Cyfweld

Hanner cant Planet

Degawd cynta’r cylchgrawn

Ned Thomas

Amser darllen: 10 munud

07·12·2020

Ned Thomas (Llun: Marian Delyth)

Rydych yn ysgrifennu yn eich cyfrol Bydoedd: ‘Swyddogaeth a thraddodiad yr intelligentsia o amser Pushcin ymlaen oedd tystio i’r gwirionedd a chadw’r fflam yn fyw yn y tywyllwch. Roedd yn golygu rhoi heibio ofn ac uchelgais bersonol a cheisio byw i’r diwrnod wrth safonau uchaf y traddodiad. “Ymhob man yn y byd,” ysgrifennodd Pasternac, “rhaid i ddyn dalu am yr hawl i fyw ar ei adnoddau ysbrydol prin ei hun.”’ Oedd symud i Gymru, i Lwynpiod yng Ngheredigion, ac yna mynd ati i lansio’r cylchgrawn Planet, yn gysylltiedig â’r weledigaeth hon mewn rhyw ffordd?

O na fyddai modd imi adrodd y fath stori arwrol am yr hunan! Cymysg oedd fy nghymhellion pan symudais yn ôl i Gymru yn 1969 – fel mae cymhellion yn aml iawn. Ar ôl graddio roeddwn wedi treulio pum mlynedd dramor yn dysgu mewn prifysgolion ac wedi cyhoeddi astudiaeth gynnar o waith George Orwell; a phum mlynedd arall yn newyddiadurwr yn Llundain gan lanio’n olygydd ar gylchgrawn chwarterol Llywodraeth Prydain yn yr iaith Rwsieg, gwaith diddorol ond yn gynyddol anodd imi ei gyfiawnhau i mi fy hun. Roeddwn yn 32 oed a’r unig uchelgais oedd ar ôl gennyf oedd uchelgais annelwig i ‘ysgrifennu’ (yn null Orwell efallai?). I Gymru yr oeddwn am fynd oherwydd rhyw angen greddfol i drosglwyddo’r iaith Gymraeg i’n plant. Cynigiais yn aflwyddiannus am un swydd yno ac wedyn penderfynu gadael fy swydd gyflogedig beth bynnag. Roeddwn yn dilyn llwybr nid anghyffredin yn y cyfnod, sef llwybr y drop-out, ac roedd modd imi gael gwaith llawrydd digonol oherwydd cysylltiadau yn y wasg Lundeinig. Sefydlu cylchgrawn oedd y peth olaf ar fy meddwl. Llwyddais wedyn i gael ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i ysgrifennu nofel, a bu’n fwriad gennyf hefyd lunio cyfrol am Joseph Conrad. Dechreuodd fy Nghymraeg wella wrth imi ymuno yng ngweithgareddau cymdeithas Llwynpiod a mynd ati i ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yr 20g. 

Pan oeddech dramor – yn blentyn yn yr Almaen a’r Swistir ac yn oedolyn yn darlithio ym mhrifysgolion Salamanca a Mosgo – tebyg eich bod yn cael cyfle i weld yr ymwneud rhwng gwleidyddiaeth a chymdeithas gyda mantais y dieithryn sy’n eistedd wrth fwrdd bwyd teuluol? 

Rwy’n hoffi’ch delwedd o’r dieithryn wrth y bwrdd teuluol. Mae’r dieithryn yn gweld, neu’n meddwl ei fod yn gweld, y teulu cenedlaethol cyfan o’i gwmpas ynghyd â’i dyndra mewnol, ond mae’n aros ar gyrion y ddrama. Dim rhyfedd fy mod wedi ymddiddori yn Orwell a Conrad – dau ddieithryn o fathau gwahanol. Mae bod yn newyddiadurwr yn yr un modd yn gosod pellter rhyngoch ac actorion y ddrama. Mae disgwyl i chi fod yn ddiduedd. Ond nid yw’n dilyn eich bod yn ddideimlad.  

Wedi cyrraedd Cymru, a wnaeth eich ymwybyddiaeth wleidyddol esblygu mewn ffordd annisgwyl? 

Cyrhaeddom Geredigion yn gynnar yn 1969. Dyma flwyddyn achos llys yr FWA, protestiadau’r Arwisgo, ffrwydradau MAC a’r marwolaethau cyntaf yn enw Cymru yn Abergele. Roedd hofrenyddion yn hedfan uwchben gorymdaith Cilmeri a sôn am ysbïwyr ac agents provocateurs yn nhafarndai Aberystwyth. Bu cyrch yr heddlu ym mhencadlys Cyngor Celfyddydau Cymru o bobman ac roedd paent gwyrdd Cymdeithas yr Iaith yn weladwy ar arwyddion ffyrdd drwy Gymru. Roedd gen i gerdyn newyddiadurwr oedd yn caniatáu mynediad i oriel y wasg mewn achosion llys digon gwleidyddol eu naws, ac yn fuan penderfynais na allwn aros ar gyrion y frwydr. Ond pa gyfraniad oeddwn i’n gymwys i’w wneud? Yn lle’r nofel arfaethedig ysgrifennais gyfrol oedd yn ymgais i esbonio’r diwylliant a’r mudiadau Cymraeg wrth gynulleidfa adain chwith yn Lloegr ac ennyn eu cydymdeimlad. Roeddwn yn dal yn ddigon o ddieithryn i feddwl fy mod yn gweld y sefyllfa’n glir ac yn gyfan. Er na chyhoeddwyd The Welsh Extremist tan ganol 1971, roedd y gwaith ysgrifennu’n digwydd yn ystod haf 1970 wrth baratoi at lansio Planet yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo. 

O fewn Cymru roedd y wasg Saesneg yr adeg honno’n dangos dirmyg tuag at y diwylliant Cymraeg a hynny’n cael ei fewnoli fel hunan-ddirmyg gan lawer o Gymry Cymraeg. Labelwyd yr ymgyrchwyr dros yr iaith yn eithafwyr a’u cau allan o’r drafodaeth gyhoeddus yn Saesneg. Canlyniad hyn oedd gosod y boblogaeth Gymraeg a di-Gymraeg yn erbyn ei gilydd, rhywbeth yr oeddwn yn ei weld yn anfaddeuol. Cau’r bwlch a chreu man cyfarfod i leisiau amrywiol oedd y nod pan gododd y syniad o sefydlu cylchgrawn. Roedd gen i’r profiad newyddiadurol a’r sgiliau ymarferol oedd eu hangen yn oes y metel poeth. Roedd llawer gennyf i’w ddysgu am Gymru ac yn arbennig am y Gymru ddi-Gymraeg, a digon o hyder i beidio â phoeni am y diffygion hynny. Ond yr oedd angen arian a chyfle.

Sut ddaeth y cyfle?

Mantais yr olwg o hirbell yw fy mod heddiw yn ymwybodol o gyd-destun nad oedd yn amlwg imi ar y pryd. Yn 1967 derbyniodd Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr ei ail Siartr Frenhinol, digwyddiad sy’n haeddu sylw haneswyr y dyfodol gan iddo esgor ar lawer o ddatblygiadau pellgyrhaeddol. Roedd y siartr newydd yn neilltuo mesur helaeth o annibyniaeth i’w bwyllgor Cymreig. Mabwysiadodd y pwyllgor yr enw Cyngor Celfyddydau Cymru ac apwyntio ei gyfarwyddwr cyntaf, Aneurin Thomas. Dyna’r swydd yr oeddwn wedi ceisio’n aflwyddiannus amdani, a chael cyfweliad. Dyna’r corff fodlonodd roi ysgoloriaeth imi ysgrifennu nofel a dyna’r corff fyddai’n noddi Planet. Yn naturiol yr oedd y corff newydd am wneud ei farc ac yn chwilio am syniadau newydd. Dywedir yn aml fod newid diwylliannol yn rhagflaenu newid gwleidyddol a dyma enghraifft Gymreig o hynny’n digwydd.

Y cadeirydd cyntaf oedd yr Athro Gwyn Jones, ysgolhaig enwog oedd hefyd yn awdur nofelau a straeon byrion am ei gynefin yng nghymoedd y de. Roedd yn naturiol iddo roi sylw arbennig i lenyddiaeth, a gweld angen datblygu ochr Saesneg y gwaith, gan fod y Gymraeg eisoes yn derbyn rhywfaint o nawdd cyhoeddus. Apwyntiwyd dyn ifanc o’r enw Meic Stephens yn Swyddog Llenyddiaeth, yntau o’r Cymoedd ac yn genedlaetholwr oedd wedi dysgu Cymraeg. Roedd yn gredwr mawr ym mhwysigrwydd cyfnodolion ac wedi sefydlu a golygu Poetry Wales cyn symud i’r swydd newydd. Yr oedd Gwyn Jones yntau â phrofiad o gyhoeddi a golygu cylchgrawn llenyddol, sef The Welsh Review a ddaeth i ben yn 1948. Cafodd Wales dan olygyddiaeth Keidrych Rhys ei atgyfodi wedi’r Ail Ryfel Byd, ond yr oedd wedi mynd i’r gwellt erbyn 1960. Dim ond yr Anglo-Welsh Review oedd ar ôl yn Saesneg a hwnnw’n gylchgrawn llenyddol. 

Ychydig iawn o’r hanes uchod oedd yn gyfarwydd i mi pan anfonais gais am grant bychan tuag at gyhoeddi cylchgrawn ‘diwylliannol’ newydd, sef Planet. Roedd y pwyllgor grantiau fwy na thebyg yn ein gweld yn olyniaeth y cylchgronau a ddiflannodd ac yn llenwi bwlch. Cyrhaeddais i o’r tu allan gyda syniadau’n seiliedig ar fodelau tramor. Wrth ddefnyddio ‘Wales’ a ‘Welsh’ yn eu teitlau yr oedd cylchgronau Saesneg o gyfnod y Welsh Outlook ymlaen i gyd yn hawlio niche penodol o fewn y drefn Brydeinig, neu felly yr oeddwn yn ei gweld hi. Ymgais dros-ben-llestri braidd i osgoi hynny oedd dewis ‘Planet’ yn deitl a datgan mai edrych ar y byd o’r gornel hon y byddem. Yn ddiweddarach ac ar ôl i nifer o erthyglau am astroleg ein cyrraedd yn y post, derbyniwyd bod angen niche penodol wedi’r cwbl ond o fewn cyd-destun eang: felly ychwanegwyd yr is-deitl ‘the Welsh internationalist’.  

Roedd y cais am gefnogaeth i gylchgrawn ‘diwylliannol’ yn amserol. Pan sefydlwyd Barn yn 1962 dim ond awduron eitemau ‘llenyddol’ oedd ar dir i gael eu talu o’r grant arian cyhoeddus. Ond beth os oedd Dr Kate Roberts yn gwneud sylwadau gwleidyddol wrth drafod cyfrol o farddoniaeth? Fe newidiwyd y polisi a derbyn fod y cwbl o’r cynnwys yn ‘ddiwylliannol’. Fel a ddigwyddodd mewn meysydd eraill, bu datblygiad ar yr ochr Gymraeg yn gynsail i ddatblygiad cyfochrog yn Saesneg. Bu cais Planet yn llwyddiannus ...

Ydw i’n iawn i feddwl fod Planet yn ddadleuol o’r cychwyn ac ar hyd y degawd cyntaf? Siawns na fu angen cyfeillion arnoch yng nghyfnod cythryblus y 70au? 

Mae hynny’n wir iawn. Cawsom ein bygwth ag achosion enllib; gofynnwyd mwy nag unwaith i Gyngor Celfyddydau Cymru dynnu’n grant yn ôl, a hynny gan unigolion dylanwadol; bu cyfarfod arbennig o aelodau seneddol Llafur Cymru i drafod beth i’w wneud â Planet; nes ymlaen, pan lansiwyd ail gyfres Planet ym 1985, daeth y Fonesig Edwards, gwraig Ysgrifennydd Torïaidd Cymru, oedd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru i gyfarfod o’r corff (hyd braich?) hwnnw yn dal copi o’r cylchgrawn wrth un gornel ac yn gofyn a oedd yr aelodau mewn difri yn dymuno cefnogi rhecsyn o’r fath. Nid dyma’r lle i restru holl helyntion y cyfnod, nac ychwaith yr holl unigolion a fu’n gefnogol, ond dyma rai ohonynt: o blith aelodau seneddol Llafur bu Tom Ellis, Wrecsam, dyn diwylliedig iawn, yn ddiwyro ei gefnogaeth; yn fwy annisgwyl, yn y rhengoedd Torïaidd, cafwyd cefnogaeth Syr Anthony Meyer, dyn annibynnol ei farn ddaeth yn enwog wedyn am sefyll yn erbyn Mrs Thatcher am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Syr William Crawshay, o hen deulu diwydianwyr Merthyr, ddilynodd Gwyn Jones fel Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn ei amser ef cawsom drafferthion lu yn sgil rhifyn arbennig oedd yn trafod y llysoedd a’r heddlu yng nghyfnod y protestiadau iaith. Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys at Syr William yn cwyno am ddeunydd ‘enllibus’ o’r heddlu yn Planet ac yn gofyn am sicrwydd y byddai’r Cyngor yn atal ein grant. Trwy ddirgel ffyrdd gwelais gopi o ateb Syr William: safon yr ysgrifennu oedd yn bwysig i’r Cyngor wrth noddi cylchgrawn, nid natur y farn a fynegid. Os oedd yr heddlu yn tybio eu bod wedi eu henllibio, ‘You have your remedy in the courts’. Cymdeithas lygredig fyddai cymdeithas heb unigolion o’r fath.

O bellter hanner canrif mae rhywun yn synnu bod y gwleidyddion bryd hynny yn poeni cymaint am gylchgrawn mor gyfyng ei gylchrediad â Planet. Rwy’n credu fod angen deall y wasg a’r cyfryngau fel rhwydwaith. Yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf, ac yn wahanol iawn i heddiw, yr oedd llawer o bapurau dyddiol pwysicaf Llundain â gohebydd  llawn-amser yng Nghymru. Anaml yr oedd neb ohonynt yn medru’r Gymraeg ac eto roedd hi’n amlwg mai yn y byd Cymraeg yr oedd llawer o’r cynnwrf yn digwydd. Roedd y Western Mail a’r Echo yn deall yn iawn mai’r peth doethaf oedd ein hanwybyddu neu ein bychanu (‘Planet which should be called Parish,’ meddai’r Echo) ond yr oedd gohebwyr Llundain yn dibynnu ar Planet i gael ambell stori a dealltwriaeth o’r sefyllfa. Roeddwn i bryd hynny yn dal i ysgrifennu yn y wasg Lundeinig. Does neb yn darllen y wasg mwy na newyddiadurwyr eu hunain, a does dim yn cynhyrfu gwleidyddion Cymru mwy na chael sylw yn y wasg Lundeinig.

O ystyried eich mentrau niferus yn y maes cyfathrebu a’ch holl ieithoedd, rydw i’n dychmygu y byddai sicrhau amrywiaeth o leisiau yn y cylchgrawn wedi bod yn bwysig i chi?

Rhifynnau cynnar sy’n dangos gwir fwriad golygydd. Daw pawb at y dasg gyda rhwydwaith personol o gyfranwyr posibl a hyn a hyn o syniadau. Nes ymlaen mae’r amseroedd, yr hinsawdd wleidyddol a ffasiynau’r dydd yn dylanwadu fwyfwy; felly hefyd y math o gyfranwyr sy’n curo ar y drws neu’n fodlon cael eu hudo. Gallech feddwl o ddarllen y paragraff blaenorol mai bwriad Planet o’r cychwyn oedd corddi’r dyfroedd. Ond nid dyna’r argraff gewch chi o graffu ar y rhifyn cyntaf oedd am gynnig rhywbeth i bawb: Verdi a’r opera genedlaethol; helyntion y Dwyrain Canol; y communes hipïaidd yng Nghymru; adolygiadau amrywiol iawn, stori fer am rygbi, erthygl am foduro hyd yn oed. Roeddwn wedi gwahodd erthygl gan Dafydd Iwan ar y pwnc ‘What I understand by Conservation’ ac i gadw cydbwysedd wedi estyn yr un gwahoddiad i’r Prins (Carlo). Petai wedi cytuno ac wedi mynychu’r Eisteddfod yn Llandeilo, efallai na fyddai Dafydd ac yntau wedi gorfod aros hanner canrif i ysgwyd llaw! 

Amhosibl oedd peidio â rhoi sylw i etholiad cyffredinol Mehefin 1970 a ninnau’n lansio ar ddechrau mis Awst. Yn gwbl annisgwyl cipiodd y Blaid Dorïaidd yr awenau yn Llundain, a chollodd George Thomas ei swydd yn Ysgrifennydd Cymru. Doeddwn i ddim yn gweld gwleidyddiaeth bob dydd yn faes i Planet – cylchgrawn deufisol. Golwg ddadansoddol ac ôl-syllol ar gyfnod cythryblus George Thomas yn y Swyddfa Gymreig oedd pwnc fy llith olygyddol, a dyna oedd yn caniatáu gosod llun cartwnaidd ohono ar y clawr. Roeddwn yn ysgrifennu yn y dull yr oeddwn wedi ei arfer ym mhapurau’r Times, neu’n fwy estynedig yn New Society neu’r London Magazine. I’r graddau bod y rhifyn cyntaf wedi cael sylw o gwbl yn Lloegr roedd yn sylw ffafriol, ac roedd y Guardian yn hoffi’r cartŵn o George Thomas. Wedi’r cwbl, roedd y Blaid Lafur yn gorfod holi ei hunan am ganlyniad trychinebus, roedd fy meirniadaeth yn dod o gyfeiriad y chwith, a doedd George Thomas ddim yn ffefryn gan bawb yn y Blaid Lafur. Gwahanol oedd yr ymateb yng Nghymru. Roedd y Blaid Lafur yn gandryll. ‘Arrogant’ oedd gair George Thomas amdanaf am feiddio beirniadu ei deyrnasiad ac fe osododd Planet yn syth yng ngwersyll y cenedlaetholwyr. Doedd yr un tir canol ddim yn bodoli yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ceisiais unwaith ddosbarthu copïau o Planet am ddim wrth i aelodau cyffredin y Blaid Lafur adael eu cynhadledd flynyddol a chael ambell un yn esgus poeri ar y cylchgrawn. 

Canlyniad anffodus cael ein diffinio fel hyn o’r dechrau oedd bod nifer o bobl fyddai wedi cyfoethogi’r drafodaeth yn cadw draw o dudalennau Planet. Bu’n rhaid imi aros tan ddyddiau Arcade ar ddechrau’r wythdegau i ddadlau gyda’r hanesydd Dai Smith o fewn yr un cloriau. I’r graddau ein bod gydag amser yn denu cyfranwyr a darllenwyr o’r un anian roeddem yn pregethu fwyfwy i’r cadwedig. Pan gewch chi’r un math o begynu yn y wasg ddyddiol a’r cyfryngau torfol (heb sôn am effaith y cyfryngau cymdeithasol), mae’r gofod cyhoeddus yn crebachu a phawb ddim ond yn clywed y lleisiau sy’n ategu eu safbwynt nhw eu hunain.

Pan fydd fy llygaid yn taro eto ar un arall o’ch creadigaethau yn fy mhentwr llyfrau, Rhif 1/1986 o Coleg Cymraeg, rydw i’n teimlo siom ddwys mai hwnnw oedd y rhifyn olaf hefyd. Mae darllen y cynnwys yn gwneud i mi deimlo, hyd yn oed heddiw, 35 mlynedd yn ddiweddarach, fod ffenest wedi ei hagor mewn stafell glòs. Beth oedd eich gobeithion gyda’r Coleg Cymraeg? Rhyw fath o chwaer-gylchgrawn trwy gyfrwng y Gymraeg i Planet?

O ran diwyg roedd yn efelychu Planet. Ei bwrpas oedd cyflwyno a chyfieithu i’r Gymraeg syniadau a phrofiadau o’r tu allan i’r diwylliant Saesneg. Methais ddod o hyd i adnoddau i’w gynnal ac efallai nad oedd cynulleidfa ddigonol ar gael bryd hynny ychwaith. Os am fod yn garedig iawn gallech ddweud bod y syniad o flaen ei amser. Mae O’r Pedwar Gwynt wedi gwireddu llawer o’r uchelgais honno ac mae ‘Coleg Cymraeg’ heddiw yn fwy na syniad. [Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands]

Mae gohebiaeth a phapurau o gyfnod cynnar y cylchgrawn wedi eu cadw a’u catalogio yn archif Planet yn y Llyfrgell Genedlaethol. 

Gellir tanysgrifio i Planet yn y fan hon. Darllenwch am hanes y cylchgrawn a'r dathliadau pen-blwydd yn y fan hon.

Cawsom ein bygwth ag achosion enllib; gofynnwyd mwy nag unwaith i Gyngor Celfyddydau Cymru dynnu’n grant yn ôl, a hynny gan unigolion dylanwadol

Pynciau:

#Ned Thomas
#Planet
#Cyhoeddi
#Rhifyn 14