Adolygu

Argae

Cyn Tryweryn

Hywel Griffiths

Amser darllen: 15 munud

20·07·2022

Pont bren Lloc-ddu, bellach dan ddŵr Cronfa Craig Goch, Cwm Elan (Llun: Hugh Davies)

 

Go brin bod modd i unrhyw un yng Nghymru a ŵyr y peth lleiaf am eu hanes glywed y gair ‘argae’ a pheidio meddwl am foddi pentre Capel Celyn ddechrau’r 1960au. Cofiwyd am foddi’r cwm trwy farddoniaeth a chaneuon beirdd a brofodd y cyfnod chwyldroadol hwnnw yn uniongyrchol, a chan feirdd a anwyd flynyddoedd wedi hynny, ac wrth gwrs, trwy’r graffiti enwog, hirhoedlog a thrawiadol hwnnw ger Llanrhystud, sydd erbyn hyn wedi ei ddifrodi, ei ailbaentio, ei brynu a’i ddiogelu, a’i ail-greu ar waliau adeiladau a phontydd ac ar sticeri ceir a chlustogau a chrysau-t. Cymaint yw’r cysgod y mae’r weithred honno yn ei fwrw dros ein diwylliant a’n gwleidyddiaeth heddiw, drigain mlynedd yn ddiweddarach, fel mai prin y gall unrhyw drafodaeth ynghylch rheoli neu rannu dŵr ddigwydd heddiw heb gyfeiriad at Dryweryn. Yn wir, dros y blynyddoedd, datblygodd arwyddocâd Tryweryn yn llaw fer ar gyfer anghyfiawnder yn ymwneud â thiriogaeth Cymru – boed hynny yng nghyd-destun adeiladu melinau gwynt ar y bryniau, neu ddatblygiadau tai, neu blannu coed. Gelwir y rhain, nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â dŵr, yn ‘Dryweryn arall’ yn aml, ac mae safle’r argae wedi dod yn lleoliad symbolaidd i ymgyrchoedd y mudiad cenedlaethol – cynhaliwyd rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ar yr argae ei hun y llynedd, er enghraifft.

Mewn papur yn Cultural Geographies yn 2014 (cyfrol 21, rhifyn 3), dadleuais fod barddoniaeth, gan gynnwys geiriau caneuon poblogaidd a ganwyd yn ystod cyfnod Tryweryn, ac yn y degawdau ers hynny, wedi cyfrannu at gof ‘prosthetic’ lle’r ydym ni, y cenedlaethau na phrofasant foddi Capel Celyn yn uniongyrchol, yn ‘cofio’ y digwyddiad. Crisialir hyn gan linell o gân gan y Tystion: ‘o’n i heb fy ngeni ond dwi’n cofio Tryweryn’. Pwysleisiodd nifer o gerddi a chaneuon mor wrthun, mor groes i drefn natur oedd adeiladu’r argae. ‘Nid yw’r blodau’n tyfu nawr, mewn tir o dan y creigiau mawr,’ medd Meic Stevens, ac medd Huw Jones yn ‘Dŵr’, ‘dyma lle y claddwyd corff oedd eto’n fyw’. Ffrwynwyd trefn naturiol byd natur Cymru wledig – ‘Rhoed cledd yn nannedd y nant, / a rhwymyn am ei rhamant’ meddai W R P George mewn un gerdd. Fel y mae Alan Llwyd yn nodi yn Barddoniaeth y Chwedegau (1986), ac fel mae sawl gwleidydd ac ymgyrchydd wedi nodi, roedd Tryweryn yn drobwynt hanesyddol i’r genedl. Ond wrth gwrs, fel mae ‘Colli Iaith’ Harri Webb yn ein hatgoffa, un mewn cyfres o argaeau a adeiladwyd ar draws uwchdiroedd Cymru oedd Tryweryn. Fe’i rhagflaenwyd gan argaeau Cwm Elan, a adeiladwyd (gan fwyaf) ar ddiwedd y 19g er mwyn darparu dŵr i Birmingham, ac argae Efyrnwy, a foddodd bentref Llanwddyn yn yr un cyfnod er mwyn darparu dŵr ar gyfer Lerpwl. Sut agweddau oedd gan feirdd Cymru at argaeau cyn i Dryweryn ieuo ysbryd chwyldroadol y chwedegau, cenedlaetholdeb, tiriogaeth a dŵr ynghyd?

Testun cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954 oedd ‘cerdd mewn cynghanedd gyflawn ar y nifer a fynner o fesurau Dafydd ab Edmwnd, gan gynnwys un neu ragor o’r mesurau awdl’, heb fod dros 350 o linellau, ar y testun ‘Yr Argae’. Mae’n debyg bod y testun penodol a hynod ddiriaethol hwn wedi ei ddewis er mwyn nodi adeiladu argae Cronfa Ddŵr Llyn Wysg gan Gyngor Dinas Abertawe, a gwblhawyd yn derfynol y flwyddyn wedyn ym 1955. Y beirniaid oedd Gwenallt, Meuryn ac Edgar Phillips a’r enillydd oedd y Prifardd John Evans neu Siôn Ifan, a oedd wedi ennill ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Aberystwyth ddwy flynedd ynghynt. Bu’n athro yn ardal Llanegryn yn y 1940 a’r 1950au, ond roedd hefyd yn feiriniad eisteddfodol ac, fel y tystia’r portreadau hoffus ac annwyl ohono yn y gyfrol deyrnged Afiaith Siôn Ifan a gyhoeddwyd ym 1978 wedi ei farwolaeth, roedd wrth ei fodd yng nghanol cwmni a chymdeithas a’r Pethe.

John Evans yn unig, o dan y ffugenw Maesafallen, oedd yn deilwng o’r Gadair ym marn Gwenallt a Meuryn, er eu bod yn cydnabod rhinweddau awdl Nant y Benglog – sef Caradog Prichard – a oedd hefyd wedi canu awdl am argae Llyn Efyrnwy. Roedd Edgar Phillips o’r farn bod awdl Neifion, am y cob ym Mhorthmadog, hefyd yn deilwng. Yn ei astudiaeth o awdlau’r 20g, Awdlau’r Brifwyl, barna Donald Evans ei bod yn gystadleuaeth gref, gan fod y tri beirniad yn gytûn bod teilyngdod. Ar wahân efallai i awdlau arobryn T Llew Jones ar ddiwedd y degawd nid oes llawer o fri ar awdlau’r 1950au, erbyn hyn. Serch hynny, yn ôl mesur Donald Evans, roedd nifer ohonynt yn gystadleuaethau cryf.
 



Cychod Llyn Efyrnwy heddiw (Llun: Les Haines/flickr)
 

Dyma oedd Gwenallt yn edrych amdano yn y gystadleuaeth yn gyffredinol: ‘Cyn llunio’r awdl dylasai’r bardd weld yn yr argae arwydd ac arwyddocâd iddo ef; dylasai’r bardd fod yn rhan o’r argae a’r argae yn rhan o’r bardd ...’ Am y bardd buddugol dywed: ‘Aeth hwn ati i astudio’r argae ei hun neu’r argae ar fap, a’r hyn a welodd fel bardd yn yr hanes oedd y gwrthdaro rhwng diddymu Llanwddyn ac angen Lerpwl am ddŵr, a gwelodd yr argae ei hun fel campwaith peirianyddol.’ Ac yn arwyddocaol efallai: ‘Y mae gan y bardd hwn yr ymennydd i edmygu campwaith peirianyddol ...’ Ond wedi’r canmol cwynodd Gwenallt fod y bardd wedi ymestyn yr awdl y tu hwnt i’w weledigaeth, y tu hwnt i’w diweddglo naturiol, er mwyn cyrraedd uchafswm llinellau’r gystadleuaeth: ‘ychwanegodd 78 o linellau i gael 350. Ychwanegiad rhifyddwr ydyw ac nid ychwanegiad bardd.’ Mae gan Gwenallt feirniadaeth arall hefyd, sef: ‘Gwendid yn ei weledigaeth yw ei ddisgrifiad rhamantaidd o bentref Llanwddyn ...’ Ond, roedd yr awdl yn deilwng, ac fel y dywed Edgar Phillips: ‘yma cawn fardd ag iddo ddychymyg creadigol a chrefftwaith yn cadw at ei gynllun heb ymfflamychu na phentyrru geiriau, yn cyrchu at ei nod fel pencampwr.’

Rhennir yr awdl yn ganiadau amlwg. Ar ddechrau’r cyntaf mae cadwyn gywrain o englynion yn lleoli’r gerdd yn ddaearyddol yn y Berwyn ac yn nhiroedd brenhinoedd Powys, Brochwel Ysgithrog a Bleddyn ap Cynfyn:

Mur y muriau ym Merwyn – ar uchaf 
Faes Brochwel a Bleddyn: 
   Cloes gwytnwch a dycnwch dyn 
   Lonyddwch hen Lanwddyn.  

Llanwddyn yn llyn heddiw, – dinodded 
Ei anheddau chwilfriw; 
   Tan genlli tonnog unlliw
   Allorau bro’n y llawr briw. 
 

Pen pier Lerpwl, o ddociau Albert (Llun: Wikimedia Commons)


Mynega siom am y ‘llediaith’ sy’n lledu fel ‘cen’ dros y cwm ‘uniaith’. Wrth gloi’r gadwyn, agora thema rhan nesaf y caniad, sy’n canolbwyntio ar ddinas Lerpwl. Clyw lais y ddinas yn nesáu:

Diosteg Lais didostur, – Llais mynor,
Llais meini cymesur:
   Llais hyder dinas glasur 
   Yn nerth maen hen wyrth y mur.

Mae’r rhan nesaf ar fesur cyhydedd ddecban, ac mae’r disgrifiadau o ddinas Lerpwl yn gywrain, a diddorol, er efallai ychydig yn anodd eu dilyn weithiau:

Rhegwch yr henffol anllad Hudoles
A’i hawyr heli a’i haur heolydd ...

Ceir cyfres o benillion wedyn yn darlunio Lerpwl fel dinas forwrol yr Ymerodraeth Brydeinig, yn lledu gwareiddiad i’r gwledydd ‘anwar’ tra’n ymelwa ar eu hadnoddau: 

Y llu a foriodd i bell lifeiriant
 phoer yr heli yng nghyffro’r hwyliau:
Llu dewraf, trechaf, yn troi â’u trachwant
Hen olud llengoedd i howld y llongau.

Cyrchu’n nwydus i’r lliwus Orllewin
A’r Grym a rwygai i wrymiau’r eigion:
I’r anwar annoeth – yr hanner noethion –
Oni bu rinwedd o longau’r brenin?

Mae’r darn yma yn llym ei feirniadaeth o’r gaethwasiaeth oedd ynghlwm â thrachwant ymelwa’r Ymerodraeth gyfalafol:

Y gyrroedd mawrwerth – y diwerth diwyd – 
Ar oriog donnau, a’r oer gadwyni;
Gyrroedd pris-uchel y gïau celyd,
A grawn Maes Aur ar gyrion Missouri.

Ond wrth i’r ddinas besgi ar ffrwyth Ymerodraeth, mae’n ddall i’r sgileffeithiau ar ei phoblogaeth:

Ni wybu Babel ei myrdd hofelau,
Na phoer o waed ar galch ei pharwydydd:
I aeres llynges rhowch fedd-dod llongau,
I’r Ddinas oriog rhowch ddawns Iwerydd.

Yn rhan ola’r caniad daw’r disgrifiad o afiechydon yn cydio yn y ddinas, ac awgrymir mai yn sgil y llongau (ac felly gweithredoedd yr Ymerodraeth) y daethant, a’r ddinas heb allu darparu systemau hylendid dŵr wrth iddi dyfu mor gyflym:

Daw awel eirias – anadl Iwerydd – 
I fan yr afiaith, i fyny’r Afon;
Oedi, ac wedyn, yn iard y coedydd,
Angau a’i gilwg ar longau gwelwon ...

... Ag unllam y stryd, o’r llongau mudion
I’r moethus loriau a’r maith seleri.
Ai dewr-sicr heno y drysau crinion
A’r rhydd Ddinistrydd wrth ddellt ffenestri?

A roed y Groes ar bared a grisiau
Gefn hwyr llonydd i ysgafnhau’r llenni?
Pwy sydd a omedd i’r Braw a’i gleddau
Ar wyll, ei gynnull a’i fawr ddigoni?

Wynebau iasoer, glais-dydd, ar basiant
Uwch drycin flin lloericaf olwynion;
Ofnadwy salm ar farrug y palmant
‘Y marw! Y marw! Trowch allan y meirwon!’

Oherwydd hyn, mae’r ddinas yn edrych tua mynyddoedd Cymru a’u dyfroedd am achubiaeth:

Daw ar awr dduaf cyfyngder Afon
Alwad y difrad ffynhonnau dyfroedd:
Un a lewyga a gwyd olygon
I drum a nodded duwiau’r mynyddoedd.

Dychwela’r bardd at yr englynion yn y caniad nesaf, a dychwela at Lanwddyn hefyd. Yma darlunia drigolion y cwm – ‘gwŷr digryn / y priddyn a’r preiddiau’ a’r ‘arafaidd, waraidd werin – y dannedd / yn dynn mewn cynefin’. Roedd yr afon, pan lifai, yn rhan bwysig o’r bywyd gwledig, gwaraidd hwn:

Erddynt y lleiniau gwyrddion, – iaith annwyl
Trwy fythynnod gwyrddion,
   Cael ar siant a thant a thôn
   Wyrth ryfedd wrth yr afon.

Wrth yr afon radlonaf - yr hen ias
Fin hwyrnosau gaeaf;
   Yna’r hud yn nhân yr haf
   Lond cawgiau’r oriau araf.

Ond daw’r ‘Gwaith’ o adeiladu’r argae:

A rhoi clais, a dyfnder claf
Y nos ar Gynionisaf.

O ystyried natur canu ail hanner yr 20g am Dryweryn, mae’r rhan nesaf yn syndod. Yma cawn ymdriniaeth ddramatig o’r broses o adeiladu’r argae a chanmoliaeth o ddawn beirianyddol y gwaith:

Gobaith pob gobaith, carn pob gobeithio
Rhyd ar hirgwm a rhaeadr Rhiwargor ...

 ... Cryfach na’r cryfder, craffter y crefftwaith
A nadd â’i gynion anodd ogoniant,
A ŵyr y crynu awr creu cywreinwaith
A’i ddiail fawredd a ddeil lifeiriant.

Mae’r angen am ddŵr glân yn drech na dadleuon dros ffiniau gwleidyddol:

I un a waeddo ar dduw’r mynyddoedd,
Golud y ffynnon – nid gwlad a ffiniau ...

A daw’r: 

hy beirianwaith yn llamu’r bryniau.

Fel yn achos y cerddi am Dryweryn, darlunir y weithred fel un sydd yn groes i natur:

Gwŷr ufudd-ofer yn ysu’r Berwyn,
Yn gyrru’r cynion i gaerau’r ceunant,
Lleibio â’r cafnau y lleidiau llwydwyn
Am wely suntur i Fur llifeiriant.

Gwelwn fod y ddinas, a thrwy ymestyniad, ei gweithredoedd ymelwol, treisgar, a ddygodd bobl yn gaethweision o’u cartrefi fel rhan o’r Ymerodraeth, yn cyrraedd cefn gwlad Cymru a’r cof amdanynt yn cael ei gerfio ar feini’r argae ei hun:

Mur y glewder, a Mur y goludoedd –
Hen olud llengoedd fu’n howld y llongau.

Pris rhwygo dynion, pris oer gadwyni,
Pris croenddu isel a’r gïau celyd,
Heddiw o’r mynor y neddir meini
Mur coron y bau, Mur cronni Bywyd.

Mae’r caniad nesaf, a ddylai, yn ôl Gwenallt, fod wedi cloi’r awdl, yn crynhoi nifer o’r themâu a drafodwyd. Mae’n agor â’r llinell, ‘A gwae’r cofio, gwae’r cyfan’. Yn fan hyn mae’r cof am orffennol y dyffryn yn rhy boenus. Ond wedyn ar ddiwedd rhan gyntaf y caniad yma mae’r cof yn drech na’r argae: ‘Mwy yw’r cof na’r mur mawr cau.’ Trwy’r awdl, cyfosodir y gwledig a’r dinesig, gan bwysleisio bod y digwyddiad, fel boddi Capel Celyn yn ddiweddarach, yn cynrychioli dau fyd cwbl wahanol yn gwrthdaro â’i gilydd. Darlunir gwahanol agweddau ar y byd gwledig mewn englynion, ond y gyhydedd ddecban a ddefnyddir wedyn wrth sôn am y ddinas. 

Fel y gwnaeth Alan Llwyd yng nghyd-destun Tryweryn ddegawdau’n ddiweddarach yn ei englyn er cof am R J Rowlands, mae John Evans yn cyfosod gwarineb diwylliant trigolion y pentref a foddwyd ag anwarineb y llyn. Mae’n sôn am allor yr eglwys a foddwyd, ac am y trigolion a gladdwyd yno:

Er clo bedd, troi’r clai byddar – o wely
I dawelwch daear:
   O gell i gell, gwae’r marw gwâr –
   Gwae’r unig mewn gro anwar.

Yr anwar bwya’r enaid – â’i efyn
Â’i oer afael dibaid,
   A yrr gŷn trwy fro gannaid
   Â rhemp ei ddiomedd raid.

Pwysleisia eto wedyn, y ffordd y mae hyn yn rheibio natur:

A’r rhaid a leibia’r rhydau – a ry ffrwyn
Ar ffroenwyll raeadrau:
   Eiddiled cri gweddïau
   Wrth ddyfngor y ceuddor cau.

Ac yna mae’r cwm cyfan ei hun yn troi’n fedd:

Troi’r cwm yn fedd rhyfeddaf – yn rhwth gell
Wrth y gaer gadarnaf:
   O ffoi’r hud, ni ddeffry haf
   Hen ias ar Gynionisaf.

Mae’r caniad yma yn gorffen trwy gysylltu’n ôl â dechrau’r awdl gyda’r llinell, ‘Mwy yw’r co na’r Mur Mawr cau.’ Yn achos Cwm Elan, fel yn achos Tryweryn, mae’r gerdd yn defnyddio’r cof i herio’r weithred o foddi’r cwm – yma hefyd mae cofio yn weithred o wrthsefyll.

Rhyw lun ar seremoni agoriadol yr argae a geir yn y caniad olaf, lle daw swyddogion o ddinas Lerpwl i ddadorchuddio maen ac arno enwau’r rhai a fu’n gyfrifol am godi’r argae:

Huodl acenion hyd ael y ceunant
Ar wych wên Dinas a chrechwen dynion:
Uwch na gwylltion lafoerion llifeiriant –
A sicr y geiriau tros gerrig oerion.

Dyna lais y ddinas yn cael goruchafiaeth ar natur cefn gwlad.

Rhyw flwyddyn wedi i’r awdl ennill ail Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol i John Evans, roedd sôn am adeiladu mwy o argaeau. Yng nghyfrol Watcyn L Jones, Cofio Tryweryn (1997), noda y bu sïon ynglŷn â chynlluniau i geisio mwy o ddŵr ar gyfer dinasoedd Lloegr mor gynnar â’r 1920au ond ymddengys mai ym 1955 y daeth yn amlwg i’r cyhoedd fod cynlluniau newydd ar droed, a hynny eto ar Afon Efyrnwy, yn Nolanog y tro hwn. Dywed Watcyn Jones: ‘“Sŵn y dŵr ym mro Ann” oedd prif bennawd Y Cymro ar 15 Medi 1955, gyda’r gohebydd yn nodi bod “sibrydion fod Corfforaeth Lerpwl yn bwriadu boddi Dolanog”.’

Dyna fygythiad i foddi Dolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths, er na chafwyd unrhyw gadarnhad na manylion ar y pryd gan ddinas Lerpwl. Roedd peirianwyr eisoes wedi bod yno, fodd bynnag, yn ôl y sôn. Bu gwrthwynebiad i’r syniad ac erbyn Rhagfyr 1955 cyhoeddodd Lerpwl na fyddai cynllun yn mynd yn ei flaen yn Nolanog. Fodd bynnag, yn yr un mis, yn ôl Watcyn Jones, ‘dosbarthwyd i Gadeirydd ac aelodau o Bwyllgor Dŵr Corfforaeth Lerpwl adroddiad swyddogol gan gwmni o beirianwyr sifil o Lundain’ a oedd yn enwi pum safle ym Maldwyn a Meirionydd, ar afonydd Efyrnwy, Banw, Twrch, Cam a Thryweryn. Cyhoeddwyd y bwriadau ynghylch Tryweryn dridiau cyn y Nadolig. Roedd syrfewyr tir wedi bod yng Nghwm Celyn yng ngwanwyn 1955 ond ddiwedd y flwyddyn y daeth cadarnhad. Gan ystyried y byddai John Evans wedi bod yn ysgrifennu ei awdl yn ail hanner 1953 neu hanner cyntaf 1954 (a chymryd yn ganiataol ei fod wedi ei llunio yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth, yn hytrach na’i bod yn ffrwyth gwaith sawl blwyddyn), gellid dweud ei fod wedi ysgrifennu awdl am ddŵr, ac am argaeau, heb fod arni unrhyw gysgod o gwbl o foddi Capel Celyn, cysgod a fyddai’n nodweddu cymaint o ganu beirdd Cymru ar y pynciau hynny fyth wedi hynny. Dyma awdl gyfoethog a gwerthfawr iawn, felly, ac o bosib y gerdd ‘fawr’ olaf yn dangos agwedd cenhedlaeth tuag at adeiladu argaeau cyn i bopeth newid. 

Mae’n deg dweud y byddai brwydrau tiriogaethol wedi dylanwadu ar yr agwedd honno – hawlio tir Mynydd Epynt gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym 1939, achosion eraill o hawlio tir Cymru at ddefnydd militaraidd fel Trawsfynydd ym 1951, ac efallai Penyberth hefyd. Rhyw edrych yn ôl ar foddi Llanwddyn yng ngoleuni trigain mlynedd ychwanegol o hanes y genedl y mae John Evans – yn debyg, efallai, i’r ffordd yr ydym ni heddiw yn edrych yn ôl ar Dryweryn. Gellid dadlau bod elfennau o ymateb John Evans i adeiladu argae Efyrnwy yn nodweddiadol o ymatebion yr 20g i adeiladu argae Tryweryn yn benodol a bod y cof hir dymor yn drech na’r weithred, ac anwarineb y weithred, a oedd yn groes i drefn natur. Fodd bynnag, yn ei agwedd at ddinas Lerpwl yn benodol, ac yn ei archwiliad o’r rhesymau ehangach a arweiniodd at y boddi, mae awdl John Evans yn fwy amlweddog o bosib na llawer o’r ymatebion celfyddydol i foddi Capel Celyn yn ddiweddarach. Yn wahanol i’r canu a gafwyd am Gapel Celyn, sydd, ar y cyfan – a hynny’n gwbl ddealladwy – yn tueddu at ddicter (hyd yn lled ddiweddar), mae ymdriniaeth John Evans o achos Llanwddyn yn archwilio’r rhwydweithiau gwleidyddol a daearyddol rhyngwladol a gyrhaeddodd, yn y pen draw, o drefedigaethau’r Ymerodraeth Brydeinig i fyny Afon Mersi, ar hyd strydoedd Lerpwl a’r holl ffordd at Lanwddyn a rhaeadr Rhiwargor. Efallai’n wir mai cydnabod effaith ddifaol yr Ymerodraeth yn unig trwy ei chysylltiad â Chymru a wneir, ond mae ymwybyddiaeth yn yr awdl o’r ffordd y mae cefn gwlad Cymru ynghlwm yng ngheryntau byd-eang cyfalaf, a bod y system honno wedi arwain at ymelwa (i wahanol raddau wrth gwrs) yng Nghymru ac yn y trefedigaethau tramor.

Mae dyfnder yr awdl hon wedi gwneud i mi yn bersonol ailystyried awdlau’r 1950au. Roedd hi’n rhy hawdd, mae’n debyg, oedi dros awdlau’r 1960au a’r 1970au gan Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd ac eraill. Ond mae gwerth mawr mewn edrych yn ddyfnach ar rai o’r agweddau at dirwedd wledig Cymru yn awdlau’r 1950au. Dyma’r degawd cyn y chwyldro, cyn darlith Saunders Lewis, cyn Cymdeithas yr Iaith, cyn chwyldro Paris, a chyn Tryweryn, ond dyma hefyd ddegawd cynllunio’r argaeau, ehangu coedwigaeth, mecaneiddio a dwysáu ffermio. Er enghraifft, fel mae Kirsti Bohata wedi dangos yn Postcolonialism Revisited: Writing Wales in English (2004), trafododd Gwilym Tilsley effeithiau ehangu coedwigaeth ar draws uwchdiroedd Cymru yn ei awdl ‘Cwm Carnedd’ ym 1957 gan ei gyplysu â dirywiad cymunedol yng nghefn gwlad. Roedd awdl Brinley Richards, ‘Y Dyffryn’, ar thema gysylltiedig, ac yn ehangach mae rhywun yn meddwl am ‘Rhydcymerau’ Gwenallt a ‘Preseli’ Waldo fel enghreifftiau eraill o fynegi pryder am ucheldir Cymru. Felly, o safbwynt daearyddol, a lle tirwedd, tiriogaeth a chof ym marddoniaeth cyfnod o newid, mae cerddi’r cyfnod yn bwysig. 

Mae gwerth ymarferol i ddeall sut mae’r cerddi hyn yn llunio ein canfyddiadau ni o’r dirwedd, o ddŵr, a’r ffyrdd yr ydym yn eu rheoli. Nodais uchod fod achos Tryweryn yn rhan fawr iawn o’n gwleidyddiaeth a’n diwylliant ni erbyn heddiw, i’r fath raddau fel ei fod wedi dod yn llaw fer am unrhyw ddatblygiad ar dir neu fôr yng Nghymru sydd i’w wrthwynebu, boed hynny yn ymwneud â dŵr, ynni (gwynt), datblygiad tai, neu blannu coed. O ganlyniad, mae’n angenrheidiol inni ddeall o ble mae ein hagweddau at hyn wedi dod. Mi fydd angen, yn ôl pob tebyg, drafodaethau difrifol am seilwaith dŵr yr ynysoedd hyn yn y dyfodol agos, oherwydd effeithiau’r argyfwng newid hinsawdd. Mae’r trafodaethau yn eu hanfod yn rhai gwleidyddol, yn drymlwythog o agweddau y mae ein profiadau hanesyddol a diwylliannol, unigol a chymunedol, yn dylanwadu arnynt. Rhaid inni ddeall mwy, felly, am hanes ein hymwneud â dŵr, yn hanesyddol, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol ar hyd y canrifoedd, gan gynnwys awdlau fel hon.

Mae Hywel Griffiths yn Ddarllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

Sut agweddau oedd gan feirdd Cymru at argaeau cyn i Dryweryn ieuo ysbryd chwyldroadol y chwedegau, cenedlaetholdeb, tiriogaeth a dŵr ynghyd?

Pynciau:

#Barddoniaeth
#Tryweryn
#Hywel Griffiths
#Eisteddfod