Colofnau

Soros

Darllen ffilm

Jesse Dylan

Soros

Vital Pictures, 85 munud, Iaith: Saesneg, Awst 2019 (UDA)

Nathan Abrams

Amser darllen: 3 munud

12·01·2022

Dyma un o ddyngarwyr mwyaf hael y blaned. Dyma hefyd un o'r ffigurau a ddilornir fwyaf. Mi oroesodd yr Holocost a datblygu'n ffigwr dyngarol o bwys rhyngwladol; er hynny, mae ei enw – Soros – yn gyfystyr â'r ddelwedd o feistr pypedau hollalluog sy'n tynnu'r llinynnau o'r tu ôl i'r llen. Ymgais i ddarganfod pam ydi'r ffilm ddogfen hon, a ddangoswyd ddiwedd y flwyddyn fel rhan o Ŵyl Ffilmiau Iddewig y Deyrnas Unedig. Wedi ei chyfarwyddo gan Jesse Dylan, ceir cyfweliadau ag amryw byd o unigolion ynddi, gan gynnwys y dyn ei hun a'i blant, yn ogystal â ffigurau cyhoeddus amlwg megis Kofi Annan, Amartya Sen a Joseph Stiglitz. Dilynir George Soros o gwmpas y byd gan Dylan, mewn ymgais i ddadlennu'r dyn y tu ôl i'r mythos.

Ganwyd Soros yn Hwngari. Cafodd ei fagu'n ystod teyrnasiad cyfundrefn a gydweithiodd â'r Nazïaid, trefn a oedd yn erlid a llofruddio Iddewon. Goroesodd a symudodd i Lundain lle'r aeth ati i astudio. Aeth ymlaen i wneud ei ffortiwn. 'Deuais i'r Gorllewin i chwilio am ryddid. Deuais i America i wneud arian,' meddai yn y ffilm. Ac efo'r arian hwnnw, cefnogodd reseidiau o achosion rhyddfrydol, democrataidd a hynny oherwydd, yn ei eiriau ei hun, fod ganddo ffantasi feseianaidd anaeddfed i achub y byd. Bu gwneud sawl biliwn yn hwb i roi platfform iddo symud gam yn nes at y freuddwyd honno. Nid euogrwydd na'r angen i sicrhau cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol oedd yn gyrru ei ysbryd dyngarol ychwaith. Nid yw Soros yn chwilio am ffordd o wyngalchu ei ddelwedd. Mae'n gwneud yr hyn a wna oherwydd ei fod yn credu, ac oherwydd ei fod yn medru.
 


Mae'r diolchiadau ar ddiwedd y ffilm yn rhestru'r amrywiaeth anhygoel o achosion a gefnogwyd ganddo – rhestr sy'n rhy faith i'w dal i gyd ar bapur gen i. Cefnogodd Soros y mudiad gwrth-apartheid, gan roi arian tuag at addysg pobl dduon yn Ne Affrica. Buddsoddodd yn drwm yn yr ymdrech i ddymchwel yr Undeb Sofietaidd a'r hen floc Comiwnyddol. Gydag ymdeimlad o empathi tuag at ddioddefwyr hil-laddiad, megis y rhai yn Myanmar a Bosnia, cysegrodd fwy o arian na'r Unol Daleithiau er budd rhoi ar waith gytundeb heddwch yn yr hen Iwgoslafia. A chwaraeodd rôl tu ôl i'r llen yn gosod y Llys Troseddol Rhyngwladol ar ei draed yn yr Hâg, corff sydd wedi dwyn y rhai a fu'n gyfrifol am droseddau rhyfel o flaen eu gwell. 

Ond os yw Soros yn ffynhonnell cymaint o ddaioni pam fod cynifer yn ei gasáu? Mae'r ffilm hon yn dangos sut mai gwarafun ei ddylanwad a wneir, yn aml iawn, yn y gwledydd y mae'n eu cynorthwyo. Ar y naill law, fe'i hystyrir yn fygythiad i'r sefydliad ac i'r elît sy'n manteisio ar y status quo ac ar y llaw arall, mae trwch y boblogaeth yn ei weld fel rhywun ar y tu allan, sy'n ymyrryd yn eu materion cartref. Caiff ei gyhuddo o chwarae Duw.

Yn llywaeth braidd, mae'r ffilm yn egluro sut mae'r byd yn gwneud mwy o synnwyr i gynifer ohonom cyhyd ag y gallwn gredu fod biliwnydd yn ei wythdegau yn tynnu'r llinynnau yn y cysgodion. Maentumir fod rhai yn ei gasáu oherwydd mai Iddew ydyw ac eraill oherwydd ei wleidyddiaeth – ac yn ddigon aml, daw'r ddau linyn hyn ynghyd.

Gallai'r ffilm fod wedi gwneud safiad cryfach ar y pwynt hwn. Gallai Dylan fod wedi tanlinellu'r ffaith mai cael ei gasáu oherwydd ei fod yn Iddew ydi hanes Soros, ac wrth galon pob cynllwyn mae Iddew. Sut arall y gellir egluro paham ei fod yn ffigwr sy'n ennyn y fath gasineb? Nid yw dyngaredd Bill Gates yn ennyn y fath lid. A sut mae'r rhai hynny sydd wedi gwneud biliynau ond heb wneud dim byd tebyg â'u pres yn llai o dargedau casineb? Sut nad ydi Warren Buffett, Elon Musk (a gamgymrir yn aml am Iddew ar sail ei enw), Jeff Bezos, neu Richard Branson yn denu'r lefel hon o gasineb greddfol? Ai'r rheswm yw bod Soros yn fwy dylanwadol mewn gwledydd sydd â hanes o wrth-semitiaeth?

Er nad ydi'r ffilm yn nodi hynny, mae gwers syml i'w dysgu ganddi. Os ydych yn Iddew sydd wedi gwneud ei ffortiwn, y cyngor gorau i chi ydi cadw o'r golwg. Peidiwch â cheisio achub y byd gan mai pen draw hynny fydd cael eich sarhau.

Mae Nathan Abrams yn Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.

Os yw Soros yn ffynhonnell cymaint o ddaioni pam fod cynifer yn ei gasáu?

Pynciau:

#Darllen ffilm
#Hwngari
#George Soros
#Dyngaredd
#Ffilm