ddyfrdwy, afon ei gynefin: ‘Mae dŵr llyn yn wahanol i ddŵr y Ddyfrdwy. Mae hi’n feddal, ac yn sidanaidd, tra bo’r llyn yn llac amdanoch chi.’ Mae’r môr yn wahanol eto, wrth gwrs, yr halen yn sychu’r croen, a’r dŵr cymaint yn fwy hynawf [buoyant] na dŵr croyw, sydd yn ei gwneud hi’n llawer haws nofio. Fel esbonia George: ‘Mae o’n gafael yng nghorff rhywun nes gwneud i chi deimlo’n arbennig o saff.’ Ac mae aroglau dŵr yn amrywio, hefyd: yr afon yn arogli o fwsogl a mwd, y môr yn arogli o halen a gwymon a chrancod – a hyn oll yn amrywio yn ôl y tymhorau a’r tywydd. 

Dydi’r glaw ddim yn rhwystro George rhag nofio: ‘Os ’di glaw yn anfon pobl i lechu dan fargodau a choed, a chadw pawb arall yn eu tai, mae hynny’n rhoi rhyddid i mi, tydi? Ers pryd dydi croen ddim yn sychu?’ Mae yna elfen wrthryfelgar i’r cymeriad hwn: gwthia’n erbyn y confensiynau, y waliau (trosiadol a llythrennol) sydd yn gallu ein cyfyngu. Disgrifia’r ‘tarth tlws dros y dŵr’ wrth i’r diferion glaw lanio, ac yntau â ‘golwg broga’ wrth nofio. Uniaethaf yn llwyr â George, sydd yn teimlo atynfa’r dŵr a’i greaduriaid pan aiff pethau’n anodd ar y tir, sydd eisiau i’r afon ei hawlio yn union fel y mae yntau’n hawlio’r afon. Nofio, meddai, ‘sy’n cael gwared ar y gofidiau’. Cyfaddefa ei fod yn ‘teimlo pethau i’r byw,’ a bod nofio’n ‘gwneud synnwyr o bethau eto’: 

Allwn i wneud dim byd ond dymuno bod yn ôl o dan y dŵr a dengid oddi wrth y tir sych. Isio cwmni gwas y neidr glasfaen – yn eu miloedd – yn chwipio blaen fy nghlustiau, a glas y dorlan fu’n fy hela i. Isio dweud ‘Bw!’ wrth frogaod a nhwythau’n dangos mwy o chwilfrydedd nag o ofn. 

Mae cysur i’w ganfod o fod yn rhan o gymuned o greaduriaid y tu hwnt i’n byd dynol. Ar ben hyn, nid anwyddonol ydi cred George fod nofio yn cael gwared ar ei ofidiau. Ceir tystiolaeth fod nofio naturiol nid yn unig yn cryfhau’r corff – yn lleihau pwysedd gwaed a lefelau colesterol, er enghraifft –  ond ei fod hefyd yn medru helpu rhywun i ddygymod â phroblemau iechyd meddwl. Gwyddwn fod dŵr oer yn tanio’r synapsau ac yn medru cael effaith debyg i therapi electrogynhyrfol, sef pan fo’r claf yn cael siociau trydanol. Mewn rhaglen ddogfen ar y BBC, ‘The Doctor Who Gave Up Drugs’ (15 Medi 2016), gwelsom sut y llwyddodd un ferch i drin ei hiselder ysbryd trwy nofio mewn llyn yng nghanol y gaeaf, gan leihau ei dibyniaeth ar feddyginiaethau (wrth reswm, mae’n hollbwysig derbyn cyngor meddygol cyn dechrau ar drywydd o’r fath, a gall nofio mewn dŵr oer fod yn andwyol, hyd yn oed: ni ddylid fyth diystyru hynny). Nid yr ymarfer corff yn unig sydd o fudd, ac nid dim ond effaith byd natur: mae’r dŵr oer yn creu teimlad o orfoledd, yn sbarduno’r ymennydd i gynhyrchu niwrodrosglwyddwyr sydd yn codi’r ysbryd.

Yn y gyfrol hunanfywgraffiadol The Outrun (2016) cawn glywed am Amy Liptrott yn nofio ger arfordir Ynysoedd Erch er mwyn ei chynorthwyo yn y frwydr yn erbyn alcoholiaeth. ‘I want to shock myself awake,’ meddai. Llwydda i roi’r gorau i’r botel, ac mae nofio yn rhan allweddol o’i gwellhad. ‘I perform my own method of hydrotherapy […] The cold water is cathartic. It’s refreshing, like the first drink; it offers transformation and escape.’ Mae’n mynd yn gaeth i’r profiad o nofio yn y môr, sydd yn ei chlymu’n agosach at fyd natur. ‘There are things about the sea,’ meddai, ‘you find out only by being in it.’ Yn noethlymun ar y traeth, teimla fel creadur mytholegol y selkie, ‘slipped from its skin’. Mae ei chroen newydd yn ei ffitio’n well na’r croen yr oedd yn ei wisgo yn Llundain, a’r bywyd dinesig, hedonistaidd hwnnw a’i harweiniodd i’r gors. ‘Now I shock my senses on a Saturday morning in a biting sea, plunging warm skin into cold water, forcing a rush of sensation, cleansed.’

Yn yr un modd, yn Dip: Wild Swims from the Borderlands (2015) darllenwn am brofiad Andrew Fusek Peters o iselder ysbryd difrifol, a sut y caiff fudd o nofio mewn llefydd gwyllt ar arfordir Cymru a Lloegr. Dyn dewr ac anturus yw’r awdur, ond nid yw’n ymffrostio yn ei goncwestau arwrol. Yn hytrach mae’n talu teyrnged i dirwedd cynnil a phrydferth ei gynefin ac yn dathlu gweithgaredd sydd wedi ei atal rhag dilyn ffawd ei dad, a laddodd ei hun. Mae marwolaeth ei dad yn gysgod sydd yn ei ddilyn i bobman. Nofia Peters yn gyson, ni waeth pa dymor yw hi, ni waeth sut dywydd. Dim ond pâr o dryncs sydd ei angen arno, a het wlanog am ei ben. Caiff ei warchod gan y dŵr – ei warchod rhag y tywyllwch, ei gadw rhag dychwelyd i ddyfnderoedd iselder:

Diving into wild water is the great bringer back of reality. A perfect present tense, a right-here, right-now moment. The senses are so filled by the trees, the light, the sound of birds, of shivering leaves, the fierce, squeezing clinch of water – there’s no space for thought shadows.

Cyfeiria fan hyn at rywbeth hollbwysig: amser. Mor hawdd yw cael ein sugno yn ôl i amser nad yw’n bodoli bellach, neu ymgolli mewn amser nad yw eto wedi dod i fodolaeth, ac anghofio sylwi ar y Rŵan Hyn: y gwynt braf ar ein bochau, yr haul yn cynhesu’r corun, harddwch y cymylau. Gallwn lusgo ein hunain yn ôl i’r presennol trwy ymarfer technegau meddylgarwch – ond nid mater hawdd mo hynny. Mae’r gorffennol a’r dyfodol yn mynnu gwthio eu trwynau i’r presennol a’n meddyliau yn gwrthod pallu, yn gerrynt diddiwedd o nonsens. Wrth blymio i ddŵr gwyllt rydym yn canfod ein hunain yn ddisymwth yn y presennol. Pwy, wrth neidio mewn tonnau ewynnog, sy’n medru meddwl am e-byst a’r rhestr Pethau i’w Gwneud? Pwy all feddwl am y ffurflen dreth a Brexit? Pwy all boeni am rywbeth a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl? Cawn ein rhyddhau, am ennyd fach, o gadwyni’r ymennydd. Mae’r afon aflonydd yn tawelu’r meddwl. Mae’r enaid yn cael llonydd.

Ar ben hynny, mae’r profiad o nofio yn y gaeaf mewn dim byd ond siwt nofio yn medru bod mor arteithiol o boenus – y derbynyddion poen yn adweithio fel petai nodwyddau yn ymosod ar bob rhan o’r corff, yr ysgyfaint yn brwydro am wynt, y penglog yn crebachu mewn sioc – nes bod unrhyw boen meddyliol yn meirioli, am y tro.

✒︎

Does dim teimlad brafiach na nofio ar wyneb y Ddyfi a gadael i’r cerrynt fy nghario. Mae’r afon yn cludo fy nghorff, yn ysgwyddo’r baich. Dwi mor ysgafn â’r gronynnau melyn o baill sydd yn gorwedd ar wyneb y dŵr. 

Agorwch eich llygaid o dan ddŵr afon ac fe welwch y gwyrddni primordaidd. Dim byd arall: dim ond gwyrddni. Cewch deimlad o fod wedi dychwelyd i’r cawl cychwynnol, i’r lle gwreiddiol – ac nid dim ond at y groth dwi’n cyfeirio, oherwydd ceir rhywfaint o dystiolaeth mai o’r môr y daeth yr Homo sapiens yn wreiddiol. Efallai mai creaduriaid y dŵr ydym, yn y bôn.

Wrth gamu allan dwi’n gryndod i gyd, yn groen gŵydd o ’nghorun i’m sawdl, yn newyddanedig. Mae popeth yn llosgi, llosgi, a ’ngwythiennau wedi chwyddo’n ddramatig, yn fap dros fy nghorff, fel map o afonydd Cymru. Annisgrifiadwy yw moethusrwydd y tywel. Mor llyfn yw’r cerrig o dan fy nhraed, wedi eu hesmwytho dros filiynau o flynyddoedd – a dyma’r haul wedi ymddangos rŵan, fel hen ffrind. Dwi’n llwyr bresennol yn fy nghorff, yn ddim ond gwaed ac esgyrn a chnawd. Dwi’n ymwybodol o’r galon yn curo’n ddiflino, y brain chwilfrydig yn crawcian uwch fy mhen, a dydw i’n poeni am ddim. Dwi’n gryf, dwi’n iach, dwi’n fyw. 

Mor ffodus ydwyf i gael byw yng nghanolbarth Nghymru, ardal nad yw wedi ei dofi’n llwyr (eto), heb ei dinistrio’n gyfan gwbl gan lygredd (eto). Efallai bod ‘nofio gwyllt’ yn derm dilys yma yn fy milltir sgwâr i. Aeth y diweddar Roger Deakin, hen law ar nofio mewn llefydd anghysbell, ar daith i’r Rhinogydd, gan ymdrochi yn rhai o raeadrau ac afonydd a llynnoedd pryderthaf ein gwlad, a cheir disgrifiadau trawiadol ohonynt yn ei gyfrol Waterlog: A Swimmer’s Journey through Britain (2000). Ond yn ogystal â dathlu tirwedd (morwedd?) arbennig Cymru, llwydda Deakin hefyd i gyfleu cymhlethdod perthynas y ddynoliaeth â dŵr:

When you swim, you feel your body for what it mostly is – water – and it begins to move with the water around it […] You are immersed in an intensely private world as you were in the womb. These amniotic waters are both utterly safe and terrifying […] When you enter water, something like metamorphosis happens. Leaving behind the land, you go through the looking glass-surface and enter a new world, in which survival, not ambition or desire, is the dominant aim.

Efallai mai dyma yw apêl nofio naturiol, hefyd: yr ofn. Dod wyneb yn wyneb â rhywbeth sydd nid yn unig yn cynnig cysur, ond sydd hefyd yn rym peryglus. Fe’n gorfodir i wynebu ein marwoldeb, ac y mae hyn, yn baradocsaidd, yn ein hadfywio, yn ein hatgoffa o werth bywyd. Fe’n gorfodir i ddeffro o’r trwmgwsg sydd yn elyn i lawenydd.

Yn y dŵr, rhaid derbyn ansicrwydd, dirgelwch, y tywyllwch oddi tanom, ac y mae hyn yn wers ar gyfer bywyd ei hyn. Wedi’r cwbl, dydi’r afon fyth yr un fath o un eiliad i’r llall. ‘No man ever steps into the same river twice,’ meddai’r athronydd o Roeg, Heraclitus, yn 544 CC. ‘Everything flows and nothing stays.’

✒︎

Y dyddiau hyn mae fy merch, Hanna, yn llamu yn y tonnau bob cyfle a ddaw, boed haul neu hindda. Ond nid wyf yn eistedd mewn car yn dal tywel, yn aros amdani. Dwi wrth ei hochr yn y dŵr. Dŵr y byw. Yn bell o’r gwres canolog a’r amrywiol sgriniau, y pentyrrau o waith papur, yr e-byst a’r galwadau ffôn. Dwi’n gweiddi ac yn chwerthin efo hi ac yna’n suddo i’r dyfnderoedd gwyrdd, yn mwynhau gwefr y presennol, yn ferch ifanc ac yn ddynes ganol oed ac yn hen ddynes ar yr un pryd, y cloc wedi stopio, amser yn amherthnasol, y corff a’r meddwl, am y tro, yn rhydd. Y ‘rhyddid gwyllt a noeth’, fel dywed George yn Y Trydydd Peth. ‘Gadael tir a mynd i’r byd arall. Ymdrochi’n drist; dod allan yn wirion bost o hapus.’

Mae Angharad Penrhyn Jones yn Olygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt.

Mae cysur i’w ganfod o fod yn rhan o gymuned o greaduriaid y tu hwnt i’n byd dynol

Pynciau:

#Rhifyn 9
#Yr amgylchedd
#Nofio
#Byd natur
#Angharad Penrhyn