Cyfansoddi

Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2018

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018


Ned Thomas

09·08·2018

Y feirniadaeth

Braf oedd cael cymaint â deuddeg yn ymgeisio yn yr Her Gyfieithu eleni. Ers i PEN Cymru a'r Gyfnewidfa Lên noddi'r gystadleuaeth dyma'r nifer mwyaf a gafwyd yn cystadlu ar yr ochr Gymraeg, a hynny pan oedd gofyn cyfieithu o iaith leiafrifol. Yr esboniad, o bosib, yw bod y Gatalaneg yn iaith led-dryloyw i'r rhai sydd yn medru'r ieithoedd Lladin eraill, a chystal imi gyfaddef mai yn hwyr yn y dydd a thrwy'r Sbaeneg yn bennaf y deuthum innau at y Gatalaneg. Ond mae tebygrwydd arwynebol yn gallu bod yn beth peryglus hefyd. Mae'n annog neidio i gasgliadau, ac yr oedd rhai enghreifftiau o gyfieithwyr yn gwneud hynny'n fyrbwyll yn y gwaith a ddaeth i law.

Fel y nodir yn y cyflwyniad, mae'r gerdd yn un o blith nifer a ymddangosodd ar wefan newyddion Vilaweb pan wahoddwyd beirdd Catalwnia i ymateb i refferendwm 1 Hydref 2017 a'r digwyddiadau ddeilliodd o hynny. Prin fod angen imi eich atgoffa o drais y Guardia Civil y diwrnod hwnnw ac urddas eu gwrthwynebwyr di-drais. Yn dilyn datgan annibyniaeth carcharwyd nifer o wleidyddion a threfnwyr y refferendwm, ac aeth eraill yn alltud. Cyhuddwyd cannoedd o bobl gyffredin hefyd am iddynt hyrwyddo'r refferendwm mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Yn ddyddiol yr oedd degau o filoedd, yn wir, cannoedd o filoedd o bobl, yn protestio ar y strydoedd. Teitl cyffredinol y gyfres o gerddi a ymddangosodd ar Vilaweb oedd Proclames de Llibertat. Yn y cyd-destun hwn ceir mwy nag un ystyr i'r gair Llibertat - rhyddid cenedlaethol, rhyddid i'r rhai sydd yn y carchar, a rhyddid seicolegol. Sylwch ar y llinell gyntaf: 'Ers dyddiau rwyt ti'n gweiddi ar y strydoedd nad oes arnat ofn.'

Nid yw cael achos cyfiawn, fodd bynnag, yn gwarantu cerdd lwyddiannus o angenrheidrwydd. Darllenais y gyfres gyfan ar Vilaweb a chael y rhan fwyaf  o'r cerddi braidd yn rhy uniongyrchol ac amlwg eu neges. Yr hyn sydd yn apelio ataf i yn y gerdd a ddewiswyd ar gyfer y gystadleuaeth yw'r tyndra mewnol - tyndra rhwng geiriau a sylwedd; rhwng grym moesol y datgan cyhoeddus fod pawb yn gyfwerth a'r rhwystredigaeth o orfod derbyn bod y grym milwrol yn nwylo eraill; rhwng y bloeddio sloganau 'sydd i fod i achub y byd' a'r anallu i gynnig unrhyw gysur gwirioneddol.

Y llinell sy'n crynhoi'r tyndra hwn yw'r un a ail-adroddir yma ac acw drwy'r gerdd: 'pro arribes a casa i no pots cantar.' (Ond rwyt ti'n cyrraedd adref ac yn methu canu). Dyma fyrdwn y gerdd yn ystyr syniadol a cherddorol y gair hwnnw. Ac fel sy'n bosibl mewn barddoniaeth, mae'r llinell yn dweud dau beth gwahanol ar yr un pryd: mae'n dweud nad oes modd canu, ac eto i gyd, mae'r llinell ei hun yn canu, a thrwy hynny'n dangos yr hyn sy'n mynd ar goll.

Roedd hi'n bwysig i mi fod y llinell hon hefyd yn canu yn y cyfieithiad. Roedd nifer yn cadw'r gair canu nes diwedd y llinell, e.e. 'Ond cyrhaeddi di adref ac ni fedri ganu' sydd yn gyfieithiad di-fai; yr oedd eraill wedi dewis cadw yn nes at oslef a melodi'r gwreiddiol gan orffen gyda sill acennog, e.e.  'Wrth gyrraedd dy aelwyd - distawa dy gân'.

Pwy yw'r 'ti' a anerchir yn y gerdd? Mi allai fod yn rhywun agos at y bardd ac yn byw dan yr un to; neu mi all mai'r bardd sy'n siarad â hi ei hun. Wrth gyfieithu nid oes angen dewis - gellir yn hawdd cadw'r amwyster - ond y tebygrwydd yw mai annerch yr hunan y mae'r bardd, yn enwedig o gofio bod hithau'n gantores. Ceir un man yn y gerdd, yn y drydedd linell o'r diwedd, lle mae'r terfyniadau benywaidd yn y geiriau 'sola' ac 'arraulida' yn dangos mai merch a anerchir. Sut mae cyfleu hynny mewn cyfieithiad Cymraeg? Dim ond un ymgeisydd (sef Barcud) fentrodd wneud, a hynny'n ddeheuig iawn: 'Ac ar dy ben dy hun, ferch,/ yn cyrcydu'n y gornel weddïo'.

Yr oedd sylwi ar hyn efallai'n gwneud hi'n haws deall llinell fwyaf tywyll y gerdd, sef 'Aturarem la fam penjant els davantals' (Rhown derfyn ar newyn gan hongian y ffedogau). Bodlonodd rhai ar gyfieithiad air am air o'r fath. Bu eraill yn ceisio dehongli ystyr yr hongian - ai rhoi'r ffedogau i gadw oedd yr ystyr? A sut y byddai hynny'n ffitio'r ddadl? Ar ôl pendroni'n hir, cofiais yn sydyn imi ddarllen ar wefan Vilaweb am brotest Diwrnod y Merched eleni (2018). Drwy wledydd Sbaen gofynnwyd i ferched fynd ar streic o'i gwaith cyflogedig ac o'i gwaith domestig, ac ymgasglu yn y strydoedd. Petaent yn gorfod aros yn y tŷ i wneud gwaith gofal, gofynnwyd iddynt hongian eu ffedogau o'r ffenestri a'r balconïau. Slogan y diwrnod oedd Ens Aturem - Rydym ar stop!  Dyma felly linell yn y gerdd sydd yn adleisio'r slogan hwnnw, yn cyfeirio at y ffedogau ac yn ehangu ystyr Llibertat i gynnwys rhyddid merched hefyd. Ysgrifennwyd y gerdd ym mis Tachwedd 2017, cyn streic fawr 2018, ond mi fu streic ar raddfa lai'r flwyddyn flaenorol, neu efallai fod y bardd yn rhan o baratoadau 2018. Ond dyna yn ddi-os y mae'r gerdd yn cyfeirio ato, ac un ymgeisydd yn unig (Ffugenw: Rhu Tywi) ddewisodd grogi'r ffedogau o'r ffenestri. Cynigiodd neb droednodyn!

Roedd symud rhwng diwylliannau yn gwestiwn a gododd mewn ffordd wahanol wrth gyfieithu'r bedwaredd linell 'i dels temors en farem flors' (air am air 'o'r ofnau fe wnawn flodau'). Dewisodd mwy nag un gyfeirio at stori Blodeuwedd. Roedd symud y gerdd i'r byd Cymreig yn beth mentrus ac eto'n beryglus. O wneud cymhariaeth, ble mae'r cyfochredd yn cychwyn a ble mae'n gorffen? Mae dewiniaeth Gwydion yn cyd-redeg yn dda ag alcemi'r gerdd Gatalaneg. Os mynd ymhellach a sôn yn rhy fanwl am Blodeuwedd mae cwestiynau'n dechrau codi ynghylch faint o gyfochredd gwirioneddol sydd. Felly cynildeb piau hi.

Roedd hon yn gystadleuaeth ddifyr ond anodd ei beirniadu. Yr oedd pob un o'r chwech uchaf mewn rhai mannau yn rhagori ar y lleill a bu rhaid imi gydbwyso ffactorau tra gwahanol. Yr oedd rhai wedi cadw'n agos iawn at drefn y llinellau gwreiddiol heb amharchu cystrawen naturiol y Gymraeg; eiddo Cathryn oedd y cyfieithiad mwyaf manwl gywir yn y dosbarth hwnnw, ac rwyf am gydnabod hynny wrth ei henwi. Ond yr oedd eraill wedi mentro mwy gan newid y ffurf a'r drefn yn sylweddol gan lwyddo, ar yr un pryd, i gadw ysbryd a neges y gerdd wreiddiol. Rhu Tywi sydd ar ben y dosbarth hwnnw oherwydd menter ddisgybledig y gwaith. A dyma'r cyfieithydd sydd yn cael y wobr eleni ac yn llawn haeddu hynny. Mae'n bleser cyhoeddi mai Llewelyn Hopwood yw Rhu TywiNed Thomas
 

Y cyfieithiad buddugol o gerdd (ddi-deitl) Laia Martínez i López

gan Llewelyn Hopwood

Rwyt ddyddiau o floeddio ar strydoedd.
Rwyt ddyddiau’n ddifraw.
Nôl adref – rwyt fud.

Byddwn fel Gwydion
Ac o’r ofnau, gwnawn flodau:
ar blacard gosodi di’r gadlef.
Nôl adref – rwyt fud.

A beth wyddwn ni am alcemi?
A beth y gwn i am bwysau aur a’r elfennau?

Arbrofwn; taflwn
baent bras dros y muriau:
Mae pob enaid byw yn gyfwerth â’i gilydd.
Nôl adref – rwyt fud.

Gwyrdrown y newyn,
Crogwn ein ffedogau o’n ffenestri
a gwrthsefyll pob gwarchae â bara a chaws:
a thithau’n bwrw brawddeg er achub y byd.
Nôl adref – rwyt fud.

Yn gwrcwd unig mewn cilfach o weddi,
agori dy geg mewn anobaith, a holi:
pa ddiben yw bloeddio
heb allu cysuro?

LML, 3ydd o Dachwedd

 

Y gerdd wreiddiol

Fa dies que crides pels carrers que no tens por.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Esdevindrem alquimistes
i dels temors, en farem flors:
escrius la consigna a les pancartes.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Què coi en sabem, de l’alquímia, nosaltres?
Què coi en sé, jo, del pes de l’or, de la substància?
Per fer l’experiment, pintem ben gran als murs
que valen el mateix totes les ànimes.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
Aturarem la fam penjant els davantals
i resistint el setge amb pa i formatge:
etzibes la resposta que ha de salvar el món.
Prò arribes a casa ―i no pots cantar.
I sola, arraulida al racó de la pregària,
obres la boca en desesper i demanes:
per què tanta veu, si no us puc dar consol?

LML, 3 novembre


Brodor o Langynnwr ger Caerfyrddin yw Llewelyn Hopwood sydd bellach yn byw ac yn astudio yn Rhydychen. Yn ogystal â cherddoriaeth a phêl droed, hanes a ieithoedd sy’n mynd â'i fryd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 09·08·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…