Dadansoddi

Boddi pentrefi ar ffilm

Byd uwchlaw’r dŵr, byd dan y dŵr

Prosiect mapio Cofiwch Dryweryn

trwy Google Maps, 2023,

Russell Stephens

Emlyn Williams: The Making of a Dramatist

Seren, 246tt, ail-law, 2001

Glenn A Albrecht

Earth Emotions: New Words for a New World

Cornell University Press, 256tt, $19.95, 2019

Erik Swyngedouw

Liquid Power: Contested Hydro-Modernities in Twentieth-Century Spain

MIT Press, 320tt, $40, 2015

Valentin Rasputin; cyf. Antonina W Bouis

Farewell to Matyora

Northwestern University Press, 227tt, ail-law, 1991

Elem Climof

Proshchanie (Ffarwél)

123 munud, 1983

Emlyn Williams

The Last Days of Dolwyn

95 munud, 1949

World Commission on Dams

Dams and Development: A New Framework for Decision-Making (The Report of the World Commission on Dams)

Earthscan (Routledge), 404tt, 2000

Mererid Puw Davies

Amser darllen: 20 munud

01·11·2024

Y dyfroedd yn codi dros Hasankeyf, 2020 (Llun: Emin Ozmen/Magnum Photos)

 

Nid dim ond coch a gwyn cyfarwydd y muriau sy’n galw arnom ni heddiw, o Lanrhystud i Chicago. Mi welais i sticer, dro yn ôl, ar bostyn lamp ar bwys marchnad brysur Camden Town, yn sôn am Dryweryn. Erbyn heddiw, felly, mae’r neges wedi mynd ar led ar draws aml i gyfrwng. Dacw hi ar faneri, ar bosteri, yn mynd ar wib ar gistiau ceir. Erbyn heddiw, hefyd, mae’r ‘mene, mene, tecel’ modern yma yn gwefrio ar y gwifrau, yn amlhau ar ein sgriniau y tu draw i bob daearyddiaeth gonfensiynol.

Er bod trigain mlynedd, bron iawn, wedi llifo heibio ers boddi Cwm Tryweryn yn 1965, nid rhywbeth o’r oes o’r blaen mohono. Mae’n bur debyg hefyd fod nifer o’r bobl sydd wedi cerdded heibio i’r sticer hwnnw yn Camden Town â’u hatgofion eu hunain am ddyffrynnoedd eraill a gollwyd, er mwyn cronni mwy a mwy o ddŵr. 

Mae codi argaeau at y pwrpas yma yn waith cyfoes dros ben, ac yn fyd-eang. Nododd y Comisiwn Byd-Eang ar Argaeau (World Commission on Dams) yn y flwyddyn 2000 fod rhyw 45,000 o argaeau mawrion wedi eu codi ar draws y byd erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn y 1970au, mae’n debyg bod dwy neu dair argae fawr newydd wedi’u cynllunio yn rhywle bob dydd. Ymysg effeithiau amgylcheddol a gwleidyddol dwys eraill, amcangyfrifodd y comisiwn fod rhwng rhyw 40 ac 80 miliwn o bobl wedi eu disodli yn barhaol o’u cartrefi er mwyn creu argaeau a chronfeydd dŵr erbyn diwedd y mileniwm diwethaf. Bron i chwarter canrif yn ôl oedd hynny, ac ni fu dim llawer o baid yn y cyfamser ar y cynllunio a’r cyfrifo a’r cloddio a’r codi; ar lif y dyfroedd, yn bennaf heddiw yn neheubarth y byd. 

*

Yn y byd yma, efo’i fantolenni astrus rhwng syched a dilyw, ynni hen ac ynni newydd, nid y flaenoriaeth fwyaf yw cael hyd i eiriau all ddisgrifio yn ddigonol effeithiau ac affeithiau y llynnoedd llonydd newydd. 

Mi ddysgais yn ddiweddar am y cysyniad ‘solastalgia’. Bathodd yr athronydd Glenn Albrecht y term yma ar ddechau’r ganrif hon er mwyn disgrifio math penodol o hiraeth am dirlun neu dreflun sydd wedi diflannu am byth o ganlyniad i newidiadau yn yr amgylchedd. 

Yn sicr mae hwn yn air defnyddiol, ac yn un y bydd arnom ei angen o hyn allan. Ond oes yna ymadrodd, eto, sy’n cwmpasu’r ymdeimladau sy’n codi o drio dychmygu tirluniau coll na welodd rhywun erioed â’i lygaid ei hun? Oes yna enw ar y pensyfrdanwch a ddaw wrth weld lluniau o dyrau addoldai neu waliau tai annedd yn codi o wyneb llyn, sy’n eu hadlewyrchu fel drych? Byd uwchlaw’r dŵr, byd dan y dŵr. Mae meddwl am y pentrefi o dan y dŵr fel meddwl am fyd sydd wyneb i waered, tu chwith allan; a hynny’n lluosog, eto ac eto, ar draws y byd. 

Dyblu, adlewyrchu, gweld drychau a rhithoedd yw ffigyrau mwyaf clasurol, mwyaf canonig das Unheimliche, chwedl Sigmund Freud, sef ias y diarth-cyfarwydd sy’n amneidio at ryw ofid, rhyw golled enbyd aneglur. Ond prin bod y syniad hwnnw yn ddigon, ychwaith, i fynegi’r cyfan. Anoddach yw gosod geiriau ar ddŵr nag ar fur. 

Yn yr un modd, dichon nad dehongli llenyddiaeth a ffilm yw’r mwyaf o’r heriau sydd yn codi yn sgil ymlwybro’r peiriannau trymion dros y tir, a gosod muriau ar draws y mynyddoedd. Ond dyma ni yn oes yr Anthroposen, cyfnod lle gall meddwl ar raddfa blanedol, am amser dwfn, fod yn drech na’n dychymyg unigol, bychan, hendraul. Yn y cyd-destun yma efallai nad llwyr ddi-fudd yw ystyried pa straeon a adroddwn am weithredoedd a phrofiadau cymhleth y fath gyfnod, a sut i ddatblygu idiom gymwys i’r gwaith. 

Mae’r daearyddwr Erik Swyngedouw wedi olrhain hynt dŵr Sbaen trwy argaeau a chronfeydd, trwy filltiroedd o bibellau, dros draphontydd a chamlesi, trwy lwybrau dyrys hanes a gwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Yn ei lyfr Liquid Power: Contested Hydro-Modernities in Twentieth-Century Spain, mae’n archwilio ‘how water becomes enrolled in the tumultuous process of modernization and development, and how the qualities and powers of water fuse with social, political, and economic processes in the pursuit of social dreams and fantasies’. Meddai Swyngedouw, ymhellach, am ddŵr yn yr oes fodern: 

It is the stuff of visionaries and dreamers, bankers and builders, engineers and scientists, workers and peasants, states and industries, peoples and natures. Yet, the transformation of nature and society is also impregnated with vitriolic power struggles, entrenched territorial conflicts, overt or hidden processes of empowerment and disempowerment, of glory and defeat, of life and death. Movies often capture this tumultuous process in ways that scholarly writings rarely succeed in doing.

Fel rhyw fath o droedle simsan cychwynnol ym myd gwyrdroëdig y dinasoedd tanddwr, felly, dyma ddilyn yr amnaid yma a chysidro dwy ffilm wahanol iawn am foddi cymunedau gwledig i greu cronfeydd dŵr modern, un am Gymru gynt, un am Undeb Sofietaidd yr ugeinfed ganrif. 

Eleni, mae’r ffilm The Last Days of Dolwyn yn 75 oed, a da fyddai gweld dathliad pen-blwydd iddi; os dim byd arall, yr ysgrif hon. Dyma’r unig ffilm a gyfarwyddodd Emlyn Williams, yr actor, llenor a chyfarwyddwr theatr adnabyddus o sir y Fflint. Nid yw hon yn ffilm enwog iawn heddiw, fel y bu hi yn ei dydd yng Nghymru, pan gafodd hi première Gymreig fawreddog yn y Plaza, Bangor, ac un arall wedyn yng Nghaerdydd. 

Gwnaeth The Last Days of Dolwyn lai o argraff yn Lloegr, mae’n debyg. Wedi ei lansio yn Leicester Square yn Llundain, dim ond am wythnos y bu yn y sinemâu yno, oherwydd diffyg cynulleidfaoedd digonol. Yn ôl Russell Stephens yn ei gyfrol Emlyn Williams: The Making of a Dramatist (2001), petrusgar oedd ymateb rhai adolygwyr hefyd, oedd yn amau ‘Celtic exaggeration’ y ffilm, a’i hymdrechion, yn ôl un ohonynt, i fod yn ‘more Welsh than Wales itself’. Os o gwbl, adwaenir The Last Days of Dolwyn heddiw fel ffilm gyntaf Richard Burton yn actor ifanc. Cofir hefyd, i raddau, berfformiad meistrolgar y Fonesig Edith Evans, oedd dros ei thrigain oed erbyn hynny, a heb ymddangos mewn ffilm ers 1916. 

Ceir yn y ffilm hanes Dolwyn, pentref gwledig ffuglennol yng Nghymru. (Bwriad gwreiddiol Emlyn Williams oedd galw’r pentref yn Glanrafon, ar ôl ei gartref yng Nglannau Dyfrdwy, ond penderfynwyd yn y pen draw y byddai’r enw hwnnw’n rhy anodd i gynulleidfaoedd Lloegr. Lleoliad ffilmio’r pentref oedd Rhyd-y-main yn sir Feirionnydd.) 

Ar ddechrau’r ffilm, yn y flwyddyn 1892, mae cymuned Gymraeg siriol Dolwyn yn llawn pobl a llawn bywyd, rhwng capel a thafarn ac eisteddfod a chymanfa a sioe flodau, potsio a diwynyddu ac yfed yn slei ar y Sul. Ond mae cynllun ar y gweill i foddi’r pentref, er mwyn medru cludo dŵr afon Dyrdi o gronfa ddŵr gyfagos, sy’n bodoli eisoes, i sir Gaerhirfryn. Nid dyma’r unig ffordd bosib o wneud hynny, ond dyma’r ffordd rataf. 

Mae’r Arglwydd Lancashire (Allan Aynesworth), sy’n arwain y gwaith, yn danfon ei was Rob Davies, sef cymeriad Emlyn Williams, i brynu’r tir. Mae hwn yn eiddo gan fwyaf i Ledi Dolwyn weddw (Barbara Couper), sydd yn byw mewn steil mewn plasty, ond mewn dyledion dybryd ar ôl ei gŵr afradlon. Ac felly mae hi’n teimlo bod yn rhaid iddi werthu, er yn anfodlon. 

Mae Rob Davies yn pwyso hefyd ar drigolion cyffredin Dolwyn i roi’r gorau i’w prydlesi ar eu cartrefi, am iawndal, a phob un yn y pen draw yn ildio. Yng ngeiriau eu gweinidog huawdl, dychmygant y boddi, ‘fulfilled by the waters crawling with the feet of a thousand serpents [...] under the doors, into the houses, in at the windows, up the stairs, over the roofs, over the nests of birds in the chimneys, over the chimneys. Dolwyn will be drowned.’ Cartref y pentrefwyr yn y dyfodol fydd ystad dai newydd a gododd Lord Lancashire ym maestrefi Lerpwl, Hagton suburb (nomen est omen), ac yn ei felin gotwm gyfagos y bydd eu gwaith. Mae’r arglwydd absennol felly yn cael ei bump ar denantiaid a gweithlu newydd heb lawer o ddewis ganddynt yn y byd, yn ogystal â dyffryn Dolwyn a dŵr afon Dyrdi. 

Mae rhywun yn deall yn iawn nad newid er gwell fydd hwn: mae Gareth, cymeriad Richard Burton, wedi bod yn Lerpwl yn gweithio, ond yn dianc yn ei ôl i Ddolwyn, mor annioddefol oedd y ddinas. Does yno, meddai fo, ond ‘fog all day, and nothing green, Mam, not a flower except on women’s hats, and them false, and all the people strangers to each other’.

Ond daw tro syfrdanol ar fyd. Mam faeth Gareth yw Merri Capel (Edith Evans), prif gymeriad y ffilm. Hi yw gofalwraig y capel, ac mae’n byw mewn bwthyn hynafol yng nghanol Dolwyn. Mae meddwl am foddi’r pentref a cholli ei chartref yn loes calon iddi, yn rhannol am fod ei mab, fu farw yn faban, wedi ei gladdu yno, dan garreg fedd sydd i’w gweld yn aml yn y ffilm. Mae hi’n hwyr glas ar Merri, felly, yn dechrau pacio ei heiddo ar y noson olaf cyn agor y llifddorau. Ond wrth iddi
wneud hynny, daw hi a Gareth ar draws hen femrwn mewn Saesneg y mae Gareth yn medru ei ddarllen, diolch i’w gyfnod yn Lloegr. Mae’r ddogfen yn datgan bod Merri a’i theulu yn berchen ar eu bwthyn a’u tir hyd dragwyddoldeb, oherwydd i un o’i chyndeidiau ers talwm achub bywyd y tirfeddiannwr, rhagflaenydd i Ledi Dolwyn. 

Dyma ffon braff yn olwyn yr Arglwydd Lancashire, a daw hwnnw ym mhen ei helynt i Ddolwyn yn bersonol i berswadio Merri i fudo. Ond buan y mae’n sylweddoli ei chadernid. Deallwn, hefyd, fod Rob Davies wedi twyllo’r arglwydd gan hawlio nad oedd neb yn byw yn Nolwyn, fel nad oedd wedi cael gwybod o gwbl am ddisodli’r pentref. Ac ar ben hyn, mae Merri yn llwyddo i leddfu poen rhiwmatig difrifol y lord trwy drin ei ysgwydd â dwylo medrus. Mae’r ddau yn dod yn gyfeillion, bron iawn, a phethau ar i fyny: mae’r arglwydd yn dewis yn llawen y modd drutach o gludo’r dŵr i sir Gaerhirfryn, mae Dolwyn yn ddiogel, a phawb yn dathlu. 

Ond mae Rob Davies yn benderfynol o ddinistrio’r pentref. Dyn drwg yw hwn, yn y traddodiad melodramatig: ym munudau cyntaf y ffilm gwelwn ef yn fwriadol yn taro tegan plentyn i’r llawr wrth gyrraedd Dolwyn. Ac eto, er gwaethaf ei ddillad crand a’i Saesneg crandiach, a’i ddirmyg llwyr tuag at y pentref, dadlennir bob yn dipyn mai un o’r brodorion yw yntau. Yn blentyn digartref, tlawd ac amddifad, dygodd arian o’r capel, a chael ei hel o’r pentref dan wawd ac mewn cywilydd. Nid y dirfeddiannwraig o foneddiges, na’r plwtocrat o Sais yw’r drwg yn y caws felly, ond y bachgen lleol, a hefyd, y pentrefwyr na fuont yn drugarog wrtho’n blentyn truenus.

Dial ar Ddolwyn yw gwir nod Rob Davies. Yn wyllt, mae’n ceisio agor llif-ddorau’r argae liw nos er mwyn boddi’r pentref ei hun, ond yn methu; felly mae’n mynd ati i’w losgi. Mae Gareth yn ceisio ei atal, ac yn anfwriadol yn ei ladd wrth i Rob Davies ymosod. Mewn cyfyng-gyngor, er mwyn cuddio gweithred Gareth, mae Merri ei hun yn agor yr argae, ac yn boddi’r pentref yr oedd hi wedi brwydro drosto. Mae’r ffilm yn gorffen wrth i drigolion Dolwyn ffoi dros y bryniau, dan ganu.

Ymddengys The Last Days of Dolwyn yn hen ffasiwn a melodramatig heddiw, a dweud y lleiaf. Roedd ei gor-ramant am Gymru wledig yr oes o’r blaen yn eglur yn 1949 hefyd pan feirniadodd adolygiad Dilys Powell, yng nghrynodeb Russell Stephens, ‘too many harps harping, shepherd-boys singing and girls hopping’. (Y defaid ar y stryd fawr; y bugail ifanc sydd prin yn siarad, dim ond yn canu. Richard Burton yn prancio’n sionc fel oenig ei hun trwy’r caeau a’r coed, ac wrth fynd, yn ymuno mewn deuawd ddifyfyr, berffaith, ‘Y Deryn Pur’, efo’r bugail. Yn darllen, wedyn, salmau yn Gymraeg efo’i fam wrth fwrdd y gegin; telyn sy’n arnofio ar y dŵr cyn suddo, wrth i’r llifogydd ddod i Ddolwyn; pentrefwyr sy’n cofio canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn swynol ddisgybledig mewn sawl llais – hyd yn oed wrth ffoi am eu bywydau.) 

Ond nid yw astudio’r ffilm yn llai buddiol o’r herwydd. Yn un peth, mae’n bennod yn hanes hir delweddu Cymru ar glawr a sgrin, sy’n gofyn am ddadansoddiad gofalus. Er enghraifft, er bod y rhan fwyaf o’r ddeialog yn Saesneg, trawiadol yw’r defnydd helaeth iawn o Gymraeg ynddi hefyd, a hynny heb is-deitlau. (Mae acen Gymraeg y Saesnes Edith Evans yn ddilychwin.) Er mai efallai dim ond creu haen drom, ond sylfaenol ddisylwedd, o local colour oedd y bwriad bryd hynny, ymddengys y dwyieithedd amlwg yma yn feiddgar a diddorol i mi heddiw. 

Mae’n dangos bod gwaith Emlyn Williams, yn y cyfnod hwn yn ei yrfa, wedi troi fwyfwy at themâu Cymreig, a diddorol yw deall amwyseddau’r ffilm fel rhan o’i ddatblygiad creadigol yn y cyswllt yna, fel mae Andrew Webb hefyd wedi sôn. Mae rhywun yn dychmygu Emlyn Williams, yn ymwybodol neu’n anymwybodol, yn ceisio cerdded rhaff dynn, fain rhwng rhamantu am gefn gwlad Cymru a pheidio â phechu cynulleidfaoedd neu gefnogwyr dinasoedd Lloegr, gwta chwe mlynedd cyn cyhoeddi cynlluniau Lerpwl i Gwm Tryweryn. 

Ac wedyn mae’r foment ryfedd honno, sydd wedi fy nghyfareddu drachefn a thrachefn, lle mae Gareth a Margaret (Andrea Lea), nith Ledi Dolwyn, yn cadw oed fin nos yn y coed, yn y tridiau rhwng achub a boddi Dolwyn. Mae rhywun yn synhwyro bod y ddau wedi caru ei gilydd o bell ers amser maith; dim rhyfedd bod Gareth yn canu am y deryn pur sy’n llatai llanc at ei angyles. Mae’r dyddiau annisgwyl a gipiwyd o afael ffawd wedi caniatáu i’r ddau ddod at ei gilydd o’r diwedd, ac mae Margaret, mewn llais bach tawel, pell, yn dychmygu, pe bai Dolwyn wedi ei foddi, ‘by now these trees would have been under water. Shadows. Shadows of hedges. Doors swinging gently on their hinges. But no noise, because it’s water.’ Ac meddai Gareth, yr un mor freuddwydiol, ‘Shadows of people, walking under the water. You and me, looking for each other.’ ‘Don’t,’ meddai hithau. Dyna’r dyblu rhithiol, y cysgodion unheimlich, ar droed unwaith eto. Ac yma, wedi eu dyblu drachefn, yn olion goleuni ar seliwloid.

*

Gyferbyn â ffantasi Emlyn Williams am y gorffennol, sioc newydd-deb oedd fy argraff gyntaf wrth wylio ffilm Rwsieg Elem Climof, Proshchanie (Ffarwèl) (1983).

Mae Proshchanie yn seiliedig ar nofel o’r flwyddyn 1976 gan Falentin Raspwtin, sydd â gwreiddiau, mae’n debyg, ym mhrofiad yr awdur o weld disodli pentrefi ei febyd yn Siberia er mwyn creu cronfeydd dŵr yn y 1960au. Yn wreiddiol, prosiect y gyfarwyddwraig Larisa Shepitco oedd y ffilm. Aeth Elem Climof, ei gŵr, ati i’w gwireddu wedi ei marwolaeth annhymig hi, ynghyd â phedwar cyd-weithiwr arall, mewn damwain car wrth ymchwilio i leoliadau i’w ffilmio yn 1979. Petrusgar ar y gorau oedd ymateb y wladwriaeth Sofietaidd i’r gwaith, oherwydd ei gogwydd eco-feirniadol, a’i darlun o wladwriaeth sy’n difa cymuned yn enw gweledigaeth haniaethol o ddyfodol diwydiannol gwell. Ddwy flynedd wedi ei chwblhau yn 1981 y rhyddhawyd Proshchanie, a hynny ddim ond ar raddfa fechan. Bu’n rhaid i gynulleidfaoedd mewn gwledydd tramor aros am dair blynedd eto, a glasnost, cyn cael ei gweld. 

Mae Proshchanie yn darlunio dyddiau olaf pentref Matyora, ar ynys ar ganol afon fawr neu lyn mewn cefn gwlad dienw. Mae’r trigolion yn medi’r cynhaeaf olaf ac yn dilyn gorchymyn y swyddog Sofietaidd lleol, Fasili Forontsof (Alecsei Petrenco) i wagu eu cartrefi a’u dinistrio, am na ddylai’r un tŷ na choeden fod yn dal i sefyll pan ruthra’r dyfroedd i mewn. Y bwriad yw creu cronfa ddŵr ar gyfer gorsaf bŵer hydro-electrig, a darparu trydan ar gyfer llu o weithfeydd a threfi newydd sbon. Bydd y pentrefwyr yn mynd i fyw i fflatiau modern sierfyll yr olwg ar y tir mawr.  

Ffocws yr hanes yw ymatebion cymeriadau’r pentref, yn bennaf yr hen wraig Darya Pinegina (Steffaniya Stanyuta) a’i mab Pafel Pinegin (Lef Dwrof). Mae Darya yn torri ei chalon wrth feddwl am adael Matyora, yn enwedig beddau ei rhieni, a byd natur. Mae’r sefyllfa yn loes i Pafel hefyd, oherwydd fe’i penodwyd gan Fasily Forontsof i gydlynu a gweinyddu clirio’r pentref, yn groes i’w ewyllys. Mae’r ber-thynas fu gynt yn un glòs rhwng y fam a’r mab yn rhwygo. 

Mae teuluoedd yn ymadael bob yn un, yn gorfod llosgi eu tai pren wrth fynd, mewn golygfeydd dramatig ac erchyll. Daw cychod i nôl y plant, ac wedyn y da byw. Ac mae’r rheiny sy’n aros ym Matyora tan y diwedd un yn dechrau colli arnynt eu hunain. Mae’r meddwyn Pyotr Zotof (Leonid Cryuc), er enghraifft, yn llosgi ei dŷ yn ulw, er bod amgueddfa wedi cynnig swm hael iddo amdano, ac am ei gludo i ddiogelwch. Mae nifer o drigolion eraill, hefyd, fel petaent yn dechrau drysu. 

Mae Darya, pum gwraig arall, bachgen bach sy’n fudan, ac un hen ŵr yn anwybyddu pob gorchymyn i ymadael erbyn y dyddiad penodedig, ac yn gwrthod mynd i’r bad a anfonwyd i’w cludo ar y funud olaf. Yng ngolygfeydd olaf Proshchanie, mae Fasili Forontsof, Pafel Pinegin a Pyotr Zotof yn mynd ar gwch i Matyora yn y bore bach i chwilio am y gwrthsafwyr, ond yn y niwl a lled-olau’r wawr yn methu â chael hyd i’r ynys o gwbl, er mor gyfarwydd yw hi. Dechreuant eu hamau eu hunain: a foddwyd yr ynys eisoes? Ydi hi wedi diflannu? Mae Fasili Forontsof yn cynnau ffagl, yn gweiddi’n wyllt. Ac yn fframiau olaf, hunllefus y ffilm, mae’r dynion ar y cwch yn gweld tân eirias trwy’r tarth – tŷ olaf Matyora yn llosgi? Beth ddaeth o Darya, y plentyn, yr henwr, y merched? Arhoson nhw yn yr oddaith? Mae’r ffilm yn gorffen. 

Nid yw’r hanes yn datblygu’n gonfensiynol yn Proshchanie. Nid hawdd gen i oedd dilyn datblygiad y stori ar yr olwg gyntaf; mae’n mynnu ein bod yn meddwl yn streifus, yn llafurio i ddeall. Dim ond y trydydd neu’r pedwerydd tro y gwyliais i Proshchanie y teimlwn fy mod yn dechrau deall yr hyn roeddwn yn ei weld a’i glywed, y darluniau annirnad. Yn hytrach, i mi, o leiaf, mae’r ffilm yn debyg i gyfres o vignettes enigmatig, a’r cyfan yn teimlo fel rhyw freuddwyd dan wres. Erys yn y cof ddarluniau llonydd, araf, estynedig o wrthrychau neu olygfeydd anhydrin ac annisgwyl, anodd eu dehongli, y daw eu harwyddocâd yn eglur dim ond bob yn dipyn. 

Er enghraifft, yn y munudau cyntaf, cyn bod rhywun yn deall dim, gwelir o bell griw o ffigyrau annelwig yn teithio mewn cwch bach trwy niwl. Mae pob un yn gwisgo mantell ryfedd â chwfl pigfain uchel, a’r cyfan yn edrych fel rhyw baentiad symbolaidd neu fytholegol, neu ffilm gan Samuel Beckett. Dim ond yn llawer nes ymlaen y deallais i, o leiaf, mai grŵp o weithwyr a ddanfonwyd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddymchwel Matyora yw’r rhain mewn gwirionoedd, mewn cotiau glaw cyffredin. 

(Rai dyddiau ar ôl imi lunio’r paragraff yma, darllenais yn rhagair Kathleen Parthé i gyfieithiad Saesneg Antonina W Bouis o nofel Falentin Raspwtin y gellir dehongli’r olygfa hon mewn ffordd amgen hefyd. Mae’n nodi bod pump o ffigyrau yn y cwch, ond dim ond pedwar ohonynt sy’n ailymddangos yn nes ymlaen fel gweithwyr ar yr ynys. Mae’r pumed fel pe bai wedi diflannu. Yn ôl Parthé, dyma deyrnged Elem Climof i Larisa Sheptico a’r pedwar arall a gollwyd gyda hi cyn creu’r ffilm. Wrth wylio a gwylio eto, daw haen ar ôl haen o’r stori i’r golwg.)

Mae Proshchanie yn ffilm anodd, felly, yn fy nhyb i. Mae’n galw am gryn waith syllu a gweld ar ran ei chynulleidfa. Credaf mai dyma pam fod y fath bwyslais cynyddol ar y weithred o wylio yn y ffilm ei hun. Fel math o Leitmotif, mewn aml i olygfa, mae un cymeriad neu grŵp o gymeriadau yn sefyll yn stond ac yn gwylio beth bynnag sydd yn digwydd, yn hollol lonydd.

Wrth reswm, mae gwahaniaethau amlwg di-rif rhwng The Last Days of Dolwyn a Proshchanie. Ymysg pethau eraill, mae’r rhain yn dibynnu ar y sawl sy’n gwylio. Mae byd Proshchanie yn ymddangos yn fwy dieithr i mi, fel rhywun nad yw’n gyfarwydd iawn â llên a sinema’r Undeb Sofietaidd na hanes diwylliannol – na diwydiannol – Rwsia. Pwy a ŵyr, efallai bod The Last Days of Dolwyn, hefyd, yn ymddangos yn fwy estron i gynulleidfaoedd nad ydynt yn dilyn y ddeialog Gymraeg, yn adnabod y pwyslais ar gapel ac eisteddfod, y deryn pur ar adain las? 

Du a gwyn yw The Last Days of Dolwyn, ac mae Proshchanie fel pe bai’n symud yn gynnil rhwng lliw a du a gwyn; y naill yn rhamantu am Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r llall yn finiog am Undeb Sofietaidd gyfoes chwedegau neu saithdegau yr ugeinfed ganrif. Mwy anystywallt, mwy gwyllt, llai ufudd o’r hanner yw gwerin Matyora na thrigolion mwy sidêt (os nid llwyr sidêt) Dolwyn. Tai carreg lwyd Dolwyn; tai pren hardd Matyora, sydd yn tanio gymaint yn haws. 

Yn ei ffurf hefyd mae Proshchanie yn gwrthgyferbynnu â The Last Days of Dolwyn. Mewn un ffordd, mae disgrifiad Elem Climof o ddyddiau olaf pentref a pharatoadau’r boblogaeth i adael eu tai yn llawer mwy manwl a realistig nag un Emlyn Williams. Ac eto, mae arddull storïol a gweledol Elem Climof yn llithro rhwng realaeth ar y naill llaw, a dulliau mwy arbrofol, avant-gardaidd ar y llall. Melodrama gonfensiynol, rhwydd ei dilyn yw The Last Days of Dolwyn, ac mae hefyd yn gomedi o fath. Drama drychinebus yw Proshchanie, er bod ynddi hefyd sawl moment o ddigrifwch absẃrd. Ac mae diwedd Proshchanie mor agored ac annelwig ag y mae diweddglo The Last Days of Dolwyn, yn gyson â gofynion y felodrama, yn eglur a chaeedig. 

Ac mae gweld hyn oll yn werthfawr. Mae’r sgrin – yn loyw a chyfnewidiol fel wyneb llyn – yn dangos mor eang yw’r dyfrlun trawswladol pan fyddwn yn meddwl am greu argaeau a’u hamryfal gostau. Ni all cymharu’n slic ac anwybyddu’r gwahaniaethau 

sylfaenol rhwng y naill achos a’r llall fod yn nod. Ac eto, wrth wylio’r ddwy ffilm yma, fe’m syfrdanwyd gan yr hyn sy’n gyffredin iddynt, ar ben y pwnc o foddi pentref i greu cronfa ddŵr, a’r gwrthdaro sy’n codi wrth foderneiddio cymdeithas, wrth i ofynion diwydiant a threfoli fygwth a difa bywyd gwledig traddodiadol. 

Ym munudau agoriadol y ddwy ffilm, mae lluniau o arwyneb dŵr yn llifo. Thema gyffredin hefyd yw colli beddau anwyliaid, a thorri cadwyn y cenedlaethau o ganlyniad. Yn y ddwy ffilm, mae llanciau nad ydynt yn siarad, neu prin yn gwneud hynny. Ac mae gwragedd yn yfed te yn ddefodol, yn wyneb trychineb. Tebot yma, samofar acw, yn galon y cartref. Mae cartrefi’r ddwy arwres, Merri a Darya, yn debyg i’w gilydd hefyd am eu bod yn llawn o luniau hynafiaid annwyl. Mae’r ddwy yn gwagu tŷ mewn cwmwl tystion.

Dyma ddwy wraig mewn oed sy’n ymgorffori hen ffordd o fyw ac yn herio eu gelynion. Dwy fam yn datgan nad oes posib iddynt fyw y tu allan i gymuned a chynefin, a bod y ddeubeth yn un. 

Arbennig o ddiddorol yn fy marn i hefyd yw naratifau teuluol mamlinachol y ffilmiau. Mae’r mamau yn symbolau parhad, cof y teulu trwy’r oesau, a dynion iau, Rob Davies a Pafel Pinegin, yw eu gwrthwynebwyr. Yn The Last Days of Dolwyn, er enghraifft, mae sail gelyniaeth Rob Davies tuag at y pentref, Merri a Gareth yn ei blentyndod amddifad, lle na chafodd ofal mam a chymuned. Ar ryw lefel, mae’n rhaid ei fod yn ferw o gynddaredd tuag at Merri am nad oedd ganddo fam ei hun, ac o eiddigedd tuag at Gareth, a fabwysiadwyd gan Merri. Gwahanol yw gwewyr Pafel Pinegin yn Proshchanie, sy’n dioddef am fod ei fam yn dioddef ac yn troi pobl yn erbyn ei orchwyl o glirio’r pentref. Ond yn y ddau achos, ar lefel symbolaidd, gwrthdaro rhwng mam a mab sydd wrth galon chwalfa’r pentref. Mae yma stori bwysig am famolaeth, y ffiliol a moderniaeth sydd yn hawlio ein sylw pellach. 

Llosgi pentrefi ar fin eu boddi. Diweddglo catastroffig mewn gwyll llawn dŵr a thân. Dyma ddyblu, adlewyrchu eto, rhwng dau fyd, yn anghyson, symudol, fel y lluniau ar wyneb llyn, cysgodion ar sgrin ddisglair. Pa eirfa sydd iddynt? 

*

Felly dyma edrych yn ôl, ar Dryweryn, ar Lanwddyn, Riano, Narmada, Hasankeyf, Altamira, Vitória do Xingu. Curon Venosta / La Carun / Graun im Vinschgau; Ada Kaleh. Er mwyn cofio, yn sicr. Ceisio deall yn well yr hyn a fu, yn ddi-os. Deall yr hyn sydd, hefyd, ar draws y byd sydd ohoni. 

Ac er mwyn edrych, pa mor niwlog bynnag, o’n blaenau? Fel Fasily Forontsof, yn colli ei bwyll efo’i ffagl ar y dŵr tywyll, yn y gwyll a’r mwg. At fyd dradwy, lle bydd dyfroedd yn arllwys dros drothwyau, trwy ffenestri, i fyny grisiau. Yn corddi o ryw rymoedd cantroed? Pa ddrychiolaethau araf fydd yn cerdded trwyddynt, heb sŵn? Tybed?

Mae meddwl am y pentrefi o dan y dŵr fel meddwl am fyd sydd wyneb i waered, tu chwith allan; a hynny’n lluosog, eto ac eto, ar draws y byd

Pynciau:

#Rhifyn 25
#Mererid Puw Davies
#Ffilm
#Dŵr
#Rwsia
#Emlyn Williams