Dadansoddi

Trigfannau moderniaeth

Elena Puw Morgan

Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi

Honno, 352tt, £25, 1933; 2018

Virginia Woolf

A Room of One's Own

Profile Books, 112tt, £12.99, 2011

Mererid Puw Davies

Amser darllen: 15 munud

30·11·2018

Cerdyn post yn dangos Corwen, tua 1890 (Archifau Sir Ddinbych)


Yn yr ysgrif hon dadleua Mererid Puw Davies fod bywyd a gwaith Elena Puw Morgan yn ein gwahodd i ailgoriannu barn Virginia Woolf am lawer o bethau, ac ailarchwilio ‘A Room of One’s Own’ yn fwy gofalus a beirniadol.

✒︎

Pan gefais i’r neges ym mis Ionawr eleni, darllen ysgrif ddylanwadol Virginia Woolf (1882-1941), ‘A Room of One’s Own’ (1928) yr oeddwn i, wrth baratoi seminar ar feirniadaeth lenyddol. Dywed Virginia Woolf yn y gwaith hwn ei bod yn trin ‘merched a ffuglen’. Ond mewn gwirionedd, mae’n sôn am lawer mwy: am ferched a dynion, am gyfoeth a thlodi, am fantais a braint, am drais, rhyw, hanes a grym, ac am ddiwylliant, llenyddiaeth a Moderniaeth. Mae yn yr ysgrif hon gyfrolau, llyfrgelloedd. Ac eto, o edrych yn hir ar ei harwyneb hyderus, mi wêl rhywun ei bod yn frith o graciau, sy’n awgrymu yn eu tro fod holltau mwy a mwy peryglus oddi tanynt. Gellid tybio fod mwy ar waith yn y fan hon na’r cynnwys amlwg. Mae yma hefyd, tua’r dechrau, ddisgrifiad o’r awdur yn dilyn trywydd rhyw syniad newydd ac yn ei weld mor anwadal â physgodyn bach mewn afon sydd ‘ar unwaith yn gynhyrfus iawn, ac yn bwysig’; ‘yn gwibio a suddo, a fflachio yma a thraw’; ond dim ond pan fo yn y dŵr. Truenus a diwerth ydyw o’i rwydo a’i osod ar y lan, ac mae’n fwy difyr a gwerthfawr o’r hanner pan erys y tu hwnt i’r gafael.

Amheuaf mai rhywbeth o’r fath sy’n fflachio a gwibio yn annelwig weithiau trwy ddyfnderoedd ‘A Room of One’s Own’, rhywbeth amgen na’r cynnwys amlwg. Ond dyma fi’n dechrau rhedeg ymlaen eisoes, a minnau am sôn mwy am y neges honno a dderbyniais i ym mis Ionawr, heb fynd ormod ar gyfeiliorn yn gyntaf.

Ar yr wyneb, o leiaf, mae ‘A Room of One’s Own’ yn dadlau bod ar ferch angen annibyniaeth faterol a deallusol i lenydda o ddifrif. Er mwyn iddi ddod yn llenor, rhaid wrth incwm personol o bum can punt y flwyddyn (a gyfatebai i incwm dosbarth canol cymedrol heddiw), sef tipyn o ffortiwn. Mae arni angen, hefyd, ystafell iddi hi ei hun. Nid trosiad mo’r ddelwedd honno; o leiaf, nid trosiad yn unig. Ac mae ar wraig o lenor angen sawl peth arall, hefyd.

Er mwyn cyrraedd y fath gasgliadau, mae’r ysgrif yn trafod pam yr ymddengys fod merched wedi cyfrannu’r nesaf peth i ddim i lenyddiaeth fawr Lloegr. Yn oes y frenhines Elisabeth y Cyntaf er enghraifft, pan oedd bron pob un wan jac o ddyn yn ysgrifennu sonedau rif y gwlith, pam nad felly eu gwragedd? Am fod y gwragedd hynny, yn ôl y llyfrau hanes, yn cael eu cloi i mewn, a’u curo, a’u lluchio o gwmpas y llofft. Yn fwy diweddar hefyd, yn wir hyd ddydd Virginia Woolf ei hun, ni chawsai’r mwyafrif o ferched mo’r amser na’r llonydd na’r lle (yr ystafell bersonol hollbwysig) i ysgrifennu o ddifri, a hwythau yn magu llond tai o blant, heb foment na dimau goch i’w hunain. Mae Virginia Woolf yn ein hatgoffa’n ogystal nad oedd gan wraig briod hawl i eiddo hyd 1880 (o fewn cof digon diweddar yn 1928), a’r cyfan oedd ganddi yn mynd yn hollol gyfreithlon i ddwylo ei gŵr. Ni châi’r wraig hon addysg o werth ychwaith, a hynny ar ddwy ystyr. Yn gyntaf, ni dderbyniai addysg academaidd; ac yn eilbeth, ni châi addysg fydol a chymdeithasol, na chyfle i weld y byd ar ei chownt ei hun, i anturio, nac i gwrdd â phawb a phopeth.

Wrth gwrs, mae eithriadau i’w cael trwy’r canrifoedd, merched a fynnodd ysgrifennu er gwaethaf popeth. Bron yn ddieithriad, merched di-blant oedd y rhain, yn ddigon aml yn gefnog neu’n fonheddig, ac wedi derbyn addysg anghyffredin, neu’n briod â dynion goleuedig a’u cefnogodd, neu’r ddeubeth. Ond fel arfer, mae gwallau difrifol yng ngwaith hyd yn oed y disgleiriaf ohonynt bron bob un, gwallau sy’n deillio’n uniongyrchol o’u sefyllfa fel merched. Yn ôl Virginia Woolf, mae hyd yn oed Jane Eyre Charlotte Brontë wedi ei llurgunio gan flinder ei hawdur dan bwysau patriarchaeth, ac felly hefyd y lliaws nofelau gan ferched o’r ganrif gynt. Er eu nifer, aethai’r rhain oll yn angof am fod eu hawduron wedi eu rhwystro rhag eu mynegi eu hunain yn driw a chywir, ac ‘wedi methu, a’u gwasgaru, fel afalau bychain brychlyd, o gwmpas siopau llyfrau ail law’.

Ond erbyn 1928, yn y gorffennol oedd hynny: gallai merched, bellach, feddu ar eiddo. Cawsai lleiafrif breintiedig goleg hyd yn oed, a’r merched ifanc hyn, myfyrwragedd un o golegau merched go newydd y cyfnod, y mae Virginia Woolf yn eu hannerch ac yn eu hannog i wneud yr hyn na allodd eu mamau a’u neiniau, sef mynnu cael arian ac ystafell iddynt eu hunain er mwyn gallu ysgrifennu llenyddiaeth o bwys.

Saif y genhedlaeth newydd hon ar drothwy. Fel merched, maent yn ‘meddwl yn ôl trwy eu mamau’, yn union fel y mae awduron o ddynion yn ‘meddwl yn ôl’ trwy draddodiad eu tadau, prif ffrwd llenyddiaeth. Ond prin y gadawodd y mamau draddodiad llenyddol yn waddol. Creu traddodiad o’r newydd sydd ei angen felly, ac iwtopaidd ydi awgrymiadau Virginia Woolf ar gyfer cyflawni hyn. Yn ei barn hi, gall awduron o ferched yn yr ugeinfed ganrif oleuo am y tro cyntaf fyrdd o fannau a goddrychau fu’n gudd i ddiwylliant tan hynny, sef profiadau merched. Mae’n lled-ddychmygu math hollol newydd o stori, un sy’n dadlennu er enghraifft fod ‘Chloe yn hoffi Olivia’. Mae yn y gosodiad syml hwn fyrdd o bosibiliadau, megis trafodaeth mwy geirwir ar berthnasau o bob math rhwng merched lle na bo dynion yn ganolog. Yn fwy beiddgar fyth, gallai gyfeirio at serch Chloe ac Olivia. Ar yr un pryd, mae’r ysgrif yn dychmygu arddull a ffurfiau newydd sbon. Tybiaf felly mai merched yw’r modernwyr par excellence yn llygaid Virginia Woolf a’u lleisiau hwy fydd lleisiau pwysicaf Moderniaeth.

✒︎

Am hyn yr oeddwn i’n pendroni, am ‘feddwl yn ôl trwy ein mamau’ (ac felly trwy ein neiniau hefyd, a’u neiniau hwythau), pan gefais i’r neges. Gwasg Honno oedd yno, yn holi’n garedig am ganiatâd i gyflwyno argraffiad newydd o nofel fer gynnar, dra anghofiedig gan fy nain Elena Puw Morgan (1900-73). Y nofel oedd Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi (1933), llwyddiant poblogaidd yn ei dydd. Ynddi, mae cymeriad oedrannus y teitl yn olrhain hanes ei bywyd hir, lliwgar ymysg ei thylwyth, Romani gogledd Cymru. Mae’n ei gofnodi mewn llythyr i’w hwyres Nansi Wyn ei ddarllen ryw ddiwrnod a dysgu am ei hynafiaid. Mae yma ddarlun go fanwl o arferion a diwylliant y Romani, pwnc ffasiynol ar y pryd, yn ogystal â stori ddirgelwch, rhamant ac antur. Mi ymddangosodd yr argraffiad newydd o Nansi Lovell erbyn mis Awst, yng nghyfres Clasuron Honno, ac mi gafodd fy chwaer Angharad Puw Davies a minnau gyfle i gyfrannu rhagymadrodd sy’n sôn ymhellach am y cyddestun bywgraffiadol a beirniadol sy’n gefndir i’r ysgrif bresennol. Mawr yw fy niolch i Wasg Honno am ei gwaith.

Ar y prynhawn hwnnw o Ionawr felly, sylweddolais yn syth bin fod Nansi Lovell yn hollol gyfoes ag ‘A Room of One’s Own’, oherwydd cyn cyhoeddi’r nofel, enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi yn 1927, gwta flwyddyn cyn yr ymddangosodd cyfrol Woolf. Roedd Elena Puw Davies, fel y’i hadnabyddid ar y pryd, yn gyfoeswraig gyflawn hefyd i’r myfyrwragedd y mae’r ysgrif yn eu hannerch. Dyma gyd-ddigwyddiad digon i godi ias, i godi pendro arnaf. A phan ddechreuodd y bendro gilio,yr her oedd gweld ei harwyddocâd.

Prin na allai’r ddau waith hwn ymddangos yn fwy gwahanol: anodd yn wir yw credu mewn ffordd eu bod yn gynnyrch o’r un oes. Mae Virginia Woolf yn trafod bywyd Llundain yn ei anterth, llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig a chyfrinleoedd Caergrawnt a Rhydychen fel pair llenyddiaeth Saesneg fawr, fodern, arbrofol a dinesig. Gosodir hanes Chloe ac Olivia mewn labordy, man huawdl ddigon yn symbolaidd, nid yn unig am ei fod yn weithle newydd i ferched ar y pryd. Nofel hanesyddol yw Nansi Lovell, yn edrych yn ôl ar hen ffordd o fyw wledig mewn gorffennol anhysbys yng Nghymru, ar ffurf draddodiadol nofel epistolaidd. Nid yw fel pe bai’n cyflawni dim o faniffesto ‘A Room of One’s Own’, a gellid dweud yr un peth am ddwy nofel hanesyddol arall Elena Puw Morgan a ddilynodd Nansi Lovell, sef Y Wisg Sidan (1939) a’r Graith (1943), er eu bod yn sicr yn fwy aeddfed a chymhleth eu technegau a’u cynnwys.

Wrth gwrs, rydw i’n bleidiol; ac yn y pen draw, beth ydi llenyddiaeth ond rhyw fath o wydr sy’n adlewyrchu wyneb y darllenydd? Dylai’r sawl sydd am ffurfio barn ar yr hyn sy’n dilyn ddarllen drosto ef neu drosti hi ei hun: ond yn fy marn i, ysgrifennodd Elena Puw Morgan nofelau mawr. Yn fwy na hynny, ysgrifennodd nofelau gwyrdroadol oedd ymhell o flaen eu hoes. Dyna yn ddiamau gen i yw un o’r rhesymau iddynt gael eu beirniadu gan rai, a mynd yn angof wedyn gan ysgolheigion. Ydyn, ar rai agweddau mae’r nofelau’n adlewyrchu eu hoes mewn ffyrdd sy’n ddieithr neu’n ddadleuol inni ac mi fuasai’n talu eu dadansoddi ymhellach, yn union fel gwaith Virginia Woolf a Charlotte Brontë o ran hynny. Ond nid confensiynol na thawelaidd mo’r nofelau hyn, er eu bod yn ymwrthod bob amser ag unrhyw ddatganiadau gwleidyddol neu raglennol. Dangos a wnânt, nid dweud.

Yr hyn sy’n taro rhywun heddiw, a hynny’n egr, yw cyfoesedd cymaint o themâu Elena Puw Morgan. Mae Y Wisg Sidan yn dadlennu’n feirniadol gamdriniaeth rywiol merch ifanc iawn — dim ond plentyn yn ôl safonau caredicach heddiw — braint y meistri a pharodrwydd pawb o’u cwmpas i gadw eu cyfrinachau. Mae Y Graith os rhywbeth yn fwy rhyfygus fyth wrth ddatgelu camdriniaeth plentyn ar ei haelwyd dan law ei mam. Dim ond yn llawer mwy diweddar y mae cymdeithas wedi dechrau sôn yn fwy agored am droseddau o’r math yr oedd Elena Puw Morgan yn eu trafod bron gan mlynedd yn ôl. Modern hefyd yw’r ffordd y mae’n dangos fel mae trawma mewn plentyndod, fel y buasem ni’n ei alw heddiw, yn aros yng nghyfansoddiad unigolyn am oes, a’i drosglwyddo yn ei dro i lawr yr ach. Mae’r nofelau felly yn taflu llifolau didrugaredd ar ddioddefaint aelodau mwyaf diymgeledd cymdeithas, a’i seiliau yn strwythurau a sefydliadau y gymdeithas honno.

Wrth ddarllen nofelau Elena Puw Morgan heddiw, mae’n amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedant yn benodol am ferched, fel bod Gwasg Honno yn gartref arbennig o briodol i Nansi Lovell yn 2018. Merched a’u perthynas â merched eraill yw’r canolbwynt; ymylol gan amlaf yw dynion. Mae’r nofelau yn enwi yn eglur themâu oedd yn ganolog i brofiad llawer o ferched, ac eto’n rhy gywilyddus i’w henwi mewn aml i fan ers talwm: yn eu plith mae torpriodas, godineb, rhyw, beichiogrwydd, genedigaeth a bwydo ar y fron, plant siawns, colli plant, ecsbloetio plant ac ecsbloetiaeth rywiol; effaith lethol tlodi ar famau a phlant, anabledd, henaint, salwch corfforol a meddyliol a thrais cudd yn y cartref. Mae yma fanylion am broblemau enbyd mamau difreintiedig sy’n taro tant heddiw: os nad oes gan fam ifanc a dibrofiad ddimau ei hun, sut y caiff hi hyd i ddillad, neu fwyd, neu foddion i blentyn bach? Mae’r nofelau hefyd yn archwilio yn gynnil y disgwyliadau ar ferched, yn wyneb y fath brofiadau, i gydymffurfio, i oddef a dioddef, a does yma ddim delfrydu ar ddioddef benywaidd, fel y gwelwn ni yng ngwaith aml i awdur mawr arall. Maent yn ymwrthod yn llwyr â chwedl ‘angel yr aelwyd’ y beirniadai Virginia Woolf hi mewn ysgrif arall: merch fwyn ddychmygol sy’n aberthu popeth er mwyn ei gŵr a’i theulu. Yn hytrach, portread anarferol a phoenus a geir o amwysedd mamolaeth dan batriarchaeth, darlun sy’n chwalu tabŵs o bob math. Mae’n ddigon, hyd heddiw, i fynd â’m gwynt.

Trawiadol yw pwyslais Elena Puw Morgan, fel un Virginia Woolf, ar annibyniaeth faterol merched. Ym mhob un o’r tair nofel, mae yna ferch hŷn sengl neu weddw graff sy’n meddu ar eiddo ac yn ymwybodol iawn ei fod yn ei galluogi i fyw i ryw raddau’n rhydd o hualau cymdeithas, pa bynnag anawsterau eraill ddaw i’w rhan. O ganlyniad, yn Y Wisg Sidan a’r Graith, gall y merched hirben hyn roi noddfa i ferch iau orthrymedig sy’n berchen ar nemor ddim ond coflaid o garpiau. Mae Nansi Lovell hithau yn gefn o fath gwahanol i’w hwyres. Mewn gair, mae yma berthynas uniongyrchol rhwng lles merch a’i meddiannau – neu eu diffyg. Mae’r merched doeth hyn hefyd yn llythrennog. Ond nid cymhwyso i fynd i goleg fel yn ‘A Room of One’s Own’ sydd yn y fantol i’r rhan fwyaf o gymeriadau Elena Puw Morgan. Rhywbeth mwy sylfaenol, mwy tyngedfennol sydd ganddi, sef y ffaith fod medru darllen ac ysgrifennu yn galluogi rhywun i ddeall dogfen, i dorri enw, ac felly i weld a gweithredu drosto ef neu drosti hi ei hun. Yn ogystal, mae Nansi Lovell yn ymgorffori’n llythrennol yr hyn ddywed Virginia Woolf am bwysigrwydd traddodiad ysgrifenedig i ferched a’u galluoga i ‘feddwl yn ôl trwy eu mamau’, oherwydd mae llythyr Nansi yn adrodd stori hyderus am linach fenywaidd dros bum cenhedlaeth o ddydd ei nain hithau ymlaen.

Mae yn hyn i gyd lawer mwy o dir cyffredin ag ‘A Room of One’s Own’ nag a ddisgwyliai neb ar yr olwg gyntaf bid siŵr. Mentrus ac, ie, modern yw dadansoddiad Elena Puw Morgan o’r profiad benywaidd yn ei dydd. Ac os diffinir Moderniaeth fel ymateb creadigol i’r byd modern, ac fel prosiect arloesol, roedd Elena Puw Morgan heb os nac oni bai yn Fodernydd.

Ac eto, nid oedd bywyd Elena Puw Morgan, fel y mae’n wybyddus heddiw, yn cyd-daro’n amlwg iawn efo damcaniaethau Virginia Woolf am anghenion merched o lenorion. Awgrymus yw’r ffaith nad mewn stydi bersonol y mae Nansi Lovell yn ysgrifennu, ond yn llythrennol yn y priffyrdd a’r caeau. Mae fy nghof personol am Elena Puw Morgan yn frith iawn, ac wrth gwrs, mae llaweroedd o bethau na wn i am ei bywyd. Ond er nad oedd hi a’i theulu yn dlawd, ac er iddynt fyw mewn cartrefi digon cysurus yn ôl safonau yr oes, chlywais i erioed fod ganddi ffortiwn bersonol a fuasai wedi caniatáu iddi incwm annibynnol, nac ychwaith ystafell neilltuol at ysgrifennu. Mi wn yn bendant na chafodd fy nain, oherwydd afiechyd yn ôl y teulu, addysg ysgol gyflawn, heb sôn am gael mynd i goleg. Yng Nghorwen yn Sir Feirionnydd y bu’n byw y rhan fwyaf o’i hoes, ac ni fu’n crwydro’r byd nac yn troi yng nghylchoedd bohemaidd prifddinasoedd Ewrop. Priododd Elena Puw Davies fel oedd hi gynt â John Morgan (1880-1960) yn 1931, gweithiodd ym musnes teilwra y teulu, a daeth yn fam ymroddedig, gariadus, i fy mam innau, Catrin, yn 1933, blwyddyn cyhoeddi Nansi Lovell. Yn y blynyddoedd prysur yn union wedi hynny yr ysgrifennodd hi’r ddwy nofel olaf y cysylltir ei henw â hwy yn bennaf heddiw. Efo’i diffyg coleg, diffyg ffortiwn, diffyg cyfle i deithio, diffyg profiad helaeth o’r byd metropolitaidd Seisnig; ac efo gofalon priodas, mamolaeth, aelwyd a gwaith, mi oedd bywyd Elena Puw Morgan yn wahanol iawn i’r glasbrint yn ‘A Room of One’s Own’. Ar yr olwg hon, efallai nad yw ysgrif Virginia Woolf mor awdurdodol ag yr ymddengys wedi’r cyfan, a bod mwy nag un modd i ferch fyw yn greadigol.

Os na chafodd Elena Puw Morgan yr holl gaffaeliadau yr oedd Virginia Woolf yn eu hargymell i ferched deallusol yn 1928, cawsai rai eraill yn eu lle. Mae’n siŵr gen i fod fy chwaer Angharad yn llygad ei lle wrth ddweud yn ddiweddar y meddai Elena Puw Morgan, mae’n rhaid, ar gyfleoedd a dawn arbennig i wrando ar hanesion y byd o’i chwmpas, megis tlodi eithafol plentyndod ei thad, marwolaeth drychinebus ei brawd Dewi Iwan yn faban bach, neu straeon fforddolion a ddaethai trwy Gorwen ac ymweld â hi bob tro. Dyma agwedd ar deithio’r byd hefyd, er nad yn ddaearyddol. Os na chafodd ddigon o ysgol, derbyniodd Elena Puw Morgan addysg lenyddol a gwleidyddol yn y cartref a thu hwnt, yn llyfrgell eang ac ysgolheigaidd ei rhieni, ac yn nes ymlaen yn ei llyfrgell gyfoethog hithau a’i gŵr. Roedd cymunedau llengar a deallusol Corwen a Chymru, yn Gymraeg a Saesneg eu hiaith, o’i chwmpas, a sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig cynulleidfa wybodus ac adborth iddi. Trwy gyfrwng y rhain, cafodd Elena Puw Morgan gymdeithas gosmopolitaidd. Rhaid ei bod hefyd wedi cael gofal a chefnogaeth deuluol; yn sicr roedd ganddi aelwyd fywiog a dedwydd.

Yn 1938, y flwyddyn y dyfarnwyd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol i’r nofel Y Graith, ac felly am y tro cyntaf i waith gan ferch, honnodd y beirniad Saesneg Cyril Connolly (1903-74) mai’r goets yn y cyntedd yw gelyn dybrytaf celf dda. Mae hanes ei gyfoeswraig Elena Puw Morgan, oedd yn llai na deugain oed yn y flwyddyn honno ac yn fam i blentyn pum mlwydd oed, yn gwrth-ddweud ei honiad. Feiddiwn i ddim hawlio wrth gwrs na chafodd Elena Puw Morgan drafferth i gyfuno ei holl gyfrifoldebau ag ysgrifennu nofelau arwyddocaol. Mae’n rhaid mai camp anodd iawn oedd hon: prin yn wir y gallaf ei hamgyffred hyd yn oed, ond cyflawnodd Elena Puw Morgan hi. Rhaid y bu ganddi, yn anad dim, benderfyniad a disgyblaeth ddiwyro i ysgrifennu.

Mae bywyd a gwaith Elena Puw Morgan yn ein gwahodd i ailgloriannu barn Virginia Woolf am lawer o bethau, ac ailarchwilio ‘A Room of One’s Own’ yn fwy gofalus a beirniadol. Mae’r bywyd a’r gwaith hwn yn dangos hefyd fod aml i ffynhonnell a math o lenyddiaeth o ddiddordeb i lygad ffeministaidd heddiw. Yn ogystal, mae rhyddiaith Elena Puw Morgan yn herio damcaniaethau traddodiadol am Foderniaeth ei hun, er enghraifft fel ffenomenon ddinesig: ar y dystiolaeth hon mae Moderniaeth Ewropeaidd yn lluosog, yn aml-leisiol, yn amlganolog. Dyma danseilio, hefyd, felly, unrhyw syniad fod Cymru a llenyddiaeth Gymraeg rywsut yn ymylol i’r traddodiadau Ewropeaidd mawr. Nid yw hyn oll wrth gwrs yn weledigaeth arbennig o newydd; porthi yr ydw i yma gasgliadau digon o feirniad eraill, dim ond mai yn y fan hon, golwg bersonol ar waith Elena Puw Morgan yw calon y ddadl. Ond dyma’r neges a dderbynais i y prynhawn hwnnw o Ionawr; neu un o’r negeseuon hynny, o leiaf. Mae’r gweddill yn dal i blymio o’r golwg a disgleirio bob yn ail, fel pysgod aflonydd yr afon.

Mae Mererid Puw Davies yn Bennaeth yr Adran Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Beth ydi llenyddiaeth ond rhyw fath o wydr sy’n adlewyrchu wyneb y darllenydd?

Pynciau:

#Rhifyn 8
#Elena Puw Morgan
#Virginia Woolf
#Moderniaeth
#Ffeministiaeth
#Mererid Puw Davies
#Ysgrifau