Dadansoddi

Cymraeg 2050 a’r Bil Addysg Gymraeg

Ioan Talfryn
04·07·2024

Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddwn mewn cynhadledd addysg ryngwladol a chefais fy hun yn eistedd yn ymyl dynes hŷn Sbaeneg ei hiaith. O sylweddoli hynny (a finnau’n berson cyfeillgar, cymdeithasol oedd eisiau manteisio ar y cyfle i ymarfer ei Sbaeneg) dechreuais sgwrsio gyda hi yn ei hiaith. Ar ôl tipyn o drafod cynnwys y gynhadledd troesom at faterion mwy personol a sylweddolais ei bod yn hanu o Wlad y Basg. Roedd hyn yn newyddion diddorol i mi oherwydd fy niddordeb mewn ieithoedd lleiafrifol a dyma fi’n gofyn iddi a oedd hi’n siarad Basgeg. Roedd ei hymateb yn chwyrn ac yn ddirmygus iawn. ‘Nac’dw,’ meddai, ‘dim ond plant a phobl ifainc sy’n siarad yr iaith yna.’ Efallai fod ei hymateb yn negyddol ond byddwn i, o leiaf, yn ddigon hapus petai hen berson yng Nghymru yn cwyno wrthyf mai dim ond plant a phobl ifainc sy’n siarad yr iaith Gymraeg. Byddai hynny yn awgrymu ein bod ni ar y trywydd iawn, o leiaf.

Cyn gwyliau’r haf bydd y Senedd yma yng Nghymru yn mynd ati i drafod Bil Addysg Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Dyma’r ddeddfwriaeth sydd i fod i’n rhoi ni ‘ar y trywydd iawn’ er mwyn cyrraedd y targed a osododd Llywodraeth Cymru iddi hi ei hun, sef sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (tua dwbl yr hyn ydyw ar hyn o bryd). Ond pa mor debygol yw hi y bydd y cynlluniau a nodir yn y Bil yn sicrhau hynny?  

Gwyddom fod cynlluniau cyhoeddus bron yn ddieithriad yn methu eu targedau o ran amserlen, cost a deilliannau. Yn ei lyfr Thinking Fast and Slow (2011) mae’r diweddar Daniel Kahneman (ar ôl trafod methiant un o’i brosiectau ei hun ar gyfer Byddin Israel) yn rhestru nifer o gynlluniau cyhoeddus methiannus, gan gynnwys cynllun creu Senedd-dy Holyrood yng Nghaeredin a gwblhawyd dros bedair blynedd yn hwyr ar gost o £414 miliwn yn hytrach na’r amcangyfrif gwreiddiol o rhwng £10 miliwn a £40 miliwn. Gallai, wrth gwrs, fod wedi cyfeirio at gynllun codi adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, a gostiodd 580% yn fwy na’r targed gwariant gwreiddiol ac a gwblhawyd bedair blynedd a deng mis yn hwyrach na’r disgwyl. 

Ar y we ceir rhestri dirifedi o gynlluniau cyhoeddus a fethodd eu targedau yn affwysol neu a gafodd eu diddymu, hyd yn oed, gan neu bod nhw’n amlwg yn methu (megis HS2 yn ddiweddar). Mae hyn yn wir am bob math o gynlluniau cyhoeddus, boed nhw’n gynlluniau strwythurol anferth, cynlluniau addysg, iechyd cyhoeddus neu ymyrraeth gymdeithasegol.  Mae’r un peth yn wir am gynlluniau masnachol preifat (meddylier am y camgynllunio a achosodd gwymp cwmnïau masnachol mawr fel ToysRUs, Blockbuster, Blackberry, a Borders, heb sôn am y camweithredu a achosodd Gwymp Ariannol 2008). Mae’n ffaith hefyd fod tua hanner busnesau newydd yn methu o fewn pum mlynedd oherwydd cyfuniad o oroptimistiaeth, diffyg cynllunio ac anhyblygrwydd. Gwelir yr un ffactorau diffygiol yng ngweithredoedd y rheiny sy’n cychwyn rhyfeloedd. O edrych ar hanes y cynllunio (a’r cynllwynio) a wnaethpwyd ar gyfer sawl rhyfel yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain gallwn weld fod y rhai a ddechreuodd y rhyfeloedd hyn wedi bod yn rhyfygus o optimistaidd ynglŷn â hyd tebygol y rhyfel a’r gost mewn termau economaidd a dynol. Roedd elfen gref o hunan-dwyll yn y cynllunio o’r cychwyn ond unwaith yr oedd yr ymosodwyr (UDA, Ffrainc, Prydain, y Cynghreiriaid, Rwsia) wedi cael eu hunain i gors filwrol roedd hi’n anodd rhoi’r gorau i’r cynllun a chydnabod methiant. Fel arfer byddai’r ymosodwyr yn dal ati yn rhy hir (sunk cost fallacy) ond yna yn rhoi’r gorau iddi yn sydyn ac yn anhrefnus iawn (meddylier am ddiwedd rhyfeloedd Fietnam ac Affganistan). Roedd y rhyfeloedd hyn yn tueddu hefyd i ansefydlogi’r gwledydd hynny oedd yn ffinio â’r wlad a oedd yn dioddef y goresgyniad arfaethedig. Roedd y goresgynwyr yn gyffredinol wedi dewis peidio – neu wedi methu – â rhoi sylw digonol i’r problemau amlwg a allai godi o’r weithred, heb sôn am broblemau annisgwyl (‘known knowns, known unknowns and unknown unknowns’, chwedl Donald Rumsfeld).  

Mae Daniel Kahneman yn rhoi nifer o resymau am y methiannau cyson, cyffredin hyn a welir mewn cynlluniau cyhoeddus, cynlluniau masnachol a chynlluniau milwrol fel ei gilydd, ond yn y bôn, yr hyn sydd yn gyfrifol amdanynt yw rhagdybiaethau a rhagfarnau a biasau gwybyddol anymwybodol sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i unigolion a grwpiau gynllunio’n ddeallus ac yn llwyddiannus. A’r mwyaf o’r rhai hyn yw goroptimistiaeth a’r amharodrwydd i gydnabod y posibilrwydd o fethiant.

Heb hyd yn oed edrych ar lo mân y Bil Addysg Gymraeg, felly, gellir bod yn eithaf sicr y bydd y Bil hwn, fel pob Bil arall a gyflwynwyd gan lywodraethau ar draws y byd, yn debygol o fethu’r prif dargedau a geir ynddo o fewn yr amserlen a bennwyd i’w cyflawni. Dyna a ddigwyddodd gyda phob targed a gafwyd yn y gorffennol i ehangu addysg Gymraeg a does dim rheswm i gredu y bydd y Bil newydd yn wahanol yn hynny o beth.  

Ond beth petaem yn anwybyddu dadleuon Daniel Kahneman am y tro a dychmygu ein bod yn byw mewn byd delfrydol, syml heb unrhyw unknown unknowns a biasau gwybyddol anymwybodol i’n baglu? Mewn byd delfrydol, felly, pa mor debygol fyddai’r cynlluniau a geir yn y Bil Addysg o arwain at wireddu prif nod y Bil a gwireddu’r bwriad o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Annhebygol iawn, yn anffodus. Mewn papur trafod a gynhyrchwyd gan Dyfodol i’r Iaith mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Addysg Arfaethedig (Ebrill 2023) dadleuir, ar sail y cynlluniau a gyflwynir ynddo, na fydd y Llywodraeth ond yn llwyddo i gyrraedd 620,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Hyd yn oed pe bai twf addysg Gymraeg yn dyblu a chynlluniau eraill yn llwyddo, dadleuir mai 750,000 o siaradwyr Cymraeg yw’r ffigwr mwyaf gobeithiol y gellid disgwyl ei gyrraedd.

Y broblem gyda’r Bil yw nid yn gymaint yr hyn a geir ynddo (ac mae llawer iawn o bethau yn y Bil yn haeddu cael eu croesawu a’u canmol) ond yn hytrach yr hyn sydd ddim yn ymddangos ynddo a’r ffaith nad yw’n mynd yn ddigon pell i sicrhau’r nod y mae’r Llywodraeth wedi’i osod iddi hi ei hun. Mae’r Bil yn datgan fod Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau, erbyn 2050, fod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siaradwr Cymraeg hyderus (hynny yw, wedi cyrraedd o leiaf lefel B2). Er bod y Bil yn nodi mai addysg statudol cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny does dim bwriad yn cael ei fynegi yn y ddogfen i ddeddfu i droi pob ysgol yng Nghymru yn ysgol Gymraeg erbyn rhyw ddyddiad penodol. I’r gwrthwyneb, yr hyn a geir yw strategaeth esblygiadol lle mae disgwyl i ysgolion symud yn raddol o fod yn ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n dysgu’r Gymraeg fel pwnc yn unig (Categori 1) i fod yn ysgolion hybrid ble caiff ambell bwnc arall ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg (Categori 2) ac yn y pen draw, i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg cyflawn (Categori 3). Cydnabyddir y gallai’r amserlen ar gyfer hyn, a pha mor bell y bydd ysgol yn symud ar hyd y continwwm, amrywio o ardal i ardal a’i bod yn ddibynnol ar sawl ffactor. O safbwynt datblygu’r Gymraeg, felly, does dim ymgais yma i osod amserlen dynn gyffredinol ar awdurdodau addysg lleol ac ysgolion, fel sydd wedi digwydd gyda phynciau megis gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, gostwng y terfyn cyflymdra mewn ardaloedd poblog, neu wneud 'rhoi organau' yn ‘gytundeb tybiedig’ oni bai fod unigolyn yn cymryd y camau i hysbysu’r gwasanaeth iechyd fel arall.   

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan fod y categorïau ysgolion newydd a grewyd ganddi yn seiliedig ar gategorïau a ddefnyddir yng Ngwlad y Basg. Efallai fod cyfeirio at yr ysgolion hynny yn weithred annoeth ar ei rhan oherwydd, yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd i gynhadledd Cymdeithas yr Iaith yn Chwefror 2023, gan Paul Bilbao Sarria o Euskalgintzaren Kontseilua yng Ngwlad y Basg (ble mae’r system addysg wedi bod yn allweddol i gynyddu nifer y siaradwyr Basg), gellir dosrannu canran y siaradwyr rhugl a gynhyrchir gan y tair system addysg yn y wlad (Cyfrwng Basgeg, Dwyieithog Hanner a Hanner Basgeg/Sbaeneg, a Sbaeneg gyda’r Fasgeg fel pwnc) fel a ganlyn:

Canran yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Fasgeg

Ysgolion Cyfrwng Basgeg        66%
Ysgolion Dwyieithog                33%
Ysgolion Cyfrwng Sbaeneg     0%

(Nid yw’r ffigwr o 0% ar gyfer ysgolion cyfrwng Sbaeneg o angenrheidrwydd yn golygu nad oes yr un disgybl yn llwyddo i ddod yn rhugl yn yr iaith yn yr ysgolion cyfrwng Sbaeneg, dim ond bod y nifer yn rhy fychan i gael ei ystyried yn ganran)  

Oherwydd y sylweddoliad gan rieni mai’r opsiwn Cyfrwng Basgeg yw’r opsiwn gorau o ran meistroli’r iaith, mae dros 90% o blant Gwlad y Basg bellach yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith. 

Mae’r ystadegau ynglŷn â deilliannau addysgol y gwahanol gategorïau o ysgolion yng Ngwlad y Basg yn cyd-fynd â’r dystiolaeth ryngwladol ar y pwnc hwn. Mae’n ddigon hysbys nad yw dysgu iaith leiafrifol fel ail iaith mewn ysgolion ble mae’r iaith fwyafrifol yn teyrnasu yn arwain yn gyffredinol at greu disgyblion sy’n hyderus yn yr iaith leiafrifol. Nid yw astudio ychydig o bynciau yn yr iaith leiafrifol fel rhan o gwricwlwm a ddysgir, gan fwyaf, yn yr iaith fwyafrifol yn arwain at ruglder neu gyrhaeddiad uchel yn yr iaith leiafrifol chwaith. Yn wir (fel y gwelir yng Ngwlad y Basg), nid yw rhoi addysg yn yr iaith leiafrifol hyd yn oed yn gwarantu y bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl hyderus yn yr iaith honno. (Yn sicr, dyna’n profiad ni yng Nghymru, gyda llawer o blant yn gadael addysg cyfrwng Cymraeg a byth yn defnyddio’r iaith ar ôl hynny, nid dim ond oherwydd diffyg cyfleon i’w defnyddio ond am nad ydyn nhw’n gwbl hyderus ynddi.) 

Yn syml, ac mae angen tanlinellu hyn, does yr un iaith leiafrifol yn y byd wedi’i sefydlogi, heb sôn am ei hadfywio, gan gynlluniau tebyg i’r rhai a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Yn achos ieithoedd lleiafrifol ‘llwyddiannus’, megis y Ffrangeg yn Québec, neu’r Gatalaneg a’r Fasgeg yn Sbaen, mae eu hiechyd ieithyddol cymharol dda (o’u cymharu â’r Gymraeg) yn deillio o’r ffaith mai’r iaith leiafrifol yw unig neu brif gyfrwng addysg mwyafrif llethol yr ysgolion yno. Heb sicrhau hynny fel sylfaen anhepgor, afraid dweud mai cyfyngedig ac ymylol fydd effaith unrhyw gynlluniau ehangach i adfer yr iaith. 

Hyd yn oed gyda systemau addysg sy’n rhoi blaenoriaeth i’r iaith leiafrifol mae problemau sylweddol yn dal i allu bygwth yr iaith. Yn achos y Fasgeg a’r Gatalaneg yn Sbaen (neu fersiynau o’r Gatalaneg o dan enwau gwahanol megis Mallorquí, Menorquí, Eivissenc a Valencià) er gwaethaf y lle blaenllaw a roddir iddynt yn y system addysg, mae ystadegau diweddar yn dangos nad yw hynny’n ddigon ynddo’i hun i sicrhau defnydd cymdeithasol o’r ieithoedd hyn. Er gwaethaf cryfder digamsyniol yr ieithoedd fel cyfrwng addysgu mae arolygon defnydd iaith yn dangos yn glir fod pobl ifainc yn troi fwyfwy at ddefnyddio’r Sbaeneg fel cyfrwng cymdeithasol a hynny oherwydd grym a statws yr iaith Sbaeneg yn y byd modern amlgyfryngol. 

Mae’n ymddangos nad yw perthynas ieithyddol yr ieithoedd lleiafrol hyn â’r Sbaeneg yn chwarae rhan yn y newid yn eu defnydd cymdeithasol ymysg y to ifanc. Mae’r iaith Fasgeg yn gwbl wahanol i’r Sbaeneg a does dim gorgyffwrdd digonol rhyngddynt yn ramadegol nac yn eirfaol i alluogi siaradwr Sbaeneg uniaith i fedru gwneud na rhych na rhawn o ddatganiadau yn y Fasgeg. Yn hynny o beth mae’r sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn debyg i’n sefyllfa ni yng Nghymru. Oherwydd agosrwydd ieithyddol y Gatalaneg a’r Sbaeneg, fodd bynnag, mae’n haws i siaradwyr Sbaeneg ddod yn ddefnyddwyr goddefol o’r Gatalaneg. Yn wir, byddai’n rhaid i siaradwr Sbaeneg fod yn wrthwynebus iawn i’r iaith i honni nad yw’n medru darllen dim o'r iaith neu ddeall sgyrsiau syml ynddi. Rwyf wedi dilyn sawl sgwrs ar y cyfryngau Catalan a Valencià ble mae’r holwr yn gofyn cwestiynau yn y Gatalaneg (neu Valencià) a’r gwesteion (megis Blanca Paloma, cynrychiolydd Sbaen yn Eurovision 2023, a’r newyddiadurwr John Carlin), er yn deall yr holwr, yn ateb yn Sbaeneg.

Mae ffactor arall yn bwysig iawn yn achos Catalwnia (ac Ynysoedd y Balearig), sef mewnlifiad anferth o bobloedd o dros y byd, yn enwedig o Ganolbarth a De America. Mae’r plant sy’n cyrraedd Catalwnia yn cael eu trochi yn yr iaith (er nad ydyn nhw wedyn yn uniaethu bob tro â hi), ond y gŵyn yn gynyddol yn y cyfryngau Catalan yw nad yw mwyafrif yr oedolion sy’n cyrraedd yno yn dysgu’r iaith er gwaethaf disgwyliadau cyfreithiol yn y sector gyhoeddus. Mae modd iddyn nhw oroesi heb y Gatalaneg ac, i ryw raddau, mae tebygrwydd ieithyddol y Gatalaneg a’r Sbaeneg yn hwyluso hynny.

*

Gellid disgrifio’r systemau addysg statudol a geir yng Ngwlad y Basg a Chatalunya (ac yn y rhan fwyaf o Wynedd, heblaw am ardal Bangor a Thywyn) yn systemau sy’n gweithredu ar y lefel macro. Maen nhw’n effeithio ar bob plentyn yn ddiwahân. Yn hynny o beth, maent yn debyg i gynlluniau iechyd eang iawn eu gweithrediad, megis brechu plant rhag y frech goch a polio. Yn wir, gellid dadlau fod systemau addysg fel y rhain yn brechu fwy neu lai’r holl ddisgyblion mewn ardal benodol yn erbyn unieithrwydd. 

Nid felly’r sefyllfa ar draws Cymru, wrth gwrs, oherwydd yn aml mae argaeledd addysg Gymraeg y tu allan i Wynedd a rhannau o siroedd y gorllewin yn ganlyniad i ymgyrchoedd lleol hirfaith ac yn ddibynnol ar bwysau gan rieni a mudiadau pwyso. Oherwydd nifer fechan yr ysgolion Cymraeg sydd yn bodoli yn y rhan fwyaf o Gymru mae’r addysg cyfrwng Cymraeg a geir yno yn gweithredu ar y lefel meicro ac yn debycach i’r gwasanaethau brys (megis y gwasaneth ambiwlans, y gwasanaeth tân a’r heddlu) sy’n ymateb i alwadau gan unigolion (neu rieni) mewn angen.  

A bod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae’r Bil sydd dan sylw yn crybwyll y bydd y Llywodraeth, a’r Gweinidog Addysg ei hun, yn medru gosod targedau ar awdurdodau addysg lleol i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg. Petai Jeremy Miles yn parhau i fod yn ei hen swydd fel yr Ysgrifennydd Addysg, digon posib y byddai hyn yn fwy nag addewid gwag ac y byddai’r broses yn cael ei gwthio o’r canol. Yn anffodus, mae cryn bryder wedi’i fynegi eisoes ynglŷn ag ymrwymiad llugoer Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg newydd, tuag at y Gymraeg gan mai dim ond un frawddeg a neilltuwyd ganddi yn ddiweddar i sôn am y Gymraeg mewn dogfen bolisi o 1,200 o eiriau. 

Os yw addysg statudol cyfrwng Cymraeg y tu allan i orllewin Cymru yn ymdebygu i’r gwasanethau brys, sy’n gweithredu ar y lefel meicro, mae hynny’n sicr yn wir am faes Cymraeg i Oedolion, y maes y bûm i’n gweithio ynddo ers 40 mlynedd. Mae niferoedd y rheiny sy'n mynychu gwersi dysgu Cymraeg fel oedolion ar bob lefel yn fach iawn fel canran o’r boblogaeth ddi-Gymraeg (tua 0.7% bob blwyddyn o holl oedolion di-Gymraeg Cymru) ac mae y rheiny sy'n croesi’r trothwy i ryw fath o ruglder bob blwyddyn gryn dipyn yn llai (rhwng 0.03% a 0.057% o holl oedolion di-Gymraeg Cymru). Gall y canran amrywio, wrth gwrs, yn ddibynnol ar ba ddiffiniad o ruglder a ddewisir (e.e. dysgwyr sydd wedi cwblhau Sylfaen 2, Canolradd 2, Uwch 1, ac yn y blaen). Dros gyfnod o ddeng mlynedd, felly, mae’n bosib fod maes Cymraeg i Oedolion yn llwyddo i droi rhwng 0.34% a 0.57% o oedolion di-Gymraeg Cymru yn siaradwyr Cymraeg. Mae hynny’n golygu fod y maes yn cynhyrchu un neu ddau bwynt canran o’r oddeutu 18% o’r boblogaeth gyfan sy’n cael eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad bob deng mlynedd. Dylid nodi, fodd bynnag, fod niferoedd y rheiny sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion yn cynnwys llawer o unigolion o'r tu allan i Gymru, yn enwedig ers y cyfnod clo pryd y dechreuwyd cynnig gwersi ar-lein.  

Mae maes Cymraeg i Oedolion (ac yn benodol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol) yn cael sylw ffafriol tua diwedd testun y Bil ac awgrymir y gallai’r ganolfan fod yn gorff arweiniol ym maes methodoleg dysgu iaith ar draws y sector addysg. Yn sicr, mae'r gwasanaeth Cymraeg i Oedolion yn eithriadol o bwysig i'r lleiafrif hwnnw sy'n dewis dysgu Cymraeg ac mae'n gallu newid eu bywydau. Mae'n waith cenhadol positif sy'n dod â siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg at ei gilydd er mwyn nod penodol a does dim dwywaith ei fod yn llwyddo i newid agweddau tuag at y Gymraeg. Ond naïfrwydd fyddai credu ei fod wedi creu newid ieithyddol torfol sylweddol o blaid y Gymraeg. Ar y llaw arall, petai elfen o orfodaeth yn digwydd yn y dyfodol, neu petai'r Gymraeg yn datblygu i fod yn fwy anhepgor ym maes cyflogaeth, gallai'r maes godi i fod yn wasanaeth sy'n gweithredu ar y lefel macro. I sicrhau hynny, byddai angen cefnogaeth gyllidol ar lefel anhraethol uwch nag a geir ar hyn o bryd.     

*

Mae'r Bil Addysg, felly, er ei fod yn gam sylweddol ymlaen i’r Gymraeg, yn annhebygol iawn o sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Prin y bydd mwyafrif llethol disgyblion Cymru yn llwyddo i adael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg. Ond mae un wers arall i’w dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd yn Sbaen, yn benodol yng Nghatalunya, yr Ynysoedd Balearig a’r País Valencià, sef fod gwelliannau i statws a sefyllfa iaith leiafrifol yn gallu cael eu dad-wneud a hynny’n syfrdanol o gyflym. 

Ar ddechrau wythdegau’r ganrif ddiwethaf, yn dilyn marwolaeth yr unben Franco a dychwel democratiaeth, pasiwyd deddfau adfer ieithyddol oedd yn llawer cryfach na dim byd a gafwyd yma yng Nghymru, yn enwedig yng Nghatalunya a’r Ynysoedd Balearig. Rwy’n cofio ymweld â Chatalunya ddiwedd yr wythdegau ac roedd y trigolion fel petaent mewn cyfnod o ewfforia gobeithiol ynghylch yr iaith. Bellach, fodd bynnag, oherwydd clymbleidio asgell dde rhwng y Partido Popular (y blaid asgell dde draddodiadol) a Vox (y blaid neo-ffasgaidd) mae’r iaith Gatalan yn y País Valencià a’r Ynysoedd Balearig o dan warchae difrifol. Mae dileu’r iaith Gatalan, neu fan lleiaf ei gwthio i gornel, yn grwsâd obsesiynol gan Vox ac mae’r Partido Popular wedi bod yn ddigon hapus i gefnogi’r mesurau negyddol sydd wedi eu pasio yn y ddwy gymuned yng nghyswllt addysg cyfrwng Catalan, hawliau ieithyddol a chefnogaeth ariannol i fudiadau sy’n cefnogi’r iaith. Mae siaradwyr Catalan wedi dechrau brwydro yn ôl gyda ralïau mawr yn Palma de Mallorca a València gan ddefnyddio’r un slogan, ‘La llengua no es toca’ (Peidiwch â chyffwrdd – neu chwarae o gwmpas – â’r iaith). Amser a ddengys pa mor llwyddiannus y byddant yn eu hymdrechion.

Yng Nghatalunya ei hun mae’r Generalitat wedi cael ei gorfodi gan y llysoedd barn i ostwng canran y pynciau sy’n cael eu dysgu trwy’r Gatalaneg i 75%. Mae’r Catalaniaid yn gweld hyn fel bygythiad dirfodol i’r iaith. I ni yng Nghymru, wrth gwrs, byddai sicrhau fod pob plentyn yma’n derbyn 75% o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ystyried yn gam aruthrol ymlaen. Mae hynny’n tanlinellu pa mor wan yw’n sefyllfa mewn gwirionedd. 

Beth petai Prydain yn ethol llywodraeth asgell dde eithafol yn y dyfodol (bygythiad real  o ystyried yr hyn sydd ar droed yn Ewrop), a fyddai â’i bryd ar ymosod ar unrhyw elfen o arwahanrwydd diwylliannol neu ieithyddol (cofier am yr arch-Frexitwyr, yr Arglwydd David Frost a Nigel Farage)? A fyddai targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gallu goroesi’r drin? A fyddai datblygiadau positif y degawdau diwethaf o ran y Gymraeg yn gallu cael eu tanseilio? A fyddai’r Senedd yng Nghaerdydd hyd yn oed yn gallu goroesi fel corff sy’n ymdrechu i amddiffyn buddiannau Cymru?

Mae Ioan Talfryn yn brif weithredwr cwmni Popeth Cymraeg ac wedi gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion ers bron i ddeugain mlynedd. Mae ganddo flog o'r enw Tao Sôn.

‘Dim ond plant a phobl ifainc sy’n siarad yr iaith yna’

Pynciau:

#Iaith
#Daniel Kahneman
#Gwlad y Basg
#Catalwnia