Adolygu

Belarws, Nafalni a phobl Pwtin

Catherine Belton

Putin's People: How the KGB took back russia and then took on the west

William Collins, 624tt, £25, 2020

Samuel Jones

Amser darllen: 12 munud

10·12·2020

Yenisei, Siberia, 2019 (Llun: Nanna Heitmann)
 

Eisteddai Alecsandr Lwcasienco, arlywydd Belarws, ar flaen ei gadair yn ymbil yn wasaidd am gymorth Fladimir Pwtin. Eisteddai Pwtin yn ei gadair yntau yn gwbl hamddenol. O bryd i’w gilydd, edrychai ar Lwcasienco yn ysgrifennu’n eiddgar yn ei lyfr nodiadau, gan gilwenu. Mae Pwtin wedi treulio blynyddoedd yn ceisio rhoi tennyn ar Lwcasienco, ac fe ddaeth y cyfle o’r diwedd ym mis Medi eleni. Cyfarfu’r ddau arweinydd ar lannau’r Môr Du yn Sotsi i drafod y protestiadau sy’n bygwth dymchwel cyfundrefn ormesol Lwcasienco. Mae arlywyddiaeth Lwcasienco yn y fantol ac ni all fforddio gwrthod unrhyw ofynion a wneir gan Pwtin yn dâl am ei gymorth. 

Ar 9 Awst, cynhaliwyd etholiad arlywyddol Belarws. Enillodd Lwcasienco â mwyafrif llethol. Dros chwe blynedd ar hugain, trwy dwyll a thrais, enillwyd pob etholiad arlywyddol ganddo. Er
ei fuddugoliaeth gyntaf yn 1994, pan addawodd godi’r wlad yn ôl ar ei thraed wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, ni fu etholiad rhydd a theg yno. Yn 2004, ar ôl degawd o lywodraethu awdurdodol, newidiwyd cyfansoddiad Belarws er mwyn caniatáu i Lwcasienco sefyll yn yr etholiad arlywyddol dro ar ôl tro. Ond y tro hwn, yn etholiad 2020, gwrthodwyd y canlyniad gan y Belarwsiaid, a thaniwyd y protestiadau mwyaf a welwyd yn hanes y wlad. Ar furiau fflatiau llwm Sofietaidd, ar ffenestri siopau chwaethus Minsg, gwawdiwyd yr Arlywydd â’r geiriau ‘Sasha 3%’. Sasha yw’r enw bachigol ar Alecsandr, ac mae’r 3% yn gyfeiriad at arolwg barn annibynnol a gynhaliwyd cyn yr etholiad. Yn ôl yr arolwg, rhwng 3 a 6 y cant yn unig o boblogaeth Minsg oedd yn cefnogi Lwcasienco. Gydag ystadegau’n darogan ei gwymp, tybiai rhai o’i wrthwynebwyr fod newid ar droed ym Melarws. Roedd y canlyniad ar 9 Awst, felly, yn gwbl anghredadwy. Datganwyd i Lwcasienco ennill 80% o’r bleidlais. Yn ôl y canlyniad swyddogol, derbyniodd Sfetlana Tsichanofsgaia, sef prif wrthwynebydd Lwcasienco, 10 y cant o’r bleidlais yn unig. Heriodd Tsichanofsgaia ddilysrwydd y canlyniad gan honni yn gyhoeddus iddi dderbyn rhwng 60 a 70 y cant o’r bleidlais. I lawer o Felarwsiaid, roedd 80 y cant honedig Lwcasienco wedi dinoethi natur lwgr y llywodraeth, ac wedi tanseilio hygrededd y broses ddemocrataidd ym Melarws; roedd y gwleidydd o’r Almaen Guido Westerwelle yn llygad ei le pan alwodd Lwcasienco yn ‘unben olaf
Ewrop’. Sylweddolwyd na ellid curo Lwcasienco yn yr orsaf bleidleisio. Trwy brotestio yn unig y mae disodli unben.

Ymatebodd yr arlywydd yn llawdrwm i’r protestiadau. Yn ystod yr haf fe welwyd yr heddlu’n curo protestwyr heddychlon ar y stryd. Dyma’r tro cyntaf i lawer o Felarwsiaid brofi trais uniongyrchol o du’r wladwriaeth. Wrth i gyfryngau’r Gorllewin hoelio’u sylw ar Felarws, lliniarwyd yr ymateb yn erbyn y protestwyr, a chanolbwyntiwyd yn hytrach ar dawelu gwrthwynebwyr mwyaf lleisiol a dylanwadol Lwcasienco. Carcharwyd llawer ohonynt a bu’n rhaid i eraill, megis Tsichanofsgaia, ffoi o’r wlad. Ond er gwaetha’r ymdrechion hyn, ni lwyddwyd i atal y protestiadau. Yn feunyddiol gwelwyd miloedd o brotestwyr yn gorymdeithio’n herfeiddiol ar strydoedd Belarws yn galw ar Lwcasienco i gamu o’r neilltu. Unig obaith yr arweinydd balch, militaraidd, oedd teithio i Sotsi i ymbil yn wasaidd am gymorth Pwtin. 

*

Ni fu llawer o gyfeillgarwch rhwng Lwcasienco a Pwtin erioed. Yn wir, bu Lwcasienco yn dipyn o boendod i Pwtin wrth iddo geisio ymestyn ei ddylanwad dros y cyn-wledydd Sofietaidd, ond mae’r ddau wedi cydweithio i dynhau’r rhwymau economaidd rhwng Rwsia a Belarws. Yn y cylchgrawn Izvestia ym mis Hydref 2011, cyfeiriodd Pwtin at ei weledigaeth fawreddog o greu ‘Undeb Ewrasiaidd’ ar batrwm yr Undeb Ewropeaidd [gw. ‘Yr Athronydd yn y Cremlin’ yn rhifyn Gaeaf 2018 O’r Pedwar Gwynt, (Gol.)]. Dywedodd y dylai Rwsia ddwyn ynghyd y gwledydd sy’n ymestyn o ddwyrain Asia i gyrion yr Undeb Ewropeaidd a’u hasio mewn undeb economaidd. Byddai’r undeb hwn nid yn unig yn cynnig trefn economaidd amgen i’r drefn orllewinol, ond yn cynnig ideoleg newydd, ddwyreiniol, ar eu cyfer hefyd. Yng ngolwg ei feirniaid, dyma gyfle i Pwtin ehangu ei ddylanwad dros gymdogion Rwsia a’u hatal rhag integreiddio i economïau’r Gorllewin. Fodd bynnag, llwyddwyd i ddarbwyllo Belarws a Kazakhstan, ac yn 2014 ymunodd y ddwy wlad hon ag Undeb Economaidd Ewrasaidd Pwtin. 

Nid yw’n syndod, felly, i Lwcasienco geisio ennill cefnogaeth Pwtin drwy honni fod Belarws dan warchae’r Gorllewin. Nid yw Pwtin yn poeni’n benodol am ddyfodol arweinyddiaeth Lwcasienco. Yn wir, mae rhai gohebwyr wedi awgrymu y byddai’n well ganddo weld arweinydd newydd ym Melarws, arweinydd a fyddai o blaid perthynas agosach rhwng y ddwy wlad. Ond y pryder iddo ef yw y gall y protestiadau arwain at benodi llywodraeth a fyddai’n cefnu ar ei weledigaeth Ewrasiaidd ac yn llywio’r wlad i gyfeiriad Ewrop. Am y tro, felly, mae Pwtin wedi penderfynu cefnogi Lwcasienco, gan roi 1.5 biliwn o ddoleri iddo er sicrhau parhad ei gyfundrefn. Nid yw’n hysbys beth yw’r pris y mae’n rhaid i Lwcasienco ei dalu am y gefnogaeth honno. 

Yn fuan iawn, dechreuodd y cyfryngau yn Rwsia ledaenu newyddion ffug am y protestiadau ac fe welwyd straeon di-rif am ymyrraeth ‘dreisgar’ y Gorllewin yn nwyrain Ewrop – swyddogion ac ysbïwyr Ewropeaidd fu’n gyfrifol am drefnu’r protestiadau hyn, wrth gwrs. Rhybuddiodd Pwtin fod ymyrraeth Ewrop ym materion ‘mewnol’ Belarws yn gwbl ‘annerbyniol’ ac yn fygythiad yn erbyn dwyrain Ewrop. Ar y llaw arall, fe ŵyr Pwtin ei fod yn troedio tir peryglus wrth gynnig cefnogaeth yn gyhoeddus i Lwcasienco. Ymatebodd yn fyrbwyll i brotestiadau Wcráin yn 2014 drwy gipio’r Crimea a thrwy gyllido rhyfel yn ardal Donbas, rhyfel sy’n parhau hyd heddiw. Canlyniad yr ymyrraeth filitaraidd hon oedd creu teimladau gwrth-Rwsiaidd ymysg yr Wcrainiaid. Gallai cefnogaeth Pwtin i Lwcasienco greu teimladau cyffelyb ym Melarws, gwlad lle mae’r mwyafrif, ar hyn o bryd, yn parhau i gefnogi cysylltiadau economaidd agos â Rwsia. 

Wrth i Pwtin bendroni ynghylch sut i ymateb i’r protestiadau ym Melarws, dros chwe mil o filltiroedd i’r dwyrain, ar y ffin rhwng Rwsia a Tsieina, roedd mudiad poblogaidd arall yn ennill tir. Yn ninas Chabarofsg bu protestwyr yn gorymdeithio ar y strydoedd yn lleisio’u barn yn erbyn penderfyniad y Cremlin i garcharu eu llywodraethwr rhanbarthol, Sergei Ffwrgal, a etholwyd yn 2018, yn groes i ddymuniadau’r Cremlin. Carcharwyd Ffwrgal ym Mosgo ddechrau Gorffennaf, wedi iddo gael ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio yn 2004 a 2005. Nid yw’n glir a oes unrhyw sail i’r cyhuddiadau hyn, ond rhaid gofyn pam mae’r Cremlin wedi penderfynu dwyn achos yn ei erbyn bymtheng mlynedd ar ôl y llofruddiaethau. Honnai cefnogwyr Ffwrgal fod y Cremlin yn ceisio dial arno am ei fuddugoliaeth yn 2018, a fu’n ergyd i Pwtin a’i blaid, Rwsia Unedig. Corddwyd trigolion Chabarofsg gan ysgogi cannoedd i leisio’u barn ar y stryd – er bod protestio (heb ganiatâd y llywodraeth) yn anghyfreithlon yn Rwsia. Nid protest i ryddhau Ffwrgal yn unig oedd hon, ond protest i warchod yr hawl ddemocrataidd i ddewis y llywodraethwr rhanbarthol. Ar un faner gwelwyd y geiriau, ‘Safwn gyda Belarws’.

Mae anniddigrwydd wedi bod yn cronni yn Rwsia ers blynyddoedd. Yn debyg i Belarws, nid yw’r addewid ôl-Sofietaidd i adfer trefn, balchder a mawredd cenedlaethol o bwys i’r genhedlaeth iau. Am ugain mlynedd mae Pwtin wedi dibynnu ar naratif cenedlaethol am ogoniant coll Ymerodraeth Rwsia a’r Undeb Sofietaidd ac wedi pwysleisio’r angen i adfer y gogoniant hwnnw. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r adferiad wedi digwydd ar draul y Rwsiaid.

Pan benodwyd Pwtin yn Arlywydd yn 1999, roedd amgylchiadau economaidd y cyfnod o’i blaid. Wrth i brisiau olew godi, dechreuodd cyflogau’r Rwsiaid godi hefyd, a thyfodd dosbarth canol Rwsia. Ar ôl degawdau o ansicrwydd economaidd, dechreuodd y Rwsiaid fyw fel eu cymdogion yn Ewrop. Gwelwyd Pwtin fel y gŵr a fu’n gyfrifol am hyn – ef oedd yr un oedd wedi achub y wlad. Yn y cyfnod hwn, nid oedd ymdrech Pwtin i fonopoleiddio’r economi o bwys i’r Rwsiad cyffredin a welodd ei gyflog yn tyfu bedair gwaith yn ystod ei dymor cyntaf fel arlywydd. Nid oedd ei ymdrech i wyrdroi prosesau cyfreithiol er mwyn cosbi ei wrthwynebwyr o bwys tragwyddol ychwaith pan welwyd sefydlogrwydd am y tro cyntaf ers cwymp yr Undeb Sofietaidd. Gwnaeth y Rwsiaid gytundeb anysgrifenedig â’u hachubwr: gallai Pwtin ymestyn ei ddylanwad dros bob cangen o’r wladwriaeth a’r economi, cyn belled nad oedd yn amharu ar fywydau beunyddiol y dosbarth canol newydd yn Rwsia.

*

Trafodir natur y cytundeb hwn rhwng Pwtin a’r Rwsiaid â chryn fanylder mewn llyfr rhagorol a gyhoeddwyd eleni. Yn Putin’s People mae Catherine Belton yn olrhain taith Pwtin o’i swyddfa yn Dresden, lle y bu’n gweithio fel swyddog ar gyfer y KGB rhwng 1985 a 1990, i’r Cremlin, lle y mae ef a’i gyd-weithwyr o’r KGB wedi creu’r hyn a elwir gan Belton yn ‘wladwriaeth maffia’. Yn Dresden, bu Pwtin yn rhan flaenllaw o gynllwyn i drosglwyddo arian o’r Undeb Sofietaidd i orllewin Ewrop drwy gwmnïau a chyfrifon ffug, er mwyn cyllido mudiadau a phleidiau gwleidyddol a oedd yn hwyluso amcanion yr Undeb Sofietaidd. Pan chwalodd yr Undeb roedd carfan ‘flaengar’ y KGB yn barod am y chwalfa: ‘Their agents were already embedded, the cash networks they’d created – at least in part – still under their control.’ A hithau’n ddinas ddigon marwaidd, roedd Dresden yn lle perffaith i ddatblygu rhwydweithiau o’r golwg, a’r hyn a elwir gan Belton yn ‘K.G.B. capitalism’ – cronni cyfalaf yn ddidostur er budd  gwladwriaeth Rwsiaidd. Mewn ysbryd tebyg o weithio yn y cysgodion, strategaeth Pwtin wrth ddringo i’r brig oedd cyflwyno’i hun fel gwasanaethwr. ‘I am just the manager,’ mi fyddai’n hoff o ddweud, yno i wasanaethu Rwsia. Ac meddai un o uwch-swyddogion y Stasi yn Dresden yr wythdegau amdano: ‘He never pushed himself forward. He was never in the front line. He was always very kind.’ Ond ymhell o fod ‘jyst yn yfed cwrw’, dadleua’r awdur fod gweithgarwch Pwtin yn Dresden yn lasbrint ar gyfer popeth a oedd i ddod.

Bu Catherine Belton yn ohebydd ar gyfer y Financial Times ym Mosgo ac y mae manylder ei gwybodaeth am y rhwydweithiau ariannol hyn yn rhyfeddol. Yn dilyn ei benodiad fel Arlywydd Rwsia yn 1999, disgrifia Belton y modd yr aeth Pwtin ati’n ddidrugaredd i gipio cwmnïau Rwsia gan ddwyn biliynau o rwblau o’r economi. Defnyddiodd y cyfoeth hwn i ymestyn ei ddylanwad y tu hwnt i ffiniau Rwsia ac i ganolfannau grym Ewrop a Gogledd America. Gyda chronfeydd di-waelod o gelc yn llechu mewn cyfrifon tramor, defnyddiwyd yr arian i gefnogi mudiadau a phleidiau gwleidyddol gwrth-Ewropeaidd. Yn Ffrainc, er enghraifft, canolbwyntiwyd ar Marine Le Pen a’i hymgyrch yn etholiad arlywyddol Ffrainc yn 2017. Trwy gefnogi mudiadau asgell-dde yn y Gorllewin, llwyddodd Pwtin i ledaenu senoffobia a chenedlaetholdeb mewnblyg, gan fwrw amheuaeth ar systemau democrataidd y Gorllewin. Cyfaddefodd yr oligarch Fladimir Iacwnin wrth Belton y caiff y frwydr hon yn erbyn gwerthoedd gorllewinol ei defnyddio gan Rwsia i adfer ei safle byd-eang.

Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddwyd yr adroddiad hirddisgwyliedig ar ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Nid yw’n gyfrinach, wrth gwrs, fod Llundain yn boddi dan arian llwgr y Cremlin; mae cyfeillion Pwtin yn darparu llif sylweddol o arian i gwmnïau a banciau Llundain, cymaint felly nes y rhoddwyd yr enw ‘Mosgo ar Dafwys’ ar y ddinas. Mae’r adroddiad yn ystyried i ba raddau yr oedd Rwsia wedi dylanwadu ar ddigwyddiadau gwleidyddol y Deyrnas Unedig, megis refferendwm annibyniaeth yr Alban a refferendwm Brexit. Ceir tystiolaeth fod y Cremlin wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu ar ganlyniadau’r digwyddiadau hyn. Ceir tystiolaeth hefyd fod aelodau’r Blaid Geidwadol a Thŷ’r Arglwyddi wedi derbyn arian gan gyd-weithwyr agos Pwtin. Yn wir, gwyddys fod Rwsiaid â chysylltiadau agos â Pwtin wedi rhoi arian i aelodau llywodraeth Boris Johnson. Nid yw’n syndod, felly, nad yw’r llywodraeth wedi cynnal ymchwiliad sylweddol i ddylanwad y Cremlin yn Llundain, a’i ymyrraeth yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Mae rhai wedi dadlau bod dyfodol democratiaeth yn y fantol, ond i’r llywodraeth bresennol, mae arian llwgr y Cremlin yn gorbwyso’r pryder hwnnw. 

Yn amserol, mae pennod olaf Belton yn canolbwyntio ar Trump a’r ‘Rhwydwaith’ ac yn agor gyda dyfyniad arwyddocaol o sgwrs rhwng gangster Rwsiaidd nas enwir a’i gyfreithiwr: ‘You in the West, you think you’re playing chess with us. But you’re never going to win, because we’re not following any rules.’ Yn ‘K.G.B. capitalism’ Rwsia, mae’r oligarchiaid a pherchnogion cwmnïau mawrion Rwsia yn gweithredu fel asiantiaid ar gyfer y wladwriaeth. O bryd i’w gilydd, bydd Pwtin yn gofyn am gymwynas ganddynt ac ni feiddia’r oligarchiaid wrthod; maent yn gwybod y gallai Pwtin ddefnyddio sefydliadau’r wladwriaeth i ysbeilio’u cwmnïau a’u hanfon i’r carchar, fel y gwnaeth â’r oligarch Michail Chodorcofsci yn 2003, a dreuliodd ddeng mlynedd mewn carchar ar ôl herio Pwtin yn gyhoeddus. Mae’r oligarchiaid hyn wedi ymdrechu’n daer i greu cysylltiadau ar draws Ewrop a Gogledd America, yn y gobaith y bydd y cysylltiadau nid yn unig o ddefnydd gwleidyddol neu fasnachol maes o law, ond hefyd yn achub eu crwyn. Talodd yr ymdrechion ar eu canfed yn 2016, pan etholwyd Trump yn arlywydd. Bu’r oligarchiaid yn rhan bwysig o lwyddiant busnes Trump am bron i ddeng mlynedd ar hugain. Cyfeiria Belton at enghreifftiau lluosog o gytundebau ariannol a phrosiectau masnachol lle bu cydweithio rhyngddynt, ac yn ôl Belton, rhai o’r oligarchiaid hyn fu’n gyfrifol am achub Trump rhag dinistr ariannol. 

Yn ystod ei arlywyddiaeth, bu Trump yn gymwynaswr mawr i Pwtin a chyn-swyddogion y KGB. Aeth yn ei flaen i hau anhrefn yn y Gorllewin drwy rwygo’r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Cyhuddodd wledydd Ewrop o fod yn esgeulus ac yn orddibynnol ar arian yr Unol Daleithiau i gyllido NATO, gan fygwth na fyddai’r Unol Daleithiau yn ysgwyddo’r baich hwnnw mwyach. Ymosododd hefyd ar wleidyddiaeth fewnol gwledydd Ewrop: creodd densiynau enbyd yn yr Almaen drwy feirniadu polisi mewnfudo Angela Merkel, ac fe anogodd Boris Johnson i ddyfnhau’r hollt rhwng Prydain ac Ewrop drwy adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Dywed Belton am ei chyfweliad â Shalfa Tsigirinsci nad oedd y gŵr busnes yn llwyddo i beidio â chrechwenu wrth feddwl sut y gallai’r hen freuddwyd Sofietaidd ddod yn realiti – y byddai Ewrop, heb gymorth militaraidd yr Unol Daleithiau, yn chwalu’n ymryson rhwng ei chenedl-wladwriaethau: ‘“Then there will be nothing but for the Russians to come and take all the women,” he laughed.’ Ac meddai cyn-fanciwr Rwsiaidd â chysylltiadau â’r gwasanaethau cudd, ‘It looks like the whole of US politics is for sale ... we believed in Western values ... but it turned out everything depended on money, and all these values were pure hypocrisy.’

*

Ers iddo gael ei ailethol yn 2012, mae Pwtin wedi canolbwyntio’n helaeth ar gryfhau ei ddylanwad yn y Gorllewin. Prin fod wythnos yn mynd heibio heb i’r geiriau cyfarwydd Russian Interference a Russian Meddling ymddangos yn y newyddion. (‘It’s all Putin’s money,’ meddai un banciwr wrth Belton. ‘When he came to power, he started out saying he was no more than the hired manager. But then he became the controlling shareholder of all of Russia.’) Ond gyda chymaint o bwyslais ar adfer mawredd honedig Rwsia a’i dylanwad dros wledydd tramor, anghofiodd Pwtin am ei gytundeb â’r Rwsiaid. Ar ddiwrnod agoriadol Cwpan Pêl-droed y Byd ym mis Mehefin 2018, datganodd y llywodraeth fod y cronfeydd i dalu pensiynau’r Rwsiaid yn edwino, ac y byddai’n rhaid codi’r oedran ymddeol. Parodd hyn syndod i’r Rwsiaid. Roedd gan y llywodraeth ddigon o arian i gynnal cystadleuaeth Cwpan Pêl-droed y Byd y flwyddyn honno, roeddent hefyd wedi cynyddu eu gwariant ar y lluoedd arfog er mwyn cefnogi llywodraeth Assad yn Rhyfel Cartref Syria, ond pam felly nad oedd ganddynt arian i dalu eu pensiynau? 

Yn sgil y datganiad hwn, galwodd Alecsei Nafalni ar y Rwsiaid i brotestio yn erbyn y penderfyniad. Mae Nafalni yn ymgyrchydd uchel ei gloch yn erbyn llygredd y Cremlin, ac y mae ganddo gefnogaeth sylweddol yn Rwsia. Ef yw prif wrthwynebydd Pwtin, er ei fod wedi ei wahardd rhag cymryd rhan mewn etholiadau. Ymdrechwyd i dawelu’r protestwyr drwy arestio llawer ohonynt, gan gynnwys Nafalni, ond fe barhaodd y protestiadau, serch hynny. Am gyfnod, ceisiodd Pwtin ymbellhau o’r anghydfod, ond wrth i’r protestiadau ymledu ar draws y wlad bu’n rhaid iddo apelio’n uniongyrchol am gefnogaeth y Rwsiaid mewn anerchiad ar y teledu. Pe na bai’r llywodraeth yn codi’r oedran ymddeol, rhybuddiodd, byddai cwymp economaidd yn anochel, ac yn dilyn y cwymp hwnnw, byddai’r wlad heb fodd i’w hamddiffyn ei hun rhag bygythiadau o wledydd eraill. Penderfynodd Pwtin fwrw ymlaen â’r diwygiadau, er gwaetha’r adwaith, ond fe dalodd yn hallt amdano ym mis Medi’r flwyddyn honno, pan ddaeth Sergei Ffwrgal i’r brig yn etholiad Chabarofsg. Fe gollodd ei blaid, Rwsia Unedig, mewn ardaloedd eraill hefyd. Sylweddolodd Pwtin y flwyddyn honno nad diamod mo cefnogaeth y Rwsiaid; maent yn barod i herio’i awdurdod, os oes rhaid. 

Gyda theimladau gwrth-lywodraethol eisoes yn mudferwi yn Rwsia, cythruddwyd Pwtin pan geisiodd Alecsei Nafalni ddefnyddio protestiadau Belarws fel tanwydd ar gyfer y teimladau hynny. Uwchlwythodd Nafalni gyfres o fideos poblogaidd ar y we ym mis Awst yn cymharu cyfundrefnau gormesol Pwtin a Lwcasienco, ac fe alwodd ar y Rwsiaid i gefnogi eu cymdogion ym Melarws. Ond ar 20 Awst fe’i trawyd yn wael wrth iddo ddychwelyd i Fosgo o ddinas Tomsg yn Siberia. Cafodd ei gludo i ysbyty yn Berlin a bu mewn coma am chwe diwrnod ar hugain. Mae meddygon yn yr Almaen wedi profi iddo gael ei wenwyno gan Nofitsioc, asiant nerfol a ddatblygwyd yn Rwsia ac a ddefnyddiwyd i wenwyno Sergei ac Iwlia Scripal yn Salisbury yn 2018. Cyhuddodd Nafalni swyddogion Gwasanaeth Diogelwch Rwsia, neu’r FSB, o’i wenwyno ar gais Pwtin. Nid oes tystiolaeth eto i brofi bod ei honiad yn wir, ond fe allai’r ymdrech fyrbwyll hon i’w ladd fod yn arwydd o bryder cynyddol ymysg Pwtin a’i gyd-weithwyr yn y Cremlin. Gyda phrotestiadau ar ddau begwn yr Undeb Ewrasiaidd, ym Melarws a dinas Chabarofsg, tybed a oedd Nafalni yn cael ei weld fel bygythiad gwirioneddol i gyfundrefn Pwtin? Yn groes i’r ddelwedd wasaidd, gymodlon ohono, meddai cyn-fentor Pwtin a maer cyntaf San Petersbwrg i gael ei ethol yn ddemocrataidd, Anatoli Sobtsiac, pan glywodd am y bwriad i apwyntio Pwtin yn brif weinidog, ‘Peidiwch â fy nychryn!’

Nid yw’n hawdd darogan sut y daw cyfundrefn Pwtin i ben. A fydd yntau, fel Lwcasienco, yn gwrthod ildio i ddymuniadau’r etholwyr, ynteu a fydd yn camu o’r neilltu? Ni all benodi olynydd yn rhwydd rhag iddo gynhyrfu’r carfanau y mae’n dibynnu arnynt er mwyn cadw rheolaeth, sef yr oligarchiaid a swyddogion y Gwasanaeth Diogelwch. Fel y noda Belton,

The lengths they’d gone to to forge their own fortress of power had dragged Putin and his security men so deeply into a web of compromise and criminality that the only way to secure their position was to find a way to prolong Putin’s rule.

Eleni fe ohiriwyd y broblem drwy newid cyfansoddiad Rwsia a chaniatáu i Pwtin aros mewn grym tan 2036, pan fydd yn 84 oed. Ond mae hynny hefyd yn arwydd o’i bryder ynghylch y dyfodol. Go brin y bydd yn awyddus i barhau’n arlywydd pan fydd dros ei bedwar ugain oed. Am y tro nid oes ganddo fawr o ddewis: fel Lwcasienco, ymddengys i Pwtin fethu  sicrhau dyfodol ei gyfundrefn. Nid yw’n llwyddo i leddfu’r tensiynau rhyngddo ef a dinasyddion ei wlad ac y mae’n dibynnu’n gynyddol ar drais er mwyn parhau i reoli. Ac os bydd cyfundrefn Lwcasienco ym Melarws yn dymchwel, bydd hynny’n neges glir i’r Rwsiaid y gellir curo Pwtin hefyd – nid yn yr orsaf bleidleisio, ond trwy brotestio, ar y stryd. Ond fel y dywedodd un banciwr Rwsiaidd wrth egluro wrth Belton sut i osgoi mynd yn ysglyfaeth i rym Pwtin: ‘It’s all very simple: when the film ends you need to get out of the cinema hall. You don’t stay and wait for the next show.’

Cwblhaodd Samuel Jones radd ddoethuriaethol yn ddiweddar ar gyfieithiadau T Hudson-Williams o'r Rwsieg i'r Gymraeg.

Gwnaeth y Rwsiaid gytundeb anysgrifenedig â’u hachubwr: gallai Pwtin ymestyn ei ddylanwad dros bob cangen o’r wladwriaeth a’r economi, cyn belled nad oedd yn amharu ar fywydau beunyddiol y dosbarth canol newydd yn Rwsia

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Samuel Jones
#Rwsia
#Wcráin