Cyfansoddi

Charcif, 1995, 1997

Cyfeirlyfr geowleidyddol a chosmopolitaidd

Iwri Andrwchofits

Amser darllen: 5 munud

22·06·2022

Adeilad Slovo, Charcif, lle cynhaliwyd preswyliadau awduron tan yn ddiweddar.
Mae wedi ei daro, erbyn hyn, gan fomiau Pwtin.

 

Drwy ffenest y cerbyd trên cefais ddigon o amser i ddarllen enw’r orsaf olaf cyn cyrraedd Charcif: Nofa Bafaria. Roedd yn ddigon i ysgogi cadwyn hir o gysylltiadau: Hitler, cwrw, 1933, Postisief, gorymdeithiau yng ngolau ffagl, athletwyr 1 Mai yn codi’n golofnau, mwy o gwrw, sesiynau croesholi liw nos, y Galisiad cyfeiliornus Les Cwrbas, weiren bigog wedi ei gosod ar organau rhywiol, a chariad at famwlad.

Yn Charcif, roedd eira ym mhobman, y math gwaethaf, sef eira’r gwanwyn, eira mis Ebrill, sy’n rhoi angina, rhywbeth na fyddwn ni fyth yn barod amdano, mae’n ein gadael yn ddiymadferth. O fewn diwrnod roedd gwerth chwe mis o eira wedi disgyn, roedd y ceir ynddo hyd at eu canol, doedd y gyrwyr ddim yn llwyddo i ddod o hyd i’r un cyfeiriad, ac roedd y mymryn pen clwc oedd gen i ar ôl bod ar y trên yn suddo’r realiti hwn mewn rhyw drymder a oedd yn ymylu ar fod yn swrealaidd. Roedd prifddinas chwedloniaeth yr Wcráin Weithgar yn aros yn driw iddi hi ei hun, a’i hadfeilion ôl-ddiwydiannol gerllaw’r orsaf yn creu argraff: a barnu oddi wrth y tirlun, mae’n anorfod mai yma roedd dinas enedigol cerddoriaeth pync i fod, dinas barddoniaeth hefyd, a’r felan broletaraidd.

Dyma fy ail ymweliad â Charcif ac am yr eildro, roeddwn wedi fy llorio gan ddilysrwydd y lle a ymylai ar fod yn gyfriniol.

Roeddem yn yr un iard, iard Slovo, yr hen dŷ awduron. Dangosodd fy nhywysydd ffenest fechan ar yr ail lawr: y swyddfa, y ffenest o ble dihangodd i’r iard, ar ddydd Sul 13 Mai 1933, sŵn ergyd gwn awdur, ergyd echrydus o effeithiol, wedi ei chondemnio i fod yn effeithiol. Yn y fflat drws nesaf, fflat Michaïl Semenco, roedd gwahoddedigion wedi ymgynnull y noson flaenorol, a buont yn yfed tan bedwar y bore. Yna ymwahanasant am gryn amser, roedden nhw’n canu, yn methu â thawelu eu hunain wrth fynd allan i’r strydoedd a oedd eisoes yma ac acw yn drewi o gyrff pydredig y gwerinwyr a fu farw o newyn: roedd twrw gwahoddedigion Semenco yn siŵr o fod wedi aflonyddu ar Chfiliofi ar ei noson olaf. Dyna ddywedodd fy nhywysydd wrthyf. Dyna sut y’i teimlais, yn yr iard hon. Ond liw nos. Ym mis Mai. Yn 1933. A hwythau, yn canu caneuon, poblogaidd a chwyldroadol. Ac yntau, â’i ben yn ei ddwylo. Fallai i mi hefyd ei deimlo oherwydd i’r ffenestr amneidio arnaf drwy gau ohoni ei hun. Y gwynt oedd yn gyfrifol, wrth gwrs. Yna aethom i fyny’r grisiau i’w fflat, un Chfiliofi. Ie, yr un drws yn union (rydw i’n cofio’r plac efydd a’r enw arall arno), y ffordd hon y daethpwyd â’i gorff allan, doedd dim lifft ar y pryd, ond pa ots?

Sut mae'r teulu hwn yn byw yn y fflat yma? Oherwydd mae sŵn ergyd y gwn yno i’w glywed o hyd. Ydi o’n bosib nad ydynt yn ei glywed? Nad ydi’r ysbrydion yn eu poeni?

Mae Charcif yn awthentig. Mae’n amgueddfa drasig, lle mae modd cyffwrdd popeth. Ond gwylier rhag yr hyn sy’n beryg o lynu yn eich dwylo.

Yr eildro, cawsom ein hebrwng gan Folodimir Gariaif (roedd eisoes yn bedwar ugain oed a bu farw yr un flwyddyn), yr olaf o’r dyfodolwyr oedd ar dir y byw, mab yr un Semenco, tyst i fytholeg Charcifaidd, yr ysbrydoliaeth gythryblus hon (mewn pathos, mawredd a chomedi) a berthynai i’r 1920au, tyst i brosiectau gwallgof a didrugaredd er budd trawsffurfio’r bydysawd, a fyddai’n arwain yn anorfod at ddedwyddwch y ddynoliaeth, yr hil, y dosbarth, y genedl; prosiectau yr oedd eu gwneuthuriad ffanatig yn ymwneud, yn rhyfedd iawn, â chriw o gymeriadau â daliadau cwbl groes i'w gilydd, aflonydd fel arian byw, megis Marinetti, Léger, Brecht, Maiacofsci (yr oedd y Charcifiad Gro Facar yn ei guro bob tro wrth chwarae biliards), ac artist anadnabyddus o Fienna y gelwid ei dad Schicklgruber – ond hefyd holl Charcif y personoliaethau hyn y mae pob un ohonynt yn celu chwedloniaeth, prydferthwch ac anobaith amnaid, iselder, ergyd gwn Chfiliofi, marwolaeth.

Roeddem yn sefyll ar fryn lle safai’r Brifysgol, ac ar un o’i muriau roedd ysgrifen flêr, mewn Rwsieg: ‘Heb yr UNA, mae hi ar ben’. Roedd Mr Folodimir yn ein hebrwng o gwmpas drysfa ei atgofion, roeddwn yn hoffi’r ffordd y byddai’n galw Semenco yn ‘Sem’, roedd ganddo fapiau o’r dref yr oedd wedi eu llunio â’i law ei hun, â phensiliau lliw: y strydoedd, y caffis, lleoliad y byrddau yn swyddfeydd y gweisg a gaewyd ac a wastrodwyd ers tro byd. Roedd cwmni electroneg wedi caniatáu i ni fynd i mewn i’r hyn a oedd bellach wedi eu clustnodi’n swyddfeydd at eu defnydd hwy (‘fan hyn yr eisteddai Cwlic’). Dyna lle roeddem ar Sgwâr y Cyfansoddiad (Nicolaefscaia gynt, ac enw arall cyn hynny), ger façades rhyfeddol Art Nouveau Fasil Crytchefsci, wedi ein gwasgu ein hunain yn gylch tyn: roedd gwynt yn oeri ein hesgyrn. Mae hynny’n digwydd pan deimlir yn sydyn anadl rhywbeth anhraethol fwy na’r hyn a ddisgwylid.

Nodiadau (gyda diolch i Irina Dmitrisin):

Pafel Postisief (1997–1939), gwleidydd Sofietaidd. Yn 1933, roedd yn ddirprwy ysgrifennydd Pwyllgor canolog Plaid Gomiwnyddol Wcráin a phrif ysgrifennydd y Blaid Gomiwnyddol yn Charcif, prifddinas Wcráin yr Undeb Sofietaidd hyd 1934. Roedd Postisief yn un o’r rhai a oedd yn gyfrifol am newyn yr Holodomor (1932–1933), ac am y puro gwleidyddol a fu yn Wcráin. 

Les Cwrbas (1887–1937), cyfarwyddwr theatr a sinema’r avant-garde, aeth yn ysglyfaeth i Deyrnasiad Braw Stalin, un o bersonoliaethau’r Dadeni a gafodd ei saethu. 

Michaïl Semenco (1892–1937), bardd dyfodolaidd Wcreinaidd, aeth yn ysglyfaeth i Deyrnasiad Braw Stalin, un o bersonoliaethau’r Dadeni a gafodd ei saethu.

Micola Chfiliofi (1893–1933), awdur a bardd Wcreinaidd. Un o gymeriadau blaenllaw llenyddiaeth a diwylliant Wcráin Sofietaidd y 1920au, roedd yn sylfaenydd VAPLITE (Academi rydd llenyddiaeth broletaraidd) ac yn awdur pamffledi niferus lle dadleuai dros annibyniaeth diwylliant Wcráin. Yn wyneb gormes y drefn ar y pryd, mae’n gwneud amdano’i hun, ar 13 Mai 1933, gan ddynodi felly ddiwedd y Dadeni Wcreinaidd. 

Gro Facar, ffugenw Crihorii Facar (1901–1937), awdur a bardd dyfodolaidd Wcreinaidd. Aeth yn ysglyfaeth i Deyrnasiad Braw Stalin, un o bersonoliaethau’r Dadeni a gafodd ei saethu.

UNA (Cynulliad Cenedlaethol Wcráin), plaid genedlaethol Wcreinaidd, a sefydlwyd yn 1991.

Fasil Crysiefsci (1873–1952), pensaer, artist a chynlluniwr graffeg a gyfrannodd yn helaeth i ddatblygiad y celfyddydau cymhwysol (serameg, tecstilau, ac ati). Yn gynrychiolydd celfyddyd argraffiadol yn Wcráin, ef gynlluniodd arfau Gweriniaeth pobl Wcráin a’r papurau pres cyntaf (1917–1918). 

Diolch i Suhrkamp Verlag Berlin a’r awdur am yr hawl i gyhoeddi’r cyfieithiad hwn. Daw’r gwreiddiol o’r gyfrol Лексикон інтимних міст a gyhoeddwyd yn 2011 gan wasg Meridian Czernowitz yn Tserniftsi. Y cyfieithiad Cymraeg gan Sioned Puw Rowlands. Hawlfraint y gwreiddiol ©Iwri Andrwchofits 2011, 2016.

Sut mae’r teulu hwn yn byw yn y fflat yma? Oherwydd mae sŵn ergyd y gwn yno i’w glywed o hyd

Pynciau:

#Wcráin
#Rwsia
#Iwri Andrwchofits
#Comiwnyddiaeth
#Rhifyn 19