Fo yw’r un
Jean-Luc Godard 1930-2022
Emyr Glyn Williams
Is-deitla'n unig
Y Lolfa, 320tt, £8.99, 2015

Golygfa o'r ffilm Film socialisme gan Jean-Luc Godard (Llun: Vega Film AG, RTS Radio Télévision Suisse / RTS)
Does dim modd edrych yn ôl yn iawn ar yrfa Jean-Luc Godard mewn darn teyrnged fel hwn. Mae’r yrfa yn rhy eang, ei ddylanwad yn rhy ddwfn. Mae cynifer o’i ffilmiau yn haeddu llyfr cyfan i'w trafod yn iawn. Ac mae pob un yn drawiadol. Dyna i chi'r gyntaf, Breathless (À bout de souffle, 1959), gyda Jean Seberg a Jean-Paul Belmondo, ffilm début bwysicaf sinema ar ôl Citizen Kane, y ffilm cŵl gyntaf erioed ym marn llawer, gwaith a ddylanwadodd ar bob ffilm a ddaeth ar ei hôl. Ac yna'r ffilmiau olaf: Film Socialisme (2010) efo Patti Smith ar y Costa Concordia (cyn y ddamwain!) neu Goodbye to Language (Adieu au langage, 2014) yn rhoi hanes perthynas trwy lygaid ci anwes ar ffurf ffilm 3D a'r is-deitlau wedyn yn iaith Indiaid Navajo. A'r olaf un The Image Book (Le livre d'image, 2018): blerwch y byd ar y sgrin mewn feedback o ddelweddau hyfryd, anarchaidd.
Roedd pob un o’i ffilmiau fel petaen nhw'n cynnal ymchwiliad o’r newydd i hanfod sinema. Mae Film Socialisme, er enghraifft, yn amlwg yn ffilm ddigidol, fodern, sydd hefyd yn edrych fel copi budr o pirate DVD o farchnad Llangefni, yn llawn jumps a thoriadau a glitches, a phob un yn fwriadol.
Dywedodd Godard sawl gwaith y bydd yn amhosib, ymhen hanner can mlynedd, i unrhyw un edrych ar ddelwedd ddigidol. Wrth wylio’r ffilm hon, dwi’n dechrau dallt be mae o’n feddwl. Mewn ffilm ar ôl ffilm, mae o wedi edrych ar ystyr ac effeithiolrwydd y ddelwedd, law yn llaw ag archwilio ystyr holl fecanics yr hyn ’dan ni’n (trio) ei wneud pan ’dan ni’n gwneud ffilm. Mi oedd o wastad yn ceisio darganfod be fedrith sinema ei gynnig rŵan hyn. Does neb erioed wedi creu dim byd tebyg i waith y dyn yma, ac i mi, fo yw’r ‘Un’ – cyfarwyddwr rhif un.
Wrth wylio pob un o ffilmiau Godard, dwi’n cael fy nhaflu oddi ar fy echel – dwi’n llythrennol yn gobsmacked. Mae o’n torri’r rheolau drosodd a throsodd, mae ei ffilmiau wedi eu gweu ynghyd â’i syniadau arloesol, o’r teitlau agoriadol hyd at y ffrâm olaf a’r FIN. Maent yn ysgytwol i unrhyw un sy’n breuddwydio am greu sinema, fel y profiad o ddarllen geiriau Shakespeare i awdur, fallai, neu wrando ar gerddoriaeth Beethoven i gerddor.
Ond mae’n rhaid bod yn ofalus efo Godard hefyd: yn sicr, roedd y dyn yn athrylith ac yn artist o'i gorun i'w sawdl, ond roedd ganddo bersonoliaeth letchwith. Er enghraifft, roedd o’n mynnu fod sinema ar ben, nad oedd neb mwyach yn creu gwaith o unrhyw werth; nad oedd neb yn holi, yn chwilio, ar y sgrin fawr. Mi ddadleuodd fod sinema wedi marw ’nôl ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, am iddi fethu â dygymod ag erchyllterau’r rhyfel (na’u rhwystro). Doedd o ddim yn meddwl llawer chwaith o duedd ddiweddar sinema Hollywood i wneud ffilmiau am y rhyfel, a defnyddio cyfnod y Natsïaid i wneud elw yn y box office: ‘Sut fedra i wneud ffilm am yr Holocost? Be ydw i i fod i’w wneud – llwgu’r actorion i farwolaeth?’
Dyna’r peth am Godard – does ’na ddim amwysedd, dim cyfaddawdu, dim cyfarfod y gwyliwr hanner ffordd. Ddim o gwbl! Mae ei ffilmiau’n adlewyrchiad o’i bersonoliaeth a’i ddeallusrwydd, ac er bod ei ochr wyllt, angerddol, in yer face ddiddiwedd yn medru gwneud i rywun gytuno efo’i ddadleuon, mae yna deimlad weithiau bod yna rywbeth gwallgof yn perthyn i’r dyn a’i ffilmiau. Mae o’n medru bod yn ffiaidd ac yn atyniadol yn yr un ffilm, ac ar adegau eraill, mae ei lais, ei ddadleuon a’i ddelweddau’n cythruddo ac yn pechu. Mae pob anadl o’i eiddo’n herfeiddiol. Dydi o erioed wedi ceisio cael pobl i gynhesu ato, nac wedi defnyddio sinema i wneud ffrindiau, na denu poblogrwydd a llwyddiant materol – di-flewyn ar dafod a'i ddelweddau bob tro. Athrylith mwyaf byd sinema, heb os. Dyma workaholic oedd yn medru creu dro ar ôl tro, delwedd ar ôl delwedd, dadl ar ôl dadl, fel Picasso. Mae’n gwthio pawb arall o’r ffordd, ac yn disgwyl i ni i gyd ddal i fyny â’i gamau a’i dactegau diweddaraf. Ond mewn gwirionedd, ’dan ni jest yn gwneud ein gorau i droedio dŵr yn ei fôr o donnau newydd.
Diolch byth am fodolaeth person cwbl arbennig fel Godard ym myd cyfarwyddo ffilm. Mae addysg gyflawn i'w darganfod yn ei waith. Roedd ei ffilmiau yn y 1960au – fel Le Mépris, Pierrot le Fou, Weekend, Bande à part, Alphaville a Vivre sa vie – yn brydferthach nag unrhyw ffilmiau Hollywood o’r un degawd. Yn y 1970au, dewisodd weithio bron yn gyfan gwbl gyda thechnoleg fideo – lluniau budr, rhad a niwlog, a phynciau dadleuol, cyfoes, byd-eang a phersonol, domestig a gwleidyddol bob tro. Ond eto, yn ei ddwylo arbennig o, mae’r gwaith yn ein taro fel rhywbeth prydferth dros ben. Ei arwyddgan oedd 'Sinema yw Popeth! Everything is Cinema'. Diolch am bopeth. RIP Jean-Luc x
*
There is a God(ard)
Detholiad o Is-deitla'n Unig Emyr Glyn Williams (Y Lolfa, 2015), lle mae'r awdur yn siarad â'i fab.
Mae ar bawb angen dilyn arwyr, cropian yn olion traed a chysgod y rhai sy’n ein tynnu ni’n nes atom ein hunain. Byddai’n braf meddwl mai dy dad fydd dy arwr, ond go brin mai fel hyn y bydd hi. Os wyt ti wedi darllen y llyfr yma o’r dechrau, mi fyddi di’n gwybod fy mod i eisoes wedi gaddo peidio sôn mwy am y dyn yma sydd, yn fy marn i, yn cynrychioli father figure personol o ran rhinweddau’r byd dwi’n ei ddisgrifio yng ngweddill y llyfr. Ond gwneud eithriad yw’r cyfamod rhwng tad a mab, a waeth i mi ddysgu’r wers honno rŵan ddim (a beth bynnag, fedra i ddim peidio mwydro am yr hen afr!).
Jean-Luc Godard yw arwr sinematig dy dad, a’r ffilm Vivre sa vie o 1962 yw’r ffilm yr hoffwn i ti ei gwylio. Wrth i mi sgwennu hwn, mae awdur 'Byw fy Mywyd' yn dal yn fyw ac yn creu, er ei fod yn 83 mlwydd oedd. Yn wahanol i riant yn y byd go iawn, efo’r cyfrifoldebau magu beunyddiol yn dwyn yr amser rhydd, tydi’r tad sy’n troi i fyny jest er mwyn i ti gael rhywbeth i’w eilunaddoli ddim yn gaeth i’r disgwyliadau arferol. Fo yw’r tad sy’n medru cynnig y rhyddid diamod, hollbwysig yna i ti. Gyda thad fel Godard, rwyt ti’n rhydd i anwybyddu traddodiad. Ti’n rhydd i anwybyddu’r bobl hŷn, ti’n rhydd o reolau caeth y celfyddydau, pob un, ac yn bwysicaf oll, ti’n rhydd i sbio a chreu ble bynnag rwyt ti’n dewis gwneud. Mi fydd dy oes di, gobeithio, yn teimlo fel roedd fy ‘oes’ i’n teimlo i mi pan o’n i’n ifanc – chwedl y Stone Roses, ‘the past is yours, but the future’s mine’, ac yn ôl Llwybr Llaethog 'iawn yn y sixties ond ddim rŵan’ – fel amser lle nad yw profiadau a gwersi’r gorffennol yn ymddangos o ddim iws o gwbl i’r genhedlaeth newydd. Mae hyn yn naturiol, ac yn gywir, a dyna mae ffilmiau Godard yn ei ddeud wrthyf hefyd. Maen nhw wedi eu lleoli yn y presennol, ond yn dangos prydferthwch a llanast y gorffennol i ni bob cyfle posib, a hefyd yn datgan yn uchel ac yn glir, ‘Wn i ddim’, neu ‘Does gen i ddim syniad, wir i chi, be i’w wneud na ble i droi’.
Does ’na fawr ddim siawns cael ateb call gan Jean-Luc. Mae o’n medru dy gyfeirio at y llefydd nad wyt ti isio troi atynt am loches neu gyngor, ond be sydd i’w wneud? O, na! Ond a bod yn deg, yr hyn mae Godard wedi ei ddarganfod yw natur ddeublyg popeth o’i gwmpas. Fedri di ddim setlo ar ateb sefydlog i unrhyw beth, gan nad yw’r ateb sefydlog jest ddim yn bodoli. Rhaid cael goleuni a thywyllwch, tawelwch a sŵn, celwydd a gwirionedd. Heb y ddau begwn, does dim byd real yn bodoli. Dyna pam mae ffilmiau Godard yn medru bob yn briliant ac yn uffernol, yn dibynnu ar y ffordd rwyt ti’n dewis eu gwylio nhw. Mae ei strategaeth ar gyfer sinema’n un syml, clir a dilechdidol. Yng ngeiriau’r dyn ei hun, ‘fy mhwynt cychwynnol efo ffilm yw dechrau gydag arddull ffilm ddogfen, wedyn mi fydda i’n ceisio’i gorchuddio â gwirionedd y ffuglen. Mewn gwirionedd, does dim ots â pha un rwyt ti’n dechrau – ti wastad yn dod at y llall yn y pen draw’.
Mae ei yrfa a’i fywyd wedi bod yn broses naturiol o wrth-ddweud a gwrthgyferbynnu cyson. Ffordd arall o ddeud hyn yw nodi ei fod o’n credu bod gofyn cwestiynau’n llawer pwysicach na dod o hyd i’r atebion, gan nad oes unrhyw sicrwydd yn y byd modern fod ateb yn bodoli, na chwaith, os wyt ti’n ddigon lwcus i ddarganfod ateb, y bydd o unrhyw werth i ti. Mae’r rhinweddau yma i gyd yna yn ei ffilm début, Breathless (À bout de souffle, 1959). Hon oedd y gyntaf mewn cyfres o bymtheg o ffilmiau anhygoel, a gyrhaeddodd binacl swreal gyda Weekend yn 1968. Yn Weekend, mae Godard yn dinistrio’r byd cyffyrddus, bourgeois, ac yn datgan yn glir – ‘Hwyl fawr, Wareiddiad!’ Mae’r ffilm yn enwog am ddangos damwain ffordd sy’n ymestyn yn ddiddiwedd dros filltiroedd o darmac Ffrengig, wrth i’r haul melyn, disglair dywynnu ar y lladdfa goch, lachar islaw. Dyma’r ffilm sy’n dangos yn union pa mor wallgof yw’r oes fodern. I mi, mae’r gyfres o ffilmiau a gynhyrchodd yn y cyfnod byr, dwys hwn yn y 1960au yn llwyddiant artistig pwysicach a mwy dylanwadol na’r llwyddiannau cyffelyb ym meysydd eraill byd celfyddyd, fel albyms y Beatles yn y byd cerddorol, celf Warhol neu lenyddiaeth Philip K Dick a’i ddwsinau o nofelau sci-fi.
O blith yr holl drysorau sinematig a gynigiodd i ni yn ei gyfnod mwyaf ffrwythlon, Vivre sa vie yw’r un sydd agosaf at fy nghalon. Hon yw’r ffilm lle mae o’n dangos i ni ei bod yn bwysicach i ddyn garu person arall yn hytrach na dal drych celfyddyd yn adlewyrchiad o’r gymdeithas gyfan. Yn y pen draw, caru rhywun arall yw cyfrifoldeb pwysicaf a thasg anhawsaf pob unigolyn. Dyma’r ffilm sy’n dangos yn glir fod ein hartistiaid gorau yn bobl ddarostyngedig, yn teimlo i’r byw y cyfrifoldeb anferthol hwnnw o fod yn ddynol. Tydi ceisio bod yn ddyn ddim yn swnio fel swyddogaeth anodd, ond mi fyddi di’n sylweddoli dy hun, ryw ddydd, nad yw hi bob amser yn bosib llwyddo yn y dasg.
Fel artist, mae Godard yn wahanol i’r gweddill – tydi o ddim yn deud storïau. Mae o’n gallu, ond tydi o ddim isio. Mae o’n honni mai cyflwyno traethodau neu ysgrifau beirniadol ar ffilm yw’r hyn mae’n ei wneud. Mae’n chwerthinllyd o gymhleth ym mhob dim mae’n dewis ei ddeud a’i ddangos, ac mae safbwyntiau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd am y dyn a'i waith yn medru bod yr un mor gywir. Mae pob delwedd ym mhob ffilm yn dangos dyn â meddwl craff a bywiog sydd, serch ei dalent ddiamheuol, wastad yn bryderus, yn ansicr, yn brwydro i greu cyswllt rhyngddo a’r bobl a’r gymdeithas o’i gwmpas.
Dwi’n dewis cyflwyno Godard i ti gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig sylweddoli fod dyn sy’n medru caru yn ddyn sy’n medru creu. Ffordd arall o ddeud hyn yw gofyn pwy sydd isio gweld be mae dyn sydd ddim yn caru yn llwyddo i’w greu.
Yn wahanol i lawer o’i ffilmiau, tydi hon ddim yn ffilm agored i’r holl fyd – mae’n ffilm am un person. Y person yna yw ei wraig, yr actores unigryw, Anna Karina. Mae Vivre sa vie – byw fy mywyd – yn dangos sut mae Nana S, merch ifanc ym Mharis, yn byw ei bywyd. Yn y ffilm, gwelwn hi’n cefnu ar ei gŵr, yn colli gafael ar ei phlentyn, ei chartref, ei lle sefydlog yn y gymdeithas, ac yn dechrau puteinio’i hun ar y stryd ac, yn y pen draw, yn cael ei lladd. Tydi stori Nana ddim mor bwysig â hynny mewn gwirionedd. Yr hyn sy’n bwysig yw’r ffordd mae Anna Karina yn cael ei ffilmio gan Godard wrth iddi actio hanes trist, anochel Nana S. Mae Godard yn caru Anna. Hi yw ei wraig, ac mae pob un olygfa’n ceisio dangos o’r newydd y wyrth hon sy’n rhedeg trwy ei gorff fel trydan. Weithiau, mae Godard yn ei chelu o’n golwg; dro arall, mae o’n ceisio bod yn ddidwyll a’i dangos hi o’r chwith, wedyn o’r dde ac wedyn o’r tu blaen ac wedyn o’r cefn. Rydan ni’n gweld pethau’n digwydd i Anna / Nana trwy’r ffilm, a’r peth pwysicaf sy’n digwydd iddi yw bod Godard yn ei ffilmio hi. Mae’r ffilm yn bortread o Godard gymaint ag y mae hi’n bortread o Anna, gan fod pob un dewis artistig yn rhan o’r berthynas rhwng y ddau. Wrth iddo ffilmio, mae Godard yn siarad ag Anna, yn deud wrthi pwy mae o’n ei weld pan mae o’n sbio arni hi. Dim ond ambell waith yn y ffilm rydan ni’n gweld Anna yn ‘rhydd’ o’r cwlwm personol hwn. Mae hi’n dawnsio yn y clwb, ac yn crio yn y sinema, a ’dan ni’n gweld yn glir pam fod y dyn yma wedi cwympo gymaint mewn cariad â hi. Mae’r ffilm yn gorffen gyda’r geiriau: ‘One should lend oneself to others, and give oneself to oneself’ – geiriau call, ond nid geiriau rhamantus.
Mewn ffilm arall a wnaeth y cwpl – Pierrot le Fou, yn 1965 – roedd y berthynas rhwng y ddau wedi dirywio (yn y byd go iawn), ac mae cymeriad Godard (trwy’r actor Jean-Paul Belmondo) yn gofyn i gymeriad Anna Karina yn y ffilm, ‘Pam wyt ti mor drist?’ Ateb Anna yw, ‘Am dy fod ti’n siarad â fi trwy ddefnyddio geiriau, a dwi’n edrych arnat ti efo teimladau.’
Mae ’na rai sy’n honni fod Godard yn ddyn ac yn artist oeraidd, digyswllt yn emosiynol, ond ddim fi. Mae Pierrot le Fou yn ffilm liw, cŵl, very swinging sixties, yn llac ac yn heulog, tra bo Vivre sa vie yn ffilm ddu a gwyn (wel, llwyd), ffilm oer, dynn a fforensig, sy’n mynd â ni gam wrth gam trwy drasiedi bywyd mewnol ac allanol y prif gymeriad. O ran strwythur, mae Vivre sa vie yn ffilm mewn darnau – dyna yw bywyd, wedi’r cyfan, a’i teitl llawn gwreiddiol oedd Vivre sa vie: film en douze tableaux – deuddeg golygfa. Mae pob un yn adlewyrchu natur ranedig realiti Nana S. Mae’r trac sain yn chwyldroadol – sain uniongyrchol, lot fawr o dawelwch, a dim ond pytiau byr o gerddoriaeth glasurol, sy’n cynnig hapusrwydd a gwres am eiliad cyn diflannu oddi ar y trac sain – mae’n ffilm llawn addewidion gwag. Rydan ni’n gweld Nana’n ffraeo efo’i gŵr – ‘Ti wastad yn disgwyl i mi ddilyn dy ofynion di, ti byth yn gwrando arna i. Dwi isio marw.’ – yn gweithio yn y siop recordiau, yn colli ei fflat, yn crio yn y sinema wrth wylio perfformiad Maria Falconetti yn y ffilm The Passion of Joan of Arc gan Carl Dreyer (mae Joan yn gymeriad benywaidd arall, fel Nana, sy’n dioddef o gael ei harchwilio a’i holi i farwolaeth gan ddynion 'y drefn'). Wedyn, mae’n gwneud un ymdrech i geisio adfywio ei gyrfa fel actores, ond mae’r heddlu’n ei chipio am ddwyn, er ei bod yn ddieuog, cyn iddi ddechrau’i phuteinio ei hun. Cawn esboniad manwl gan Godard o fywyd y butain gyffredin wrth ei gwaith ar strydoedd dinas Paris.
Mae ffilmiau Godard yn llawn cyfeiriadau at y busnes yma o werthu dy hun. Mae’n drosiad syml am bwysau parhaus y system gyfalafol, ac yn gyfaddefiad personol gan Godard ei fod yntau’n euog o buteinio’i hun. Sut fedrith hi fod fel arall, gan mai’r diwydiant ffilm yw hwrdy mwyaf y byd? Mae Nana’n gweithio’n galed i ddenu a phlesio’i chwsmeriaid, trwy ddawnsio yn y caffi, trefnu threesomes, a.y.b. Yna, cawn olygfa sy’n nodweddiadol o arddull Godard – sgwrs ddwys rhwng Nana a’r athronydd enwog, Brice Parain, mewn caffi. Rydan ni’n cael yr argraff fod hyn yn ddigwyddiad digon cyffredin ym Mharis! Er, mae’n amlwg nad oes siarad dwys yn unman yn mynd i fod yn ddigon i achub Nana. Drwy’r ffilm, mae fel petasai Godard yn ceisio sibrwd ei deimladau wrth Anna – ‘Dwi’n dy garu di gymaint’ – ond mae o’n llawn ofn. Ofn cael ei ddiystyru, ei gam-ddallt, ofn difetha’r hud. Sut fedrith unrhyw un sy’n ei adnabod gredu ei eiriau pan mae o’n deud fod bod mewn cariad yn bwysicach iddo na gwneud y ffilm yma? I mi, mae’n amlwg mai creu’r ffilm hon sy’n profi i bawb ei fod o’n ei charu hi.
Hwyrach mai’r gwirionedd syml, i Godard ac i ni i gyd, yw bod profi cariad yn cynnig cyfle i ddianc, cyfle i stopio meddwl mor galed am bawb a phopeth, dihangfa sy’n cwmpasu pleser a phoen rhannu. Ar ddiwedd y ffilm, mae Nana’n cael ei dal mewn ffrae rhwng dau pimp ac yn cael ei saethu’n farw. Mae’r ffilm yn deud wrthym nad oes gen ti ryddid i ‘fyw dy fywyd’, ac yn sicr does dim rhyddid gan Nana, druan. Tydi hi ddim yn glir faint o ryddid mae Godard yn meddwl sydd yna i ni yn y gynulleidfa i fyw ein bywydau chwaith.
Yn ddi-os, mae ei dalent gwneud ffilmiau’n anhygoel, ond i mi, y ffaith bwysicaf i’w chofio amdano yw bod ei yrfa yn dyst pendant i bwysigrwydd caru person arall. Heb y sbarc yna sy’n sbarduno rhywun i wneud rhywbeth – unrhyw beth – does yna ddim byd, nag oes? Tasai Godard erioed wedi profi cariad, a fase ’na ffilm sy’n werth ei chofio a’i chofleidio? Dyna’r cyfan sydd angen ei ddweud. Does dim angen bod yn ystrydebol ac ailadrodd ei ddywediad mwyaf enwog am ferch a dryll, ond yn hytrach, beth am ei addasu a’i gyflwyno o’r newydd: ‘Y cyfan sydd ei angen i wneud ffilm yw merch rwyt ti’n ei charu, a chamera’. Mae ymateb y gynulleidfa i waith Godard yr artist yn gwbl oddrychol. Rhaid llunio dy farn dy hun am yr hyn rwyt ti’n ei wylio, felly pob lwc, Arthur!
Gellir prynu Is-deitla'n unig gan Emyr Glyn Williams (2015) gan wasg Y Lolfa.