Colofnau

Gymerwch chi sigarét electronig?

Gwynt y Dwyrain

Mihangel Morgan

Amser darllen: 5 munud

12·10·2022

Prin y galla i gofio dim am fy mhlentyndod yn rhyw glir iawn wa’th roedd y cyfan wedi’i orchuddio mewn niwl o sigaréts fy nhad, fy nhad-cu, ewythredd a chymdogion. Arferai’r dynion i gyd smygu, ac eithrio ambell i weinidog a blaenor neilltuol o rinweddol. Anaml y gwelid menyw â sigarét. Fel hyn y profwyd bod rhai yn cael cancr yn yr ysgyfaint drwy fwg ‘ail-law’, fel petai. Nid yn y wlad hon ond yng Ngwlad Groeg y profwyd hyn, os cofiaf yn iawn, lle roedd y dynion i gyd yn smygwyr a’r menywod byth yn smygu. Ond roedd y menywod yn dal i gael cancr.

Mae’n anodd coelio bod rhai ar un adeg yn credu neu’n honni bod tybaco yn gwneud lles,

Tybaco wnaiff y claf yn iach,
Tybaco bach, tybaco.

Ond fe sylweddolai eraill ganrifoedd ’nôl fod smygu yn beth drwg,

Tybaco! O! ’r tybaco,
A wnaeth y diawl â’i ddwylo 
Pan oedd yn segur ar y glaw
Mae ôl ei ddwylaw arno.

Roedd smygu a smygwyr yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n diwylliant slawer dydd. Cofiai Kate Roberts, er enghraifft, fel y byddai Robert Williams Parry ar ddiwedd darlith, cyn dechrau’r drafodaeth, yn dweud wrth y dosbarth: ‘Y sawl sydd am ysmygu ysmyged.’ Ac ar un achlysur, ‘yr oedd dau fachgen ifanc iawn yn y dosbarth, nid oeddynt fwy nag un ar bymtheg oed, yn edrych yn ieuengach o lawer, a hwy oedd y cyntaf i dynnu eu Woodbines allan’. 

Roedd gan fy mam ddywediad cynganeddol (er nad oedd treigladau’r peth yn hollol safonol, efallai) er mwyn mynegi syndod, ‘Duw caton pawb, dou cetyn pib!’ Smygai un o’m hewythredd getyn a wyntai saith hewl. Roedd y profiad o fod mewn car gydag ef a’i getyn yn fythgofiadwy o annioddefol. 

Mor ddiweddar â’r nawdegau fe gofiaf barti mewn fflat yn Aberystwyth a’r awyr yn las, yn llythrennol, gan fwg, a chetyn Dr John Davies yn gwneud y cyfraniad mwyaf i’r cwmwl dan do. 

Yn ogystal â’r mwg a’r drewdod mae sŵn yn rhan o’n gorffennol. Sŵn peswch. Pesychai’r hen ddynion, chwarae teg iddyn nhw, am eu bod wedi gweithio dan ddaear, ond pesychai’r lleill mewn ymgais ofer i garthu gyddfau claf ar ôl oes o ddyfal smygu. 

Ond er gwaetha’r gwynt ofnadwy, y bysedd melyn, y poeri a’r pesychu anobeithiol diddiwedd rhaid cyfaddef roedd smygu yn edrych yn ‘cŵl’ (maddeuer y benthyciad). Meddyliwch am Humphrey Bogart a’i sigaréts yn CasablancaThe Maltese Falcon neu In a Lonely Place – yr ymgorfforiad o ‘cŵl’. Meddyliwch am Bette Davis yn All About Eve (ffilm lle mae sigarennau yn fotîff hanfodol i’r plot) ac yn Now Voyager. Defnyddiai Davis ei sigarennau yn aml i bwysleisio gair neu linell ac i ddramateiddio araith ac weithiau i dargedu actorion eraill yn ei ffordd ddihafal ei hun. Meddyliwch am Lauren Bacall a’i sigarét yn To Have and Have Not, ac yn unrhyw un o’i ffilmiau yn wir – cŵl a rhywiol. A phwy a allai guro James Dean am smygu yn Rebel Without a Cause? Jean-Paul Belmondo, o bosib – anaml y gwelid hwnnw heb sigarét yn ei ben yn ei ffilmiau cynnar. Oedd, roedd rhywbeth hudolus a digamsyniol o soffistigedig ynghylch y ffordd y defnyddiai’r actorion hyn, ac eraill, eu sigarennau. Diau taw efelychu’r eilunod hyn a wnâi smygwyr cyffredin.

Wrth gwrs, bu farw Bogart yn 57 oed o gancr yr esoffagws. Cariodd Bette Davis ymlaen nes ei bod dros ei phedwar ugain, mae’n wir, ond dioddefai gan iechyd bregus ofnadwy ar y diwedd. Dyna bris bod yn cŵl.

Ac afraid dweud doedd pob un ddim mor cŵl yr olwg wrth smygu ta beth. Roedd gan ddynion y dosbarth gweithiol ffordd o gwpanu’r bysedd o gylch y sigarét wrth ei dal. Gwneid hyn, mae’n debyg, mewn ymgais i guddio’r sigarét rhag llygaid beirniadol rhai mewn awdurdod – rheolwyr, athrawon, gweinidogion – nad oeddent yn cymeradwyo’r arfer o smygu. Edrychai’r sawl a smygai fel hyn braidd yn llechwraidd a drwgdybus. Drwgweithredwyr, troseddwyr, gwerthwyr ceir ail-law o dras amheus a bechgyn ysgol oedd yn arfer smygu fel’na, a doedd dim byd cŵl o gwbl yn eu cylch. 

Lledodd sigaréts o’r chwedegau ymlaen gyda mwy o fenywod cyffredin yn smygu. Yna, bob yn dipyn troes y llanw dan ddylanwad addysg, propaganda a deddfau yn cyfyngu ar lle y gellid smygu, gan yrru’r dyfalbwffwyr i’r ymylon. Rwy’n dal i weld ambell i ffigur o weithiwr pendrist dan gwmwl o fwg a chywilydd ar bwys yr archfarchnad ac ambell i athrawes ar gilion yr ysgol, yn hawlio’n styfnig eu ‘brêc am smôc’. Mi wn y gallai sylwadau fel ‘gwynto saith hewl’ frifo teimladau’r sawl sy’n dal i smygu a bod ambell hen eithafwr fel David Hockney yn ymladd dros hawliau smygwyr, ond creaduriaid Caniwtaidd ydyn nhw. 

Ond nawr mae’r mwg yn dod yn ôl! Mwg anghyffredin, nid o gyfeiriad arall yn gwmws eithr oddi wrth declyn neu ddyfais newydd, nid amgen, y sigarét electronig.

Y tro cyntaf i mi sylwi ar rywun yn defnyddio un o’r taclau hyn cerdded yn ei sgil roeddwn i a dyma chwythell o fwg gwyn yn f’amgylchu fel mwg o un o’r hen drenau stêm slawer dydd. Mae’r sigarennau electronig hyn yn cynhyrchu llawer mwy o fwg na’r hen rai, fe ymddengys, ond nid yw mor ddrewllyd ac mae’r mwg yn wyn yn hytrach nag yn las neu’n felyn. A nawr mae mwy ohonyn nhw i’w gweld ar hyd y lle a rhai yn troi atyn nhw naill ai o’r newydd neu ynteu wedi’u cyfnewid am yr hen rai gan eu bod, fe honnir, yn llai andwyol i’r iechyd. Mae peth gwir yn hynny, o bosib, ond dydyn nhw ddim yn ddianaf chwaith, mae hynny yn sicr, a dydyn nhw ddim yn llesol, mae hynny yn bendant. 

Ond drwg neu heb fod cynddrwg does dim affliw o obaith i’r sawl sy’n eu mabwysiadu ymddangos yn cŵl. Pe bai Humphrey Bogart, Bette Davis neu hyd yn oed Jean-Paul Belmondo wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio sigarét electronig ni fyddai’r un ohonyn nhw wedi tyfu’n eiconau’r ffilmiau. Byddai James Dean wedi edrych fel twpsyn chwerthinllyd gydag un o’r rheina yn ei ben.

Nawr ’te, ble mae’r sigâr yna? 

Mae Mihangel Morgan yn un o golofnwyr O’r Pedwar Gwynt.

Byddai James Dean wedi edrych fel twpsyn chwerthinllyd gydag un o’r rheina yn ei ben

Pynciau:

#Gwynt y Dwyrain
#Ffilm
#Mihangel Morgan