Cyfweld

Digwyddiadau’r gwanwyn a’r haf

yn Nhyddewi, Machynlleth a Boduan

Amrywiol awduron
15·03·2023

Mae O'r Pedwar Gwynt yn falch o gynorthwyo dwy ŵyl y gwanwyn hwn gyda chyfres o ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir darllen gwaith yr awduron yn ein harchif. Edrychwn ymlaen hefyd at y Steddfod ym Moduan fis Awst.
 

*

Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan (5-12 Awst 2023)
Mae O’r Pedwar Gwynt yn falch o gefnogi digwyddiad yn y Babell Lên eleni. Mi fydd golygydd O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands, yn ymuno yn y drafodaeth ‘O law’r awdur i ddwylo’r byd: amlieithrwydd a llenyddiaeth Gymraeg’ am 3.30 y prynhawn, ddydd Sul, 6 Awst. Yng nghwmni Manon Steffan Ros, Megan Angharad Hunter, Sian Northey a than gadeiryddiaeth Elin Haf Gruffydd Jones.

*

Gŵyl Syniadau Tyddewi (24–26 Mawrth 2023)

Simon Brooks ar effaith ail gartrefi ar iaith a diwyliant Cymru
Dydd Sadwrn, 24 Mawrth 2023, 9:15-10:15am

Llewelyn Hopwood ar Tolkien a sain y Gymraeg
Dydd Sul, 25 Mawrth 2023, 9-10am

Mererid Hopwood ar ddychmygu iaith
Dydd Sul, 25 Mawrth 2023, 12-1pm

Carwyn Graves ar weld bwyd Cymru o'r newydd
Nos Wener a nos Sadwrn, yn y Really Wild Emporium, dros bryd o fwyd, am 7pm a 7:30pm

Ewch i wefan yr ŵyl am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau.

 

*

 

Gŵyl Lenyddol Machynlleth (31 Mawrth–2 Ebrill 2023)

Agor y meddwl Cymreig: Elin Haf Gruffydd Jones yn holi Simon Brooks a Huw L Williams

Dydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023, am 4.30-5.30pm
yn y Senedd-dy, Heol Maengwyn, Machynlleth

Beth yw'r meddwl Cymreig? A oes perygl heddiw i ddealltwriaeth Gymraeg o'r byd gael ei cholli? Dau hanesydd syniadau fydd yn trafod ein traddodiadau deallusol a sut y gallwn heddiw ddweud ein meddwl ein hunain.

*

Mae Simon Brooks yn hanesydd diwylliannol sydd yn arbenigo yn hanes syniadau y diwylliant Cymraeg. Mae ei gyfrolau'n cynnwys Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg (2015) a Hanes Cymry (2021), sef hanes amrywiaeth ethnig oddi mewn i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Ar hyn o bryd, mae'n llunio cyfrol am y gymdeithas Gymraeg ei hiaith yn Lloegr, gyda phwyslais ar yr ail genhedlaeth. Ef hefyd yw cadeirydd presennol Comisiwn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae Huw L Williams yn Ddeon y Gymraeg ac yn Ddarllenydd mewn Athroniaeth a Darlithydd Cysylltiol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd i'r golofn 'Socrates ar y stryd' yng nghylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt. Mae â diddordeb arbennig mewn syniadaeth radical ac egalitaraidd, yn arbennig diwylliant ymgyrchu a phrotest. Mae ei waith ymchwil yn cwmpasu cyfiawnder byd-eang a damcaniaeth wleidyddol ryngwladol yn ogystal â hanes deallusol Cymru a'i thraddodiadau deallusol blaengar. 

Prynwch eich tocynnau o Siop Lyfrau Pen'rallt.

*

Bywyd a gwaith hynod Elena Puw Morgan – awdures o flaen ei hoes. Mererid Puw Davies yn sgwrsio â Jane Aaron.

Dydd Sul, 2 Ebrill 2023, am 3pm-4pm
yn y Senedd-dy, Heol Maengwyn, Machynlleth

Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno bywyd a gwaith hynod Elena Puw Morgan, ac yn awgrymu ei bod yn awdures o flaen ei hoes.

*

Cyhoeddodd Elena Puw Morgan (1900–1973), awdures o Gorwen, Meirionnydd, dair nofel i oedolion, Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi (1934), Y Wisg Sidan (1939) ac Y Graith (1943). Cofir hi hefyd fel y ferch gyntaf i ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1938. Cyfrannodd yn sylweddol at ddatblygiad y nofel fodern Gymraeg. Cafodd ei gwaith ganmoliaeth uchel gan feirniaid cyfoes. Yn ogystal, roedd yn wirioneddol boblogaidd: yn 1939, dewiswyd Y Wisg Sidan yn llyfr Cymraeg gorau’r flwyddyn gan ddarllenwyr y Western Mail. Tua throad y ganrif ddiwethaf, hefyd, cafodd Y Wisg Sidan ac Y Graith gynulleidfaoedd newydd pan gawsant eu haddasu fel dramâu teledu llwyddiannus ar S4C. Ac eto, prin y cofir am Elena Puw Morgan heddiw, a bychan fu’r sylw iddi mewn beirniadaeth lenyddol mewn degawdau diweddar. Un rheswm, yn ddi-os, oedd beiddgarwch rhai o’i themâu, megis cam-drin plant a merched yn y cartref, sy’n syfrdanu rhywun hyd heddiw.

Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac yn olygydd cyfranogol i’r cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, lle mae’n cyhoeddi ysgrifau a cherddi. Ar ôl cyfnod hir yn Llundain, mae Mererid Puw Davies newydd ymgartrefu ar lan y môr ym Mro Morgannwg. 

Mae Jane Aaron yn adnabyddus am ei gwaith ar lenyddiaeth merched Cymru. Fis Ebrill, bydd cyfrol newydd ganddi, ar Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839-1916) o Langrannog, yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae Jane Aaron hefyd yn aelod o fwrdd ymgynghorol O'r Pedwar Gwynt ac yn weithgar gyda gwasg Honno.

Prynwch eich tocynnau o Siop Lyfrau Pen'rallt.

Prin y cofir am Elena Puw Morgan heddiw ... Un rheswm, yn ddi-os, oedd beiddgarwch rhai o’i themâu, megis cam-drin plant a merched yn y cartref, sy’n syfrdanu rhywun hyd heddiw

Pynciau:

#Simon Brooks
#Llewelyn Hopwood
#Mererid Hopwood
#Mererid Puw Davies
#Elin Haf Gruffydd Jones
#Huw L Williams
#Carwyn Graves
#Jane Aaron