Iaith diplomyddiaeth
Hawliau iaith ar batrwm hawliau dynol

Un o bobloedd Yahua yr Amazon, yn dangos sut i ddefnyddio gwn chwythu (Llun: Jialang Gao)
Chwarter canrif yn ôl, yn 1996, pasiwyd Datganiad Byd-eang Hawliau Ieithyddol (Universal Declaration of Linguistic Rights) mewn cynhadledd yn Barcelona. Ffurfiwyd pwyllgor o arbenigwyr i lunio'r testun – ac roedd hwn yn cynnwys Ned Thomas o Gymru. Cynhaliodd Wales PEN Cymru noson ar-lein ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu eleni yn 2021, i nodi 25 mlynedd ers pasio'r Datganiad hwn.
Mae cyn-hanes hir i'r syniad o gael Datganiad am hawliau iaith ar batrwm Datganiad Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, ond rwy'n cychwyn yr hanes yn 1994, pan sefydlwyd y tîm fyddai'n paratoi'r testun ac yn ei adolygu ddeuddeg o weithiau cyn iddo gael ei dderbyn mewn cynhadledd enfawr a gynhaliwyd ym Marcelona ym mis Mehefin 1996. Dau brif symbylydd oedd i'r Datganiad a'r Gynhadledd: Pwyllgor Cyfieithu a Hawliau Ieithyddol PEN Rhyngwladol ar y naill law, a sefydliad CIEMEN ym Marcelona ar y llaw arall, sydd â chenhadaeth ryngwladol dros leiafrifoedd. I ddweud y gwir, y Catalaniaid oedd y prif ysgogwyr o fewn PEN hefyd a'u dylanwad yn y corff hwnnw yn mynd yn ôl i 1922 – sef o'r cychwyn, bron. Rwy'n falch o'r cyfle i dalu teyrnged i fudiadau Catalan y cyfnod nid yn unig am eu cefnogaeth ymarferol ond hefyd eu harweiniad deallusol a strategol i ni y lleiafrifoedd llai.
Yr oedd rhyw 40 o arbenigwyr iaith wedi cyfrannu deunydd ar gyfer y Datganiad ond grŵp llai o lawer ohonom oedd yn cwrdd am ddyddiau benbwygilydd i wnïo'r cwbl at ei gilydd a'i olygu. Iaith y trafodaethau oedd yr hyn y byddwn yn ei alw’n interromanica – rhyw gymysgedd o Ffrangeg, Sbaeneg Eidaleg a Chatalaneg. Efallai eich bod chi'n pendroni pam oeddwn i yno. Yr oedd rhagflaenydd i'r PEN Cymru presennol, ac yng nghyfnod drafftio'r Datganiad, fi oedd yn Llywydd arno. Felly, mi all PEN Cymru hawlio rhyw ran yn y Datganiad er, i ddweud y gwir, bod gen i sawl het ar y pryd, a'm rôl bennaf ar y pwyllgor drafftio oedd fel arbenigwr ar y wasg a'r cyfryngau mewn ieithoedd llai. Dyna oedd arbenigedd Canolfan Mercator yn Aberystwyth, a ddaeth i fodolaeth ddiwedd yr wythdegau. Roedd y ganolfan honno'n rhan o rwydwaith o ganolfannau Mercator a arianwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, a CIEMEN yn Barcelona yn un o'n partneriaid yn y rhwydwaith. Hyd yn oed cyn dyddiau Mercator roeddwn wedi cydweithio â'i gyfarwyddwr Aureli Argemi, yn nyddiau cynnar Biwrô yr ieithoedd llai. Buom gyda'n gilydd yn cyflwyno tystiolaeth ac yn lobïo Cyngor Ewrop ddechrau’r nawdegau, adeg llunio Siartr Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol.
Roedd y siartr honno yn gorfod ystyried beth oedd hi'n realistig ei ofyn i'r gwladwriaethau ganiatáu i'r lleiafrifoedd. Roeddem am i'r Datganiad Byd-eang fod yn fwy uchelgeisiol a chychwyn ag anghenion y lleiafrifoedd. Roeddem hefyd am fanteisio ar y momentwm a oedd yn bodoli ar y pryd i drafod problemau lleiafrifoedd, hynny ar gefn y rhyfeloedd gwaedlyd ar gyrion yr Undeb Ewropeaidd pan chwalodd Iwgoslafia yn 1991-92.
Oherwydd y cefndir hwn roedd ein pwyllgor yn tueddu i flaenoriaethu'r meysydd oedd yn bwysig yng nghyd-destun Ewrop, sef addysg a chyfryngau yn yr iaith frodorol a hefyd deddfau iaith. Ond, yr oedd rhwydwaith fyd-eang PEN wedi bod o gymorth i wrthbwyso hynny, i raddau. Rwy'n cofio ni'n gorfod ailfeddwl rhywfaint pan glywsom gan gynrychiolydd o blith pobl bryniau Fietnam: 'Dim byd yn erbyn eich cynigion, ond gawn ni yn gyntaf rywun i ddyfeisio gwyddor ar gyfer ein hiaith?' A llefarydd arall, ar ran un o bobloedd yr Amazon, a'n sicrhaodd: 'Does dim eisiau i chi boeni am addysg. Rydym yn trefnu hynny o fewn y teulu. Os ydych chi wir eisiau hyrwyddo’n hieithoedd yna darparwch system ffôn symudol i ni, fel bod yr helwyr sy’n crwydro yn y fforestydd yn gallu siarad â'u teuluoedd.' Mae pethau fel yna yn newid eich persbectif!
Wedi cynhadledd Mehefin 1996 yr oedd digon ar ôl i'w wneud yn hyrwyddo'r Datganiad ac yn casglu cefnogwyr enwog oedd yn cynnwys Nelson Mandela a'r Dalai Lama, Ngũgĩ wa Thiong'o a Seamus Heaney. Adeiladwyd ymhellach ar y gwaith dros y blynyddoedd ac mae'r llafur yn parhau – yn achos lleiafrifoedd, nid yw hi fyth ar ben.
Ond gyda'r nos yn ystod cynhadledd 1996 yr oedd cyfle am funud i ymlacio ac rwy'n cofio teimlo rhywbeth tebyg i ewfforia ynghanol amrywiaeth unfrydol y dyrfa oedd wedi ymgasglu o bedwar ban byd. Un noson cafwyd cyngerdd dan yr enw 'Un pont de mar blava' (pont o fôr glas), sef cynhyrchiad o ganeuon a gyfansoddwyd gan y canwr Catalan Lluis Llach, bob un ohonynt yn null cerddorol un o'r pobloedd sy'n byw o gwmpas Môr y Canoldir a'r môr yn bont rhyngddynt, nid yn rhwystr, yn wahanol i heddiw. Ar noson arall, trefnwyd dawns hwyr dan y sêr, ac yr oedd y sêr y noson optimistaidd honno yn ymddangos yn fwy disglair nag arfer i mi.