Adolygu

Gareth Jones a newyn Wcráin

– y llyfrau, y ffilmiau, y propaganda

Ray Gamache

Gareth Jones: Eye-witness to the Holodomor

Welsh Academic Press, 280tt, £19.99, 2013; 2018

Anne Applebaum

Red Famine: Stalin's War on Ukraine

Allen Lane, 512tt, £25, 2017

Timothy Snyder

Bloodlands: Europe between Hitler and Stalin

Vintage, 544tt, £10.99, 2010; 2011

Colin Thomas

Dreaming a City: From Wales to Ukraine

Y Lolfa, 112tt, £12, 2009

Margaret Siriol Colley

More than a grain of truth

Nigel Linsan Colley, 450tt, £13.50, 2005

Hiroaki Kuromyia

Freedom and Terror in the Donbas

Cambridge University Press, 378tt, £40, 1998

Agnieszka Holland

Gareth Jones

West End Films, 2019,

George Mendeluk

Bitter Harvest

Arrow Films, 2017; ar gael ar DVD,

Sergiy Bukovsky

ЖИВИ (The Living)

Listopad Film, 2013, ar gael ar YouTube,

Teresa Cherfas

Hitler, Stalin and Mr Jones

BBC, 2012, ar gael ar YouTube,

Ned Thomas

Amser darllen: 22 munud

28·11·2018

James Norton fel Gareth Jones yn ffilm arfaethedig Agnieszka Holland, Gareth Jones, i'w rhyddhau yn 2019
 

Meta-stori sydd gen i, sef hanes y ffordd yr adroddir y stori: stori Gareth Jones yn Rwsia ac Wcráin. Bydd llawer wedi clywed, yn fras o leiaf, am y newyddiadurwr ifanc a mentrus o Gymro a fu’n llygad-dyst i newyn mawr Sofietaidd 1932–33 ac a geisiodd dynnu sylw’r byd ato. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1935, ac yntau’n ddim ond 29 oed, lladdwyd ef gan fanditiaid yn Mantsiwria, o bosib ar gais yr heddlu cudd Sofietaidd. Aeth trigain mlynedd fudan heibio, ac wedyn, yn y ganrif newydd, cafwyd diddordeb cynyddol yn ei hanes. Codwyd cofeb tairieithog iddo yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth, lle graddiodd mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac un arall yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd mewn Rwsieg. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau ac erthyglau amdano neu’n tynnu ar ei waith, yn ogystal â rhaglenni radio a theledu a ffilmiau. Y flwyddyn nesaf (2019) rhyddheir ffilm nodwedd yn dwyn y teitl Gareth Jones, cyd-gynhyrchiad Wcráin, Gwlad Pwyl a Phrydain, fydd yn ei gyflwyno i gynulleidfa eang.

Mae stori arall sy’n cysylltu Cymru â’r un rhan o’r byd, sef hanes y diwydiannwr John Hughes, a aeth draw o Ferthyr Tudful i ardal y Donbas yn 1869 ar wahoddiad y Tsar. Sefydlodd hanner dwsin o lofeydd, gwaith dur enfawr a thref fu’n dwyn ei enw – Hughesofca/Iwsofca. Hyn i gyd lle gynt y bu dim ond bugail a’i gi yn ôl Annie Gwen, Cymraes fentrus, hithau o gyffiniau Merthyr, a fu’n byw yn Iwsofca rhwng 1889 ac 1892 yn diwtor i ddwy ferch Arthur Hughes, ail fab John Hughes. Yn nes ymlaen, priododd Annie Gwen ag Edgar Jones, prifathro Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y Barri; cawsant dri o blant, a’r ieuengaf ohonynt oedd Gareth Jones. Mae’r ddwy stori felly’n cydblethu ar lefel unigolion; ond mae rhyw gyfochredd hefyd i’w weld rhwng ardaloedd glofaol poblog y Donbas ac ardaloedd diwydiannol de Cymru: y mewnlif poblogaeth o bell ac agos, y gymysgedd iaith, a’r amodau byw afiach iawn yn y cyfnod cynnar. Dihangodd Annie Gwen ynghyd â theulu Arthur Hughes oddi yno yn 1892 oherwydd terfysg adeg y colera. Cafodd Merthyr ei derfysg yn 1831 a’i epidemig colera yn 1833. Ers amser Annie Gwen, mae Iwsofca wedi newid ei enw ddwywaith – i Stalino yn 1924 ac i Donetsc yn 1961. Ychydig cyn i’r Undeb Sofietaidd chwalu, aeth yr hanesydd Gwyn Alf Williams (ei hun o Ferthyr) yno i ffilmio’r gyfres deledu Hughesovka and the New Russia (Teliesyn ar gyfer BBC 2, 1991). Erbyn i’r cynhyrchydd Colin Thomas ysgrifennu llyfr difyr am y profiad, Dreaming a City (2009), yr oedd Wcráin yn wlad annibynnol, ac erbyn heddiw Gweriniaeth Donetsc a Gweriniaeth Lwgansc gyfagos yw’r ddwy dalaith ar y ffin â Ffederasiwn Rwsia a ddatganodd eu hannibyniaeth oddi wrth Wcráin yn 2014. Mae tiriogaeth y naill dalaith a’r llall yn fwy o dipyn na thiriogaeth Cymru gyfan, er mai llai na hanner y tir hwnnw sydd heddiw ym meddiant y gwrthryfelwyr. Rhyngddynt a llywodraeth Wcráin mae rhyfel yn parhau, ar lefel isel, ac mae rhyfel propaganda parhaus rhwng Wcráin a Ffederasiwn Rwsia.

Mae’n debyg y byddai hanes Gareth Jones wedi mynd ar goll yn llwyr heblaw am ymchwil ac ymroddiad dau aelod o’i deulu, sef ei nith Siriol Colley a’i mab hithau Nigel Colley sydd wedi cynnal y wefan gyfoethog GarethJones.org lle cawn ddarllen erthyglau gwreiddiol y newyddiadurwr a llawer o ddogfennau perthnasol eraill. Roedd llyfr cyntaf Siriol Colley, A Manchuko Incident (2001), yn ymwneud â dirgelwch marwolaeth Gareth Jones – ond mae hynny tu hwnt i faes yr erthygl hon. Yna cyhoeddodd hi a’i mab fywgraffiad llawn, More than a Grain of Truth (2005). Yn naturiol, roedd ganddynt lawer o wybodaeth deuluol yn barod, ond wedyn daethant o hyd i lythyron a dyddiaduron a fu’n cuddied, yn ddiarwybod i’r teulu, mewn ces o’i eiddo. Dogfen arall a ddaeth i’r golwg o fewn y teulu oedd ysgrif ddifyr a luniwyd gan Annie Gwen Jones, mam Gareth, yn ei henaint. Cyhoeddwyd yr ysgrif, ynghyd â sgwrs radio Gymraeg ganddi ar yr un pwnc, ‘Life on the Steppes of South Russia 1889–1892’.

Pwrpas y bywgraffiad teuluol oedd portreadu’r dyn cyflawn, a bydd Cymry Cymraeg yn deall cefndir diwylliannol Gareth yn well na’r rhelyw o ddarllenwyr y llyfr. O Lanrhaeadr-ym-Mochnant y deuai ei dad, y prifathro, a phan ddaeth Gareth wyneb yn wyneb â’r broses greulon o gyfunoli amaethyddiaeth yn Rwsia, nid rhyfedd iddo feddwl am ymateb tebygol ffermwyr bach Cymru petai’r wladwriaeth yn atafaelu eu tir a’u hanifeiliaid. Pan oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth ar ddechrau’r 1920au bu’n mynychu Capel y Tabernacl ac yn ymddiddori yng ngwaith Cynghrair y Cenhedloedd dros heddwch; yn wir, aeth draw i un o’i chyfarfodydd yn Ngenefa. Fel un oedd yn astudio Almaeneg a chanddo ffrindiau o’r Almaen, yr oedd yn poeni am effaith gosbedigaethol Cytundeb Versailles ar werin y wlad honno. O ystyried delfrydiaeth flaengar ei gefndir (roedd ei fam hefyd yn etholfreintwraig neu’n suffragist weithgar), hawdd dychmygu’r math o agweddau moesol y byddai’n eu coleddu wrth gamu i fyd gwleidyddiaeth ryngwladol. Aeth i Rwsia y tro cyntaf heb ragfarnau gwrthgomiwnyddol, ac yn wir darganfu nifer o bethau i’w canmol; ond nid oedd ychwaith yn Farcsydd nac yn rhannu breuddwyd apocalyptaidd Comiwnyddion o gefndir mwy gwerinol megis Niclas y Glais, a welai ddydd y chwyldro byd-eang yn gwawrio yn Rwsia. Ar long wrth deithio i’r wlad honno mae’n cael cwmni Saesnes o’r Fabian Society a Chomiwnydd brwd o Glasgow, y ddau am ymweld â gwlad yr addewid. Mae’r Saesnes yn poeni rywfaint, fodd bynnag, am yr hyn a glywodd am greulondeb yr heddlu gwleidyddol yn Rwsia. Pan ddaw’r chwyldro i Brydain, medd yr Albanwr, bydd angen heddlu sy’n fwy didostur byth. Dyna pryd mae’r Cymro Gareth Jones yn datgan ei fod ef yn heddychwr. Tybed a oedd yn adnabod y Waldo Williams ifanc? Fe raddiodd y ddau o Aberystwyth yr un flwyddyn.

✒︎

Sut y llwyddodd Gareth Jones i gael mynediad i gylchoedd rhyngwladol mor ddylanwadol, ac yntau’n ddim ond newyddiadurwr llawrydd, ifanc? Trwy rwydweithio Cymreig. Cafodd waith dros dro fel ymchwilydd/ymgynghorydd ar faterion tramor i Lloyd George, a hynny drwy gysylltiad ei dad â Thomas Jones (TJ), a fu’n Ysgrifennydd y Cabinet i sawl Prif Weinidog. Enw Lloyd George agorodd y drws i Gareth Jones ymhobman: yn Rwsia cafodd gyfweliadau â Crwpscaia, gweddw Lenin, a Litfinof, y comisâr dros faterion tramor; yn yr Almaen yn 1933 cafodd deithio yn awyren breifat Hitler i wrando ar araith y Führer yn Frankfurt; mae llun ohono yn yr Unol Daleithiau yn sefyll tu ôl i’r Arlywydd Hoover; ac yng Nghymru daeth i nabod Randolph Hearst, perchennog y gadwyn bapurau newydd fwyaf yn yr Unol Daleithiau oedd wedi prynu Castell Sain Dunwyd ym Morgannwg.

Mae’n debygol iawn mai profiad cynnar ei fam a ysgogodd Gareth i ddysgu Rwsieg, a phan aeth i Rwsia am dair wythnos yn 1930 ar y cyntaf o dri ymweliad, ei daith gyntaftu allan i gyffiniau Mosco oedd taith i Stalino/Iwsofca, Rostof-ar-afon Don a Charcof. Mae’r gohebwyr tramor eraill ym Mosco ar y pryd yn nodi ei fod yn cadw nodiadau manwl iawn a hefyd yn synnu mor rhugl yw ei Rwsieg – sy’n awgrymu i mi nad oedd yr un peth yn wir am lawer ohonyn nhw. Byddai’n mynd i achlysuron swyddogol ac yn cyfweld â swyddogion, yn ogystal â holi arbenigwyr o dramor oedd ynteithio arhyd a lledRwsia; byddai’n cadw mewn cysylltiad â gohebwyr eraill a diplomatiaid, ond yn fwy na dim byddai’n manteisio ar bob cyfle i dynnu sgwrs â phobl gyffredin. Defnyddiai ddyfyniadau o’r sgyrsiau hynny wedyn i fywiocáu erthyglau mwy dadansoddol. Buan y deallodd fod y realiti ar lawr gwlad yn wahanol iawn i’r darlun a gyflwynid i dramorwyr ar yr ymweliadau swyddogol a drefnwyd ar eu cyfer. Fe ddeallodd fod dosbarth newydd breintiedig eisoes yn ymffurfio, bod y gwaharddiad ar ganu clychau’r eglwysi yn cynddeiriogi llawer, bod pobl cefn gwlad yn casáu’r Comiwnyddion oherwydd iddyntladd ac alltudio’r Cwlaciaid, y ffermwyr hynny y tybiwyd eu bod yn fwy cefnog. Ar yr un pryd, yr oedd yn cydnabod uchelgais cynllun pum mlynedd Stalin i ddatblygu diwydiant a gwario’n helaeth ar addysg, iaith a diwylliant y gwahanol weriniaethau o fewn yr Undeb. Deallodd hefyd ei fod dan wyliadwraeth. Ar wahân i ddyfyniadau Rwsieg, yn Saesneg y mae swmp ei nodiadau yn y dyddiaduron, ond yma ac acw mae’n defnyddio gair neu ymadrodd Cymraeg, neu’n cyfieithu dyfyniad i’r Gymraeg, ac rwy’n tybio fod hyn, o leiaf mewn rhai achosion, er mwyn celu pwy y bu’n siarad â nhw neu’r hyn a ddywedwyd. Mae’n cyfweld offeiriad ac yn defnyddio’r gair Cymraeg ‘pregethwr’ i’w ddisgrifio yn ei nodiadau. Mae’n siarad â dyn yn tywys ceffyl sy’n gofyn (mae’r cofnod yn Gymraeg): ‘Pryd bydd rhyfel? Mae pawb yn ymofyn rhyfel. Bydd pawb yn codi yn erbyn y diafolod.’ Roedd wedi deall yn gynnar hefyd fod sensor yn darllen ei bost. Ar ei daith gyntaf i’r de postiodd gardiau a llythyrau at ei deulu yn nodi pethau diddorol a chanmoladwy. Gwahanol iawn oedd cynnwys y llythyr a anfonodd y funud y cyrhaeddodd Berlin:

Russia is in a very bad state, rotten, no food, only bread; oppression; injustice. ... the winter is going to be one of great suffering there, and there is starvation ... It makes me mad to think that people like [geiriau wedi eu croesi allan] go there and come back, after having been led around by the nose and had enough to eat, and say that Russia is a paradise ... The government is the most brutal in the world. The peasants hate the Communists ... One reason why I left Hughesovka so quickly was that all I could get to eat was a roll of bread ... Many Russians are too weak to work. I am terribly sorry for them.

Roedd pethau’n waeth o lawer erbyn ei drydydd ymweliad ym mis Mawrth 1933, ac yntau’n fwy cyfrwys. Wedi cyrraedd Mosco yn 1933 cafodd ganiatâd i deithio i Charcof (prifddinas Wcráin bryd hynny) i ymweld â ffatri gynhyrchu tractorau. Trefnodd i aros gydag is-gennad yrAlmaen yno. Ond disgynnodd yn ddirybudd o’r trên ryw ddeugain milltir i’r gogledd o’r ddinas a cherdded drwy ugain o bentrefi cyn i’r heddlu ei ddarganfod a’i arwain i Charcof. Gwnaeth nodiadau yn ei ddyddiadur o’r hyn a glywodd gan bobl ar y trên a’r hyn a welodd ac a glywodd yn y pentrefi, a dyma enghraifft a ddyfynnwyd dro ar ôl tro:

Boy in train asking for bread. I dropped a small piece on floor and put it in spittoon. Peasant came and picked it up and ate it. … I dropped orange peel into spittoon. Peasant picked it up and ate it. Later apple core. Man speaking German, same story. ‘Tell them everybody starving.’ Bellies extended ... All people say same: ‘хлеба нету, все пухлы’ [dim bara, pawb wedi chwyddo]. One woman said: ‘We are looking forward to death.’ In one village, all bread had gone, potatoes had just run out and there was only буряк [betys] for one month. How can they live till next harvest? Went into village. ‘There’s no bread here. We’ve had no bread for two months. Each dvor [tyddyn teuluol] had one or two cows. Now none. There are almost no oxen left and the horses have been dying off.’

Pan gyrhaeddodd Gareth Jones Berlin y tro hwn, galwodd gynhadledd i’r wasg. Datgelodd y gwir am yr hyn a welsai, a chafodd gyhoeddusrwydd byd-eang diolch i’w gysylltiad â Lloyd George. Drannoeth, yr oedd yn darlithio yn Llundain ac yn cyhoeddi’r gyntaf o gyfres o erthyglau ar y pwnc. Gwyddai na fyddai byth eto’n cael ymweld â’r Undeb Sofietaidd.

✒︎

O ddiwedd yr 1980au ymlaen dechreuodd y teulu drosglwyddo papurau Gareth Jones i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Roeddent bellach ar gael i ymchwilwyr, yn eu plith yr Americanwr Ray Gamache, newyddiadurwr profiadol oedd wedi troi’n academydd ym maes newyddiaduraeth. Mae ailolygiad ei gyfrol Gareth Jones: Eyewitness to the Holodomor (2013) newydd ymddangos (Holodomor yw’r gair Wcreineg am y Newyn Marwol). I Gamache, mae Gareth Jones yn batrwm o’r hyn y dylai newyddiadurwr fod. Ond paham, mae’n gofyn, na chafodd yr un gwirionedd ei gyhoeddi i’r byd gan ohebwyr y wasg Saesneg oedd yn Mosco yngyfamserol (Americanwyr yn bennaf)? Nid diffyg gwybodaeth oedd yn gyfrifol. Doedd dim rhaid mynd i’r ardaloedd mwyaf newynog i glywed am y sefyllfa gan fod ffoaduriaid yn cyrraedd y brifddinas yn feunyddiol ac yn adrodd eu profiadau. Y gwir oedd fod y gohebwyr tramor oll yn ddibynnol iawn ar yr awdurdodau Sofietaidd am gael aros yn y wlad o gwbl. Roedd rhai o’r gohebwyr yn Gomiwnyddion o argyhoeddiad, er iddynt gael eu dadrithio yn nes ymlaen. Cymeriad mwy cymhleth a sinigaidd oedd William Duranty, Sais o Lerpwl a gohebydd y New York Times, dyn oedd yn hoff o ddyfynnu brawddeg a dadogir ar Lenin (ond hefyd ar Napoleon a Robespierre), sef nad oes modd gwneud omled heb dorri wyau. Ddeuddydd wedi cynhadledd Gareth Jones ym Merlin cyhoeddodd Duranty lith yn y New York Times dan y pennawd ‘Russians Hungry butnot Starving’ ac aethymlaeni awgrymu nad doeth seilio erthyglau ar daith gerdded o ychydig ddyddiau mewn un ardal. Dadleuodd Gareth Jones mewn llythyr at y papur (a gadwyd am fis cyn ei gyhoeddi) mai cadarnhau’r hyn a ddysgodd o ffynonellau erailltra amrywiol a wnaeth ei daith gerdded. Ond faint oedd honiadau’r Cymro ifanc yn cyfrif yn erbyn gair un o hoelion wyth newyddiaduraeth Saesneg, dyn oedd newydd dderbyn Gwobr Pullitzer am ei adroddiadau o Rwsia? Yn fwy na hynny, cafodd Duranty gefnogaeth y gohebwyr Americanaidd eraill ym Mosco, wedi cyfarfod a ddisgrifiwyd yn ôl-syllol gan un a oedd yn bresennol, sef Eugene Lyons. Yr oedd y gohebwyr i gyd am gael mynediad i’r llys i glywed achos o sabotage yn erbyn peirianwyr y cwmni Prydeinig Metro-Vickers, a daeth y swyddog oedd â’r hawl i roi caniatâd iddynti gyfarfod â’r gohebwyr ddiwrnod ar ôl cynhadledd Gareth Jones ym Merlin:

The scene in which the American press corps combined to repudiate Jones is fresh in my mind ... Comrade Umansky knew he had a strategic advantage over us because of the Metro-Vickers story ... There was much bargaining in a spirit of gentlemanly give-and-take under the effulgence of Umansky’s gilded smile before a formula of denial was worked out. We admitted enough to soothe our consciences, but in roundabout phrases that damned Jones as a liar. The filthy business having been disposed of, someone ordered vodka and zakuski, Umanski joined the celebrations and the party did not break up until the early morning hours.

Mae’n bosibl hefyd fod Duranty yn ysgrifennu’r hyn yr oedd y New York Times am ei glywed. Yr oedd Franklin D Roosevelt newydd gychwyn fel Arlywydd ym mis Mawrth 1933 wedi pedair blynedd drychinebus Herbert Hoover wrth y llyw, cwymp dramatig y farchnad stoc a chychwyn y dirwasgiad mawr. Yn wahanol i Hoover yr oedd yr Arlywydd newydd am i’r llywodraeth ffederal ymyrryd yn yr economi. Yr oedd yn fwy ffafriol i’r arbrawf Sofietaidd ac yn awyddus i weld yr Unol Daleithiau yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i’r wladwriaeth gomiwnyddol newydd. Ym Mhrydain hefyd yr oedd agweddau pobl flaengar yn ffafriol i’r arbrawf Sofietaidd. Yr oedd Bernard Shaw newydd ymweld â’r wlad a’i chanmol i’r cymylau. O ganlyniad, yn ôl un o nodiadau Gareth Jones, ‘Bernard Shaw is the most unpopular man after Stalin.’ Mae ymgyrch yn parhau yn yr Unol Daleithau (gan Wcreiniaid, yn naturiol) i ddwyn perswâd ar bwyllgor Pullitzer i dynnu’r wobr a gafodd Duranty ganddynt yn ôl, er bod Duranty ei hun wedi hen farw.

✒︎

Un arall a fu’n ymchwilio i hanes Gareth Jones tua’r un adeg oedd Teresa Cherfas, cynhyrchydd y rhaglen ddogfen hir Hitler, Stalin and Mr Jones (BBC 2012, bellach ar YouTube). Roedd ganddi’r fantais o fedru Rwsieg a hefyd bod rhai archifau Sofietaidd erbyn hynny’n agored i’r cyhoedd. Dengys y rhaglen gryfderau’r cyfrwng teledu pan fo adnoddau digonol wrth gefn. Mae’n mynd dros lawer o’r tir y bûm i’n ei drafod hyd yma gan gyfweld â theulu Gareth Jones a dangos hen ffilm o Lloyd George, Hitler, Litfinof ac eraill. Mae’n ymweld â’r gwahanol leoliadau yn Rwsia, Wcráin, y Barri, Aberystwyth a Mantiwria, ac yn holi ambell un oedd yn cofio’r dyn neu’r cyfnod. Ehanga’r ffocws wrth gyfeirio at ddiweithdra torcalonnus y tridegau cynnar yng Nghymru, Berlin a’r Unol Daleithiau – a’r atebion a gynigiwyd gan y Comiwnyddion, a chan Hitler hefyd yn 1933.

Gall rhaglen o’r fath godi llawer iawn o gwestiynau a’u dramateiddio, ond gall hefyd ei chael yn anodd cadw’r ffocws yn dynn ar unrhyw un cwestiwn neu ddilyn un ddadl i’r pen. Yr oedd pethau ar ôl i’w dweud am Gareth Jones gan y cynhyrchydd ar ôl cwblhau’r ffilm, ac fe wnaeth hynny mewn erthygl academaidd hir ond darllenadwy iawn, ‘Reporting Stalin’s Famine – Jones and Muggeridge: a case study in forgetting and rediscovery’, yn y cylchgrawn Kritika (2013). Cyhoeddwyd erthygl fwy dadleuol ganddi yn Planet, Rhif 210 (Haf 2013), a heriwyd gan Ray Gamache yn rhifyn olynol y cylchgrawn hwnnw. Tra oedd y rhaglen deledu wedi bodloni ar osod Gareth Jones yn erbyn cefndir y frwydr ideolegol rhwng Comiwnyddiaeth a Natsïaeth, mae’r erthygl yn ensynio fod y Cymro efallai’n rhy hoff o’r Almaen ac yn rhy agos at bobl fyddai’n troi’n Natsïaid. Yn ei erthyglau mae Gareth Jones yn cydnabod carisma Hitler yr areithiwr ac yn gweld posibiliadau yn ei gynlluniau i ddatrys diweithdra, ond ar yr un pryd, y mae’n nodi’n gynnar fod casineb at Iddewon yn ganolog i’w fydolwg. Pan laddwyd Gareth Jones yn y Dwyrain Pell, roedd hynny’n newyddion ym mhobman, ac nid wyf yn ei chael yn rhyfedd fod teyrnged iddo wedi ymddangos hefyd yn y papur Natsïaidd Völkischer Beobachter. Yr oedd unrhyw un oedd wedi beirniadu’r drefn Gomiwnyddol yn sicr o ganmoliaeth gan y Natsïaid. Erbyn diwedd y dadlau ar dudalennau Planet rwy’n credu fod Teresa Cherfas wedi tynnu’n ôl yr ensyniadau personol am Gareth Jones. Yr hyn a lwyddodd i’w wneud, fodd bynnag, oedd dangos yr anhawster cynyddol yn y cyfnod i ganfod troedle annibynnol rhwng dwy ideoleg hollgwmpasog. Wrth i’r garfan chwith a blaengar wrthod beirniadu trefn Stalin, ble oedd ar ôl i Gareth Jones gyhoeddi erthyglau am Rwsia? Ymddangosodd ei dair erthygl olaf ar y pwnc ym mhapurau adain dde Randolph Hearst, oedd yn prysur droi o fod yn gefnogwr i Roosevelt i fod yn wrthgomiwnyddol a hyd yn oed yn gefnogol i Natsïaeth.

✒︎

Nid yw’r ffilm newydd sydd ar y gorwel, Gareth Jones, yn hawlio bod yn gwbl ffyddlon i hanes ei gwrthrych ond yn hytrach ‘wedi ei hysbrydoli’ ganddo. Annheg felly, mae’n siŵr, fyddai imi gwyno am y bwriad i gynnwys golygfa gwbl anhanesyddol lle bydd Gareth Jones yn cwrdd â George Orwell ac yn ei ysbrydoli (ddeng mlynedd yn ddiweddarach) i ysgrifennu Animal Farm. Nid dylanwad a welaf fi ond rhyw gyfochredd yn sefyllfa’r ddau. Yr oedd George Orwell ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hefyd yn chwilio am droedle rhwng y ddwy dotalitariaeth. Yr oedd yn galw ei hun yn Sosialydd a bu’n ymladd yn erbyn Ffasgaeth yn Sbaen, ond oherwydd ei brofiad yno yr oedd wedi troi yn erbyn Rwsia Stalinaidd. Yn 1944, a Rwsia’n ymladd ar ochr Prydain, yr unig gyhoeddwr oedd yn barod i dderbyn Animal Farm oedd gwasg fechan yn perthyn i’r Anarchwyr, a dim ond newid yn yr hinsawdd wleidyddol a achubodd y llyfr. Wrth i’r Rhyfel Oer ddechrau, troes ffrindiau’n elynion a gelynion yn ffrindiau. Cafodd Animal Farm gyhoeddwr masnachol a bu’n llwyddiant ysgubol. Yn gynnar iawn cafwyd cyfieithiad Wcreineg ac fe luniodd Orwell ragymadrodd ar ei gyfer. Ynddo mae’n datgan nad oes dim wedi llygru delfrydau gwreiddiol Sosialaeth yn gymaint â’r gred fod Rwsia’n wlad Sosialaidd a bod yn rhaid esgusodi popeth a wneir gan ei llywodraeth. Ond mae hynny’n ddigon i rai heddiw alw Orwell yn awdur adain dde.

Gwadu popeth am newyn mawr 1932–33 oedd polisi Stalin cyn yr Ail Ryfel Byd, ac yn ystod y rhyfel anghofiodd y byd gorllewinol am y mater. Yn gynnar wedi’r rhyfel yr oedd ymchwilwyr Wcreinaidd yn y diaspora wedi dechrau casglu tystiolaeth, ond pardduwyd pob un o’r alltudion oherwydd gweithgarwch y carfanau Wcreinaidd hynny a gydweithiodd â’r Natsïaid yn erbyn y Fyddin Goch, a’u cynorthwyo hefyd i ddifa Iddewon. Eto i gyd, erbyn 1986 yr oedd llyfr yr hanesydd Robert Conquest, The Harvest of Sorrow: Soviet Collectivization and the Terror-famine, wedi ymddangos; ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd adroddiad i Gyngres yr Unol Daleithiau gan y Comisiwn ar y Newyn yn Wcráin sy’n cynnwys detholiad helaeth o’r dystiolaeth a gasglwyd. Yr oedd Gwyn Alf Williams (Comiwnydd anuniongred iawn) yn gwybod am lyfr Robert Conquest pan aeth i ffilmio i Donetsc yn 1990, ac ni wnaeth unrhyw ymgais i wadu’r ffeithiau oedd ynddo. Cynigiodd, yn hytrach, yr amddiffyniad Cymreig ein bod ni hefyd yn ddioddefwyr:

And as Stalino grew at breakneck pace, back in John Hughes’ homeland, South Wales was devastated by the Depression. Thousands of people there looked to the Soviet Union as a beacon of hope as I did myself. We knew little of the repression. We knew of the sacrifices – we saw them as the price paid by a heroic people building a new social order.

Wedi chwalu’r Undeb Sofietaidd yn 1991 daeth archifau’n gyhoeddus oedd yn gosod casgliadau Conquest ar sail gadarnach. Gellir darllen am hyn i gyd yng nghyfrol ragorol Timothy Snyder, Bloodlands: Europe between Hitler and Stalin (2010), a llyfr mwy dadleuol Anne Applebaum, Red Famine: Stalin’s War on Ukraine (2017). Mae hanes unigryw Donetsc a’r Donbas yn cael sylw manwl yng nghyfrol wych Hiroaki Kuromiya Freedom and Terror in the Donbas (1998). O ran maint newyn mawr 1932–33, mae’r ffigurau a ddyfynnir yn amrywio’n fawr iawn ond bu farw o leiaf dair miliwn yn Wcráin, a rhai miliynau pellach yn ardaloedd y Cwban, Dyffryn y Folga, Gogledd y Cawcasws, a’r Tiroedd Duon, i gyd o fewn Rwsia heddiw, a miliwn o leiaf yn yr hyn sydd bellach yn Casachstan. Mae’r dystiolaeth lafar, ysgrifenedig a ffotograffig sydd ar gael erbyn hyn yn cofnodi erchyllterau ymhell tu hwnt i’r hyn a welodd Gareth Jones: rhieni’n lladd eu plant er mwyn iddynt beidio â dioddef ymhellach, ac achosion niferus iawn o ganibaliaeth. Mae pob tyst i’r newyn yn bwysig yn naturiol, ond eto mae’r cwestiwn yn codi: gyda’r holl dystiolaeth sydd ar gael, paham y defnyddir hanes Gareth Jones dro ar ôl tro, yn arbennig yn y naratif Wcreinaidd am yr Holodomor, nes iddo fynd yn arwr?
 

Ffotograff Mycola Bocan o'i deulu yn 1933, gyda theyrnged i Costya a fu farw o newyn
Holodomor Victims Memorial


Yn gyntaf oll, mae stori Gareth Jones yn cynnig rhyw gyfochredd trawiadol â stori’r newyn ei hun, y naill a’r llall yn gweld golau dydd ar ôl cyfnod cuddiedig. Yn fwy na hynny, gwadwyd adroddiadau Gareth Jones fel y gwadwyd y newyn ei hun ac mae hynny’n feirniadaeth ar y byd tu allan, ac yn arbennig ar y cylchoedd blaengar a ddewisodd anwybyddu neu ddiystyru’r dystiolaeth. Nid yw’r ddadl honno ar ben ychwaith, er iddi symud ei thir. Y ddadl bellach yw a fedrir cyfartalu troseddau Comiwnyddiaeth a Natsïaeth, Stalin a Hitler. Roedd Datganiad Prâg (2008) a nifer o benderfyniadau gan Senedd Ewrop a’r OSCE a ddeilliodd ohono, yn awgrymu fod modd gwneud hynny. Mae Rwsia a rhai carfanau adain chwith yn y Gorllewin (gan gynnwys rhai o gwmpas Jeremy Corbyn) yn gwrthwynebu’n ffyrnig gyfartalu’r ddau beth, er yn cydnabod troseddau Stalin yng nghyd-destun gwleidyddol y cyfnod. Mae llawer o garfanau Iddewig yn gwrthwynebu hefyd gan fod cyfartalu’r ddwy dotalitariaeth yn golygu colli statws unigryw’r Holocost. Yn wir, mae’r termau Holodomor a Holocost (cyd-daro ffonetig, nid etymolegol) wedi mynd yn arfau yn y frwydr rhwng Wcráin a Rwsia: y gyntaf yn gweld Pwtin yn esgusodi Stalin, yr ail yn cyhuddo llywodraeth Wcráin o ddathlu’r union fudiadau a gynorthwyodd y Natsïaid. Mae rhywfaint o sail i’r naill gyhuddiad a’r llall. A beth am rôl Stalin a Rwsia yn gwrthsefyll Natsïaeth? Collodd yr Undeb Sofietaidd filiynau (Wcraniaid yn eu plith) yn y frwydr a elwir yn Rwsieg yn Rhyfel Gwladgarol Mawr – term a waherddir bellach yn Wcráin. Yn y cefndir mae cwestiwn sy’n pigo cydwybod pawb ohonom. Mae’n haws gennym gydymdeimlo â delfrydau Marcsiaeth a’r Bolsieficiaid, y dymuniad i wella cyflwr y ddynoliaeth. Maent yn gynnyrch traddodiad deallusol a rhesymegol yr Oleuedigaeth tra bo Natsïaeth yn fwy tabloid, yn ddireswm ac yn sôn am hil a gwaed. Ond faint gwell yw hi i ladd pobl, neu gyfiawnhau hynny, am resymau purach?

Agwedd arall o’r un ddadl yw’r cwestiwn a oedd yr Holodomor yn hilladdiad. A oedd Stalin yn bwriadu dileu cenedl yr Wcreiniaid, neu a oedd y newyn, yn hytrach, yn ganlyniad polisïau mwy cyffredinol ledled yr Undeb Sofietaidd a gafodd effaith farwol yn Wcráin, ond hefyd ar grwpiau eraill megis y Casaciaid nomadaidd a gollodd gyfran uwch o’u poblogaeth? Mae’n rhaid imi ddweud nad oes gen i lawer o amynedd â’r gêm o gyfrif a chymharu nifer y meirwon, neu ymryson dros dermau diffiniol fel hil-laddiad. Os diffinir hil-laddiad yn yr ystyr fwyaf bwriadol, yna mae’r Iddewon yn achos unigryw; os gellir ei estyn i gynnwys canlyniadau polisi arbennig lle mae elfen o fwriad ethnig yn cydredeg â ffactorau eraill, yna fe ellir cynnwys yr Holodomor a hefyd newyn Gorllewin Bengal yn 1943, pan fu farw rhwng miliwn a thair miliwn. Bryd hynny, gallai Churchill fod wedi dargyfeirio llongau’n cario grawn o Awstralia i achub poblogaeth Indiaidd o fewn yr ymerodraeth ond dewisodd beidio â gwneud; yn yr un modd ag y gallai Stalin fod wedi dosbarthu grawn yn Wcráin oedd ar gadw ganddo ar gyfer gweithwyr diwydiannol ac i’w werthu ar y farchnad ryngwladol.

✒︎

Rwy’n troi’n ôl at ddyddiaduron ac erthyglau Gareth Jones. Trafod agweddau ar wleidyddiaeth a chymdeithas yr Undeb Sofietaidd drwyddi draw y maent ar y cyfan. Ym Mosco a’r cylch y treuliodd lawer o’i amser ond mae’n clywed am lefydd eraill gan ffynonellau dibynadwy – er enghraifft, am golledion Casacstan gan arbenigwr Almaenig a fu’n gweithio yno. Fe glywodd am newyn yn Wcráin a phenderfynu mynd yno i weld drosto’i hun, ond cymharol gyfyngedig yw ei drafodaeth o gwestiwn Wcráin a’i hunaniaeth. Fodd bynnag, pan gyfeirir at Gareth Jones yn y llyfrau a’r ffilmiau rwy’n eu trafod, grŵp bach iawn o lythyron a nodiadau y cyfeirir atynt bron yn ddieithriad – y rhai sy’n benodol am lefydd yn Wcráin. Dyma sydd yn cyd-fynd â’r naratif cyfoes Wcreinaidd, ac mae pob hawl gan y presennol i ddethol o destunau’r gorffennol. Ond mae’n deg nodi hefyd mai detholiad ydyw ac un sy’n hyrwyddo darlleniad arbennig o hanes.

Rwyf am orffen drwy gyfeirio at ddwy ffilm a wnaethpwyd gan Wcreiniaid, rhai tra gwahanol a thra diddorol yn eu hymdriniaeth o’r cymeriad Gareth Jones. Y gyntaf yw Bitter Harvest (Arrow Films, 2017, ar gael ar DVD). Saesneg yw iaith y ffilm, arian y diaspora Wcreinaidd yng Nghanada a dalodd amdani, a daw’r cynhyrchydd o’r un cefndir. Mae’n stori ffuglennol, bropagandaidd, ‘based on true historical events’. Hawdd cydymdeimlo â chymhellion y gwneuthurwyr a chydnabod pwysigrwydd y thema; ond hawdd deall hefyd paham na chafodd fawr o groeso gan y beirniaid ffilm. Mae’n cynnwys pob math o ystrydeb. Mae’r cariadon ifanc yn byw mewn pentref gwledig yn Wcráin, byd o olygfeydd paradwysaidd yn y caeau gwenith, o draddodiadau gwerinol a defodau eglwysig. Daw criw milwrol yr olwg mewn jacbwts i fynd â’r grawn, malu’r eiconau, a lladd y rhai sy’n gwrthwynebu. Mae’n anorfod fod y cariadon yn cael eu gwahanu ond yn goroesi pob gormes, ac ar y diwedd yn nofio’r afon sydd ar y ffin â Gwlad Pwyl rhagddynt i ryddid, gan addo cyhoeddi’r gwir am yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad. Cawn gipolwg ar lwyth o gyrff yn gorwedd mewn ffos, ond ni welir neb yn llwgu, ac mae’r prif gymeriadau yn edrych yn rhyfeddol o ddel ac iach. Rhyfeddach fyth yw presenoldeb Gareth Jones (o leiaf i ni sy’n gwybod yr hanes). Mae’r arwr ifanc ar drên yn Wcráin yn digwydd dechrau sgwrs â dyn sy’n siarad Saesneg ag acen de Cymru. Mae hwnnw’n ei gynghori i beidio â chredu’r ‘party line’, cyngor diangen braidd i un sydd newydd weld dinistrio’i bentref. Mae’r digwyddiad fel petai’n troi’r hanes gwreiddiol ar ei ben. Dysgu’r gwir gan bentrefwr ar y trên wnaeth y Gareth Jones hanesyddol. Dysgu’r gwir gan Gareth Jones y mae’r pentrefwr yn y ffilm. Mae’r Gareth Jones ffuglennol yn gadael y trên yn yr orsaf nesaf, a thrwy ffenestri’r cerbyd gwêl yr arwr ifanc yr heddlu’n ei guro (ac o bosib yn ei ladd). Nid enwir Gareth Jones o gwbl, ac efallai mai dyna yw gwir enwogrwydd – troi’n ffigwr llên gwerin.

✒︎

Mae’r ail ffilm yn un ddogfennol a chofiadwy. Ei theitl mewn fersiwn sydd ag is-deitlau Saesneg yw The Living (2013, ar gael ar YouTube). Fe’i gwnaethpwyd er mwyn cofnodi atgofion rhai o’r bobl oedd ar ôl ac yn cofio’r newyn – gwragedd ac ambell hen ŵr yn eu hwythdegau hwyr, pobl cefn gwlad gan fwyaf, dybiwn i, eu hwynebau crychiog yn troi’n wên ac yn ddagrau am yn ail. Mae golygydd y ffilm wedi bodloni ar gyfnodau o ddistawrwydd, ac nid yw ychwaith wedi torri allan bethau sy’n amherthnasol i bwrpas y ffilm. Ceir munudau doniol a rhai dirdynnol, ac mae drama heddiw yn torri ar draws drama’r gorffennol. Oes dagrau yn llygaid yr hen wraig oherwydd yr hyn y buont yn ei drafod, neu oherwydd ei phryder am orfod symud i gartref hen bobl? Mae un yn ei chyflwyno’i hun wrth ei henw yn y ffurf Rwsieg ac wedyn y ffurf Wcreineg, fel petasai hi ddim yn siŵr beth a ddisgwylir bellach. A beth yw’r atgofion am gyfnod y newyn? Chwaer yn dod â darn o fara adref o’r ysgol ac yn ymbil ar ei mam i’w fwyta yn ei gŵydd. Mae aelodau eraill o’r teulu eisoes yn dechrau chwyddo oherwydd diffyg bwyd ac mae’r plentyn yn ofni na fyddant yn goroesi os na fydd y fam yn ddigon cryf i ofalu amdanynt. Rhywun yn cofio lluniau o Stalin: ‘Roedd e’n ddyn hardd, a mwstásh du ganddo.’ Un arall yn cofio lletywraig yn y tŷ a oedd yn arbenigwraig o ryw fath ac yn sgil hynny yn cael dogn swyddogol o fwyd. Bachgen pedair oed yn y tŷ yn gofyn iddi am grystyn a hithau’n cau’r drws yn ei wyneb; yntau’n dal i aros. ‘Pwy oedd y bobl hyn?’ gofynna’r holwr, a chael yr ateb: ‘Nid Almaenwyr, nid Americanwyr: ein pobl ni.’ A dyma gadarnhau rhai o’r gwirioneddau cymhleth y soniwyd amdanynt gan haneswyr. Yr oedd Stalin wedi cynnull 25,000 o ddynion o’r trefi, 7,000 ohonynt o’r Wcráin, lawer ohonynt yn ifanc, i fynd allan i’r wlad a gorfodi’r polisi fyddai’n gadael y ffermwyr heb ddim i’w fwyta. Roedd elfen o ryfel rhwng gwlad a thref, rhwng gweithwyr diwydiannol ac amaethyddol, rhwng cenedlaethau hefyd. ‘Roeddem yn rhanedig,’ medd rhywun yn y ffilm, ‘ac rydym yn dal yn rhanedig.’ ‘Fydda i’n mynd i’r carchar am glebran fel hyn?’ gofynna un hen wraig.

Yn y Barri y digwydd un o olygfeydd cynnar y ffilm, wrth i’r teulu agor y ces sy’n dal dyddiaduron a llythyron Gareth Jones. Wedyn, gwelwn Nigel Colley mewn stiwdio yn edrych drwy hen ffilmiau. Yma ac acw ar hyd y ffordd rydym yn symud o’r cyfweliadau Wcreineg i hanes Gareth Jones ac yn gweld rhai o’r un lluniau ag a welir yn rhaglen Teresa Cherfas (efallai fod rhywfaint o gydweithio wedi bod). Bûm yn gofyn imi fy hun beth oedd pwrpas cynnwys stori Gareth Jones ochr yn ochr ag atgofion y rhai a gafodd y profiad hanesyddol. Nid Gareth Jones ychwaith yw’r unig dyst cyfoes o’r tu allan a ddyfynnir. Ceir detholion o’r adroddiadau am y newyn a anfonid yn gyson i’r Eidal gan is-gennad y wlad honno yn Charcof. Deuthum i’r casgliad fod yr adroddiadau ‘gwrthrychol’ hyn o’r tu allan i’r sefyllfa yn cynnig naratif mwy sicr nag atgofion ‘goddrychol’ amrywiol a chymhleth unigolion. Dyma un math o gadarnhad i Wcreiniaid sy’n dangos pwy ydynt: pobl oedd wedi dioddef y newyn mawr, ond y gwir a orfu. Mae’r naratif a ddaw o Rwsia yn cadarnhau stori arall, naratif sydd hefyd â’i apêl yn Wcráin: y naratif am y frwydr arwrol yn erbyn Ffasgaeth er gwaetha’r bradwyr oddi mewn. Y drwg mawr yn y pegynu propagandaidd hwn yw fod y naill garfan a’r llall yn eu gweld eu hunain fel arwyr a hefyd fel dioddefwyr, ac nad oes gorfodaeth ar neb i hunanymholi a dod i delerau â chymhlethdod eu gorffennol, fel y llwyddodd yr Almaen i wneud, i raddau, wedi’r Ail Ryfel Byd.

Pan ddaeth Gareth Jones wyneb yn wyneb â’r broses greulon o gyfunoli amaethyddiaeth yn Rwsia, nid rhyfedd iddo feddwl beth fyddai ymateb ffermwyr bach Cymru

Pynciau:

#Rhifyn 8
#Ned Thomas
#Gareth Jones
#Rwsia
#Wcráin